mercoledì, giugno 28, 2006

Sydyn-newyddion

Dw i'n licio rhannu fy mywyd efo chi. Dw i wedi bod yn gwneud ers tair mlynedd namyn pum diwrnod. A mae pethau dal yn boring. Ond dywedwyd i mi heddiw fy mod i yn y wars. Licio'r dywediad. Ond mi es i'r optegydd, ac yn ogystal a chael goes giami dw i'n awr yn gorfod cael sbecdols. Geeky Jês, dyna fyddan nhw'n fy ngalw, gewch chi weld.

O ia, mi darfodd hynny ar draws y newyddion da fy mod i wedi llwyddo cael 2:2 (ond mae Lowri Dwd a Lowri Llew wedi hefyd, sydd efallai'n dangos faint o hawdd ydi'r byd addysg uwchradd ar y funud). Athro dall ddisymud fydda i, gewch chi weld.

martedì, giugno 27, 2006

Fy ngwlad! *rant blin*

Fy ngwlad, fy ngwlad cei fy nghledd
Yn wridog dros d'anrhydedd,
O gallwn, gallwn golli
Y gwaed hwn o'th blegid di.
Wylit, wylit, Lywelyn
Wylit waed pe gwelit hyn!

Gwychder gan Gerallt Lloyd Owen. Bob amser wedi licio GLO. Mae rhai yn dweud bod o i gyd yn 'Gymru hyn, Cymru llall' ond be di'r ots efo hynna? Ond pwy ellith ddweud go iawn nad ydyn nhw wedi darllen un o'i gerddi a chael 'mbach o ias lawr eu cefn, neu dim ond wedi meddwl 'hm, ti'n iawn'? Neu beth am 'Hon' neu 'Preseli' neu 'Cyngor' neu hyd yn oed 'Enaid Owain ab Urien' a pheidio â rhoi ailystyriaeth i'r hyn sy'n cael ei ddweud.

Dw i'n cael fy ngwylltio a'm siomi gan y Cymry o hyd, fel cenedl, ac fel unigolion. 'Dan ni mor wan. Pan bleidleisiodd Montenegro am annibyniaeth, beth oedd tu ôl iddi ond balchder cenedlaethol? Pam fo'r Basgiaid yn ymladd o hyd? Pam fo hyd yn oed yr Alban o'n blaen? Pe fyddai refferendwm annibyniaeth yng Nghymru, dw i'n sicr y byddai mwy o gefnogaeth iddi nag ydym yn credu, ond byddan ni dal ddim yn annibynnol. "Byddan ni'n dlawd", "eith yr NHS i'r diawl", "bydd gynnon ni llais gwannach tu allan i Brydain". Gesiwch be? Mi ydan ni'n dlawd. Mae'n NHS a'n system addysg ni yn y baw. A does gynnon ni ddim llais tu fewn i Brydain, heb son am du allan iddi.

A dyna sy'n fy ngwylltio am y Cymry. Dw i'n abod digon o Gymry felly; cenedlaetholwyr pan fo'r rygbi ar, neu efallai wrth ganu ambell i 'Yma o Hyd' feddw yng Nghlwb Ifor. Ond na, annibyniaeth, Deddf Iaith, fe gaiff y rheiny fynd i'r diawl ganddyn nhw. A dachi'n gwybod pam? Achos dydyn nhw ddim yn gwybod dim am hanes Cymru. Fe brynodd Mam lyfr imi am hanes Cymru ddoe, imi gael darllen. Ond er ei bod flynyddoedd yn ôl, bellach, dysgu rhywfaint am hanes Cymru, a'm trodd i tuag at genedlaetholdeb. A dw i yn sicr, heb unrhyw amheuaeth, pe fyddai pobl Cymru yn gwybod am eu hanes, fe fydden nhw'n genedlaetholwyr hefyd.

Be wyddant am y Deddfau Uno neu'r Llyfrau Gleision? Beth am Dryweryn, hanes ein tywysogion Saesneg neu'r nifer weithiau y mae Cymry wedi marw yn rhyfeloedd Lloegr? Beth am y rhai aeth i'r carchar er mwyn iddyn nhw dderbyn addysg Gymraeg neu gael yr hawl i achos llys yn Gymraeg? Ydyn nhw'n cofio na gafodd y Cymry byw mewn trefi yn eu gwlad eu hun, na chael swydd oni bai eu bod nhw'n siarad iaith gwlad arall? Beth am Streic Fawr y Penrhyn neu Streic y Glowyr? Ydyn nhw hyd yn oed yn cofio unrhyw beth am Lywelyn neu Glyndŵr?

