mercoledì, giugno 28, 2006

Sydyn-newyddion

Dw i'n licio rhannu fy mywyd efo chi. Dw i wedi bod yn gwneud ers tair mlynedd namyn pum diwrnod. A mae pethau dal yn boring. Ond dywedwyd i mi heddiw fy mod i yn y wars. Licio'r dywediad. Ond mi es i'r optegydd, ac yn ogystal a chael goes giami dw i'n awr yn gorfod cael sbecdols. Geeky Jês, dyna fyddan nhw'n fy ngalw, gewch chi weld.

O ia, mi darfodd hynny ar draws y newyddion da fy mod i wedi llwyddo cael 2:2 (ond mae Lowri Dwd a Lowri Llew wedi hefyd, sydd efallai'n dangos faint o hawdd ydi'r byd addysg uwchradd ar y funud). Athro dall ddisymud fydda i, gewch chi weld.

martedì, giugno 27, 2006

Fy ngwlad! *rant blin*

Fy ngwlad, fy ngwlad cei fy nghledd
Yn wridog dros d'anrhydedd,
O gallwn, gallwn golli
Y gwaed hwn o'th blegid di.
Wylit, wylit, Lywelyn
Wylit waed pe gwelit hyn!

Gwychder gan Gerallt Lloyd Owen. Bob amser wedi licio GLO. Mae rhai yn dweud bod o i gyd yn 'Gymru hyn, Cymru llall' ond be di'r ots efo hynna? Ond pwy ellith ddweud go iawn nad ydyn nhw wedi darllen un o'i gerddi a chael 'mbach o ias lawr eu cefn, neu dim ond wedi meddwl 'hm, ti'n iawn'? Neu beth am 'Hon' neu 'Preseli' neu 'Cyngor' neu hyd yn oed 'Enaid Owain ab Urien' a pheidio â rhoi ailystyriaeth i'r hyn sy'n cael ei ddweud.

Dw i'n cael fy ngwylltio a'm siomi gan y Cymry o hyd, fel cenedl, ac fel unigolion. 'Dan ni mor wan. Pan bleidleisiodd Montenegro am annibyniaeth, beth oedd tu ôl iddi ond balchder cenedlaethol? Pam fo'r Basgiaid yn ymladd o hyd? Pam fo hyd yn oed yr Alban o'n blaen? Pe fyddai refferendwm annibyniaeth yng Nghymru, dw i'n sicr y byddai mwy o gefnogaeth iddi nag ydym yn credu, ond byddan ni dal ddim yn annibynnol. "Byddan ni'n dlawd", "eith yr NHS i'r diawl", "bydd gynnon ni llais gwannach tu allan i Brydain". Gesiwch be? Mi ydan ni'n dlawd. Mae'n NHS a'n system addysg ni yn y baw. A does gynnon ni ddim llais tu fewn i Brydain, heb son am du allan iddi.

A dyna sy'n fy ngwylltio am y Cymry. Dw i'n abod digon o Gymry felly; cenedlaetholwyr pan fo'r rygbi ar, neu efallai wrth ganu ambell i 'Yma o Hyd' feddw yng Nghlwb Ifor. Ond na, annibyniaeth, Deddf Iaith, fe gaiff y rheiny fynd i'r diawl ganddyn nhw. A dachi'n gwybod pam? Achos dydyn nhw ddim yn gwybod dim am hanes Cymru. Fe brynodd Mam lyfr imi am hanes Cymru ddoe, imi gael darllen. Ond er ei bod flynyddoedd yn ôl, bellach, dysgu rhywfaint am hanes Cymru, a'm trodd i tuag at genedlaetholdeb. A dw i yn sicr, heb unrhyw amheuaeth, pe fyddai pobl Cymru yn gwybod am eu hanes, fe fydden nhw'n genedlaetholwyr hefyd.

