mercoledì, maggio 31, 2006

A470 (a slagio off siroedd Cymru)

Na, nid cyfeirio at y rhaglen wael ar S4C yr wyf i. Er y gallwn i wneud. Ond dw i ddim am. Meddwl am yr A470 ei hun ydw i. Bydd yn rhaid imi fynd i Gaerdydd eto'n o fuan a chreu helynt (h.y. styrbio pawb arall rhag adolygu), ond dw i byth wirioneddol yn hoffi gyrru lawr neu fyny'r A470.

Mae 'na lot o resymau am hyn. Y peth cyntaf ydi ei bod hi jyst yn fy ngwylltio i y byddwn i'n cyrraedd Llundain yn yr un amser, a mae Caerdydd yn yr un ffwcin gwlad a fi (sef De Cymru - rhyw fath o drefedigaeth i Ogledd Cymru. Hi hi!). Dylwn i allu teithio yno'n haws o lawer.

Yn ail, Powys. Gas gennai Powys, sef, o bosib, sir waethaf Cymru (er fo Blaenau Gwent yn ail hynod agos, hyd y galla i weithio allan). Wn i, dw i wedi mynegi hyn o'r blaen ond bob tro mae'r daith ar yr A470 yn agosau dw i'n meddwl am Bowys, a sut na fyddwn i byth yn mynd allan ohoni unwaith dw i mewn 'na.
Mae gan bob sir ei nodweddion arbennig, fodd bynnag:

Abertawe: Abertawe
Blaenau Gwent: etholiadau syfrdanol a siopau crap
Bro Morgannwg: yr unig sir yng Nghymru neb nodweddion. O gwbl.
Caerdydd: er gwaetha'r holl bravado a'r balchder, unig wir nodweidd Caerdydd ydi Toy Mic Trevor
Caerfyrddin: yn amlwg yr ysbrydoliaeth am Mordor
Caerffili: bod pawb efo pres yno'n gweithio yng Nghaerdydd
Casnewydd: enw drwg
Castell-nedd Port Talbot: bod ganddi enw anhanfodol o hir
Ceredigion: Dai Jones
Conwy: gyda'r oedran uchaf yng Nghymru ar gyfartaledd, sef cant chwe-deg-saith
Dinbych: Tref Gwaethaf Cymru, Y Rhyl; a'r clwb nos waethaf, Y Venue
Fflint: bod hanner y boblogaeth yn Saeson. As in rhai go iawn.
Gwynedd: mynyddoedd cadarn anwaraidd. Ac anwariaid.
Merthyr Tudful: hen ddiwydiannau beilchion, ond uffernol o hyll
Mynwy: nad yw Cymru na Lloegr eu heisiau. Rhyddid i Fynwy!
Pen-y-bont ar Ogwr: eu bod nhw ddim cweit jyst yn rhan arall o'r Cymoedd. Ond mae nhw.
Penfro: rhywle yn y gorllewin ond 'sneb yn malio dim
Powys: y raddfa uchaf o DPSM yng Nghymru (Diflastod Per Square Mile)
Rhondda Cynon Taf: tair sir mewn un, pob un cyn waethed a'r llall
Torfaen: diweithdra a salwch hir-dymor
Wrecsam: tîm pêl-droed crap Wrecsam
Ynys Môn: bod pawb yng Nghymru'n gwybod, er cyn gymaint o crap ydi'r 21 sir arall, mai hwn di'r gwaethaf oll.






I'll get me coat ...

lunedì, maggio 29, 2006

Nos Sul yn Pesda

Dw i heb gweld Pesda mor orlawn ar nos Sul fel neithiwr ers stalwm. Oddo'n pacd. Eshi allan efo Helen, gan ein bod ni'n dau'n digwydd bod yn Nyffryn Ogwen cyn dychwel i Gaerdydd a Sheffield. Ond roedd hi'n noson od iawn.

