mercoledì, giugno 18, 2008

Ailgylchu

Fi ydi fi ydi fi. Un o’m hoff ddileits hunanol ydi peidio ailgylchu. Rwan, dydi ailgylchu ddim yn beth hwyl ond mae’n beth pwysig i’w wneud. Fydda i ddim yn ailgylchu mae arna’ i ofn. Mae hyn oherwydd dau reswm: y cyntaf yw nad oes lle am ddau fin (h.y. bin nid min) yn tŷ acw; yr ail ydi dwi’n licio cythryddu hipis plaid werdd trî-hygars organig angen ‘u sgwrio’n iawn â sebon ecowariars feji-figans ffrî Tibet libral nytars mediteshyn byth-yn-lladd-pryfaid potheds caru windchimes math o bobl.

Ac Y Fi ‘di ffycin diffiniad goddefgar.

3 commenti:

  1. Anonimo7:14 PM

    Yn syth i uffern a thi. Dwi'n ailgylchu. Ti'n slai ar hipis budr!

    RispondiElimina
  2. Bron i mi dagu ar fy miwsli'n darllen hwn y basdad bach hunanol!

    Oes cysylltiad rhwng Hipîs a Natsiaeth?

    RispondiElimina
  3. Roedd Hitler yn Hipi. Ffaith








    (nid yw hon yn ffaith)

    RispondiElimina