Be wyddant am y Deddfau Uno neu'r Llyfrau Gleision? Beth am Dryweryn, hanes ein tywysogion Saesneg neu'r nifer weithiau y mae Cymry wedi marw yn rhyfeloedd Lloegr? Beth am y rhai aeth i'r carchar er mwyn iddyn nhw dderbyn addysg Gymraeg neu gael yr hawl i achos llys yn Gymraeg? Ydyn nhw'n cofio na gafodd y Cymry byw mewn trefi yn eu gwlad eu hun, na chael swydd oni bai eu bod nhw'n siarad iaith gwlad arall? Beth am Streic Fawr y Penrhyn neu Streic y Glowyr? Ydyn nhw hyd yn oed yn cofio unrhyw beth am Lywelyn neu Glyndŵr?

Ydyn nhw mor drahaus fel eu bod nhw'n fodlon anghofio bod miloedd ar filoedd o Gymry, eu cyndeidiau nhw, wedi marw er mwyn EIN rhyddid, EIN hawl i siarad Cymraeg, EIN hawl i gynnal ein gwerthoedd ein hun? Na, dydyn nhw ddim. Ac mae hynny'n warth, yn fy marn i.

A dw i'n llai o Gymro na'r un ohonyn nhw. Hanner-Sais dw i. Ond mae nifer o genedlaetholwyr ddim wedi bod yn Gymry pur, fel petai: cafodd Dafydd Wigley a Saunders Lewis eu geni yn Lloegr, ni siaradodd Gwynfor Evans Gymraeg tan ei fod yn ddeunaw. Ac eto sbïwch ar y Cymry Cymraeg pur yn ein mysg, heddiw a ddoe: Elwyn Jones, Dafydd Elis-Thomas, David Lloyd George, Rhodri Morgan - bradwyr, a Chymry pur. Mae'n dweud llawer mai Cymry pur yw'r mwyaf euog o boeni lleiaf am eu gwlad.

Wn i ddim. Roedd jyst cael llyfr hanes Cymru o'm mlaen i; hanes dwy fil o flynyddoedd o ormes, o golli tir, ac o frwydro yn erbyn y Saeson, mewn difri; roedd o'n ddigon i fy nghorddi i am ba mor ddi-ots ydi cymaint o bobl, nifer ohonynt dw i'n ffrindiau efo nhw, sydd efo dim ots am Gymru. A fe’m synnwyd faint o flin a dig oeddwn i’n teimlo. Ac oeddwn i angen cael hynna oll off fy mrest.

Mewn newyddion eraill, mi gysgais i efo fflamingo, mynd i hang-gleidio dros Dudweiliog a chael iau newydd

lunedì, giugno 26, 2006

Anabledd Swyddogol

Rhaid imi aros oddi-ar-lein rhwng un a phump heddiw. Mae'r pobl disabiliti yn ffonio. Mae'n rhaid imi gyfaddef nad oedd i byth yn meddwl y byddai hyn yn digwydd imi, ond bydda i'n cael beneffits dros yr ha'. Wedi'r cyfan, mae gennai filiau rhent i'w dalu am Caerdydd, a fedra i ddim gweithio. Sy'n golygu, wel, dw i'n swyddogol yn anabl. Dyna od.

Mae pethau'n mynd o ddrwg i waeth hefyd, achos ma'n rhaid imi fynd i'r optegydd Ddydd Mercher. Mae rhan fwyaf o hogia'r tŷ heddiw off i Alton Towers, 'fyd. Gytud. Dw i bob amser wedi bod isho mynd yna fy hun. Yn Ysgol Dyffryn Ogwen oeddan nhw'n trefnu tripiau diwedd pob blwyddyn er mwyn mynd, ond bob blwyddyn erioed rhois i'r arian i mewn yn hwyr, ac rwan dw i'n styc yn Rachub yn rêl Wil Goes Bren. Hitia befo, ys dywed y tyddynwr.