Un o nodweddion pennaf Bethesda ydi bod y tafarndai yn dal llawer llai na fedrant oherwydd bod pawb yn dew. Gwelish i'r peth hyllaf erioed neithiwr, rhyw ddynas enfawr efo tatŵ hyll ar ei braich a choesau fel canghennau. Cawsom ni'n dychryn a mynd wedyn i'r Llangollen (pyb drytaf Pesda efo enw braidd yn sili) ac roedd 'na fand yn chwara 'na. Roedden ni'n hollol conffiwsd, wrth gwrs, ynghyd a'r ambell i Sais o Ogwen Bank nad oedden nhw'n dallt pam fod pawb allan ar nos Sul, gwyl y banc neu ddim.

Gyda stryd Pesda yn anhygoel o pacd aethon ni am dro i'r Clwb Rygbi. Dw i'n licio Clwb Rygbi Pesda, a'n rili hoffi lagyr Labatt sy'n cael ei werthu yno. Captain's Night oedd hi, sydd fel arfer yn gorlifo, ond roedd y lle'n wag iawn. Er hyn, roedden nhw'n gwerthu salads pasta. Ar fy myw, nid oes golwg rhyfeddach ar ddaer neu'r Nef na cymysgedd gwahanol o bobl yng Nghlwb Rygbi Bethesda am hanner nos ar nos Sul yn bwyta pasta salad ac yn yfed bityr. Bydd hynny'n aros gyda fi tan y bedd.

sabato, maggio 27, 2006

Canolfannau Garddio

Ces i fawr o amser da ddoe, wedi cael y bastads yn 28 Russell Street yn gyrru mewn caneuon Hobbit amdanai i Dylan a Meinir, ond dyna ni. Dw i'n teimlo'n well wedi'r sarhad yn awr.

Ia wir, canolfannau garddio. Teulu mynd i'r rheiny oedden ni erioed. Dachi'n gwybod, ar Ddydd Sadwrn fin haf, pawb yn gwisgo fyny'n smart a mynd i Holland Arms neu Canolfan Garddio Treborth a chael bwyd yno, a wedyn mynd o amgylch y lle (bob wsos rwan, cofiwch) a pheidio a phrynu dim. Oeddwn i'n casau mynd i Holland Arms. Hoffais y bwyd, sef bob amser baget corgimwch neu toastie bacwn, ond oeddwn i'n casau mynd o amgylch y ganolfan ei hun yn edrych ar geraniums a hadau ffa. Oeddwn i yn mwynhau gweld y pysgod pwll, fodd bynnag, a'r Venus Fly Traps. Dw i'n cofio Nain yn dweud ei bod wedi gweld un o'r blaen a rhoi ei bys hi ynddo, dim ond er mwyn gweld beth oedd o'n neud.

Y peth rhyfeddaf am ganolfannau garddio ydi bod yno bob amser cyn gymaint o bethau yno sy ddim byd i wneud gyda garddio. O gwbl. Oeddwn i'n Treborth heddiw efo Nain a Mam (ac yn ffodus iawn oedd gennai gar felly wedi cael cig oen gwych mi yrrais o 'na fel Michael Schumacher ar speed (Ha ha. Ar speed. Eironig.) a sylweddoli bod yno o hyd sectiwn lyfrau yno. A dydi'r llyfrau ddim byd i wneud gyda garddio: heddiw yn Nhreborth roedd 'na lyfrau ar palmistry, deinosoriaid, astroleg a'r blydi llyfrau croeseiriau 'na. Ac ambell i lyfr am rhodedenrons ond dyna ni. Dw i ddim yn dallt y pwynt o gwbl. Mae o fel gwerthu CD's Dafydd Iwan yn Body Shop, neu pizzas efo blas o Dominos. Od o fyd, tydi?

giovedì, maggio 25, 2006

Degawd

Mae blwyddyn yma'n ddegawd im, degawd ers imi ddechrau ysgrifennu dyddiadur. Oni'n meddwl y byddai'n ddiddorol rhannu deng mlynedd diwethaf fy mywyd gyda chi! Be wnes i ar Fai 25ain bob diwrnod ers ddegawd?

