tag:blogger.com,1999:blog-19953569.post781158651387618260..comments2024-01-10T12:05:57.758+00:00Comments on Blog yr Hogyn o Rachub: Heb Fangor, heb Aber, heb Gaergybi: Rhan IIHogyn o Rachubhttp://www.blogger.com/profile/14216661024544140205noreply@blogger.comBlogger7125tag:blogger.com,1999:blog-19953569.post-15042046085837424912013-02-01T09:19:36.302+00:002013-02-01T09:19:36.302+00:00Y post nesa: "Dyffryn Owen heb Abergwyngregyn...Y post nesa: "Dyffryn Owen heb Abergwyngregyn"..!Ioannoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-19953569.post-84092116052051993492013-01-31T15:48:31.189+00:002013-01-31T15:48:31.189+00:00Diolch Ioan!
Wrth gwrs rhaid ychwanegu nad ydi bo...Diolch Ioan!

Wrth gwrs rhaid ychwanegu nad ydi bob rhan o ward Arllechwedd, sef Abergwyngregyn, actiwli yn Nyffryn Ogwen felly maen nhw'n ein dragio ni lawr 'fyd ;)Hogyn o Rachubhttps://www.blogger.com/profile/14216661024544140205noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-19953569.post-4566932165322270592013-01-31T15:12:15.515+00:002013-01-31T15:12:15.515+00:00Yn Nyffryn Ogwen
Nifer: 5817 (+169)
Canran: 72.6%...Yn Nyffryn Ogwen

Nifer: 5817 (+169)
Canran: 72.6% (+0.20%)

Dim bradwr yn y dyffryn hwn...!!
Ioannoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-19953569.post-19659589107146611022013-01-31T08:08:23.441+00:002013-01-31T08:08:23.441+00:00Emlyn,
Ymddengys mae dilyn tuedd Llanelli y mae g...Emlyn,

Ymddengys mae dilyn tuedd Llanelli y mae gweddill Sir Gâr. Y peth mwyaf trist dw i'n meddwl oedd mai nid dim ond rhai ardaloedd a ddilynodd y duedd honno. Roedden ni efallai wedi disgwyl i'r cwymp mwyaf fod yn Nyffryn Aman a'r cyffiniau (sy'n wir i raddau), ond roedd llefydd fel Cenarth yn profi fod 'na broblem sir gyfan. Problemau gwahanol, efallai, ond problemau dwys serch hynny.

Ond fel y dywedais yn yr ymateb i Ioan - mae stori tu ôl i'r ystadegau. Mae'r gwahaniaeth rhwng y nifer sy'n dweud eu bod nhw'n siarad Cymraeg, a'r nifer sydd â sgiliau yn Gymraeg yn y sir honno yn rhyfeddol.Hogyn o Rachubhttps://www.blogger.com/profile/14216661024544140205noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-19953569.post-29556302396550885972013-01-31T07:57:07.921+00:002013-01-31T07:57:07.921+00:00Do, roedd wedi'i anelu atat Ioan, ond chdi sy&...Do, roedd wedi'i anelu atat Ioan, ond chdi sy'n iawn - mae arna i ofn mai fi sy'n or-hoff o ganrannau ac wedi cymryd yn ganiatol mai dyna oeddet ti'n gyfeirio ato.

Mae 'na rywbeth i fod yn gadarnhaol yn ei gylch o ran niferoedd gweddill Gwynedd a Môn felly. Ddim yn grêt, ddim yn ddiwedd y byd eto.

Dydw i'm yn siŵr o niferoedd Dyffryn Ogwen - roedd Rachub/Gerlan a Thregarth a Mynydd Llandegai i lawr fymryn yn ganrannol, ac Ogwen ac Arllechwedd i fyny mymryn, felly sefydlogi wnaeth yr iaith fanno.

Wrth gwrs, 'dan ni gyd yn gwybod hefyd fod 'na stori tu ôl i'r ystadegau.Hogyn o Rachubhttps://www.blogger.com/profile/14216661024544140205noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-19953569.post-82356728653748242512013-01-30T22:55:12.932+00:002013-01-30T22:55:12.932+00:00Mi grensiais y ffigyrau am Llanelli (y dref + Llan...Mi grensiais y ffigyrau am Llanelli (y dref + Llanelli Wledig):

Llanelli:
Poblogaeth 46058, Siaradwyr 12816, Canran 27.8%, Newid ers 2001 -5.5%
Gweddill y sir:
Poblogaeth 131584, Siaradwyr 65232, Canran 49.6%, Newid ers 2001 -6.2%
Sir Gaerfyrddin:
Poblogaeth 177642, Siaradwyr 78048, Canran 43.9%, Newid ers 2001 -6.1%

Felly, mi roeddet ti'n iawn, Hogyn: nid dim ond Llanelli sy'n gyfrifol am y cwymp yn Sir Gâr. Mae ardaloedd eraill ar draws y Sir wedi disgyn llawer fwy, ysywaeth. Ar ben hynny, mae'r Cymry Cymraeg yn leiafrif hyd yn oed tu fas i Lanelli erbyn hyn.Emlyn Uwch Cychhttps://www.blogger.com/profile/03384157218244458970noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-19953569.post-2336157079203432722013-01-30T22:13:39.685+00:002013-01-30T22:13:39.685+00:00"..Serch hynny - yn wahanol i ddamcaniaeth a ..."..Serch hynny - yn wahanol i ddamcaniaeth a gafwyd yn sylwadau y blogiad blaenorol am hyn - ni welwyd cryfhau ar yr iaith ar weddill yr ynys"

Dwi'm yn siwr os oedd hwna wedi ei anelu ataf fi, ond be 'nes i ddeud oedd:

"Bron yn sicr bydd y nifer sy'n siarad cymraeg ym mro Gymraeg Ynys Mon wedi mynd fynu yn 2011."

ac mi wnaeth o:
2001: 32,939
2011: 33,119

Dwi ddim yn dweud bod hyn yn gret, ond mae'n well peidio peintio bethau hyd yn oed yn dywyllach nac ydio.

p.s. Dyffryn Ogwen ar i fynu?Ioannoreply@blogger.com