mercoledì, novembre 21, 2007

Mynd i'r gym ... eh?

Os credodd yr Iddewon eu bod nhw’n flinedig ar ôl mynd ar goll yn yr anialwch am faint bynnag y gwnaethant yn ôl y Beibl (sydd, rhaid dweud, yn llyfr diddorol), ni welsant mohonof fi yr wythnos hon. Dw i’n hollol flinedig, yn dylyfu gên a llusgo fy hun o amgylch y lle fel rhaw.

Dw i’n gwybod pam fy mod i wedi blino hefyd, cofiwch. Ddim yn ffit dw i. Mae fy mol wedi ail-ddyfod efo dialedd. Wn i ddim pam. Dw i’n cerdded 40 munud i’r gwaith ac oddi yno bob diwrnod. Dw i’m yn bwyta sothach, er fy mod i’n bwyta lot o greision, a phan fyddaf yn bwyta creision hawdd iawn ydi bwyta pum ne chwe phaced ar y tro. Dw i’m yn jocian. Dw i’n anghenfil creisionllyd (pan ddaw at greision).

Felly, gyfeillion; doeddwn i byth wedi meddwl y byddwn i’n dweud hyn. Doeddwn i byth yn meddwl y byddwn yn ystyried y peth: ond efallai yr ymunwn â gym. Efallai. Mae’n mynd yn erbyn pob ryw egwyddor sy’n perthyn i mi. Ac mae’n fy nychryn achos dw i’m isio mynd yno’n fol i gyd efo llwyth o bobl gyhyrog yn fy amgylchynu. Ac mae’n costio a dw i’m yr unigolyn cyfoethocaf. A beth bynnag, dw i’m yn siwtio mynd i gym. A beth bynnag eto mond neud am fis wna’ i cyn blino, dw i’n synnu dim.

Asu, dwn i’m chi.

lunedì, novembre 19, 2007

Penwythnos Stiwpid.

Dw i ‘di cael penwythnos stiwpid. Does dim ffordd arall o’i ddisgrifio, gwaetha’r modd. Chwalwyd fy mwriadau lu ar nos Wener.

Mi es allan efo Ceren. I ni ein dau, yr unig rai. Wrth i ni ddechrau yn y Westgate (a Gwenan efo ni ar y pryd) fe ddaeth ddynes echrydus i mewn a dechrau canu ceisiadau i bawb, ac roedd yn rhaid i ni ddianc yn eithaf handi. Erbyn y Model Inn dim ond fi a Ceren oedd ar ôl ac fe’m perswadiwyd i ganu ‘Don’t Let the Sun Go Down on Me’ gyda hi ar y carioci. Roedden ni’n ofnadwy. A dweud y gwir, roedden ni mor ddrwg fel y geiriau cyntaf a glywsom ar ôl y gân oedd ‘you were shit’.

Mi chwydish i mewn dau le arall a daeth y noson i ben gyda fi’n cael tacsi adref heb Ceren a hithau’n crio'r holl ffordd i’w thŷ hi a chanu All By Myself.

Ond dyma le aeth pethau’n rong.

Mi ddeffrois yn y cyfnos ar y Sadwrn, yn flin iawn fy mod wedi deffro mor fuan, ond yn edrych ymlaen at wylio gêm Cymru ac Iwerddon. Roeddwn i’n lloerig wrth i mi edrych ar y ffôn a sylwi mai cyfnod 4.30pm ydoedd ac nid y bore. Be ddigwyddodd? Nis gwn. Roedd staen gwin coch ar y carped, cymhwysedd Bluetooth mewn gwydraid gwin; dw i wedi malu un o’m cadeiriau, ac yn gwbl randym mae ‘na fat drws ar garreg y drws ffrynt nad ydw i wedi ei weld erioed o’r blaen yn fy mywyd.

Blacowt. Fedra’ i ddim cofio dim. Mat, gwin, cadair: ni ddaw hynny’n ôl. Gas gen i beidio â chofio dim.

Felly yn hytrach na “gwisgo’n ddel” nos Sadwrn es i ddim allan tan 9 ac unwaith eto mewn hwdi a thracwisg yr oeddwn. Mi feddwais rywfaint, ac mi gefais hwyl ofnadwy o dda (yn enwedig o weled coron Owain Ne yn llithro wrth iddo lwyddo hedbytio gwydraid o win coch dros fwrdd yn lle o’r enw ‘Sandpebbles’. Y lle ydyw gyferbyn â Chlwb Ifor - neu “Lle Sylvia” fel y byddwn yn ei galw. Ewch yno - mae’n well na Chlwb Ifor).

