lunedì, febbraio 16, 2009

Hogyn call

Y ffordd dwi’n deimlo’n awr dwi’n amau dim fy mod newydd gael penwythnos rygbi. Yn rhannol gysylltiedig â chyfrifoldebau’r wythnos, ro’n i’n hogyn da ac ni chefais sesiwn anferth ar y penwythnos. Roedd rhywbeth gwag am dim ond ennill y Saeson o wyth pwynt ar ôl y gyflafan a broffwydolwyd, ond curo Sais ydi curo Sais ac mi a’i cymeraf. Fe wyliem y gêm yn Nos Da sydd gyferbyn â’r stadiwm. Trodd hwnnw’n ddigon diddorol ond roedd ‘na lwyth o genod yno’n tynnu lluniau a malu cachu yn hytrach na chymryd sylw o’r gêm oedd braidd yn ddiflas.

Ategwyd hynny wrth i mi gael trafferth yfed o ddifri. Dwi ddim yn cofio gorffen gwaddod ‘run beint heb bron â chwydu. Roeddwn hefyd yn flinedig ond dwi wastad yn flinedig y dyddiau hyn – henaint ydi o, uda i rŵan.

Roedd ‘na awyrgylch go dda yn Nos Da hefyd (welish i Edi Bytlar yn ffilmio’i ddyddiadur fideo ‘na) ond fedra i ddim yn fy myw ymuno pan fydd pobl yn gweiddi ‘Way-ules! Way-ules!’, hyd yn oed pan fyddaf yn y stadiwm. Dwi’n siŵr nad fi ydi’r unig un sy’n ffendio rhywbeth yn wrthun am y gair hwnnw.

Felly ro’n i adra erbyn 10.30 yn gyfrifol fy myd. Pan fydda i isio bod yn gyfrifol mi fedraf fod ac yn hynod felly. Gan ddweud hynny gallaswn fod wedi mynd allan drwy’r nos a theimlo mor ddi-lun ag ydwyf ar y funud. Am y tro cyntaf ers hydoedd deffroais y bore hwn yn glaforio, ac chyda clust wleb. Ro’n i’n meddwl mai gwaedu oeddwn i, ond na, eithr clusthylifog.

Wnes i hyd yn oed gael cawod ar fora Llun am y tro cyntaf ers cyn cof. Dydi peidio â chael cawod yn y bora ddim yn beth newydd, gyda llaw. Fydda i’n un o’r rhai hynny sy’n hoffi cael cawod gyda’r nos, a theimlo’n ffres o flaen Pobol y Cwm a Chwis Meddiant, achos ‘blaw am Nant Conwy mae’r gogs i gyd i’w gweld yn curo’r Hwntws, ond mae trefn naturiol i bopeth mwn.

giovedì, febbraio 12, 2009

Chwyrlïo'r Gwaed

Fysa chi yn dueddol o feddwl fy mod yn rhywun sy’n fodlon curo’r Saeson ac aberthu popeth arall i gyrraedd y nod hwnnw, ond nid felly’r achos. Gan ddweud hynny, p’un a ydynt yn dîm Camp Lawn neu’n dîm o amaturiaid (noder y presennol), Lloegr ydi’r tîm y mae pob Cymro, Albanwr, Gwyddel neu Ffrancwr isio’i guro. Dw i’n dyfalu mai Ffrainc y mae’r Eidalwyr isio’i churo yn fwy na neb. Mae ‘nheulu yn yr Eidal wrth eu boddau efo Saeson; i fod yn onast dwi’n meddwl yr oeddent braidd yn siomedig o glywed nad Saeson ydym ni pan es i’r Eidal. Do’n i ddim yn hapus efo hynny; tai’m i licio cael fy nghamgymryd am Sais, waeth pa mor lipa ac erchyll wyf fy ngolwg.

Ar ôl treulio dechrau’r wythnos yn edifar ac yn flinedig dwi bellach yn well ac yn edrych ymlaen at y penwythnos. Fydd ‘na rai yn wahanol i mi ond ni lwyddodd Cymru v Gwlad Pwyl ym Mhortiwgal wirioneddol danio’r enaid cymaint ag y bydd dydd Sadwrn.

A dydd Sadwrn fydd hi ‘fyd. Dydw i ddim yn cytuno efo chwarae gemau ar ddydd Sul, mae’n annheg ar y cefnogwyr. Wrth gwrs, ‘sdim rhaid i rywun fynd allan nac yfed i werthfawrogi gêm Chwe Gwlad, ond eto mae’n rhan o’r profiad. Dyna be fydda i’n ei licio am y Chwe Gwlad, mae’n gystal profiad ag yw’n bencampwriaeth. Ond mae’r elfen o ofal a geir ar gêm ddydd Sul yn sbwylio’r peth rhywfaint.

Fydd y nos Wener yn erbyn Ffrainc yn ddiddorol. Mae gennyf i hanner diwrnod ar gyfer y gêm honno. Er bod yn rhaid i mi ddweud na hoffais y syniad, yn ddiweddar mae gêm nos Wener yn swnio’n ddigon braf o syniad. Fydd yn brofiad gwahanol, a fydda i’n licio amryw brofiadau.

Ond dyna ni, i mi dydi’r Chwe Gwlad ddim yn cychwyn go iawn cyn bod rhywbeth yn chwyrlïo’r gwaed ac yn deffro’r galon; ni ddigwyddodd cweit cyn yr Alban, ac wn i ddim pam, ond mae hi yma rŵan a dwi’n y swing.

mercoledì, febbraio 11, 2009

Y tew a'r tenau

Dwi am fod yn gas ennyd, am unwaith. Fydda i ambell waith yn licio gwylio’r rhaglen Supersize vs Superskinny. Rŵan cewch ddweud wrthyf fod gan y bobl hyn broblemau a chyflyrau ati a dwi’n cytuno ond mae ‘na un rhan o’r rhaglen hon, sy fel rheol ddim y math o raglen dwi’n ei licio, sy’n neud i mi wenu bob tro sef pan mae’r peth tenau a’r peth tew yn bwyta bwyd ei gilydd. Mae un yn mynd bŵ-hŵ-hŵ mae’n rhaid i mi fyta mwy cyn mynd bŵ-hŵ-hŵ dwi ddim isio buta hyn, gyda’r llall yn mynd bŵ-hŵ-hŵ dwi angen bod yn denau cyn mynd bŵ-hŵ-hŵ dwisho bwyd.

Fydda i hefyd yn eitha licio’r person tenau yn bwyta bwyd yr un tew a phwdu drwy’r broses gyfan yn dweud bod y bwyd yn afiach ac wnim sut allwch chi fyta’r ffasiwn beth, gan weld yr un mawr bron â marw isio rhoi hedbyt i’r llall am ddweud ffasiwn beth ac yn glafoerio ger y plât.

Dydw i heb â blogio’r wythnos hon hyd yn hyn oherwydd y gwir amdani ydi dwi wedi bod yn rhy flinedig. Wn i ddim p’un a ddywedais wrthych am gynllun y Sul sef gwylio’r gêm, cael ambell i beint a chael bwyd cyn mynd adra a bod yn ffresh i’r gwaith? Wedi bod allan efo gwaith nos Wener a chofio fawr ddim ar ôl tua 10, a mynd i’r Mochyn Du cyn cael cyfla i sobri ddydd Sadwrn, allwch chi ddychmygu fuo ‘na fawr o siâp arna i, na’m gwddw (stori hir), ddydd Sul.

Gallwn adrodd ar sut le ydi’r Fuwch Goch, a minnau yno ddwy noson mewn rhes, ond ‘sdim pwynt achos dwi rili heb syniad, ond nôl i ddydd Sul...

Cefais un beint a llwyth o Bepsi wrth wylio’r gêm, ond ar ôl hynny ‘doedd ‘na fawr o siâp arna i. Ro’n i’n fy ngwely erbyn wyth heb lwyddo cyrraedd y bwyty, a doeddwn i ddim yn ‘ffres’ echdoe na ddoe. I fod yn onast ro’n i mor flinedig mi gollais gêm o sboncen yn erbyn Ellen Angharad am y tro cynta.

Dwi’n iawn rŵan. Fydda i ddim yn mynd mor wirion y penwythnos hwn er mai’r gêm fawr sy’n dyfod. Tan hynny, neith ‘di relacs bach.

venerdì, febbraio 06, 2009

Buwch goch, goch, goch ie fin-goch fin-goch fin-goch

Efallai y byddwch wedi clywed am agoriad tafarn Y Fuwch Goch heno ‘ma – mae’r e-byst wedi bod yn mynd i bob cyfeiriad a hefyd roedd darn arni yn Wedi 7 neithiwr (byddaf, mi fyddaf yn gwylio Wedi 7 o bryd i’w gilydd, a ‘sgen i ddim cywilydd). Dwi’n meddwl piciad heibio ‘na heno i weld sut fath o siâp sydd ar y lle.

Bar Shorepebbles oedd yn yr adeilad yn flaenorol. Bydd rhai ohonoch yn gwybod y bu’r lle hwnnw’n gyrchfan i Gymry Cymraeg am fisoedd lawer cyn iddo gau cyn wythnos yr Eisteddfod (o bob wythnos!). I bob pwrpas roedd yn denu pobl a oedd wedi diflasu ar Glwb Ifor neu’n teimlo’n rhy hen i fynd yno bob wythnos, heb sôn am bobl yn cael peint cyn ac ar ôl Clwb, a phobl nad oeddent yn gallu mynd i mewn i Clwb oherwydd y ciwiau enfawr – ond hefyd roedd y berchnoges a oedd yn Gymraes yn boblogaidd iawn.

Roedd ‘na fwlch pan gaeodd. Newidiodd y lle i Kaz-bah, a doedd y perchnogion newydd ddim yn or-hoff o Gymry Cymraeg. Cawsom sgwrs â hwy rywbryd yn ddigon ddi-niwed yn dweud bod mwyafrif y cwsmeriaid yn Gymry Cymraeg, ond doedden nhw ddim yn hapus efo hynny, a dweud yn blaen na fyddant yn gwneud ymdrech benodol i’w croesawu. Digon teg, eu lle nhw ydoedd, ond dydi o ddim yn synaid da troi dy gefn ar ffynhonnell bwysig o’th incwm, na bod mor ddirmygus ag oedden nhw i ni y noson honno.

Caeaodd y lle ychydig fisoedd wedyn, a dwi ddim yn synnu. Pan ddaw at agweddau llugoer tuag at y Gymraeg mewn siopau a llefydd cyhoeddus mae’r Cymry Cymraeg yn weddol apathetig, ond pan ddaw at dafarndai a bariau maen nhw’n gallu troi cefn yn eu niferoedd. Rhyfedd, ond hollol wir.

Clwb Ifor sy wedi prynu’r lle erbyn hyn. Tybiaf fod Clwb yn ddigon ymwybodol bod llwyth o Gymry Cymraeg yno, ac yn gwybod y rhesymau a nodais uchod o ran pam eu bod yn mynd yno. Dwi’n gobeithio y daw’r lle eto’n gyrchfan i ni ac yn meddu ar naws debyg. Roedd cymaint o bobl wahanol yno bob nos Sadwrn: pobl o brifysgol, pobl o gwaith, pobl roeddech chi’n eu hadnabod heb wybod pam na sut – diflannodd hynny ar ôl tranc Shorepebbles, cawn weld a fydd Y Fuwch Goch gystal!

giovedì, febbraio 05, 2009

Fydda pengwin yn iawn, felly minnau 'fyd

Dwi newydd sylwi ar rywbeth hudol. Sut, er mwyn Duw, y mae styffylau yn aros at ei gilydd mewn rhesi cyn i chdi eu rhoi nhw mewn styffylwr? Ew, mae’r hen fyd ‘ma dal yn llawn lledrith os edrychwch yn y llefydd cywir.

Mae’r eira wedi penderfynu ailymddangos yng Nghaerdydd heddiw. Mae’n fy ngwneud i chwerthin sut y mae’r wlad wedi sefyll yn stond oherwydd ychydig o eira. Mae’r rhan fwyaf o ysgolion Caerdydd wedi cau heddiw, sy’n hollol bathetig. I fod yn onast efo chi, mae’n fy ngwneud i chwerthin braidd, yn enwedig gan fod y bobl propaganda a’r papurau newydd Seisnig mor aml yn hoffi sôn am ba mor wydn ydi Prydeinwyr efo’u ‘Bliz Spirit’ ac ati. Haha! Maen nhw’n rong!

Gan ddweud hynny, bydda pobl ‘stalwm heb wneud y ffasiwn lol allan o bopeth. Dyma’r arferol nid yn ofnadwy o bell yn ôl. Un ifanc dwi, a dwi’n cofio mynd i’r ysgol pan fo’r eira’n ddigon drwm. Dwi hyd yn oed yn cofio gwneud unwaith yn yr ysgol uwchradd, sydd wir yn dangos pa mor uffernol ydi pobl ein dyddiau ni. Pobl ddinesig ydi’r gwaetha, dybiwn i.. Bydda Nain yn dweud o leiaf fod rhywun yn gweld y bobl ddu rŵan, ond gan fy mod i’n 23 a ddim i fod efo rhagfarnau gwell i mi beidio â dweud hynny.

