martedì, giugno 30, 2009

Mae fy mheiriant golchi yn bwyta fy sanau

Mae’r byd hwn yn llawn hud. Hyd yn oed yn ei fodernrwydd bondigrybwyll mae dirgelwch i’w gael yn y mannau tywyll. Y fan dywyll yr wyf yn cyfeirio ati yw peiriannau golchi. Ai fi ydi’r unig un sydd ddim yn dallt, yn enw’r Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân, sut ar wyneb y ddaear y gellir rhoi rhif penodol o hosanau i mewn i beiriant golchi a chael llai yn ôl?

Digwyddodd hynny ddoe, ac nid am y tro cyntaf. Wn i ddim, er racio ‘mrêns hyd syrffed, sut y mae’n digwydd. Rŵan, o’r holl ledrith a rhyfeddodd a roddodd y Tad Mawr ar y ddaear, dwi’n gwbl argyhoeddedig na fwriadodd i’r peiriant golchi fod yn destun dirgelwch parthed hosanau, ond dyna ydyw o’m rhan i. Faint o sanau a gollwyd i’r bwystfil wrth y sinc ni wn – mae rhywun yn gwybod rhywbeth nad ydw i, mae’n rhaid (mae lot o bobl yn gwybod pethau nad ydw i, wrth gwrs).

Mae’n gas gen i olchi dillad. Os bydda i’n mynd i Rachub dwi o hyd yn fy henaint yn gwneud siŵr bod ‘na ddigon o ddillad budur yn dod efo fi. Mae pob rhan o olchi dillad yn orchwyl blinedig. Casglu’r cyfan drewsawr a’i roi yn y peiriant, ei dynnu (a gweld beth ddaw allan), ei osod ar y lein, wedyn mai’n bwrw glaw, wedyn ei roi yn y tymbl a digio wrth feddwl faint o drydan y mae hwnnw’n ei ddefnyddio, ac yna smwddio.

Fedra i ddim smwddio, a dwi ddim yn golygu sefyll wrth y bar min nos yn wincio ar dargedau. Na, bydd fy nillad i, waeth faint o ymdrech a roddaf i mewn i smwddio, yn parhau’n ddigon crintachlyd ar y cyfan, yn benodol trowsysau a chrysau. Gallwch weld o olwg dyn a all smwddio ai peidio, a gwn fod hynny y tu hwnt i’m dawn. Pe bai gen i ddigon o arian byddwn i’n cael rhywun arall i’w gwneud. Y broblem ydi mae pawb dwi’n eu nabod yn edrych cyn waethed â mi, a gwaeth mewn sawl achos, felly mi fyddai’n ddibwynt. Hidia befo, fues i fyth yn un am edrych yn drwsiadus p’un bynnag.

lunedì, giugno 29, 2009

Sbeitllyd yw Albany Road

Ddim ots gen i be gythraul ddywedwch chi, mae’r tywydd yn blydi horybl yng Nghaerdydd. Pump ar hugain gradd selsiws (dwi’n casáu’r gair selsiws – ma’n swnio fel cyfuniad o sensual a selsig). Mai’n chwilboeth. Does ‘na ddim chwa o awyr chwaith, ac mae’r aer yn drwm fel plwm llwm. Ac ni throf yn frown oherwydd dwi ddim am fynd allan ynddo. Ddim eto. Es allan amser cinio o amgylch y ddinas am dro, i Albany Road, a dwi ddim am wneud ‘fory os mae hi fel hyn.

Bydda i’n mynd i Albany Road yn dra aml. Wel, dim ond i fynd i Iceland, yn de. O’n i’n ddig iawn wythnos diwethaf wrth bigo fyny, ac afraid dweud prynu, carbonara eog a chorgimwch. Wn i ddim pam mai ond pan gyrhaeddish i adra y bu i mi edrych yn y bocs ei hun a sylwi bod rhyw gont sbeitllyd wedi cyfnewid y nwyddau hysbys am reis pilau. Fyddwn i ddim yn meindio gormod fel arfer ond dwi’m yn licio blydi reis pilau.

