giovedì, aprile 19, 2007

Fy mhen-blwydd a phroffwydo Canol Caerdydd (dyna anodd...)

Penbwl hapus i mi,
Penbwl hapus i mi,
Penbwl hapus i’r Hogyn,
Penbwl hapus i mi.

Rhyfedd, dw i’m yn teimlo’n ddwy ar hugain; dim ond ychydig bach yn llwglyd a bod angen cawod arnaf. Ond allwn i ddim gwneud popeth ar unwaith. A dywedyd y gwir i chi, dw i’m isio sôn am fy mhen-blwydd, dydi pen-blwydd ddim yn rhywbeth y byddaf i’n hoff iawn ohoni. Y peth amdanaf fi ydi, er fy mod i’n hoff hynod o sylw, mae hynny’n gorfod bod ar fy nhelerau i o hyd, ac mae fy mhen-blwydd, ysywaeth, y tu allan i fy rheolaeth.

Derbynnir anrhegion yn amodol.

Eniwe, tri chariad sydd gen i: Cymru, gwleidyddiaeth a Lord of the Rings (dw i ddim yn hollol siŵr sut y mae’r olaf yn ffitio mewn â’r ddau arall). A dw i am fentro fy llaw ar broffwydoliaeth eto; ond un mwy penodol.

Mae’r ddwy etholaeth sy’n rhan o fy mod yn rhai diogel yn y Cynulliad; Arfon i Blaid Cymru (Martin Eaglestone? Mae gen i fwy o siawns orchuddio fy hun mewn mêl a pheidio cael fy nhreisio gan Winnie the Pooh na sydd gan Martin o gael ei ethol yn Arfon), a Chaerdydd Canol, a minnau’n byw yn Y Rhath ar hyn o bryd. Mi fentraf broffwydoliaeth fechan i Ganol Caerdydd.

Mae arwyddion yn arwydd (ha!) dda o weld sut y mae pethau’n mynd. Hyd yn hyn, y Democratiaid Rhyddfrydol sy’n ennill, ond dydyn nhw ddim o llwyth; mae 'na lawer iawn o arwyddion Llafur o gwmpas (ac un Plaid Cymru ar Albany Road; dim byd i’r Ceidwadwyr hyd yn hyn). Fe’m synnwyd gan hynny; mae hwn yn un o’r seddau y byddwn i’n ei ddisgwyl i Lafur ildio - ond dw i wedi cael ambell i bamffled ganddyn nhw a’r hen Liberals (pob un yn uniaith Saesneg, afraid dweud). Ond dydyn nhw ddim i weld fel eu bod. Maen nhw’n edrych fel bod nhw’n cael yr arwyddion i fyny ac yn cael pobl i ddosbarthu eu llythyrau.

Mae’r Rhyddfrydwyr yn amhoblogaidd yn y cyngor, ac er bod Llafur yn amhoblogaidd beth bynnag peidiwch byth â diystyru eu pleidleiswyr craidd; y rheiny na fyddant yn troi allan i bleidleisio yn y Cymoedd, ond oherwydd eu bod mewn sedd nad yw bellach yn Llafur, fe ânt nhw i bleidleisio. Mi fetia’ i rywbeth. A’r gwir amdani ydi, bydd y myfyrwyr ddim yn boddran pleidleisio mewn rhifau mawrion.

Peidiwch byth â diystyru'r bleidlais Lafur craidd. Y nhw a rhoddod gic-owt i'r Blaid yn Rhondda ac Islwyn yn 2003, a hynny heb fawr o reswm oni bai mai o frîd Llafur Craidd oedd y rhan fwyaf o'r pleidleiswyr. Ddaw hi ddim at hynny yng Nghanol Caerdydd, ond nodwch ar y bleidlais hon.

Does gan Plaid ddim cyfle. Mae ‘na lawer iawn o fyfyrwyr Cymraeg yn yr ardal, ond yn fy mhrofiad i pleidleisio drwy’r post yn y gogledd a’r gorllewin y maen nhw. Ond mae’r Gymraeg yma; yn ôl rhywun dw i’n ei adnabod sy’n gweithio i’r cyngor mae llawer mwy o ffurflenni wedi eu cwblhau’n Gymraeg yn dod o’r rhan yma o’r ddinas na fyddai rhywun yn disgwyl.

Trahaus, a ffôl, yw dweud y bydd siaradwyr Cymraeg yn pleidleisio Plaid; ond maen nhw’n debycach o wneud hynny na phleidleisio dros neb arall. Mae ‘na gymuned Fwslimaidd amlwg yma hefyd, a hyd y deallwn i mae’r Blaid â chefnogaeth yn eu mysg.

Felly dyma fy mhroffwydoliaeth ar gyfer Caerdydd Canol: 34.7% yw mwyafrif y Democratiaid Rhyddfrydol ond byddwn ni’n gweld gogwydd i Lafur fan hyn, yn crafu eu hunain yn ôl yn araf bach. Nid wyf o’r farn y bydd y Rhyddfrydwyr yn hawlio dros hanner y bleidlais y tro hwn.

Bydd y Ceidwadwyr yn statig, a Phlaid yn cynyddu mymryn, ac os mae UKIP yn cadw eu deposit mae’r Wyddfa yn gaws.

mercoledì, aprile 18, 2007

2 + 2 = 22

Felly dyna ni, blwyddyn gron. Yfory mae ieuenctid â’i holl ryfeddodau go wir yn dirwyn i ben. Fe fydda’ i’n ddwy ar hugain.

Mae 21 yn flwyddyn fawr, yn ôl y sôn. Fe fu i mi, rhwng graddio, methu’n llwyr yn hyfforddi fel athro a datblygu hoffter gwirioneddol o gaws. Mae’n flwyddyn a mwy ers Prâg, tair blynedd ers y pen-blwydd bythgofiadwy yn Senghennydd (rhywle y byddaf i’n mynd heibio bob dydd, yn gwneud dim ond yn fy atgoffa o’r hen ddyddiau da). Ond mae 22 yn drothwy i rywbeth arall, yn fy marn i; mae rhywun (myfyrwyr yn benodol) yn dechrau gweithio, yn meddwl sut beth fyddai cael lle nhw’u hun. Mae ysgol wedi hen fynd, a phrifysgol ond yn gof, a beth sydd i edrych ymlaen at ond dros ddeugain mlynedd o waith (ac, er gwaetha’r honiadau, dydych chi fawr gwell o fedru Cymraeg a byw yng Nghaerdydd).

Ie, deugain mlynedd o wgu ar bobl Metro, a gwylio fy ngwallt yn teneuo’n fwy fyth (mai’n ddigon ffycin denau fel mai) a 'ngolwg yn pallu mwy. A dydw i’m yn berson iach, cofiwch, rhwng fy mhen glin, fy ysgwydd a’m problemau cysgu.

Ie, dwy ar hugain. A oes nodwedd benodol i’r oed hwnnw, neu ai fi sy’n mynnu cwyno?
Duw, mae ‘na bob amser 23…

martedì, aprile 17, 2007

Yr Argyfwng Tai ... a fi

Chi’n gwybod be? Dw i YN sdresd. Yn ofnadwy. Dim ond heddiw y mae hi wedi taro mai tri mis sydd gen i ar ôl yn y tŷ a bod angen un newydd arnaf. Mi ranna’ i fy meddwl efo chi, mae’n helpu fi i setlo.

Pan welais i’r tŷ ddydd Sadwrn dim ond un afiach oedd o, gyda thenantiaid un tŷ cae rhoi mynediad i ni a’r llall, oedd fy nghalon arni yn Grangetown, wedi ei werthu. Ni ffoniodd yr arwerthwr tai neithiwr fel yr addawodd, felly dw i mewn penbleth. Mae pethau fel hyn yn cymryd amser i’w gwneud, a ‘does gen i fawr o hynny erbyn hyn.

Prin y gallaf i fynd dros £130,000, a hynny gyda deposit etifeddiaeth gan Mam a Nain. Ac, yn dweud hynny, hyfforddi ydw i ar y funud felly dydi fy swydd i ddim ymysg y sicrhaf, mae’n siŵr. Mae pethau fel hynna’n fy mhoeni i’n arw; dw i bob amser yn meddwl bod ‘na saciad neu fil ar y ffordd (ac mae meddwl felly yn fy nghadw i ar flaenau ‘nhraed, sef yn union le ydw i’n hoffi bod). Dim peth cefn gwlad ydi methu â phrynu lle i fyw, mae'n ddigon cyffredin yn y ddinas 'fyd.

A lle i fyw, yn de? Fedra i ddim symud yn rhy bell o ganol Caerdydd, felly dw i wedi pennu Grangetown, Riverside, y Rhath a Sblot fel llefydd i fynd i (a Threganna, sy’n rhy ddrud o lawer gwaetha’r modd).

Dydi’r sefyllfa dai ddim yn deg. Dw i’n ifanc a dw i isio dechrau bywyd gyda thŷ digonol a swydd iawn. Ydi hynny’n gofyn gormod?

(gan ddweud hynny mae wastad rhywbeth yn dod fyny i mi; dw i’n argyhoeddedig bod rhywun, neu rywbeth, fel banana mewn ffoil angylaidd, yn edrych ar fy ôl yn sicrhau nad af i ar ormod o gyfeilion … hyd yn hyn)

lunedì, aprile 16, 2007

Nid blog gwleidyddol mo hwn. Cofier.

Â’r etholiad yn dyfod, dw i’n brysur yn chwilio’r we o hyd am y newyddion diweddaraf, er mae’n debyg bod ambell i berson yn rhestru'r blog hwn fel un gwleidyddol. Dydi o ddim, wchi. Bydda i’n dweud rhyw ambell i beth gwleidyddol (e.e. mae Lib Dems i gyd yn bwyta Muesli, Toris yn dirfeddianwyr cas sy’n saethu pobl dlawd a Llafur ... wel, doniol ydynt yn y bôn) o bryd i’w gilydd.