Fyddan nhw’n iawn ar y cyfandir, ac mae hyd yn oed yr Iancs yn llwyddo mewn llawer gwaeth na hyn chwara teg. Y ffordd dwi’n ei weld, os ‘sdim ots gan begwin, ddylwn i fod yn iawn, achos petha tila ydi’r rheini mewn difri calon.

mercoledì, febbraio 04, 2009

Pethau beunyddiol sy'n mynd ar fy nerfau rhif #6133

Pam fod pob cam dwi'n ei wneud yn swnio'n wahanol waeth faint y bydda i'n ceisio gwneud i bob cam swnio 'run peth? Sut fod y ddau droed yn gwneud hyn? IECHYD roedd o'n gwneud i mi wallgofi wrth gerad i gwaith heddiw!

martedì, febbraio 03, 2009

Mae'r eira 'di mynd yn barod y basdad

Bydd eira’n mynd ar fy nerfau i. Fel pawb arall, p’un a ydynt yn ifanc fel y fi neu’n hen a ffôl (25+), bydd eira yn deffro’r plentyn o ddwfn fy mod. Dwi’n cyffroi. Dwi’n licio ei weld ymhobman, yn gorchuddio’r llawr ac yn disgyn yn fwyn o’r nefoedd. Ond bydd gweld yr eira’n diflannu yn ddigon i sathru fy hwyliau.

Felly fu heddiw a neithiwr. Ni ddaeth yr eira go iawn tan iddi nosi neithiwr y Llun, ac mi ddechreuodd bob man droi’n wyn. Bora ‘ma, roedd o wedi dechrau diflannu, ac er i ni weld eira trwm bora ‘ma eto, mae holl eira Caerdydd wedi hen ddiflannu erbyn hyn. Dyna ddigalon.

Mae’n golygu bod yr haul allan yn smyg i gyd, y wancar, a’r llawr yn wlyb. Am ryw reswm dyma fy nghas beth i, sef haul a gwlypni, achos fydda i ddim yn licio gwneud pethau drwy haneri, a dydi llawr gwlyb ac awyr heulog ddim yn cyd-fynd. Wn i ddim sut i deimlo, ond mae o bob amser yn gwneud i mi deimlo’n ddrwg, boed hynny ar ôl cawod o law, neu ar ôl toddi’r eira.

Un peth a’m tarodd ar y diawl oedd y ddynas ar y newyddion neithiwr yn sôn am y plant yn chwarae yn yr eira – dyma’r tro cynta i’w cenhedlaeth nhw weld eira go iawn. Yn wir, pobl f’oedran i ydi rhai olaf sy wirioneddol yn cofio eira yn beth digon cyffredin yr adeg hon o’r flwyddyn, ac erbyn hyn mae hynny’n nyfnion y co’. Rhaid bod cymaint o blant heddiw yn gweld gaeaf gwyn yn beth hollol estron – sôn am deimlo fel deinosor!

lunedì, febbraio 02, 2009

Teulu od

“Amen
Dyn pren
Wedi colli’i ben”
-- Nain

Mae fy nheulu yn od. Soniais gynt am y merlod sy’n y caeau acw. Mae Mam wrth ei bodd gyda hyn, ac yn wir mae’r merlod yn cael eu bwydo’n well ganddi na neb arall erbyn hyn. Dydi Dad ddim yn eu licio nhw fawr ddim, ond y gwir ydi dydi Dad ddim yn licio dim fawr ddim mwyach – mae’n well ganddo lusgo’i hun o amgylch y tŷ yn edrych yn ddigon annifyr cyn bod rhywbeth sy’n ei ddiddori ar y teledu.

Fydd o’n fy ngwylltio yn gwneud hyn dro ar ôl tro, a Mam hefyd. Mae hi’n gwybod erbyn hyn hoffterau gastrig y merlod – maen nhw wrth eu boddau efo lemwns, er enghraifft, ac yn lafoer i gyd wrth eu bwyta – a bydd Mam yn chwerthin yn ddosbarth canol i gyd wrth roi sbarion bwyd iddyn nhw.

Fydd Grandad yn dweud rhyw bethau gwirion hefyd. Y peth mwya gwirion iddo fo ei ddweud yn ddiweddar ydi bod o’n “stiwpid” bod pobl yn dod adra o’u gwaith ac yn newid o’u oferôls. Dyn ag ŵyr o le y caiff hwnnw’n cael ei syniadau, ond fel â phob dyn dros ei hanner cant maen nhw fwy na thebyg ynghlwm wrth ryw ragfarn neu’i gilydd.

‘Runig beth y bydd y Nain Eidalaidd yn ei ddweud ydi “my mind it’s-a goin’”. O leiaf fod gwirionedd yn hynny o beth, ond oherwydd ei demensia bydd yn ei ailadrodd hyd syrffed. Ond fuo hi byth yn gall ar ei gorau chwaith.

Y gwir ydi dydi pethau ddim yn edrych yn rhy addawol i mi pan fydda i’n hŷn. Gobeithio fy mod wedi fy mabwysiadu, neu’n ganlyniad i raglen fridio wyddonol rhwng Beti George a phaced o Goco Pops.

sabato, gennaio 31, 2009

Dyfyniadau Nain dros fecwast

"Cês" [am Lowri Llewelyn]

"Mai'n job cadw job"

"Y gwahaniaeth rhwng heddiw a 'stalwm ydi bod athrawon heddiw angen addysg"

venerdì, gennaio 30, 2009

Grefi

Mae cogyddion seleb (y gair gwaethaf a fathwyd) yn fy nghorddi fel rheol. Yr unig reswm dwi’n gwylio cymaint o raglenni coginio ydi er mwyn corddi, ond mae ambell un yn waeth na’i gilydd. Fel y crybwyllais rhywbryd roedd y rhai Rwbath Cooking Made Easy yn dweud celwydd gan nad oedd y coginio’n hawdd. Roedd Heston Blwmintal yn ceisio gwneud i bobl fwyta pethau gwirion a drud yn Little Chef yn chwerthinllyd (pwy a daliff £15 am bryd yn Little Chef, waeth beth fo’r ansawdd?), ac er bod gweld mochyn yn cael ei sbaddu yn un o’r pethau wirioneddol erchyllaf i mi ei weld, tai’m i gefnogi dim a wna Jamie Oliver achos mae’n gocni ac yn dwat hunangyfiawn, gwefusfawr.

Peidiwch â siarad i mi am y boi Huw Cyw Iâr; fel pawb â chyllideb rhad âf innau amdano bob tro.

Mae hyd yn oed y ddau ar Masterchef yn gallu mynd ar fy nerfau gan fwydro am gyflwyniad bwyd. Ffyc off. Dydi cyflwyniad ddim yn bwysig, y blas sy’n bwysig. Byddwn i byth yn gyrru bwyd yn ôl mewn bwyty gan ei fod wedi’i gyflwyno’n wael, ac mae pwy bynnag sy’n gwneud angen dod o’u byd, sydd fwy na thebyg hefyd yn cynnwys cerddoriaeth amgen a BBC4, a chael slap. Gennyf i, os bosib.

Fydda i’n licio Gordon yn mynd o gwmpas ac yn rhegi (Rhamsi, nid Brown), er bod y cont crychlyd yn gont crychlyd trahaus yn aml, ond daw â mi at deitl y blogiad. Cofiaf unwaith iddo fynd i dafarndy a cheisio’i wella, ac un o’r ffyrdd o wneud hyn oedd y Campaign for Real Gravy, cyn cynhyrchu’r dŵr brown ‘ma a feiddiodd alw yn grefi. Wel, o’n i’n flin.

Mi fydd pob cogydd ar y teledu yn gwneud grefi gwael. Mae’n denau, a tai’m i licio grefi tenau. Efallai bod pobl posh yn licio grefi tenau, wn i ddim – oes angen i mi eich hysbysu i chi i ble y dylent fynd?

Mae grefi i fod yn dew. Dydan ni ddim yn sôn am dew Huw Ffash fan hyn – nid clamp o beth lwmpiog, anfwytadwy, ond hylifog ac â sylwedd (dwi’n siŵr bod sylwedd i Huw Ffash yn y bôn, alla i ddim fod yn rhy gas ar ddydd Gwener, na fedraf?). Ond bob tro y bydd unrhyw gogydd ar y teledu yn dangos sut i wneud grefi mae’n denau ac yn amlwg yn mynd yn oer yn sydyn. Yn wahanol i’r werin datws, dydi’r bobl hyn ddim yn gallu gwneud grefi.

Ys ddywed y gerdd:
Grefi tew,
Grefi da,
Grefi tenau,

Ffoc off.

martedì, gennaio 27, 2009

lunedì, gennaio 26, 2009

Oakwood ac Awkward

Ai fi ydi’r unig un sy ‘di sylwi bod Gogs yn dweud Oakwood ac awkward yn union yr un peth?

Enghraifft:
“Wnaeth o fihafio yn y ffair?”

“Na, roedd o’n (cwblhewch)”

venerdì, gennaio 23, 2009

Car Bach Fi

Dwi’n wahanol i hogia eraill. Awn ni ddim i fanylu’n ormodol am hynny, fyddwch chi ddim isio clwad popeth, ond mae rhan ohonof y gallaf fanylu arni sef y ffaith nad ydw i’n dallt, nac isio dallt, nac efo dim diddordeb, mewn ceir.

Nid nos Sul dda i mi mo ista o flaen y teledu yn gwylio Top Gear. I mi dydi car ddim yn rhywbeth i’w arddangos i bawb. I fod yn onest gas gen i’r bobl gyfoethog ‘ma sy’n prynu ceir mawr drud, a hynny dim ond er mwyn dangos eu bod nhw’n gallu. I mi, car ydi rhywbeth sy’n mynd â fi i siopa bob wythnos, dyfais aiff â mi i’r gogledd bob hyn a hyn. Teclyn ydyw, nid pleser. Pe byddwn filiwnydd, rhywbeth na fyddwn yn ei brynu byddai car newyddsbondanllyd. Car bach fi ydi car bach fi.

Gan ddweud hynny dwi’n licio fy Fiesta fach lwyd, yr un a fu gennyf ers i mi ddechrau gyrru. Mae hynny dros bum mlynedd nôl erbyn hyn. Hen gyfeilles ddibynadwy ydyw, nid hwran i’w pharedio; hen wraig sy’n g’neud y smwddio ac sy efo te ar y bwrdd, grefi a iau wedi’u ffrio mewn nionod a phanad (y banad ar wahân – manylyn bach ond angenrheidiol mewn swper o’r fath), nid priod-ast newydd a’i bwyd meicrodon sy’n buta Milci Wê yn gwely. Na, un da ydi’r Fiesta.

Os oes i gar le i gadw’n CD’s Celt a digon o le i roi sticars ar y cefn, ffenestri mawrion a bŵt da, fydda i’n hapus â char.

Cofiwch chi, dwi ddim yn gwbl ddall i geir, ond fel â phopeth nad ydw i’n ei ddallt (gwleidyddiaeth, chwaraeon, blogio), nid dewis fy hoffterau a wnaf eithr fy nghasinebau. I mi, diawl y ffordd, sgymbeth y lonydd, diced y draffordd, ydi’r Vauxhall. Os cymera i’n erbyn rhywbeth (sy’n ddigon posibl gyda’r nesaf peth i bopeth) dyna ddiwedd arni. Mae Vauxhalls yn hyll, maen nhw’n crap ac yn fwy na hynny roedd mam Jarrod yn berchen ar Gorsa flynyddoedd nôl, a dydi mam Jarrod ddim yn licio fi am i mi ei galw’n Dame Linda Cabij.

giovedì, gennaio 22, 2009

Ddirgel stôn y golled

Y mae’n ffaith y bydd rhywun yn mynd yn dew dros y ‘Dolig. Ddylwn i ddim bod yn eithriad i’r rheol hon, ond eithriad ydwyf. Bydd Nain yn dweud na eithriad ydw i hefyd ond mae hynny’n wahanol, bydd Nain yn dweud pa beth bynnag y gall i ypsetio pobl. Dwi mor yn cymryd ar ôl Nain.

Ond dwi, yr eithriad ag wyf, wedi colli stôn ers y Nadolig. Mae ‘na ddwy glorian yn cadarnhau hyn. Y mae dau eglurhad posibl.

Y cyntaf ydi dwi’n bwyta llai ac yn yfed llai (heblaw nad ydw i) a bod chwarae sboncen yn ymwared â’r bloneg, sy ddim yn wir achos dwi’n edrych ‘run mor dew ag ydw i wedi ers y Brifysgol. Dydi chwarae sboncen saith gwaith ddim yn fodd i golli stôn, rhaid imi fynnu. Tasa hynny’n wir byddai pawb yn chwara sboncen, a rhyngoch chi a fi, dydi pawb ddim yn chwara sboncen; nid amlygir y ffaith yn fwy na noson lawr yn stryd Pesda i brofi hyn.

