venerdì, marzo 17, 2006

Yr Arall-fyd

Cofio fi'n sal 'chydig o wythnosau'n ôl? Mynd ar gwrs o Penecillin ac ati? Methu llyncu dim? Chwilio am sympathi ar bob gornel? Wel dw i'n dechrau teimlo fel hynna eto. A dw i'm yn synnu chwaith achos dw i'm wedi bod ers alcohol ers dros wythnos. Dw i wedi f'argyhoeddi fy mod ar gyrion marwolaeth, ac yn barod i groesi i'r ochr draw.

Sut le ydi'r ochr draw, tybad? Ar fy myw, dw i'n gobeithio ei bod hi'n well le nac Aberystwyth (dim ond o ran awyrgylch, pobl, neuaddau myfyrwyr, bariau a naws chyffredinol. Dim arall.), ac yn gyfuniad goruwchnaturiol o Rachub, Caerdydd a chartref fy ewythr yn Yr Eidal, efo CD Mim Twm yn cefndir ar 'repeat' a gwin coch yn llifo i mewn i afon o Fosters.

Serch hynny, cofio The Little Mermaid? Na fi. Mae genod Theiseger Street yn ddigon o sados i'w wylio drosodd a throsodd, gyda amryw o ffilmiau Disney arall, a udodd nhw wrtha fi mai fi ydi'r 'gwylan gwirion' yn y ffilm. Dal ddim yn cofio? Na fi, ond hwn oedd o...


Dw i'm yn sicr pwy fysa'r Little Mermaid, chwaith. Dim ffycin neb dw i'n nabod, eniwe. Gas gennai'r hanner-pysgod. Maesho gyrru nhw nôl i'r môr o le y daethant, fel y rhai drwg ar Stingray a Saeson.

giovedì, marzo 16, 2006

Marwolaeth Planhigyn

Shwmai! ys dywedant yn Sir Gaerfyrddin a rhyw lefydd felly. W, dw i'm wedi bod yn mynd i'm darlithoedd. Un mewn pythefnos ddim yn dda iawn. Dim rhyfadd bod yr Adran yn fy nghasau gyda chas perffaith!

A dweud y gwir mae'r diweddariad yma yn fy mywyd yn mynd i fod yn un digon di-ddigwyddiad. Ond mi dw i wedi cael ambell i beth diddorol yn digwydd, rhwng mynd i wylio Lucky Number Slevin a derbyn e-bost o flodau gan Haydn. Lucky Number Slevin oedd y gorau o'r rheiny o bell ffordd, er doeddwn i'm yn ei ddallt o tan tua wyth deg munud i mewn iddi. Dw i'm yn un am ffilmiau cymhleth, a ddealltish i fyth pam fo'r blôc 'na isho saethu Mam Bambi (er ei bod yn hynod ddoniol).

Reit, mae gennai bethau i'w wneud am unwaith. Dwisho gyrru ffwrdd rwbath i TT (dw i wedi bod isho gwneud ers wythnosau, ond sut fedrwn i, a minnau'n blogio cyn gymaint?). Mae'r planhigyn yn fy ystafell wedi marw, 'fyd. Oeddwn i wrth y cyfrifiadur a dyma hi jyst yn plygu lawr o'm mlaen i (sy ddim yn digwydd yn aml imi) a marw (digwydd llai fyth. Bron). Felly maesho'i thaflu hi ffwrdd cos mai'n drewi 'ma, er efallai bod gan hynny ei wreiddiau yn y pentwr o ddillad budur yn y gongl 'cw, neu bo ogla'n cegin ffiaidd yn treiddio drwy'r hen le 'ma. Wn i ddim.

Gennai ddiwrnod i ffwrdd 'fory. Mi wna'i rwbath efo'n amser. Awgrymiadau?

lunedì, marzo 13, 2006

Rhewi

Oeddwn i'n siarad i'n hun gynnar. Diddorol, 'fyd.

Ma'n rhewi yng Nghaerdydd. Debyg ei bod yn well na Rachub, ond dydi hynny fawr o gysur imi. Dw i dal yn teimlo'n sal wedi'r penwythnos (os nad oedd perfformiad Cymru yn fy neud yn sal yr alcohol oedd. Ia, alcohol, debyg. Neu cwmni Haydn a Dyfed.). Y peth gwaethaf o bosib oedd mynd yn slei i chwydu rownd pabell y Beverly, dim ond i edrych i fyny, gweld bod pawb yn gallu gweld a chlywed nhw'n canu 'You Are Spewing'. A wedyn chwydais mewn jar gwin yn Gatekeeper. Ond roedd hi'n iawn achos roeddwn i wedi hen orffen y gwin.

