venerdì, ottobre 29, 2010

Yr Ieuainc wrth yr Hen

Wn i ddim be fydd yn digwydd de. Fydda ni’n well mae’n siŵr achos mi gawn ni fwy o bensiwn. Gwell na thair ceiniog o godiad gafon ni llynadd. Tair ceiniog, wel be wneith rhywun efo tair ceiniog? Fedar rhywun ddim prynu torth efo tair ceiniog hyd yn oed. Mi fydd pobol yn lluchio tair ceiniog i ffwrdd rŵan. Lluchio fo i ffwrdd lawr y stryd.

Mae gynnon ni Gymraeg gwell na nhw yn y De, de. Mae’n siŵr eu bod nhw’n ein dallt ni’n siarad achos ni sy’n siarad y Gymraeg cywir yn de, ond fydda ni ddim yn eu dallt nhw’n iawn, so o’n i’n cytuno efo hynny ar y rhaglan Gwylwyr ‘na.

Bydd selogion y blog hwn (sud wyt?) wedi hen wybod o ddarllen yr uchod mai Nain ddywedodd y geiriau hyn. Siaradwn ar y ffôn yn bur aml a phan dro’r sgwrs at faterion y dydd gwrando a chytuno fydda i yn hytrach na cheisio cyflwyno dadl gall. Fentrwn i ddim dweud wrthi ei fod o’n hollol rong bod pensiynwyr yn cael codiad mawr yn eu pres tra bod ffïoedd myfyrwyr yn mynd tua’r nefoedd. Fel dywedodd rhywun a oedd newydd gael ei bas bws “mae’r hen bobol yn cael popeth a dydi pobol ifanc yn cael dim byd a dydi o’m yn iawn” a chytuno fydda i â hynny.

Mae ‘na ryw dueddiad dros y ddegawd ddiwethaf o gosbi’r ifanc a gwobrwyo’r hen – y gwir ydi mae’n haws bod yn hen nac yn ifanc heddiw. Pa help a gaiff pobl ifanc gan y Llywodraeth mewn difrif? Rhwng dyledion myfyriwr a diffyg swyddi pa obaith sydd i’r lliaws brynu tŷ, bwrw gwreiddiau, magu teulu ac ati? Fawr ddim. Ac mae pensiynwyr yn cael pasys bws i fynd i le y mynnent. Mae’n annhecach fyth o feddwl mai’r meddygon a’r nyrsys a’r gweithwyr gofal cymdeithasol o’r to iau a fydd yn gofalu am y to hŷn i raddau helaeth. Iau yw’r rhai a fydd yn darparu eu gwasanaethau ac ifanc y milwyr a anfonir dramor ‘er eu mwyn’. A chyfieithu ar eu cyfer, wrth gwrs .... !

Ceir ym Mhrydain heddiw mi deimlaf ddiwylliant gwrth-ifanc. Yn ôl y papurau newydd y genhedlaeth iau ydi gwraidd pob drwg, a dydi gwleidyddion fawr well. Ac mae hyn oll mewn oes y mae bod yn ifanc (pa ddiffiniad bynnag sydd gennych o ‘ifanc’) yn anoddach nag erioed, p’un a ydych yn yr ysgol yn astudio neu’n chwilio am eich swydd gyntaf neu gartref. Yn wir, dydi’r byd na’r Gymru a etifeddir gan y genhedlaeth nesaf fwy nag anrheg rad funud-olaf. Os bernir pob cenhedlaeth gan y genhedlaeth a esgorir ganddi, fydd y llyfrau hanes yn cynnig beirniadaeth lom.

A’r byd yn y fath lanast, prin fod ei etifeddu’n dasg ddymunol.

Ta waeth, rant drosodd. Ffrae dragwyddol yw ffrae’r cenedlaethau, fela mai a fela fydd. Un o’m hoff gerddi yn ddiweddar ydi ‘1914-1918 yr Ieuainc wrth yr Hen” gan W.J. Gruffydd. Cerdd wych, efallai’n sôn am ddigwyddiad penodol y Rhyfel Mawr ond eto mae’n dangos yn noeth iawn berthynas y cenedlaethau. Ac, ew, mae ‘na ddeud i’r pennill olaf:

Mae melltith ar ein gwefus ni
Yn chwerw, ond eto cyfyd gwên,
Wrth gofio nad awn byth fel chwi,
Wrth gofio nad awn byth yn hen.