Fe es neithiwr gyda’r gyfeilles ddiserch, ddiflas sef Ellen Angharad. Mae’r ddau ohonom cyn waethed â’n gilydd yn chwarae – fi ydi’r un sy’n meddu ar y dechneg, hi ydi’r un mwya ffit. Yn draddodiadol felly fi fydd yn cael y fantais o’r dechrau a hithau tua diwedd sesiwn. ‘Does ‘run ohonom yn ddel ein chwarae, ond cawn ymarfer corff o ryw fath. Allwn i ddim ar fy myw fynd i gampfa, dwi’n hoffi’r elfen gystadleuol a geir mewn chwaraeon fel badminton a sboncen a thenis. ‘Does dim cymhelliant i fynd i gampfa – a p’un bynnag byddwn i’n edrych fel rêl coc ynghanol yr holl gyhyrion wŷr.

Yn ôl o’r gwyriad a’r ail reswm posibl dros y golled o ran pwysau ydi bod gen i lyngyren ruban (tapeworm i chwithau heb radd yn y Gymraeg / sy ddim efo Cysgeir yn o handi). Byddai gwybod y fath ffaith yn troi arna i. Gwelais raglen ryw bryd am foi yn tyfu un ynddo ar bwrpas a honno’n tyfu’n hirfaith a hyll a fynta’n colli pwysau. Gobeithio nad oes y ffasiwn beth yn digwydd i mi. Dowt gen i y gall hyd yn oed llyngyren ruban fyw ar datws trwy’u crwyn a Skol efo antipasti Marks a Sparks achos bo Mam wedi rhoi vouchers i mi.

Tai’m i fynd i Marks a Sparks i brynu bwyd oni bai bod gen i vouchers. Fyddai’n farchnad nes ymlaen yn buta wy a sglods efo Dwd y Dwd, ac yn y fan honno wyf gyfforddus – wn i nad iach mo hynny, ond mae’n bosib fy mod yn bwyta i ddau cofiwch.

mercoledì, gennaio 21, 2009

Well gen i chwara sboncen

Tra bod gweddill y byd yn gwylio Barack Obama ro’n i’n gweithio, yn chwarae sboncen neu’n gwylio Man Utd. Yn y Bae yr oeddwn i yn gwylio’r gêm, yn fflat Rhys Moel a’i gariad Sioned Alci sy wastad yn yfad gwin gwyn pan fydda i’n galw heibio (wn i ddim os mai cyd-ddigwyddiad ydi hynny). Roedden ni’n troi’r sianel ambell i dro i weld p’un a oedd Barack dal yn fyw, yn poeni mymryn nad dyma’r achos, ond y consensws oedd mai lol uffern oedd yr holl ddathlu gwirion ‘ma, heblaw gan yr Alci a oedd wedi recordio’r sioe ar SgeiPlys.

Hi ddywedodd ei fod yn ddigwyddiad hanesyddol. Dydw i methu anghytuno efo hynny, ond tai’m i licio lol, ac mi fyddai’n well gen i SgeiPlysio Celebrity Come Dine With Me, ond ‘sgen i ddim SgeiPlys. Dwi’n fodlon iawn ar fy 6 sianel analog – wn i ddim pam fod angen i ni gael y cachu digidol ‘ma i fod yn hollol onest.

Cymharodd y sylwebydd y ffys arlywyddol (dw i ddim yn gwybod beth ydi ‘inauguration’ yn Gymraeg ond ffys oedd y cwbl i mi) efo Blêr yn cael ei ethol yn ’97. Bolycs medda fi, cyn troi eto i ddweud “Ew, ‘na ni” ambell dro pan oedd gan Nani’r bêl (pethau felly ydi deiet sylfaenol jôcs Gogs, a betingalw Indian efo un goes, sef Balan Singh, wrth gwrs).

martedì, gennaio 20, 2009

Sgidia, Hwdis a Lliwiau

Asu Grist dwi’n hen fasdad stwbwrn. Roedd angen pâr newydd o esgidiau arnaf, ‘sgidia gwaith. Mae sgidia yn bethau nad ydw i’n eu prynu. Bydd Mam wastad yn prynu sgidia i mi ond fyddan nhw byth yn fy ffitio ac mae’n rhaid iddi ddechrau gwrando arnaf i adael llonydd i mi eu prynu fy hun. Hidia befo, Mam ydyw a ‘does ‘run Mam yn gwrando ar ei mab.

Rhai neis oedd y rhain, £35 o Next cofiwch. Mi a’u gwisgais yno, cerad o gwmpas mymryn, a dyna ni roedden nhw’n iawn. Rhywbeth arall wedyn ydi cerad i’r gwaith efo pâr o sgidia newydd. Mae ‘na linell goch o amgylch fy nhraed – mae’r cont yn crafu arnaf (brawddeg wych, os caf ddywedyd). Mynd â hwythau’n ôl y gallwn, neu eu gadael ar yr ochr efo’r llu o sgidia gwrthodedig gan Mam, ond na, eu gwisgo a wnaf gan fy mod i, y fi, wedi eu prynu. Os y fi a’u prynodd, maen nhw’n iawn, a tha waeth p’un a yw ‘nhraed yn brifo ac yn glwyfedig o’u herwydd, dwi am eu gwisgo, a’u gwisgo aml.

Mae’n eithaf ergyd pan fydd rhywun yn meddwl bod dilledyn yn smart ond dydi’r peth jyst ddim yn eu siwtio. Dwi’n edrych yn ofnadwy o forol-hoyw mewn dillad efo streips, er enghraifft.

Fydd o’n fy rhyfeddu hefyd sut y mae rhywun yn ei chael i mewn i’w pen na fydd lliw arbennig yn eu siwtio. Du a phinc ydi’r lliwiau hynny i mi a dai’m i wisgo’r un. Byddwn i’n dweud piws ond pwy a welodd hogyn yn gwisgo piws erioed? Mi benderfynais yn ddiweddar hefyd ar fympwy nad ydw i’n siwtio coch ddim mwy. Afraid dweud, mae gen i gryn dipyn o ddillad coch.

Mae gan enethod wendid ofnadwy efo sgidia (sy’n wirion achos ‘sneb am edrych ar eu sgidia nhw), ac mae gennyf innau un gwendid marwol o ran dillad, sef hwdis. Dwi ddim yn gwybod ar faint yr wyf yn berchen, ond dyna’r unig ddilledyn mewn siop a fydd yn gwneud i mi droi ‘mhen a mynd w, dyna neis. Synnwn i ddim fy mod wedi chwalu delwedd sawl un o chavs drwy yrru drwy Grangetown mewn amrywiol hwdis a thracsiwts, efo sticer Cymdeithas yr Iaith ar y cefn a Goreuon Hogia’r Wyddfa yn sgrechian o’r stereo. Nid ymddiheuraf.

lunedì, gennaio 19, 2009

Blog Personol

Bydd rhywun weithiau yn gwrando ar ei ben ac weithiau ar ei galon ond fydd yr Hogyn yn gwneud pethau am resymau gwirion. Ydw, dwi’n licio sloj, ond yr unig reswm y bydda i’n coginio sloj ydi achos dwi’n licio’r gair sloj. Ydw, dwi’n licio tatws trwy’u crwyn, ond dwi ond yn mynd drwy gyfnod o’u bwyta’n ddiddiwedd achos ‘cân y funud’ (dwi wedi trafod egwyddor ‘cân y funud’ amser maith yn ôl) ydi ‘Tatws Trwy’u Crwyn’. Ac ydw, dwi’n licio Skol, ond y fi sy’n licio’r syniad o yfed Skol felly dyna pam y byddaf yn yfed Skol.

Ond anodd weithiau ydi cadw blog personol, neu yn achos y flog hon sy’n fenywaidd, blog bersonol. Rŵan maen blogiau gwleidyddiaeth yn iawn achos mae ‘na wastad rhywbeth i’w ddweud (er nad ydi’r pethau hynny wastad yn ddiddorol iawn i 99% o’r boblogaeth), ac mae blogiau chwaraeon hefyd o’r un anian (er wn i ddim a oes blog chwaraeon sy’n parhau i gael ei ddiweddaru yn Gymraeg). Yn wir, mae rhai blogiau sy’n trafod pethau amrywiol fel gwefannau a thechnoleg, ond mae’n rhaid i rywun ddallt y ffasiwn bethau i gymryd diddordeb yn y rheini.

Yn berthonol, dwi’n ffan o’r blog personol. Fydda i’n ffendio pobl a’u bywydau yn ddiddorol. Nid a wnelent ddim â mi ond mae ‘na rhywbeth ‘cynnes’ am flog personol nad ydi blogiau eraill yn meddu arno. Maen nhw’n ddibwrpas. Yn wir, mae fy mlog fy hun yn erchyll o ddibwrpas, ond fydda i yn licio ysgrifennu a darllen pethau dibwynt. Fydda i’n licio gweld ar hyd ba drywydd y mae meddyliau pobl eraill yn mynd, ac nid yn anaml fydda i’n eithaf synnu ar rai o’r pethau y bydda i’n eu dweud.

Mae pobl eraill yn ddiddorol (ar y cyfan, dydi fy ffrindiau, er enghraifft, ddim yn y lleiaf). Byddaf innau a’r Dwd, fy nghyfeilles flêr a chrychlyd, yn cael trafodaethau hirfaith am bobl a’r meddwl ac ymddygiad a phethau felly. Os mai llygaid yw pyrth y galon, blog, yn anad dim, yw porth yr enaid.

(malu cachu dwi rŵan, wn i ddim am be dwi’n sôn y tro hwn)

venerdì, gennaio 16, 2009

Yr Ornest Farddonol Fawr rhwng yr Hogyn a Lowri Llewelyn

Cyfres o e-byst rhyngof i, yr Hogyn o Rachub, a'r gyfeilles wirion, Lowri Llewelyn, fesul neges.

Lowri Llew mewn coeden,
Beth goblyn wyt ti’n gwneud?
“Honno yw ‘nghyfrinach
Dydw i ddim am ddweud!”
Lowri Llew pam ydwyt
Mewn afon yn y dŵr,
“Ni allaf i ddweud celwydd,
Dydw i ddim yn siŵr,”

Mae Lowri Llew ymhobman,
Mewn llan a llannerch a lli,
Tasa hi ddim yn fanno
Wn i ddim lle fyddai hi.


--

Mae Lowri fatha Duw
Duw Cariad yw.
Dyw Lowri ddim yn Jew,
dyw Jews ddim yn Dduw.
Ond Lowri yw Duw;
Duw gyda Piwbs!
So pwy yw Duw?
Lowri yw y Duw.

--

Dwyt ddim yn Dduw
Wn i ddim a wyt yn Jew
Y ffaith sy'n glir ydyw:
Nid wyt yn Mrs Pugh


--

Os nad fi yw duw,
ydy Duw yn amryliw?
Fatha huw bob lliw?
sy'n byw yn flat huw puw.
ag yn bymio jews,
gan weiddi "jiw jiw"?
nacydyw.
Lowri yw Duw.


--

Er fy mod yn mwynhau ein cystadleuaeth farddoni
Nid oedd rhaid dod â rhyw i mewn i'r un rhan ohoni,
Nid mater doniol yw "rhyw anal" Iddewon
(Ar y llinell honno yr oeddwn anfodlon),
Duw nid wyt, fy nghyfaill bol jeli
Ond fi, Iason Morgan, yw Arglwydd y Cerddi,
Llunio cerddi mi fedraf heb drafod yn fudur,
Dwi'n licio fy sglodion heb halen na phupur....er....


--

Y llinell olaf nid oedd yn wir,
Gwell cadarnhau hynny, i fod yn glir.

--

Ymddiheuriadau am drafod rhyw.
Rhaid dweud, rwyt yn unigryw
syn sensitif i faterion fel yma.
Well gen ti siarad am fwyta.
rwyt yn hoff o dy sglodion -
ond beth am facrell neu salmon?
neu iar neu gig eidion?
neu fresych neu foron?
Dwi'n hoff o bizza
a bara
a llawer o wya'
fatha dada


--

Sglodion sy'n dda, â sos coch yn bennaf,
Macrell o'r môr wedi'u ffrio sydd harddaf,

Salmon sy'n ddrud, ond trît neis rhaid cyfadda,
Cyw iâr nas coginiwyd sy'n llawn salmonella,
Cig eidion sy'n iawn i bobl sy'n gul,
A bresych a moron mewn cinio dydd Sul.
Dy ddewisiadau sy'n dda, dwi'n ffan mawr o bizza,
A bara ac wyau, neu wyau ar fara!
Ond hoffwn ofyn un cwestiwn, yn hyderus i gyd,
O'r holl fwydydd sy'n bod, beth yw'r gorau'n y byd?


--

Wel dyma i ni gwestiwn - cwestiwn y ganrif
beth yw fy hoff fwyd neu hydynoed hylif?
mae prys tseinis wastad yn neis
neud fexican neu indian 'da chydig o sbeis.
Mae cawl yn dda i gadwn gynnes
Neu fajitas (ond maent yn gwnued mess)
ond ateb rwyt arol Jason bach sgwishi
nid rhestr o'r bwydydd dwi yn ei hoffi
Ond bydd rhaid i ti aros am y gerdd nesaf
i weld beth yw'r bwyd sy'n cyrraedd gyntaf...


