venerdì, ottobre 31, 2008

Blogiwr Sâl

Dwi ddim wedi bod yn flogiwr da yr wythnos hon, ond dwi wedi bod yn flogiwr sâl. Fel arfer mae gen i system imiwnedd gref, ond pan mae hi ar chwâl mai ‘di cachu arna i. Yn wir, dwi wedi bod yn tagu gymaint dros y dyddiau diwethaf fel bod fy asennau yn brifo ar y diawl ac yn gyson, a ‘sgen i ddim llais erbyn hyn sy’n gwbl drasig. A dwi bron yn sicr fy mod wedi cael haint gan Lowri Dwd sy jyst yn codi cywilydd arna i.

A dwi ddim yn licio Obama achos mae’n sleimllyd ac mae’r diawl am ennill, mae hynny’n gwneud i mi deimlo’n sâl, y sleimbeth iddo. Gas gen i bobl savvy, yn benodol oherwydd nad ydw i gant y cant ynghylch ystyr y gair, a gwleidyddion selebriti. A choeliwch ai peidio, dwi ddim actiwli yn ymddiried yn Obama.

Dwi’n mynd am McCain achos mae’n hen a methu codi’i freichiau ac mae Sarah Palin yn ddoniol ei diffyg ymennydd (ac ydw dwi’n ei ffansio mymryn). Ia, yn y lleiafrif wyf yn hyn o beth, ond mae Ceren yn cytuno.

Sôn am Ceren fe aeth y ddau ohonom i’r dyfodol echnos. Cawsom sgwrs fideo gyda’n gilydd ar ein ffonau symudol. Pa mor cŵl ydi hynny? Roedden ni’n gallu gweld ein gilydd a phopeth. Chwe blynedd nôl roedd gen i ffôn Nokia efo cês Draig Goch arno oedd yn mynd bîb-bîb pan oedd rhywun yn ffonio. Mae’n eithaf sgeri meddwl beth y bydd ffonau yn gallu gwneud yn y dyfodol. Dwi’n gobeithio panad.

mercoledì, ottobre 29, 2008

Angenfilod

A, na, nid sôn am boblogaeth Rhuthun ydw i.

Amser maith yn ôl, pan oedd y dail yn wyrddach a’r eira’n disgyn yn y gaeaf a He-Man yn rhan annatod o fywyd, roeddwn fachgen; di-hid a diniwed cyn i mi ddallt y byd a’i bethau (dwi’m yn dallt lot o’r cyfryw bethau o hyd, fel safleoedd rygbi a sut llwyddodd fy ffrind annifyr Ellen gamgymryd drafftiau am wyddbwyll nos Sadwrn).

Creais yn fy meddwl fydoedd a phobloedd ac ieithoedd eraill - ychydig fel Tolkien heb yr athrylith na’r ddawn ysgrifennu, ac roedd angenfilod bob amser yn fy niddori. Roeddwn i’n arfer casglu Monsters in my Pocket, gan feddu ar sawl set ohonynt, ac wrth fy modd yn darllen y frawddeg fechan wrth bob bwystfil, y Minotawr, y Fedwsa, Gwrachod, yr Ellyll, Fampirod, y Griffin, y Dewin, y Blaidd-ddyn, Angharad Mair - enwch unrhyw un a fynnwch ac roeddwn wrth fy modd, a byth ers hynny dwi’n licio straeon am anghenfilod mytholegol.

Mae dau o Gymru sydd wastad wedi fy swyno rhywfaint, sef Gwrach-y-rhibyn (mae ‘na lun o Wrach-y-rhibyn ar y flog hon yn rhywle) a Chŵn Annwn. Mae’r straeon am Gŵn Annwn a myth y ‘cŵn duon’ yn rhemp ar Ynys Prydain ac yn rhai o’r rhai mwyaf arswydus y gellir eu clywed, ac mewn sawl rhan fwy gwledig yn parhau. Mae gen i feddwl agored iawn ar bethau uwchnaturiol, a mynnaf hyd heddiw i mi weld rhywbeth sy’n parhau i wneud i mi deimlo’n ofnadwy o anghyfforddus (yn debyg i Hwylio’r Noson Lawen - dwi o fewn trwch blewyn i ddadymgysylltu’n llwyr â’r iaith Gymraeg ar ôl gweld y shait ‘na).