martedì, ottobre 26, 2010

Noson Gwylwyr, a'r Rali

Wn i ddim p’un ai llwyddiant ai peidio oedd rhaglen y Noson Gwylwyr neithiwr – llwyddais i gael fy sylwadau ar yr awyr felly fedra’ i ddim cwyno gormod am wn i! Ar y cyfan ro’n i’n weddol fodlon ar yr ymatebion gafwyd – gan dri aelod o’r panel sut bynnag. Mi gefais i a’r Dwd a Ceren drafodaeth drylwyr am y rhaglen ar ôl dal i fyny arni yn yr hwyrnos. Efallai na fydd newid, ac efallai pa newid bynnag ddaw ei bod bellach yn rhy hwyr. Fel dywedodd y Dwd, mae S4C wedi clywed pryderon gwylwyr ers blynyddoedd, ond heb â gwrando. Tybed.

Ta waeth mae’r Sianel o hyd yn wynebu toriadau llymion. Cynhelir rali S4C mewn llai na phythefnos a drefnir gan Gymdeithas yr Iaith. Mi fydda’ i yno ... a mynd diân ar ddiwrnod rhyngwladol os medra’ i ohirio fy meddwi mi allwch chi hefyd! Dwi’n meddwl bod o’n wych bod y Gymdeithas wedi trefnu’r brotest, ond ga’i wneud ambell bwynt adeiladol nad ydynt mewn unrhyw ffordd yn feirniadol, yn y gobaith bod rhywun yn darllen y cyfryw eiriau.

Dwi ddim yn meddwl y dylai’r Rali fod yn enw Cymdeithas yr Iaith – ni ddylai fod yn brotest swyddogol ganddi hi. Licio fo neu ddim, mae ‘na berygl go iawn y bydd gwneud hyn yn troi pobl i ffwrdd o’r digwyddiad, ac o bosibl hefyd yr ymgyrch yn fwy cyffredinol. Fydd ‘na bobl sy ddim isho, wel, nid ‘cefnogi’ fel y cyfryw ond nad ydynt isio ymwneud â CyIG am ba reswm bynnag. Mi fyddai mwy o bobl yn debygol o alw heibio i’r Rali os ydyw’n rali niwtral o ran teyrngarwch i unrhyw fudiad neu blaid: pobl sydd am ddangos eu cefnogaeth i’r Sianel ac mai dyna eu hunig nod.

Rhaid i’r ymgyrch sydd ar ddyfod, ac mi gredaf y gall droi’n ymgyrch chwerw a chaled, ennyn y gefnogaeth ehangaf posibl gan bobl o bob lliw a llun. Ac i’r diben hwnnw, er mai’r Gymdeithas sy’n trefnu’r Rali arbennig hon ac y caiff dwi’n siŵr ran allweddol yn y frwydr sy’n ein hwynebu, efallai mai’r ffordd orau o wneud hyn yw trefnu unrhyw ddigwyddiad dan faner ‘Achub S4C’ ac nid unrhyw fudiad, gan gynnwys Cymdeithas yr Iaith.

Mae’n sicr yn haeddu ystyriaeth.

venerdì, ottobre 22, 2010

giovedì, ottobre 21, 2010

Anghywir, Arwel Ellis Owen!

“Mae’r awdurdod wedi rhoi cyfarwyddyd clir i mi eu bod nhw yn rhoi’r flaenoriaeth i safonau yn hytrach na niferoedd”

Dyma eiriau Arwel Ellis Owen, Prif Weithredwr dros dro S4C. Ac mae Arwel Ellis Owen, yn fy marn i, yn anghywir – os nad dim ond am wrando ar John Walter Jones!

Dylai safonau fod yn bwysig i S4C, ond nid safon ydi’r prif broblem. Rhaid bod yn onest fan hyn, y rheswm bod Llywodraeth Lloegr yn gallu pigo ar S4C ydi achos bod nifer y gwylwyr yn rhy isel, nid oherwydd bod y rhaglenni’n crap (a dwi wedi dweud nad ydw i o’r farn eu bod nhw’n ddiweddar gan fwyaf). Beth sydd ei angen ar S4C ydi rhaglenni poblogaidd, dim mwy na llai, ac fel y gwelir o bob sianel arall dydi rhaglen o safon ddim o reidrwydd yn rhaglen boblogaidd ... y gwir plaen ydi mai i’r gwrthwyneb sy’n wir yn aml!