--

Dwi'm yn sgwisgi, dwi yn gadarn,
Fy ffugenw yw Iason Maharen,
Rwyt yn ddirgel dy gerdd, nid oes amheuaeth,
Mae'r gwpled olaf na'n creu eitha penbleth,
Y bwyd gorau a gefais, os yw o ddiddordeb
Yw bwyd cartref yr Eidal, mae'n llwyr ddigyffelyb,
Y gwaethaf oedd rôl o fins, Amsterdam,
Ei fwya a wnes, ond wn i ddim pam.
Dwi'm yn cofio i ni'n dau gael pryd gyda'n gilydd
Jyst ni'n dau, wyt ti? (a phaid â dweud celwydd)
O! Mae heddiw yn ddiwrnod hir,
Dwi 'di diflasu yn llwyr os dywedaf y gwir.


--

Addawais ateb i chwi, mi wn i hyn
felly dyma ni'n mynd: ateb i'r dyn..
Fy mwyd gorau yn yr holl fyd
a hyn ers bod yn y crud,
Yw... CHIPS


---

a dwi'n gwybod nawr
fod hyn yn siom fawr
tin fy ngweld yn ddi-ddychymyg
ac yn anhyblyg.
ac hefo tast bach tlawd
tast fel blawd.
Ond dyna yw hanes Lowri Llew;Byta chips i'w gwneud yn dew.

giovedì, gennaio 15, 2009

Tisho bet?

Gawn ni ‘mbach fwy o hwyl heddiw nag y cawsom ddoe, gyfeillion, dwi’n addo. Dydw i ddim yn cytuno efo gamblo mewn casinos, i fod yn onest dwi’n gwbl yn erbyn y peth, ond fe fydd yr Hogyn yn licio betio. Dydi betio ddim yr un fath achos beth bynnag y mae rhai yn ei ddweud mae ‘na wir resymeg y tu ôl i roi bet yn hytrach na gamblo ar blacjac neu roulette.

Fydda i ddim yn ei wneud yn aml. Roedd ‘na gyfnod pan oeddwn yn y Brifysgol lle byddwn i a hogia’r tŷ yn mynd lawr City Road i’r bwcis i roi aciwmiwletyr ar y pêl-droed ar ddydd Sadwrn.

Dim ond rhyw bunt y byddem yn ei fetio’r un, ac nid yn anaml y byddwn i a Kinch yn cael sglods ar y ffordd nôl ac yn ista o flaen y teledu yn gwylio Soccer Saturday efo caniau a’n betiau o’n blaenau, yn gorfoleddu a phwdu bob yn ail. Dydi ennill yr aciwmiwletyr ddim yn beth hawdd a ni lwyddasom fyth, ond roedd ‘na hwyl i’w chael, ‘nenwedig pan fyddai Gareth Jellyman yn sgorio – roedd rhaid i chi fod yno – cyn mynd allan nos Sadwrn.

Felly fe’m cyflwynwyd i fetio bryd hynny, fwy neu lai. Cymysg fu’r lwc yn ddiweddar. Lwyddais i ennill ffwc o’m byd ar Bencampwriaeth Ewrop, ond mi gafodd Ceren a minnau fet ar gêm y Scarlets a’r Dreigiau yn ddiweddar. Pumpunt rhoes y ddau ohonom i lawr, a enillais £1.43, sy ddim yn drawiadol nac yn beint, hyd yn oed, ond pres ‘di pres ‘di pres.

Dim ond ddoe, dachi’n gweld, ddysgais i sut mae betio “ffor’ rong” yn gweithio – dwi ‘di dallt 2/1 a 5/1 erioed ond byth 2/7 a 3/11 ac ati. Dwi’n dallt rŵan felly mi wneith fet slei yn amlach, mi gredaf.

Pwynt y llith gachlyd hon ydi y bu i mi osod bet ddoe i Gymru guro’r Gamp Lawn. Fe ges odds da iawn yn William Hill, sef 11/2, a chan fy mod yn optimist chwaraeon dydw i heb eto ystyried na’i churwn, ond mi wnaiff hanner noson allan os byddaf lwyddiannus.

Ew, tair wythnos nes i fy hoff adeg o’r flwyddyn, Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, ddechrau, a’r tro hwn mae arian yn y fantol. Allai fy mywyd fod yn fwy cyffrous?

mercoledì, gennaio 14, 2009

Y Ddau Benderfyniad

Felly mae, ac felly fydd. Ar ôl rhywfaint o chwilio’r enaid dwi wedi dod i ddau benderfyniad.

Cyn i mi fwrw ymlaen, dylwn egluro ambell beth (wn i fod hyn yn swnio’n seriws ond peidiwch â phoeni, does â wnelo’r peth dim i wneud efo chi mewn gwirionedd). Er fy mod i’n hoffi pwyso a mesur, ac erbyn hyn yn fy henaint yn dda iawn am wneud, a dywedyd pethau doeth yn ôl fy ffansi, yn y pen draw bydda i bob tro yn gwneud penderfyniad o fêr fy esgyrn. Tai’m i licio ffeithiau. Yr ail beth ydi fy mod i’n aml iawn yn blogio o’r galon - wel, ddim o’r galon cymaint â dweud y peth cyntaf dwl sy’n dod i’m mhen, ond rydych chi’n dallt be sy gen i.

Felly nid cyfuniad da mohono o ystyried y ddwy frawddeg gyntaf.

Y cyntaf ydi fy mod i am fwynhau eleni. Wn i’n iawn fod hynny’n swnio’n hurt, ond fe fydda i’n benderfynol o fwynhau oherwydd yr ail reswm, sef dwi wedi dod i’r penderfyniad mai 2009 fydd fy mlwyddyn lawn ddiwethaf yng Nghaerdydd, a dwi’n mynd i’w heglu hi’n ôl am Ddyffryn Ogwen yn 2010 ryw ben. Fydda i wedi bod yma am y rhan orau o saith mlynedd bryd hynny, sy’n amser maith i fab y mynydd fyw yn y ddinas, er ei fod mor hoff ohoni.

Buaswn wedi symud nôl pe na bawn wedi bod yn ddigon ffodus i gael swydd, cofiwch, ac mi wn yn iawn y byddwn wedi edifar yn ofnadwy pe byddwn wedi gwneud. Edifarwn pe symudwn yn ôl eleni hefyd, dwi’n meddwl, neu pe byddwn wedi symud yn ôl y llynedd. Fu’r adeg ddim yn gywir, roedd hi’n rhy gynnar.

Ond, drwy ryw ledrith, mae tua blwyddyn arall yn teimlo’n ‘iawn’ i mi, ac mae ‘teimlo’n iawn’ yn bwysig i Gogs, ac mae ystyr y gair syml a chyffredin hwnnw yn ddyfnach na’r wyneb, ond tai’m ar drywydd ieithyddol rŵan.

Na, mae’r Hogyn wedi penderfynu mynd nôl i Rachub. Flwyddyn nesa, ac efallai bod hynny’n swnio fel gwneud penderfyniad yn rhy fuan neu fwydro ar hap, ond na, dwi wedi dweud ers cryn dipyn fy mod wedi bod yng Nghaerdydd am hirach nag y byddwn yma, ac mae rhywbeth da am gynllunio ‘mlaen am hynny, ac yn rhoi rhywfaint o dawelwch meddwl i mi am yr holl fusnes.


Ew, dwi’n teimlo’n fodlon iawn ar ddweud hynny, hefyd. Da dwi, mewn difri calon.

martedì, gennaio 13, 2009

Yr Hogyn Mawr

Ddywedais i y byddwn yma’r wythnos hon, a chwarae teg i’r hen goes, dyma fi yma. Ta waeth am y lol ‘na, neithiwr welish i raglen ar Sianel 4 am goblyn o hogyn tew. Rŵan, dydw i ddim yn un i chwerthin ar anffawd eraill (sydd o bosibl y celwydd mwyaf i mi ei ddweud eleni), ond nid celwydd mo ‘coblyn o hogyn tew’ fel disgrifiad, roedd hwn yn 60 stôn. Gwn y byddai Nain yn dweud ‘coblyn o hogyn tew’ am rywun o’r fath faint, ac yn cael getawê efo gwneud, felly dwi am fynnu’r fraint honno fy hun.

Y fam, nid yn seis sero ei hun, a ddywedodd y medrasai fod yn arlywydd America pe hoffai. Chreda i ddim mewn celwydda i blant (roedd hwn yn 19 oed ond roedd hi’n ei drin fatha plentyn) a thasa Mam wedi dweud wrthyf i pan oeddwn fachgen y gallaswn fod yn unrhyw beth yr hoffwn, byddai hi’n celwydda. Ond tai’m i gelwydda, fydd hwn ddim yn arlywydd ar wlad fwyaf pwerus, a thewaf, y byd, a fydda i byth yn lapddawnsiwr (llwyddiannus).

Ond aeth Gwobr y Datganiad Amlwg i’r tad. My son ,ebe’r gŵr a’i drawswch, he sure likes his hamburgers. Fedra i ffwcin weld hynny, me’ fi i’m hun, mae hynny mor amlwg â rhywun yn edrych i’m cwpwrdd dillad a dweud fy mod i’n licio hwdis, ond fydda hwn yn buta’n hwdis pe câi gyfle.

Wn i ddim amdanoch chi, ond alla i ddim wastad teimlo tosturi. ‘Sdim dowt roedd y fam yn ei fwydo fel y bwydir rhai o drigolion Sŵ Gaer, ond os ydych chi’n cyrraedd 60 stôn wn i ddim be sy’n clicio yn yr ymennydd a dweud ‘dwi’n fowr, iown iown’ ar yr union adeg honno. Mi benderfynais innau golli pwysau yn 13.5 stôn - fydda hwn o leiaf wedi gallu meddwl pan fu’n, be, ugain stôn, y byddai deiet a cherad o les?

‘Sneb isio bod yn obîs. Wn i ddim am neb yn yr hwn o fyd sydd ag iddo neu iddi’n ddyhead personol o efelychu Stadiwm y Mileniwm. Wn i hefyd, rhag i mi ymddangos yn rhy ddideimlad (ddim bod gen i ots mawr am hynny’n bersonol, cofiwch), bod genynnau rhai pobl yn rhagddweud y byddant yn fwy nag eraill. Ond ‘does ‘run genyn yn dweud byta nes i ti bron methu â cherdded.

Ond Duw ag ŵyr, dwi’n siŵr ei fod gwerth pump ohonof i. O ran personoliaeth, wrth gwrs...

venerdì, gennaio 09, 2009

Talent

Meddyliais i mi’n hun y diwrnod o’r blaen, “Beth ydi dy dalent, ‘rhen chwaer sgip jac fflapjac polo mint pwys o ham swllt y geiniog cadi ffan washi bwoi?” - a methais â chanfod ateb.

Byddwn onest, mae talent yn rhywbeth eitha’ dibwynt ar y cyfan, pethau fel dawnsio, chwarae pêl-droed, chwarae offeryn, barddoni, pethau felly, ond megis trôns mae’n beth handi i’w gael. Well gen i focsars fy hun ond fel y gwyddoch nid lle i drafod materion y trowser mo’r flog hon, y sgidmarc ar y rhithfro ag ydyw.

Ond, ia, talent. Hoffwn innau dalent. Byddai hedfan yn dalent dda i’w chael, ond dydi hynny ddim cymaint o dalent ag ydyw’n superpower (o ran pobl, allwch chi ddim dweud bod gan fulfran werdd superpower achos ei bod hi’n medu hedfan, na fedrwch?). Gall rhywun, ag ymdrech ac ymroddiad, ddysgu sut i chwarae offeryn, a thrwy ymrwymiad ac ymarfer fireinio eu sgiliau chwaraeon (do’n i byth ‘di sylwi bod ‘na gymaint o eiriau ‘y’ sy’n golygu pethau gweddol tebyg i’w gilydd).

‘Swn i’n hoffi bod yn areithiwr penigamp, ond dwi’m yn meddwl y byddai neb yn gwrando arna i, a p’un bynnag ‘sgen i ddim byd i siarad amdano ac eithr fy niffyg talent.

Ond dydw i ddim yn credu bod gan bawb dalent beth bynnag. Mae erwau ac erwau o bobl sy’n gwbl ddidalent, fel fy nheulu, neu actorion Pobol y Cwm, a Lowri Dwd, a rhai athrawon Cymraeg na chânt y fraint o’u henwi yma, ond ‘sdim angen talent i lwyddo. ‘Sgiliau’ ydi’r gair aur y dyddiau hyn. ‘Sgiliau cyfathrebu’ fydda i’n licio rhoi ar fy CV. Medr unrhyw un siarad, ‘blaw am bobl fud, neu bobl ddiog sy’n smalio bod yn fud. Mae ‘na rai yn rhywle, uda i wrtho chi.