  • 1996: Eshi i car-boot sale yn rhywle
  • 1997: Y tro cyntaf erioed imi fod mewn awyren. Eshi ar un o'r pleasure flights 'na o Ddinas Dinlle o amgylch Yr Wyddfa. Cofio'n iawn!
  • 1998: Ges i lasania i de ym Menllech
  • 1999: Mynd i ffarm Sion a chwarae gemau golff ar y cyfrifiadur. A mi ges i wers biano.
  • 2000: Oni ar brofiad gwaith yn Swyddfa Plaid Cymru Caernarfon, a chael cinio gyda Yncl Owie ac Anti Betty. Gwelais i 'Gladiator' yn nos efo Rita a dwy o'i ffrindiau nad oedden nhw'n deall y ffilm o gwbl a dyma nhw'n chwerthin drwyddi.
  • 2001: Neud pethau drwg yn ystod adeg yr etholiad. Gwell imi beidio dweud!
  • 2002: Cael diwrnod diflas yn lle Nain.
  • 2003: Oni'n siarad efo'm ffrind o Reading ar headphones dros y we, a roedd fy nghlustiau'n lladd.
  • 2004: Cefais arholiad
  • 2005: Ennillodd Lerpwl Cynghrair y Pencampwyr a doeddwn i'm yn meddwl y byddwn i'n 'pasio arholiad fory'. Anghywir oeddwn.

Aaaah! Dw i mor falch dw i'n cadw dyddiadur i weld gwir ddibwyntrwydd fy mywyd yn ei gyflawnder. A, gyda llaw, mae Dyfed yn siarad efo fi ar MSN a'n dweud bod o isho mensh ar y blog. Lwsar trahaus.

mercoledì, maggio 24, 2006

Panad a phentrefi diflas Cymru

Bob tro dw i adra dw i'n yfed tua maint Tryweryn o baneidiau. Efallai dyna'r rheswm pam nad ydw i'n cysgu llawer, a finna'n hen lwmp o gaffîn ddi-egni. Oes gwell na phanad? Oes rhywbeth mwy henffashwn o Gymreigaidd na hi, tybed? Y peth gora am banad ydi ei chael hi mewn mwg neu rhyw hen gwpan sy gen ti ers blynyddoedd. Dileit yw panad. Mi a'i charaf.

Un peth dw i ddim yn caru ydi Bethel. Mi basiais i drwy Bethel ar fy ffordd o Dre ddoe. Er fod Anti Betty ac Yncl Owie yn byw 'na does gan Bethel ddim cymeriad o gwbl. Hi, yn wir, yw pentref mwyaf ddifflach a diflas Cymru, a mae i Gymru ei siâr ohonynt, ond i gyd gydag o leiaf un nodwedd diddorol:

  • Libanus - enw diddorol
  • Llanfairfechan - wrth lan y môr
  • Pentrefoelas - y lle siocled 'na
  • Llanilar - Dai Jones
  • Llanbrynmair - y ddraig gwydr
  • Capel Curig - does neb yn siwr lle mae'r union bentref
  • Pob pentref ar Ynys Môn - pawb yn falch eu bod nhw, pawb sy'n byw ynddynt a'u naws cyffredinol o ddiflas ar Ynys Môn ac nid y tir mawr
  • Mynydd Llandygai - mi fedri di weld Rachub ohono

Crybwylliad byr mi wn, gwyddwn i fod 'na lawer mwy ohonynt ond unig nodwedd Bethel ydi dy fod ti'n gorfod arafu yno ar dy ffordd i Gaernarfon neu fel arall, a mae o'r math o le dwyt ti ddim isho gwario llawer o amser yno. Ond gwell imi beidio slagio'r lle off yn ormodol rhag ofn i Anti Betty ddarllen a rhoi stid imi.

martedì, maggio 23, 2006

Wastio 'Mywyd

Dw i wedi bod yn gwneud dim byd ers bod adra. Anadlu a bwyta, efallai, ond fawr o ddim. Dw i wedi bod yn gwylio Big Brother, wrth gwrs, a mwynhau gweld y boi Pakistani'n pisio pawb off, y dynes ddu yn drewi a'r Cymry Cymraeg, Imogen a Glyn, yn, wel, gwneud ddiawl o'm byd i fod yn hollol onast. Mae'r ddau ohonyn nhw yn hynod, anfaddeuol o boring ar y funud.

