lunedì, novembre 30, 2009

Dwi nôl! (sori)

Helo! Wnaethoch fy methu? Peidiwch ag ateb hwnnw.

Dwi ddim am sôn am y gêm, gwell fyddai peidio i fod yn onest. ‘Doedd ‘na fyth peryg y byddwn yn mynd allan i’w gwylio, cofiwch. Dywedodd y meddyg mai gwell fyddai ymlacio am rywfaint o amser, a ategwyd gan yr argymhellion yn y daflen Guidelines for Head Injuries a roddwyd i mi. Dylwn fod wedi gofyn am y fersiwn Cymraeg, os yw’n bodoli, ond dydi egwyddorion ddim y peth cyntaf ar feddwl rhywun ar ôl iddynt fod yn concysd am ddiwrnod go dda.

Na, sôn yn fras amdanaf fy hun a wnaf a’r wythnos a fu. Fel y crybwyllais mi ges ddamwain y nos Wener gynt, yr oedd ei chanlyniadau yn ddigon ofnadwy i weld. Disgynnais ar stepen gyda’r nos, gan agor rhan dda o’m gên a tshipio un o’m dannedd, heb sôn am daro ‘mhen yn ofnadwy o galed.

Ni lwyddais gyrraedd yr ysbyty tan ddydd Sul a chael pwythau a dim sympathi. Digon teg, rili. Erbyn cael y pwythau ‘doeddwn i heb fwyta am 27 awr ac yn teimlo’n waeth o’i herwydd. Nid tan ddydd Mercher y bu i’m hawch i fwyta ail-ddyfod, ac ro’n i’n dal i deimlo’n benwan erbyn dydd Iau.

Mi es i dynnu’r pwythau ddydd Gwener. ‘Doeddwn i ddim yn edrych ymlaen at hyn achos fel rhywun call dydw i ddim yn licio poen. Fe’m rhyfeddwyd gan y ffaith nad oedd yn brifo yn y mymryn lleiaf, ond dwnim sut y gallwn eillio i fod yn onast, bydd hynny’n hwyl pan ddaw ati. Dywedodd y ddynas neis y dylwn fynd nôl i’r ‘sbyty yn o handi os nad ydw i’n teimlo’n well.

Rhyngoch chi a mi a’r Gymru Gymraeg, dydw i dal ddim yn teimlo 100%, ond ‘does na’m ffiars y bydda i’n mynd ar gyfyl y ‘sbyty eto, fe’m canfyddir mewn ffos cyn i hynny ddigwydd. Mae’r ysbeidiau o deimlo’n benwan wedi heibio ond dwi’n ofnadwy o flinedig a thwp o hyd. Tra nad oes iachád i’r ail (yn fy achos i) cysgu mwy fyddai orau ar gyfer y llall. Gwely fydd hi syth ‘rôl lobsgóws a Life heno ‘ma.

mercoledì, novembre 25, 2009

Penwanbeth

Helo chi. Neges fer iawn i ddweud y bydd y blogio yn ysgafn iawn, yn ysgafnach na ‘mhen fel y mae’n digwydd. Mi ges ddamwain nos Wener, gan ddisgyn ar fy ngên yn gyntaf, a dwi’n dal i deimlo’n benwan ar adegau ac yn llai llawn llathen na’r arfer – felly gobeithio y bydd y gwasanaeth yn ôl i’r arfer erbyn wythnos nesa!

venerdì, novembre 20, 2009

O bosib y cyfieithiad gorau welwyd

Yn aml, mae cyfieithiadau Cymraeg, ysywaeth, yn fwy hirwyntog ac yn llai bachog na'r cyfiethiadau cyfatebol yn Saesneg, ond mae un a glywais neithiwr sy'n llawer gwell na'r Saesneg gwreiddiol

Wedi clywed am Movember? Dyma pan fydd hogia'n tyfu mwstashys er budd elusen.

Y cyfieithiad?

Tashwedd.