Ydyn nhw mor drahaus fel eu bod nhw'n fodlon anghofio bod miloedd ar filoedd o Gymry, eu cyndeidiau nhw, wedi marw er mwyn EIN rhyddid, EIN hawl i siarad Cymraeg, EIN hawl i gynnal ein gwerthoedd ein hun? Na, dydyn nhw ddim. Ac mae hynny'n warth, yn fy marn i.

A dw i'n llai o Gymro na'r un ohonyn nhw. Hanner-Sais dw i. Ond mae nifer o genedlaetholwyr ddim wedi bod yn Gymry pur, fel petai: cafodd Dafydd Wigley a Saunders Lewis eu geni yn Lloegr, ni siaradodd Gwynfor Evans Gymraeg tan ei fod yn ddeunaw. Ac eto sbïwch ar y Cymry Cymraeg pur yn ein mysg, heddiw a ddoe: Elwyn Jones, Dafydd Elis-Thomas, David Lloyd George, Rhodri Morgan - bradwyr, a Chymry pur. Mae'n dweud llawer mai Cymry pur yw'r mwyaf euog o boeni lleiaf am eu gwlad.

Wn i ddim. Roedd jyst cael llyfr hanes Cymru o'm mlaen i; hanes dwy fil o flynyddoedd o ormes, o golli tir, ac o frwydro yn erbyn y Saeson, mewn difri; roedd o'n ddigon i fy nghorddi i am ba mor ddi-ots ydi cymaint o bobl, nifer ohonynt dw i'n ffrindiau efo nhw, sydd efo dim ots am Gymru. A fe’m synnwyd faint o flin a dig oeddwn i’n teimlo. Ac oeddwn i angen cael hynna oll off fy mrest.

Mewn newyddion eraill, mi gysgais i efo fflamingo, mynd i hang-gleidio dros Dudweiliog a chael iau newydd

lunedì, giugno 26, 2006

Anabledd Swyddogol

Rhaid imi aros oddi-ar-lein rhwng un a phump heddiw. Mae'r pobl disabiliti yn ffonio. Mae'n rhaid imi gyfaddef nad oedd i byth yn meddwl y byddai hyn yn digwydd imi, ond bydda i'n cael beneffits dros yr ha'. Wedi'r cyfan, mae gennai filiau rhent i'w dalu am Caerdydd, a fedra i ddim gweithio. Sy'n golygu, wel, dw i'n swyddogol yn anabl. Dyna od.

Mae pethau'n mynd o ddrwg i waeth hefyd, achos ma'n rhaid imi fynd i'r optegydd Ddydd Mercher. Mae rhan fwyaf o hogia'r tŷ heddiw off i Alton Towers, 'fyd. Gytud. Dw i bob amser wedi bod isho mynd yna fy hun. Yn Ysgol Dyffryn Ogwen oeddan nhw'n trefnu tripiau diwedd pob blwyddyn er mwyn mynd, ond bob blwyddyn erioed rhois i'r arian i mewn yn hwyr, ac rwan dw i'n styc yn Rachub yn rêl Wil Goes Bren. Hitia befo, ys dywed y tyddynwr.

Reit, dw i wedi cwyno a dw i'n teimlo'n well o lawer. Diolch i Dduw am gwyno, ne fyddwn i ar goll.

sabato, giugno 24, 2006

Taflud bwyd am ben to a ballu

Mae'n od gweld o ba ran o'ch teulu yr ydych chi'n hawlio rhai nodweddion penodol. Dw i'n gwybod fel ffaith bo fy hiwmor i (er gwell neu gwaeth) yn debyg iawn i un fy modryb, Rita, yn hytrach na neb arall yn y teulu. Fysa Dad yn licio meddwl ei fod yn eitha' ffraeth ac ati, ond fel y gwyddem, dydi'r geiriau 'tad' a 'ffraethineb' ddim o'r un hedyn. Ond mae Rita'n ddynes od. Dw i'n cofio y deuthum ni adra o rywle o'r blaen a mynd rownd cefn y tŷ a synnu bod rhywun wedi peintio'n berfa ni'n wyrdd tra ein bod ni allan. Ia, Rita.

