mercoledì, maggio 31, 2006

A470 (a slagio off siroedd Cymru)

Na, nid cyfeirio at y rhaglen wael ar S4C yr wyf i. Er y gallwn i wneud. Ond dw i ddim am. Meddwl am yr A470 ei hun ydw i. Bydd yn rhaid imi fynd i Gaerdydd eto'n o fuan a chreu helynt (h.y. styrbio pawb arall rhag adolygu), ond dw i byth wirioneddol yn hoffi gyrru lawr neu fyny'r A470.

Mae 'na lot o resymau am hyn. Y peth cyntaf ydi ei bod hi jyst yn fy ngwylltio i y byddwn i'n cyrraedd Llundain yn yr un amser, a mae Caerdydd yn yr un ffwcin gwlad a fi (sef De Cymru - rhyw fath o drefedigaeth i Ogledd Cymru. Hi hi!). Dylwn i allu teithio yno'n haws o lawer.

Yn ail, Powys. Gas gennai Powys, sef, o bosib, sir waethaf Cymru (er fo Blaenau Gwent yn ail hynod agos, hyd y galla i weithio allan). Wn i, dw i wedi mynegi hyn o'r blaen ond bob tro mae'r daith ar yr A470 yn agosau dw i'n meddwl am Bowys, a sut na fyddwn i byth yn mynd allan ohoni unwaith dw i mewn 'na.
Mae gan bob sir ei nodweddion arbennig, fodd bynnag:

Abertawe: Abertawe
Blaenau Gwent: etholiadau syfrdanol a siopau crap
Bro Morgannwg: yr unig sir yng Nghymru neb nodweddion. O gwbl.
Caerdydd: er gwaetha'r holl bravado a'r balchder, unig wir nodweidd Caerdydd ydi Toy Mic Trevor
Caerfyrddin: yn amlwg yr ysbrydoliaeth am Mordor
Caerffili: bod pawb efo pres yno'n gweithio yng Nghaerdydd
Casnewydd: enw drwg
Castell-nedd Port Talbot: bod ganddi enw anhanfodol o hir
Ceredigion: Dai Jones
Conwy: gyda'r oedran uchaf yng Nghymru ar gyfartaledd, sef cant chwe-deg-saith
Dinbych: Tref Gwaethaf Cymru, Y Rhyl; a'r clwb nos waethaf, Y Venue
Fflint: bod hanner y boblogaeth yn Saeson. As in rhai go iawn.
Gwynedd: mynyddoedd cadarn anwaraidd. Ac anwariaid.
Merthyr Tudful: hen ddiwydiannau beilchion, ond uffernol o hyll
Mynwy: nad yw Cymru na Lloegr eu heisiau. Rhyddid i Fynwy!
Pen-y-bont ar Ogwr: eu bod nhw ddim cweit jyst yn rhan arall o'r Cymoedd. Ond mae nhw.
Penfro: rhywle yn y gorllewin ond 'sneb yn malio dim
Powys: y raddfa uchaf o DPSM yng Nghymru (Diflastod Per Square Mile)
Rhondda Cynon Taf: tair sir mewn un, pob un cyn waethed a'r llall
Torfaen: diweithdra a salwch hir-dymor
Wrecsam: tîm pêl-droed crap Wrecsam
Ynys Môn: bod pawb yng Nghymru'n gwybod, er cyn gymaint o crap ydi'r 21 sir arall, mai hwn di'r gwaethaf oll.






I'll get me coat ...

lunedì, maggio 29, 2006

Nos Sul yn Pesda

Dw i heb gweld Pesda mor orlawn ar nos Sul fel neithiwr ers stalwm. Oddo'n pacd. Eshi allan efo Helen, gan ein bod ni'n dau'n digwydd bod yn Nyffryn Ogwen cyn dychwel i Gaerdydd a Sheffield. Ond roedd hi'n noson od iawn.

Un o nodweddion pennaf Bethesda ydi bod y tafarndai yn dal llawer llai na fedrant oherwydd bod pawb yn dew. Gwelish i'r peth hyllaf erioed neithiwr, rhyw ddynas enfawr efo tatŵ hyll ar ei braich a choesau fel canghennau. Cawsom ni'n dychryn a mynd wedyn i'r Llangollen (pyb drytaf Pesda efo enw braidd yn sili) ac roedd 'na fand yn chwara 'na. Roedden ni'n hollol conffiwsd, wrth gwrs, ynghyd a'r ambell i Sais o Ogwen Bank nad oedden nhw'n dallt pam fod pawb allan ar nos Sul, gwyl y banc neu ddim.

