domenica, maggio 06, 2012

Gwynedd: dadansoddiad ystadegol


Fe wyddoch fy mod i’n licio ystadegau, felly dyma ddarn diduedd am ffigurau Gwynedd. Ac ydyn, maen nhw’n ddigon diddorol, ond mi adawaf i eraill gynnig dadansoddiad goddrychol. Fe ranna i’r blogiad hwn yn adrannau inni weld y darlun cyfan. Er gwybodaeth, pan gyfeiriaf at aelodau annibynnol, dw i hefyd yn cynnwys y rhai heb nodi plaid, a dw i’n ymddiheuro os oes unrhyw ystadegau anghywir – mae’n lot o waith ac mae’n ddigon hawdd drysu! Serch hynny gobeithio fy mod wedi cyfleu darlun cyflawn o sefyllfa wleidyddol Gwynedd.



Gwynedd Gyfan

Newid bach iawn a gafwyd yn nifer y seddi o’i gymharu ag etholiad 2008. Plaid Cymru enillodd fwyaf (+2 sedd), gyda Llais Gwynedd hefyd yn cipio un yn fwy. Nid oedd newid yn nifer yr aelodau annibynnol na Llafur, ond aeth y Democratiaid Rhyddfrydol i lawr o 4 sedd i un yn unig.

O ran canrannau, roedd Plaid Cymru 1.7% yn uwch (40.4%), Llais Gwynedd 3.4% yn uwch (24.2%) gyda rhai annibynnol i lawr 2.7% i 22.8%, a Llafur i lawr fymryn. Etholwyd 20 o gynghorwyr yn ddiwrthwynebiad yn 2008 – 18 oedd ffigwr 2012, er bod un ward eto i ddatgan. Enillodd Llais Gwynedd fil yn fwy o bleidleisiau o gymharu â 2008, ac roedd y Blaid hefyd i fyny ryw 300-400. Roedd Llafur i lawr fymryn – yn gwbl groes i’r duedd genedlaethol – gydag ymgeiswyr annibynnol yn cael mil yn llai o bleidleisiau.

Ymddengys, ar y cyfan, fod Llais Gwynedd, ac i raddau llai Blaid Cymru, wedi elwa ar drai’r ymgeiswyr annibynnol. Pleidleisiodd 670 o bobl yn llai yn 2012 nag yn 2008.



Arfon

Yn Arfon, enillodd Plaid Cymru sedd yn ychwanegol, ac aelodau annibynnol ddwy – collodd y Dems Rhydd dair. Roedd nifer y pleidleisiau, canran y bleidlais a’r newid yn y ganran fel a ganlyn

Plaid Cymru 6,200 (39.8% - 2.5% yn is)

Annibynnol 3,757 (24.1% - 2.6% yn uwch)

Llafur 2,634 (16.9% - 2.3% yn is)

Llais Gwynedd 2,049 (13.2% gyda chynnydd o 4.9%)

Ar wahân i Lais Gwynedd felly, prin fod newid yn ardal Arfon. Er i ganran Plaid Cymru leihau, enillwyd mwy o bleidleisiau. Gwelwyd cynnydd ym mhleidlais ymgeiswyr annibynnol, un sylweddol yn un Llais Gwynedd, cwymp bach i Lafur, a haneru pleidlais y Democratiaid Rhyddfrydol – enillodd lai na mil, a cholli un o’u seddi traddodiadol yng Ngwynedd ym Menai Bangor.



Dwyfor

Disodlwyd Plaid Cymru gan Lais Gwynedd fel y blaid fwyaf yn Nwyfor. Enillodd Llais Gwynedd dair sedd ychwanegol, gyda’r Blaid yn colli dwy, ac aelodau annibynnol 1. Enillodd Llais Gwynedd 42.2% o’r bleidlais, sef cynnydd o 5.3% - ond nid oedd ond 13 pleidlais yn fwy nag yn 2008. Collodd Plaid Cymru 599 o bleidleisiau ond roedd y ganran yn sefydlog. Arhosodd pleidlais ymgeiswyr annibynnol yn sefydlog, yn wahanol i weddill Gwynedd. Cadwodd y Democratiaid Rhyddfrydol sedd yn ddiwrthwynebiad.