Cymraeg 1 Saesneg 0.

giovedì, novembre 19, 2009

Sŵp sâl

Dydi o ddim yn beth hawdd heibio’r llu o dafarnau tatws a Chineses a llefydd cyw iâr wedi’i ffrio wrth gerdded adref. Mor hawdd ydi meddwl “gymra i hwnnw yn hytrach na choginio” ond ni allwn wneud hynny ddoe, roedd rhywbeth blasus i de.

Fel rheol dydw i ddim yn ffan o sŵp; ddim o dun, beth bynnag, hen bethau llipa di-flas. Heblaw os Big Soup ydyw, sy’n anad dim yn sŵp i ddyn. Ond gyda phys wedi socian dros nos a minnau’n barod i arbrofi a dilyn cyfarwyddiadau Nain, roedd sŵp pys a ham, sef fwy na thebyg fy hoff sŵp, ar y gweill. Bwyd da, iach, maethlon.

Fodd bynnag yn reddfol sydyn sylweddolais efallai nad oedd Nain wedi egluro’n iawn sut mae gwneud sŵp pys a ham. Medda’ hi, “Socian y pys a’u draenio nhw, wedyn ‘u berwi nhw efo beicyn nes bod o’n troi’n slwj”. Swniodd hynny’n ddigon hawdd ar y pryd, ond mae fy ngegin i yn destun arbrofion amrywiol, yn amrywio’n helaeth rhwng prydau cywrain blasus ac uwd yn disgyn ar y mat.

Digwyddiad ‘uwd ar y mat’gafwyd neithiwr.

Dechreuodd y sŵp ferwi’n araf, ac mi es innau i’r lownj i wylio Futurama, sy’n un o’r rhaglenni dwi’n mynd drwy gyfnod o’i gwylio. ‘Does ‘na fawr ddim ar cyn 6 o’r gloch, a chan fy mod yn methu deng munud gynta Strange But True am bump ar yr Unexplained Channel, mae’n fy ngorfodi i edrych yn amgen am fy ffics.

Felly yno’r o’n i’n eistedd yn braf, fwy na thebyg yn siarad wrth fy hun yn ysbeidiol, nes i mi glywed ffrwtian treisgar o’r gegin. Roedd ‘na ryw ewyn wedi datblygu uwch y sŵp, ac er i mi ymwared â hynny parhau a wnaeth nes i mi feddwl yn y pen draw “dwi’m yn buta’r shit ‘ma”. Wnes i ddim, felly. Am wastraff. Dwi ddim yn licio gwastraffu bwyd; yn bennaf oherwydd os y gwnaf cha’ i mo’i futa.

Mae’n mynd heb ddweud, a minnau’n teimlo’n bur isel am yr aflwyddiant pathetig, y cefais jips i de y noson honno.

Y wers? Cadw at wybodaeth. Y wybodaeth y meddaf arni, ac y meddais arni ynghynt, ydi y gwn na all Nain goginio. Tro nesa’, ofynna i wrth Mam.

martedì, novembre 17, 2009

Ceredigion

O bob etholaeth yng Nghymru, dyma’r un dwi isio ei darogan leiaf. Ym mêr fy esgyrn, teimlaf mai ofer y bydd unrhyw ddarogan gennyf i, neu unrhyw un arall, nes y cyfrir y cyfan o’r pleidleisiau. Ac eto, mae arwyddion clir o’r hyn allai ddigwydd.

Awn ni ddim i hanes Ceredigion. Gwyddom oll am fuddugoliaeth enwog Cynog yn ’92 a’r sioc a gafodd Plaid Cymru o’i cholli yn 2005 i’r Democratiaid Rhyddfrydol, a hynny gydag un o fwyafrifau lleiaf y DU. Gwyddom hefyd am gwymp yr iaith yn y sir, a’i thraddodiad rhyddfrydol cryf. Dydi’r Ceidwadwyr heb â chynrychioli’r sedd ers 1854 – ac er i Elystan Morgan ei chynrychioli rhwng 1966 a 1974, dyma erbyn hyn un o seddau gwannaf y blaid Lafur yng Nghymru.

