mercoledì, marzo 18, 2015

Proffwydo 2015: Ceredigion

Dyma ni. Mi addewais y byddwn i’n dadansoddi Ceredigion a hynny a wnaf, er yn hwyrach nag oeddwn i’n disgwyl gwneud.

Bydd hwn yn etholiad difyr yng Ngheredigion, ond mae’n anodd gwybod yn union beth i’w wneud ohoni. Cyn mynd i ddadansoddiad mwy manwl, fe wyddoch debyg mai un o ddwy blaid fydd yn ennill yma eleni: y Democratiaid Rhyddfrydol neu Blaid Cymru. Mae yna gymaint o elfennau a allai effeithio ar yr etholiad hwn. Gadewch i mi ddechrau gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Yn syml, o ran cadw’r sedd, ddylai o ddim ar yr olwg gyntaf fod yn broblem. Yn 2010 roedd mwyafrif y blaid yma dros 8,000 o bleidleisiau, gan ennill 50% o’r bleidlais. Ni ddylid diystyru hynny o gwbl – mae’n fwyafrif hynod o gadarn. I ategu hynny, mae Mark Williams yn aelod lleol poblogaidd iawn sy’n gwybod sut mae ymladd etholiadau. Yn wir, mae’n gwybod pwy sy’n pleidleisio drosto a sut i’w hudo ac mae hynny’n angenrheidiol mewn gwleidydd da.

Fel arfer dylai hynny fod yn ddigonol. Ond y tro hwn mae pethau’n y fantol. Mae’r Dems Rhydd yn gwaedu pleidleisiau yng Nghymru yn ôl y polau Cymreig – cawson nhw 20% o’r bleidlais yn 2010, ond yn yr arolwg barn Cymreig diwethaf ni chawsant ond 5%. Yn gyffredinol mae’r polau’n dangos y byddan nhw’n colli dwy ran o dair i dri chwarter o’u pleidlais yma.

Fodd bynnag, y farn gyffredinol ydi na fyddan nhw’n colli cymaint â hynny ym mhob sedd ac y byddan nhw’n gadarnach yn y seddi maen nhw’n eu dal. Mae synnwyr cyffredin yn dweud bod hynny’n wir, ond os edrychwch chi’n fanwl ar rai o bolau’r Arglwydd Ashcroft (dyma un Brycheiniog a Maesyfed) hyd yn oed yn y seddi hynny maen nhw’n ddigon tebygol o golli traean da o’u pleidlais. Ydi, mae eu pleidlais nhw’n wytnach yn y seddi sydd ganddynt ... ond dydi hi ddim ychwaith yn wydn.

Roedd ffigurau’r pôl y cyfeiriais ato uchod gan yr Arglwydd Ashcroft, ym Mrycheiniog a Maesyfed, gyda llaw, yn gofyn i bobl feddwl am eu hetholaeth benodol nhw sy’n golygu meddwl am yr ymgeiswyr. Mae Roger Williams yr AS presennol, fel Mark Williams, yn aelod lleol poblogaidd. Os ydi yntau’n debygol o golli talp mor fawr o’i bleidlais, mae’n hollol bosibl y bydd Mark Williams hefyd.

Un elfen sydd i’w chael yng Ngheredigion fodd bynnag ydi’r bleidlais myfyrwyr. Gwnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn dda ymhlith myfyrwyr y tro diwethaf, fel y maen nhw wedi yn draddodiadol, ac mi fydd yn ffactor yn yr etholaeth y tro hwn. Fodd bynnag, wnaethon nhw ddim gystal ag y byddai rhywun yn ei ddisgwyl yn 2010 – tua 48% bleidleisiodd Dem Rhydd yn 2010. Ro’n i’n rhyw ddisgwyl i’r ffigur fod yn uwch fy hun.

