lunedì, maggio 18, 2015

Tri phwynt ynghylch etholiad 2016 a Phlaid Cymru

Wna i fod yn gryno am unwaith. Mae yna nifer o bobl, oddi mewn i Blaid Cymru’n bennaf, sydd bron fel petaent yn disgwyl i Blaid Cymru ennill tir etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesaf. Mae BlogMenai wedi eu trafod ac mae’r rhesymau mae Cai yn eu nodi yn rhai gwir. Ond mae yna dri phwynt dwi am eu codi ynglŷn â pham y gallai’r etholiadau hynny o hyd fod yn rhai anodd iddi, a dydi hynny neb ystyried ffactorau fel UKIP a’r ffaith y bydd Llafur yn wynebu llywodraeth Geidwadol yn Llundain.

 
Amlygrwydd Leanne Wood

Mae’n ymddangos mai Leanne Wood ydi bellach yr arweinydd gwleidyddol amlycaf yng Nghymru. Dydi hynny ond â gallu bod yn beth da. Serch hynny, y gwir ydi dwi ddim yn gweld unrhyw reswm i feddwl y caiff etholiadau’r Cynulliad fwy o sylw y flwyddyn nesaf yn y cyfryngau Prydeinig – sef o le y caiff y rhan fwyaf o bobl Cymru eu newyddion o hyd – ac felly ni chaiff y Blaid yn awtomatig yr un sylw ac y gafodd y tro hwn, mewn ffordd ryfedd. Teg hefyd yw dweud, pan ddaeth hi lawr ati, na lwyddwyd i fanteisio ar y sylw hwnnw; wedi’r cyfan ni chynyddodd pleidlais Plaid Cymru ond 16,300 oddi ar 2010. Yn waeth na hynny efallai, roedd 11,645 o’r cynnydd hwnnw – dros 70% – mewn pum sedd, sef Arfon, Ynys Môn, Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Gorllewin Caerdydd a’r Rhondda.

 

“Mae Plaid Cymru’n gwneud yn well yn y Cynulliad”

Isod mae tabl o berfformiadau Plaid Cymru ar lefel San Steffan a lefel y Cynulliad y ganrif hon. 

Blwyddyn
Etholiad Cyffredinol
Etholiad Cynulliad
2001
195,893
14.3%
-
-
2003
-
-
180,185
21.2%
2005
174,838
12.6%
-
-
2007
-
-
219,121
22.4%
2010
165,394
11.3%
-
-
2011
-
-
182,907
19.3%
2015
181,694
12.1%
-
-
Ar gyfartaledd
179,455
12.6%
194,071
21.0%

 
Rŵan, yn ganrannol mae yna wahaniaeth digon sylweddol ym mherfformiad y Blaid mewn etholiadau i’r Senedd o’i gymharu â rhai i San Steffan, ond ni all neb wadu bod a wnelo hynny â’r ffaith fod y niferoedd sy’n pleidleisio mewn etholiadau Cynulliad yn sylweddol is – tua 20% yn is.

Serch hynny, dwi’n meddwl ei fod o’n dangos bod yn rhaid rhoi i’r neilltu y syniad 'ma - sy'n cael ei ailadrodd hyd nes ein bod wedi'i dderbyn fel ffaith - fod Plaid Cymru’n awtomatig yn gwneud yn sylweddol well ar lefel y Cynulliad na San Steffan. Y gwir ydi, o ran nifer y pleidleisiau a gaiff, mae’r gwahaniaeth ar y cyfan yn rhyfeddol o fach. Hynny ydi, dydi Plaid Cymru ddim o reidrwydd yn gwneud yn well yng nghyd-destun etholiadau Cynulliad i’r graddau y dylai hwn fod yn bwynt sy’n cael ei godi’n rheolaidd. Mae’n bosibl y gellir dadlau bod ffawd y Blaid ers 2003 yn yr etholiadau hynny'n dibynnu’n fwy ar ba mor wael a wna ei gwrthwynebwyr yn hytrach nag ar ba mor dda mae hi’n ei wneud, achos mae ei pherfformiadau’n eithaf statig.