Pwynt Gwerthu Unigryw Ceredigion yw mai hi yw’r unig sedd yng Nghymru y bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn mynd ben yn ben â Phlaid Cymru ynddi, ac o’r herwydd dwi’n meddwl mai ofer fyddai ystyried a dehongli ei hanes ormod yng nghyd-destun yr etholiad hwn – mae’r tueddiadau yma yn gymharol newydd. O’r sedd hon y deillia’r casineb enfawr sydd bellach yn amlwg rhwng y ddwy blaid.

Dechreuwn â Phlaid Cymru felly. Er gwaethaf maint ei gamp ym 1992, llwyddodd Cynog Dafis ar hynny adeiladu pleidlais bersonol gref, a hynny’n gyflym. Credaf ein bod yn anghofio hynny wrth ystyried y dirywiad ers hynny ym mhleidlais Plaid Cymru yma.

Dywed rhai nad oedd Simon Thomas wirioneddol yn ŵr a oedd yn addas i’r etholaeth, ac ni chredaf iddo lwyr gadw pleidlais bersonol Cynog Dafis. Mae pleidlais bersonol yn bwysig yn y sedd hon. Wele Mark Williams, yr Aelod cyfredol. Er iddo ond ennill ychydig dros 5,000 o bleidleisiau yn is-etholiad 2000, cafodd dros 9,000 y flwyddyn wedyn a llwyddodd ennill dros 13,000 yn 2005, a heb amheuaeth roedd gwneud enw iddo’i hun yn lleol yn rhan o’r llwyddiant hwnnw.

Y mae’n ffaith ddigon hysbys y bu i Blaid Cymru droi’n drahaus ac yn ddiog yng Ngheredigion hefyd, a bod hyn yn ffactor yng ngholled 2005. Ond mae un eglurhad arall posibl. Dwi wedi trafod eisoes gwrthbleidleisiau Torïaidd a Llafur, ond tybed a oes felly yng Ngheredigion bellach pleidlais wrth-genedlaetholgar? Gyda dirywiad y Ceidwadwyr a Llafur yma, hwythau’n hawlio pleidlais gyfunol o 24% yn 2005, ac 13% yn 2007 (y ffigurau hynny i lawr o 38% ym 1997), teg tybio bod eu pleidleisiau yma yn mynd i’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Yn yr etholaeth hon, nid ydi hynny o reidrwydd yn wir, ond mae’n debygol. Ddôi at hynny’n fras yn nes ymlaen

Wedi’r cyfan, roedd tro’r mileniwm yn gyfnod diffaith i’r Rhyddfrydwyr yn yr etholaeth. O fod yn gyn-ddeiliaid y sedd, cawsant lai na chwarter y bleidlais rhwng 1997 a 2001. Yn wir, ychydig dros chwarter a gafwyd yn 2001. Ffuglen, os nad celwydd, ar ran Plaid Cymru yw dweud mai hi gollodd yn 2005: roedd y bleidlais ryddfrydol wedi treblu ers ’97 – y Rhyddfrydwyr enillodd Geredigion llawn cymaint â Phlaid â’i collodd.

Pam? Er bod nifer y mewnfudwyr yng Ngheredigion yn uchel iawn, mae’n ddigon hysbys bod y Blaid wedi “cornelu’r farchnad” o ran pleidleisiau Saeson yr ardal. Efallai yn wir yr apeliodd Simon Thomas fwy iddynt hwy, a deallusion Aber, na phobl llawr gwlad gynhenid Ceredigion, yn enwedig yn ne’r etholaeth; mae’n un ddamcaniaeth a gyflwynwyd i egluro 2005. Pa ffactor bynnag yw’r pwysicaf, mae sawl ffactor wedi cyfrannu at hanes etholiadol Ceredigion rhwng 1997 a 2005.