Mae gan y Sianel ei henghraifft ei hun o hyn ar ffurf Pobol y Cwm – opera sebon canol-y-ffordd ydyw, does ‘na ddim byd sbeshal amdani yn y lleiaf, ond hi ydi’r unig raglen (heblaw am chwaraeon) a all ddenu dros 100,000 o wylwyr yn ddigon cyson. Prin fod gweddill rhaglenni S4C yn denu hanner hynny – a phrin fod y gair ‘safon’ yn cael ei gysylltu’n aml â Phobol y Cwm!

Rhaglenni poblogaidd, nid rhaglenni o safon, sydd eu hangen fwyaf ar y Sianel. Bydd rhai yn anghytuno â hynny, ond o ystyried y peth, mae’n bosibl bod S4C wedi bod yn canolbwyntio ar ‘safon’ ar draul ‘poblogrwydd’ ers rhy hir bellach – yn ceisio efelychu sianel megis BBC4 yn ormod yn hytrach na BBC2, ddywedwn ni – ac efallai bod hynny’n arwydd o’r gor-barchusrwydd dosbarth canol sydd wedi dadrithio pobl gyffredin dros y ddegawd ddiwethaf.

Dwi ddim isio bod yn anadeiladol o feirniadol fan hyn, dim ond taflu syniadau – dwi ddim isio ildio i’r garfan o bobl sy’n meddwl ei fod o’n ‘cŵl’ i beidio â gwylio S4C a hynny jyst er mwyn ymddangos yn wrthsefydliadol (tyfwch fyny!) na’r garfan fechan sydd fel petaent yn ymhyfrydu yn nirywiad y Sianel. Ond mae geiriau Arwel Ellis Owen yn fy marn i wrth wraidd yr hyn sydd o’i le efo’r Sianel ac wrth wraidd yr hyn sydd angen ei newid.

martedì, ottobre 19, 2010

Y Teulu Anifeilaidd

Yn gyffredinol, ‘sgen i ddim mynadd â phobl nad ydynt yn hoffi anifeiliaid. Pe bawn yn cyfarfod rhywun am y tro cyntaf ac yn cael gwybod nad ydynt yn licio anifeiliaid byddai’r argraff gyntaf a grëwyd arnaf yn un wael. Gwell hyd yn oed pobl cathod na phobl sy’n casáu’r cyfan ohonynt – yn wir, mi fedraf i, sy ddim yn licio cathod, wneud yn iawn efo nhw, y rhai sy’n dangos parch, de. Er, mi fynnaf hyd f’angau bod y ddynas cath-yn-bin y peth doniolaf i mi ei weld er cyn co’.

Lleiafrif ydi’r bobl hyn, wrth gwrs – dwi’n meddwl o bawb dwi’n eu hadnabod mai dim ond Rhys a Ceren sy’n casáu anifeiliaid, er mi fytant rai. Yn gyffredinol, mae fy nheulu i yn bobl anifeiliaid. Mae gen i a Mam yn benodol hoffter mawr at y rhan fwyaf o greaduriaid Duw, a chŵn yn arbennig. Mae hyd yn oed y chwaer, rhwng ymbincio a sôn am faint mai’n mwynhau bwyta llysiau, yn hoffi anifeiliaid ar y cyfan. Er mi gwynodd pan fu ganddi gwningen ei bod yn caru ei brawd yn fwy na hi.

Y prif rwystr i ni gael anifeiliaid oedd Dad. Gwrthwynebai Betty a Blodwen (ac yn ddiweddarach Sioned) y chwïaid, a fawr hoffter ganddo at y gwningen ychwaith, ac er y cwyno gan bawb, Mam grochaf, i gael ci, gwrthwynebiad Dad rwystrodd aelod newydd rhag dyfod i’r cartref. I’r fath raddau y bu iddo ddatgan ‘fi neu gi’ untro – gwn pa un fyddai’n well gan Mam rŵan.

Ond, fel gyda phawb nad ydynt yn licio creaduriaid, dydi anifeiliaid ddim yn rhyw gymryd at Dad chwaith. Mae ‘na reddf ryfedd gan anifeiliaid efo’r fath bethau. Dwi’n meddwl eu bod nhw’n meddwl bod Dad ‘mbach o wancar. Dechreuodd y cyfan mi dybiaf pan ganlynasai Mam a Dad gyntaf a Mam yn berchen ar gi Alsatian mawr o’r enw Amber a chwyrnai ar Dad bob tro y ceisiai ddod yn agos at Mam.