I raddau, gellid dadlau mai Plaid Cymru gollodd yn Nwyfor yn hytrach na Llais Gwynedd yn ennill, ond mae gan y Llais bellach 10 o’r 20 sedd yno, gyda’r Blaid ar 6 yn unig. Roedd gan Blaid Cymru 15/20 sedd yma yn etholiad 2004, ac mae’n ardal y mae’n rhaid iddi ei hadennill i sicrhau grym fel plaid fwyafrifol ar Gyngor Gwynedd.



Meirionnydd

Ni chafwyd etholiad yn 9 allan o’r 20 o seddi ym Meirionnydd (5 Plaid Cymru; 4 Annibynnol), ond cafodd Plaid Cymru lwyddiant mawr yn y seddau a gystadlwyd. Enillodd dair sedd yn fwy (fyny i 13); 862 o bleidleisiau yn fwy, a 46.7% o’r bleidlais (+15.7%).

Roedd cwymp sylweddol yn nifer y rhai a bleidleisiodd dros ymgeiswyr annibynnol (-14.6% lawr i 29.0%). Serch hynny, cafodd Llais Gwynedd noson aflwyddiannus yma. Un aelod a etholwyd (-2) a chafwyd tua 500 pleidlais yn llai. Dim ond 5 ymgeisydd a safodd dros y Llais – ond serch hynny ni safodd ond 6 yn 2008 felly gwelwyd colled yn ei chefnogaeth gyffredinol ym Meirionnydd.



Plaid Cymru v Llais Gwynedd

Cystadlodd Plaid Cymru a Llais Gwynedd yn erbyn ei gilydd am 27 o seddi – 19 ohonynt benben â’i gilydd. Yn y seddi lle mai’r unig ddau ymgeisydd oedd un o Blaid Cymru ac un o Lais Gwynedd, dyma’r canlyniad cyffredinol:

Plaid Cymru 11 sedd; 5,788 (55.6%)

Llais Gwynedd 8 sedd; 4,616 (44.4%)

Felly Plaid Cymru enillodd y frwydr benben, a hynny yn gymharol hawdd ar y cyfan. Pan luchiwyd gwrthwynebwyr eraill i’r ornest (ar gyfer 8 sedd mewn 7 ward), cymerodd bethau tro diddorol iawn. Felly yr oedd:

Llais Gwynedd 4 sedd; 1,978 (30.1%)

Plaid Cymru 3 sedd; 2,129 (32.4%)

Eraill 2 sedd; 2,470 (37.5%)

Awgryma hyn raniad ym mhleidlais Plaid Cymru pan gafwyd amryw ymgeisydd, a Llais Gwynedd fanteisiodd ar hynny. Serch hynny, pe bai’r seddi hyn yn rhai penben rhwng y Blaid a’r Llais, mae’n aneglur pwy fyddai wedi ennill, er bod y ffigurau penben yn awgrymu y byddai gan Blaid Cymru fantais.  



Casgliad

Cafodd Plaid Cymru etholiad llwyddiannus yng Ngwynedd eleni, er iddi fethu â chipio mwyafrif dros bawb. Gwelodd gynnydd yn ei phleidlais a chipiodd seddi ychwanegol. Er colli yn Nwyfor, a cholli’n wael o ran seddi, ni chollodd yn fawr o ran y bleidlais, a chafodd gynnydd sylweddol iawn ym Meirionnydd. Serch hynny, i’r blaid yn lleol, rhaid atgyfnerthu yn Nwyfor eto i sicrhau mwyafrifau ar y cyngor. Ar y llaw arall, mae hi wedi cryfhau ei gafael ar Arfon a Meirionnydd, ond awgryma’r canlyniadau o hyd elfen o ddadrithio â hi yn y sir.

Roedd etholiad Llais Gwynedd yn llwyddiant ar y cyfan, ond roedd ei pherfformiad ym Meirionnydd yn wan tu hwnt. Dangosodd nad fflach mo llwyddiannau 2008, a llwyddodd i ddal tir a enillwyd yn Nwyfor yn dda iawn. Serch hynny, ni safodd cymaint o ymgeiswyr ag y gobeithid (nifer sylweddol yn llai os rhywbeth), a phan aeth benben â’i phrif elynion, Plaid Cymru, aflwyddiannus ydoedd ar y cyfan.