Yr hyn ddigwyddodd wedyn sy’n ddiddorol. Dysgodd Plaid Cymru wersi - sydd, teg dweud, ddim yn rhy aml yn gryfder ganddi. Ond fe wnaeth, ac er gwaethaf brolio’r Rhyddfrydwyr yn etholiadau Cynulliad 2007 cadwodd Elin Jones ei sedd gyda’i chanran uchaf erioed a heb drafferth wirioneddol. Gan ddweud hynny, cafwyd gogwydd i’r Rhyddfrydwyr, a leihaodd ei mwyafrif, ond roedd y cynnydd ym mhleidlais y ddwy blaid yn debyg.

O ddweud hynny, roedd pleidleisiau’r Rhyddfrydwyr wedi cynyddu o 3,571 wyth mlynedd ynghynt i fymryn llai nac un fil ar ddeg: ond ar lefel y Cynulliad, mae Plaid Cymru, yn sicr gyda help mawr gan Elin Jones ei hun (a’i henw da yma), wedi cadw uwch y llanw Rhyddfrydol.

Y flwyddyn ganlynol, bu bron i Blaid Cymru gipio’r cyngor, ond nid dyna’r ystadegyn mwyaf diddorol. Llwyddodd y Blaid ennill dros 12,000 o bleidleisiau ledled y sir, sy’n rhif ofnadwy o uchel yn y cyd-destun etholiadol. Cafodd y Rhyddfrydwyr tua hanner hynny. Er tegwch, roedd hwnnw’n ganlyniad boddhaol iddyn nhw hefyd, ond mi bylodd braidd yn wyneb canlyniad Plaid Cymru.

Roedd y patrwm yn debyg yn 2009 wedyn. Roedd pleidleisiau’r ddwy blaid bob amser am fod yn is bryd hynny, ond eto llwyddodd Plaid Cymru gael bron i ddwbl pleidlais y Rhyddfrydwyr. Er gwaetha’r ffaith bod gogwydd i’r Dems Rhydd, mae gwrthwynebwyr Plaid Cymru yn hoffi anghofio un peth: enillodd Plaid yn hawdd yma yn 2009.

Os ystyriwn mai ffyddloniaid yn bennaf sy’n pleidleisio yn etholiadau Ewrop, gallwn gymryd o ddifrif mai lleiafswm pleidleisiau Plaid Cymru yw tua 7,000. Er gwaethaf y ffaith ei bod yn edrych yn dwyllodrus o isel, ni fyddai yn annheg dweud mai dyma isafswm, er isafswm gwaelod y gasgen, y Rhyddfrydwyr, sef 3,500. Wedi’r cyfan, fel y nodwyd, dyna faint o bleidleisiau gafodd y blaid ym 1999.

Uchafswm pleidleisiau? Heb fanylu am fy meddwl y tu ôl i hyn, tybiaf fod uchafswm Plaid Cymru yn tua 15,000, ac mae’n anodd gen i gredu bod uchafswm y Rhyddfrydwyr yn llawer uwch na’r 13,000 a gawsant yn yr etholiad cyffredinol diwethaf. Sialens y ddwy blaid, yn fwy na dim, yw sicrhau y daw’r bobl hyn allan i bleidleisio. Mewn etholaeth mor ffyrnig o agos, efallai na fydd hynny o blith y problemau mwyaf – a dwi’n dueddol o feddwl bod nifer uchel yn pleidleisio yng Ngheredigion o fwy o fudd i’r cenedlaetholwyr na’r rhyddfrydwyr, ond mater o reddf ydi hwnnw.

Ac ymddengys mai Plaid Cymru yn ddiweddar sy’n ymgryfhau, gyda’r Rhyddfrydwyr yn segura.

