Penbwl hapus i mi,
Penbwl hapus i mi,
Penbwl hapus i’r Hogyn,
Penbwl hapus i mi.
Rhyfedd, dw i’m yn teimlo’n ddwy ar hugain; dim ond ychydig bach yn llwglyd a bod angen cawod arnaf. Ond allwn i ddim gwneud popeth ar unwaith. A dywedyd y gwir i chi, dw i’m isio sôn am fy mhen-blwydd, dydi pen-blwydd ddim yn rhywbeth y byddaf i’n hoff iawn ohoni. Y peth amdanaf fi ydi, er fy mod i’n hoff hynod o sylw, mae hynny’n gorfod bod ar fy nhelerau i o hyd, ac mae fy mhen-blwydd, ysywaeth, y tu allan i fy rheolaeth.
Derbynnir anrhegion yn amodol.
Eniwe, tri chariad sydd gen i: Cymru, gwleidyddiaeth a Lord of the Rings (dw i ddim yn hollol siŵr sut y mae’r olaf yn ffitio mewn â’r ddau arall). A dw i am fentro fy llaw ar broffwydoliaeth eto; ond un mwy penodol.
Mae’r ddwy etholaeth sy’n rhan o fy mod yn rhai diogel yn y Cynulliad; Arfon i Blaid Cymru (Martin Eaglestone? Mae gen i fwy o siawns orchuddio fy hun mewn mêl a pheidio cael fy nhreisio gan Winnie the Pooh na sydd gan Martin o gael ei ethol yn Arfon), a Chaerdydd Canol, a minnau’n byw yn Y Rhath ar hyn o bryd. Mi fentraf broffwydoliaeth fechan i Ganol Caerdydd.
Mae arwyddion yn arwydd (ha!) dda o weld sut y mae pethau’n mynd. Hyd yn hyn, y Democratiaid Rhyddfrydol sy’n ennill, ond dydyn nhw ddim o llwyth; mae 'na lawer iawn o arwyddion Llafur o gwmpas (ac un Plaid Cymru ar Albany Road; dim byd i’r Ceidwadwyr hyd yn hyn). Fe’m synnwyd gan hynny; mae hwn yn un o’r seddau y byddwn i’n ei ddisgwyl i Lafur ildio - ond dw i wedi cael ambell i bamffled ganddyn nhw a’r hen Liberals (pob un yn uniaith Saesneg, afraid dweud). Ond dydyn nhw ddim i weld fel eu bod. Maen nhw’n edrych fel bod nhw’n cael yr arwyddion i fyny ac yn cael pobl i ddosbarthu eu llythyrau.
Mae’r Rhyddfrydwyr yn amhoblogaidd yn y cyngor, ac er bod Llafur yn amhoblogaidd beth bynnag peidiwch byth â diystyru eu pleidleiswyr craidd; y rheiny na fyddant yn troi allan i bleidleisio yn y Cymoedd, ond oherwydd eu bod mewn sedd nad yw bellach yn Llafur, fe ânt nhw i bleidleisio. Mi fetia’ i rywbeth. A’r gwir amdani ydi, bydd y myfyrwyr ddim yn boddran pleidleisio mewn rhifau mawrion.
Peidiwch byth â diystyru'r bleidlais Lafur craidd. Y nhw a rhoddod gic-owt i'r Blaid yn Rhondda ac Islwyn yn 2003, a hynny heb fawr o reswm oni bai mai o frîd Llafur Craidd oedd y rhan fwyaf o'r pleidleiswyr. Ddaw hi ddim at hynny yng Nghanol Caerdydd, ond nodwch ar y bleidlais hon.
Does gan Plaid ddim cyfle. Mae ‘na lawer iawn o fyfyrwyr Cymraeg yn yr ardal, ond yn fy mhrofiad i pleidleisio drwy’r post yn y gogledd a’r gorllewin y maen nhw. Ond mae’r Gymraeg yma; yn ôl rhywun dw i’n ei adnabod sy’n gweithio i’r cyngor mae llawer mwy o ffurflenni wedi eu cwblhau’n Gymraeg yn dod o’r rhan yma o’r ddinas na fyddai rhywun yn disgwyl.
Trahaus, a ffôl, yw dweud y bydd siaradwyr Cymraeg yn pleidleisio Plaid; ond maen nhw’n debycach o wneud hynny na phleidleisio dros neb arall. Mae ‘na gymuned Fwslimaidd amlwg yma hefyd, a hyd y deallwn i mae’r Blaid â chefnogaeth yn eu mysg.
Felly dyma fy mhroffwydoliaeth ar gyfer Caerdydd Canol: 34.7% yw mwyafrif y Democratiaid Rhyddfrydol ond byddwn ni’n gweld gogwydd i Lafur fan hyn, yn crafu eu hunain yn ôl yn araf bach. Nid wyf o’r farn y bydd y Rhyddfrydwyr yn hawlio dros hanner y bleidlais y tro hwn.
Bydd y Ceidwadwyr yn statig, a Phlaid yn cynyddu mymryn, ac os mae UKIP yn cadw eu deposit mae’r Wyddfa yn gaws.
Gobeithio gei di benblwydd hollol shit! Gobeithio na dderbyni di run anrheg heblaw am yr STD y cei gan y rent boi ti'n mynd i wario arno gyda dy gyflog pitw! Gobeithiwn hefyd y cei di ryw fath o ddamwain ble, ar ben y byd buaswn, golli di fraich neu goes! Marwolaeth i ti ar dy ddiwrnod olaf - dy benblwydd!
RispondiEliminaDiolch Dyfed!
RispondiEliminaNa phoener Iason
RispondiEliminaPen blwydd hapus i ti. Dim llawer i fynd nes fyddi di'n hen rech flin hefyd
RispondiElimina