 
Seddi targed

Dydw i ddim yn meddwl y byddai fawr neb yn anghytuno â’r ffaith mai saith etholaeth fydd y Blaid yn canolbwyntio arnynt o ddifrif yn 2016: Aberconwy, Caerffili, Castell-nedd, Cwm Cynon,  Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, Llanelli a’r Rhondda. Y mae rhai yn mynnu fod yna seiliau cadarn wedi’u gosod at gipio’r seddi hyn flwyddyn nesa yn yr etholiad hwn am lu o resymau. Ond y gwir ydi – os edrychwch chi’n fanylach ar y seddi targed hyn – mae pethau’n eithaf argoelus i gyfleoedd Plaid Cymru.
 

Etholaeth
Newid % yn y bleidlais 2010-2015
Aberconwy
-6.1
Caerffili
-2.1
Castell-nedd
-1.8
Cwm Cynon
-3.5
Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro
0.0
Llanelli
-7.0
Rhondda
+8.9

 
Er gwaetha’r ffaith fod y Blaid wedi llwyddo i gael canlyniad da yn y Rhondda – nad oedd yn gwbl annisgwyl o ystyried popeth – erys y ffaith fod canran Plaid Cymru o’r bleidlais wedi lleihau oddi ar 2010 eleni ym mhump o'r saith sedd y bydd hi’n debygol o’u targedu yn 2016 - doedd dim newid o gwbl yn y llall. Wrth gwrs, mae nifer o’r seddi hyn yn agosach o lawer ar lefel Cynulliad ac yn fwy ffafriol i’r Blaid nag ydynt mewn etholiad cyffredinol, dwi’n derbyn hynny. Eto, does yna ddwywaith am y peth, roedd chwe o’r saith canlyniad uchod i Blaid Cymru’n amrywio rhwng gwael a diawledig o wael. Dydi colli pleidleisiau mewn seddi fydd yn rhai targed mewn etholiad arall flwyddyn cyn ei gynnal byth yn gallu bod yn beth da.

Ac fel y dywedais uchod, dydi pleidlais Plaid Cymru’n fawr ddim uwch mewn etholiadau Cynulliad mewn difrif fel rheol – cyfuniad digon digalon iddi.
 
Dydw i ddim yn dweud nad oes yna ffactorau fydd yn ffafrio Plaid Cymru’r flwyddyn nesaf – ond mae yna lot o bethau i’w poeni amdanynt hefyd. Dwi’n eithaf siŵr bod yna rai ym Mhlaid Cymru sy’n deall hynny ... ond gan ddweud hynny dwi'n hollol siŵr fod yna rai sy ddim.

lunedì, maggio 11, 2015

Ambell air ar yr etholiad

Rŵan, mae’n bwysig peidio â chymryd barn rhywun oedd mor chwil ar noson etholiad y trydarodd at Dewi Llwyd, Dicw a Vaughan Roderick p’un ai oedd yn well ganddyn nhw bizza, Chinese neu Indian yn rhy o ddifrif. Er teced y cwestiwn, doedd o ddim mo’r adeg briodol i’w ofyn. Petawn i’n gorfod dyfalu dwi’n meddwl bod Vaughan yn foi am Indian da ond mai hogia pizzas ydi Dewi Llwyd a Dicw. Ta waeth.

Er ei bod ond ychydig ddiwrnodau ers yr etholiad dwi’n rhyfeddu ar faint o ddadansoddi trylwyr ac actiwli eithriadol o gall a threiddgar sydd wedi bod mor gyflym ar ôl iddo ddigwydd, a hynny gan bobl o bob ongl i'r sbectrwm gwleidyddol, felly dwi’n teimlo’n hwyr i’r parti ac fel petawn i’n gorfod ailadrodd mymryn. Ond mae rhai meddyliau sydd wedi bod yn nofio yn fy mhen dwi isio rhoi rhyw ychydig sylw iddynt, a hynny’n gryno achos dwisho gwneud fy nhe. Wna i nhw fesul pwynt.