Gyda’r ymgeiswyr eu hunain yn benodol bwysig yma, mae’n anodd gen i gynnig sylw. Dydw i ddim yn gyfarwydd â Penri James – di-fflach ond cadarn yn ôl yr hyn y gallaf ei weithio allan. Mae’n anodd ffurfio barn ar Mark Williams, fodd bynnag. Er nad oes ganddo broffil uchel yn genedlaethol, yr honiad ydi nad yw’n amlwg yn lleol ychwaith, ond rhaid bod yn ofalus wrth ddweud hynny. Wedi’r cyfan, o du cenedlaetholwyr y daw’r cyhuddiad hwnnw, ond mae’n anodd gen i gredu na fyddai pum mlynedd o honni hynny yn cael rhyw effaith.

Mae mesur effaith y myfyrwyr yn mynd i fod yn anodd darogan. Byddai cynnal etholiad ar adeg lle mae’r myfyrwyr naill ai’n absennol, neu o leiaf yn brysur, yn niweidio’r Rhyddfrydwyr, ond byddai hefyd yn tynnu pleidleisiau wrth Blaid Cymru. Gyda pholisi’r ddwy blaid bellach fwy neu lai’n unfryd ar ffioedd dysgu, anodd eto ydi mesur effaith hynny ar bleidleisiau. Pan ddaw ati, dwi’n amgyffred na fydd yr effaith yn fawr, hyd yn oed ymhlith y rhengoedd o fyfyrwyr. Adeg yr etholiad sy’n bwysig.

Mae dau arolwg barn hoffwn hefyd eu hystyried yn gyflym. Cynhaliwyd yn lled ddiweddar un ledled Prydain ar seddau ymylol, ac yn ôl hwnnw âi Ceredigion yn ôl i Blaid Cymru. Wn i ddim yr union ffigurau. Dyma hefyd yr awgrym o bob pôl piniwn ers stalwm, gan gynnwys y diweddaraf gan YougGov.

Nododd yr arolwg barn Cymreig hwnnw bleidleisiau pleidiau yn rhanbarth y Canolbarth – roedd y Rhyddfrydwyr ar 11%, a Phlaid Cymru ar 19%, sydd yn ystadegau digon siomedig i’r ddwy.

Ar gyfartaledd (gan ddefnyddio Meirionnydd Nant Conwy yn lle Dwyfor Meirionnydd), yn 2005, cafodd y Rhyddfrydwyr 24% ymhob etholaeth, ac fe gafodd Plaid Cymru 23%. Rŵan, wn i nad ydi cyfrif pleidleisiau ar gyfartaledd yn gwbl wyddonol ac y byddai cyfri’r holl bleidleisiau yn well, ond yr awgrym ydi er nad yw pleidlais Plaid Cymru o bosibl mor uchel ag y dylai fod, mae’r Rhyddfrydwyr mewn man dywyll iawn. Beth bynnag fo gwendidau’r arolwg hwnnw, roedd ‘na etholiadeg (psephology) weddol gadarn yn gefn iddo.

‘Does dim angen i mi ddweud pe adlewyrchid y patrwm hwnnw, âi Ceredigion i Blaid Cymru heb amheuaeth. Ond, weithiau, mae’n well ymddiried mewn dulliau hunanol nag etholiadeg er budd ymchwil wleidyddol; awn at y bwcis. Yr odds diweddaraf o wefan Ladbrokes?

Plaid Cymru 5/6
Democratiaid Rhyddfrydol 5/6

Wrth gwrs, mae amser i hynny, megis polau, newid. Ond y duedd dros y misoedd diwethaf yw bod Plaid ar y blaen a’r Rhyddfrydwyr yn closio. Tybed a ydi’r Rhyddfrydwyr wedi sylwi bod Plaid Cymru o ddifrif isio adennill y sedd a’u bod yn gweithredu o ddifrif i’w hatal? Dydi odds y bwci ddim yn newid heb reswm.