Reit, dw i wedi cwyno a dw i'n teimlo'n well o lawer. Diolch i Dduw am gwyno, ne fyddwn i ar goll.

sabato, giugno 24, 2006

Taflud bwyd am ben to a ballu

Mae'n od gweld o ba ran o'ch teulu yr ydych chi'n hawlio rhai nodweddion penodol. Dw i'n gwybod fel ffaith bo fy hiwmor i (er gwell neu gwaeth) yn debyg iawn i un fy modryb, Rita, yn hytrach na neb arall yn y teulu. Fysa Dad yn licio meddwl ei fod yn eitha' ffraeth ac ati, ond fel y gwyddem, dydi'r geiriau 'tad' a 'ffraethineb' ddim o'r un hedyn. Ond mae Rita'n ddynes od. Dw i'n cofio y deuthum ni adra o rywle o'r blaen a mynd rownd cefn y tŷ a synnu bod rhywun wedi peintio'n berfa ni'n wyrdd tra ein bod ni allan. Ia, Rita.

Mi es draw am banad ddoe. Mae ardd Rita yn edrych ar draws Tyddyn Canol oll. Mae 'na tua naw o dai yn Nhyddyn Canol, ac o'r naw mae'r un pobl wedi byw ymhob tŷ namyn tri ers fy ngeni i. Mae fy Nain Eidalaidd mewn un, Rita a'i theulu mewn un arall, ac wedyn mae tŷ ni ar yr ochr (dydan ni'm yn Tyddyn Canol yn swyddogol, ddo). Felly dyma ni'n yr ardd, fi, Rita, Norman a Nana. Roedd Nana'n cwyno bod y gwylanod fel bleiddiau a'i bod hi ddim isho mynd i Southport heddiw achos doedd hi'm isho codi'n rhy fuan, a'i bod isho gwyblio Coronation Street am saith.

Fodd bynnag, rwbath mae Rita'n licio'i wneud ydi bwydo'r adar (sef gwylanod ac ambell i jac do yn Rachub). Roedd hi'n egluro ei bod hi'n taflu bwyd weithiau am ben to ein cartref ni (sydd o fewn pellter lluchio yn hawdd) a gweld yr adar yn heidio ar y to, a chael Dad i feddwl be ddiawl sy'n digwydd efo'r trempian uwch y nen. Un dwl 'di Dad, felly mae o'n drysu'n hawdd. A dyna fuon ni ddoe yn ei hardd hi, yn rhoi gwledd go iawn i'r gwylanod, yn cynnwys lemon sbwnj, tomatos, cacenni Cappuchino, bara, bisgedi a Scotch Eggs oedd wedi mynd off ers tua wythnos.

Roedd y Scotch Eggs yn boblogaidd iawn ymysg yr adar, mân a mawr, ond gan eu bod nhw wedi mynd off synnwn i ddim petawn ni'n gweld llwyth o wylanod celain ar hyd a lled Tyddyn Canol am sbel. Ydi adar yn fod i futa wyau, dwad? Cawn weld ymhen dim! Www, ecseiting!

giovedì, giugno 22, 2006

Dal i gredu...

Wel, mae 'na un peth da wedi dod allan o'r ffaith bod fy mhen glin wedi penderfynu malu a hynny yw dydw i ddim am weithio dros yr haf. Eto. Er mor ddiflas ydi bod yma drwy'r dydd yn gwneud dim, nis medraf wneud dim i guddio fy nileit. Hihi!

Mi es felly i 'Sbyty Gwynedd ddoe. Roedd y doctor yn edrych fel Christopher Lee ac yn ymddwyn fel Hugh Grant, sy'n gyfuniad od ond yn eitha da hefyd. Wedi cael scan peledr-x unwaith eto dywedodd nad oedd yn poeni'n ormodol am fy mhen glin, ond bod sgen MRI yn bendant yn angenrheidiol. Mae 'na rwbath yn bod 'na, udodd o.

Felly dw i'n cael cerdded o gwmpas heb y splinter, dachi'n gweld. Y broblem ydi bob tro dwi'n gwneud hynna ma'n troi mewn i jeli ac yn gwneud imi gerdded yn od, fel Meic Stevens ar sesh. Ac mae hynny'n boenus, eniwe. Felly peth gorau imi wneud ydi ista flaen y teledu yn gobeithio bod Yr Eidal am guro Cwpan y Byd a bo tim Lloegr i gyd am, wel, torri eu pennau gliniau.