Collodd ymgeiswyr annibynnol lawer iawn o bleidleisiau y tro hwn – er y cedwid 18 o seddi. Serch hynny, mae mwy o aelodau annibynnol ar y cyngor nag yn 2004, pan roedd 11.

Nid yn annisgwyl, chwalodd pleidlais y Democratiaid Rhyddfrydol, ac nid oedd gan y Ceidwadwyr fyth obaith mewn unrhyw ward yng Ngwynedd.

Gwelodd Llafur unwaith eto ddirywiad yng Ngwynedd, yn gwbl groes i unrhyw ran arall o Gymru. Awgryma wendid mawr yn y blaid leol o ran trefniadaeth a gweithgarwch, er yn Arfon gwelwyd yn 2010 bod o hyd bleidlais Lafur gref yma ar lefel Brydeinig nas adlewyrchir ar y lefel leol.

sabato, maggio 05, 2012

Peidiwch â digalonni: ymateb i'r etholiadau lleol


Gan nad ydi trydar yn cynnig digon o le i rywun fynegi barn gyflawn, dyma fi yma am y tro cyntaf ers misoedd maith i wneud hynny, a hynny yn sgîl yr etholiadau lleol a gynhaliwyd ddydd Iau. Dw i’n teimlo rheidrwydd i fynegi fy hun am hyn oherwydd ambell i ymateb hysteraidd gan Bleidwyr yn disgrifio’r canlyniad fel trychineb, ac ymateb rhai o’n gwrthwynebwyr sy’n honni rhywbeth tebyg. Ond doedd o ddim.

Yn gyntaf, chwi gofiwch efallai fy mod i droeon ar y blog hwn wedi digio i’r dim at Blaid Cymru, yn arbennig ar ôl canlyniadau 2010 a 2011, pan geisiodd y Blaid honni nad oedd yr etholiadau hynny’n rhy ddrwg yn y bôn (Er gwybodaeth, dwi wedi ailymaelodi erbyn hyn. Dal i ddigio at y Blaid yn aml fydda i o hyd cofiwch, mae ‘na lot o bethau dwi’n anghytuno â hi yn eu cylch!).  Ond y gwir ydi roedd y ddau etholiad hynny’n warthus i’r Blaid, a dydw i ddim yn un i roi mêl ar sefyllfa i’w melysu. Deuaf at fy mhryderon, oherwydd mae digon o resymau i siomi â’r canlyniad, ond gadewch inni ddweud y ffeithiau.

Collodd Plaid Cymru ddeugain sedd eleni, tua 20% o’i chynghorwyr, sy’n nifer sylweddol. Ond roedd hwn yn etholiad lle roedd ‘na gorwynt Llafuraidd i’w wynebu. Fe ysgubodd Llafur y gwrthwynebiad i’r neilltu, ond Plaid Cymru wrthsafodd y storom orau. Collodd y Ceidwadwyr dros draean o’u seddi nhw, a’r Democratiaid Rhyddfrydol hanner. Collodd aelodau Annibynnol ac eraill fwy na ni hefyd. Un wers inni yma ydi polau piniwn. Roedd arolwg barn diweddaraf YouGov yn dweud y câi Llafur tua hanner y bleidlais, ac fe wnaeth llawer iawn ohonom fwrw amheuaeth fawr drosto – yn sgîl y canlyniadau synnwn i ddim petai’r arolwg yn agos at y gwir. Rhaid derbyn bod arolygon barn Cymru erbyn hyn yn rhai sy’n agos ati wrth ddarogan canlyniadau. Nid y byddai credu’r arolwg wedi bod o fudd, ond pan fydd pethau'n edrych yn ddu yn yr arolygon barn, ddylen ni gymryd sylw.

Cofiwn hefyd, roedd 2008 yn rhyfeddol o dda inni, i’r fath raddau na wnaethom lawn werthfawrogi’r peth. Enillwyd mewn ardaloedd nas cynrychiolwyd gennym ynghynt. Er inni golli nifer o seddi yn 2012, ni chollwyd yr enillion hynny’n llwyr. Mae o hyd gynghorwyr yng Nghaerdydd, Torfaen a Wrecsam, er enghraifft, a gallai hynny fod yn bwysig yn y dyfodol. Beth am ardaloedd eraill?