Dau beiriant etholiadol cryf a fydd yn mynd i’r gâd yng Ngheredigion 2010. Un o’r pethau hawsaf i’w ddarogan ydi y bydd pleidlais y Ceidwadwyr a Llafur yn dioddef yn sgîl y frwydr fawreddog. Un o’r pethau anoddaf i’w ddarogan ydi at bwy y byddant yn benthyg pleidlais. Dwi am ddarogan, o ystyried natur yr etholaeth, a hefyd natur yr etholiad sydd ar y gweill, na fydd yn effeithio llawer mwy ar yr un blaid yn fwy na’r llall – tueddwn feddwl yma âi pleidleisiau Ceidwadol at Blaid Cymru, a rhai Llafur at y Democratiaid Rhyddfrydol, ac mae mwy o Geidwadwyr na Llafurwyr yma bellach.

Proffwydoliaeth: Dwi am fod yn fentrus fan hyn. Mae’r holl dueddiadau, ac eithrio’r bwci, yn awgrymu’n gryf iawn fuddugoliaeth i Blaid Cymru yma. A dwi am fentro dweud y bydd y fuddugoliaeth honno yn fil neu fwy o bleidleisiau.

A dyna ydi mentrus.

venerdì, novembre 13, 2009

Cymru Fydd?

Ysgrifenna’ i ddim am gynnwys y nofel hon, ac os nad ydych yn gyfarwydd â hi waeth i chi beidio â darllen ymlaen – dydi o ddim yn effeithio arnaf i y naill ffordd na’r llall! Iawn, mi fyddaf fras, mae Wythnos yng Nghymru Fydd yn nofel wleidyddol lle mae teithiwr amser o 1953 yn cyrraedd Cymru 2033 ddwywaith. Y tro cyntaf daw ar draws Cymru ddwyieithog, annibynnol a llewyrchus; yr eildro nid yw Cymru mwy na Gorllewin Lloegr.

Nid beirniadu na chanmol nofel a wnaf fan hyn, ond gwneud rhywbeth y bu i mi grybwyll ar flog Dylan ychydig nôl, asesu (yn gyflym mae arna’ i ofn) p’un a ydym mewn gwirionedd yn agosach at Gymru’r Llywarchiad neu Gymru hen wraig y Bala. Tybiodd Vaughan Roderick ar ei flog ychydig yn ôl mai’r cyntaf sydd debycaf, ond mae’r darlun a luniaf innau’n awr yn dduach.

Ystyriwch hyn: p’un a fydd yn diflannu ai peidio, byddai’r Fro Gymraeg fwy na thebyg yn diflannu cyn i’r ardaloedd Saesneg o’n gwlad droi’n Gymraeg. Pe digwyddai hynny, byddai cenedlaetholdeb yn newid ei wedd yn llwyr – byddai’r ‘pwerdy diwylliannol’ yn gelain. Deuai hynny yn sgîl mewnfudo. Troddir yn bur gyflym o cenedlaetholdeb Cymraeg ei iaith at drefedigaeth Seisnig. Dim Plaid Cymru. Dim Cymraeg – a’r Pethe’n ddiflanedig. Gyda Lloegr yn gorboblogi, a’r ‘white flight’ hefyd yn cynyddu o ganlyniad i fewnfudo o du allan o Brydain i Loegr, cynyddu wnaiff nifer y mewnfudwyr dros y blynyddoedd nesaf, a hynny’n anochel.

Wele’r cynllun arfaethedig i greu miloedd ar filoedd o dai i gymuwyr yn y gogledd ddwyrain – nid i’r Cymry lleol ond Saeson sy’n gweithio ac isio byw mewn lle tawelach. A fyddant am i’w plant gael addysg Gymraeg, a fyddant am senedd i Gymru, neu ai gwladychu tawel ydyw? Dydw i ddim am gyffredinoli, ond mae’n gwestiwn y dylai’r Gymru fodern, hyderus honedig fod yn fodlon ei ofyn, ymhlith cwestiynau eraill.

Un o fethiannau mwyaf damnïol datganoli yw’r methiant llwyr i warchod y Fro Gymraeg; mae’n crebachu mwy nag erioed. Y mae’n ffaith, am wn i, fod amddiffynwyr mawr ein gwlad yn bennaf yn Gymry Cymraeg. Dwi ddim yn meddwl bod hwnnw’n ddatganiad dadleuol, chwaith.