Ond sioc ddisgwyliodd yr Hogyn ar ei ymweliad diweddaraf adref. Ffrind ar ffurf cath fechan sydd gan Dad. Mi ddaw o rywle yn Nhyddyn Canol a welsoch chi rioed ffasiwn beth. Nid yn unig y bydd Dad, gan grwmach a llusgo’i draed fel yr hen ŵr nad ydyw eto, yn rhoi sylw mawr i’r gath (a’i galw yn ‘kitty’ ... kitty myn uffarn!), mae’r gath hithau wedi cymryd at Dad. Big time. Pan fydd nyni garwyr anifeiliaid i gyd yn yr ardd, gan amlaf yn bwydo Guto a Wil y merlod gwyllt, Dad aiff â sylw’r gath, a’r gath sylw Dad. I rywun a fagwyd yng nghwmni’r dyn, mae’r peth yn rhyfeddod.

A chan hynny mae’n dal i rwgnach wrth Mam, “you’re not getting a dog yeah”.

domenica, ottobre 17, 2010

Ddim y peth gorau i glywed ar ddiwrnod eich priodas

Cinio Sul sydd ar y ffordd felly bu’n rhaid nôl fy nhaid, neu Grandad, o dŷ Nain i ddod i Rachub draw. Soniodd fymryn am Nain, wastad yn un gwyllt. Yn ei ôl o, ar ddiwrnod ei briodas â Nain, mi drodd ei dad yng nghyfraith newydd ato, a dweud heb fymryn o goeg:

Thank God Ken, that’s the worst of the lot out of the way!”

sabato, ottobre 16, 2010

Barn agored ar S4C

Cynhelir noson gwylwyr gan S4C nos Lun, a ddarlledir yn fyw am 20:25. Buaswn yn awgrymu i bawb â barn ei mynegi, a gallwch wneud hynny yma. Newydd fy nharo y mae'n bersonol y gallwn i bob pwrpas golli'r sianel genedlaethol. Er gwaethaf ei ffaeleddau lu, pe deuai'r awr honno bydd yn ergyd drom ac o bosibl ddinistriol i'r Gymraeg.

Dwi wedi cyflwyno sylwadau, a hoffwn eu rhannu â chwi.

Hoffwn fynegi fy mod o’r farn bod arlwy S4C ar hyn o bryd yn gryf iawn ac fy mod yn ei mwynhau’n arw. Mae rhaglenni fel Pen Talar, Byw yn Ôl y Llyfr, Gwlad Beirdd a ‘Sgota wedi bod yn rhaglenni rwy’n eu gwylio’n rheolaidd yn ddiweddar; rhaglenni da o safon a ddylai fod yn destun balchder i’r sianel.

Ond y tu hwnt i ambell raglen gall arlwy’r sianel fod yn ailadroddus. Deallaf fod hyd yn oed yn awr gyfyngiadau ariannol ond mae cael Pobol y Cwm, er enghraifft, bum gwaith yr wythnos yn ddiflas ac yn gwneud i’r mwyafrif osgoi gwylio, ac mae tueddiad anffodus i ddefnyddio’r un hen wynebau ar gyfer yr un hen math o raglenni. Hefyd, problem ddiweddar yw bod enwau rhaglenni yn anatyniadol iawn, nid yw e.e. ‘Cyngerdd’ neu ‘Sioe’r Tŷ’ wir yn enwau gafaelgar nac ysbrydoledig.

Mae’n destun tristwch bod nifer o bobl heb godi llais dros y Sianel, ond mae rheswm penodol dros hyn. Y canfyddiad cyffredinol yw bod S4C bellach wedi’i rheoli gan glîc Caerdydd-ganolog hunanfodlon a hunanbwysig nad yw byth yn gwrando ar bryderon y gwylwyr cyffredin, ac sy’n diystyru unrhyw feirniadaeth hyd dirmyg. Mae arnaf ofn fy mod yn cytuno â’r farn hon – a phe câi fy marn ei chyfleu i’r bobl hyn mai anghytuno’n ddiystyriol y gwnânt; a pha syndod? Yr un hen stori ers blynyddoedd. Hyn, yn fwy na safon rhaglenni, sydd wedi dadrithio cymaint o’n sianel.

Erfyniaf arnynt i newid hyn, er lles y Gymraeg ac nid eu gyrfaoedd, ac am unwaith wrando ar feirniadaeth.

Newyddion teuluol

Fydd gennych chi fawr ddiddordeb yn hyn ond roedd cyrraedd adra neithiwr a chlywed newyddion y teulu yn torri 'nghalon. Mae nhw'n dwpsod.

