tag:blogger.com,1999:blog-19953569.post403428466485979977..comments2024-01-10T12:05:57.758+00:00Comments on Blog yr Hogyn o Rachub: Anghywir, Arwel Ellis Owen!Hogyn o Rachubhttp://www.blogger.com/profile/14216661024544140205noreply@blogger.comBlogger3125tag:blogger.com,1999:blog-19953569.post-9681266776901486312010-10-21T15:09:45.036+01:002010-10-21T15:09:45.036+01:00Mae yna snobyddiaeth wedi datblygu yn S4C sy'n...Mae yna snobyddiaeth wedi datblygu yn S4C sy'n edrych lawr ar unrhyw raglenni 'isel-ael' fel cwisys, adloniant ysgafn a chomedi.

Mae'r rhaglenni o'r math yma (nid Noson Lawen) wedi bodoli yn y gorffennol ond wnaeth S4C benderfynu peidio cystadlu gyda sianeli eraill ar nos Sadwrn.

Mae hynny yn gwneud synnwyr ond be sydd o'i le yn canfod diwrnod arall ar gyfer y rhaglenni o'r math yma?

Yr un broblem sydd wedi bod gyda Radio Cymru.. un sianel yn trio gwneud popeth i bawb. Mi fyddai'n well petai S4C wedi gwneud llawer mwy o ddefnydd o'r gofod wnaethon nhw gael am ddim a lansio mwy nag un sianel ddigidol.. un yn fwy ifanc/poblogaidd ei naws a'r un arall ar gyfer y gynulleidfa 'draddodiadol' (sy'n marw allan beth bynnag).

Fydde dim angen trio llenwi oriau maith ac ail-ddarlledu popeth bedwar gwaith - fyddai wedi bod yn bosib gwneud hyn o fewn y cyllid hael oedd ganddyn nhw.

Os oedden nhw wedi dechrau ar y gwaith hynny yn 2000 pan oedd teledu digidol yn cael eu gyflwyno efallai fydden nhw wedi gallu cario'r gynulleidfa ifanc gyda nhw.

Ond mae penaethiaid S4C wedi ei chwarae hi'n saff ers degawd a nawr mae'n rhy hwyr.Dafydd Tomoshttps://www.blogger.com/profile/12770568429323906952noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-19953569.post-48891521816267506782010-10-21T13:08:13.554+01:002010-10-21T13:08:13.554+01:00Mae'n well gen i Pobol y Cwm na'r un opera...Mae'n well gen i Pobol y Cwm na'r un opera sebon Saesneg hefyd, ond ar ddiwadd y gân dyna ydi hi, jyst opera sebon arall. Dw i ddim yn gweld dim byd arbennig amdani o gwbl ... mae'r sgwennu ar cynhyrchu yn dda, wn i ddim a ydw i'n cytuno am rai o'r actorion de!

Ta waeth y pwynt ydi hwn: mae 'na raglenni 'gwell' ar S4C na PyC, ond dydyn nhw ddim yn taro'r sbot efo'r rhan fwyaf o bobl, a dyma sy'n rhaid newid.Hogyn o Rachubhttps://www.blogger.com/profile/14216661024544140205noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-19953569.post-13020789424108758282010-10-21T12:57:25.407+01:002010-10-21T12:57:25.407+01:00Dwi'n credu dy fod yn gwneud cam enfawr a Phob...Dwi'n credu dy fod yn gwneud cam enfawr a Phobol y Cwm. Dwi'n credu ei bod hi'n gynnes a chyffrous - er bod yna dueddiad i rygnu mlaen ar rai themau.

Bob tro dwi'n cael fy ngorfodi i wylio Eastenders, dwi'n synnu a rhyfeddu at safon Pobol y Cwm - y cymeriadau, y sgwennu, yr actio a'r cynhyrchu. Dwi o'r farn fod PyC yn well nag operau sebon eraill y gwledydd hyn.Anonymousnoreply@blogger.com