Ond trown o faterion y dydd at bethau pwysicach fel fy mywyd i, a bod yn onest i chi. Roeddwn i yn y Bae ddydd Sadwrn, gyda Rhys y dyn moel a Sioned yr hogan foel (mae hi’n gwisgo wig, medda’ nhw), a does gwell na pheint wrth ddŵr yn yr haf (er gwaetha’r ffaith nad ydyw’n haf a hefyd bod y dŵr wrth ymyl tafarn Y Lanfa yn farwaidd, gyda dim i’w gweld ond am hen long fudur a chraen budur, a gwylanod) ac mi ges liw haul o ryw fath.

Serch hyn, prin fod haul a’r Hogyn yn gyfeillion. Dros y blynyddoedd diwethaf, ers symud i Gaerdydd a dywedyd y gwir i chi, mae clwy’r gwair wedi fy meddiannu rhywfaint. Ond mae hi’n waeth flwyddyn yma, ac mae’n llygaid i’n goch ac yn fawr ac ar y funud dw i’n edrych yn eithaf tebyg i hyn:

Heb y gwallt sinsir. Diolch i Dduw. Ro’n i’n trio darllen llyfr neithiwr, yn sbectols i gyd, a phrin yr oeddwn yn gallu gweld. Dwy dabled cysgu yn ddiweddarach ac mi gysgais cyn ddyfned ac y byddwn i fwy na thebyg yn ei wneud mewn gig Genod Droog, am unwaith.

Mi es hefyd i chwilio am dŷ ar y wicend heb fath o lwc, felly mae hynny’n pwyso’n drwm arna’ i, gyda llai na thri mis ar ôl ar Newport Road. Digartref byddwyf â chlwy’r gwair. Casáu bywyd; mae o’n dwat.

venerdì, aprile 13, 2007

Prudd-der byw

Rydych chi o’r farn fy mod i’n berson cwynfanllyd, yn dydych chi (er nad yw eich barn o’r mymryn lleiaf o ddiddordeb i mi)? Dw i am gwyno rŵan, a chwyn hir a thrist bydd hwn, a hynny oherwydd nad ydw i’n hapus o gwbl heddiw a dweud y gwir yn onest i chi.

Do, mi es i dorri fy ngwallt neithiwr. Dw i’n ei gasáu â chas perffaith. Mae’n rhy fyr; ac er fy mod i, yn ôl rhai, yn dueddol o edrych ychydig yn well gyda gwallt byr (yn y modd y mae cachu efallai’n edrych ychydig yn neisiach na chwŷd) dydi o jyst ddim yn fi a dydi hi byth wedi bod pan fy mod i un ai wedi cael fy ngorfodi, neu drwy eiliad wallgof wedi ei dorri. A dw i’n drist, a dydw i ddim yn teimlo fel fi fy hun.

Pan dorrwyd gwallt Samson gollodd yntau ei gryfder, ac yn raddol mae fy hyder innau’n diflannu heb wallt. Ac wrth gerdded o’r siop trin gwallt ddoe byth erioed a deimlais y math baranoia ‘mae pawb yn edrych arnaf’. Bu’n syndod i mi mai bron â thagu dagrau a wnes yr holl ffordd adref, a, nadw, dydw i ddim am fynd allan y wicend ‘ma chwaith o’r herwydd fy mod i’n teimlo mor wirion.

Ychwaneger i hynny'r ffaith bod cael teulu i lawr yn sdresio fi allan ac nad ydw i’n cysgu ar y funud, a bod miloedd o eiriau yn syllu arnaf - lle trist a sâl ydyw’r byd i mi ar y funud. Trist, sâl, di-wallt. Newyn Ethiopia a thaith yr Iddewon drwy’r anialwch dyfod drosof cyn hyn. Betia’ i fod ganddyn nhw fwy o wallt. Ond debyg nad ydi rhywun ei angen yn y rhan honno o’r byd, chwaith.

giovedì, aprile 12, 2007

Twat gwallt

Dw i’n teimlo dros y boi RAC ar Heol y Frenhines (Queens Street i chi a mi). Fe fu’r lle yn lloches iddo, ond daeth yr AA yno yn llu a bellach ni welir mohono. Ond does ots gen i, AA ydw i efo.

Medaf i ddim cyfleu fy niflastod llwyr heddiw. Mae’r gwaith yn erchyll. Chefais i mo fy ngeni i gyfieithu. Dw i’m yn siŵr o ddiben fy modolaeth, chwaith, ond mi ddyfalaf ei bod yn cylchdroi o amgylch hufen iâ.

Dw i’n nerfus hefyd. Dw i’n cael fy ngwallt wedi ei dorri wedyn. Ac ni o farbwr. Gyda’r chwaer i lawr mi benderfynodd hithau bod angen makeover arnaf i. Mae hi ‘di dewis steil gwallt newydd i mi. Mae hi ‘di bwcio lle yn Tony & Guy’s p’nawn ‘ma i mi. Edrych fel twat fydda i erbyn diwedd y dydd, mi fetiaf fy holl eiddo arno (sydd yn cynnwys fy CDs Dafydd Iwan a het lwyd o Awstria).

Penderfyniad. Ewyllys. Aberth. Nôl at y gwaith.

mercoledì, aprile 11, 2007

"I'm a Naughty Boy in the World"

Dw i byth yn peidio â rhyfeddu ar sut y mae bywyd yn lluchio rhyfeddodau fel hyn ataf o hyd er mwyn eu hadrodd i bawb; ond dydw i ddim yn ddiolchgar amdani.

Fel rheol mae’n well gen i gerdded na chymryd tacsi. Er hyn, wedi mynd am fwyd efo’r teulu neithiwr, a hwythau i lawr yng Nghaerdydd am sbel, mi gefais dacsi i’r Bae er mwyn gwneud y cwis, fel pob nos Fawrth (aflwyddiant arall y bu er y gwelwyd gwella yn ein safle a’n gwybyddiaeth cyffredinol). Ond tacsi a gefais.

Dyn Arabaidd oedd y gyrrwr. Dim byd annaturiol am hynny, meddyliais. Roedd hynny tan iddo ddechrau taro’i fol a gweiddi “Fat! Fat” – a chymryd dim diddordeb fy ymatebion i (ysywaeth, nid peth angyffredin o mo hynny). Wedyn, dyma fo’n dechrau canu rhyw gân byrfyfyr (mi dybiaf) a gynhwysodd tôn gron o “I’m a Naughty Boy in the World”. Mi fentraf mai cân byrfyfyr ydoedd; wn i ddim pwy ddiawl byddai’n canu y math beth, wrth i mi edrych drwy’r tacsi i’r awyr yn gweddio am achubiaeth rhag y dyn.

Wedi nifer iawn o’r bennill, a phwyntio at butain yn y stryd a gofyn i mi “Do you like these girls?” (ac na oedd fy ateb, a gaf i gadarnhau) dyma fo’n fy ngollwg yn nhafarn Y Wharf. “£500. Not a penny less. Hah! £5. Get out of my taxi. See you next year”.

Ar fy myw na wnei, meddyliais, wrth fynd i brynu peint.

martedì, aprile 10, 2007

Tywynna'r haul drwy'r swyddfa

Amser cinio caf faguette, ac wedi hynny Lucozade a Boost i’m cadw i fynd drwy’r p’nawn. Anghenfil glwcos wyf y prynhawn, yn dyheu am awyr las a gweirydd gwyrddion.

lunedì, aprile 09, 2007

Arogl yr Afon

Fe fu’n benwythnos da. Bu imi ei fwynhau. Does gwell nag ymweliad â Gogledd Cymru, anheddle angylion.

Dw i’n mynd nôl am Gaerdydd heno. Wedi penwythnos mor hir a hapus prin iawn fy mod i isio mynd i’r gwaith yfory, ond ysywaeth 24 awr i rŵan fe fyddaf yn cyfieithu drachefn. Dw i wedi cadw fy hun yn brysur cofiwch. Mi es i Gaernarfon fore Sadwrn i brynu Diwrnod Efo’r Anifeiliaid, yn ogystal â CD Wil Tân i Nain. Fe soniem am y peth ddydd Gwener, wrth iddi fynnu yr hoffai glywed “CD newydd Sam Tân”.

“Dwyt ti’m yn rhy hen i hynny, Nain?” gofynnais
“Nadw i, mae o’n 40,” atebodd hithau, cyn inni ddatrys y pos.

Y prynhawn hwnnw mi es i bysgota gyda’r Dyn a Elwir yn Dyfed (DED). Yn anffodus bu i’r DED ddewis pysgotfan eithriadol o wael, a’r mwyaf a ddaeth i’m rhan oedd sefyll ar granc. O leiaf bu i’r DED ddal cranc - cyn sefyll arno. Eironig ydoedd. Ac nid pleserus oedd gosod y blow-worms ar y bachyn; cânt yr enw oherwydd eu tueddiad i ffrwydro'r munud y cyffyrddant unrhyw beth siarp.

Diog o ddiwrnod y caf cyn dychwelyd i’r ddinas. Bu imi atal yn nhoiledau Ganllwyd nos Iau ar y ffordd i fyny, wrth yr afon a chanfod fy mod yn cofio sut mae afon yn arogli. Dw i’m yn dweud celwydd. Ydych chi bobl y ddinas yn cofio sut arogl sydd ar afon? Anghofiais i.

Casgliad o bethau bychain yw bywyd. Dydi arogl afon fawr o beth, ond pan mae’n rhan annatod o’ch bod sydd yn amlwg wedi’i cholli mae yn dy daro yn dra chaled.

giovedì, aprile 05, 2007

Diwrnod Hira' 'Mywyd

Dw i’m am smalio y medra’ i wneud gwaith heddiw. Mae’n heulog a dw i’n gyrru i’r Gogledd heno yn syth ar ôl gwaith (sbïwch fi’n blogio’n gwaith yn ddrwg i gyd - ond mae diwygiadau i lwybrau troed Ceredigion yn troi ar rywun yn rhyfeddol o sydyn), ac mi fyddaf yno erbyn 11 er mwyn cael gweld pôl piniwn HTV. Mae hyn yn drist.