Y mae’n anwyddonol tu hwnt gymhwyso’r ganran honno i bobman, ond er mwyn ceisio darogan beth am wneud hynny? Mae tua 11,000 o fyfyrwyr yng Ngheredigion – petai tua hanner ohonynt wedi pleidleisio dros Mark Williams yn 2010 mae hynny o leiaf yn 5,000 o bleidleisiau – er o ystyried gweithgarwch y blaid ymhlith myfyrwyr Aberystwyth yn benodol, gallai’n hawdd fod yn fwy. Yn ôl y British Election Study (a ddywed mai 44% o fyfyrwyr bleidleisiodd dros y Democratiaid Rhyddfrydol yn 2010), mae cefnogaeth i’r blaid ymhlith myfyrwyr wedi gostwng i 13%. Mae hynny’n ostyngiad sylweddol, a phetai’n wir yng Ngheredigion byddai’n awgrymu y byddai tua 2,000-3,000 o fyfyrwyr yn pleidleisio dros y blaid yn 2015 yno. O ystyried hefyd fod cangen wleidyddol y blaid ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi chwalu fwy na heb, dydi hynny ddim yn ffigur afrealistig.

Ond nid myfyrwyr mo’r rhan fwyaf o bobl Ceredigion o bell ffordd. Mae tua 48,000 o etholwyr yng Ngheredigion nad ydynt yn fyfyrwyr, a does yna ddim amheuaeth i Mark Williams ennill ymhlith y trwch ohonyn nhw y tro diwethaf. O pleidleisiodd 5,000-6,000 o fyfyrwyr yng Ngheredigion dros y Dems Rhydd y tro diwethaf mae hynny’n gadael tua 13,000-14,000 o drigolion arferol a bleidleisiodd dros yr AS presennol.

Yma mae pethau’n mynd yn ddifyr. Awgrymwyd yn etholaeth gyfagos Mrycheiniog a Maesyfed y gallai traean o bleidleiswyr 2010 beidio â bwrw pleidlais i’r Democratiaid Rhyddfrydol yn 2015 yn y seddi sydd ganddynt (mae ffigur tebyg i’w weld yn nifer o’u seddi presennol, gyda llaw). Rŵan, mae ‘na elfen o ffantasi’n perthyn i ddarogan fel hyn bob tro, ond ddywedwn ni fod rhyw 30% o’r 14k (y nifer uchaf dybiwn i o drigolion parhaol bleidleisiodd DRh yn 2010) yn peidio â phleidleisio y tro hwn, mae hynny’n golygu mai tua 10,000 fyddai’n rhoi eu ffydd yn Mark Williams fis Mai.

Mae yna ffactorau eraill ar waith – dwi ddim yn eu diystyru – ond o chwarae gêm rifol â’r ystadegau uchod, bosib y bydd pleidlais y Dems Rhydd y tro hwn mor isel ag 11,000 ac mor uchel ag ... 13,000. Mae pa un a fydd y bleidlais yn dal yma’n gadarnach na hynny neu ba un a fydd yn agosach at ddilyn patrymau Cymru gyfan yn agored i drafodaeth gwbl academaidd. Ond dwi ddim yn meddwl bod 11,000 – 13,000 yn bell ohoni.

Iawn, dyna ddarfod sôn am y Democratiaid Rhyddfrydol. Ymlaen at Blaid Cymru. Mae dwy elfen i’w gobeithion hithau hefyd. Mae eu hymgeisydd i weld yn ddyn digon deallus – gallai’r ffaith ei fod yn Sais weithio yn ei erbyn ac o’i blaid er gwaetha’r ffaith fod ganddo Gymraeg – ond yn fwy cyffredinol mae gan Blaid Cymru ei hun bach o broblem. Dydi’r polau Cymreig ddim wedi bod yn rhy garedig iddi chwaith. Segura mae hi ar rhwng 10% a 13%.