Ond arferwn dreulio cryn dipyn o amser ar Albany Road yn fyfyrwyr trydydd blwyddyn, yn bennaf yn Peacocks achos ei bod yn siop rad + arferwn eithaf hoffi dillad Peacocks. Roedd/Mae ‘na fwyty Indaidd hefyd ar ffordd – dwi’m yn cofio’r enw rŵan – ond dwi yn cofio mynd yno’n ddigon aml efo Dyfed ar ôl noson allan i nôl cyri, a chyri da ydoedd ‘fyd. Hoffais yn fawr unwaith, pan aethom yn ffyliaid gwlyb a hithau’n stido bwrw i nôl un. Llithrodd Dyfed ar y stryd laith a brifo, ac mi chwarddish i nes i mi gyrraedd adra. Un sbeitllyd fuesh i ‘rioed.

venerdì, giugno 26, 2009

Galw enwau ar bobl ... Cymraeg style!

Un o wychaf bethau ein hannwylaf iaith ydi’r gallu i alw enwau ar bobl sy’n gwbl ddiniwed ac eto’n cyfleu cymaint. Mae’r Saesneg yn wych am hyn hefyd i raddau helaeth ond mae ‘na rhywbeth mwy gwirion am y Gymraeg, sy’n gwneud iddi ragori.

Faint o fath o fwydydd y gellir sarhau rhywun yn Saesneg gyda hwy? Lemon, wrth gwrs, ond gallwn ni alw rhywun yn lemon yn Gymraeg. Ac yn nionyn. Ac yn dorth. Ac yn sgonsan (ffefryn Nain a’m ffefryn diweddar). Ac, wrth gwrs, yn ben rwdan. Allwch chi ddim mynd rownd Lloegr yn galw rhywun yn onion, loaf na’n scone (dwi byth yn cofio be ‘di rwdan yn Saesneg).

A beth am dwmffat? “Beth ti’n gwneud y twmffat?” / “What are you doing you funnel?” – penderfynwch chi p’un sydd orau.

Gallwch chi alw rhywun yn unrhyw beth dal haul yn y Gymraeg ac fe’i cyflëir mewn ffordd ddoniol, lled-sarhaus ond eto cyfeillgar – dychmygwch alw rhywun yn “hen gwpan wirion” neu’n “be sy dy haru di’r draenog?” – fe fyddent yn codi gwên yn hytrach na dwrn.

Ond yn ôl y draenog, mae anifeiliaid yn gallu bod yn faes cyfoethog a diddorol i alw enwau yn Gymraeg: colomen/sguthan, cranc, mul, cranci mul (cyfuniad!), brân, iâr, mochyn, hwch, ci, ast, deryn – ond onid ydi hi’n rhyfadd, yn Gymraeg, bod galw rhywun yn fath o anifail bron yn ddi-eithriad sarhaus iawn, ond eto chymerech mohono â’r sarhad a fyddai’n briodol gyfatebol yn Saesneg?

Gallwn wrth gwrs barablau ‘mlaen am hyn, ond dyna un o gryfderau’r Gymraeg i mi. Mae hi’n iaith fach gyfeillgar a hyblyg, y mae ei geiriau’n gwneud fawr o synnwyr ond yn golygu cymaint.

mercoledì, giugno 24, 2009

Beth ddylai rhywun ei gael i frecwast?

Fydda i’n licio brecwast, ond gan bwyll ‘rhen goes, rhaid i mi wahaniaethu. Mae ‘na frecwast ac mae ‘na frecwast does?

Fel pryd, brecwast ydi’r lleiaf hoff gen i. Mae’n ddiflas ac yn ddi-fflach. Grawnfwyd y bydda i’n ei gael yn yr haf, ac uwd yn y gaeaf. Mater o raid ydi brecwast i mi, nid pleser. Ydw, dwi’n licio uwd, er fy mod i’n meddwl bod grawnfwyd yn crap, ond all rhywun ddim cael amrywiaeth mawr rhwng deffro a gwisgo a brwsio’r dannedd a cherdded i’r gwaith. I ble y mae’r bore’n mynd ni wn.

Dydi tost ddim yn ticlo fy ffansi fel rheol – gormod o atgofion o’i fyta’n chwil gach am wn i – a dwi’m yn un am jam neu farmaled, yn benodol ers ysgol fawr pan oedd pawb yn dweud “Be ti’n gael i frecwast, mam ar led?”. Dyddiau difyr.

Fel un sy ddim yn hoffi ffrwyth, ac yn licio dweud hynny, yn arbennig wrth bobl sy’n hoffi ffrwyth yn fawr, dydi ffrwyth ddim yn ddewis i mi i frecwast. Rhaid i mi deimlo’n weddol llawn. Ys ddywedant, brecwast ydi pryd pwysica’r dydd, ond hefyd yr un mwyaf crap.