Disgynnodd y chwaer dros fwrdd gan anafu ei hun
Disgynnodd Mam dros hwfer a thynnu'i chlun
Roedd Dad yn tocio coedan a chan dorri brigyn mawr tew uwch ei ben disgynnodd arno ac mae ganddo graith ar ei dalcen

Dylwn i 'di aros yn Grangetown.

venerdì, ottobre 15, 2010

Hirdaith y Pizza Cwt

Yn y bôn dwi’n unigolyn hynod lwythol; mi godaf fy maner a’i hamddiffyn yn ddi-baid yn wyneb tymestloedd byd. Un ddadl a gafwyd yn ddiweddar oedd Family Guy v. South Park, ac mi lynais wrth South Park yr holl ffordd achos bod South Park yn wych y tu hwnt i bob dim y gall Family Guy ei gynnig, sy ddim lot yn fy marn i. Yn y lleiafrif yr oeddwn bryd hynny, ond y lleiafrif cyfiawn, wrth gwrs. Mae pawb, yn eu hanfod, naill ai’n licio South Park neu Family Guy, heblaw am Rhys sy’n gwylio’r un.

Ceir dwy ysgol o feddwl hefyd ar bizzas. Mae gennych garfan y Dominos a’r garfan Pizza Hut fel rheol, hynny o dynnu siops pizzas lleol o’r ddadl. Rhaid i mi fan hyn fynegi fy nghasineb o Dominos. Hen bethau tila ydyn nhw. O’u tynnu o’r bocs mi foesymgrymant resynus a’r topin ddisgynna lawr. Oerant yn gyflym canys bod iddynt ddiffyg sylwedd, a nid da mo arlwy’r cynhwysion a gynigir. Cadarn yw pizza’r cwt, saif yn falch sylweddus gan ddod â dŵr i’r dannedd yn fôr o gaws a mynydd o fara. Byddaf, mi fyddaf yn hoffi Pizza Hut.

Ond mae Pizza Hut yn ddrud, felly roedd llawenydd mawr yn Stryd Machen o weld cwponau yn dod drwy’r blwch llythyrau. Unrhyw bizza am £8.99! Wel, punt ychwanegol am y dîp pan ond pa beth bunt am hoff drît y gŵr sengl? Ro’n i ‘di bwyta’n iach weddill yr wythnos, a ddim mwynhau achos dwi ddim yn licio bwyd iach a dwi’m yn edrych na theimlo gwell o’i gael beth bynnag, a meddaf i’n hun fy mod yn haeddu pizza pe hwfrid y tŷ. Camarweiniol oedd hyn, a minnau wedi gwario’r nesaf beth i ddau gan punt y penwythnos diwethaf, gan dorri’r record flaenorol yn deilchion mân. Haeddiant nid a oedd yn hawl.

Ffoniais, glafoeriais, gyrrais. W, am anrheg fach lawen a oedd o’m blaen! Wrth gwrs, mi gymrais yn ganiataol mai’r Pizza Hut agosaf anfonodd y daleb, felly mi es i nôl petrol yn hamddenol drahaus cyn cyrraedd. Yr un anghywir ydoedd. e’m cyfeiriwyd i’r llall yn y Bae. Siŵr mai’r un yma gynigiodd y daleb. Naci. Felly ar ôl sgwrs, hynod anghyfforddus, mi ddadansoddwyd mai Pizza Hut Treganna oedd yr un cywir.

Mi bwdais gan feddwl “dwi heb dalu so dwi’m am fynd” ond wrth Tesco bach Grangetown mi ddywedish i mi fy hun “mae hyn wedi cymryd mwy na’r amser dynodedig, a dwi’n benderfynol o gwblhau’r genhadaeth bitsarïol”. Felly mi yrrais yn sarrug ddigon i Dreganna i nôl fy mhizza oer, fy mhen yn dynn iawn yn fy mhlu.

Erbyn i mi grraedd adra roedd ‘na hanner can munud wedi heibio ers yr alwad gychwynnol. Felly mi eisteddais fel brechdan o flaen y teledu yn bwyta fy mhizza lledboeth. Ta waeth, meddwn i, mae o dal yn well na ffwcin Dominos.

mercoledì, ottobre 13, 2010

Codi Chanu

Henffych bechaduriaid. Yn rhyfedd ddigon, dwi’n mwynhau arlwy S4C ar y funud. Ar y cyfan dwi’n mwynhau Pen Talar, ddaru mi fwynhau ‘Sgota (er ei fod yn eitha doniol nad oedd yr ‘ychydig dipiau ar goginio’ a addawyd ar y trelars fyth fwy na’u rhoi mewn padall ffrio), mae Gwlad Beirdd yn dda a dwi wedi gwirioni’n lân ar Byw yn Ôl y Llyfr, sydd o bosibl y rhaglen orau i S4C ei chomisiynu eleni, er mai ei recordio sy’n rhaid yn hytrach na’i gwylio’n ‘fyw’.