Cafodd y Blaid 10,815 o bleidleisiau yn 2010, a thros y blynyddoedd diwethaf dydi hi ddim i weld fod ei huchafswm pleidleisiau, fel petai, yn fawr uwch na hynny. Cafodd Simon Thomas 13,241 yn 2001, 12,911 yn 2005 a chafodd Penri James 10,815 yn 2010. Mae pleidlais Elin Jones yn y Cynulliad wedi amrywio’n sylweddol hefyd – 11,883 (2001), 14,818 (2005) a 12,020 (2011). Ymddengys fod yna lefel benodol o gefnogaeth i Blaid Cymru wedi sefydlu yn yr etholaeth ... yn ddiddorol ddigon mae’n agos iawn at faint o bleidleisiau dwi’n rhagweld y Democratiaid Rhyddfrydol yn eu cael yma yn 2015.

Ond i ychwanegu agwedd ddiddorol at y gymysgedd, ym mholau Ashcroft yng Nghymru (oll mewn ardaloedd digon gwan i’r Blaid), pan ofynnir i bobl dros bwy y byddant yn pleidleisio o ystyried eu hetholaeth, mae Plaid Cymru’n gwneud yn well (weithiau’n sylweddol well) nag yn y cwestiwn cyffredinol. Bydd Ceredigion yn etholaeth bendant lle bydd pobl yn canolbwyntio ar y frwydr leol yn hytrach na’r darlun cyffredinol, a allai fod yn fuddiol i Blaid Cymru. Eto, myfyrio am yr hyn a allai ddigwydd ydi hynny yn hytrach na chyflwyno dadl gadarn mai dyna fydd yn digwydd.

Y peth allweddol i’r Blaid ydi faint o Ddemocratiaid Rhyddfrydol 2010 y gall eu hudo i’w chorlan. Yr ateb syml i hynny o’m rhan i ydi dwi ddim yn gwybod. Ond roedd yn ddiddorol gen i ddarllen y geiriau canlynol gan Dafydd Wigley yn ddiweddar yn y Mule, pan ddywedodd am seddi targed y Blaid

We’re ahead certainly in one of them, we’re neck and neck in another one and striking in another.

Sôn oedd am bolio mewnol y Blaid, a dwi’n naturiol amheus o bolau mewnol pleidiau heb sôn am duedd fythol y Blaid o fod yn orhyderus mewn etholiadau, ond mae’n berffaith amlwg mai’r ail sedd y soniodd amdani uchod oedd Ceredigion. Ac mae hynny’n rhyw gyd-fynd â’r hyn dwi wedi’i ddweud uchod yn y blogiad hwn. Do, mae’r hen Wigley wedi cael ymgyrch anarferol ffwndrus, ond mae’r boi dal yn gwybod ei stwff.

A all Plaid Cymru ddenu fil neu ddwy o bleidleisiau coll y Dems Rhydd felly? Gall ydi’r ateb, ac yn fwy na hynny mae’n hollol resymol dweud y gallai hynny fod yn ddigon i gipio’r sedd. Dwi’n rhyw feddwl, hyd yn oed yng Ngheredigion, yr aiff llawer o bleidleisiau coll y DRh i Lafur, yn enwedig yn Aberystwyth ac Aberteifi. Ac eto, tybed faint o fyfyrwyr y bydd Mike Parker a Leanne Wood yn apelio ato y tro hwn yn hytrach na Nick Clegg a Mark Williams? Eto, dyfalu fyddai dweud – byddai rhywun yn reddfol feddwl ambell un o leiaf.

Dywedais o’r blaen mai’r Dems Rhydd fyddai’n cadw Ceredigion. Petawn i heddiw yn gorfod mentro swllt ar y sedd hon, byddwn i’n newid fy narogan, a byddwn i’n rhoi Ceredigion i Blaid Cymru o ychydig gannoedd o bleidleisiau.

Cawn weld.

11 commenti:

  1. Diddorol - ond un pwynt brysiog - mae cofrestr etholiadol Ceredigion yn llawer llai eleni nag oedd yn 2010 - i raddau helaeth oherwydd nad oes llawer o fyfyrwyr wedi cofrestru.