Y system etholiadol

Does fawr neb yn honni fod y system etholiadol sydd ohoni’n deg, ond mae diwygio’r system yn farw tan yr etholiad cyffredinol nesaf o leiaf. Dydi’r Ceidwadwyr ddim isio unrhyw elfen o system gyfrannol, ac mae ganddyn nhw fwyafrif. Fydd yr SNP yn llwyr anghofio am unrhyw ymrwymiad oedd ganddi yn hyn o beth, a byddai Llafur fawr gwell eu byd dan y drefn honno. Mae hynny’n gadael UKIP, y Gwyrddion, y Dems Rhydd a’r Blaid i gyd o blaid system gyfrannol ac mae ganddyn nhw 13 sedd rhyngddynt. Y mae newid y system bleidleisio yn fater sy’n farw am rŵan.

Naws wleidyddol Cymru

Y mae nifer wedi dweud bod yr etholiad hwn yn dangos fod y syniad fod Cymru'n wlad sylfaenol asgell chwith yn hurt – ac maen nhw’n iawn i bob pwrpas. Serch hynny, mae'n biti y cymrodd mor hir i rai pobl ddechrau ystyried hyn. Rydyn ni wastad wedi bod yn genedl gymdeithasol geidwadol ac roedd twf UKIP a’r Ceidwadwyr yng Nghymru’n dangos hynny. Ni lwyddodd y Blaid, sy’n hoffi gweld ei hun fel plaid i’r chwith o Lafur, fawr o ddim o ran ei phleidlais, ac er 30 mlynedd o drio dydi hi dal heb wneud hynny. Mi lwyddodd UKIP, ac i raddau’r Ceidwadwyr wneud hyn; efallai nid er eu bod yn bleidiau'r dde, ond oherwydd hynny. 
Y mae Cymru’n wlad ôl-syniadaethol. Dydi chwarae ar fod yn asgell chwith, fel y gwnaeth Llafur a Phlaid Cymru, ddim efo’r un apêl ag yr oedd ganddi amser maith iawn yn ôl. Os rhywbeth mae Cymru’n llawer tebycach i Loegr yn wleidyddol nag y bu erioed. Mae yna ffactorau lu am hynny, ond mae’n wir.

Bod yn wladweinydd

Dydi pobl erioed wedi cymryd at Miliband a wnaethon nhw ddim at Bennet ychwaith. Roedd y ddau arweinydd yn ffactor yn aflwyddiannau eu pleidiau.
Mae Leanne Wood a Nigel Farage yn wleidyddion poblogaidd (er bod Farage yr un mor amhoblogaidd ag unrhyw un hefyd), ond dydi’r un ohonyn nhw’n dod drosodd - nac yn mewn difrif - yn ddeallus nac yn rhyfeddol o alluog. Mewn etholiad dydi hynny ddim yn argyhoeddi pobl ddigon.

Ar y llaw arall, mae dau arweinydd a lwyddodd gyfleu eu hunain fel gwladweinyddion: Cameron a Sturgeon. Roedd llwyddiannau’r ddwy blaid y tu hwnt i’w gobeithion achos eu bod nhw wedi dod drosodd fel galluog a gwybod sut mae rheoli gwlad - er, wrth gwrs, i'r ddau gael profiad o wneud hynny.

Llymder

Un pwynt mawr ddarllenais i yn rhywle arall oedd faint a wnaed o lymder – ac roedd o'n bwynt difyr. Achos, ac mae hyn yn werth ei godi, er bod pethau wedi bod yn ddu ar gynifer o bobl dros y 5 mlynedd ddiwethaf, mae’r rhan fwyaf o bobl wedi gwneud yn olreit, os nad yn wych, ac efallai bod llai o bobl nag y meddyliai’r gwleidyddion sydd isio gweld newid cyfeiriad oherwydd hynny.

Plaid Cymru

Noson gymysg oedd hi i’r Blaid. Roedd yna ganlyniadau da – nid lleiaf yn Arfon, y Rhondda a Gorllewin Caerdydd. Ar y llaw arall, roedd yna seddi nad oes angen i mi eu henwi lle’r oedd y canlyniadau’n siomedig, os nad gwael iawn weithiau. Ta waeth, y pwynt ydi hyn mewn difri: tasa’r Blaid heb gael yr holl sylw, byddai hwn wedi’i ystyried mewn rhai ffyrdd yn etholiad derbyniol iawn. Ond – â phlîs peidiwch â bod yn ddiystyriol o’r pwynt hwn, Bleidwyr – cafodd Plaid Cymru y math o sylw na chredai y câi erioed y tro hwn. Cynyddodd ei phleidlais un y cant. Hynny ydi, clywodd pobl neges y Blaid yn glir yn yr etholiad hwn ... a’i gwrthod.
Mae gan y Blaid felly o hyd gwestiynau ynghylch ei chyfeiriad gwleidyddol.