Ond fe gafwyd blast from the past yr wythnos hon wrth i Codi Canu ddychwelyd. Ro’n i’n ffan enfawr o’r gyfres gyntaf a’r ail, a dwi’n cofio ei bod yn un o’r rhaglenni yr eisteddem gyda’n gilydd yn nhŷ bythol hapus Newport Road i’w gwylio nos Sul. Canu corawl, chewch chi ddim gwell. Dwi wrth fy modd â chôr da. Dydi o ddim wrth fy modd bod y corau modern yn arbennig yn canu bob mathia o bethau; caneuon mewn ieithoedd pell a’r lol dawnsio a symud – ‘sdim angen hynny pan fo i’r Gymraeg gyfoeth di-ben-draw o ganeuon sy’n sgrechian haeddiant eu canu. Mae ‘na flogiad hir a chwerw ar y pwnc hwnnw ym mêr f’esgyrn, dwi’n siŵr.

Yn gryno, ro’n i felly yn falch gweld Codi Canu yn ei ôl, ac mae o ddiddordeb penodol i mi â chôr arbennig Ogwen a’r Cylch yn un o’r rhai sy’n cystadlu. Ew, dim ond ryw ugain oedd ‘di dod i’r ymarfer neithiwr, ac mi o’n i’n siomedig tu hwnt. ‘Swn innau wedi mynd. Mae dal mewn cof y dyddiau da pan myfi a godai canu’r Mochyn Du adeg gemau rygbi. Mae rhan ohonof a hoffai ymuno â chôr ond dwi’n licio canu be dwi’n licio canu, dim beth ddyweda neb arall i mi ei ganu, a dyna ddiwadd y gân. Hah, doniolwch.

Wn i ddim ai’r cyfieithydd yn fy nghalon oedd hyn, ond mi wnaeth un peth drwy’r rhaglen fy ngwylltio, sef yr adroddwr. Wn i ddim faint o weithiau glywish i genedl enwau gwallus ac mi sylwish bob tro – yr gwaethaf am wn i ‘arbenigwraig llwyddiannus’ (dwi’n meddwl mai ‘llwyddiannus’ oedd y gair a ddilynodd ond ta waeth mi dreiglodd yn anghywir), a gwnaed rhywbeth tebyg i ‘wythnos’; y ddau air yn rhai y byddai rhywun yn naturiol wybod mai ‘hon’ ydyn nhw, ac felly bod angen treiglad ar eu hôl.

Ddigwyddodd hyn ambell waith, a phob tro mi es ychydig yn fwy blinedig ar y peth. Ond fel gofynnodd Siân ychydig wythnosau’n ôl am rywbeth tebyg, do’n i ddim yn gwybod ai fi oedd yn bod yn, wel, dan din, ynteu fy mod i’n iawn i feddwl y dylia nhw wedi jyst gwneud yr ymdrech i gael y pethau ‘ma yn iawn. Achos, fel dwi’n dweud, dwi’n licio Codi Canu yn fawr – ond drwy bob hyn a hyn feddwl ‘ffycin gair benywaidd di hwnnw!’ ddaru mi ddim fwynhau cymaint ag y gallwn.

Digon posib mai chill pill sydd ei angen arna i ‘fyd!

venerdì, ottobre 08, 2010

Y Gwanwyn

Deg o gathod drewllyd
Megis melin wynt,
Naw o gathod sgleiniog
Fel malwen ar ei hynt,
Wyth o gathod cachlyd
Yn pydru ar y maes,
Saith o gathod sarrug
Yn gwnïo dillad llaes,
Chwech o gathod hyfryd
Llyfant hwy ben-glin,
Pump o gathod boliog,
Yn meddwi gyda gwin,
Pedair cath ddireidus,
Selotêp ar drên,
Piso rownd yr ysgol
Fatha dynas hen,
Tair o gathod Waldo
A dwy o’r rheini’n gi,
Sglodion efo halen,
Dyma’r peth i mi.
Dwy gath ddwl yn dawnsio
Megis carreg grych,
Darnau mân ymhobman,
Mwnci, Dafad, Drych.
Un gath fach,
Isho stid,
Yn ddi-waith
A smygu wîd.