    RispondiElimina
  2. Diolch Cai, wyddwn i ddim mo hynny. Dio'm yn Dweud gormod dweud bod hynny o fantais i Blaid Cymru, ond gyda chefnogaeth y Dems Rhydd mor isel efallai na fydd hynny'n effeithio gormod ar y darogan uchod, y brif frwydr o hyd fydd trigolion parhaol yr etholaeth.

    RispondiElimina
  3. Anonimo7:19 AM

    Un peth yr wyt wedi diystyrru - mae'r ymgeisydd Llafur yn Gymro Cymraeg a fagwyd yn lleol. Mae hefyd dipyn iau na'r ymgeiswyr Lib Dem a PC.

    RispondiElimina
  4. Synnwn i ddim o gwbl os taw'r ymgeisydd Llafur 'sgwennodd y neges uchod...

    Gallai'r ffaith ei fod yn Gymro Cymraeg fod o help - ond actiwli dio'm i weld fod iaith yr ymgeisydd wedi cael effaith enfawr ar y canlyniad yn yr etholaeth ers tro byd.

    Dydi'r ffaith ei fod o'n ifanc yn golygu dim, gyda llaw. Os rhywbeth mae pobl yn tueddu i bleidleisio dros ymgeiswyr bach yn hŷn.

    RispondiElimina
  5. Be di'r gobaith y bydd a Toriaid a Llafur yn 5ed a 6ed? Digon o son bod y gwyrddion yn gwneud yn dda ymysg myfyrwyr, a mi fydd UKIP yn denu rhywfaint go lew yng Ngeredigion?

    Diddorol iawn, gyda llaw.

    RispondiElimina
  6. Cai, faint yn llai ydi'r gofrestr?

    RispondiElimina
  7. Dwi ddim yn cofio Ioan - ond rydan ni'n son am filoedd.

    RispondiElimina
  8. Anonimo12:19 PM

    Diolch am y sylw gwatwarus ar fy nghyyfraniad (7:19) beth amser yn ol.
    Nid ymgesiydd Llafur mohonof, ond aelod gweithredol o Blaid Cymru sy'n nabod Ceredigion, a drwy gysylltiadau gwaith, yn digwydd adnabod cefndir yr ymgeisydd Llafur.
    Mae'r math o hogyn a fuasai'n gaffaeliad enfawr i PC, ond am resymau nad wyf yn deall, gwrthododd genedlaetholdeb yn gynnar. Wedi dweud hynny, mae'n dod o deulu uchel iawn eu parch yn yr ardal.
    Bellach, dechreuodd posteri fynd i fyny yn y caeau ayb. Mae posteri'r Blaid ar y blaen, fel arfer, ond mae
    mwy nac arfer o rai'r Balid Lafur.
    Cyn echddoe, buaswn wedei dweud fod siawns y Blaid o ennill yn dibynnu ar faint o fyfyrwyr fuasai'n hepgor pleidlais i Mark Williams er mwyn pleidleisio i'r Blaid Lafur.
    Buasai perfformans Leanne Wood wythnos yn ol wedi dylanwadeu ar rai, ond rhaid cofio mai Saeson a thramorwyr yw trwch y myfyrwyr, heb ddiddordeb na chrebwyll o genedlaetholdeb Cymraeg.
    Ar ol y datguddiad yma am waith Mike Parker, mae pethau'n aneglur eto. Credaf fod curo Mark Williams yn dibynnu ar i'r AS gyflawni camgymeriad neu 'gaffe' . Ni wnaeth hynny erioed - mae'n ddi-liw a gofalus hyd at ddiflastod, ond mae'n ddyn dymunol a didwyll, ac yn gweithio, i bob pwrpas , fel cynghorydd sir. Nid yw'n rhoi rheswm i bobl beidio pleidleisio drosto, mewn geiriau eraill.
    Diofalwch rhywun ym Mhantycelyn ac 'ego' Simon Thomas a gollodd y sedd, ond mae angen rhyw 'Gamechanger' go iawn i'w hadennill, sef rhyw ddigwyddiad 'Keith-Bestaidd' .

