giovedì, maggio 20, 2010

Hwyl fawr bawb!

Dyma ni felly. Roedd hi saith mlynedd yn ôl namyn pythefnos ers i mi ddechrau blogio. Mae’n rhyfedd i mi gofio mai prif bwynt y blogiad hwnnw ar blogcity oedd dweud fy mod wedi llwyddo rhoi fy nhrowsus arnodd y ffordd anghywir. Dwi’m yn meddwl fy mod wedi gwneud hynny ers gwers y diwrnod hwnnw. Dysgish rywbeth, mae’n rhaid!

Ta waeth, yn ddiweddar mae’r awydd i flogio wedi dirwyn i ben. Felly, dyma ni’n sywddogol (er mwyn gwneud iddo swnio’n bwysig) flogiad olaf Blog yr Hogyn o Rachub; mae saith mlynedd yn hen ddigon, ac mae’n amser rhoi Wil i’w wely. Fydda i ddim yn ei ddileu achos mae’n gofnod personol o’m mywyd i dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, a gwaetha’r modd alla i ddim gaddo na fyddaf yn fy ôl ryw bryd os cwyd yr awydd!

Diolch am ddarllen dros y blynyddoedd, ond am y tro o leiaf, hwyl a fflag!

13 commenti:

  1. Diolch am y difyrwch, a phob lwc yn y dyfodol!

    RispondiElimina
  2. Wel siomedigaeth. Wyt ti am ddechrau trydar yn lle? x

    RispondiElimina
  3. Anonimo10:57 AM

    O diar! Dyna biti!

    RispondiElimina
  4. Part-timer!

    Byddi di nôl, betia i di. Ond pob lwc, beth bynnag ti'n neud.

    RispondiElimina
  5. Diolch am dy holl waith trlwyr a threiddgar! Gobeithio dy weld ti'n ol pan fo'r awen eto :-)

    RispondiElimina
  6. Byddwn ni'n gweld dy eisiau yn y byd rhithwir hwn, ond pob lwc yn y byd go iawn.

    RispondiElimina
  7. Anonimo5:02 PM

    Dyma golled i'r byd blogio Cymraeg.

    Diolch yn fawr am dy holl erthyglau ar wleidyddiaeth Cymru. Er ein bod dy wleidyddiaeth di a 'ngwleidyddiaeth i'n wahanol iawn, rydw i wedi mwynhau'n arw dy waith a'th ffordd mor ddigri o fynegi pethau.

    Pob lwc i'r dyfodol!

    Oliver

    RispondiElimina
  8. Siomedigaethus ond dealladwy. Wedi mwynhau darllen amryw o dy flogiau dros gyfnod a mae nifer o dy flogiau wedi gwneud cyfraniad pwysig at drafod gwleidyddiaeth Cymru yn ystod y blynyddoedd diweddar. Pob hwyl i ti HoRach!

    RispondiElimina
  9. Questo commento è stato eliminato dall'autore.

    RispondiElimina
  10. O diar, o diar, o diar - mae'r blogodffer Cymraeg yn llawer llai yn fwyaf sydyn.

    RispondiElimina
  11. Diolch i ti am dy gannoedd postiadau difyr a digri dros y blynyddoedd diwethaf.

    Nofel nesa?!

    Iwan Rh.

    RispondiElimina
  12. Hwyl fawr i'r Hogyn :)

    RispondiElimina
  13. Anonimo10:43 PM

    Biti garw. Pob lwc i ti a diolch am y mwynhad a difyrwch

    RispondiElimina