Bastad Geirw Dychmygol

Yr wythnos hon dwi wedi cael llu o freuddwydion rhyfedd ond nid oedd â wnelo Nigel Owens dim â breuddwyd ryfedd neithiwr. Dwi’n dweud rhyfedd, ond roedd o’n eithaf arswydus mewn ffordd.

Ro’n i’n gyrru yn fy nghar hen ffasiwn drwy Lanllechid. I’r rhai ohonoch na wyddoch Llanllechid lle anwar, barbaraidd ydyw i’r gogledd o’r Rachub fetropolitaidd, gyfoes sydd ohoni heddiw. Yn sydyn reit mi welais rywbeth o’r car, ar yr ochr chwith, yn y cae, a beth oedd yno ond carw!

Dwi byth wedi gweld carw gwyllt o’r blaen dwi ddim yn meddwl, felly dyna pam stopiais ac edrych arno, efo’i gyrn balch. Ac yntau ddechreuodd edrych arna’ i. Ar fyr o dro daeth ei gyfeillion yno hefyd, ac wrth i mi adael y car, am ba reswm bynnag, ymosodasant arnaf.

Wel, fel y gallwch ddychmygu, ro’n i’n rhedeg o gwmpas y lle yn trio dianc. Mi lwyddais fynd nôl i’r car (ar ôl i un fy hyrddio yn ei erbyn) cyn i’r bwystfilod rheibus droi’r car ar ei ben. Yn y diwadd mi es i mewn i dŷ pobl ddi-hid na phoenasant am fy nghyflwr petrus na’r ffaith bod haid o geirw’n dinistrio Llanllechid.

A oeddwn yn iawn ddechrau’r wythnos i ddiystyru negeseuon isymwybodol breuddwydion? Wel, dyma ddadansoddiad y wefan hon o freuddwyd am geirw:

To see a deer in your dream, symbolizes grace, compassion, gentleness, meekness and natural beauty.

Ateb: oeddwn!

mercoledì, ottobre 06, 2010

Y Seicig

Cafwyd breuddwyd ryfedd echnos. Euthum i gapal anhysbys, gyda Nain a Mam a’r chwaer, a’r dyfarnwr rygbi, Nigel Owens, oedd y gweinidog gwadd. Roedd ‘na gryn dorf yn y capal ac mi ddechreuodd Nigel ei hannerch, gan fynd ymlaen i bwyntio allan pawb a oedd yn hoyw yn y capal. Nid mewn ffordd gas, ond i ddweud bod Duw yn caru pawb waeth pwy oeddent.

Am ryw reswm mi adewais y capal ac mi es i’r Gadeirlan Babyddol lawr y lôn wrth ymyl Waterstones os dwi’n cofio’n iawn, ac mi oedd gen i lot o ofn ond roeddwn i’n iawn ar ôl setlo a ffendio fy ffordd allan o rywbeth a ymdebygai i grypt o dan y gadeirlan ei hun a mynd i’r addolfan.

Wn i ddim ai rhywbeth sy’n y dŵr ar hyn o bryd ond dwi’n cael lot o freuddwydion am grefydd yn ddiweddar. Rhaid bod rhywbeth yn chwarae ar fy meddwl.

Serch hynny, dydw i ddim yn rhywun sy’n credu bod negeseuon cudd neu isymwybodol neu hyd yn oed oruchnaturiol i freuddwydion. Ond flynyddoedd nôl a minnau dal yn ‘rysgol mi ges freuddwyd fy mod yn darllen y Star ac mewn blwch bach fe’i nodwyd bod Paragwai wedi curo Brasil o ddwy gôl i un, a hynny am y tro cyntaf ers rhywbeth gwirion fel chwarter canrif. A’r wythnos nesa fe ddigwyddodd hynny, ac mi a’i darllennais mewn blwch bach yng nghefn y Daily Star. Anodd gen i ddiystyru hynny fel cyd-ddigwyddiad, pa beth bynnag arall ydoedd. Ro’n i’n siŵr fy mod i’n seicig am ‘chydig.

A dweud y gwir, dwi’n hoff o feddwl bod gen i agwedd ddigon iach at y pethau seicig ‘ma, fel popeth arall, sef meddwl agored ond amheugar, sef i bob pwrpas credu nad ydi rhywbeth yn wir ond yn fodlon iawn newid fy meddwl am y peth – dyna ddaru ddigwydd i mi efo crefydd, wedi’r cwbl. Yn bersonol, dwi ddim wirioneddol yn credu bod gan bobl ddawn seicig, nac y gallant weld i’r dyfodol neu i fêr yr esgyrn – nid fel yr honna’r sipsiwn efo’i peli crisial a’u dail te. W, na, tai’m i’w trysio y nhw yn de.