Mae pobl Metro yn dal i fy hambygio ar y ffordd i’r gwaith. Hyd yn oed pan dw i’n cerdded tu ôl i’r rhywun (côc yn din o agos) maen nhw dal yn llwyddo i stwffio papur o fy mlaen i a datgan “Metro?”. “Dim diolch” bydda i’n ei ddweud bob tro. Fel arfer, wrth ddweud “diolch” yng Nghaerdydd fe fydd ar hyd y llinellau “Thank you diolch yn fawr”, oherwydd mae’n bwysig dweud ‘diolch’, jyst er mwyn dangos bod ‘na Gymry Cymraeg o gwmpas y lle, yn ogystal â Phwyliaid a Somalis. Ond pan fyddaf mewn tymer drwg, rhyw dim diolch hunanfodlon a swta a ddaw o’r genau i ganlyn targed fy llid. Prin iawn fy mod i isio siarad Saesneg pan fo tymer drwg drosof; rhywsut mae naws y Gymraeg yn addasach o lawer o ran llid a dirmyg.


Gas gen i fod yn y gwaith pan fo rhywbeth gennych chi i wneud ar ôl gwaith a ti bron â marw isio’i gwneud hi. Fe fydd yn ddiwrnod hir. Safwch gyda mi yn y bwlch, gyfeillion; deuwch ataf i’r adwy.

mercoledì, aprile 04, 2007

Y Fi Fawr Wleidyddol

Wel, dyna ni. Rhois fy mhen ar y bloc a darogan beth fydd yn digwydd yn 2007, er yn anffodus dydw i ddim yn gweld Plaid Cymru yn curo hyd at 16 sedd. Dw i yn, fodd bynnag, yn gobeithio’n arw na fydd Llafur yn cadw ei mwyafrifoedd enfawr, dall; na fydd y Ceidwadwyr yn torri tir newydd ac y bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn chwalu. Pa ddiffygion bynnag sydd i’r Torïaid a Llafur (ac mae cyfrolau bethau yn hyn o beth, a chrynswth i Blaid Cymru hefyd), o leiaf bod gronyn o egwyddor a choelio yn eu credoau. Dw i’n gwrthwynebu Llafur oherwydd eu hagwedd dirmygus tuag at y Gymraeg; y Toriaid, oherwydd eu bod nhw ar ochr dra gwahanol i’r sbectrwm gwleidyddol imi, ond mae fy ngwrthwynebiad i’r Democratiaid Rhyddfrydol yn seiliedig ar eu dimbydrwydd llwyr fel mudiad gwleidyddol.

Serch hynny, dw i’n amau mai anghywir oedd y datganiad isod wrth edrych eto bore ‘ma. Ond mi sticia’ i iddo. Mae fy ngwleidyddiaeth i, sydd wastad wedi bod yn rhan o fy mywyd, wedi ei seilio ar ffydd ddall.

1997 oedd pan ddaru mi dechrau cymryd diddordeb mewn gwleidyddiaeth, a buddugoliaeth Llafur. Dw i’n cofio, yn 12 mlwydd oedd, gobeithio o waelod f’enaid mai’r Ceidwadwyr fyddai’n ennill. Tori bach oeddwn i, yn hoff o’r teulu brenhinol a Phrydeindod. Diolch i Dduw y daeth fy nglasoed yn ddigon sydyn.

Mi fflyrtiais gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol am sbel hir (mae ‘fflyrtio gyda Democrat Rhyddfrydol’ yn swnio’n ddiflas iawn, ond yn ddoniol pes gwelir rhywun arall yn gwneud a methu dianc o’r sefyllfa) cyn ymsefydlu’n Bleidiwr wedi imi fynd am brofiad gwaith i swyddfa Dafydd Wigley yn ’99, cyn ymuno efo’r Blaid y flwyddyn wedyn. Dw i’n cofio bryd hynny doeddwn i ddim yn or-hoff o’r syniad o annibyniaeth, ond rŵan dw i gyda’r mwyaf brwd drosti, er y gwreiddiodd fy nghariad yn y Gymraeg yn fuan yn fy mywyd, wrth i mi fynnu i Mam fy mod i’n falch o Chwarel y Penrhyn oherwydd “dyna’r unig reswm fod yr iaith Gymraeg yn fyw”. Ffeithiau anghywir, calon dda (hanes fy mywyd ymhob maes).


Ddim yn ddrwg am hanner Sais efo sblash o Eidalwr, nac ydi?

martedì, aprile 03, 2007

Mis i fynd...!

Dw i ddim am smalio fod yn pyndit gwleidyddol da iawn. A dywedyd y gwir, bob tro dw i’n proffwydo mae’n troi allan yn anghywir. Serch hyn, fel efallai y gwyddoch, mae diddordeb gennyf mewn gwleidyddiaeth, a chan fod etholiadau’r Cynulliad fis i ffwrdd, dw i am rhoi fy mhen ar y bloc a phroffwydo popeth.

Aberafan (LLAF)
Aberconwy (PC) – dw i’n mentro bydd proffil Gareth Jones yn ennill hwn i’r Blaid gyda’r Ceidwadwyr yn ail agos; er, ‘sdim cyfle i PC yma mewn etholiad San Steffan
Alyn a Glannau Merswy (LLAF) – cynulliad isaf Cymru
Arfon (PC) – mwyafrif i’r Blaid yn etholiadau’r Bae; agosach o lawer yn San Steffan
Blaenau Gwent (ANN) – iawn, dydi Trish Law ddim byd arbennig, ond fe fydd hi’n cadw’r sedd ar Fai 3ydd
Bro Morgannwg (LLAF) – Ceidwadwyr yn agosáu
Brycheiniog a Maesyfed (DEM RHYDD)
Caerffili (PC) – hwn bydd sioc y nos, gyda Llafurwyr yn mynd at Ron mewn digon o rifau i’r Blaid fynd drwy’r canol
Canol Caerdydd (DEM RHYDD) – gyda mwyafrif cryn dipyn yn llai
Castell-nedd (LLAF) – bydd Plaid yn lleihau mwyafrif Llafur yma a bydd hi’n gymharol agos
Ceredigion (PC) – a bod yn onest, dw i’n gweld Elin Jones yn cadw’r sedd yn gymharol hawdd
Cwm Cynon (LLAF) – Plaid yn crafu’n ôl, ond ddim digon o bellffordd
De Caerdydd a Penarth (LLAF)
De Clwyd (LLAF)
Delyn (LLAF)
Dwyfor Meirionnydd (PC) – nid yn unig yn ddiogel i’r Blaid ond hwn bydd sedd mwyaf diogel Cymru
Dwyrain Abertawe (LLAF) – cynnydd yn y bleidlais Dem Rhydd
D. C’fyrddin a De Penfro (LLAF) – Llafur drachefn, ond mwyafrif llai fyth iddynt dros Blaid Cymru
Dwyrain Casnewydd (LLAF)
Dyffryn Clwyd (LLAF)
Gogledd Caerdydd (CEID) – un gweddol hawdd i’r Ceidwadwyr
Gorllewin Abertawe (LLAF) – ond agosach rhwng Llafur a Plaid
Gorllewin Caerdydd (LLAF) – Plaid yn ail yn bell tu ôl i Rhodri
Gorll. C’fyrddin a Dinefwr (PC)
Gorllewin Casnewydd (LLAF)
Gorllewin Clwyd (LLAF) – dw i am fentro yma y bydd hi’n agos iawn rhwng Llafur, y Ceidwadwyr a’r Blaid, ond bod Llafur yn mynd â hi o drwch blewyn
Gwyr (LLAF)
Islwyn (LLAF) – mae rhai yn dweud bydd Plaid yn adennill hwn. Dim cyfle, yn fy marn onest i.
Llanelli (PC) – bydd Plaid yn cipio hwn o tua mil o bleidleisiau
Maldwyn (DEM RHYDD) – bydd y mwyafrif Rhyddfrydol yma’n llai o lawer
Merthyr Tudful (LLAF)
Mynwy (CEID) – lleiafrif llawer llai i’r Ceidwadwyr ar ôl ymadawiad David Davies
Ogwr (LLAF)
Pen-y-bont (LLAF) – diogel i Carwyn Jones
Pontypridd (LLAF)
Preseli Penfro (CEID) – agos iawn rhwng PC, Llafur a’r Ceidwadwyr, ond ar noson dda mi eith hwn yn Geidwadol
Rhondda (LLAF)
Torfaen (LLAF)
Wrecsam (Cymru Ymlaen) – John Marek yn dal y sedd o fwyafrif llai byth mewn cynulliad isel
Ynys Môn (PC) – Ieuan i gadw hwn OND bydd Rogers yn ei wthio yr holl ffordd; mater o gannoedd o bleidleisiau

Canolbarth Cymru – PC 1, Llaf 1, Ceid 2
Gogledd Cymru – PC 1, Ceid 2, DRh 1
Canol De Cymru – PC 2, Ceid 2
Dwyrain De Cymru – PC 2, Ceid 2
Gorllewin De Cymru – PC 2, Ceid 1, DRh 1

Llafur 25 -4
Plaid Cymru 16 +4
Ceidwadwyr 12 +1
Dem Rhydd 5 -1
Eraill 2 0

A rhywsut, dydw i ddim yn cytuno gyda’r uchod. Ond fe gawn ni weld!!

lunedì, aprile 02, 2007

Castell uwch Mynydd Parys

Felly, dyna ni. Mae’r Haydn wedi mynd adref, a fi ac Ellen sydd ar ôl yn yr hen dŷ annwyl ar Newport Road. Ond ddoe mi ges i’r diwrnod mwyaf unig yn hanes fy mywyd. Roedd Ellen yn Aberystwyth, efo côr neu ryw beth felly, a minnau yn gorfod ymddiddori fy hun drwy fwyta. Roedd yn fewnwelediad eithaf trist o sut y gallasai bywyd ben fy hun fod; hynny yw, a minnau’n ceisio prynu tŷ erbyn mis Mehefin. Er, mae ambell i fonws, megis cadw drws y lle chwech ar agor wrth biso, a chanu i mi fy hun.

Y nos a ddaeth, a gwylio A Nightmare on Elm Street a wnes. Tila ydwyf yn y bôn; tu ôl i’r cadernid gwryw, gadarn hwn mae creadur meddal Dairylea-aidd yn trigo, sydd ddim yn licio pethau sy’n mynd bymp yn y nos na sbwnjys. Mentraf ddweud bod y coedydd y tu allan i’r tŷ yn gwneud eu gwaethaf i ddod i mewn neithiwr.