Ond byddaf yn licio meddwl bod gwraidd i bob stori, a dydw i ddim yn credu am eiliad y gall rhesymeg a gwyddoniaeth egluro popeth, ac i bob pwrpas mae popeth yn para ac yn wir tra bod pobl yn credu ynddynt. Heblaw am dylwyth teg, wrth gwrs.

Angenfilod

A, na, nid sôn am boblogaeth Rhuthun ydw i.

Amser maith yn ôl, pan oedd y dail yr wyrddach a’r eira’n disgyn yn y gaeaf a He-Man yn rhan annatod o fywyd, roeddwn fachgen; di-hid a diniwed cyn i mi ddallt y byd a’i bethau (dwi’m yn dallt lot o’r cyfryw bethau o hyd, fel safleoedd rygbi a sut llwyddodd fy ffrind annifyr Ellen gamgymryd drafftiau am wyddbwyll nos Sadwrn).

Creais yn fy meddwl fydoedd a phobloedd ac ieithoedd eraill - ychydig fel Tolkien heb yr athrylith na’r ddawn ysgrifennu, ac roedd angenfilod bob amser yn fy niddori. Roeddwn i’n arfer casglu Monsters in my Pocket, gan feddu ar sawl set ohonynt, ac wrth fy modd yn darllen y frawddeg fechan wrth bob bwystfil, y Minotawr, y Fedwsa, Gwrachod, yr Ellyll, Fampirod, y Griffin, y Dewin, y Blaidd-ddyn, Angharad Mair - enwch unrhyw un a fynnwch ac roeddwn wrth fy modd, a byth ers hynny dwi’n licio straeon am anghenfilod mytholegol.

Mae dau o Gymru sydd wastad wedi fy swyno rhywfaint, sef Gwrach-y-rhibyn (mae ‘na lun o Wrach-y-rhibyn ar y flog hon yn rhywle) a Chŵn Annwn. Mae’r straeon am Gŵn Annwn a myth y ‘cŵn duon’ yn rhemp ar Ynys Prydain ac yn rhai o’r rhai mwyaf arswydus y gellir eu clywed, ac mewn sawl rhan fwy gwledig yn parhau. Mae gen i feddwl agored iawn ar bethau uwchnaturiol, a mynnaf hyd heddiw i mi weld rhywbeth sy’n parhau i wneud i mi deimlo’n ofnadwy o anghyfforddus (yn debyg i Hwylio’r Noson Lawen - dwi o fewn trwch blewyn i ddadymgysylltu’n llwyr â’r iaith Gymraeg ar ôl gweld y shait ‘na).

Ond byddaf yn licio meddwl bod gwraidd i bob stori, a dydw i ddim yn credu am eiliad y gall rhesymeg a gwyddoniaeth egluro popeth, ac i bob pwrpas mae popeth yn para ac yn wir tra bod pobl yn credu ynddynt. Heblaw am dylwyth teg, wrth gwrs.

martedì, ottobre 28, 2008

Ffŵl ydw i

Ffŵl ydw i. Cefais benwythnos trwm, a hynny ar ôl bod yn tagu fel diawl drwy’r wythnos diwethaf. Er gwnaethaf ail-ymafael ar rywfaint o ffisig dwi ddim gwell heddiw o gwbl. Yn wir, dwi’n teimlo’n waeth ac yn tagu bobmathia i fyny.

Dyma feddylfryd y diwrnod i’ch diddanu (diolch i’r Blewfran am hyn): os ydych chi’n benthyca miliwn o bunnoedd, ydych chi’n filiwnydd?

Fedra i ddim cael fy mhen rownd ffasiwn bethau.

venerdì, ottobre 24, 2008

Es i fyth i Barc y Strade a dwi'n gytud

Pan oeddwn fachgen ac yn aros yn nhŷ Nain (a oedd, gyda llaw, yn argyhoeddedig fod y byd ar fin dod i ben wythnos diwethaf achos bod y môr yn Llanfairfechan mor chwareus) byddwn yn aml ar ddydd Sadwrn yn eistedd yn y lownj a gwylio un o gemau Uwchgyngrhair Rygbi Cymru. Tua phryd hynny hefyd fe ges bwl o ddiddordeb mewn caneuon traddodiadol y Cymry, ac yn eu plith caneuon rygbi. Sosban Fach, bob tro, oedd fy ffefryn. Mae’n un o’r caneuon hynny dwi’n parhau’n hoff iawn ohoni.