Ond ni chwarddais fyth cymaint â’r daith i Rawden Place lle gysgais am y noson. Roeddwn i wedi bod efo Ceren a Lowri Dwd (wastad yn dychmygu boi Jazz Club o Fast Show yn troi rownd a mynd ‘Nice!’ rôl clywed yr enw) i MacDonalds a Ceren wedi llwyddo meddu ar ymbarél yno.

Cafodd hithau’r anffawd gorau erioed. Cododd y gwynt a throdd yr ymbarél i mewn allan, gyda Ceren yn ystryffaglu o gwmpas fel rhywun efo pibell dŵr cryf iawn. Wedyn, mi ollyngodd ei MacDonalds, oedd yn y llaw arall, a chan geisio rheoli’r ymbarél a phigo mân Chicken McNuggets mi ddisgynnodd ei throwsus i lawr. Reit i lawr, pasio’i phennau gliniau, ar y bont rhwng Stadiwm y Mileniwm a’r Westgate, efo ceir yn mynd ar ei hyd yn gyson.

Hwn, heb os, yw un o uchafbwyntiau’r bumed flwyddyn yng Nghaerdydd hyd yn hyn.

giovedì, novembre 15, 2007

Rhestr o bethau nad ydw i'n eu deall

Mae sawl pheth yn yr hwn fyd na fyddaf yn eu dallt byth. Crybwyllais fisoedd nôl nad ydw i’n dallt yn y lleiaf sut y caiff adar ryw. Ond beth am:

  • Pam fod pobl yn cael eu hatynnu gan sitcoms Americanaidd, pam maen nhw mor shit?
  • Pam fod pwdins Sir Efrog mor ddiawledig o flasus er mai dim ond llefrith ac wyau a blawd ydyn nhw?
  • Pam na ddylid treiglo ‘byth’?
  • Pam ydw i mor wael am goginio omlets a’u cadw’n un lwmp?
  • Beth ydi ystyr ‘ansbarddigaethus’?
    Sut y mae sillafu ‘ansbarddigaethus’?
  • Pam fod Goths yn meddwl eu bod nhw mor wahanol i bawb pan fod miliynau ohonynt?
  • Pam fod contiaid y môr yn cael eu galw’n gontiaid y môr?
  • Pwy welodd mulfran werdd a phenderfynu y byddai’n enw addas ar ei chyfer?
  • A gymerwyd y piss wrth sefydlu gwlad o’r enw ‘Twrci’?
  • Os deilliodd y gair ‘penguin’ o ‘pen gwyn’ pam fod ganddyn nhw bennau duon?
  • Pam dw i mor fyr a minnau’n bwyta digon o lysiau?
  • Beth ydi trydan?
  • Sut mae awyren yn hedfan?
  • Pwy sy’n gwario 40c y funud ar alwad ffôn i fynegi nad oes ganddynt farn ar bwnc penodol?
Mae’r rhain ymhlith y miliynau o bethau nad ydw i’n eu dallt. Allwch chi fy helpu a lleddfu fy nryswch, neu a oes pethau gennych chi i’w hychwanegu?

mercoledì, novembre 14, 2007

Gwerinwr Ddinesig

Iawn chief? Dw i heb ddweud ‘Iawn chief’ ers blynyddoedd! Mae pethau’n dod yn ôl ataf yn araf bach yn ddiweddar. Geiriau fel ‘cythraul’ a ‘homar’ a ‘jibidêrs’. Geiriau’n werin, yn de, a finnau mor werinol fy naws a’m ffordd. Dw i wrth fy modd yn rhoi fy modiau yn nolenni fy jîns, a cherdded fel petawn yn mynd i odro buwch, gan chwibanu ‘Un Funud Fach’ neu alaw wledig.

Cyfarfûm ag Elis Gomer ddoe am y tro cyntaf ers hydoedd. Dywedodd ef ei fod yn darllen fy mlog a’i bod yn bur amlwg nad ydw i’n hapusach o unigolyn na fûm erioed. Rhyfedd, dywedais innau, wrth geisio mynd i’r gwaith ac osgoi boi Indian Metro wrth Pizza Hut, roeddwn i’n meddwl fy mod i’n unigolyn eithaf hapus yn ddiweddar.

Ond gan ddatgan hynny dw i’m ‘di setlo ers mynd i Lundain, lle mae’r bobl ddrwg a’r hwrod yn trigo. Mae hyn oherwydd nad wyf wedi gweithio wythnos gyfan ‘stalwm ac oherwydd y trip angenrheidiol i’r gogledd, ac oherwydd nad ydw i wedi bod allan efo pawb, a gwisgo’n ddel i wneud hynny, ers cyhyd. Y tro diwethaf y bûm allan yng Nghaerdydd roeddwn yn gwisgo hwdi a thracsiwt - dw i’m yn cofio y tro diwethaf i mi fynd allan a gwneud ymdrech i edrych yn ddel. A dyna ydi ffwcin ymdrech.