Ond mae’n holl gymunedau ar chwâl o’u cymharu â’r ddoe a fu. Dwi ddim, am eiliad, yn amau bod dirywiad y syniad o gymuned a’r cynnydd mewn trosedd yn uniongyrchol gysylltiedig â chwymp crefydd. Erbyn 2033 bydd y capeli a’r eglwysi yn wacach nag erioed – bydd y sail foesol yn diflannu yn ei sgîl, ac yn sgîl hynny unrhyw ddyletswydd arnom i amddiffyn yr hyn sy’n werthfawr i ni. Fe fyddwn wedi anghofio beth sy’n bwysig, yr hyn sy’n iawn, yr hyn sy’n gyfiawn.

Yn rhad yr ymwerthasoch, yn wir, Gymru. O golli darn mor bwysig o’n treftadaeth Gymraeg, p’un ai anffuddiwr, crefyddol neu yn y canol ydych, gwanychir y Gymraeg yn y pen draw.

O droi’r cymunedau yn Saesneg, mae’n anorfod yn y pen draw y byddai’r ysgolion yn eu dilyn. Oni welsom ferw cyntaf hynny yn Nyfed y degawd diwethaf? Onid yw diffyg y cynnydd mewn addysg Gymraeg ar Fôn, yng Ngheredigion a lawr yn Sir Gâr yn arwydd clir o hynny? Onid yw’r ffaith bod llawer llai na hanner disgyblion y tair sir o gartrefi Cymraeg yn rhybudd?

Dirywiad Eisteddfod yr Urdd. Dirywiad yr Eisteddfod. Dydi o ddim yn gyfrinach bod ein heisteddfodau lleol yn brwydro i barhau; ein papurau bro, y cyfleusterau sydd gennym yn segur, a hynny o’n dewis ni. Heb gymuned Gymraeg, nid oes Cymraeg.

Gyda galw cynyddol am ddŵr yn Lloegr, a fydd yn anochel ymhen ychydig, tybed a welwn nid yn unig Lyn Nant Ffrancon a Llyn Nantlle, ond Llyn Cynon a Llyn Rhondda Fawr? Peidiwn â thanamcan grym gwladwriaeth, na gwendidau cenedl a goncwerwyd. A phan ddaw at wrthsefyll, onid methiant fu mwyafrif ein hanes? Gyda diffyg cenedlaetholwyr, cadarnleoedd y Blaid yn gelain a phlaid Lafur aneffeithiol a Phrydeinllyd barhaol, pwy fyddai’n sefyll yn y bwlch?

Gall y llanw Gymreigaidd gyfredol yn hawdd droi’n llanw Saesnig. Wrth i Saeson, gan fwyaf, ac yn ddamcaniaethol, feddu ar fwy o brif swyddi’n gwlad, ein cynghorau sir, ein cynghorau cymunedol, a ydi hi’n bosibl, tybed, y câi’r gefnogaeth i’r Cynulliad ei dileu? Gyda’n heconomi yn gwanychu, a diffyg swyddi, a gyfnewidir ein pobl ifanc am Saeson canol oed cyfforddus, pobl wedi’u hymddeol ac ati? A fyddai oes terfysgaeth yn galluogi llywodraeth yn y dyfodol i alw am undeb ac atal hawliau’r Cynulliad?

Wedi’r cyfan, mae ein hawliau sifil wedi lleihau’n arw ers ’97. Pwy sydd i ddweud bod y broses ar ben, neu nad megis dechrau ydyw? A dyna ddiwedd ein hunig amddiffynfa, er gwaetha’i gwendidau lu.

Ac onid yw’n wir bod y mwyafrif o’r Cymry yn fodlon eu byd? Onid ydym o hyd, er gwaethaf protestio’r lleiafrif, yn genedl ddiog sy’n fodlon eistedd nôl a gadael i’r byd droi?