Serch hynny, dw i’n edrych ymlaen at y penwythnos hir sy’n dyfod a chael mynd i’r Gogledd am sbel. Dw i angen ychydig o awyr iach, mynyddoedd a pizza call; a dywedyd y gwir dw i’n byw ar gyfer teithio i’r Gogledd ar y funud. Hynny a phan fyddwyf yn byw ar gastell uwch Fynydd Parys.

martedì, marzo 27, 2007

Jyst synfyfyrio'n sydyn

Ai fy yw'r unig un sy'n llwyr colli'r ewyllys i anadlu rhwng tri a phedwar o'r gloch yn y gwaith?

lunedì, marzo 26, 2007

Achubiaeth Swreal

Mae gen i bum munud yn sbâr i ddywedyd stori fechan i chi. Neithiwr fe dorrodd Ellen lawr yn agos i gylchfan Gabalfa (yn ei char, nid yn feddyliol) a fu’n rhaid i mi a Haydn fynd i’w hachubiaeth, â’i char yn tagu fel hwran ar gôc. Felly mi aeth Haydn a hithau yn ei char hi o fy mlaen, gyda’r hazards ar, a minnau y tu ôl, yn rhoi’r hazards ar fel y dymunais, ac yn canu’r corn arni hi am fynd y ffordd anghywir neu siglo ar hyd a lled y ffordd.

Teimlad od iawn, ar y motowê, oedd rhoi Radio Cymru ymlaen, a chlywed miwsig cowbois yn dod ac yn llenwi fy nghar (Cowbois Rhos Botwnnog, dw i’n eitha’ siŵr), a minnau’n dilyn Ellen yn ofalus iawn, y ddau ohonom efo hazards ar, yn mynd 30 milltir yr awr. Heb air o gelwydd ni theimlodd fel dim ond am y car chase arafaf a mwyaf swreal a welwyd yn yr hwn fyd erioed.
Ond bu i mi fwynhau, nis ddadleuaf.

domenica, marzo 25, 2007

Beth am gynnau tan?

Mae sawl person wedi dweud wrthyf hyd fy oes fy mod i’n hogyn gwirion. Nos Wener, bu i ni i gyd fynd allan ar hyd a lled Caerdydd (Cathays, beth bynnag). Mynd yn ôl i lle’r genod wnes i ddiwedd nos, ac archebu It’s Pizza Time am dri o’r gloch y bore o fanno.

Myfi a deflais un o grysau-t Gwenan i mewn i’w lamp hi. Hi a ddeffrodd yn meddwl bod ‘na olgau o amgylch y tŷ felly y byddai’n mynd i’r gegin a gweld pwy oedd yn coginio cyn sylweddoli mai ei lamp a’i chrys oedd ar dân, hwnnw wedi bod yn llosgi’n araf yno ers oriau.

Doedd hi methu â deffro Llinos. Ymateb Lowri Dwd oedd cnocio ei larwm dân o’r to (gyda help gennyf fi) wrth i Gwenan redeg o amgylch y tŷ yn gweiddi i bawb ddeffro. Ni lwyddodd. Dywedais i wrth y Dwd ‘dos di, fydda i’n iawn’ er mair’ tebygolrwydd oedd y byddwn yn llosgi yn y fan a’r lle.

Chyneuwn i mo dân eto. A’r tro nesaf, mi godaf yn lle. Bosib. Oeddwn feddw.

mercoledì, marzo 21, 2007

Y Ceinaf Gelf

Mae’r blogio ‘ma yn mynd yn seriws. Dw i’n gwneud bob dydd ar y funud ond does ots. Mae gen i gymaint i sôn am ar y funud, fel dw i’n siŵr y gwelwch, ac mae’r frwydr yn erbyn pobl Metro yn parhau. Ni chânt ond am wg gennyf i yr hyn dyddiau, ac mae hyd yn oed y no thank you yn mynd yn hen. Angau iddynt, foch uffern!

Felly mi aethom ni i’r Bae neithiwr drachefn a gwneud yn waeth fyth ar y cwis, er fy mod i’n haeddu ennill (fedra’ i ddim siarad ar ran neb arall wrth gwrs, ond pan mae gynnoch chi frên fatha fi rydych chi’n llawn disgwyl ennill popeth).

Mi es hefyd am gyri neithiwr i’r Pen & Wig ac fe’r oedd hi’n boeth iawn a dydi hi’n gwneud dim lles i mi hyd heddiw. Dw i’n un o’r bobl ‘ma sy’n meddwl medra’ i handlo cyri poeth (er nad oedd hwnnw neithiwr yn boeth iawn), fel cred fy nhad amdano’i hun hefyd, a’r oll a wnaf yw chwysu, cwyno a chael poen yn bol wedyn.


Er, fe’r ydwyf yn haeddu Gwobr Nobel am Gwyno; y ceinaf o gelfyddydau’r byd. Mae'n cymryd dawn a dirmyg i gwyno'n iawn, a nid dim ond cwyno am y pethau mawrion megis diwedd y byd, gwleidyddiaeth a broccoli ond am y pethau bychain hefyd; pwy ohonoch gallwch weled drwg ym mhob un peth a welir neu glywir ar ddaear? Dydi o, actiwli, ddim yn rhy anodd o beth i'w wneud, ond nid y cynnwys eithr arddul y gwyn sy'n bwysig. Mae angen griddfan ac ochenaid dwys, llais cwynfanllyd a geiriau dethol. A dyna yw cwyno da.

martedì, marzo 20, 2007

Dyheadau

Iawn bobl y byd? Banana i bawb? Dim problem.

Felly mi aeth neithiwr yn ddidrafferth. Nid fod unrhyw beth wedi digwydd. Ie wir, dw i’n edrych ymlaen i fy siop fechan. Gas gen i olchi dillad, mae un o gant a mil o bethau bychain sy’n cyfrannu at y carth enfawr a elwir yn fywyd imi. Felly dw i wedi dod fyny â’r cynllun slei o brynu mwy. Serch hyn, mae diffyg arian yn un o’r pethau mawrion sy’n distrywio popeth yn fy mywoliaeth, ond bydd yn rhaid imi ddysgu byw felly. Arwydd ar gyfer y dyfodol ydyw.

Does gen i ddim mo'r arweinydd neu’r gwyddonydd neu’r athrylith ynof, gwelwch. A taswn i’n seleb fyddwn i’n un o’r rheiny ar sioe gêm ganol nos y mae rhai pobl yn adnabod yr wyneb ond neb yr enw.

Taswn i’n alcoholic bydda neb isio yfed efo fi. Taswn i’n gogydd ni fyddai neb yn bwyta fy mwyd. Taswn i’n butain fydda neb isio cysgu efo fi. Taswn i’n ysgrifennu byddai neb yn darllen fy ngherddi na’m straeon. Mae’n rhaid i mi, er mwyn Duw, stopio gyfuno pethau dydw i’m yn dda iawn arnynt.

Na, dw i am cael affêr efo smackhead tŷ cyngor, a mynd ar Trisha.

lunedì, marzo 19, 2007

Cynlluniau

Sudachi rapsgaliwns? Oes ‘na rywun arall yno sy’n licio madarch ond eto ddim yn cîn iawn arnyn nhw pam maen nhw’n laith a mae ‘na sdd yn rhedeg ohonynt ar hyd a lled y plant. A dweud y gwir, dw i’n teimlo’n eithaf sâl.

Ddim cymaint o sâl â Rhys Ioro, os ca’ i ddweud, neithiwr, a fynta’n chwydu o flaen Eglwys Gospel yn y Mynydd Bychan cyn dod i mewn i’n cegin a siarad am ‘drychfilod’ a dywedyd geiriau mawrion megis ‘dywedyd’ a ‘trychfilod’ (yn benodol).

Mae gen i ddiwrnod mawr yfory. Dw i’n mynd am dro efo’r Kinch i ganol dre yfory amser cinio i brynu crysau; a ninnau ein dau angen edrych yn smart i gwaith. Ac wedyn dw i’n mynd gyda Lowri Dwd am beint, sef rhywbeth nad ydan ni wedi gwneud gyda’n gilydd ers cyn cof.

Duw a ŵyr, efallai yfory fe gofiwn ni pam!

domenica, marzo 18, 2007

Haha Saeson!

Helo! Gwaeddwch! Bloeddiwch! Ymnoethwch! Mae Cymru wedi curo Lloegr! Ha! Onid ydyw’n wir, er yn druenus felly, nad ydyw’r Cymry gyda fawr ots am guro neb arall ond am y Saeson? Wedi’r wythdeg munud ddoe mi deimlodd bod holl boen y gemau cynt yn anweddu i ffwrdd a bod gwerth i guro Lloegr yn fwy na dim. Wrth gwrs, a gwelsoch chi mo hyn yn dod, roeddwn yn feddw.

Ia wir dyna ddiwedd fy hanes mewn difri. Dw i wrth fy modd gyda’r Mochyn Du, a bu i Dai Sgaffalde gynnig sedd i mi. Heb fymryn o sbeit, dydi Dai Sgaffalde (aka Emyr Wyn) ddim yn siwtio gwisgo crys sy’n dweud SAMURAI; mae o braidd fel afal yn honni mai banana ydyw. Serch hyn y sedd a gynigiwyd i dîn bodlon iawn.

Heddiw fe fyddaf yn cyfri’r gost o’r noson, wedi imi unwaith eto cael 20 Chicken McNugget wrth gerdded adref ar ôl Clwb a theimlo’n sâl iawn o’i herwydd, ond fedra’ i ddim helpu licio Chicken McNuggets. A cheir gwell bwyd na stwnsh iâr mewn cytew od?

Ni chredaf.

venerdì, marzo 16, 2007

Metro

Myfi a glof yr hon wythnos o flogio parhaus gyda chwynfan traddodiadol. Os mae un peth yr ydym ni’r Cymry yn dda am hynny yw cwyno, ac nid eithriad mohonof yn hyn o beth. O gwbl. Fel y gwyddoch. Pobl Metro sy’n ennyn fy llid anferthol, diddiwedd heddiw.