Ta waeth, gan nad oedd dim byd arall ar y teledu ar bnawn Sadwrn penderfynais y byddai’n rhaid i mi gefnogi tîm. Wn i ddim ai oherwydd naws Cymraeg y clwb, neu Sosban Fach neu oherwydd bod Yma o Hyd weithiau’n bloeddio o’r seinyddion y bu i mi fagu hoffter o glwb rygbi Llanelli, a bu i mi addo i’m hun y byddwn ryw bryd yn mynd draw i Barc y Strade i’w gwylio yn chwarae. Felly gyda chryn siom heddiw dwi’n sylwi na wnes hynny byth, ac na fyddaf byth yn gwneud.

Byddwn i wedi hoffi gweld y Scarlets yn chwarae yn y Strade, hefyd. Fel llawer o gogs, er fy mod i’n frwd iawn ar y lefel ryngwladol, does gen i fawr o deyrngarwch at ‘run o’r rhanbarthau. Y Scarlets, mae’n siŵr, ydi fy ffefryn, oherwydd hoffter fy nglaslencyndod o Lanelli, ond os ydych chi’n byw pedair awr i ffwrdd dydi hynny ddim yn magu cefnogaeth a theyrngarwch, ac er fy mod i’n byw yng Nghaerdydd, fydd Caerdydd byth yn gartref i mi, felly fydda i ddim yn dilyn y Gleision.


P’un bynnag, mae’n drist bod cymaint o hanes rygbi yn dod i ben heddiw wrth i’r Scarlets chwarae’r gêm olaf erioed ar y Strade. Pob lwc i’r clwb yn y stadiwm newydd. Ond ydw, dwi'n drist na fu i mi erioed weld gêm yno - os oes unrhyw faes rygbi y byddai rhywun isio ymweld â hi, 'does 'na fawr o amheuaeth mai Parc y Strade ydi'r lle eiconig hwnnw.

giovedì, ottobre 23, 2008

Anifeiliaid yn rhegi

RHYBUDD: IAITH ANWEDDUS
Wel, fel pob blogiad arall rili, de? Ond bydd hwn yn waeth.

Dwi’n gwybod fy mod i’n ddwl ar adegau, ond wrth glywed newyddion y bore a’r bwriad gan Brifysgol Abertawe i wneud i gar fynd 1000mya, rhaid i mi ddweud nad ydw i’n dallt y pwynt i’r holl beth. Os gall rhywun egluro be ddiawl ydi’r pwynt rhowch wybod i mi. Dwi’n fodlon iawn ar fy Fiesta, yn bersonol. Lwcus i hwnnw gyrraedd 70mya yn y bumed gêr.

Ta waeth am hynny rhaid i mi ddychwelyd at lyfr a brynais ddoe. Gyda thri phen-blwydd yn dyfod y penwythnos hwn, roedd y temtasiwn yno i brynu ‘Pets with Tourettes’ fel anrheg i un o’r ddywededig rai: ond dydi Rhys methu darllen, dydi Lowri Llew ddim yn licio pethau fel hyn ac mae Llinos yn Aberystwyth. Pwy tybed a fyddai’n gwerthfawrogi ryw 40 o ddelweddau o anifeiliaid â swigod siarad yn dweud pethau fel “Fuck off”, “Cummy blowjob” a “Felchy bumboys”?

Wrth gwrs, Lowri Dwd!

Tai’m i ddweud celwydd wrthoch chi, ro’n i’n chwerthin nerth fy mhen yn Borders ac yn giglan drwy’r p’nawn wedyn, ond eto fedra i ddim helpu os mae bochdew yn gweiddi “Minge!” yn gwneud i mi chwerthin. Ac am ryw reswm, doeddwn i ddim am gadw’r llyfr, ro’n i eisiau ei roi i rywun. Yn wir, mi chwarddodd y Dwd nerth ei phen, gan dagu yn aml canys bod iddi annwyd ar hyn o bryd, a oedd yn ei gwneud yn llai delfrydol byth.