Ceir o hyd garfan gref yng Nghaerffili, sy’n sylfaen i adennill y cyngor y tro nesaf. Roedd Rhondda Cynon Taf, ar y llaw arall, yn siomedig tu hwnt – ond rhaid cofio, ac eithrio yn ’99, dydyn ni byth wedi bygwth yno, ac mae’n parhau’n gadarnle dihafal i Lafur. Dydw i ddim yn gwybod os bydd Leanne Wood yn ein galluogi i atgyfnerthu mewn llefydd felly, amser a ddengys, ond dydi Leanne heb gael amser eto.

Mae’n biti mawr inni golli Caerffili. Roedd yn gyngor a reolwyd yn dda iawn, iawn dan ein llywyddiaeth ni. Ond rhaid inni jyst dderbyn, dydi rheoli cyngor yn dda ddim yn golygu y byddwn ni’n ei gadw dan ein rheolaeth, a dydi hynny ddim yn unigryw inni – dwi’n siŵr bod digon o gynghorau Ceidwadol a Rhyddfrydol digon gweithgar a llwyddiannus wedi’u colli i Lafur yn Lloegr oherwydd y cyd-destun ehangach, a’u bod nhw fel ni yn ddiymadferth i atal hynny rhag digwydd. Dywedaf yn amharod ond yn wir fod Caerdydd yn enghraifft dda o hyn.

Hefyd, efallai bod yn rhaid inni dderbyn bod ein perfformiad ni ddim yn ddibynnol arnom ni’n hunain i raddau helaeth, ond ar fympwy tueddiadau gwleidyddol Prydeinig. Pwynt niwtral, os rhwystredig iawn, ydi hynny, gyda llaw – weithiau fydd hi’n dda ac weithiau fydd hi’n waeth – ond gwell yw cofio hynny pan fo pethau’n edrych yn dywyll arnom na cholli gwallt dros y peth.

Beth am y gorllewin? Darlun cymysg eto oedd hi. Yn Sir Gâr, gwrthbwyswyd colledion Llanelli gydag enillion yng ngweddill y Sir, ac rydym yn parhau fel y blaid fwyaf yno. Rhaid peidio â digalonni gormod â'r hyn ddigwyddodd – rhaid deall bod ardal Llanelli’n parhau yn wleidyddol debycach i’r Cymoedd na gweddill Sir Gâr, ac o ystyried y storom berffaith a gafodd Llafur cyn yr etholiad, roedd cadw rhai o’r seddi hynny wastad am fod yn anodd. Roedd Ceredigion yn siomedig iawn. Un arwydd da oedd inni ennill seddi gan y Dems Rhydd, er inni golli i aelodau Annibynnol. Serch hynny, mae’n bosib, er ein bod sedd i lawr ar 2008, y bydd hi’n haws denu aelodau annibynnol i’n cefnogi er mwyn arwain y sir am y tro cyntaf erioed. Neith hynny’n iawn.

Cael a chael oedd hi drwy’r gogledd, heb fawr newid ar y cyfan. Dylen ni fod yn siomedig na chipiwyd Gwynedd, ond eto cafwyd perfformiad cryfach nag yn 2008 ... ac mae ‘na isetholiad ar y gorwel a allai ildio mwyafrif inni. Serch hynny, mae’n amlwg iawn nad ydi Llais Gwynedd ar ddarfod, a hi bellach yw prif blaid Dwyfor, sef cartref ysbrydol cenedlaetholdeb. Ac eto, mae’n amlwg iawn bod gwleidyddiaeth Gwynedd – ynghyd â Cheredigion – yn unigryw ac yn annibynnol ar batrymau cenedlaethol.

Fel y dywedais, mae yna bryderon inni ym Mhlaid Cymru yn deillio o’r etholiad hwn. Diwedd y gân ydi mi gollasom seddi, er nad ydym, yn wahanol i’r tair plaid arall, mewn math o rym ar lefel genedlaethol neu Brydeinig. Hefyd, mae’n amlwg imi, er gwaetha’r ffaith bod ganddi arweinydd hurt ar lefel Brydeinig,  nad pleidlais brotest yn unig oedd hon i Lafur. Petai’n bleidlais brotest, fe ddylai Plaid Cymru fod wedi gwneud yn well (tybed a ydym wedi ymbellhau cymaint o’r ddelwedd ohonom fel plaid brotest fel na allem ddenu pleidlais brotest mwyach? Trafoder!) – roedd elfen gref iawn o gefnogaeth dros Lafur. Nid dim ond yng Nghymru y gwelwyd hyn – roedd hi hefyd felly’n Yr Alban, sy’n ddiddorol a dweud y lleiaf.