Fy ngobaith i ydi y bydd Cymru’r Llywarchiad gennym erbyn 2033, neu rywbeth tebyg. Ond ffôl, mor arferol ffôl, y byddem i gredu mai dyna fydd hi. Nid yw Cymru hen wraig y Bala am ddyfod ar yr union ffurf honno. Ni fydd y Gymraeg yn gelain bryd hynny, ond fe allai’r cymuned Gymraeg olaf fod yn angof hyd yn oed yn ein hoes ni – a byddai hynny’n ddechrau ar y broses.

Cyfleu’r ochr ddu, yn flêr (dwi’n ymddiheuro am hynny) roeddwn uchod. Mae gobaith hefyd. Ond cofier hyn, brwydr fydd sicrhau’r Gymru gyntaf, a segura yw’r cyfan sy’n rhaid ei wneud i groesawu’r ail.

Brwydro neu segura? Gwyddom oll pa un y mae’r Cymry’n rhagori arno.

mercoledì, novembre 11, 2009

Iaith y meddwl

Wn i ddim pryd y bu i’m meddwl newid o Saesneg i Gymraeg – rhywbryd yn fy arddegau mae’n siŵr. Dwi’n gwybod yn iawn pan yn iau, a hyd yn hyn ers dros hanner fy myw, mai yn Saesneg yr oeddwn i’n meddwl.

Mae pa iaith rydych chi’n meddwl ynddi yn rhan annatod iawn ohonoch. Drwy feddwl mewn iaith, rydych chi’n byw yn yr iaith honno. Fel un a fagwyd mewn cymuned Gymraeg ro’n i bob amser yn siarad Cymraeg ond prin iawn a feddyliwn ynddi, ac felly roedd ei phwysigrwydd yn goll arnaf a’m teimladau tuag ati’n ddigon ddi-hid. Gan ddweud hynny, un o’m hatgofion cyntaf a minnau’n ddigon iau o hyd i gydio’n ffedogau’r Fam, oedd amddiffyn golwg Chwarel y Penrhyn rhagddi hi, gan honni mai dyna un o’r unig resymau yr oedd y Gymraeg yn fyw.

Ro’n i’n gorddweud, sy’n rhywbeth dwi byth yn ei wneud, ond yn amlwg roedd ‘na rywfaint o dân ynof bryd hynny. Ond pryd newidiais at feddwl yn Gymraeg, dydw i ddim yn gwybod.

Ro’n i’n arfer siarad yn Saesneg gyda Nain, ac Anti Blodwen hefyd, ond yn fy arddegau ac am ba reswm bynnag dechreuais gyfathrebu’n Gymraeg â hwy, a hwythau’n ddau o gewri Buchedd Iason, fel yr enwir y ddrama anochel amdanaf wedi’m tranc. Tua phryd hynny ro’n i’n wirioneddol mwynhau astudio Cymraeg yn yr ysgol, ond hyd yn oed ar ddechrau’r brifysgol dwi’n rhyw hanner cofio lithro i Saesneg meddyliol ambell waith.

Erbyn hyn fydda i’n meddwl yn Gymraeg drwy’r amser i’r fath raddau na fyddaf bron byth yn siarad Saesneg yng Nghaerdydd nac ychwaith yn bwriadu gwneud, a phan fydd yn rhaid gwneud, gwneud hynny’n wael. Ers ychydig flynyddoedd, o drafferthu meddwl am y gair Cymraeg, bydda i’n cael trafferth meddwl am y gair Saesneg bellach.

Dim ond ychydig funudau nôl ‘doeddwn i methu’n glir â chofio beth oedd ‘afresymol’ yn Saesneg. Tra nad ydi hynny ynddo’i hun yn afresymol am wn i, mi wnaeth i mi feddwl y bu’r daith ynof o feddwl yn Saesneg i beidio â chofio gair sylfaenol yn yr iaith honno yn un ddigon hir – ond dwi’n eitha balch fy mod i wedi’i gwneud hi.