Ymddeolaf rŵan. Mae gen i gythraul o ddolur gwddw. Wn i ddim pam. Dw i’m yn dallt ryw salwch a ballu.

giovedì, novembre 08, 2007

Coffi

Coffi. Addewidion cyfrwys a gefais yn blentyn pan y’i blaswyd gennyf; na, nid wyt yn ei hoffi nawr, ond pan wyt ŵr hŷn mi fyddi.

Dw i’n ddau ddeg dau. Gas gennai goffi, a phopeth sy’n ei gwmpasu.

Mae’r blas yn ddigon i wneud i rywun gyfogi fel y mae, ond mae’r holl ddiwylliant sy’n cwmpasu coffi yn troi arnaf. Y Café Culture, ys ddywedant, fel yr un a hyrwyddir yn yr arch-gachu o raglen, Friends. Mynd am goffi am wyth o’r gloch yn nos i gwrdd â chyfeillion: NA. Ewch i dafarn, myn uffern. A ph’un bynnag, pa ddiben yfed coffi gyda’r nos, a chithau am gysgu nes ymlaen?

Ceir gormodedd o goffi, hefyd. Mocha, espresso, cappuchino. Lol.

Panad o de syml – a dim o’ch paned gwyrdd na herbals chwaith (mae hynny ar yr un lefel â choffi). Dyna’r boi. Mae pawb yn cynnig panad o de i chdi pan wyt ti’n mynd draw. Te ydi diod y werin. Ni cheir ymadrodd harddach yn y Gymraeg na “Wyt tisho panad?” (does neb erioed wedi dweud “ti moyn dishgled” i mi); gwyddost yr hyn sydd o dy flaen: paned o de poeth, sgwrs dda a mwytho, yn aml wedi ei ddilyn gan banad arall a sgwrs hirach.

Ia wir, cymerwch eich coffi a’i anharddu a’i dywallt lawr draeniau’r uffern am sydd ots gen i. Gan nad pwy fo’i ŷf, eu lluchio i isaf ddyfnderoedd y môr. Mae te yn torri ffiniau, o’r plasau mawr i’r tai cyngor lleiaf. Panad o de a chywydd a Jeremy Kyle – dyna’r bywyd i mi.

mercoledì, novembre 07, 2007

Deffro yn y nos

Dw i ‘di penderfynu mai blog ydi’r peth i mi. Does gen i ddim mo’r stamina i ysgrifennu nofel. Dwisho, ond fedra’ i ddim. A dweud y gwir, mae stori fer yn her, a cherdd hefyd, er fy mod newydd brofi mai odlwr o’r radd flaenaf ydwyf. Serch hyn, mae ‘na ddigon o lol yn mynd drwy fy mhen i’w rhoi mewn manion bach fel hyn. Mae’n rhyddhad. Fyddwn i’n ffrwydro pe na bawn â blog.

Rydwyf yn mynd am y Gogledd eto ddydd Gwener am dridiau. Diolch i Dduw. Ers mynd i Lundain dw i wedi bod yn awchu am fynydd a glyn, tai’m i ddadlau. Mae Llundain yn rhy bell ac yn rhy fawr i mi. Dw i’n blwyfol, mae gen i fy ffiniau a dw i’n fodlon iawn iawn yn trigo rhyngddynt yn gwbl barhaol. Dw i’m angen antur na chyffro na Starbucks, ond awyr las a gwair gwyrdd a defaid yn brefu ganol nos yn cadw chdi’n effro tan dri.

Fedra’ i ddim cweit cael yn iwsd i’r trên sy’n mynd heibio fy nhŷ yn Grangetown draw, fodd bynnag. Mi fydd yn mynd hyd oriau mân y bore (pa ynfytyn sydd isio mynd am drên yn ystod y fath oriau, ni wn. Ond ynfytod ydynt yn sicr) ac yn achosi i’r tŷ crynu ac nid dim ond unwaith yr wyf wedi deffro mewn braw.

Hefyd, cefais freuddwyd bod pobl ddiarth o Mars yn cymryd drosodd y byd neithiwr. Roeddwn i’n ddewin na fedrodd y Saesneg, felly prin oedd fy help yn y pen draw.

martedì, novembre 06, 2007

Cymry'n debycach i'r Saeson na'r Gwyddelod?