Gyda’r ail a’r drydedd gyfrol allan yn y siopau, a fydda i’n gallu peidio â gwastraffu chwephunt arall, dim ond er gweld cath arall drachefn yn gweiddi “Winky Wank Wank”??

mercoledì, ottobre 22, 2008

Llwyglyd Fi

Sut ddiawl gall rhai pobl fyw ar sŵp, ni wn. Dwi wedi rhoi pwysau ar yn ddiweddar, yn dewach nag y bûm ers misoedd, o ganlyniad i ailymafael â’r yfed â brwdgarwch. O ganlyniad i hynny, a’r Cywasgiad Credyd, roedd ‘na gryn dipyn o sŵp yng nghypyrddau Machen Street. Dyna oedd i de ddoe. Sŵp cennin a thatws - cachu tenau Baxters, waeth i chi biso a’i yfed ddim. Nid yw’n cyrraedd uchelfannau Big Soup, sy’n sŵp i ddynion yn anad neb.

Yn fanno yr oeddwn. Y Weakest Link ar y teledu, a minnau’n syllu bur drist i mewn i fowlen o ddŵr blas. Gallwch ddychmygu nad hapusaf o fodau’r ddaear yr oeddwn yr eiliad honno. Fe’i bwytawyd a dyna ddiwedd arni.

Am ryw reswm es ati i wylio gêm United yn nhŷ’r genod efo Ceren. Caiff Ceren ei phen-blwydd ar yr 8fed Hydref, ac yn chwilfrydig gwelsom ei bod yn rhannu ei phen-blwydd gyda Matt Damon, Sigourney Weaver a Brenin Zog Albania. Hefyd, dyma ddiwrnod annibynniaeth Croasia.
Ar y llaw arall, mae fy mhen-blwydd i, 19eg Ebrill, hefyd yn ddiwrnod o ddathlu i Maria Sharapova (rydyn ni’n siwtio i’r dim), Rivaldo a’r Brenin Mswati III o Wlad Swazi. Dyma hefyd Ddiwrnod y Beiciau.

Ta waeth, ar ôl hynny ro’n i’n teimlo’n anhygoel o lwglyd. Yn bur sydyn sylwais y byddai’r ymdrech fach, resynus i golli pwysau dros yr wythnos nesaf yn aflwyddiannus. Adref yr es, a bwyta dau Babybell a thri phaced (hehe) o greision halen a finag am hanner awr wedi deg. O leiaf heno mi fyta i fel mochyn gan ddallt yn iawn fod angen bwyd call ar hogyn fel fi. Geith sŵp fynd i ffwcio’i hun.

martedì, ottobre 21, 2008

Unbennaeth Sion Corn

Dros y penwythnos galwais heibio fy hen Arch Gas-gyfaill Dyfed y Blewfran yng Ngwalchmai draw. Gofynnodd imi, yn y modd aneglur, slyriog arferol a fyddai’n well gennyf fyw mewn gwlad ddemocrataidd neu unbennaeth a reolid gan Sion Corn.

Wrth gwrs, Sion Corn dywedais heb amheuaeth, ond wedi meddwl am y peth dwi ddim isio rhoi anrhegion i bobl na bwyta twrci bob diwrnod, byddai gyfystyr â’r Almaen Natsiaidd (ac eithrio’r twrci a’r anrhegion). Yn wir, byddai Sion Corn Arweinydd yn rêl cont.

Ond mae’n bosibl mai efe sydd wrthi’n ein rheoli eisoes. Cyrhaeddodd y Nadolig i mi bythefnos nôl yn siopa yn Boots ar fusnes o ryw fath, a gweled yr anrhegion yn dechrau pentyrru. Dwi heb weld hysbysebion eto. Mi ddônt yn fuan.

65 sydd tan y Nadolig – sy’n 17.8% o’r flwyddyn o Nadolig i bob pwrpas (i’r rhai ohonoch sydd mor hoff â mi o ganrannau 84% o’r amser). Does dianc. Ac unwaith eto mi fydd yn llusgo’r peth ymlaen am un rhan o bump o’r flwyddyn gan dynnu unrhyw werth oddi wrtho drachefn. Bob blydi blwyddyn. Mae hi fel bod unbennaeth arfaethedig Sion Corn yma eisoes.