Gyda stryd Pesda yn anhygoel o pacd aethon ni am dro i'r Clwb Rygbi. Dw i'n licio Clwb Rygbi Pesda, a'n rili hoffi lagyr Labatt sy'n cael ei werthu yno. Captain's Night oedd hi, sydd fel arfer yn gorlifo, ond roedd y lle'n wag iawn. Er hyn, roedden nhw'n gwerthu salads pasta. Ar fy myw, nid oes golwg rhyfeddach ar ddaer neu'r Nef na cymysgedd gwahanol o bobl yng Nghlwb Rygbi Bethesda am hanner nos ar nos Sul yn bwyta pasta salad ac yn yfed bityr. Bydd hynny'n aros gyda fi tan y bedd.

sabato, maggio 27, 2006

Canolfannau Garddio

Ces i fawr o amser da ddoe, wedi cael y bastads yn 28 Russell Street yn gyrru mewn caneuon Hobbit amdanai i Dylan a Meinir, ond dyna ni. Dw i'n teimlo'n well wedi'r sarhad yn awr.

Ia wir, canolfannau garddio. Teulu mynd i'r rheiny oedden ni erioed. Dachi'n gwybod, ar Ddydd Sadwrn fin haf, pawb yn gwisgo fyny'n smart a mynd i Holland Arms neu Canolfan Garddio Treborth a chael bwyd yno, a wedyn mynd o amgylch y lle (bob wsos rwan, cofiwch) a pheidio a phrynu dim. Oeddwn i'n casau mynd i Holland Arms. Hoffais y bwyd, sef bob amser baget corgimwch neu toastie bacwn, ond oeddwn i'n casau mynd o amgylch y ganolfan ei hun yn edrych ar geraniums a hadau ffa. Oeddwn i yn mwynhau gweld y pysgod pwll, fodd bynnag, a'r Venus Fly Traps. Dw i'n cofio Nain yn dweud ei bod wedi gweld un o'r blaen a rhoi ei bys hi ynddo, dim ond er mwyn gweld beth oedd o'n neud.

Y peth rhyfeddaf am ganolfannau garddio ydi bod yno bob amser cyn gymaint o bethau yno sy ddim byd i wneud gyda garddio. O gwbl. Oeddwn i'n Treborth heddiw efo Nain a Mam (ac yn ffodus iawn oedd gennai gar felly wedi cael cig oen gwych mi yrrais o 'na fel Michael Schumacher ar speed (Ha ha. Ar speed. Eironig.) a sylweddoli bod yno o hyd sectiwn lyfrau yno. A dydi'r llyfrau ddim byd i wneud gyda garddio: heddiw yn Nhreborth roedd 'na lyfrau ar palmistry, deinosoriaid, astroleg a'r blydi llyfrau croeseiriau 'na. Ac ambell i lyfr am rhodedenrons ond dyna ni. Dw i ddim yn dallt y pwynt o gwbl. Mae o fel gwerthu CD's Dafydd Iwan yn Body Shop, neu pizzas efo blas o Dominos. Od o fyd, tydi?

giovedì, maggio 25, 2006

Degawd

Mae blwyddyn yma'n ddegawd im, degawd ers imi ddechrau ysgrifennu dyddiadur. Oni'n meddwl y byddai'n ddiddorol rhannu deng mlynedd diwethaf fy mywyd gyda chi! Be wnes i ar Fai 25ain bob diwrnod ers ddegawd?

  • 1996: Eshi i car-boot sale yn rhywle
  • 1997: Y tro cyntaf erioed imi fod mewn awyren. Eshi ar un o'r pleasure flights 'na o Ddinas Dinlle o amgylch Yr Wyddfa. Cofio'n iawn!
  • 1998: Ges i lasania i de ym Menllech
  • 1999: Mynd i ffarm Sion a chwarae gemau golff ar y cyfrifiadur. A mi ges i wers biano.
  • 2000: Oni ar brofiad gwaith yn Swyddfa Plaid Cymru Caernarfon, a chael cinio gyda Yncl Owie ac Anti Betty. Gwelais i 'Gladiator' yn nos efo Rita a dwy o'i ffrindiau nad oedden nhw'n deall y ffilm o gwbl a dyma nhw'n chwerthin drwyddi.
  • 2001: Neud pethau drwg yn ystod adeg yr etholiad. Gwell imi beidio dweud!
  • 2002: Cael diwrnod diflas yn lle Nain.
  • 2003: Oni'n siarad efo'm ffrind o Reading ar headphones dros y we, a roedd fy nghlustiau'n lladd.
  • 2004: Cefais arholiad
  • 2005: Ennillodd Lerpwl Cynghrair y Pencampwyr a doeddwn i'm yn meddwl y byddwn i'n 'pasio arholiad fory'. Anghywir oeddwn.

