tag:blogger.com,1999:blog-19953569.post3753465831788609703..comments2024-01-10T12:05:57.758+00:00Comments on Blog yr Hogyn o Rachub: The Hobbit: Battle of Five Armies - AdolygiadHogyn o Rachubhttp://www.blogger.com/profile/14216661024544140205noreply@blogger.comBlogger2125tag:blogger.com,1999:blog-19953569.post-66434818694141994462015-01-23T13:28:35.774+00:002015-01-23T13:28:35.774+00:00Cytuno a mwyafrif y rhain. Dwi'n meddwl bod y ...Cytuno a mwyafrif y rhain. Dwi'n meddwl bod y drioleg fel cyfanrwydd yn fethiant cymharol, ac nid am unrhyw rhesymau anochel (h.y. eu bod nhw wedi ceisio ymestyn 1 llyfr byr dros 3 ffilm hir) ond achos eu bod nhw wedi methu addasu'r hyn oedd yno'n dda. Ydy, mae Richard Armitage yn dda fel Thorin, ond prin yn mae'r gwyliwr yn hidio dim amdano hyd yn oed ar ol 3 ffilm (dwi'n cofio'r misys - ffan fwyaf ffilmiau LOTR -yn gofyn "Pwy di hwnnw eto?" ar ddechrau'r 3ydd ffilm yn y sinema).

Lot o'r pwyntiau eraill ti'n codi'n hollol gywir.

Fodd bynnag, dwi'n gobeithio yr eir i'r afael a rhai ohonynt yn y fersiwn estynedig anochel. ee. diffyg cymeriadaeth y corachod.BoiCymraeghttps://www.blogger.com/profile/11746800400667840738noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-19953569.post-18157928539550431742014-12-16T21:00:14.188+00:002014-12-16T21:00:14.188+00:00Mi wna i ddinistrio dy bwyntiau un ar ol y llall, ...Mi wna i ddinistrio dy bwyntiau un ar ol y llall, megis Gothmog yn dinistrio waliau Minas Tirith...

1. Roeddwn i’n meddwl bod y frwydr yma’n gweithio’n dda. Pwy mewn difrif sydd eisiau gweld 10,000 o bobl bach CGI yn taro’i gilydd am hanner awr? Roedd yn fy atgoffa i o’r frwydr rhwng yr Uruk Hai a’r Fellowship ar ddiwedd y ffilm gyntaf LOTR – brwydr dreisgar mewn mannau cyfyng, , a rhwng pobl go iawn a orcs ‘go iawn’, dim CGI. Mi wnes i ei fwynhau yn fawr. A dweud y gwir y rhannau mwyaf ‘epig’ o ran sgop oedd y salaf, e.e. Dain a’r corrachod yn brwydro o flaen y drws.

2. Dydw i ddim yn deall y gwrthwynebiad i Kili a Tauriel. Roedd pawb yn derbyn yn LOTR y byddai Arwen yn fodlon rhoi’r gorau i fywyd tragwyddol er mwyn Aragorn. Wnaeth Tauriel erioed ddisgyn mewn cariad efo Kili, dim ond bod bach yn drist pan gafodd ei ladd wrth geisio ei hachub hi. Roedd Arwen yn blybran yn yr un modd pan oedd Frodo ar fin marw ar ol cael ei drywanu gan y Nazgul yn FOTR.

3. Doedd Legolas ddim yn y ffilm cymaint a hynny. Cafodd ei yrru i Gundabad am y rhan helaeth o’r ffilm. Ymddangosodd eto tua deg munud o’r diwedd, a gwneud y pethau dwl y mae wedi eu gwneud ym mhob ffilm Middle-Earth. Dydw i ddim yn siwr sut oedd yn cymryd sylw oddi ar gymeriadau eraill – e.e. yn y llyfr, y cyfan ydyn ni’n gwybod am y mwyafrif o’r dwarves yw eu henwau.

4, 5 a 6: Doeddwn i ddim yn gweld yr angen i esbonio beth oedd ffawd bob cymeriad ar ddiwedd y ffilm. Gall y gwyliwr ddefnyddio ei ddychymyg ychydig bach. Y peth olaf oedd ei angen oedd 30 munud yn cau pob mwdwl fel yn ROTK. Doedd yr Arkenstone ddim yn bwysig mwyach. Ac roeddwn i’n meddwl bod Dain yn ddoniol! Ond dim ond am bum munud oedd yn y ffilm, ac roedd ganddo tua 4 llinell. :)

7. Wnes i ddim wir sylw ar hwn. Yr awgrym ges i oedd bod Gandalf yn poeni bod Sauron am ei lladd hi.

8. Roedd Saruman ac Elron wedi bod yn cicio tinnau’r Nazgul ers 5 munud. Doedden nhw’n amlwg ddim am gicio tin Sauron, neu fyddai yna ddim 3 ffilm LOTR.

9. Yn anffodus mae’n anodd gweld sut allai y cyfarwyddwr fod wedi rhoi lot o sylw i 13 cymeriad. Pan fuodd Fili a Kili farw yn y llyfr roeddwn i wedi anghofio pwy oedden nhw. Roedd y ffilmiau yn rhoi llawer mwy o amser i ddatblygu’r cymeriadau rhain nad oedd Tolkien wedi. Problem gyda addasu’r llyfr nad oedd modd ei oresgyn oedd mai darluniau bras iawn fyddai y corrachod.

10. Doeddwn i ddim yn hoff iawn o gymeriad Alfrid. Ond roedd yna ambell i ddarn bach doniol.

Rwy’n awgrymu gwylio’r ffilm eto. Ges i ddim blas ar FOTR na TTT y tro cyntaf i mi eu gwylio nhw, achos bod fy nisgwyliadau i’n rhy uchel yn mynd i mewn (tu hwnt i beth all unrhyw ffilm gwrdd ag ef). Rwy’n ffyddiog y bydd wedi gwella gyda’r ail ymddangosiad.Ifan Morgan Joneshttps://www.blogger.com/profile/05653247945202734077noreply@blogger.com