Digwyddodd cryn dipyn o bethau yng Nghlwb Ifor. Y rhan fwyaf ohoni'n bethau nad ydw i'n cofio ond uchafbwynt y nos oedd bod yn y toiledau efo Lowri Dwd (faint o bobl sy 'di deud hynny o blaen ho ho!). Ond na, nid felly ydoedd, dim ond i mewn am dro yr aethon ni, a dyma rhyw ddynas blin yn dod i mewn (sy'n gweithio yn Clwb, debyg) a pwyntio ataf a gweiddi 'Ti! Mas!' cyn mynd i mewn i ciwbicl. Nis werthfawrogais ei swnian felly mi wnes (gyda llawn cefnogaeth LD) wlychu rhyw bapur toiled a rhoi ffling iddi dros ben y ciwbicl. Sgrechiodd hi a rhedem ni. Yn gyflym.

Treuliwyd gweddill y nos yn dawnsio polyn, gyda Lowri Dwd yn llwyddo i'm cnocio i mewn i'r polyn mewn modd sy'n boenus iawn i un o'r cryfach ryw. Gwingais mewn poen, a pheidio gadael mynd o'r polyn am peth amser. Wedyn, aeth Ceren a mi o gwmpas yn dawnsio yn y tai bach megis fersiwn toiledaidd o Strictly Come Dancing.

A dw i dal efo hangowfyr heddiw. Casau penwythnosau.

sabato, marzo 11, 2006

Ben fy hun!

Am noson sili neithiwr. Meddwais yn gachu. Wedi bod yn Tavistock yn y p'nawn onisho meddwi felly mi brynais cans i fi fy hun a gwneud yn ty wrth wylio Johnathan. Sy'n wych. Ces i fy nghyfarwyddo gan Kinch i fynd i Tavistock a mi es ond doedd o ddim yna felly mi oeddwn i ar fy mhen fy hun yno'n prynu ffag am 20c gan y ddynas drws nesa a siarad i'r ddynas tu ol y bar oedd yn siarad mewn acen Rwsiaidd.

Llwyddais i gyrraedd y Goat Major lle chwydais yn eitha pwerys i mewn i'w thoiledau. A wedyn mynd i O'Neills lle dw i'm yn cofio dim byd achos oni'n slyrio. Eshi adra wedyn a cael fy ffefryn fwyd, sef ffishcec, chips a grefi. Wrth imi fynd a chymryd y beit cyntaf o'r ffishcec dyma hi'n disgyn ar y llawr a safais arno'n ddig. Am noson wirion. Dw i dal 'di meddwi.

giovedì, marzo 09, 2006

Rhyddhad

Rhyddhad myn uffarn i! Gorffan un sgript a dechra un arall! Mae sgript ugain munud yn diawl o beth anodd i'w wneud mi a sylweddolais, heb son am ddau, felly ti'n 'sgwennu bob math o crap a gobeithio am y gorau. Mae fy mharch at sgriptwyr Pobol Y Cwm wedi codi gymaint!

Yn dweud hynny dw i'm wedi gwneud dim byd heddiw. Nesi lwyddo fethu fy narlithoedd oherwydd y bu imi ddrysu fy hun (eto) nath sbwylio trefn y diwrnod yn llwyr. A wedyn dyma fi'n mynd i gael baget o Dough's a doedd na'm corgimwch yn weddill, dim ond corgimwch a chranc, sy'm yn neis iawn mewn baget, ond mi a'i chefais eniwe a'i fyta. Ers bod yn fyfyrwyr dw i wirioneddol wedi stopio bod yn ffysi am fwyd a mi futa i rwbath o fewn rheswm. Rhywbeth tydi Owain neu Rhys ddim yn coginio, a dweud y gwir, achos mi fydd hi'n dod o'r meicrodon ac yn cael ei fyta gyda bara.

Dwisho cawod ond 'sgennai'm mynadd. Dw i wedi bod yn difyrru fy hun drwy wylio Neighbours (sef y rhaglen waethaf ar y teledu ond y mwyaf adictif) a mynd i Cyri Clyb Wetherspoons. Aeth fi a Dyfed a Haydn am dro, ac am unwaith roedd y Rogan Josh yn cynnwys cig oen yn hytrach na ffat cig oen, oedd yn eithaf pleserus. A dyma fi yma'n awr, chwarter i naw yn y nos, heb ddim i'w wneud ond pori Maes E a gyrru negeseuon MSN sarhaus i Dyfed a rhyw foi dw i'm yn abod ond ma'n dod o Warwickshire. Peth gwirion 'di bywyd.

mercoledì, marzo 08, 2006

Sgriptio a chri am help gyfrifiadurol!

O myn ffwc i dw i'n cal traffarth 'ma! 'Sgynnoch chi'm syniad sut beth ydi ysgrifennu sgript. Ma'n anodd iawn iawn i wneud un ugain munud. Dyna dw i'n ceisio'i wneud ar y funud ac ers ddoe ac echoddoe. 13 tudalen sy bron yn 13 munud, a dw i wedi rhedeg allan o syniadau. A ddoe ffeindish i allan nid un unig ei fod o fod i mewn erbyn Ddydd Mawrth, ond mae gennai un arall i'w wneud erbyn hynny a sgennai'm syniad bedio!

Mae'r plot yn syml, sef pump person yn eistedd mewn tŷ. Dw i'm efo dychymyg mawr ar y cyfan, dachi'n gweld. Haws o lawer yw dwyn syniadau pobl eraill a'u newid i be sy'n siwtio chi; fel nath Hitler i Mussolini ond mewn ffordd sgriptiol.