Reit, dwi’n mynd rŵan. Welai chi wsos nesa'.

giovedì, gennaio 08, 2009

Y Cwricwlwm Cenedlaethol yn Daleithiau

Rŵan, mae ‘na ddigon o enghreifftiau o Gymraeg gwael ar hyd y we, a thra bo cyfieithwyr gwael daw Cymraeg gwael i’r amlwg (nid fy mod i’n hawlio bod yn gyfieithydd penigamp yn y lleiaf, cofiwch, ond diawl mae’n rhaid bod ‘na ambell un uffernol allan yna’n rhywle). Yn bersonol fydda i’n licio’r cyfieithiadau sy’n absẃrd, o’r un ‘Nid wyf yn y swyddfa...’ a welwyd yn Abertawe yn ddiweddar i un y des ar ei draws wrth Chwarel y Penrhyn a nododdd “Blasting in Progress - Gweithwyr yn Ffrwydro”. Dydi hynny ddim yn ‘anghywir’, wrth gwrs, ond roedd rhywbeth doniol iawn amdano, yn sicr i mi.

Mi ddes ar draws un fy hun wrth gyfieithu tua blwyddyn a hanner yn ôl erbyn hyn. Rhown i mo manylion, wrth gwrs, ond traethawd ydoedd yn Gymraeg ac roedd angen ei gyfieithu i’r Saesneg. Ddyweda i fwy wrthoch am ddileits cyfieithu traethodau pan fe’ch gwelaf yn hytrach na thraethu am hyn ar-lein, amhriodol fyddai hynny, ond y frawddeg yn Gymraeg a ddarllenodd megis:

“...ac mae’r Cwricwlwm Cenedlaethol yn daleithiau ...” cyn mynd ati i ddyfynnu ryw baragraff o’r Cwricwlwm.

Mi bendronais am hyn fymryn, achos byddwch yn sylwi nad ydi’r frawddeg yn gwneud synnwyr, a do’n i methu â chael fy mhen o’i chwmpas. Tan i mi ei chyfieithu...

...and the National Curriculum states ...


Roedd hynny’n gwneud synnwyr perffaith, ond dwi dal i wenu wrth feddwl am rywun yn ysgrifennu traethawd yn Gymraeg yn rhywle, rywbryd, ac estyn am y geiriadur i weld beth ydi ‘states’ yn Gymraeg, ac yn llwyddo bachu gair cwbl anghywir. Ew, mae’n braf pan mae’n braf.

mercoledì, gennaio 07, 2009

Yr Iachuso

Neno’r tad dydi’r fath oer yn dda i ddim i neb, yn enwedig i’m biliau nwy. Rhaid i hyd yn oed llanc ifanc, hardd fel y fi gadw’n gynnes yn y tywydd hwn, cofiwch, yn enwedig o ystyried mai unigolyn sâl ydw i ar y cyfan.

Fydda i ddim yn rhy sâl yn hirach os parha ymgyrch flynyddol mis Ionawr. Ydw, dwi yn un o’r bobl hynny sy’n gwneud hanner ymdrech i deneuo a cholli pwysau ar ôl gormodeddau’r Nadolig. Nid anodd yw i mi golli na rhoi pwysau ymlaen os bwytaf yn iach, ac mae gen i awch am fetys yn ddiweddar, felly dylwn fanteisio arno a throi’n saladwr dros dro.

Gan ddweud hynny, ‘sneb isio salad yn y gaeaf, nac oes?

Yr ail gyfnod o iachuso ydi’r cyfnod o tua mis rhwng diwedd y Chwe Gwlad a’m pen-blwydd. Os cofiwch, collais stôn bryd hynny y llynedd, ond tai’m i golli stôn y mis hwn neu mi fyddai’n denau ofnadwy, a p’un bynnag dydi dyn ddim i fod yn denau. Cyhyrog, bosib, ond byddai cyflawni’r ffasiwn gamp yn wrthyn i mi, minnau’n hapus gan ‘mbach o fol a breichiau gwan.

Ond nid llwgu y byddaf i golli pwysau. Dalltwn i mo bobl sy’n gwneud ffasiwn beth, peth gwirion i’w wneud os bu, ond bydda i’n cwrdd â’m Diafol personol head on ac yn ymarfer corff. Yr wythnos hon yn unig dwi wedi chwarae sboncen a badminton, ac am chwarae sboncen eto heno. Mae’r corff yn gweigan gan stiffrwydd a dydw i heb â chael shêf ers oes pys achos mae’n rhy oer yn bathrwm ar ôl cyrraedd adref i aros yno ac eillio.

Wn i ddim ag yw blewog a ffit yn gyfuniad perffaith, chwaith.

lunedì, gennaio 05, 2009

Dechreuad y Flwyddyn Newydd

Iachawdwriaeth mai’n flwyddyn ryfedd hyd yn hyn. Heddiw fydd y diwrnod cyntaf o 2009 i mi fynd heb alcohol. Heblaw os cyfrwch chi ddoe, ond dwi ddim am wneud hynny oherwydd dydd Sul oedd ddoe ac mi fydda i’n swnio’n llai hardcôr os dyweda i hynny.

Mae’r goryfed dwys, hyfryd hwn wedi magu ambell ganlyniad, a gall dydd Sul yn aml fod yn ddiwrnod peryglus. Y cyntaf ydi’r paranoias ôl-yfed y bydda i’n eu cael; maen nhw’n ofnadwy – fydda i yn fy ngwely nos Sul yn clywed popeth a’m meddwl yn rasio, sy’n golygu er nad ydw i’n yfed ar ddydd Sul fel rheol, fydda i’n aml iawn yn y gwaith ddydd Llun heb gysgu fawr ddim, wedi treulio noson yn meddwl am ysbrydion a llofruddwyr a phethau felly.

Yr ail berygl ydi’r gwaethaf. Anaml gwyd ei ben ond bydd siopa bwyd a chwithau’n chwil o’r noson gynt yn ddiddorol. Ddoe ro’n i’n chwil ers nos Galan i bob pwrpas, a dreuliais yn y Bae yng nghwmni Rhys, Ceren, Sioned a Caryl Parry-Jones, sydd wedi meddiannu S4C dros y dyddiau diwethaf. Pwy arall ifanc greaduriaid a dreuliant y flwyddyn newydd yn ceisio dyfalu digwyddiadau'r flwyddyn a fu yn ôl Wedi 7 - Wedi 2008?

Ond dwi’n mwydro rŵan a tha waeth am hynny sut bynnag. Llwyddais wario ugain punt yn Morristons, gyda chynhwysion yn amrywio o dwb mawr o hufen iâ cyfoethfawr ei flas, cacennau afalau Mr Kipling, sy’n gwneud cacennau da medda nhw ond dydi hynny ddim yn cyfiawnhau rhywun sy’n byw ben ei hun yn prynu bocs gan fod 8 am bris 6; a chynhwysion i wneud cyri. Unwaith ffycin eto.

Felly fydd gen i ddim dewis rŵan ond cael cyri arall, ar y rêt yma fyddai’n Indian cyn diwedd Ionawr.

mercoledì, dicembre 31, 2008

Blynyddoedd newydd a fu'n fras

Dyna ni, un arall ar ben! Wel, bron. Wn i ddim pa gynllun sydd gennyf mewn difri, cofiwch. Cofiaf flynyddoedd yn ôl ddeffro i’r flwyddyn newydd yn sied Jarrod ym Maes Coetmor. Os cofiaf, nid blwyddyn ragorol mo honno, achos mae dechrau’r flwyddyn yn sail i weddill y flwyddyn.

Dwi wedi treulio’r flwyddyn newydd yn Llanrwst efo’r Dwd ac yn Nhŷ Isaf ers hynny.

Ddwy flynedd yn ôl 2006/07, ro’n i’n Clwb Ifor Bach lle’r oedd y cowntdown yn shait a neb yn gwybod pryd ddechreuodd yn flwyddyn ar ôl y llall. P’un bynnag mi ffraeodd y Rhys a’r Sion a’m gadael innau i fod, lwcus bod Helen yno neu ben fy hun y byddwn. Y flwyddyn wedyn ro’n i’n y Cayo Arms a bu i mi chwydu – a choeliwch chi fi dwi wedi chwydu lot eleni. Mynd yn hen a methu handlo’r êl ydi hynny, fetia i.

Ta waeth, gwaeth i mi fod yn sifil, o be mae hi werth, a dymuno blwyddyn newydd dda i chi gyd. Efo’r wasgfa economaidd am ddwysau bydd hi’n flwyddyn gachu yn 2009, cewch weled, ond gwnewch y gorau ohoni, myn diân.

lunedì, dicembre 29, 2008

Y Cyri

Dydyn ni ddim yn deulu o gyrïwyr cogyddol, neu fel arall teulu o bobl sy’n coginio cyris. Ond mae tro ar fyd wedi dyfod wrth i mi gael llyfr o’r enw The Curry Bible i Dolig, ac mi wnes gyri echddoe.

Dwi bob amser wedi bod isio gallu gwneud cyri. Un o’r pethau eleni sydd wedi fy ngwylltio eleni ydi’r rhaglenni Indian Cuisine / Chinese Cuisine made easy achos bolocs ydi hynny. Mae’r cyflwynwragedd yn gwneud popeth posibl i wneud y seigiau mor gymhleth â phosibl a gwneud i chi deimlo’n stiwpid nad ydych chi’n dallt. Tai’m i’w dallt nhw, beth bynnag.

Wel, ffwcia nhw, me’ fi, mi wnaf fy nghyri fy hun. Wedi’r cyfan, rhaid cael gwared â’r holl dwrci rhywsut, a fydda fo fawr o hwyl taswn i’n gwybod sut yn union mae gwneud cyri. Digon bodlon oeddwn i luchio twrci, garlleg, nionyn, puprau, tomatos, turmeric, clofau, paprika a chillis i mewn i sosban i weld pa erchyllbeth y rhoddir genedigaeth iddo yn y pair anfad.

Canmol wnaeth pawb, heblaw amdanaf i. Doedd o ddim digon sbeisllyd i’m chwaeth personol, a dwi wedi nodi ambell waith nad ydw i’n licio pobl sy’n cael cyris sy ddim efo sbeis, fel korma – mae o fatha cael vegiburger, sef byrgyr ond dydi o ddim yn fyrgyr go iawn (ffwc ots gen i be udith neb).

Felly dyna gaiff fod yn adduned gyntaf y flwyddyn newydd: neud cyri weithiau; a pha beth bynnag a ddigwydd o leiaf fydda i dal yn gogydd gwell na Nain. Dydi’r ddynas ‘na jyst ddim yn gogyddes.

mercoledì, dicembre 24, 2008

Dymuniadau Syml

Sumai bawb. Dwi ddim am fod yn ginci a dweud y gobeithiaf y y bydd Sion Corn yn dŵad yn eich simdde na wneud rhagor o gwyno tan ar ôl y Nadolig. Dwi wedi bod yn sâl ers cael fy sbeicio nos Wener (ddim yn siŵr pwy fyddai isio fy sbeicio i fod yn hollol onest, ond chwaeth da sydd ganddynt, afraid dweud).

Na, ni chwynaf am dwrcwns sych a charolau cachu y tro hwn: heddiw dwi am ei chadw’n syml a dymuno ‘Dolig Llawen i chi gyd. Os tynna i gracer a rhoi stwffin i dwrci, bydd hi’n Ddolig gwerth chweil, dwi ddim yn amau!

lunedì, dicembre 22, 2008

Arglwydd mawr, de ...

Hyd yn oed mwy o dystiolaeth y bydd Plaid Cymru yn torri ei haddewid parthed refferendwm.

Y peth sy'n synnu fi ydi dwi ddim yn siwr a ydi'r Blaid yn sylwi cymaint o bleidleisiau traddodiadol y mae'n mynd i'w colli, yn sicr ar dystiolaeth y 18 mis cyntaf mewn llywodraeth. A fydd hi ddim yn fwy nag y mae'n ei haeddu.

Gan ddweud hynny, dwi'n weddol sicr nad ydi Dafydd Êl yn gynrychioliadol o aelodau'r Blaid, er wn i ddim mwyach. Mae'n edrych yn debycach fod aelodau cyffredin y Blaid yn ddigon parod i eistedd nôl a gwneud dim beth bynnag. Mae gen i ofn mai cic yn din sydd ei hangen ar Blaid Cymru - pa farn bynnag sydd gennyf arni ar hyn o bryd byddai'n niweidiol i genedlaetholdeb pe deuai'r gic honno yn 2011.

Ac os na ddaw, dydi dyfodol Cymru fawr ddim i edrych ymlaen ato.

giovedì, dicembre 18, 2008

Hajeliwia - ia, rhywun arall yn sôn amdano - mae'n ddiflas erbyn hyn dydi?

Ymddengys bod pawb arall yn y rhithfro yn mynd ati i gontio’r gân Hallejuah. Dwi’n meddwl felly y mae ei sillafu, wn i ddim mewn difri – mae gen i Saesneg da ond bydda i wastad yn dewis defnyddio Saesneg gwael, yn enwedig ar lafar, mae ‘na llawer mwy o hwyl i’w gael, ac mi fyddaf rhywsut yn teimlo’n lanach.