Mi es draw am banad ddoe. Mae ardd Rita yn edrych ar draws Tyddyn Canol oll. Mae 'na tua naw o dai yn Nhyddyn Canol, ac o'r naw mae'r un pobl wedi byw ymhob tŷ namyn tri ers fy ngeni i. Mae fy Nain Eidalaidd mewn un, Rita a'i theulu mewn un arall, ac wedyn mae tŷ ni ar yr ochr (dydan ni'm yn Tyddyn Canol yn swyddogol, ddo). Felly dyma ni'n yr ardd, fi, Rita, Norman a Nana. Roedd Nana'n cwyno bod y gwylanod fel bleiddiau a'i bod hi ddim isho mynd i Southport heddiw achos doedd hi'm isho codi'n rhy fuan, a'i bod isho gwyblio Coronation Street am saith.

Fodd bynnag, rwbath mae Rita'n licio'i wneud ydi bwydo'r adar (sef gwylanod ac ambell i jac do yn Rachub). Roedd hi'n egluro ei bod hi'n taflu bwyd weithiau am ben to ein cartref ni (sydd o fewn pellter lluchio yn hawdd) a gweld yr adar yn heidio ar y to, a chael Dad i feddwl be ddiawl sy'n digwydd efo'r trempian uwch y nen. Un dwl 'di Dad, felly mae o'n drysu'n hawdd. A dyna fuon ni ddoe yn ei hardd hi, yn rhoi gwledd go iawn i'r gwylanod, yn cynnwys lemon sbwnj, tomatos, cacenni Cappuchino, bara, bisgedi a Scotch Eggs oedd wedi mynd off ers tua wythnos.

Roedd y Scotch Eggs yn boblogaidd iawn ymysg yr adar, mân a mawr, ond gan eu bod nhw wedi mynd off synnwn i ddim petawn ni'n gweld llwyth o wylanod celain ar hyd a lled Tyddyn Canol am sbel. Ydi adar yn fod i futa wyau, dwad? Cawn weld ymhen dim! Www, ecseiting!

giovedì, giugno 22, 2006

Dal i gredu...

Wel, mae 'na un peth da wedi dod allan o'r ffaith bod fy mhen glin wedi penderfynu malu a hynny yw dydw i ddim am weithio dros yr haf. Eto. Er mor ddiflas ydi bod yma drwy'r dydd yn gwneud dim, nis medraf wneud dim i guddio fy nileit. Hihi!

Mi es felly i 'Sbyty Gwynedd ddoe. Roedd y doctor yn edrych fel Christopher Lee ac yn ymddwyn fel Hugh Grant, sy'n gyfuniad od ond yn eitha da hefyd. Wedi cael scan peledr-x unwaith eto dywedodd nad oedd yn poeni'n ormodol am fy mhen glin, ond bod sgen MRI yn bendant yn angenrheidiol. Mae 'na rwbath yn bod 'na, udodd o.

Felly dw i'n cael cerdded o gwmpas heb y splinter, dachi'n gweld. Y broblem ydi bob tro dwi'n gwneud hynna ma'n troi mewn i jeli ac yn gwneud imi gerdded yn od, fel Meic Stevens ar sesh. Ac mae hynny'n boenus, eniwe. Felly peth gorau imi wneud ydi ista flaen y teledu yn gobeithio bod Yr Eidal am guro Cwpan y Byd a bo tim Lloegr i gyd am, wel, torri eu pennau gliniau.

A rwan mae O2 newydd fy ffonio yn gofyn os dwisho 200 tecst am ddim y mis, a minnau wedi gorfod eu troi i lawr, gan ddweud gyda chryn cywilydd tua hynna faint dw i'n gyrru bob blwyddyn eniwe. Damiai.

martedì, giugno 20, 2006

Bleeeeeeeeeeeeeeeeeeeeeeeeeeeeeeh

Ffaaaaaaaaaaaaaaaaaaaaacin hel! Peidiwch byth a dymuno dim byd, achos mi gewch chi o a newch chi'm licio fi. Fi, myfi a gredais y byddai gwneud dim byd a gwylio teledu drwy'r dydd cyn mynd i gysgu eto yn wych. Asu oni'n rong. Mae diflastod cael pen glin sy 'di smashio'n racs yn annioddefol ar y funud.

Dw i'm yn meddwl bod o weid'i smashio, chwaith. Mi fedrai gerdded yn eitha da rwan, dim ond gwan ydi'r pen glin, ond dw i'n mynd i'r clinic 'fory i wneud yn siwr. Ond mae'n anhygoel faint o ddiflas ydi bywyd ar y funud; yn wir, mae hunanladdiad yn edrych yn opsiwn da, yn enwedig pan dachi'n cael breuddwydion od sy'n cyfuno Saruman a chynghaneddu. Dwi bron a thorri'r pen glin arall er mwyn cael mynd i Ysbyty Gwynedd a chael rhywun i siarad efo drwy'r dydd, hyd yn oed os mai hen ddyn efo iau giami ydio, neu ast flewog o nyrs.

