domenica, luglio 06, 2014

Breuddwyd Nain

"Roedda ni am fynd ar ein gwyliau. Chdi a fi a dy chwaer a Blodwen. Dyma fi'n pacio fy siwtces ac roedd o'n fawr a 'ma fi'n cael traffarth fynd â fo i'r giât. Aros am y bws oedda ni yn Llansadwrn a dyma fi'n edrych yn ôl i fyny'r lôn wrth iddo fo gyrradd at Pros Kairon ac roedd y gath 'di dod lawr efo fi. Wel to'n i'm am fynd ar ngwyliau efo'r gath a dyma fi'n deud hynna wrthi ac wedyn o'i i'n poeni 'sa hi'n rhedag i'r lôn.

"Mae 'na drafferth efo'r anifeiliaid 'ma," meddwn i wrth Blod.

"Wn i," medda hi, "mae gen i iâr ac mae honno'r un fath".

A dyma ni'n mynd ar y bws wedyn ar ein holidês."

7 commenti:

  1. Lle di Pros Kairon Jason?

    RispondiElimina
  2. Fferm yn Ardal Llansadwrn - hen fferm y teulu lle magwyd fy Nain a'i brodyr a'i chwiorydd. Heb fod yno ers blynyddoedd maith iawn.

    RispondiElimina
  3. Roedd perthnasau i mi efo ty o'r un enw yn C/narfon. Roedd gwraig y ty yn dod o ochrau Pesda.

    RispondiElimina
  4. Teulu Sir Fôn fi ddim i wneud â Pesda - mae na ambell i Bros Kairon o amgylch y lle, ma'n golygu rhywbeth mewn hen Roegeg, enw difyr ar fferm yng Nghymru os felly!

    RispondiElimina
  5. "Am amser" neu "Am amser byr" ydi "pros kairon".

    Enw da am B&B yng Ngriccieth (yn wir!), ond enw theolegol iawn am fferm.

    RispondiElimina
  6. Anonimo11:00 PM

    Mae yna ardal o'r enw 'Procairon' yn Wisconsin, wedi ei enwi ar ol cartref rhywun a fudodd o Deiniolen tua 1850. Yr oedd o'n sefyll wrth ymyl lle mae eglwys Llandinorwig rwan.

    RispondiElimina