I’r rhai ohonoch nad ydych yn gweithio yng Nghaerdydd, a bydd cyfran go dda ohonoch, megis y person ac ysgrifennodd “jason morgan gay porn” ar Gwgl cyn dyfod i’r blog hwn rhywsut, mi egluraf. Mae Metro yn bapur newydd am ddim y mae pobl yn ei roi allan ar y strydoedd gyda’r bore. Wn i ddim ba bwy bynnag yw’r hyn bobl; creaduriaid od yn llechu dan bont y rheilffordd ger Sainsburys, ac yn gofyn mewn llais isel gyda gwên gam, “Metro?”


Maen nhw wedi gofyn hynny i mi bob bore yr wyf wedi cerdded i’r gwaith, a hynny er fy mod wedi gwisgo’r un het a’r un gôt pob diwrnod yn ddi-ffael, a hithau’n oer. A phob diwrnod myfi a wrthodaf. Poni chânt y neges? Dydw i ddim isio Metro. Mae’n crap. A hoffwn ei ddatgan yn groch i’r byd.

giovedì, marzo 15, 2007

Osgo gwael

Roeddwn i’n cerdded i’r gwaith heddiw a gwelais Haydn ar ochr arall y ffordd yn cerdded i’w ddarlithoedd. Osgo gwael sydd ganddo, mae top ei gorff yn hongian oddi-ar y gweddill ohono. Ac mae Ellen yn cerdded fel pengwin parhaol pissed off am gael ei watwar gan gwmni fisgedi, ac yn ôl y sôn mae gen i dinc o’r hoyw ynof wrth gerdded lawr y stryd; os, yn wir, y cymerir bod Brad Pitt yn hoyw, wrth gwrs.

Fedra’ i ddim disgwyl tan y penwythnos ac rwy’n anelu am y Sadwrn fel llofrudd am dir sanctaidd. Does gan Gymru fawr o gyfle o guro, wrth gwrs, gŵyr pawb hynny, ond mae gwyrthiau’n bosib, wedi’r cyfan, mae gan Blaid Cymru tair sedd yn San Steffan o hyd, er gwaethaf cael Ieuan Wyn Jones yn arweinydd, ac mi gurodd y Tramp y Lady yn y diwedd yn do? Gas gen i ffilmiau efo anifeiliaid yn siarad, fel Babe. Unig bwynt anifeiliaid yw cael eu bwyta a gorau po gyntaf y’i bwyteir i gyd.

mercoledì, marzo 14, 2007

Y Graith Seicolojical Ffug (neu, blogiad arall efo teitl eithaf randym)

Iawn chief? Dw i’n flinedig oherwydd fe’r aethom ni i’r Bae neithiwr, i ryw warws a’i trowyd yn far, a chwarae cwis. Dydw i, na neb arall am wn i, wedi chwarae cwis tafarn ers yr ail flwyddyn yn y Mackintosh pan oeddem ni’n wael uffernol. Felly y bu eto, a daeth yr holl deimladau ffiaidd o rwystredigaeth a dicter a syndod ac anfodlonrwydd cyffredinol yn ôl ataf, a doeddwn i ddim yn hapus, yn enwedig gan mai y Fi oedd yn gyrru, a does gwaeth na siarad efo Haydn ar ôl iddo fo gael ambell i beint a fynta’n mynnu bod gen i deep psychological scars. Sydd, a gaf i gymryd yr hwn gyfle i ddweud, ddim yn wir.

Ac felly y mae bod gan Kinch swydd yn awr, a bydd yn ennill mwy na fi. Sydd, wrth gwrs, o loes calon i rywun mor sinigaidd ac ydwyf innau. Nid cenfigennus, wrth gwrs, dydw i ddim yn neud cenfigen. Bydd i’n gwneud lot o deimladau eraill, cofiwch, yn cynnwys dryswch, hunan biti a sbeit, i enwi’r rhai sydd fwy na thebyg y tri uchaf.
Dw i’n mwydro. Gwell i mi weithio mwy.

martedì, marzo 13, 2007

Enw Gwychaf yr Anifeiliaid

Newydd sbotio yr enw gorau ar anifail yn hanes yr iaith Gymraeg pe’i chyfieithir. Sea snail yn Gymraeg yw iâr fôr lysnafeddog – faint o wych y byddai pe’i hadlewyrchir yn Saesneg fel snotty sea chicken?

lunedì, marzo 12, 2007

Gwaed

Helo gyfeillion, sut mae’r hwyl? Dw i’n teimlo’n ofnadwy oherwydd fy mod i’n hynod, hynod flinedig. Eithriadol felly, a dywedyd y gwir yn ei gwirionedd plaen. Gallaf i ddim, er fy myw, gofio rhannau enfawr o nos Sadwrn, er bod ambell i lun eithaf doniol ond cywilyddus wedi dod o’r unman i ddangos eu hunain ar Facebook. A blin oeddwn efo rhyw hen goc oen ddaeth ataf a heb ysgogiant ddatgan : “There’s only two people I hate, the English and Welsh-speakers!” Twat.

Aethom ni ddoe am fwyd i ryw dafarn o’r enw The Deri, oedd yn flasus tu hwnt i flas. Dyna’r tro cyntaf dw i wedi llawn lwyddo bwyta cinio dydd Sul ar ddydd Sul ers hydoedd gyda hangover (a dyma lle dw i’n fod i ddweud bod Llinos isio mensh ar fy mlog, felly dyna ni: Llinos). Mi esh i i dŷ’r genod nes ymlaen i wylio Lady and the Tramp, sef ffilm nad ydw i wedi ei weld o’r blaen ac mi benderfynais fod ‘na ormod o plotholes ynddo fi i mi.
Hwyrach ymlaen, cawsom ni adref bizzas ac eistedd o flaen y teledu i wylio Fallen Angel. Nid ydyw o syndod mai’r unig ffordd yr wyf innau a Haydn ac Ellen yn bondio gyda’n gilydd yw drwy wylio rhaglenni llofruddiog eu naws; y mae’n gyfle i ni ymdrybaeddu yn ein cyd-awch am waed a phrudd-der i’r ddynol-ryw a phob rhyw un sydd efo car neisiach neu dŷ gwell na ni. Ac mae hynny’n lot o genfigen.

sabato, marzo 10, 2007

Ffycprics

Mae nhw’n dweud wrthyf fi bod ‘na gêm ar heddiw. Rhyfedd iawn, achos dydw heb glywed fawr o ddim; ‘sdim heip, ‘sdim gobaith, ‘sdim awydd mynd allan gan fawr o neb i’w wylio. Mae’n drist iawn, os gofynnwch chi i mi. Dw i’m yn cofio gêm Cymru oedd gyda cyn lleied o heip iddo fo erioed.

Felly dw i’n fy ystafell, wedi bod i’r banc oedd ar gau. Oeddwn i’n meddwl bod banciau ar agor tan tua deuddeg ar ddydd Sadwrn, ond mae’n rhaid fy mod i’n anghywir.

Dw i’n prysur ystyried sut mae heno am gynllunio’i hun: mi gollais i fy ngherdyn Clwb Ifor ar y diwrnod bu imi ei brynu, felly dw i dal ddim yn hapus hynny. Er, gan ddweud hynny, dydi Clwb Ifor byth yn chwarae cerddoriaeth Gymraeg ddim mwy, dim lawr llawr eniwe, heblaw am Y Brawd Hwdini os maen nhw’n teimlo fel gwneud.

A gas gen i R&B a phawb sy’n meddwl bod o’n dda. Ewch i ffwcio y ffycprics.

giovedì, marzo 08, 2007

Y Cogydd o fri (ni y fi)

Iawn? Yn dydych chi’n casáu sdiwdants? O’n i yn y dafarn neithiwr, am y tro cyntaf ers hydoedd yng nghanol yr wythnos, er mawr loes imi, a dyma ryw bybcrol enfawr o fyfyrwyr (non-GymGym) yn dŵad i mewn yn creu twrw a’i gwneud yn amhosibl mynd at y bar. Wel, oeddwn i’n flin. Bues i fyth mor gythreulig â hynny.

A dyma fi’n meddwl am fwyd wrth wylio gêm United. Hoff ydw i o feddwl am fwyd. Dw i a Kinch wedi bod yn mynd am fwyd bob cinio ers tair wythnos, tan yr wythnos yma achos fod ei swydd yn yr amgueddfa wedi dod i ben ond dim ots dw i ‘di hen flino ei glywed yn gofyn am chickenandbaconbaguette bob dydd eniwe.

Haydn sy’n ddoniol wrth goginio. Un garw yw Haydn, heb na chariad at ddyn na bwyd ac mae’n bwyta ffa pob a sglodion o leiaf dwywaith yr wythnos gyda rhywbeth (ond peidiwch â dweud hynny wrtho neu flin a fydd) ac yn gwadu ei fod (nid bydd yn hapus gyda mi pan weliff yr hwn flogiad). Ond does doniolach beth na’n Haydn ni yn gwneud lasagne neu ryw fân bei bugail gyda golwg o wir gyrhaeddiad a bodlondeb ar ei wyneb caregog, a fynta’n lledu’r mins ar hyd y ddysgl. Bron y gellir gweled swigen meddwl yn dyfod o’i ben ac yn dweud “Dyma gampwaith fy wythnos; dyma gyrhaeddiad arall i’m cofnod” - cyn ei stwffio yn yr oergell am ddyddiau a chymryd y lle i gyd.


Yn wir, eiliadau felly sy’n gwneud bywyd yn ddioddefol.

lunedì, marzo 05, 2007

Chicken Wrap

Mi welish i Glyn o Big Bryddyr heddiw yng Nghaerdydd wrth imi fynd drwy'r stryd yn bwyta fy nghinio. Na, does gen i ddim byd mwy diddorol i'w gwneud na syllu ar hanner-selebion bellach. Mae Glyn yn ddyn tal, felly byddwn ni byth yn gyfeillion. Mae unrhyw beth sydd dros 5"8 yn ennill fy llid, yn cynnwys pobl a jiraffs a phinwydd.


Iych, mae Eastenders ar y teledu ar y funud a Haydn yn gorwedd yn ei wylio megis darn o bren. Gas gen i Eastenders, ma'n ffiaidd ac mae rhai pobl arno yn gwneud imi isio chwydu.