Tydi bod ar y cyfrifiadur fawr o hwyl wedi dyddiau maith. Mae'r rhyngrwyd yn le diflas os dachi ar modem 40kb/s. A rwan dw i'n siarad i Lowri Dwd ar MSN ac yn clywed bod hi isho pw. Ffycin hel, pasiwch y cyanide.

domenica, giugno 18, 2006

Blas ar Pesda Roc

Do, mi geshi flas o Pesda Roc. O'r ardd gefn. Mi eshi allan wedi gem Yr Eidal a'r UDA (yn flin iawn efo'r Eidal, fy ngwlad Cwpan y Byd) a gwrando. Wel, ar un gân, sef 'Rywbeth Bach Yn Poeni' gan Geraint Jarman nath ddim wneud imi deimlo'n well. Felly i mewn â fi i'r tŷ, yn oer ac yn flin, yn melltithio addasrwydd y gân. A gwylio Big Brother.

Dw i wedi bod yn ei wylio'n selog, a'r unig beth sy'n fy nghadw i fynd ydi sut hoffwn i rhoi cic yn pen Nikki. Ffacin ast. Sut ddiawl y mae pobl yn gweiddi amdani a'i bod yn boblogaidd dw i'm yn gwybod. Mae hi'n crynhoi y math o berson dw i'n eu casau: anniolchgar, dwywynebog, babiaidd ac yn sboilt. Ac yn crio o hyd, ddim yn licio pobl sy'n crio. Ond wir, taswn i'n cael hanner cyfle byddwn i'n rhoi slap i'r gotsan fach.

Pobl anniolchgar ydi'r peth sy'n waethaf gennai, hyd yn oed uwchben pobl trahaus. Ond dw i'n teimlo'n anniolchgar ar y funud; bob tro ma rhywun yn trio gwneud rhywbeth imi dw i'n mynd yn flin ac yn mynnu y medra i wneud o fy hun. Gas gennai cael fy nhrin fel claf. Dad ydi'r gwaetha am hyn, fysa fo'n sychu fy nhrwyn pe fyddai'n cael y cyfle.

A fedra i'm mynd i Pesda Roc heno. Dwisho gweld Bryn Fon, 'chan. Ac oeddwn i isho gweld Geraint Jarman am y tro cynta erioed. Ond nes i ddim, naddo? Dw i'n poeni o hyd na wela i llwyth o bobl eto, fel DI neu Meic Stevens, achos ma'n siwr y byddan nhw'n marw rwbryd yn fuan. A dwisho'u gweld nhw'n perfformio. Damio marwolaeth.

venerdì, giugno 16, 2006

Gwella'n Barod!

Yn barod dw i’n eithaf gwella o’r hen beth ben glin ‘ma. Myfi a fedraf godi fy nghoes yn awr, a rhoi’r modem i mewn, sy’n ddigon i brofi i mi nad ydw i wedi torri dim byd ac mai dim ond briw sydd gennai. Braf byddai hynny, hyd yn oed os oes yn rhaid imi weithio dros yr haf.

Mi drof i’r blog hwn yn le cysegr i fy mhen glin yn awr, a byddwch yn barod i’m clywed yn cwyno am ychydig wythnosau, beth bynnag sy’n digwydd.

Hen fore swreal dw i wedi cael, mewn difri. Daeth Grandad rownd i ddweud helo. Fe gaeth yntau llawdriniaeth ar ei ben glin ychydig yn ôl er mwyn helpu iddo gerdded yn well, ac mae yntau hefyd gyda ffon gerdded. Felly dyma ni’n dau yn y gegin, fel par o hen ddynion (a hanner y par hwnnw yn hen ddyn) yn siarad ac yn llymeitian paneidiau. A chefais i wybod llawer amdano a’i niferus swyddi; cigydd, gyrrwr loriau, gweithio ar y bysus ac yn y blaen. Er, mae’n rhaid imi gyfaddef fy mod i’n teimlo fel fy mod i mewn cartref hen bobl am ychydig oriau.

Ond ia, dw i’n gwella’n barod dw i’n teimlo. Cyn belled nad ydw i’n gwneud dim byd gwirion mi fydda i’n iawn. Sy’n eithaf golygu fy mod i’n ffwcd.