giovedì, luglio 03, 2008

Y Zombies

Pur hysbys ydyw nad un am ffilmiau arswyd mohonof. Hynny yw, dwi’n golygu gwaedlyd i olygu arswyd. Dwi’n eithaf hoff o ryw ysbrydion a ballu, a phethau mwy seicolegol, ond os ceir haid o zombies yn llusgo’u hunain yn cnoi cnawd o amgylch y lle neu arteithio, dwi’n teimlo’n sâl. Sâl yr oeddwn yn Saw III. Aeth fy mhen yn wan yn Hostel. Yn wir, bu gweld trailer ●REC yn ddigon i’m dychryn am y rhan orau o bythefnos.

Afraid dweud, dw i heb alw ar y dewrder i weld y ffilm gyfan. Y dewraf y galla i fod o ran artaith yw mynd o amgylch Virgin amser cinio ac edrych ar yr adran arswyd, oherwydd er troi fy stumog mae gen i dal obsesiwn braidd efo’r pethau gwaedlyd ‘ma, a bob tro yn gwneud y camgymeriad o fynd i’w gweld yn y sinema.

Yn yr un ystyr byddwn i fy hun yn rybish taswn i’n cael fy arteithio. Go iawn rŵan. Nid mawr mo fy nhrothwy poen o gwbl, a phan fo gennyt hen ben glin croc, ysgwydd wael a theimlad ffyni dan dy dafod ers wythnos, nid da mo’r cyfuniad.

O ia, a be ‘di zombie yn Gymraeg?

3 commenti:

  1. y meirw byw di'r gosa gei di, ond ma anfarwolion yn eitha hwyl i'w ddefnyddio fyd, os ma'r zombies yn gesus 'lly.

    RispondiElimina
  2. Anonimo7:37 PM

    Zombie yn Gymraeg????? Iawswn Lydandrwyn dwi'n amau!

    RispondiElimina
  3. Rhodri, diolch am y wybodaeth.

    Dyfed - ffyc off!

    RispondiElimina