    RispondiElimina
  9. Diolch am y sylw uchod. Mae'n ddrwg gen i am dod drosodd yn watwarus, ond dwi'n meddwl fod sylwedd fy ateb yn gywir, yn enwedig o ran y ffaith ei fod yn ymgeisydd ifanc.

    Dwi eto'n meddwl bod y sefyllfa'n aneglur o ran pwy fydd yn ennill -dwi'n fwy ar y ffens nag o'n i pan ysgrifennais i hyn!

    Dwi hefyd ar ddeall erbyn hyn - o ffynonellau gwahanol - fod yr ymgeisydd Llafur yn gwneud yn eithaf da ymhlith rhai carfannau o gefnogwyr Plaid Cymru.

    Dydw i ddim mewn sefyllfa i allu mynd i fanylder ... ond, dydi Huw Thomas ddim y math o wleidydd hoffwn i ei weld ym Mhlaid Cymru. Mae'n bur amlwg i rywun sy'n ei ddilyn fod o'n wleidydd gyrfa, a does gen i'n bersonol ddim y mymryn lleiaf o barch i bobl fel'na. Ond ma'n ffitio'r mowld Llafur yn berffaith - y blaid sydd bwysicaf, nid egwyddorion.

    Er, mi ddywedwn i hynny am unrhyw un sy'n ymochri â chriw Russell Goodway yng Nghaerdydd.

    RispondiElimina
  10. Anonimo4:41 PM

    Mae yna eironi yma. Mae'r ymgeisydd Llafur yn dod o gefndir y buasai rhywun yn disgwyl fuasai'n esgor ar genedlaetholwr. Mae'r ymgesiydd PC yn dod o gefndir lle fuasai rhywun yn disgwyl Llafurwr. Yn yr oes yma, mae'r mwyafrif o ddarpar aelodau seneddol yn bobl sydd a gradd. Arferai'r Blaid Lafur gynhyrchu Aelodau seneddol o blith undebwyr, ond ni ddigwydd hynny bellach.
    Credaf fod pob aelod seneddol a etholwyd erioed o PC wedi bod yn y brifysgol, a diddorol fuasai astudio faint o ymgeiswyr PC sydd heb radd. Mae'n dilyn felly fod problem gan PC yng Ngheredigion am genhedlaeth i ddod. Mae'r holl Gymry Cymraeg academaidd yn gadael, yn mynd i'r coleg yn rhwyle arall, ac yn aros yna. Lle mae'r darpar ymgeiswyr lleol o genedlaetholwyr ? Yr ateb ydi, yn cael bywyd braf yng Nghaerdydd. Os ydynt yn aros yn lleol, y tebygrwydd yw nad oes cefndir academaidd ganddynt, ac na fuasent yn ymwneud a gwleidyddiaeth.
    Drwy ddamwain anffodus, pan gyfyd un o fewn y byd gwleidyddol, daw o rengoedd y Blaid Lafur, gyda proffil sydd yn ffitio'r ardal yn arbennig o dda.
    Da gweld dy fod yn derbyn fy mhwynt gwreiddiol am y perygl o du'r ymgeisydd Llafur. Ar sawl ystyr, mae'n fwy atyniadol i Gymry ifanc yr ardal na'r ' ffigwr amlwg' Mike Parker.

    RispondiElimina
  11. Anonimo12:32 PM

    Erbyn gweld, efallai mai'r rheswm ei fod yn denu Cymry ifanc yw ei fod yn fwy gwrth-Seisnig na Mike Parker !
    Mae wythnos yng gyfnod hir yng Ngheredigion.......

    RispondiElimina