Dwisho mynd i Fangor heddiw i brynu Cysgliad i'r llapllop a'r cyfrifiadur yma imi gael sillafu'n gywir a ballu. Mi ragwelaf (a mi ydw i'n rhagweld pethau, a dw i bob amser yn gywir) bydd medru sillafu yn gywir o fantais pan yn athro aeddfed.

Deffroais am hanner awr wedi saith bora 'ma. Od ydyw hyn o'r herwydd pan dw i adra dw i'm yn deffro tan o leiaf 10 rhan fwyaf o'r amser. Dod adra ydi 'ngwyliau i bellach, a pham mae rhywun yn mynd i Rachub am wyliau mae nhw unai gyda hiraeth, heb bres neu'n paratoi ar gyfer hunanladdiad.

W, newydd gofio bod 'na CD allan gan Celt heddiw, so bydd yn RHAID imi brynu hwnnw. 'Sgen i'm car ar y funud ond dw i'n cael menthyg un Nain tra ei bod hi'n dawnsio llinell yn nghanolfan Cefnfaes, felly mi wna i bob dim yn ogystal a sortio allan joban am yr haf i'm hun. 'Misho gweithio. Tydi tyfu fyny yn beth annifyr? (er nad ydw i erioed wedi tyfu fyny pasio 5"7, ac annhebyg y gwna i rwan. Plantos, peidiwch boddra byta'ch llysiau i dyfu fyny'n iach, ges i llwyth ohonyn nhw a rwan mae pawb yn fy ngalw i'n Hobbit Tew. Bastads.)

domenica, maggio 21, 2006

Dydd Sul Glawiog yn Rachub

Dyma fi'n ôl yn yr hen fro unwaith eto! A mai'n bwrw glaw. Dydi hynny ddim yn beth da. Roedd hi'n bwrw glaw yr holl ffordd fyny yn y car. Cefais yr anffawd o yrru fyny efo Dyfed, sy'n digon i wneud rhywun eisiau crio (ond dim digon i wneud Dyfed grio - mae o 'mond yn crio ar y coroni yn ffilm Narnia).

Does gen i ddim cynllun bendant ar gyfer heddiw, heblaw bod Nain (bendith arni) wedi dweud ei bod hi'n gwneud cinio i bawb. Fydd hynny'n dda, dw i angen egni achos doeddwn i methu cysgu neithiwr. Dad 'di meddwi yn gwneud swn yn dod i mewn a wedyn rhyw hogia am hannar 'di dau'n bora yn gweiddi rwbath am 'my fucking shin'. Annymunol iawn.

Mae Dad yn y ffenast rwan yn dweud imi fynd i lle Nain am fwyd, sy'n biti achos mae genni lot mwy i'w ddweud i chi. Duw, 'motsh. Hwyl am y tro, gyfeillion!

venerdì, maggio 19, 2006

Gwinllan a roddwyd

Shwmai gyfeillion! Methu aros i siarad lot efo chi heddiw. Dwidi deffro'n hwyr ac angen mynd i lle'r genod (eu cartref, nid toiled) i futa baget ac hefyd i'w cythryddu nad ydw i wedi bod yn adolygu unwaith yn rhagor.

Saunders Lewis sydd heddiw. Boi bach hyll, fainlais, cenedlaetholwr i'r carn oedd yn hoff o losgi ysgolion fomio. Gwinllan a roddwyd i'm gofal yw Cymru fy ngwlad; melltith o waelod fy enaid i ti, Llywelyn; trwy ddulliau chwyldro yn unig y mae llwyddo. Dyna'r oll dw i'n wybod. Ond mi fedra i adrodd Gwinllan a Roddwyd o gof...

Gwinllan a roddwyd i'm gofal yw Cymru fy ngwlad
I'w thraddodi i'm plant
Ac i blant fy mhlant
Yn dreftadaeth tragwyddol;
Ac wele'r moch yn rhuthro arni i'w baeddu.
Minnau yn awr,
Galwaf ar fy nghyfeillion,
Cyffredin ac ysgolhaig,
Deuwch atyf i'r adwy,
Safwch gyda mi yn y bwlch;
Fel y cedwir i'r oesoedd a ddel y glendid a fu.

Gwych! O leia os dw i'n methu heddiw bydda i'n gwybod fy mod i wedi gwneud ychydig o waith drwy flogio!