Aaaah! Dw i mor falch dw i'n cadw dyddiadur i weld gwir ddibwyntrwydd fy mywyd yn ei gyflawnder. A, gyda llaw, mae Dyfed yn siarad efo fi ar MSN a'n dweud bod o isho mensh ar y blog. Lwsar trahaus.

mercoledì, maggio 24, 2006

Panad a phentrefi diflas Cymru

Bob tro dw i adra dw i'n yfed tua maint Tryweryn o baneidiau. Efallai dyna'r rheswm pam nad ydw i'n cysgu llawer, a finna'n hen lwmp o gaffîn ddi-egni. Oes gwell na phanad? Oes rhywbeth mwy henffashwn o Gymreigaidd na hi, tybed? Y peth gora am banad ydi ei chael hi mewn mwg neu rhyw hen gwpan sy gen ti ers blynyddoedd. Dileit yw panad. Mi a'i charaf.

Un peth dw i ddim yn caru ydi Bethel. Mi basiais i drwy Bethel ar fy ffordd o Dre ddoe. Er fod Anti Betty ac Yncl Owie yn byw 'na does gan Bethel ddim cymeriad o gwbl. Hi, yn wir, yw pentref mwyaf ddifflach a diflas Cymru, a mae i Gymru ei siâr ohonynt, ond i gyd gydag o leiaf un nodwedd diddorol:

  • Libanus - enw diddorol
  • Llanfairfechan - wrth lan y môr
  • Pentrefoelas - y lle siocled 'na
  • Llanilar - Dai Jones
  • Llanbrynmair - y ddraig gwydr
  • Capel Curig - does neb yn siwr lle mae'r union bentref
  • Pob pentref ar Ynys Môn - pawb yn falch eu bod nhw, pawb sy'n byw ynddynt a'u naws cyffredinol o ddiflas ar Ynys Môn ac nid y tir mawr
  • Mynydd Llandygai - mi fedri di weld Rachub ohono

Crybwylliad byr mi wn, gwyddwn i fod 'na lawer mwy ohonynt ond unig nodwedd Bethel ydi dy fod ti'n gorfod arafu yno ar dy ffordd i Gaernarfon neu fel arall, a mae o'r math o le dwyt ti ddim isho gwario llawer o amser yno. Ond gwell imi beidio slagio'r lle off yn ormodol rhag ofn i Anti Betty ddarllen a rhoi stid imi.

martedì, maggio 23, 2006

Wastio 'Mywyd

Dw i wedi bod yn gwneud dim byd ers bod adra. Anadlu a bwyta, efallai, ond fawr o ddim. Dw i wedi bod yn gwylio Big Brother, wrth gwrs, a mwynhau gweld y boi Pakistani'n pisio pawb off, y dynes ddu yn drewi a'r Cymry Cymraeg, Imogen a Glyn, yn, wel, gwneud ddiawl o'm byd i fod yn hollol onast. Mae'r ddau ohonyn nhw yn hynod, anfaddeuol o boring ar y funud.

Dwisho mynd i Fangor heddiw i brynu Cysgliad i'r llapllop a'r cyfrifiadur yma imi gael sillafu'n gywir a ballu. Mi ragwelaf (a mi ydw i'n rhagweld pethau, a dw i bob amser yn gywir) bydd medru sillafu yn gywir o fantais pan yn athro aeddfed.

Deffroais am hanner awr wedi saith bora 'ma. Od ydyw hyn o'r herwydd pan dw i adra dw i'm yn deffro tan o leiaf 10 rhan fwyaf o'r amser. Dod adra ydi 'ngwyliau i bellach, a pham mae rhywun yn mynd i Rachub am wyliau mae nhw unai gyda hiraeth, heb bres neu'n paratoi ar gyfer hunanladdiad.