Ta waeth am hynny dydw i ddim yn gwybod dim byd am y fersiynau. Nid person sy’n dallt ei fiwsig ydw i: yn benodol cerddoriaeth Saesneg. Dwi’n gwybod bod hynny’n swnio fel fi’n bod yn bedantaidd, ond dwi jyst ddim yn ei dilyn – nid fy mod i fawr well efo cerddoriaeth Gymraeg, ond byddwn i’n cael trafferth enwi band modern. Nid yn anaml y mae pobl yn ceisio atal chwerthin pan fydda i’n dweud fy mod i’n licio cân fodern boblogaidd yn Saesneg. Os mynegaf ddarn o wybodaeth am gerddoriaeth Saesneg, mae’r syndod yn yr ystafell yn weddol ryfeddol.

Ro’n i’n arfer dweud fy mod i’n licio’r Black Eyed Peas, ond i fod yn onest un gân o’n i’n ei licio ganddyn nhw, ac fel rhywun sy’n gwybod y geiriau i ddegau o ganeuon Dafydd Iwan ac yn berchen ar bob CD gan Celt, teg dweud nad ydw i’n siwtio licio’r Black Eyed Peas.

Ond y gwir ydi wn i ddim am gerddoriaeth Saesneg ers tua degawd. Fe wnes i brynu CD Elvis wythnosau’n ôl; sy ddim yn gerddoriaeth fodern a bu i mi ond ei brynu achos ei fod yn ddwy bunt. Catatonia fydda’r peth Saesneg diwethaf i mi ei brynu cyn hynny. Mi fydda i’n lawrlwytho caneuon o bryd i’w gilydd – mae’r diweddaraf o’r casgliad hwnnw’n flynyddoedd o oed erbyn hyn.

Yn fwy na hynny dwi’n casáu bob mathia o fiwsig: pop, rap, hip hop (dwi methu hyd yn oed dweud ‘hip hop’ heb edrych fel mong) ac unrhyw beth gan Coldplay. Mae’n typical bod un o’r unig fandiau Saesneg dwi’n gyfarwydd efo fo yn un sy’n gas gen i. Wn i ddim amdanoch chi, ond fydd rhywbeth atgas yn dwyn fy sylw yn llawer mwy na rwbath da. Phrioda i fyth, debyg, oni phriodaf Ellen. Dywed hi y bydden ni’n “cael hwyl” pe priodem. Mynnaf beidio â chytuno.

Na, does neb yn y byd yn gwybod llai am fiwsig Saesneg modern na fi. Wn i ddim a ydi hynny’n nod balchder neu’n fy ngwneud i’n sado. Udwn ni sado balch, dydw i ddim isio ffraeo heddiw.

mercoledì, dicembre 17, 2008

Edrych Ymlaen (ddim yn siwr pam)

Un peth am y Nadolig sydd wirioneddol yn gwneud i’m calon wenu ydi meddwl am fod adra am ychydig ddyddiau. Dydi hi ddim bob tro’n bosibl ei gwneud pan fydd rhywun yn gweithio. Y llynedd bu bron iddo dorri ‘nghalon y bu’n rhaid i mi deithio i lawr ar ddiwrnod San Steffan yn syth ar ôl cael ein cinio San Steffan yn nhŷ Nain, gan y bûm yn gweithio’r diwrnod wedyn.

Nid felly eleni. Dwi wedi bod yn gyndyn i ddefnyddio fy ngwyliau drwy’r flwyddyn ac mi fyddaf yn cael gwyliau drwy gydol wythnos nesaf y tro hwn. Mae gen i barti gwaith nos Wener, lle byddaf yn weddol gall am unwaith gan fy mod yn gyrru i fyny ddydd Sadwrn.

Yr hyn sy’n ofid i mi ydi bod yr wythnos hon yn gythreulig o araf. Onid ydych chi’n teimlo’r un fath pan fyddwch yn edrych ymlaen at rywbeth? Llusgo mae’r amser bryd hynny yn waeth nag LCO Iaith.

Gan ddweud fy mod yn edrych ymlaen, rhaid dweud y gwn y bydd y dydd mynd rhagddo fel arfer: codi’n fora, agor presanta, trio gwneud iddyn nhw fy niddori tan amser cinio (sy ddim yn hawdd), mwynhau cinio Dolig efo Nain a Grandad yn cymryd pot-shots at ei gilydd, cysgu’n pnawn achos fyddai mor hyngover o noswyl Nadolig, a wedyn bymio o gwmpas yn chwilio am rwbath i edrych arno ar y teli.

Dydi o’m cystal hwyl â hynny, i fod yn onest.

lunedì, dicembre 15, 2008

Colli Hanner Diwrnod

Mi fydd rhywun yn ddig iawn pan fyddo wedi colli hanner y diwrnod yn cysgu oherwydd diod a’r hanner arall i ben mawr. Un felly fu’r Sadwrn i mi – ddeffrois i ddim tan ar ôl un o’r gloch y pnawn, a phrin y gallais godi am hanner awr go dda ar ôl deffro.

Fydda i’n licio trefn efo deffro a byth yn deffro’n hwyr erbyn hyn. Bai gweithio ydi hynny. Be ydi’r dywediad Saesneg ‘na?

Early to bed, early to rise,
makes a man healthy, wealthy and wise
.

Dwi ‘di deud erioed bod y Saeson wastad yn siarad bolycs ac mae’r uchod yn dystiolaeth o hynny. Fydda i’n codi’n fore ac yn cysgu’n weddol fuan erbyn hyn, ac er fy noethineb tragwyddol dwi ddim yn gyfoethog ac yn bell o fod yn iach. I fod yn onest, ‘sneb fawr salach na fi.

Ta waeth am hynny, ddilynais i mo’r cyngor uchod ddydd Sadwrn. Stryffaglais lawr y grisiau yn fy nresin gown wrth i’r muriau gylchdroi o’m hamgylch. O flaen y teledu, yn gwylio pethau nad oeddwn isio’u gwylio, yr oeddwn nes mentro i’r Gourmet Chinese achos ro’n i’n llwglyd erbyn hynny.

Mae dau Chinese yn agos i’m cartref. Yr ail yw Victory, sy’n ofnadwy o le budur a dydi’r hen ddyn, hynod annifyr, sy’n gweithio yno ddim yn fy nallt i’n siarad a dydw i ddim yn ei ddallt o chwaith. Gwna hyn ein cyfathrebu’n anodd. Mae gan y Gourmet Chinese enw twyllodrus, fel sydd gan bob têc-awê Chinese os meddyliwch chi am y peth am eiliad, ac mae’n agos iawn, ac ar ôl cyrraedd adref ohono do’n i methu bwyta dim, a theimlais yn sâl drachefn wrth ddod ar draws cymal cnoillyd yn fy mhorc.

Y broblem fawr gyda chodi’n hwyr ydi bod cloc y corff yn mynd yn wallgof, ac ro’n i fyny tan tua thri yn gwylio ffilmiau gachu (y gwnes eu mwynhau’n fawr).Ydi wir, mae ‘mywyd i’n wyllt weithiau.

venerdì, dicembre 12, 2008

Y Ffein a'r Gôt Ddrud

Felly mi ges anrheg i Mam neithiwr ac yn falch iawn efo hi. Dydw i ddim yn licio’r holl lol Nadoligaidd sydd yn bla yng Nghaerdydd o gwbl, a gwn fy mod i’n cwyno am hyn flwyddyn ar ôl blwyddyn ond mae materoldeb Dolig wirioneddol yn fy ngwylltio, os nad yn fy nigalonni. I fod yn onest, dwi’n ei ffendio fo ychydig yn afiach; yn lle gwario cymaint ar addurniadau oni fyddai’r well rhoi’r pres i elusen neu rywbeth? Ond, ta waeth, tai’m i bregethu am hyn.

Ond dwi fy hun yn euog o fateroldeb am unwaith. Ro’n i’n benderfynol o brynu côt neithiwr yn y siopa hwyrnos yng Nghaerdydd; daeth y Dwd i’m helpu yn hyn o beth. Mi welais y gôt berffaith yn Topman, nad yw’n siop dwi’n mentro iddi’n aml (os o gwbl). Canpunt. Dwi byth wedi gwario dros £30 ar ddilledyn o’r blaen, ond penderfynais, a hithau’n Ddolig, y gallwn gyfiawnhau gwario’r ffasiwn arian fel anrheg i mi fy hun.

Digon teg ‘fyd, meddwn i, er bod y gôt honno’n costio bron dwbl beth ydw i wedi ei wario ar anrhegion i bawb arall eleni.

Ond roedd ‘na sioc yn fy wynebu. O gyrraedd Cathays, lle’r oedd fy nghar wedi’i barcio. Roedd ‘na ddirwy yn fy nisgwyl (sylwais mo hyn nes cyrraedd adref). Wel ro’n i’n gandryll. Dwi’m yn licio’r moch a dwi’m yn licio wardeiniaid traffig (pwy sydd?) ac mae cael ffein parcio cyn y Nadolig yn gont o beth.

Do’n i heb gael dim i de, wrth gwrs. Dydi fy nghorff na fy meddwl yn gweithio’n iawn ar ôl tua 7 os nad ydw i wedi bwyta, felly mi agorais ychydig o Skol a phwdu yng nghwmni Pawb a’i Farn.

giovedì, dicembre 11, 2008

Dyn ffidil rhyfedd


Ma hyn yn od.

726 o flynyddoedd, ac yn cyfri

726 o flynyddoedd yn ôl i heddiw cafodd Llywelyn ein Llyw Olaf ei ladd yng Nghilmeri.
726 o flynyddoedd yn ôl collodd Cymru ei rhyddid am y tro olaf.

A oes unrhyw wlad arall yn y bydd sydd wedi disgwyl cyhyd am ei hannibynniaeth?
A oes unrhyw wlad arall yn y byd efo cyn lleied o ots?

mercoledì, dicembre 10, 2008

Yr Asesiad Blynyddol

Tua’r adeg hon bob blwyddyn mi fyddaf yn dueddol o ddweud “Tua’r adeg hon bob blwyddyn byddaf yn asesu’r flwyddyn a fu”, ac mae’n rhaid i mi ddweud, tua’r adeg hon bob blwyddyn byddaf yn asesu’r flwyddyn a fu. Roedd 2006 yn rybish a 2007 yn dda, felly roedd ‘na flwyddyn gachu arall ar y ffordd (pethau fel hyn yn cylchdroi, dachi’n gweld – gwn hyn fel darpar Babydd ... na, ddim rili).

Fodd bynnag, bu 2008 yn flwyddyn dda i mi ar y cyfan (sy’n golygu y bydd 2009 yn ddifrifol, mae rhywun yn bownd o farw neu mi gollaf gaill neu fy nhŷ neu mi gaf bartneriaeth sifil yn feddw gyda rhywun erchyll fel Gary Owen – dydi Gary Owen ddim yn erchyll wrth gwrs ond dwi ddim isio mynd i’r gwely bob nos efo fo’n dweud “Da bo” a rhoi winc i mi y tu ôl i’w goatee).

Chwaraeon a gwleidyddiaeth sydd bob amser yn difethaf neu’n coroni blwyddyn i mi. Alla i ddim cyfleu mor smyg ydw i o weld Man Utd yn cuo’r bencampwriaeth a Chynghrair y Pencampwyr, a Chymru’n ennill Camp Lawn – a gweld y Saeson yn aflwyddo, bonws gwych – ond afraid dweud ar y meysydd chwaraeon fu’n flwyddyn dda o ran hynny. Gan ddweud hynny, roedd gweld Prydain yn gwneud yn dda yn y Gemau Olympaidd yn eithaf torri fy nghalon, ac roedd Yr Eidal yn warthus yn Ewro 2008. Ond ar y cyfan, da bu.

O ran gwleidyddiaeth, gyfeillion, wel, dwi wedi fy nadrithio’n gyfan gwbl oddi wrthi. Pwy blaid sydd i ddyn sy’n ormod o genedlaetholwr i bleidleisio dros Blaid Cymru (sef unrhyw un sy’n fwy o wladgarwr Cymreig na Harri’r VIII erbyn hyn)? Flwyddyn yn ôl ysgrifennais yn fy nyddiadur mai gwell oedd Plaid mewn llywodraeth na ddim o gwbl. Doeddwn i ddim yn disgwyl chwerwder y siom a ddilynai’r datganiad hwnnw.

Na, eleni dwi ‘di rhoi’r gorau i wleidyddiaeth, ac unrhyw obaith y gwelaf golofnau f’egwyddorion yn cael eu cyflawni byth: rhyddid, Cymru ymhlith y cenhedloedd, gwir ddyfodol i’r iaith - bu farw’r cyfan i mi, darn wrth ddarn, yn 2008. Credwch chi fi, mae hynny’n bilsen o’r math chwerwaf i rywun mor ifanc sydd â’i gredoau wrth wraidd ei fod.