Nid oedd cyfnod 1999 – 2009 wedi sefydlu patrwm amlbleidiol yng Nghymru, fel y tybiasom. Yn hytrach, efallai mai blip i’r blaid Lafur ydoedd. Efallai ddim – ond mae’n bosibiliad. Y mae’r Cymry yn draddodiadol yn heidio at Lafur pan fydd pethau’n ddrwg arnynt. Dydi hynny, er y carem feddwl yn wahanol, heb newid.

Yr her i’r Blaid ydi ei thactegau dros y blynyddoedd nesaf. Mae’n rhaid iddi fod yn graff, a chofio mai prif nod unrhyw blaid wleidyddol ydi ennill etholiadau ac nid dadleuon syniadaethol, a bwrw ati i wneud hynny. Y nod ydi 2016. Mae’n rhy fuan i ddarogan dim, ond tybiai rhywun y bydd y sefyllfa bryd hynny’n hawdd ei rhagweld. Bydd UKIP a Llafur yn gwneud yn dda yn 2014. Yn 2015, caiff y glymblaid ei hysgubo o’r neilltu – fydd y Dems Rhydd wedi’u difa’n llwyr ac mi fydd y Ceidwadwyr mewn sefyllfa debyg i ’97, os nad yn waeth. Yn wir, rhagwela ambell i sylwebydd y bydd adain dde ranedig ym Mhrydain erbyn hynny gyda UKIP yn dwyn pleidleisiau lu gan y Ceidwadwyr. A bydd y blaid Lafur yn etifeddu economi a fydd o hyd mewn cyflwr gwael.

Ac mae hynny oll heb ystyried y ffaith y gallai’r Alban fod yn annibynnol bryd hynny. Dw i ddim yn gwybod a fydd hi, ond mae’n elfen arall i’r gymysgedd.

Yn 2016, bydd Llafur wedi rheoli Cymru ers 17 mlynedd hir. Bydd hi mewn grym yn Llundain a hynny yng nghanol trybini economaidd, gydag arweinydd a etholwyd am nad David Cameron mohono, nid am ei fod yntau’n boblogaidd ei hun. Bydd gan y Ceidwadwyr a’r Dems Rhydd eu problemau eu hunain hefyd – dydi hi ddim yn amhosib na fydd y Dems Rhydd yn bodoli mwyach. Yn debyg i 1999, gallai 2016 fod yn adeg berffaith i awr fawr Plaid Cymru ddyfod. Yn wir, mewn rhai ffyrdd, gallai fod yn well.

Ta waeth, nôl i rŵan, y pwynt ydi hyn – er nad ydym ni yn y sefyllfa gryfaf ar hyn o bryd, gallai eleni fod wedi bod yn llawer, llawer gwaeth. Ond doedd hi ddim. Dydyn ni ddim wedi ein hysgubo o ardaloedd 2008, er i’n cynrychiolaeth yno leihau, a gwrthsafwyd y storom yn well na phleidiau eraill, er ein bod ni yn wahanol iddyn nhw wrthi’n ailadeiladu. Megis dechrau mae’r gwaith hwnnw a megis dechrau mae’r daith i 2016.

Roedd ymateb rhai yn y trydarfyd yn orymateb llwyr – roedd o’n ymylu ar hysteria. Dw i’n rhannu eich siom i’r dim, ond dydi’r byd ddim ar ben, ac er ein sefydlu bron i 90 mlynedd yn ôl erbyn hyn, megis dechrau mae’r frwydr dros ryddid o ddifrif.
 

A ydy'r sefyllfa yn anobeithiol? Ydy', wrth gwrs, os bodlonwn ni i anobeithio. 'Does dim yn y byd yn fwy cysurus nag anobeithio. Wedyn gall dyn fynd ymlaen i fwynhau byw.

-          Saunders Lewis