Son am chwydu...

domenica, marzo 04, 2007

Y Ci a'r Daith a Thy

Prin yw’r pethau yn yr hwn fyd sydd wirioneddol yn rhoi gwên ar fy wyneb neu yn codi’r chwerwder dwfn sydd yn fy nghalon. Coeliwch ai peidio, nid dim ond cyfres o gwynion er mwyn y darllenydd yw’r hwn flog eithr wyneb hadau melltithiol fy mod yn dod i’r amlwg nawr ac yn y man. Chwerw ydwyf, a felly y byddaf hyd fy oes, ond mae gen i ambell i soft spot.

Wel, un, o bosib. Cŵn. Na, dydw i ddim yn hoff o fwnis ac nid fy mhaned mo babanod, ond pan fy mod efo ci dw i’n troi’n wirion ac yn blentynnaidd ac isio gwneud popeth a fedraf er mwyn ei blesio. Mi wnes hynny ddoe cyn mynd allan i’r Rhyng-gol yn Fangor, a brofodd yn fethiant llwyr oherwydd bu imi golli’r tocyn a dalais ddegpunt amdani, a dyfod adref yn fuan, a heb fawr o ots fy mod i wedi. Serch hynny, cyn hynny roeddwn i yn yr ardd efo ci mae Mam yn edrych ar ei ôl ar y funud ac wrth redeg o gwmpas gyda phêl cyn rhoi fy nhroed mewn twll a throi fy ffêr.

Ac mae hi’n brifo heddiw, gyda minnau’n gyrru lawr i Gaerdydd drachefn rhyw ben heddiw, er nad ydw i isio ac y byddwn i’n hapus iawn aros yn y Gogledd am wythnos arall. Yn enwedig oherwydd bod ‘Nhad a Mam a fi wedi cael trafodaeth am dŷ imi flwyddyn nesaf. Rydym ni am geisio safio arian gyda’n gilydd imi fedru ei fforddio, ond y gwir ydi nad allwn ni wneud mewn difri. Dw i’n drist ac yn ddigartref.

mercoledì, febbraio 28, 2007

Cyhuddiadau

Helo gyfeillion mân a mawr! Dydw i heb wedi diweddaru’r blog ers sbel rwan, a mae hynny’n deillio o’r ffaith nad oes gen i uffern o ddim i ddweud dim mwy. Rhwng gweithio a phethiach; a dydw i ddim yn hoff iawn o gwaith pan mae ‘na gotsan yn ffonio fi yn ystod y dydd yn fy nghyhuddo o gyfieithu rhywbeth yn anghywir iddi hi.

Dyna ydi sdres. Sylweddolais i fyth bod y ffasiwn beth yn bodoli o blaen (wel, sdres go iawn de), ond dyma’r ast yn ffonio ugain munud wedyn (sef ugain munud o fi’n poeni fy mod i wedi ypsetio ail gleient mwyaf y cwmni ar ôl pum wythnos o weithio yno) dim ond i’r gotsan ddanfon e-bost ata’ i yn dweud bod ‘y panic drosodd’. Cyn fy ffonio unwaith eto yn y prynhawn yn fy nghyhuddo o wneud rhywbeth arall yn anghywir a’i ddiystyrru drachefn.

Dw i’m yn licio pobl sydd ddim yn cyfaddef pryd eu bod nhw’n anghywir. Fel fi.

domenica, febbraio 25, 2007

venerdì, febbraio 23, 2007

Dyheu

Iawn bobl? Mae’r penwythnos yma o’r diwedd! Dw i methu’n lên a disgwyl (ys ddywedyd Owain Ne). Gobeithiwn am benwythnos meddwol hynod, fel y buont yn ddiweddar, a deffro mewn ffos neu ddrws nesaf i peth deliaf a welwyd erioed (er, yn anffodus, mi deimlaf mai’r ffos yw’r dewis mwyaf realistig).

Does ‘na ddim byd gwell na’r penwythnos. Mae rhywun yn dyheu amdani am bum diwrnod, a phan ddaw llanast bydd. Os ddim does pwynt cael un. Fyw imi dyfu fyny (o ran oed, tyfa i ddim mwyach, er cymaint y dyheuwn amdani) ac aros mewn gyda chwrw a gwin ar benwytnos (bydda i’n gwneud hynny’n ystod yr wythnos, a byta cracyrs a chaws, sy’n barchus ond yn flasus, fel Huw Llywelyn Davies). Na, byth yr af am ginio a bwyd ar y penwythnos tra bo tafarn a bar yn ysu am fy musnes sylweddol.


Gwell i mi beidio ‘sgwennu mwy. Dedleins, ch’wel.

mercoledì, febbraio 21, 2007

Hiraeth am Rosin

Haia. Dw i’n flinedig iawn heddiw, wedi deffro fyny a chael bîns ar dost a mynd i gwaith yn flinedig. Hoffwn i ymadrodd rhywfaint i chi am y wicend ond yn anffodus mi benderfynodd Dyfed a minnau na ddylid ei thrafod gyda neb na dim byth bythoedd amen. Felly ni wnaf.

Wedi bod yn siarad efo’r cleient mwyaf annoying yn y byd gynnar o’r enw Robert. Mae o wedi torri fy ysbryd megis y peiriant ffacs. A does na’m Trial and Retribution ar y teledu chwaith rwan felly mae’r nos yn ddu heb anturiaethau amlwg Rosin a Mike a Satch. Trist yw bywyd yn wir.

giovedì, febbraio 15, 2007

Gwaethygiad

Huw Chiswell yw fy amddiffynnwr mawr. Wir. Mae ei CD yn gorchuddio’r cloc larwm fel nad ydw i’n edrych ar yr amser gyda’r nos. Yn gwely dw i eto heddiw; ond dw i’n teimlo ychydig bach yn waeth, mae fy mol yn dechrau brifo a bai Ellen ‘di hynny achos mae ganddi hi boen bol ac mae hi wedi fy heintio. Y gnawes anufudd. Ond mae hi’n gwaith, dydw i ddim.

Dw i’m yn licio deud hyn ond pan ddaw at salwch mae gan enethod ddyfalbarhad llawer cadarnach na ni hogia. Dydw i ddim yn hollol sicr paham, oni bai pan ddaw at ben mawr ar fore Sul, ac wedyn mae hogan yn edrych fel ei bod yn dioddef. Ond dim ots; ni yw’r cadarnaf ryw felly mae’n siŵr mai dyna pam ein bod ni’n cael ein taro lawr efo waeth bethau. Beichiogrwydd? Triwch eillio bob diwrnod. Neu, yn fy achos i, peidiwch.

mercoledì, febbraio 14, 2007

Salwch

Reit, dw i’n deffro fyny eto a mae fy mhost i wedi mynd o gynnar felly mi dria’ i eto. Dw i dal yn sâl; mae fy llygaid yn sâl, fy mol yn sâl, mae fy mhen yn teimlo fel bod ‘na goeden yn tyfu ynddi a doeddwn i methu blasu fy nghinio (sydd probabli yn beth da ar y cyfan achos doedd o’m yn edrych yn dda iawn). Dw i’n falch bo fi ddim yn gwaith achos byddwn i da i ddim heddiw (nid fy mod i fawr o iws fel arfer, dw i’m yn amau).

Dw i’m yn hoffi bod yn sâl ar ddiwrnod braf, chwaith. Mae rhywun isio bod allan yn dawnsio ac yn prancio yn y tywydd ‘ma, ond dw i ddim. Sori, rhaid i mi fynd yn ôl i ‘ngwely; dyfalbarhad oedd un o themâu bora ‘ma a ‘sgen i ddim (pan mae’n dod i flogio pan yn sâl).

martedì, febbraio 13, 2007

Yr Alban

Peidiwch â dweud wrth neb ond dw i yn y gwaith ar y funud. Does gen i ddim llawer o waith i’w wneud felly mi gymeraf yr hwn gyfle i son rhywfaint am Yr Alban i chi (gan gachu brics achos mae fy nghefn i le mae’r bos yn dod allan o nawr ac yn y man - er mai amser cinio ydi hi so ga'i!). Mae’r lluniau i gyd yn ddigamsyniol o crap ac nid wyf am foddran eu gosod nhw fyny. Roeddwn i’n hynod, hynod feddw.

Nos Wener
Wedi diwrnod hir o deithio (saith awr) cyrhaeddom ni Gaeredin a dyma fi a Haydn Blin a Kinch yn mynd i ryw SportsBar oedd efo’r rhyngrwyd am ddim a chael peint. Yn o fuan, wedi canfod rhai o’r GymGym aeth pethau’n rhemp a phydrodd y nos lawr i abiwisio Eidalwyr doedd cae gadael ni mewn i dafarndai, canu blêr iawn (a gwael hynod) a minnau’n yfed dau fotel o win coch mewn bar gwin bach swanc a cheisio argyhoeddi dwy ddynes Albanaidd mai Pwyliaid oeddynt. Wn i ddim byd arall.

Nos Sadwrn
Y bore wedi sesh mae’n rhaid cael peint yn eithaf sydyn neu fe gewch chi ben mawr, fel yr ydwyf innau wedi dechrau cael yn aml yn ddiweddar, ac wedi brecwast drwg ffwrdd â ni i dafarn o’r enw’r Three Sisters oedd yn llawn dop ond dim ots achos roedd Cymru mor warthus nes i’m boddran gwylio’r ail hanner (prin y gallwn wedi beth bynnag, a minnau’n feddw ac yn colli pawb.
Mi aeth pethau’n flerach byth wrth i mi endio fyny yn yr un hen far gwin efo Ellen a Gwenan a chael potel arall fyth o win imi’n hun cyn rhedeg i ffwrdd efo Kinch a siarad â sguthanod tew a chael cic owt o Wetherspoons am smygu - cyn cael cic owt gan wanc o fownsar “Because I felt like it”. Dydi’r Albanwyr, ysywaeth, ddim yn bobl hapus na chyfeillgar, a blin oeddent hwynt drwy gydol y penwythnos.
Dyna grynodeb fer iawn o’m hanes, gyda Dydd Sul y daith waethaf yn y byd. Saith am flinedig yn ôl lawr i Gaerdydd. A balch ydwyf o fod nôl. Hen Sgotyns blin.

giovedì, febbraio 08, 2007

Mynd i Sgotshland

Helo! Roedd gwaith yn ofnadwy heddiw achos 'runig beth dwidi bod yn neud ydi dyheu am fynd i'r Alban drwy'r dydd, ond gwnes fy ngwaith so mai'n iawn tydi? Tydi? Iawn, mae Haydn yn gyrru'r holl ffordd a bydd y tywydd yn crap a bydd y daith yn araf ond jiawl achan fi methu disghwl!