Ond ew, rhwng ‘Steddfod Caerdydd ac Amsterdam ac ambell i noson dwi ddim yn cofio a’r teithiau i’r Gogledd, dwi ‘di cael stoncar o flwyddyn mewn difri. Ond eto, mae parhau i weld eraill o’m cwmpas, a fi fy hun, yn dechrau bod yn oedolion go iawn yn dod â theimladau cymysglyd iawn, sy’n gadarnhaol yn bennaf. Dwi ‘di sylwi: fedr oedolion fod yn wirion a chael hwyl hefyd, jyst ein bod ni’n edrych ychydig yn sad yn gwneud.

A dwi fy hun yn teimlo’n rhydd iawn erbyn hyn, a bodlon. Wyddoch chi, roedd yn rhyfedd ond ychydig nôl darllen fy hen ddyddiadur a gweld cymaint o daith a fu’r blynyddoedd diwethaf i mi yng Nghaerdydd a chynt. Ar nodyn seriws, yn bennaf oherwydd dwi’n licio’r gair ‘seriws’, allwn i ddim fod isio gwell fywyd fel ag y mae, a dwi’n ddiolchgar iawn am hynny. Os parhaiff pethau fel ag y maent, dwi wir yn meddwl fy mod i’n unigolyn ffodus iawn.

Ffycin hel dwi’n swnio’n gê pan dwi’n trio bod yn seriws.

martedì, dicembre 09, 2008

Penbleth yr Anrhegion

Un o orchwylion llymaf y flwyddyn, yn benodol i ni hogia, ydi prynu anrhegion Dolig. Sôn am strach am ddim byd. Byddwn i’n ddigon bodlon cael ddim byd i Dolig, ond yn anffodus bydd pawb arall yn disgwyl cael rhywbeth felly mae’n rhaid i mi wneud ryw fath o ymdrech lipa.

Fe ŵyr genod fod hogia’n warthus am brynu anrhegion, a rhwng rŵan a’r diwrnod cyn y Nadolig bydda i’n petruso. Dydi o ddim fel bod gen i fawr i’w brynu yn y lle cyntaf.

Dwi wedi sortio Nain allan bron. Fydda i’n prynu hunangofiant Trebor Edwards iddi ar ôl iddi awgrymu’n gryf y byddai’n ei ddarllen. Gwnaiff mo’r ffasiwn beth, ond hi ddywedodd, felly hi a gaiff.

Dwi dan gyfarwyddiadau gan Mam i brynu sbicars iPod pinc i’m chwaer. Doedd Woolworths ddim yn eu gwerthu, na Comet. Yn ôl y sôn mae gwahanol fathau o bethau iPod y gallwch eu prynu. Fel un a anwyd hanner can mlynedd yn rhy hwyr, ac sydd ‘ddim yn gweld pwynt iPods’ (hunan-ddyfyniad), nac yn dallt y gwahaniaethau sydd rhwng pethau o’r fath, fydda i’n strachu ar yr anrheg hon.

Dydi ‘Nhad ddim yn cael dim byd eleni. Cafodd CD Queen y llynedd. Mi gwynodd fy mod wedi prynu anrheg iddo’n y lle cyntaf, peidio â gwrando arno (er iddo honni iddo wneud) a bellach mae o yng nghefn fy nghar i, yn wrthodedig a phrudd ac mae’r cês wedi disgyn i ffwrdd.

Mam ydi’r broblem. Wel, mae Mam yn eithaf problem beth bynnag, ond wn i ddim beth ar wyneb y ddaear beth i’w gael iddi i’r Dolig. Dwi ddim yn cofio be brynais y llynedd ond cofiaf iddi chwerthin arna i. Ryw siocledi drud a wnaiff y tro. Wedi’r cyfan, mae mamau’n hoffi siocled, ac mae Mam yn byw oddi ar siocled, bisgedi a chaws.

A dweud y gwir dwi’n meddwl mai siocledi y bu i mi brynu iddi y llynedd. Ond wedi arfer â chwerthin dirmygus Mam am y pethau a wnaf (‘oh that boy’) caiff hynny eto wrth i mi stwffio’n hun efo sosijys wedi’u lapio mewn bacwn.*

Ni phrynaf i neb arall. Gawn nhw fynd i ffwcio.

* Pam ar wyneb y ddaear bod y rhain mor flasus? A pham ar wyneb y ddaear nad ydyn ni’n eu cael ond am y Nadolig? Sôn am folycs.

lunedì, dicembre 08, 2008

Dychwelaf

Mae’n ddrwg gennyf, i raddau gweddol isel, nad wyf wedi blogio ers cyhyd. Dwi wedi bod yn sâl ac adref yn tagu a thisian a drewi am y rhan helaethaf o wythnos. Ffliw.

Wedi’r cyfan, dyn ydw i, a dydi dynion methu â dygymod â ffliw nac annwyd. Wrth gwrs, ‘does gen i neb i roi sympathi i mi, er i’r fferyllydd ddweud mai cadw’n hydradol a chael sympathi fyddai prif gynhwysion fy ngwelliant. Gan ddweud hynny, pan fydda i’n sâl go iawn mae’n well gen i fod pawb yn cadw’n glir ohona i, nid rhag ofn i mi drosglwyddo’r salwch (prin yw’r pethau a fyddai’n rhoi mwy o bleser i mi mewn gwirionedd) ond mae sympathi yn gwneud i mi deimlo’n sâl pan fydda i’n ‘sâl’ (yn hytrach na ‘wedi brifo’n gorfforol’ pan fyddaf yn hoff o sympathi).

Fodd bynnag dwi’n dod at fy hun unwaith yn rhagor, nad yw o reidrwydd yn beth da ond ta waeth. Erbyn hyn, dwi’n edrych ymlaen at fynd adra dros y Dolig. Mae’n llai na mis ers i mi fod yn Nyffryn Ogwen ond byddaf yn mynd nôl yn weddol aml erbyn hyn. Byddaf, mi fyddaf yn methu Dyffryn Ogwen yn y gaeaf – rhaid fy mod i’n licio’r lle myn diân.

martedì, dicembre 02, 2008

Santes Bibiana - fy hoff ffrind newydd

Teg dweud ar ôl fy anturiaethau'r penwythnos hwn mae’n hen bryd i mi dderbyn na fyddaf Babydd byth. Mae Pabyddion yn gweddïo i seintiau, fel y gwyddoch os ydych chi’n deall y pethau hyn. Anglicanaidd ydw i. Un peth da am fod yn Eglwys Lloegr ydi ‘sdim angen i ni fynd i’r eglwys mewn difrif - wel, ‘sneb arall yn, a fydda i’n dilyn y crowd pan gwyd yr angen.

Ond saint y diwrnod i chi heddiw ydi un hynod, hynod addas imi. Diwrnod Santes Bibiana ydi’r 2il o Ragfyr (yn ogystal â bod yn ben-blwydd i Kinch a Britney Spears ac yn Ddiwrnod Cenedlaethol Laos – ni fyddaf yn dathlu’r un, wrth gwrs), ac ar hap y des ar ei thraws. Dyma, heb os nac oni bai, y santes i mi.

Hi yw santes lleygwyr benywaidd, salwch meddwl, epilepsi a dioddefwyr artaith. Allwch chi ddim dadlau ei fod yn gyfuniad diddorol. Ond mae ‘na ddau beth arall y mae hi’n nawddsantes arnynt. Yn gyntaf, y cur pen.

Onid yw’n eironig fod gennyf gur yn pen heddiw? Na? O wel.

Ond yn fwy at fy nant, Santes Bibiana yw nawddsantes y pen mawr. Onid yw’r Pabyddion yn meddwl am bopeth? Fyddech chi’n meddwl mewn difrif y dylai rywun ddioddef oherwydd gwenwyno eu corff a chwydu mewn sincs Anti Betty (stori hir, nid adroddaf), ond na. Pan fyddo’r bore Sadwrn, Sul, neu’r Llun yn aml (dwi’n ddigon hen i ddioddef o’r pen mawr deuddydd erbyn hyn) yn unig a phoenus a sâl, bydd Santes Bibiana yno yn edrych drosof i.

A chwara teg iddi ‘fyd, ‘rhen goes.*

*Ydi rhywun yn cael cyfeirio at seintiau fel ‘yr hen goes’ neu ydi hynny’n sacrilijiys / anaddas?

venerdì, novembre 28, 2008

Ffat Boi

Pwy fyddai’n meddwl? Ar ôl i mi golli’r stôn ym mis Ebrill, dwi wedi rhoi hanner stôn ymlaen dros y tair wythnos diwethaf ‘ma. Wedi llwyddo i gadw fy mhwysau i lawr i lefel barchus (ac, wrth gwrs, deniadol) dwi’n mynd yn dew drachefn.

Yn wir, efo fy ngwallt tenau a’m diffyg eillio’r wythnos hon dwi’n hawdd yn edrych yn ddeg ar hugain oed ar hyn o bryd.

Gan ddweud hynny, dwi ddim yn un o’r ffycars tew ‘ma sy’n dweud eu bod yn chocaholics jyst er mwyn cael bwyta lot o siocled a pheidio â theimlo’n euog am y peth, ond mae gen i wendidau enbyd ym myd bwyd.

Y gwaethaf o’r rhain ydi creision halen a finag. Gyda chymaint o gynigion o’m cwmpas efo’r rhain, fel paced o 6 am bunt, prin y galla i ddweud na. Yn waeth na hynny mae’n ddigon hawdd i mi fwyta’r chwe phaced (lyfio dweud ‘phaced’) mewn un noson o flaen y teledu.

Yr ail wendid ydi caws. Nid yn anaml y cyfunaf gaws â chreision. Babybells, tostwys (y gair dwi wedi ei fathu am ‘toastie’), caws ar dost, brechdan gaws, caws a chracyrs, pizza - mae unrhyw beth efo caws yn ddigon i wneud i mi lafoerio’n ffiaidd a llon.

Y trydydd, a’r amlycaf i unrhyw selogion sydd i’r blog hwn (Ceren, Dyfed; smai), ydi alcohol – boed yn fotel slei o win coch, ambell i gan o Skol (fydda i’n licio Skol wedi mynd - £2 am 4 can yn Iceland) neu sesiwn ar y penwythnos, fedra i ddim mynd wythnos heb alcohol.

Canlyniad y tri yma ydi bol mawr a theimlo’n llwglyd yn barhaol, ond dyna ni. Ar ôl y penwythnos hwn, a’r penwythnos nesaf pryd y byddaf yn dathlu penblwyddi, a’r penwythnos wedyn gyda’r parti gwaith, a’r wythnos wedyn gyda’r Nadolig a’r wythnos wedyn gyda’r Flwyddyn Newydd, fydda i ddim yn yfed. Felly dwi’n ffwcd ar y ffrynt yna, ond mi fedraf ymwared â chaws a chreision am gyfnod.

Ac ymhen dim myfi fydd eto brenin Heol y Frenhines, yn cerdded yn swanc ar ei hyd y bore, ac yn chwil, ond tenau, ar ei hyd y nos.

giovedì, novembre 27, 2008

Ddim yn effeithio ar bawb...

Rhag ofn eich bod ychydig yn isel o galon ar ôl y post blaenorol, dylai hwn godi eich calon!

Aelwydydd Cymraeg

Rhywsut yn fy niflastod a chwilio am wybodaeth des ar draws adroddiadau ysgolion Estyn. Un o’r pethau wnaeth wir dorri fy nghalon oedd gweld nifer y plant o aelwydydd Cymraeg mewn rhai o gadarnleoedd y Gymraeg. Dyma sampl bach:

Ysgol Gynradd Aberaeron (Ceredigion) – 31%
Ysgol Llanilar (Ceredigion)– 22%
Ysgol Gynradd Cemaes (Môn) – 4%
Ysgol Rhosneigr (Môn) – 8%
Ysgol Dolgellau (Gwynedd) – 20%
Ysgol Llandygai (Gwynedd) – 8%
Ysgol Gynradd Dolwyddelan (Conwy) – 30%
Ysgol Gynradd Gymraeg Gwauncaegurwen (Nedd Port Talbot) – 35%
Ysgol Babanod Rhydaman (Caerfyrddin)– 22%
Ysgol Gynradd Brynaman (Caerfyrddin) – 30%
Ysgol Gynradd Pontyberem (Caerfyrddin) – 48%

Mae rhai’n ofnadwy. Yn wir, yng Ngheredigion a Sir Gaerfyrddin prin iawn y dewch ar draws ysgol lle daw dros hanner y disgyblion o aelwydydd Cymraeg eu hiaith. Deallaf fod y mewnlifiad yn chwarae’i ran yng Ngheredigion, ond os cofiaf o dop fy mhen mae’r canran a anwyd yng Nghymru yn Sir Gaerfyrddin yn uwch na chyfartaledd Cymru, felly mae gweld llefydd fel Rhydaman mor isel wir yn gwneud i rywun feddwl a oes dyfodol i’r Gymraeg yn ardaloedd helaeth iawn o Gymru.

mercoledì, novembre 26, 2008

Y Freuddwyd Gydwybodol

Dydw i ddim yn gwybod beth ydi lucid dream yn Gymraeg, a dydw i methu dod o hyd i gyfieithiad, felly fe’i galwn yn freuddwyd gydwybodol. Mae’n bosibl nad ydych chi’n gwybod beth ydi’r ffasiwn beth, felly gwell bydd i mi egluro. Breuddwyd gydwybodol yw breuddwyd a gewch lle’r ydych yn sylwi drwy ryw fodd eich bod yn breuddwydio.