W, newydd gofio bod 'na CD allan gan Celt heddiw, so bydd yn RHAID imi brynu hwnnw. 'Sgen i'm car ar y funud ond dw i'n cael menthyg un Nain tra ei bod hi'n dawnsio llinell yn nghanolfan Cefnfaes, felly mi wna i bob dim yn ogystal a sortio allan joban am yr haf i'm hun. 'Misho gweithio. Tydi tyfu fyny yn beth annifyr? (er nad ydw i erioed wedi tyfu fyny pasio 5"7, ac annhebyg y gwna i rwan. Plantos, peidiwch boddra byta'ch llysiau i dyfu fyny'n iach, ges i llwyth ohonyn nhw a rwan mae pawb yn fy ngalw i'n Hobbit Tew. Bastads.)

domenica, maggio 21, 2006

Dydd Sul Glawiog yn Rachub

Dyma fi'n ôl yn yr hen fro unwaith eto! A mai'n bwrw glaw. Dydi hynny ddim yn beth da. Roedd hi'n bwrw glaw yr holl ffordd fyny yn y car. Cefais yr anffawd o yrru fyny efo Dyfed, sy'n digon i wneud rhywun eisiau crio (ond dim digon i wneud Dyfed grio - mae o 'mond yn crio ar y coroni yn ffilm Narnia).

Does gen i ddim cynllun bendant ar gyfer heddiw, heblaw bod Nain (bendith arni) wedi dweud ei bod hi'n gwneud cinio i bawb. Fydd hynny'n dda, dw i angen egni achos doeddwn i methu cysgu neithiwr. Dad 'di meddwi yn gwneud swn yn dod i mewn a wedyn rhyw hogia am hannar 'di dau'n bora yn gweiddi rwbath am 'my fucking shin'. Annymunol iawn.

Mae Dad yn y ffenast rwan yn dweud imi fynd i lle Nain am fwyd, sy'n biti achos mae genni lot mwy i'w ddweud i chi. Duw, 'motsh. Hwyl am y tro, gyfeillion!

venerdì, maggio 19, 2006

Gwinllan a roddwyd

Shwmai gyfeillion! Methu aros i siarad lot efo chi heddiw. Dwidi deffro'n hwyr ac angen mynd i lle'r genod (eu cartref, nid toiled) i futa baget ac hefyd i'w cythryddu nad ydw i wedi bod yn adolygu unwaith yn rhagor.

Saunders Lewis sydd heddiw. Boi bach hyll, fainlais, cenedlaetholwr i'r carn oedd yn hoff o losgi ysgolion fomio. Gwinllan a roddwyd i'm gofal yw Cymru fy ngwlad; melltith o waelod fy enaid i ti, Llywelyn; trwy ddulliau chwyldro yn unig y mae llwyddo. Dyna'r oll dw i'n wybod. Ond mi fedra i adrodd Gwinllan a Roddwyd o gof...

Gwinllan a roddwyd i'm gofal yw Cymru fy ngwlad
I'w thraddodi i'm plant
Ac i blant fy mhlant
Yn dreftadaeth tragwyddol;
Ac wele'r moch yn rhuthro arni i'w baeddu.
Minnau yn awr,
Galwaf ar fy nghyfeillion,
Cyffredin ac ysgolhaig,
Deuwch atyf i'r adwy,
Safwch gyda mi yn y bwlch;
Fel y cedwir i'r oesoedd a ddel y glendid a fu.

Gwych! O leia os dw i'n methu heddiw bydda i'n gwybod fy mod i wedi gwneud ychydig o waith drwy flogio!

mercoledì, maggio 17, 2006

Hannar ffordd...

Dwy wedi'i wneud, dwy i fynd! Arholiad echrydus heddiw sy'n gwneud imi feddwl efallai y dylwn i wedi adolygu mwy (yn benodol am yr hen benillion a Daniel Owen) ond Duw 'mots, byw ac iach ydwyf innau heddiw. Mi gymrais i fy ffisigs i gyd fel hogyn bach da (o Rachub) ac am y tro cyntaf ers hydoedd, neithiwr mi ges i noson dda o gwsg a nis deffroais mewn poen o gwbl. Wondyrffwl, y doctor 'ma, wyddoch chi. Dallt bob dim yn iawn.

Eniwe, dw i newydd gerdded i'r Rhath o Dalybont yn y glaw mawr, yn anffodus sylweddoli bod y parker neis 'na y prynais i rhyw ddeufis yn ôl ddim yn wotyrprwff, a wedi socian fy waled a'n ffôn, ynghyd â ddau feiro, tabledi a goriad drws ffrynt. Ond 'sdim am ostwng fy hwyliau, dwi'n iach unwaith yn rhagor! Warwww!

Hannar ffordd...

Dwy wedi'i wneud, dwy i fynd! Arholiad echrydus heddiw sy'n gwneud imi feddwl efallai y dylwn i wedi adolygu mwy (yn benodol am yr hen benillion a Daniel Owen) ond Duw 'mots, byw ac iach ydwyf innau heddiw. Mi gymrais i fy ffisigs i gyd fel hogyn bach da (o Rachub) ac am y tro cyntaf ers hydoedd, neithiwr mi ges i noson dda o gwsg a nis deffroais mewn poen o gwbl. Wondyrffwl, y doctor 'ma, wyddoch chi. Dallt bob dim yn iawn.