A rwan mae O2 newydd fy ffonio yn gofyn os dwisho 200 tecst am ddim y mis, a minnau wedi gorfod eu troi i lawr, gan ddweud gyda chryn cywilydd tua hynna faint dw i'n gyrru bob blwyddyn eniwe. Damiai.

martedì, giugno 20, 2006

Bleeeeeeeeeeeeeeeeeeeeeeeeeeeeeeh

Ffaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaacin hel! Peidiwch byth a dymuno dim byd, achos mi gewch chi o a newch chi'm licio fi. Fi, myfi a gredais y byddai gwneud dim byd a gwylio teledu drwy'r dydd cyn mynd i gysgu eto yn wych. Asu oni'n rong. Mae diflastod cael pen glin sy 'di smashio'n racs yn annioddefol ar y funud.

Dw i'm yn meddwl bod o weid'i smashio, chwaith. Mi fedrai gerdded yn eitha da rwan, dim ond gwan ydi'r pen glin, ond dw i'n mynd i'r clinic 'fory i wneud yn siwr. Ond mae'n anhygoel faint o ddiflas ydi bywyd ar y funud; yn wir, mae hunanladdiad yn edrych yn opsiwn da, yn enwedig pan dachi'n cael breuddwydion od sy'n cyfuno Saruman a chynghaneddu. Dwi bron a thorri'r pen glin arall er mwyn cael mynd i Ysbyty Gwynedd a chael rhywun i siarad efo drwy'r dydd, hyd yn oed os mai hen ddyn efo iau giami ydio, neu ast flewog o nyrs.

Tydi bod ar y cyfrifiadur fawr o hwyl wedi dyddiau maith. Mae'r rhyngrwyd yn le diflas os dachi ar modem 40kb/s. A rwan dw i'n siarad i Lowri Dwd ar MSN ac yn clywed bod hi isho pw. Ffycin hel, pasiwch y cyanide.

domenica, giugno 18, 2006

Blas ar Pesda Roc

Do, mi geshi flas o Pesda Roc. O'r ardd gefn. Mi eshi allan wedi gem Yr Eidal a'r UDA (yn flin iawn efo'r Eidal, fy ngwlad Cwpan y Byd) a gwrando. Wel, ar un gân, sef 'Rywbeth Bach Yn Poeni' gan Geraint Jarman nath ddim wneud imi deimlo'n well. Felly i mewn â fi i'r tŷ, yn oer ac yn flin, yn melltithio addasrwydd y gân. A gwylio Big Brother.

Dw i wedi bod yn ei wylio'n selog, a'r unig beth sy'n fy nghadw i fynd ydi sut hoffwn i rhoi cic yn pen Nikki. Ffacin ast. Sut ddiawl y mae pobl yn gweiddi amdani a'i bod yn boblogaidd dw i'm yn gwybod. Mae hi'n crynhoi y math o berson dw i'n eu casau: anniolchgar, dwywynebog, babiaidd ac yn sboilt. Ac yn crio o hyd, ddim yn licio pobl sy'n crio. Ond wir, taswn i'n cael hanner cyfle byddwn i'n rhoi slap i'r gotsan fach.

Pobl anniolchgar ydi'r peth sy'n waethaf gennai, hyd yn oed uwchben pobl trahaus. Ond dw i'n teimlo'n anniolchgar ar y funud; bob tro ma rhywun yn trio gwneud rhywbeth imi dw i'n mynd yn flin ac yn mynnu y medra i wneud o fy hun. Gas gennai cael fy nhrin fel claf. Dad ydi'r gwaetha am hyn, fysa fo'n sychu fy nhrwyn pe fyddai'n cael y cyfle.

A fedra i'm mynd i Pesda Roc heno. Dwisho gweld Bryn Fon, 'chan. Ac oeddwn i isho gweld Geraint Jarman am y tro cynta erioed. Ond nes i ddim, naddo? Dw i'n poeni o hyd na wela i llwyth o bobl eto, fel DI neu Meic Stevens, achos ma'n siwr y byddan nhw'n marw rwbryd yn fuan. A dwisho'u gweld nhw'n perfformio. Damio marwolaeth.

venerdì, giugno 16, 2006

Gwella'n Barod!

