domenica, gennaio 15, 2006
SOBRWYDD
Aethon ni allan nos Wener de a roedd pawb yn hollol hamyrd. Bai rhyw gwrw dydw i methu'n glir a'i dweud ydi o o Copa - Wofflhoffl dw i'n ei alw. Roedd y boi ochr draw i'r bar yn dallt, fodd bynnag. Mae'n sdwff beryg a achosodd benmaenmawr eithafol bore Sadwrn. Dw i'n teimlo'n sal yn meddwl amdani a dweud y gwir.
Roedd 'na lot o Ffrancwyr o amgylch y lle 'fyd, gyda Perpignan wedi dod i Gaerdydd. Fydda i'n hoffi siarad Ffrangeg pan ydwyf yn feddw: mi astudiais i Ffrangeg yn Lefel A a phrin y cawn i gyfle i'w ynganu bellach, felly mi es o amgylch y lle yn dweud "Je suis desole, mais je ne suis pas fluent en francais" (mae'n ddrwg gennyf ond dw i ddim yn rhugl yn Ffrangeg). A brofodd yn ddatganiad cywir iawn y noson hwnnw gan nad oeddwn i'n gallu gwneud allan beth oedd bron neb yn dweud, a hwythau dim ond yn syllu'n rhyfedd arnaf i pan oeddwn i'n siarad gyda nhw.
A rwan dw i wedi blino. Dylwn i rhoi ychydig o ddwr i'r planhigyn yn f'ystafell achos mae o braidd yn grebachlyd a brown erbyn hyn a dw innau'n teimlo union 'run peth!
venerdì, gennaio 13, 2006
Yr Wythnos Gyda Hogyn o Rachub
Hawddamor niferus gyfeillion! Da ydyw blog er mwyn cael rhoi lluniau annifyr i bobl i gynulleidfa lled-eang, yn de? Fodd bynnag, dw i wedi cael wythnos gynhyrchiol a dw i eisiau ei rannu gyda chi. Chi, wedi'r cyfan, yw sail fy modolaeth.
Cafwyd hwyl mawr yn Theiseger Street (drewllydle) gan gloi Llinos allan a thaflu dŵr drosti, a wedyn cloi Haydn allan a thaflu dŵr drosto fo (a dueddodd i anweddu cyn ei gyrraedd achos oedd o'n boeth o flin. Haydn = Blin. Haydn Blin). Roedd Llinos yn crio achos 1. doedd ganddi'm slipar a 2. mae hi'n fabi. Mi bwdodd a mynd i fyta quiche salad.
Aeth Lowri Dwd (cowabunga!) a minnau fynd i'r undeb i ddechrau trefnu trip i Brâg ym mis Ebrill. Fi sy'n ei threfnu ond oeddwn eisiau dylanwad call gyda mi. Nis ffeindiais hynny felly dyna pam yr euthum gyda Lowri Dwd. Eniwe, tyrnowt da i weld, edrych ymlaen yn arw! Mae peint am 20c yn swnio'n lithal. Y peth ydi fel y gwyddoch, efallai, mae gennai dueddiad o ddiflannu ynghanol sesh a deffro fyny'n rhywle rhyfedd unwaith y flwyddyn, a myn uffarn dw i'n gobeithio nad âf i Brâg a deffro'n Warsaw. Mi baciai'n Polish For Beginners jyst rhag ofn.
So dw i wedi cael wythnos gynhyrchiol tu hwnt yn raddol yfed fy hun i'r bedd, trefnu gwneud hynny mewn gwlad arall a thollti hylif dros jinjyrs a josgins o ardal Rhuthun. Braf bydd dechrau darlithoedd hefyd yn o fuan, fel na fyddai'n gallu dod ar-lein fel hyn am un y bora a 'sgwennu blogiau diwerth! Sdawch! xxxxxx
martedì, gennaio 10, 2006
Wythnos O Wneud Dim
Dw i'm yn un sy'n hoff o law. Na haul. Dw i'n licio hi'n eitha dwl ar y cyfan ond yn glos 'fyd, mai'n ddiwrnod da am banad a bechdan yn y cynhesrwydd, os ydach chi'n deall be 'sgen i. Gwell imi rhoi rhywfaint o ddwr i'r planhigyn 'ma sy'n f'ystafell hefyd, achos dydi hi'm 'di cael diod ers cyn 'Dolig (mai dal yn fyw chwara teg) a dw i'm yn meddwl ei bod hi wedi gweld hwyneb yr haul erioed (Kinch yw ei henw hi, gyda llaw, ond dydi'r Kinch yma ddim yn streitnio'i gwallt. Yn rhannol oherwydd mai planhigyn yw hi, yn de).
lunedì, gennaio 09, 2006
Traethawd
Cwrw. Mmm. Mi brynais i baced o 24 botal o Bud yn ASDA echddoe am denar. Ond mae nhw'n rhai bychain, gwaetha'r modd, sy'n golygu nad oes taw wedi bod ar bawb yn fy herian eu bod nhw'n dechrau gwneud rhai hobbit-sized. Felly mi dw i'n hobbit bach blin iawn ar hyn o bryd.
venerdì, gennaio 06, 2006
Rachub > Caerdydd
Helo Mawr i Mam Lowri 'Llygoden' Llewelyn, hefyd, sydd wedi bod yn darllen fy mlogiau hen a newydd dros y Rhagfyr (bywyd yn araf ym Mhontypridd, debyg). Mawr obeithiaf na fyddwch chi'n cael eich styrbio gormod gan y straeon difyr am eich merch fydd yn troi fyny nawr ac yn y man ...
Del, de?
I newyddion eraill, dw i YN ceisio gweithio allan sut mae newid lliwiau a ballu ar y blog. Anodd ydyw i mi. Oooooo mae o MOR neis medru mynd ar-lein heb ddisgwyl hanner awr i fynychu 'Materion Cymru' Maes E, tri-chwarter awr i wneud blog a chael dim fath o lwyddiant o gwbl yn agor e-bostiau (dydw i ddim yn derbyn lot o e-bostiau ond gan iVillage a jobseekers; does gen i ddim syniad beth ydi iVillage a dw i'm yn licio'r sownd o'r un arall).
Jeniwe, mae gennai draethodau ac arholiadau yn cropian fyny, felly disgwyliwch blogiad yn o fuan yn cwyno ac achwyn heb owns o boeni achos dw i wedi cael cynnig amodol o UWIC i wneud hyfforddiant fel athro eniwe so sodia gweddill y flwyddyn! Ha! Dw i am ddifetha'r nesaf genhedlaeth!
(Ffyc dw i 'di llwyddo newid y lliwiau ond mae'r proffeil dal yn Susnaeg. Unrhyw help yn cael ei werthfawrogi i'r uchel nefoedd!)
lunedì, gennaio 02, 2006
Dw i'm isho mynd i Langefni
Os oes gan rhywun unrhyw wybodaeth ar adlonaint ddi-ri Llangefni, rhowch wybod imi (awgrymiadau cyn belled a Rhostrehwfa yn dderbyniol)