Eniwe, dw i newydd gerdded i'r Rhath o Dalybont yn y glaw mawr, yn anffodus sylweddoli bod y parker neis 'na y prynais i rhyw ddeufis yn ôl ddim yn wotyrprwff, a wedi socian fy waled a'n ffôn, ynghyd â ddau feiro, tabledi a goriad drws ffrynt. Ond 'sdim am ostwng fy hwyliau, dwi'n iach unwaith yn rhagor! Warwww!

martedì, maggio 16, 2006

Arthrotec 50

Wedi cael digon o boen mi es i i'r doctors bora 'ma. Bues i'n disgwyl am ddwyawr cyn iddo fy ngweld i, yn gorfod dioddef y wirdos eraill oedd yn y man aros. Y gwaethaf oedd y babi bach Siapaneaidd 'ma oedd yn crio a chrio a minnau bron a marw isho'i dagu go iawn. Oedd o'n swnio fel un o'r teganau yna mae cwn yn chwarae efo sy'n gwichian. Afiach. Mae crio babanod yn mynd drwyddaf i fel gwynt main. Diolch i Dduw aeth y bastad bach i mewn yn o fuan.

Iawn Doctor be ga'i i'r hen arennau, meddaf i. Cefn chdi sy'n brifo, medda fo, dos i cemist a chael jel i dy gefn ac Arthrotec 50. Dydi doctoriaid yn gwybod dim byd, achos fy arennau i sy'n brifo a nid fy nghefn, ond wedi dwyawr o ddisgwyl doeddwn i'm am ddadlau.

Dydi'r cyffur Arthrotec 50 (Athrotec fysa'n addasach. Ha ha.) ddim yn argoeli'n dda chwaith. Mae'n rhestru rhai o'r side-effects posib fel:
  • Diahorrea
  • Poen yn bol
  • Angen byrpio
  • Colli pwysau
  • Teimlo'n chwil
  • Problemau gyda'r iau a'r arennau (sydd ddim yn dda o gwbl, nadi?)
  • Chwyddo'r tafod
  • Digalondid
  • Colled gwallt

Felly fydd dim ots os y bydda i'n foel, dipresd ac yn byrpio fel broga ar hyd a lled City Road achos fydd fy nghefn i'n teimlo'n well. Er dydi 'nghefn i ddim yn brifo. Fy arennau i sydd yn brifo. Fyddwn i well doctor, wir.

lunedì, maggio 15, 2006

Sut aeth hi ta, Hogyn o Rachub?

Dyna'r cwestiwn bydd pawb sydd efo diddordeb ynof yn gofyn, sy'n golygu chi os dachi'n penderfynu darllen y blogiad nesaf. Diolch am gymryd diddordeb yn fy mywyd pitw.

Iown ia. Ces i ddechrau hynod, hynod annifyr i'r diwrnod. Mi ddeffroais am 5.30 mewn poen unwaith eto efo'n cidnis i, a fu'n rhaid imi fynd lawr grisha i gael paracetamol. Gweithiodd hwnnw ddim felly oeddwn i'n cysgu on-ac-off tan hanner wedi deg, a wastad yn deffro efo'r poen 'ma. Dw i'n dechrau poeni rwan, i fod yn onast, achos mae hyn 'di bod yn digwydd ers bron i dair wythnos a bron bob bora. Af i ddim i'r doctor oherwydd arholiadau, a dw i methu ffeindio dim ar y rhyngrwyd. Ond dyna oni, eniwe, am bump awr fel hyn, cael mwy o baracetamols, a mae nhw 'di bod yn brifo drwy'r dydd, hefyd, ac y tro cyntaf. Felly doedd hynny'm yn ddechrau da, mae'n siwr.

Yn yr arholiad ei hun nes i'n tric arferol o peidio a aros tan y diwedd. Atebais i gwestiwn ar ieithoedd Celteg-P a Chymraeg Electronig. Son am falu cachu. A wedyn mi ges i sosij rol o Spar, oedd yn neis iawn am sosij rol o Spar. Dw i'm yn mynd i Spar yn aml am sosij rol.