Yn barod dw i’n eithaf gwella o’r hen beth ben glin ‘ma. Myfi a fedraf godi fy nghoes yn awr, a rhoi’r modem i mewn, sy’n ddigon i brofi i mi nad ydw i wedi torri dim byd ac mai dim ond briw sydd gennai. Braf byddai hynny, hyd yn oed os oes yn rhaid imi weithio dros yr haf.

Mi drof i’r blog hwn yn le cysegr i fy mhen glin yn awr, a byddwch yn barod i’m clywed yn cwyno am ychydig wythnosau, beth bynnag sy’n digwydd.

Hen fore swreal dw i wedi cael, mewn difri. Daeth Grandad rownd i ddweud helo. Fe gaeth yntau llawdriniaeth ar ei ben glin ychydig yn ôl er mwyn helpu iddo gerdded yn well, ac mae yntau hefyd gyda ffon gerdded. Felly dyma ni’n dau yn y gegin, fel par o hen ddynion (a hanner y par hwnnw yn hen ddyn) yn siarad ac yn llymeitian paneidiau. A chefais i wybod llawer amdano a’i niferus swyddi; cigydd, gyrrwr loriau, gweithio ar y bysus ac yn y blaen. Er, mae’n rhaid imi gyfaddef fy mod i’n teimlo fel fy mod i mewn cartref hen bobl am ychydig oriau.

Ond ia, dw i’n gwella’n barod dw i’n teimlo. Cyn belled nad ydw i’n gwneud dim byd gwirion mi fydda i’n iawn. Sy’n eithaf golygu fy mod i’n ffwcd.

giovedì, giugno 15, 2006

Y Glwyfedig Rachubwr

Ych, mae hyn yn afiach. Adra'n Rachub, efo crytshus a splinter, methu mynd fyny grishau ac am fethu wsos ola'r Gym Gym (erioed i mi!) a Pesda Roc. Ac o bosib allan o acshyn am dair mis. Eshi Ysbyty Gwynedd ddoe wedi y driniaeth warthus a gefais yng Nghaerdydd, a doedd 'Sbyty Gwynedd ddim yn meddwl fawr o agwedd Caerdydd tuag ataf, chwaith. Dw i ar gwrs o Cocodamin neu rwbath, ryw laddwyr poen cryfion sy'n fy ngwneud i'n gysglyd ac yn ddwl. Ond o leiaf mi fedrai wylio Cwpan Y Byd hynny dwisho.

Dw i rwan yn mynd i'r fracture clinic yn YG wythnos nesa'. Os mai fracture ydyw mae 'na beryg y bydda i allan am ddigon fel y bydda i'n methu gwneud hyfforddiant fel athro flwyddyn nesa'. Er mawr syndod imi, dw i'n gytud.

Ond dw i'n gytud bethbynnag. Tra nad ydw i efallai'r person mwyaf annibynol yn y byd, dw i'n sicr yn un o'r rhai yn y byd sy'n gwerthfawrogi ac angen ei ryddid bersonol. Does gen i fawr ohono ar y funud, er dw i rwan yn gallu mynd LAWR grisha, gwneud panad (os dw i'n aros yn y gegin, hynny yw, achos fedra i mo'i chario i'r lownj efo dau grytsh) a chodi heb help. Serch hynny, mae 'na ddigon fedrai'm gwneud hefyd, fel cario pethau, cerdded heb crytshus (o gwbl, lot rhy boenus), gosod y modem a rhedeg i ateb y ffon. Mae hi mor od methu gwneud pethau bach. A sai'n lico. Sai'n lico iot.

martedì, giugno 13, 2006

Ymddeol o'r Gym Gym

Dw i wedi gwneud ymddeoliad buan o'r Gym Gym wedi i'r Crol Cnau fy ngweld yn groffen y nos yn y 'sbyty. Iawn, dyma'r hanes.