Ond, ew, bob hyn â hyn, mi gaf frecwast llawn. Pan fydda i ar death row, sy ddim yn annhebygol o ystyried fy nirmyg llwyr tuag at fwyafrif llethol y bobl rwy’n eu hadnabod (e.e. fy ffrindiau a’m teulu), y pryd olaf a gawn fydd brecwast llawn. Bacwn. Wy. Pwdin gwaed. Bîns. Tost. Selsig. Dim tomatos (pwy uffar feddyliodd y byddai hynny’n syniad da mewn brecwast?). Madarch. Panad. Mi fytwn un bob bore pe cawn, ond byddwn i’n farw erbyn fy neg ar hugain.

Heblaw am frecwast llawn dwi’m yn licio brecwast, sy’n profi bod y pethau pwysica mewn bywyd yn aml y pethau gwaethaf.

martedì, giugno 23, 2009

Dannedd duon

Yn gyffredinol feddylais i erioed fod gen i ddannedd gweddol. Mi ges fresys yn fy arddegau, ond heb eu gwisgo gormod doedd fy nannedd byth yn berffaith ac fe aethant nôl i’r un siâp a fu ynddynt gynt.

Dwi fel y rhan fwyaf o bobl. Dydw i ddim yn hoffi’r deintydd, a ‘sgen i ddim dannedd peffaith. Dydyn nhw ddim yn felyn, ond dydw i ddim yn edrych ar eu holau cymaint ag y dylwn, dwi’m yn meddwl. Wel, mi ges gadarnhad o hynny neithiwr.

Bydd yr hylenydd deintyddol y byddaf yn ei gweld bob amser yn dweud wrthyf i edrych ar ôl fy nannedd yn well. Bob tro bu’n rhaid iddi roi polish ar y dannedd ‘fyd. Bydd yn siarad yn aml, hefyd, sy ddim yn beth gwych i hylenydd deintyddol, ond fydda i ddim yn licio mynd achos mi fydda i’n cael ffrae am beidio gwneud digon.

Ond wrth frwsio fy nannedd neithiwr deimlish i’n sâl. Mae fy nannedd blaen ar y gwaelod yn iawn o’r blaen, ond pan gefais gipolwg y tu ôl i’r rheini mi ges sioc. Roedd y tu ôl yn ddu. A du go iawn hefyd, gyda llaw. A pha beth bynnag arall yr hoffwn yn y byd hwn, dwi ddim isio dannedd du.

Dydw i ddim yn siŵr beth i’w wneud. Tai’m i ddweud celwydd mae gen i ffycin ofn o’r hylenydd, a hithau wedi polishio ‘nannedd ddwywaith o’r bron erbyn hyn, ond doeddan nhw BYTH mor ddrwg â hyn o gwbl. Dwi’n meddwl yr af i Boots heddiw a gweld be sy ‘na. Dwi wedi cael sioc.

lunedì, giugno 22, 2009

Hello? It is meat you're looking for?

Mae’n ‘stalwm erbyn hyn, ond myfi a Ceren penderynasom pe byddem yn agor cigydd y byddwn yn ei alw’n Hello? Is it meat you're looking for? a llon y chwarddasom. Penderfynwyd chwarae’r un gêm nos Sadwrn, a minnau off fy mhen ar gyfuniad o gwrw a lager cyn mynd ymlaen i gael G&Ts (dwi’n caru G&T), gan ddod i fyny efo siop sgidiau o’r enw Shoe’ll Never Walk Alone a’m hoff un i, siop llenni i droseddwyr o’r enw Suspicious Blinds.

Hegar oedd fy noson i. Gwariais £70 ar adeg na ddylwn fod yn gwario cymaint. Mae’r teimlad o adael eich hun i lawr yn deimlad ofnadwy, dwi’n meddwl – fydda i’n ei wneud yn ddigon aml ac mae’n deimlad digon cyffredin ar fore Sul, gan ddeffro gyda waled wag. Nid ei fod yn f’atal dro ar ôl tro, achos pan ddaw at orchfygu temtasiwn dwi’n anobeithiol.

Welish i mo fora Sul gan fy mod yn cysgu. Dwi heb fod â chyn waethed ben mawr ‘stalwm. Llwyddais i ddim fynd i siopa, hyd yn oed, sy’n rhan annatod o’r Sul erbyn hyn. Fydda i hefyd yn siopa bwyd nos Lun, cofiwch. Prin iawn y bydda i’n gwneud dim ond am siopa bwyd.