Does neb yn sicr sut mae hyn yn digwydd, ond mae clywed am y peth yn aml yn ddigon o sbardun i alluogi rhywun i gael un. Clywais am hyn ychydig flynyddoedd yn ôl erbyn hyn, dwi’n siŵr, ond ychydig fisoedd yn ôl fe ges un, ac ers hynny’n eu cael yn weddol reolaidd.

Mae ‘na ddwy ochr i’r geiniog i’r freuddwyd gydwybodol. Ar yr un llaw, ac yn enwedig y troeon cyntaf, mae’n ddigon posib os nad yn debygol y byddwch yn deffro, ac mi all hynny ddigwydd yn bur aml, ond daw amser i’r rhan fwyaf o bobl sy’n cael y breuddwydion hyn pan allant, naill ai’n isymwybodol neu fel arall, ‘aros’ yn y freuddwyd.

Mae sylwi eich bod yn breuddwydio a chadw ati yn brofiad digon rhyfedd, ac mae’r tro cyntaf i chi sylwi yn ddigon swreal.

Y peth cŵl, er diffyg gair sy’n ei chyfleu’n well, ydi y gall rhywun o bryd i’w gilydd reoli’r freuddwyd. Dwi heb feistroli hyn yn gyfan gwbl, ac efallai na wnaf fyth, ond mi fydda i’n gallu rhywfaint. Ychydig wythnosau’n ôl roedd yr heddlu ar fy ôl, ac wrth i un o’u ceir nhw sgrechian tuag ataf mi sylwais fy mod ynghanol breuddwyd gydwybodol. Neindiais o’r ffordd, cyn mynd ati i nenidio i bron bob man ag y gallwn o amgylch Caerdydd.

Fel y dywedais, mae’n aml yn ddigon gwybod bod breuddwydion cydwybodol yn bodoli i allu sbarduno un, felly fe fyddwch yn diolch i mi cyn bo hir am wireddu eich breuddwydion, go iawn!

martedì, novembre 25, 2008

Poen cefn a dydd Sul diddorol (i raddau)

Ho ho ho! Fi a Cheryl Pobol y Cwm. Ond mi ddyweda i’r stori honno wrthoch ar gais llafar, nid fan hyn. Byddai’n hollol bosibl i mi wneud yma ond dwi ddim am wneud. Dydi cast Pobol y Cwm jyst ddim yn licio fi yn y bôn: wel, dydi Gwyneth fawr ddim, a pe gofynnid i Cheryl bydda hi’n dweud ‘run peth.

Byddaf, mi fyddaf yn cael hwyl efo’r sêr.

Digon o bobl a fyddai’n troi eu trwynau ar y ffaith y bu i dri o’r pump ohonom a aeth allan erbyn 12 anafu ein hunain rhywsut nos Sadwrn. Fy hun, dwi’n meddwl ei fod o’n ddoniol. Dwi’n dweud hynny fel rhywun oedd gyda phoen cefn ddifrifol drwy ddoe a dydd Sul.

Yn wir, efallai nad oedd y nos Sadwrn yn wahanol i’r arfer, roedd fy nydd Sul yn sicr yn hynny. Gwnaethom ddychwelyd i’r Mochyn Du am ginio (ro’n i dal yn forthwyliedig) cyn mynd i’r Bae. A bowlio – drws nesa i Warren Gatland. Dwi ddim yn siŵr ond ‘Woowie’ neu rywbeth oedd ei enw bowlio, a doedd o ddim yn dda iawn. Dydw i ddim yn dda iawn, ond yn ddigon da i ennill gêm yn erbyn fy ffrindiau anobeithiol. Byddwn wedi ceisio ‘cael hwyl efo’r sêr’ eto ond yn wahanol i Cheryl mae gen i ofn o Warren Gatland, felly bu i mi gadw fy mhellter.

Aeth pump ohonom am fwyd yn y nos i’r Bae, yn smalio bod yn bobl fawr. Hoffwn fynd allan am fwyd yn amlach, mae’n rhywbeth dwi’n ei fwynhau - hyd yn oed efo fy ffrindiau. Piti na fyddai Cheryl yno, meddyliais, mae’n siŵr ei bod mewn man arall bryd hynny yn mwynhau siampên ac wystrys ac yn byw y bywyd mawr. Ond dyna ni, medda fi, fydda ni’n iawn fan hyn.*

Tasa gen i bres byddwn i’n fodlon bwyta allan bob nos, fel Rhys a Sioned, ond mi fedraf goginio felly dwi ddim.

*jôc bersonol anniddorol

O.N.: Pwy sy wedi dod o hyd i'm blog drwy deipio 'Sigourney Wiwer' yn Gwgl? Dim ots gen i, ond Signourney Wiwer yn swnio'n ffacin anhygoel.

venerdì, novembre 21, 2008

Flora

Dwi wedi bod i bob un o wledydd Ynysoedd Prydain heblaw am Ogledd Iwerddon, yn bennaf gan ei fod yn shait, a chaiff pwy bynnag sy’n anghytuno roi ei fys fyny ei din a chael wanc, achos dwi ddim yn mynd yno a dyna ddiwadd arni. Os mae’n ddigon da i Lembit Opik gael ei eni yno, dydi o’n sicr ddim yn ddigon da i mi.

Ga’i bwysleisio fan hyn nad oes neb erioed wedi gofyn i mi fynd i Ogledd Iwerddon, ac nad ydwyf efo’r syniad lleiaf pam ddaeth yr uchod i’m mhen.

Pam ffwc bod Gloria Hunniford yn gwneud yr hysbysebion Flora? Dio ddim fel bod y ddynes yn bictiwr o iechyd, nac ydi? Wel, dydi hi fawr o bictiwr o ddim i fod yn onest. Wn i ddim amdanoch chi, ond ‘swn i ddim.

Ydi’r hysbysebion Flora yn ffug? Wyddoch chi be, wn i ddim, dwi ddim yn barod i gredu eu bod nhw’n rhai go iawn ond eto am ryw reswm yn anfodlon plygu i’m siniciaeth y tro hwn. Fel rhywun sy ddim yn gwybod be ffwc ydi colestoral wn i ddim pam fyddai hyn o ddiddordeb i mi, ond pan fydd Gloria yn dweud ‘Dewch nôl aton ni’r wythnos nesaf i weld sut aeth hi’ fyddai’n ‘styried. Dydi Gloria ddim yn medru’r Gymraeg, wrth gwrs, ond pe bai fe wyddoch y byddai’n cyflwyno Wedi 3.


Pwy sy wedi ‘sgwennu hwn?

giovedì, novembre 20, 2008

Cylchoedd rhyfedd y byd (mae 'nhaid yn Sais)

Da ydi’r henoed ond bydd isio gras efo nhw weithiau. Fel y gofynnodd fy nhaid neithiwr;

“How did Wales do? Did they win one-nile, one all?”
“How do you win one all?”
“Yes well, did they?”
“They won”
“Oh ... good”
“1-0”
“Oh, 2-0”
“No, 1-0”
“Oh well that’s three points then”
“No, it was a friendly


...ac ati. Ond dwi’n wahanol iawn i’n ‘nhaid. Credwch ai peidio, ond Sais rhonc ydi fy nhaid, i’r fath raddau pe na bai’n daid i mi fydda fo’r union fath o Sais sy’n gas gen i. Symud i Gymru, ddim efo fawr o fynadd efo’r iaith, ddim yn trio ynghanu enwau llefydd yn gywir, casáu foreign rubbish (yn benodol bwyd) – sut y priododd Gymraes a bod ei unig ŵyr (y fi) yn genedlaetholwr Cymreig i raddau pur eithafol (ac sydd, fel y gwyddoch erbyn hyn mae’n siŵr, jyst ddim yn licio Saeson a dyna ddiwadd arni), mae’n anodd dweud.

Yn dydi’r byd yn troi mewn cylchoedd rhyfedd?

mercoledì, novembre 19, 2008

Ffrî Tibet a Bajars

Mae ymgyrch Free Tibet yn un ddigon teilwng, er bu i mi bron â mynd at y bobl sy’n gofyn am lofnodion neu rywbeth yn ganol dre a ydyn nhw’n credu mewn Cymru Rydd ac ydyn nhw’n actiwli gwybod rhywbeth am Tibet yn y lle cyntaf.

Y rheswm feddyliais hynny, ar wahân i’r elfen sinicaidd hynod sy’n nodweddiadol ohonof, oedd mai dyma’r un bobl, yn yr un fan ac yn wir efo’r un bwrdd llofnodion â’r bobl oedd yno wythnos diwethaf isio llofnodion yn erbyn difa moch daear. Byddwn i wrth fy modd petai Elin Jones yn mynd yno ac yn rhoi swadan i’r ffycars. Heblaw am fod yn fastads bach heintus a allai beryglu bywoliaeth ffermwyr, mae moch daear yn ffycars bach cas. Go wir rŵan: fel elyrch maen nhw’n edrych yn ddigon annwyl ond nhw ydi’r pethau cyntaf a fydd yn brathu dy goes ffwr’ pe caent gyfle.

Dwi ‘di hen ddod i arfer efo Barack erbyn hyn, cofiwch, yn enwedig efo’r sïon fod o’n mynd i roi job i ‘rhen Hilary, ond unwaith eto mi gododd y pwysau gwaed yn eithriadol o fynd i Borders a gweld y gellir prynu calendr 2009 Barack Obama (“Words of Hope” neu nialwch felly). Sad ydi hynny. Ddim mor sad â Chalendr Benedict XVI (“Words of Pope” efallai?) ond dydi hwnnw ddim yn bodoli, hyd y gwn i, felly dydi o ddim yn cyfrif.

‘Na ni, teimlo’n well rŵan.

martedì, novembre 18, 2008

Dyfyniadau Nain

"I forgot to tell you something, but I can't remember what it is now"
- Yn siarad gyda Mam

"O, hwn sydd arno heno. Dydw i ddim yn keen"
- O weld bod John Hardy yn cyflwyno rhifyn heno o Wedi 7

"Bydd pobl gall yn licio diod oer, ond dydw i ddim"
- Pan ddywedais fod gennyf Vimpto oer yn y ffrij

venerdì, novembre 14, 2008

Seicoleg y Tôn Ffôn

Hei, hei, hei Titw Tomos
Titw titw titw,
Titw Tomos Las,
Titw Tomos, Titw Tomos,
Titw Tomos Las.

Pan fydd fy ffôn yn canu (a allai fod yn llinell fodern i’r gân wreiddiol) dyma’r tôn sy’n atseinio o’i gwmpas. Yn wir, digon balch ydwyf o hyn, gan wybod mai fi yw’r unig un o blith y Cymry sydd â’r union dôn ar fy ffôn.

Ei gwneud fy hun a wnes. Os teipiwch ‘free online ringtone maker’ gallwch wneud unrhyw dôn a ddymunwch. Bydd yn gofyn i chi lwytho’r gân i fyny ac fe gewch ei thocio a’i newid fel y mynnwch nes creu’r perffaith dôn. Penderfynais ar Titw Tomos Las, sef yr unig beth erioed a gyflwynwyd i mi gan fy nghyfaill chwyslyd Dyfed y bu i mi achub arni gydag eiddgarwch llwyr.

Rhywbeth sydd yn ddiddorol ydi beth mae dewis tôn ffôn rhywun yn dweud amdano; yn y gorffennol dwi wedi amrywio o Streets of Bethesda i Roobarb and Custard i Yma o Hyd – wn i ddim beth y mae hynny’n dweud amdana i (dydi seicoleg y tôn ffôn Cymraeg ddim yn faes astudio poblogaidd mi dybiaf), ond roedd y rhestr hon yn ddiddorol, tybed a ydych chi’n ffitio i mewn i un o’r categorïau isod?

"Top 10 hit

Moves with times but could be a fashion victim who tries too hard to be cool

Classic Hit
A laid back thirty something attempting to make a statement with a personal favourite

Hollywood Blockbuster
A real movie buff, but perhaps watches one too many films!

Current TV show
Fun personality - but has too much time on their hands

Retro TV show
Creative individual with a love for pop culture - however can appear a little nerdy

Children's theme tune
Game for a laugh, up for having a good time - though has a tendency to annoy people

Sport theme tune
Armchair sportsperson who enjoys a laugh with the lads/girls also a tad unimaginative

Classical
Tasteful and educated, yet probably on the old side

Made for ringtone (crazy frog etc)
Totally unacceptable - most likely a Chav

Mobile setting (original ringtone)
Not trying to impress, probably got better things to do than constantly changing their ringtone

Ring Ring
Uber cool, no need to impress though some view as boring - shows a lack of confidence and creativity

Vibrate setting
An Introvert not wanting to be noticed or a businessman not wanting to be rude"

giovedì, novembre 13, 2008

Arbrawf


Jyst gweld dwi os dwi'n gallu blogio o'r ffön, well bo'r cont im yn costio