Dw i wrth fy modd efo'r Crol Cnau, a mi wnes i'n eitha da i barhau fel a wnes, yn mynd i bob un dafarn oedd ar agor. Rhwng popeth fe feddwais yn anhygoel, ond dim cyn waethed a'r Dyfedbeth chwyslyd (y greasemonster, chwedl Lowri Dwd), a doedd na'm gwaeth na chael Dyfed yn tagio along drwy'r dydd. Dyma Ceren yn llwyddo wneud lot o bobl grio (wrth ganu, nid oherwydd yr alaw ond oherwydd ei llais erchyll a'i chlogyn od), a gwell gennai'r 'sbyty i hynny.

Eniwe, oeddwn i'n edrych 'mlaen i 'fory i wneud y Mumbles eto a chael 'Steddfod Dafarn nos Iau. Ond na. Trodd Clwb Ifor yn smonach imi. Dyma Mr Coes Dde yn penderfynu datod o'm mlaen i a minnau'n gwingo ar lawr Clwb mewn poen ddirfawr. A phawb yn cicio fi. Fel y gwyddoch, cwynwr o fri wyf i, sy'n golgyu doedd neb yn meddwl fy mod i wedi brifo o gwbl. Felly, ben fy hun bach, i Ysbyty Mynydd Bychan yr es, dal yn gwisgo'r sgert a brynais o'r Scope yn gynharach. Roedd hyn am tua 1 o'r gloch, a ddes i ddim o'r ffycin lle tan 9.30, heb gysgu ers diwrnod cyfan a mwy ac wedi blino gorfod egluro i bobl fy mod i wedi bod yn dawnsio. Wedi torri fy mhen glin dw i, a dw i ar crytshus.

Wedi oriau maith dw i adra, ond yn methu mynd fyny grishau heb boen fawr, felly mae Mam a Dad yn dod i'm hebrwng i'r gogledd drachefn heno. Mae'n gas gennai methu gwneud pethau i mi'n hun a theimlo'n wahanglwyf. Ond dw i owt of acshyn rwan: dim wsos ola Gym Gym, dim Pesda Roc, dim byd. Casau pennau gliniau.

lunedì, giugno 12, 2006

Tri o'r gloch y bore...

Wel, saith, beth bynnag. Achos mai'n saith o'r gloch y bora a dw i'n shatyrd a methu mynd ati i gysgu drachefn. A sal ydwyf ar ddiwrnod gwaetha'r flwyddyn i fod yn sal sef y Crol Cnau, sef tua 15 awr o yfed gwirionaidd.

Sal oeddwn hefyd Ddydd Sadwrn ond mi berswadiais fy hun mynd allan Ddydd Sul i barti'r Tavistock. Y bora hwnnw oni wedi bod yn Albany Road yn siopa am ddillad yn Peacocks. Prynais shorts a thop Mecsico. Nis byddai'r rheiny yn profi parhau'n hir, chwaith, achos fe'm teflid i mewn i bwll yn ardd gefn yn Tavi hwyrach yn y noson. Oni'n gwybod yn syth pan welais y pwll y byddwn i'n un o'r rhai bydda'n dioddef a chael fflich mewn rhyw ben (ond dim cyn rhoi dwrn i Haydn, a bron a theimlo'n euog am y peth). A felly dyma fi'n ddwrbeth yn fy nillad smart newydd, gyda ffôn faluredig, ffôn faluredig Dyfed (dim cyn imi decstio'i fam yn dweud 'sori, dw i'n hoyw'. Yar har!), paced y fygynnod wedi'u datod, leitar oedd ddim yn gweithio a waled gwlypach na dy fam. Ond diolch i Dduw ma'n ffôn i'n gweithio bora 'ma, a mi fedraf ffonio a thecstio fel arfer (dywedaf 'fel arfer' yn yr ystyr eangaf posib. Does neb yn fy ffonio na fy nhecstio. Ffyc, ma bywyd yn drist.)