Ond ta waeth, fydd ‘na ddim meddwi hwyl i mi am ‘chydig. Roedd yn rhaid i mi dalu llwyth mewn treth gyngor diwrnod o’r blaen (seriws, llwyth) ac mi gefais ŵys i’r llys. Anghofio oeddwn wedi gwneud, wrth gwrs, ond talu oedd yn rhaid, doeddwn i ddim am fynd i’r llys. Roedd y ddirwy ar ben y dreth yn £40. Argol, mae pres yn beth digalon.

giovedì, giugno 18, 2009

Take That. Y Basdads.

Dwi’n casáu Take That. Cofiaf yn ysgol fach eu bod nhw wedi sblitio, a daeth Llais Ogwan i’n dosbarth ni yn ysgol i gael gwybod ein barn. Yn bur ryfedd, ‘doedd Take That ddim yn boblogaidd iawn yn Ysgol Llanllechid, oni fo ‘nghof yn ddiffygiol. Dwi’n dweud hynny achos yn ystod y cyfweliadau gyda Llais Ogwan dywedodd bron pawb nad oeddent yn edifar tranc y band, a phan gyhoeddwyd y rhifyn roedd barn Jarrod efo llun ryw hogan uwch ei ben, yn dweud JARROD ROBERTS oddi danodd. Chwarddasom.

Ar ôl hynny mi aeth y drygi tew i wneud gyrfa lwyddiannus iddo’i hun ac ni chlywsom am y gweddill tan, wel, echddoe, yn fy achos i. Roedd ‘na gig Take That yn Stadiwm y Mileniwm nos Fawrth. Ro’n i wedi anghofio am hyn.

Dwi’n gyrru i’r gwaith drwy’r wythnos, ac ar y gorau o adegau dwi’n yrrwr blin, oni fo Hogiau’r Wyddfa’n lleddfu ‘nhymer. Ni leddfasant yr Hogyn wrth iddo gymryd tri chwarter awr i gyrraedd Grangetown yn ei gar, gan yngan ‘ffycin Take That’ iddo’i hun a diffodd y radio, gafael yn dynn am yr olwyn lywio a gwgu. Byddai wedi cymryd llai petawn wedi cerdded, a byddwn wedi gwneud pe bawn hysbys o’r sefyllfa.

Wrth drafod amser cinio ddoe cefais glywed bod Take That yn chwarae eto’n y stadiwm neithiwr. Meddwn i ddim ar y wybodaeth hon ac felly wedi gyrru i’r gwaith eto, ac felly’n cael pnawn cyfan i gorddi am y daith o’m blaen ar ôl gwaith. Mi es ffordd wahanol, yn hunanfodlon fy smygrwydd am fod mor ddoeth ag arallgyfeirio.

Ni weithiodd, ond o leiaf y cefais gyfle i wylltio ar drywydd gwahanol, a fu fawr o gysur ar y pryd, ond mae ‘ngwên yn llai chwerw wrth i’r ail daith honno lithro’n araf bach i’r gorffennol gwyll.

mercoledì, giugno 17, 2009

Dwi methu gweld

Mae’n dair blynedd yr haf hwn ers i mi gael prawf llygaid, sy’n ddwl a dweud y lleiaf. Wn i ddim sut y gall rhywun ofalu am ei olwg fel y gall gyda’i ddannedd, er enghraifft, ond os gellir gwneud hoffwn i wybod.

Fel pawb arall bydda i fel arfer yn deffro yn y bora efo golwg aneglur ond mae hynny wedi gwrthod ildio heddiw yn fy llygad chwith. Hwnnw ydi’r cont, fel mae’n digwydd. Mae’r golwg yn y llygad de yn iawn, diolch am ofyn, ond dydi’r llall ddim ac felly mae’r sbectolion sy’n rhaid i mi eu gwisgo (yn gwbl anfodlon) yn gryfach o lawer ar un ochr.

Profias y llygad gwallus drwy geisio darllen pethau ar y newyddion ond yn ofer. A hyn oll sydd wedi gwneud i mi feddwl y dylwn fynd am yr ail brawf llygiad hwnnw yn o handi. Cawn weld, siŵr o fod y bydda i’n iawn erbyn diwedd y dydd a chwyno heb reswm ydw i. Hynny neu fy mod i’n araf fynd yn ddall.