'Sgen i'm bwyd yn y lle 'ma o hyd felly bydd rhaid imi ffeindio rwbath ar City Road nes ymlaen heno. Ai'm i Troys achos mi esi fanno neithiwr a gofynnodd rhyw foi Tyrcish i mi a Kinch os oedden ni'n rhannu cartref, cyn mynd ymlaen i ofyn os oedden ni'n rhannu gwely. Oeddwn i'n meddwl bod hynny'n beth powld iawn i'w ofyn, a na meddaf i (gan droi i ffwrdd a gwrthod cael te Twrcaidd). Misho sglod a sgod na pizza. Peryg y ffeindia i rwbath yng nghefn y rhewgell a'i droi i mewn i bryd o fwyd, achos 'sgen i'm pres ar y funud 'chwaith. Dim bwyd, dim pres, dim iechyd a dim clem. Nid hoff mohonof o'r cyfuniad.

domenica, maggio 14, 2006

Arholiadau'n Dyfod

Mae'n arholiad gyntaf i yfory, a mae gen i dair wythnos nesaf i gyd, cyn imi fynd adra i Rachub am bythefnos cyn yr un olaf. Dw i byth, erioed, wedi mynd mewn i gyfres o arholiadau a bod mor hynod ddi-glem amdanynt. Mae 'na ddwy does gen i wirioneddol ddim syniad am, a mae'r un 'fory yn hit and miss. Dw i dal heb dechrau adolygu, a'r peth gwaethaf ydi dydw i'm yn poeni dim os dw i'n methu ai peidio. Dw i'n meddwl bod hynny achos dw i'm wirioneddol isho hyfforddi fel athro flwyddyn nesa a bydda'n well gennai ailwneud y drydedd flwyddyn, er na chawn ar fy myw cael ei wneud yng Nghaerdydd.

Felly dyna'r cynllun am yr wythnos: cael rhyw math o syniad am beth sy'n digwydd. 'Mond ddoe es i a ffeindio allan pryd yn union oedd yr arholiadau'n cymryd lle! Casau trefnu a ffeindio allan petha. Ond dw i wedi blagio drwy gydol fy oes, a thebyg bod o leia thair wythnos ohoni ynof i oroesi rhagor.

Dio'm help fy mod i o hyd yn deffro mewn poen ar waelod fy nghefn. Dw i wedi trio popeth, fel newid pa ffordd dw i'n cysgu a rhoi clustog dan fy nghefn ond 'sdim yn gweithio. Wrth gwrs fe fydd yn amharu'n enbyd ar fy arholiadau, felly o leia gennai esgus i Mam pan fydda i'n methu.

venerdì, maggio 12, 2006

FI ar South Park



Diolch i Wierdo am fy nhagio. Oeddwn isho gwneud hyn! Ond na i'm tagio neb y tro hwn.





Dw i mor ciwt. A dweud y gwir dw i'n eitha bôrd heddiw so neshi pawb yn tŷ a'r genod...

[Fi, Rhys, Dyfed, Mike, Kinch ac Owain]

[Lowri Dwd, Llinos, Ceren, Haydn, Gwenan, Lowri Llew, Ellen]

A hefyd mi dagia i Mair, Huw a Geeeeeeeeeeeeraint Bryyyyyyyyython!

mercoledì, maggio 10, 2006

Be wna i?

Wn i ddim. Dyma wastad yr amser gwaethaf o'r flwyddyn imi. Does gennai ddim hyd yn oed y pleser o ddarlithoedd cyson i'm cysuro (gol. dim mo'r pleser o gael darlithoedd cyson i'w methu). Yr adeg yno o'r flwyddyn rhwng diwedd y darlithoedd hynny a'r arholiadau.

Mae'r tywydd yn braf, ond does neb isho mynd unman oherwydd fod pawb yn adolygu. Fy ngwendid marwol. Y mwyaf dw i wedi adolygu yn fy mywyd yw dwyawr (roedd hynny i TGAU, ac yn cynnwys fy holl adolygu i bob pwnc), a'r lleiaf ydi ddim o gwbl. Ond os mi fetha i o leiaf bydda i'm yn gorfod gwneud hyfforddi athro flwyddyn nesaf.

Mi fydda i'n onast efo chi (person onast wyf ... y ffycar hyll) yr unig reswm dw i'n gwneud TT ydi oherwydd does gennai'r un opsiwn arall mewn bywyd. Mae meddwl am mynd o flaen dosbarth bedair diwrnod yr wythnos yn gwneud imi gachu'n hun, heb son am fynychu gwersi ar ramadeg bob ddydd Llun. A 'sgwennu rhyw draethawd 10,000 o eiriau. Y traethawd mwyaf wnes i erioed oedd tua 2,000 o eiriau, a malu cachu llwyr oedd hwnnw. Dw i'n ymfalchio yn fy nawn blagio, er wn i ddim pa mor gyfyngedig yw fy nawn. Udish i unwaith fod un o'n modrybau wedi marw er mwyn peidio mynd ar drip ysgol i Gaernarfon.