Dw i'm yn licio'r blydi tywydd 'ma, chwaith. Dw i'n dechrau troi'n goch yn awr, a fedrai'm cysgu'n nos na fedraf? Nac ychwaith symud llawer yn y tywydd hwn. Dw i'n un o'r bobl 'ma sy'n licio mynd mewn i'r cysgod pan mae pawb arall yn mynd o amgylch y lle'n cael tan neis (neu fel Dyfed yn llosgi, shedio'i groen dros y lle a honni mai tan ydyw). Ond dw i'n siwtio fod yn wyn, eniwe, dim yn Arabfrown. Ond dyma fi'n fy ngwely yn 'sgwennu hwn efo breichiau a phen brown a'r gweddill ohonof yn boenus o wyn a phiws. Gennai gymaint o gleisiau ar y funud ma'n anhygoel, rhwng disgyn mewn pyllau a cael fy nhrywanu gan Kinch.

Eniwe, bydd rhaid imi ddechrau yfad mewn pedair awr a 'sgennai'm drw dydd i 'sgwennu blog. Nacoes, wir.

venerdì, giugno 09, 2006

Tenis Poeth Hyngowfyr

Pan oeddwn i'n ieuengach oeddwn i'n wych ar tenis, oeddwn i'n cael gwersi yng Nghaernarfon bob wythnos ac ati. Erbyn hyn prin fy mod i'n cael y cyfle, a dweud y gwir. Ond mi ges ddoe. Aeth Ellen a fi i chwarae yn Nhalybont. Y tro ddiwethaf inni chwarae fe gurais innau'n reit hawdd, ac o'n ni'n benderfynol i wneud yr un peth eto. A mi wnes 6-2 6-1 (sori, Ellen, ond mae'n rhaid dweud wrth y byd y cefaist ti, sy'n mynd i nofio ac yn bwyta'n iach, dy guro gan foi tew o gylch Bethesda).

Nos Fercher fuon ni allan i bobmathia o lefydd. Dw i'm yn cofio wedi tua 11, gwyddwn hyn yn iawn, ond aparyntli gesi'n gwrthod i mewn i'r Taf oherwydd fod 'fy llygaid i'n edrych yn od'. Ond y pwynt yw fod gennai ddiawl o ben mawr diwrnod wedyn, a ni ddewisiwyd 3 o'r gloch y p'nawn fel adeg gorau neu cwliaf y dydd i chwarae tenis. O ystyried fy mod i'n hynod, hynod ddiog ac angen colli pwysau mae gennai ddygnwch dda, a phenderfyniad tarw wyllt.

Penderfyniad yn unig a wnaeth imi actiwli fynd allan nos Fercher. Waw. Gorffen yr arholiad olaf erioed. Dydi o dal ddim yn teimlo fel fy mod i wedi! Ond Iesu, mai'n deimlad da! A rwan fe ga'i fod yn hollol rhydd nes dechrau gweithio mewn tua pythefnos. O ystyried faint o hawdd dw i'n meddwi ar y funud, nid peth da mo hynny yn y lleiaf.

lunedì, giugno 05, 2006

Y Dychweliad

Od iawn fy mod i wedi bod hanner wythnos heb flogio. A dweud y gwir ichi, ers nos Iau dw i wedi bod yn teimlo'n sal, ond wedi parhau ati i yfed. Ond nos Sadwrn, wedi noson randym iawn o fynd i Landaf i lle o'r enw y Butchers, i lawr i'r Mochyn Du ar y piano mi ddychwelais ar nos Sadwrn i Glwb Ifor Bach wedi misoedd lawer o alltudiaeth.

Mae'r lle 'di newid rhywfaint ers imi fynd 'na, dw i'n eitha sicr. Ond fel nos Iau mi wnes i eitha colli fy hunan-reolaeth, ers nis chwydais doeddwn i'm mewn rheolaeth o fi fy hun. Fel y gwyddoch dw i yn hoffi meddwi, ond er fy meddwod mae gen i o hyd reolaeth dros be dw i'n neud, dim ots faint o chwil dw i neu faint dw i wedi yfed. Dw i ddim yn hoff o beidio bod mewn rheolaeth o fy hun, dydi o'm yn deimlad neis. Ond roedd Clwb yn eitha gwag felly sylwodd neb, amwni. Diweddais yn mynd i Troy kebab am kebab. Doeddwn i ddim isho fo o gwbl ond mor benderfynol yr oeddwn o'i chael mi ymrwymais iddo a'i stwffio i gyd i mewn. I 'ngheg.