Dw i byth wedi meddwi yn yr Alban o'r blaen. Edrych ymlaen gormod rwan!

martedì, febbraio 06, 2007

Penwythnos a phen mawr o flaen cyfrifiadur

Wel, am benwythnos! Dw i’m yn cofio fawr o nos Sadwrn ond fy mod wedi gwisgo fyny’n ddel a fy mod i’n drewi o Chicken McNuggets drwy dydd Sul canys fy mod wedi cael ugain ohonynt y noson gynt.

Aeth dydd Sul yn eithaf llanast wedi hynny. Doeddwn i methu chwarae’r piano yn Y Mochyn Du achos o’n i’n rhy chwil, er hoffais yn fawr mynd am dro efo Owain Ne ‘i chwilio am Wyddelod i fwydro’. Serch hyn, nid dyna uchafbwynt y nos, wrth i rhywun sbachu bag Ellen o The Borough a minnau rhedeg ar ôl dyn bach Ffrengig ddiniwed yn honni ei fod o wedi ei dwyn (ac yn dadlau efo’i ffrind mewn Ffrangeg – er yr oll oeddwn i’n gallu ei ddweud oedd fy mod i wedi anghofio y rhan helaethaf o’m Ffrangeg). Aethon ni yno’r diwrnod wedyn, gyda bag Ellen yn un ond heb arian na ffôn ynddo fo ... er fu’r lladron yn ddigon ffeind gadael cerdyn Blockbuster iddi.

Roedd ddoe yn ddiwrnod erchyll, cofiwch. Mae’n gas gen i fod mewn sefyllfa lle gen i ben mawr a bod yn rhaid imi gyfieithu crap i’r Arolygiaeth Gynllunio. Am awr go dda doeddwn i’m hyd yn oed yn ymwybodol o’r hyn oeddwn i’n ei wneud, dim ond syllu ar y sgrîn yn eithaf sicr fod fy nghalon am dorri a nad oedd y diwrnod byth am ddod i ben.

Dyna grynodeb ddifyr.

sabato, febbraio 03, 2007

Awch

Dw i’n fy ngwely. Chi’n gwybod, dw i wedi bod ar isel don yn ddiweddar, mae’n rhaid imi gyfaddef i chi. Heb fod yn fi fy hun; dw i’n meddwl bod hynny’n rhywbeth i wneud efo gwaith. Dim byd i wneud efo’r gwaith i hun, wrth gwrs, mae hynny’n ffein, ond yr holl drefn sydd ynghlwm i waith. Penrhyddid ydi fy mheth i; un bora fe ddeffroir pawb a bydda i wedi mynd ar antur i ben draw’r byd. Cewch chi weld.

Fodd bynnag dw i’n edrych ymlaen at y Chwe Gwlad. Mae ‘na rhywbeth amdani sy’n wirioneddol codi cynnwrf ynof fi amser yma o’r flwyddyn (a hynny fel hogyn pêl-droed). Er, gan ddweud hynny, does teimlad gwaith na dydd Llun wedi colled yn y Chwe Gwlad. Mae’n amharu ar yr wythnos, ac yn bendant ar y nos. A dw i’m yn hapus fod y gêm ddydd Sul; mae gen i waith ar y Llun.

Hefyd, chi’n gwybod beth? Mae’r awch am y Gogledd wedi dyfod ynof drachefn. Dw i’n ei fethu yn ofnadwy yn ddiweddar. Wir. A dw i’m yn meddwl fedra’ i ei dawelu.

mercoledì, gennaio 31, 2007

Cyffro

Geshi bosib y diwrnod mwyaf cyffrous yn fy mywyd i ddydd Llun. Roeddwn i'n cyfieithu rhyw hysbysiad gorchymyn ac roedd dyn bach a'i wraig yn byw mewn chalet bren yn Ngwynedd rhywle a'r Parc Cenedlaethol eisiau eu symud. 3,000 o eiriau o gyffro llwyr ydoedd wrth i mi weiddi'n groch wrth gyfieithu ymlaen drostynt, a fe ges i'r rhyddhad mwyaf erioed pan cefais weld eu bod nhw'n cael byw yno am 3 mlynedd wedi'r cwbl.

Nofel gorau'r byd ydoedd - i'r Arolygiaeth Gynllunio. Dw i'm yn licio nhw, dydyn nhw byth yn dweud diolch am ddim byd.

martedì, gennaio 30, 2007

Brecwastiaeth

Cawsom frecwast i’w bwyta.
Darn o dost yn dyst
Ein bod wedi mynnu’i menynu.

Cawsom sirial, o ddiwrnod i
Ddiwrnod ac ymdrochi’n
Ein Coco Pops ni ein hunain.

A chawsom laeth, er na cheisiem hi,
oherwydd bod ei blas wedi mynd eisioes
a’i sgin anniddig ar ei ucheloedd.

Troesom ein cegin yn simdde o dân
A lledu jam a marjarîn cadarn
Lle nad oedd llwy.
Troesom ein bwytle i goginio estronfwyd
Heb ystyr i’n harfer.
Muesli i ddynion
A fethant dro’r toster.
A throesom laeth y siopau
Yn Skimmed ein cywilydd ni.

Ystyriwch, a oes hysbyseb
A ddwed y gwirionedd hwn:
Gwell crempog na gwarth llwgu
A’n paned yw ein heinioes ni.

lunedì, gennaio 22, 2007

Oerwynt gerwin

Mae hi’n gythreulig o oer yng Nghaerdydd heddiw. Fydda i ddim yn un sy’n hoff o’r tywydd poeth – dydw i ddim yn licio mynd am wyliau i wledydd poeth. Mae’n gas gen i dorheulo, mae’n gas gen i nofio a mae’n gas gen i lan y môr. Ond mae hi’n ffiaidd heddiw. Dw i wedi rhewi’n stond yn cerdded adref o gwaith, ac mi rewais amser cinio wrth mynd i nôl brechdan.

Serch hynny, mae bywyd yn dda; ond dw i’n flinedig heddiw ar ôl diwrnod o gyfieithu caled a dwys am bob math o bethau. Ond dw i’n hoffi cyfieithu; ro’n i’n hoff ohono’n y brifysgol ac yn Dyffryn Ogwen cyn hynny. Blynyddoedd maith yn ôl.

Llawn fwriadaf heno felly ddiogi. Er, dydi diogi yn y nos ddim yn beth diddorol i’w gwneud. Y drefn arferol yw Neighbours, Simpsons, Hollyoaks, Emmerdale, Coronation Street, Eastenders/Pobol Y Cwm ac unrhyw beth arall sydd ar y teledu tan tua 11. Dydyn ni byth yn gwneud dim, fel mynd am beint bach slei fin nos. Sy’n biti oherwydd dw i’n hoff o beint bach slei.

Ond ni af. Diogaf. Ymlaciaf. Cysgaf.

domenica, gennaio 21, 2007

Canfyddiad o naws Cwrw

Prin y cefais ddiwrnod da ddoe. Wedi i mi a Lowri Dwd fynd i dre gwnes fawr o ddim, ond mynd am y gawod a gwneud fy ngwallt yn ddel i gyd a rhoi crys newydd ar. A del o’n i ‘fyd, megis blodyn cyntaf y gwanwyn.

Aeth Ceren a mi ar dro i siop wedyn, a phenderfynu trio ryw bethau newydd i yfed. Fe af drwy’r tair peth. Yn gyntaf roedd botel o win coch ffiaidd (yr un); a dywedyd y gwir fe gytunem mai dyma’r tro cyntaf erioed i’r un ohonom fethu ag yfed gwin coch. Minnau’n sicr; dw i wrth fy modd efo fy ngwin coch.

Yn ail, Christmas Pudding Wine, a oedd yn edrych fel gwin coch mewn potel denau ond gwin gwyn ydoedd. Ac mae’n gas gen i win gwyn achos mae o’n actiwli blasu fel grawnwin pydredig. Roedd hwnnw’n waeth na’r gwin coch. Ond roedd canfyddiad.

Ar silff y siop gorweddai fotel pinc (a dweud y gwir y lliw pinc a wnaeth imi fynd amdani’n gyntaf - dim ond oherwydd nad ydw i erioed wedi yfed allan o botel binc o’r blaen), ac arno dywedai Cwrw Mafonen (neu Rasperry Beer, ys ddywedai’r botel yn fanwl gywir) o Wlad Belg, sef o bosib y wlad fwyaf dibwynt yn hanes cenhedloedd; ond maen nhw’n gallu gwneud Cwrw Mafonen eithriadol. Mi es i’n ôl i’r siop i brynu mwy ar ôl, ac am 10% roedd o’n hawdd hynod yfed.

Ond nis feddwais. A rŵan mae Gloria Hunniford ar y teledu a dw i’n ddigalon o’r herwydd.

sabato, gennaio 20, 2007

Yfad iaaa

Aeth pobl gwaith allan am ddrinc neithiwr. Tro cyntaf imi erioed fynd allan efo pobl dw i’n gweithio efo. Mwynheais yn fawr, ond ro’n i’n feddw ofnadwy erbyn diwedd y nos ac mi es i ffwrdd heb ddweud wrth neb (sy’n rhywbeth dw i’n neud yn aml yn fy chwildod). Ymddiheura’ i ddydd Llun.

Aeth Lowri Dwd a mi i dre heddiw ac o’n i’n falch achos dw i’n wedi dal fyny efo Lowri ers ychydig. Dw i’m yn dda iawn ar ddal fyny efo pobl, a dylwn i wneud achos dw i’n teimlo fy mod i’n colli cysylltiad efo pobl. Hithau a theimlodd felly hefyd. Eniwe, mae gen i gur pen ond dw i’n mynd allan heno doed a ddêl.

mercoledì, gennaio 17, 2007

Y Galon Alarus

Gwna i’m smalio fod gen i ryw lawer i ddweud wrthoch chi, oni bai fod y gwaith yn eitha’ da a dw i wedi synnu cymaint faint fy mod i wedi colli trefn diwrnod gwaith. Smaliwn i ddim ychwaith nad oes gronyn o hiraeth gennyf am addysgu. Mae ‘na gornel fechan o ‘nghalon wedi edifar ac yn galaru, ac mae’n boenus. Ond amhara hwnnw ddim ar fy mhenderfyniad bellach, na wnaiff? Casáu'r holl gynllunio a dod adref a gorfod gweithio oeddwn i, wedi’r cwbl.