Iawn, dw i unai rwan am fynd i dre am dro neu dawnsio rownd fy llofft i Queen. Aaaaaaaaaaagh agoni dewis!!

domenica, maggio 07, 2006

Babi

Jyst isho cymryd y cyfla sydyn i ddweud

LLONGYFARCHIADAU!!!

(mawr a hwyr) i Dafydd a Morfudd ar enedigaeth eu mab, Owain Dafydd Wyn am bum munud i bump ar Mai 5ed. Dw i'n gobeithio ac yn gwybod y bydda chi'n deulu mawr hapus (ac od). Llongyfs!

sabato, maggio 06, 2006

Lluniau o waliau

Dw i'm allan heno. Dw i'n mynd o amgylch y rhyngrwyd yn chwilio am bethau gwirion. Isho dweud wrthoch chi am gwefan bach doniol o'r enw www.picturesofwalls.com sy'n jyst yn luniau o graffiti o'r byd. Hwn di'n ffefryn i:

a'r gwych:



a'r hyfryd syml...

Mwynhewch!

venerdì, maggio 05, 2006

Yr Olaf Ddarlith

Yr olaf ddarlith. Erioed (heblaw am flwyddyn nesaf, mae'n siwr). Oni'n meddwl y bydda fo'n ddiddorol, cael yr un olaf, cadw'r foment yn y cof am byth. Er hyn, diolch i'r ffaith nad oes gen i fawr o ots am ddim byd, neshi endio fyny'n peidio mynd o gwbl iddo fo a mynd i'r Tavistock yn lle. Dw i'n meddwl, blydi hel, be di'r pwynt de? Darlith olaf myn ffwc i. Uffar ots gen i, i fod yn hollol onast. Mae pobl yn cynhyrfu dros y pethau bychain fel'na yn mynd ar fy nerfau. Caria 'mlaen efo dy fywyd, er mwyn y Nefoedd!

Mae fy mol yn teimlo'n doji diolch i'r Tavistock 'fyd. Damia'r tywydd braf! Mae gennai draethawd i'w wneud heddiw a dw i'n fy llofft yn chwysu (ma'n ferwedig yma) ac yn llwgu. Dw i'm wedi cael bwyd yn y ty stalwm. Hynny yw, dim byd sy'n mynd efo'i gilydd. Mae gennai twmpath o sawsys gwahanol a mins yn y rhewgell, llysiau rhewedig, stoc a llwyth o kiwi ffrwts sy 'di mynd off (onid paella ydi hynny?). Dw i'n cofio Owain Oral yn dweud bod o isho mynd i Tescos heddiw, ond oeddwn i'n feddw iawn ar y pryd.

Er hyn oll fe gefais i fwyd hyfryd yn Weddyrsbwns ar City Road neithiwr. Ham, wy a sglods. Maethlonfwyd dosbarth gweithiol gadarn. Dw i'm yn sicr os mae myfyrwyr yn cyfri fel 'dosbarth gweithiol', ond dw i am wneud o hyn ymlaen. Dydw i'm isho bod yn ddosbarth canol, mae nhw'n bobl od iawn ar y cyfan efo'u garejys a torrwyr gwair drudfawr. Byddwn i'm yn meindio bod yn haen uchaf y gymdeithas achos dw i'n licio cimwch. Ond rhowch lobsgows wedi diwrnod cadal 'n chwaral i fi unrhyw ddydd. Caib a rhaw, hogia, caib a rhaw.

mercoledì, maggio 03, 2006

Arennau

Casau arennau. Oce, clwydda, dw i'n caru bwyta arennau, ond dw i'n casau f'un i. Ers Dydd Sadwrn mae f'un ochr dde wedi bod yn brifo'n aruthrol. Dw i'm wedi yfad ers nos Sadwrn (newydd cael can yn y gegin yn gwylio Simpsons. Sad, de?) so 'sgen y bastad ddim ffwcin esgus. Mi ddeffroais am hanner awr wedi saith bora 'ma o'i herwydd, a dw i'm yn meddwl bod o'n ddoniol.