--------------------------------------------------

Reit ar nodyn hollol seriws dwi'n pledio gyda unrhyw un sydd allan yno i helpu fi efo problem gyfrifiadurol. Efallai bryna i beint i chi os newch chi, neu Milky Way, wnim. Ond dyma hi: dw i wedi prynu gêm gyfrifiadurol newydd, sef hwn. Mi fedra i ei roi ar y cyfrifiadur yn ffein, a gwneud ambell i beth gyda hi ond bob tro dw i'n mynd i'r darn lle ma'r gêm go iawn yn digwydd (y darn RTS = real-time strategy) ma'n mynd at y Desktop. Ai isho mwy o RAM ydw i? Diolch!

martedì, marzo 07, 2006

Pedwar ... !

Edrychid fel bod y Rhithfro wedi mynd yn obsesd gyda'r rhif pedwar (dw i ddim, well gennai tri), ond dw i'm yn un i beidio a neindio am ben y bandwagon...

Pedwar swydd dw i wedi’u cael
1. Gweithio'n cegin Brewer's Fayre, Parc Menai
2. Rho pamffledi allan yn 'Steddfod Casnewydd
3. Gweithio'n bar Canolfan Y Mileniwm
4. Ym. Dyna ni. Ffycin hel, dw i'm 'di gweithio ffwc!

Pedwar ffilm gallaf eu gwylio drosodd a throsodd
1. Trioleg Lord of the Rings
2. Smokey and the Bandit
3. Braindead
4. Mela (onast!)

Pedwar lle dw i wedi byw ynddyn nhw
1. The Cottage Tyddyn Canol, Rachub
2. Llys Senghennydd
3. 68 Wyeverne Road, Cathays
4. 28 Russell Street, Y Rhath

Pedwar rhaglen teledu dwi’n eu caru
1. Blackadder
2. The Fast Show
3. Wirioneddol unrhywbeth am fyd natur
4. The Simpsons

Pedwar lle dw i wedi bod ar wyliau
1. Cyprus
2. Tiwnisia
3. Yr Eidal
4. Yr Alban

Pedwar o’m hoff brydau bwyd
1.
Pizza Pepperoni Mabinogion Bethesda
2. Spaghetti Marinara
3. Y Ffwl Inglish
4. Stwnsh Rwdan

Pedwar gwefan dw i’n ymweld â nhw bob dydd
1.
Maes-e
2. Ogame.com
3. BBC Cymru'r Byd
4. Blogiadur

Pedwar lle hoffwn i fod yn y munud hwn
1. Yn cael potel o win coch mewn gwinllan Eidalaidd
2. Yn Rachub yn y glaw yn cael panad yn ty
3. Prag!
4. The Shire (hihi!)

Pedwar blogiwr dw i’n eu tagio (dw i'n cymryd mai tagio ydi dilyn yn selog?)
1. Chwadan

2. Synfyfyrwraig
3. Geiriau Gwyllt
4. Wierdo

lunedì, marzo 06, 2006

Cneifio

Dw wedi cael fy ngwallt wedi ei dorri. Am y tro cyntaf ers dros chwe mis, dw i'n siwr, a dw i'm yn siwr beth i wneud ohono. Dw i wastad wedi licio cael fy ngwallt 'mbach yn hir (hir iawn a dweud y gwir), felly'n anaml y bydda i'n ei dorri. Golyga hyn ei fod yn denau ac yn seimllyd am y rhan helaethaf o'r flwyddyn, a rwan dw i'n sylweddoli ei bod yn cael ei golli'n fwyfwy.

Gas gennai dorri gwallt; mae'n well gennai fynd i'r deintydd neu'r doctor, a dw i'm yn licio'r un ohonyn nhw rhy lawer chwaith, rhwng daeargrynnu 'nannedd a chael bys yn din (stori hir). Er, y niwed gwaethaf a chefais oedd gan rhywun pan oeddwn i'n cael torri gwallt ym Mangor yn hogyn bach ifanc, a dyma'r ast yn llwyddo torri fy nghlust. Fflesh wound, wrth gwrs, nid unglust mohonof, ond fe roddodd hwnnw fi off y bastads am byth wedyn.

Mae o hefyd yn gwneud imi edrych yn dew. Fel bochdew, a 'chydig bach fel afocado, 'fyd (efo coldsore arall fyth. Bastad dolur annwyd, maesho'i saethu). Ond rwan mae'n rhaid imi sortia allan fy nghyfrifiadur. Bu imi brynu Battle For Middle Earth II ddoe, a wedi bod yn edrych ymlaen yn arw at ei chwarae am beth amser, ond dydi hi ddim yn gweithio ar fy nghyfrifiadur i nac un Owain Oral. Dw i'n gytud, fel pe bai rhywun 'di marw neu bod diwedd yr iaith ar fin neu fy mod wedi cael torri fy ngwallt. O ia, anghofio am hynny. Bastad torri gwallt. Casau torri gwallt.