Gan fod fy mywyd yn ddifflach a’r un mor ddoniol â chyfuniad o lewcemia a hangover ar y funud dw i’n mentro nôl i’r sffêr lled-wleidyddol am ennyd. Mae ‘na ddadl ar Faes E (fel arfer) am ddyfodol S4C. Duw ag ŵyr, ni allaf gyfrannu’n fawr at hynny, ond am ddatgan yn groch y byddai S4C ddwyieithog yn syniad ffôl ac yn gyfaddawd yn ormod i’r Cymry Cymraeg. Mae’n fy rhyfeddu yn ddi-ffael sut y mae Chris Bryant a’i fath yn hoffi anwybyddu’r ffaith fod dwyieithrwydd cymaint, os nad yn fwy, o gyfaddawd i ni. Ond ta waeth, nid dyna’r ddadl.

Y tebygolrwydd rhwng y Cymry a’r Saeson a’r Albanwyr a’r Gwyddelod sy’n mynd â fy mryd. Fe honnir yn yr edefyn bod y rhan fwyaf o’r Cymry yn debycach i’r Saeson nac ydyn nhw i’r Albanwyr a’r Gwyddelod. Mi ysgrifennais yma ryw ddeufis yn ôl am y gwahaniaethau rhwng y Cymry Cymraeg a’r Cymry di-Gymraeg, a dod i’r casgliad fy mod i, fel Cymro Cymraeg, yn wahanol iawn i’r di-Gymraeg: mae’n rhaid felly fy mod yn wahanol iawn i Sais!

Ond oni bai am y diwylliant yfed sy’n diffinio’r Celtiaid i raddau helaeth (ac i’r mwyafrif o’r Celtiaid nid myth mohono) mae’n anodd dod o hyd i wahaniaeth nid yn unig rhwng y Cymry a’r Saeson, ond rhwng y Saeson a gweddill yr Ynysoedd. Wedi’r cyfan, dydi Albanwyr ddim i gyd yn bwyta hagis ac yn gwisgo ciltiau, na’r Gwyddelod oll yn yfed Guinness ac yn canu Fields of Athenry. Felly, dywedwch wrthyf, pa wahaniaethau gwirioneddol sylfaenol sydd rhwng y Gwyddelod a’r Albanwyr yn erbyn y Saeson?

Mae Cymru gyda gwahaniaethau sylfaenol i Loegr: gellir canu’r diwn gron am ddiwylliant ac iaith, ond er bod hynny’n ddadl sy’n cael ei gorddefnyddio ac nad ydyw’n cymhwyso’r rhan fwyaf o’r Cymry, mae’n ddadl gwbl wir sy’n dal dŵr, ac yn gwahaniaethu cannoedd o filoedd o Gymry o’r Saeson (i raddau llawer mwy na’r Alban ac Iwerddon). Mae tueddiadau gwleidyddol Cymru yn wahanol iawn i rai Lloegr. Mae’r ymdeimlad y gymuned yn parhau yn gryfach yng Nghymru na’r unman arall yn Ynysoedd Prydain; hyd yn oed ar y meysydd chwaraeon y tîm rygbi cenedlaethol, nid y tîm pêl-droed, sy’n ennyn yr angerdd fwyaf yng Nghymru (p’un yw’r fwyaf poblogaidd ar lawr gwlad, cwestiwn arall yw hwnnw). Ac mae’r traddodiadau barddol a chanu, sy’n torri ffiniau ieithyddol yng Nghymru, yn sicr yn debycach i Iwerddon na Lloegr.

Beth dw i’n ceisio’i ddweud ydi hyn: nid syniad ffug mo’r Celtiaid, ond ni ellir chwaith gwahaniaethu’n helaeth rhyngddynt hwy a’r Saeson. Dydi’r Cymry ddim “yn debycach” i’r Saeson na’r Albanwyr. Peidiwn chwaith â meddwl ein bod: un o wendidau tragwyddol y Cymry ydi meddwl hynny. Rydym ni yn Geltiaid, yn yr ysbryd, drwy ddiwylliant, drwy iaith a thrwy waed, hyd yn oed. Derbyniwch hynny – un o wendidau’r Saeson ydi na allant! (Er, os mai un o wendidau’r Cymry ydi na allant chwaith, efallai ein bod yn debyg iawn wedi’r cyfan!)

lunedì, novembre 05, 2007

Uh oh...

Nid pob dydd y cewch wystrys wrth ymyl Rhodri Morgan ym marchad Glanyrafon. Onid yw hynny’n wir?

Does gen i ddim byd i’w gwyno am yn ddiweddar a dw i’n rhy ddiog i’w wneud. Dw i’m yn licio dweud hyn ond dw i’n amau mai nad peth dros dro yw’r diffyg gweithgarwch ar y flog hon…