Mae f'arennau yn meddwl ei fod o'n ddoniol, dw i'n amau dim, mewn rhyw Grand Alliance gyda'm iau a'm mhledren i wneud fy mywyd yn fwy poenus na sy'n rhaid iddo fo fod. Dw i'n gwybod bod fy iau yn fy nghasau (odl ryfedd) achos dw i'n ei orfodi fo fyta iau (dw i'm yn sicr ond mae gennai deimlad erchyll dw i newydd ddweud rhywbeth sy'n dangos cyn lleied ydw i'n dallt am y corff ddynol: ond o leiaf dw i'm yn meddwl fod gennai ddau galon, un go iawn ac un am bacyp. Gwenan.), a mae'r pledren yn mynnu fy mod i'n mynd i biso hanner ffordd drwy unrhyw beint y câf.

Yfory mi ga'i fy olaf ddarlith fel myfyriwr erioed. Ffycin ffantastic medda fi, 'di blino ar Dafydd ap Gwilym a gramadeg. Dim ond bywyd o ddysgu rheiny i'r nesaf genhedlaeth rwan. Champion.

lunedì, maggio 01, 2006

Y Record Gwrthod Mewn i Clwb Ifor

Mae Crôl Canton yn neis achos mae'n newid. Mae'n gyfle inni gyd fynd i ochrau arall y ddinas am newid bach diddorol. Dw i'n dweud 'diddorol' achos mae f'atgof yn wan (oni'n gwybod dylwn i wedi blogio nos Sadwrn, yn ffiaidd forthwyledig). Y problem mwyaf ydi nad ydw i'n adnabod yr ardal yn dda iawn felly sgennai'm syniad lle y bues i drwy'r nos, o ran enwau'r tafarndai. So dwi'm am boddran. Mewn difri ddigwyddodd na fawr o ddim yn Canton ei hun. Dibynna hynny ar be' dachi'n feddwl gyda 'digwydd'. Mi welais i'r cwpl mwyaf hyll yn hanes y byd yn yr Ivor Davies, os mae hynny'n cyfri. Oedd y ddynas yn dalach na'r boi efo gwallt cyrliog llwyd a thrawsnwch, y dyn efo bron dim ar ôl o'i wallt sinsir, a'r llall yn rhyw fath o fersiwn abl o Llinos.

Felly nyni a cherddem o fanno i'r Cayo a'r Mochyn Du. Ceisiais i chwarae'r piano yn feddw a methu (er bod Rhys Ioro yn medru. Dw onastli ddim yn meddwl bod na unrhywbeth na fedar y dyn 'na neud) a stormio i ffwrdd i'r Westgate a gorfod dioddef Al Tal yn poeri ymhob diod a gefais, y mochyn budur. Yn Callaghans esi am dro i darn gwesty y lle efo Owain Ne a fe eisteddem ni lawr yn siarad i Sais am tua ugain munud. Nid hapus mo'r Sais, yn talu mwy o sylw i'w bapur newydd na ni, oedd yn eithaf anghwrtais yn meddwl ein bod ni wedi mynd yno a siarad am bobmathai iddo fo, a fynta'n edrych yn unig ar y diawl. Ffycwit.

Dyna'r oll sy'n ddiddorol am Grôl Canton o'm safbwynt i ond trodd y noson yn anffodus diolch i yr hyfryd, hyfryd Tanjarin Man sy'n fownsar i Clwb a'r ffaith fy mod i'n berson stiwpid. Eshi mewn i Clwb Ifor efo fy ngherdyn a dyna'r boi 'na wrth y til yn dweud 'Mae hwn 'di ecspeirio ers mis Chwefror' neu rhywbeth. A dwinna'n berson onast, a chytunais a dywededd 'Wn i, ond neshi mond defnyddio fo i sgipio'r ciw' cyn cael fy hel allan ar f'union. Sy'n golygu fy mod i rwan wedi cael fy nghwrthod mewn dwywaith, a dw i'm yn abod neb sydd wedi cael ei wrthod i'r twll din o le o gwbl. Felly mi eshi am Troy cibab efo Sian a Rhys Teifi. [mi wneshi 'chydig o ffwl o'n hun yno 'fyd, mi ofynnais i un o'r pobl yna wedi iddyn nhw ddod a rhyw de imi "what's thank you in Arabic?". "I'm Turkish" atebws ef, cyn mynd i ffwrdd yn ddig]

Pobl Stiwpid Y Byd #1: Llinos Williams, Pwll Glas ['be ydi grizzly bear, oes 'na ffasiwn beth go iawn?']
Pobl Stiwpid Y Byd #2: Lowri Dwd, Llanrwst ['na, mae eirth yn fatha mystical creatures. O na, na, meddwl am bleiddiau oeddwn i']