Y cyfryngau cymdeithasol

Ers ethol Obama yn 2008 mae pobl wedi edrych at, a breuddwydio am, ddylanwad y cyfryngau cymdeithasol. Gwelsom yng Nghymru yn sicr, ond hefyd ar lefel y Deyrnas Unedig, nad ydi’r cyfryngau cymdeithasol hanner mor ddylanwadol ag y damcaniaethai rhai pobl eu bod. Dadleuais i hyn am fyd y blogiau flynyddoedd yn ôl hefyd – mae’r un peth yn wir am Twitter heddiw. Yn wir, mae natur Twitter yn ei wneud yn anylanwadol ar farn pobl. Cyfrwng i ennill etholiad nid yw; a dydi o ddim yn rhyfeddol o effeithiol am wthio safbwyntiau gwleidyddol.

Y broblem efo’r cyfryngau cymdeithasol ydi’r swigen y mae’n ei chreu. Bu i fwy nag un ohonom ryfeddu hyd at grinjio ar rai o ddisgwyliadau cefnogwyr Plaid Cymru (er, i fod yn deg, cefnogwyr iau a mwy brwd!) o weld ambell bôl neu ddarllen ambell beth. Y wers yn fanno ydi, mae yna fyd go iawn y tu allan i Twitter, a dydi o ddim o reidrwydd yr un peth.

Twll mawr Llafur Prydain

Mae hwn yn bwynt dwi heb ei ddarllen eto, er hwyrach ei fod o wedi’i wneud. Mae beirniadaeth wedi bod at Lafur am fod yn rhy asgell chwith yn yr etholiad hwn. Ond dyma broblem Llafur – ni fu Llafur ôl Blair a Brown yn blaid asgell chwith beth bynnag, i bob pwrpas dilynai'r un trywydd â nhw.
Clywid llawer dros y misoedd diwethaf na fu i’r Ceidwadwyr ennill mwyafrif ers 1992. Ond meddyliwch am hyn – dydi Llafur heb ag ennill mwyafrif ag arweinydd gwirioneddol adain chwith ers 1974.

Mae hynny'n gadael cwestiwn mawr i Lafur ym Mhrydain - achos mi fedrid dadlau bod y blaid mewn sefyllfa lle na all ennill etholiad drwy fod naill ai yn y canol gwleidyddol nac ar y chwith.

Twll mawr Llafur Cymru

Dydw i ddim yn meddwl imi erioed â chytuno â David Taylor, ond roedd yr erthygl hon ar ClickOnWales wedi taro’i hoelen ar ei phen. Bu’r ysgrifen yn y tywod i Lafur yng Nghymru gael etholiad tebyg i hwn ers blynyddoedd, er na ddigwyddodd i raddau sylweddol tan rŵan.
Ond un gair o gyngor o ran hynny – mae Llafur o hyd yn llwyr ddominyddu bywyd cyhoeddus yng Nghymru, ac yn wahanol i’r Alban tydi hi ddim yn wynebu un gwrthwynebydd cryf, trefnus, cyfrwys. Nes y bydd un blaid, a gellid dadlau’n fawr ynghylch pa blaid, yn gallu gwneud hynny, mae ei gafael ar Gymru, er gwaethaf ei gwendidau lu, yn debygol o barhau.

Ta waeth, fydd yna lot o mwy o drafod am yr etholiad, er nad gen i, mewn llefydd eraill dybiwn i, achos os gellir dweud un peth am yr etholiad hwn roedd yn un eithriadol o ddifyr a fydd yn haeddu cael ei ddadansoddi a’i drafod yn fanwl.
Reit, dwi ddim yn Dori, ond dwi am gael samon a salad i de. Welai chi pan welai chi - wyddoch chi fyth pryd y bydda i'n blogio nesaf, oni wyddoch?