Ond nid dweud ydw i mai twyllo maen nhw chwaith (pobl seicig yn gyffredinol de). Dwi’n meddwl bod lot o bobl seicig yn bobl â greddf hynod ond eu bod yn dehongli’r reddf honno fel pŵer seicig. Dyna fy marn bwysig, ddi-sigl i ar y mater, oni fy mhrofir fel arall. A sut bynnag, dwi wedi cael digon o freuddwydion am y dyfodol nas gwireddwyd. Ro’n i’n fod i farw pan o’n i’n 23 oed, er enghraifft.

Dwi ddim, gyda llaw, sy’n profi nad seicig mohonof ... diolch byth.

lunedì, ottobre 04, 2010

Jagerbombs

Fi ydi’r math o berson y mae’r gwleidyddion yn troi yn eu herbyn pan ddaw at alcohol. Dwi’n yfed nes fy mod nid chwarter call gan chwydu a phiso yng Nghaerdydd benbaladr ac fel arfer yn llwyddo anafu fy hun yn y broses. A dim uffar ots gen i be mae neb yn ei feddwl o hynny, heblaw Mam. Roedd y teulu draw yr wythnos gynt. Mae gen i y nesaf peth i ddeuddeg pâr o jîns gyda’r rhan fwyaf helaeth ohonynt â thyllau lle mae’r penna gliniau.

“You’ve been drunk and falling around haven’t you?” gofynnodd Mam. Mae Mam yn gwybod bod ei mab annwyl yn hoffi yfed ac yn yfed mwy na’i siâr ond mi fyddai’n cael eithaf hartan o wybod union ofnadwyedd ei fisdimanyrs. Fedra i ddim yfed digon i lorio eliffant ond mi fedra i’n sicr yfed digon i lorio fy hun, megis y tyllau.

“No I haven’t,” medda fi’n fy ôl.

“Well what else have you been doing on your knees?” gofynnodd hithau eto. Roedd fy niffyg ateb yn awgrymu gwaeth na meddwi, ond â minnau mewn twll gaeais fy ngheg bryd hynny. Gwell iddi feddwl pa beth y mynn na gwybod mai hanner lladd ei hun bob penwythnos a wna.

Y Jagerbombs sy’n mynd â’m bryd ar hyn o bryd. Mi ddywedish hynny ambell fis yn ôl wrthoch chi. Roedd hynny’n cyfeirio’n ôl at y noson gollodd Caerdydd y gêm ail-gyfle i fynd i’r Uwchgynghrair. A ninnau’n flinedig mi ges i, Haydn, Rhys a Ceren dair rownd yr un ohonynt, sy’n gyfanswm o ddeuddeg yr un, y noson honno, ac roeddem o hyd yn rhyfeddol sobor o ystyried. Er, ‘does fawr gwaeth deimlad na bod yn eich gwely am dri y bore, yn flinedig uffernol, â’ch llygaid yn rowlio o gwmpas yr ystafell yn llwyr agored gan weddïo am gwsg ar ôl cymaint o Red Bull.

Erbyn hyn, mae Jagerbombs wedi dod yn rhan ddefodol o noson allan. ‘Sdim angen i mi ddweud mai meddwi rhywun mwy ydi’r prif nod o’u prynu ond gan ddweud hynny maen nhw’n rhoi eithaf cic yn din i rywun os dachi’n fflagio. Y broblem fwya’ ydi’r blas a gaiff rhywun yn ei geg drannoeth, ma’n afiach.

Bydd Mam yn meddu ar yr agwedd nad ydi gwario ar alcohol a sgîl-effeithiau hynny, o wneud twat o dy hun yn y Model Inn i ddisgyn dros y lle a cholli hanner dy ên i’r pen mawr erchyll anorfod, yn werth y drafferth. Dwi’n anghytuno. Mae o. Bob blydi tro.

venerdì, ottobre 01, 2010

Newyddion da o Wynedd

Ro'n i mewn tymer digon drwg bora 'ma rhwng y gwynt a'r glaw, ond mi gododd yr ysbryd yn o handi o weld bod Plaid Cymru wedi trechu Llais Gwynedd yn ward Bowydd a Rhiw ym Meirionnydd draw.

Llongyfarchiadau mawr i Paul Thomas, a gobeithio bod terfyn ffycin Llais Gwynedd gam yn nes!