Nid hynny mohoni, chwaith. Cwrs oedd hwnnw. Hwn ydi’r byd go iawn; ac er holl bwysau addysg (yn enwedig cwrs TAR) mae ‘na rhywbeth cyfyng dyma-dechrau-fywyd math o beth am hwn. Dydi hynny ddim yn deimlad braf yn y lleiaf.

A dyweda’ i wrthoch chi be wnaeth imi sylweddoli hynny; dw i’n gallu sbotio myfyrwyr. Fydda i’n dueddol o gael fy nghinio yn Cathays, ac mae myfyrwyr, er mawr loes a phrudd-der imi, yn edrych yn ieuengach na mi (er eu bod nhw’n dalach), ac yn fudur. A dydw i ddim yn jocian. Wn i paham y mae pobl yn casáu myfyrwyr: cenfigen wenwynig sy’n llosgi yn eu boliau i gael bod fatha nhw. Dyna sut dw i’n teimlo, yn bendant.

Yn dydi hi’n drist ofnadwy mai dim ond chwe mis yn ôl ddaru mi beidio â bod yn fyfyriwr (go iawn), a dw i’n dyheu’n ofnadwy am y tair blynedd a fu ddyfod eto a’m sgubo ffwrdd?

venerdì, gennaio 12, 2007

Sali, Sam a'r Daily Star

Fe ges i sioc ar y diawl y bora ‘ma wrth ddyfod lawr grisiau a gweled ar ein bwrdd gopi o’r Daily Star yno, ac erthygl a llun o Sam Tân a Sali Mali yn cael rhyw. Y peth mwyaf gwirion am hyn oll ydi, wrth gwrs, bod S4C ddim wedi clywed sôn am hwn o gwbl, er y’i rhoddwyd ar youtube mis Ebrill, ac mae hi wedi bod o gwmpas yn llawer hirach na hynny. Llongyfarchiadau am wneud penawdau cenedlaethol, XXXXX, dw i’n falch iawn ohonot!

S4C. Doniol. Fodd bynnag; mae gen i broblem. Mae fy mryd wedi bod ar wneud un o’m enwog pasta bakes heddiw, felly fe es i Lidl yn y glaw er mwyn cael rhai o’r cynhwysion (mi ga’ i ‘chydig i ginio ac wedyn ‘chydig i de. Fydda chi byth ‘di meddwl gnwued hynny nafsach, ffycars?). Dw i’n caru Lidl. Er ei bod hi’n rhad mae ‘na rywbeth i bawb yno. Dw i’n cofio cael ffrae efo howsmêt yn mynnu dylwn i’m prynu cig o’r lle achos doedd o ddim yn gig Brydeinig. Er mor dlawd ac ydw i fydda i wastad yn gwneud ymdrech i brynu cynnyrch Gymreig. Ffyc ots gen i os mae ffermwyr Lloegr yn mynd i’r diawl. Dw i’n gwneud fy rhan.

Pethau i wneud, pobl i’w gweld. Ta ra!

mercoledì, gennaio 10, 2007

Atgofion lled-feddw

Sssssh! Mae hi'n ugain munud wedi saith yn y bore a dw i 'di bod fyny ers chwech. Mae'r adeilad yn unig, efo Ellen yn cysgu a Haydn hefyd (er bydd Ellen fyny mewn 'chydig mi dybiaf). Pam ydw i'n ysgrifennu blog yn y bore bach, felly?

Wel dw i 'di deffro achos o'n i'n yfad nithiwr. Aethon ni gyda'n gilydd i Sainsburys (fel y byddwn yn gwneud weithiau, yn deulu bach disffynctional fel ydym) a fe brynais i ugain Bud. Fydda i'n licio'n Budweiser, mae'n rhaid imi gyfaddef, er mai'r poteli bychain 207ml oeddent. Ddaru mi yfad 16 ohonynt (o edrych ar y ffrij bora 'ma) neithiwr a phan dw i'n yfed dw i'n cael drwmgwsg a deffro'n fuan wedi hynny.

Dw i'n credu be' wna' i ydi mynd lawr a gwneud brecwast go iawn imi'n hun o wy a bacwn a ffa pob a thost a sudd oren. Dim sosijys. Dw i'm yn licio sosij. Er gwaetha' be ma' pawb yn feddwl.

lunedì, gennaio 08, 2007

Cwsg diffygiol drachefn

Mae rhai ohonoch, bosib iawn, wedi bod yn darllen y blog ‘ma ers ei thair blynedd a hanner o fodoli. A dywed y gwir i chi, dw i’n meddwl fy mod i wedi gwneud yn eitha’ da parhau am amser mor hir. Mae lot o flogiau Cymraeg yn tawelu’n llwyr wedi tua chwe mis, neu’n diflannu. Ond mae dyfalbarhad yn fy ngwaed; ond dw i’m yn teimlo felly ar y funud.

Problemau cysgu. Fe’i caf yn aml. Dw i’n waeth yn ddiweddar, a wn i ddim pam. Efallai mai nerfusrwydd ydi hi fod gen i swydd newydd ar y gorwel mewn wythnos. Dydw i byth wedi cael swydd go iawn o’r blaen; dydi glanhau platiau, myfyrio na gwaith sydd yn gyffredinol dros yr ha’ ddim yn waith go iawn yn fy marn i. Efallai fy mod i’n gwylio gormodedd o anturiaethau He-Man ar alluc.org ond wn i ddim am hynny chwaith (does digon yno i lwyr torri fy syched am gartwnau). Serch hynny, llwyddais i ddim cysgu tan chwe ddoe, na hanner awr wedi saith heddiw (cyn deffro am unarddeg).

Golyga hyn fy mod i’n mynd i fynd am dro i Sainsbury’s nes ymlaen i brynu tabledi cysgu. Prin fy mod wedi cael llwyddiant gyda’r rhain yn y gorffennol. Tro diwethaf y bu imi gael rhai (yn Senghennydd) doeddwn i dal methu â chysgu (er y llwyddais i gnocio Rhys a Sioned allan efo nhw), felly wn i ddim a oes pwynt gwneud.

Ond dydw i ddim yn berson sy’n hoff o aros yn ei wely tan yn hwyr, nac aros yno drwy’r dydd. Dydi’n ‘stafell i ddim yn wych o le; dim byd o’i chymharu â llynedd, ar unrhyw raddfa. Dw i’n treulio gormod o amser yma’n ddiweddar, fodd bynnag, sy’n biti achos mai’n bwrw glaw o hyd ar y funud a beth bynnag mae’n well gan bobl imi aros yn y tŷ rhag ofn iddynt fy ngweled (eu beiant nid wyf).

Eniwe, mi a’i rwan a threulio gweddill y diwrnod ar Bebo neu rhywbeth.

venerdì, gennaio 05, 2007

Y Pizza

Cefais alwad ffôn ddoe yn dweud wrthyf fod gen i swydd. Dydi hynny ddim yn rhy ddrwg ar ôl llanw un ffurflen gais, nac ydi? Serch hyn, dydw i ddim yn dechrau tan wythnos i Ddydd Llun, sy’n golygu bod wythnos arall o benrhyddid anhygoel gen i. A mi a’u defnyddiant i’w llawn botensial.

Wedi’n trip i’r Amgueddfa fe gafodd fy nghyd-sgyman ddi-waith Kinch a mi'r syniad o wneud pizzas. Mae Kinch wedi cael rysáit i wneud pizza bwyd môr gan ei dad ers tair blynedd ond byth wedi ei roi imi. Felly fe aethon ni am dro i dre gyda’n bryd ar goginio.

Ar ôl mynd i Sainsburys ynghanol dre i chwilio am y gwaelod aethom ni o amgylch dre i gyd am tuag awr (yn cynnwys f’annwyl farchnad, lle y cefais plwnjar). Wedi hynny, aethom ni’n ôl thua Sainsburys a gofyn a oedd pizzas bases yna, ac fe bwyntiwyd nhw allan inni, cyn inni fynd ymlaen i brynu popeth yn y fan a’r lle. Cyn mynd nôl am banad.

Bwriadem ni dynnu llun o’r peth ond mor flasus yr oedd gan gregyn gleision a chorgimwch a phethiach fel na wnaed hynny.

Wedyn yn y nos, a minnau wedi dychwelyd adref, fe es i safwe www.alluc.org sydd yn cynnwys bob math o raglenni teledu y medrid eu gweled AM DDIM. Wedi un rhaglen o’r Simpsons fe dreuliais i thua awr yn gwylio He-Man; achos mae’r boi yn sdar.

mercoledì, gennaio 03, 2007

Amgueddfedda

Am ddiwrnod od. Fe ges i gyfweliad swydd heddiw, ond wedi hynny fe es i weld y dyn diog ei hun, Kinch. Dydi hwnnw ddim yn gwneud dim efo’i fywyd, felly mi benderfynais y byddai galw draw yn fy arbed, ac yn fy sbarduno i beidio â mynd i’r diawl megis Efe.

A minnau dal mewn tei a chrys a throwsus a chyda ymbarél fe aeth y ddau ohonom ni am dro; i Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Syndod fy myw a gefais o weld ein bod ni wedi mynd o amgylch yr holl blydi adeilad, yn cynnwys gweld y morgrug, arfau ac arddangosfa ar y byd Moslemaidd. A chwi a adnabyddwch Kinch a ŵyr nad un diwylliedig mohono, ond fe ymglymodd i’r amgueddfa megis pengwin i ffrij.

Ar ôl edrych fel dau ddyn od iawn yn camu o amgylch yr adeilad (a chael ambell i olwg od iawn; fi’n benodol mi dybiaf) fe aethon ni, wedi llwyddo i wastraffu diwrnod arall o ddiweithdra. Dydi o’m yn rhy ddrwg, a dweud y gwir.