Dydd Sul sal iawn oeddwn, mewn difri calon. Eshi i lle'r genod ac i'r Bae yr aethon ni am ginio (sef Mr Haydn Blin, Mr Rhys Iorwerth, yr enwog G.B.E. a bwli'r ganrif, Ellen Angharad Jones). A wedyn fe flinon ni a mynd adra. Beth bynnag, oedd gennai craving enfawr am gorgimwch a mi eshi i Tesco Express a phrynu lot o salad.

Yn bersonol dw i'n meddwl bod salad yn lwyth o gach ond mi brynais i salad corgimwch, salad Roegaidd a salad datws. Neis ydoedd y ddau, a'r mae'r tatwsaidd dal yn yr oergell yn disgwyl cael ei sglaffio gennyf amser cinio heddiw. Ond mai rhywsut yn dywydd salad, tydi? Felly i'r oergell yr af. Ta ra!

venerdì, giugno 02, 2006

Alan Fletcher (a.k.a. Dr Karl Kennedy)

Faint o sad dw i? Mi brynais i docyn a mynd efo Lowri Llewelyn a Ceren i Walkabout Caerdydd neithiwr er mwyn gweld Dr Karl Kennedy a'i fand yn chwarae.

Cyn hynny oeddwn i wedi penderfynu bod sesh yn long overdue, a chyn mynd allan fe wnes i'r sicr bod y llapllop ffwrdd rhag ofn imi fynd ar-lein a sbamio Maes E efo rwtsh. Yn gyntaf, mi es gyda Haydn ac Ellen am fwyd i Ernest Willows. Siomedig oeddwn achos mi ges i sosij, sglods a ffa pob ac roedd y sosijys yn rhai efo ryw herbau od ynddyn nhw. Iyc. Wedyn aethon ni i'r Tavistock a gorfod clywed Ellen yn mynnu wrth Rhys Iorwerth nad oedd hi'n bunny boiler. Aeth pethau'n rhemp wedyn.

Llwyddais i gyrraedd lle'r genod erbyn i'r tacsi mynd a fi a'r Llewelyn a'r Ceren i Walkabout, ac roedd 'na gryn dipyn o bobl yno. Oeddwn i wedi bod yn yfed ers tua pump awr felly pan lifodd y peints cynyddodd yr ymweliadau i'r toiledau a ffarweliais â'r bygythiad olaf o sobrwydd, a dyma'r amser mae'r meddwl yn pallu ac y bu imi siarad efo rhyw foi oedd ar ei ben-blwydd yn 18 a sut oedd o am dorri fyny efo'i gariad pan y byddo hi'n mynd i Fanceinion. Od iawn.

O'r diwedd bu imi gyfarfod yr arwr ei hun, Dr Karl Kennedy. Mae'n ddyn thic iawn. Oeddwn i'n meddwl fy mod i wedi colli'n ffôn ac yn mynd o gwmpas fel dyn gwyllt yn chwilio amdano a Karl druan yn poeni amdanaf 'Wow wow he's lost his phone' ebe ef. Doeddwn i ddim wedi, trodd hi allan, ond bod y Llew yn edrych ar ei hôl. Wedyn mi ddudish i Hi, by the way! Ffwl imi.

Yn glwyfedig o feddw rhywsut dw i wedi mynd i Callaghans. Cofio dim ond siarad efo Sleepflower o Maes E (dw i'n meddwl. Os ti'n darllen plis dealla mi fedra i fod yn sobor weithia!) cyn chwydu yn y toiledau ac ar hyd y llawr.

Chwarae teg imi, nis gwnes swn yn dod adra, a chysgais tan y dydd.