mercoledì, marzo 31, 2010

Plismona iaith

Dydw i ddim yn blismon iaith. Wel, dwi’n gobeithio ddim. Gwir, mi fydda i’n darllen golwg360 bob dydd o’r wythnos, a’r rhan fwyaf o’r amser yn twt twtian ar lu gamgymeriadau’r wefan (a’r ffaith nad ydyn nhw’n gallu cael enwau etholaethau yn iawn, hyd yn oed), ond ar y cyfan dwi ar begwn arall y sbectrwm. Mae’r blog hwn yn dyst i hynny – er, yn ddigon aml mi fydda i’n darllen ambell bost ac yn gresynu cael ambell genedl anghywir neu dreigliad coll. Pan fo chi’n ymwneud ag iaith bob dydd ddylech chi ddim cael y fath bethau’n anghywir, ond fy mlog i ydi hwn ac mi gaf felly fod mor esgeulus a dwi isio bod (a newid y cywair fel dwisho!). Dwi’n meddwl bod tafodiaith yn wych, ac y byddai’n well i bobl sy’n arfer bratiaith siarad Saesneg.

Ond mae rhai pethau y mae pobl yn eu dweud yn mynd ar fy nerfau ar lafar. Socs, shŵs, wicend, egsams, swîts. Mae hyd yn oed Ieuan Wyn Jones wrthi. Ych a fi. Buan iawn ar ôl i mi ddod i Gaerdydd y sylwish i fod gan bobl Dyffryn Ogwen Gymraeg da a digon cyhyrog ar y cyfan. Ewadd, fydda i’n meddwl weithiau, dani’n dda. Ond mae ‘na ambell i beth rhyfedd.

Byddai llawer iawn o’m ffrindiau adra yn dueddol o ddweud yr amser yn Gymraeg. Byddai hyd yn oed Dad, nad ysgolhaig mohono mewn unrhyw, unrhyw ystyr (i fod yn onast mae’n ddwl fel dafad ddall), yn dweud yr amser yn Gymraeg. Ond eto, byddai ef a hwythau’n dueddol o ddweud y dyddiad yn Saesneg: “Mae’n bum munud ar hugain i ddeg ar y ffortînth o Jwlei”.

Rhaid i mi gyfaddef fydda i bob amser yn dweud ‘Jŵn’ a ‘Jwlei’ yn hytrach na ‘Mehefin’ a ‘Gorffennaf’, ond ar wahân i’r ddau eithriad hynny mae’r misoedd yn Gymraeg i mi. Fydda i’n cyfaddawdu, wrth gwrs. Yn hytrach na dweud “yr unfed ar ddeg o hugain o Ebrill” buaswn i’n dweud “Ebrill tri deg un”, ond mae hynny’n ddigon teg, yn enwedig gan nad Saesneg mewn Cymraeg mohoni.

Un o’r ffliwcs ieithyddol mwyaf od ydi tueddiad pobl i dreiglo ar ôl berfenwau e.e. ‘sylwi fod’ yn lle ‘sylwi bod’. Rŵan, dwi’m am farnu hynny, gwell ‘sylwi fod’ na ‘realiso fod’ unrhyw ddydd, a dydi hi’m yn swnio’n erchyll ar y glust, ond dwi’n ei gweld yn rhywbeth od. Dwinnau fy hun, ar lafar, yn gwneud hynny, er fy mod i’n gwybod y rheol. Gan ddweud hynny dim ond y genedl ryfeddaf âi ati i sgyrsio yn ôl dull yr hanesydd John Davies yn ei bywyd beunyddiol.

Problem fawr y Cymry Cymraeg, mi gredaf, ac fe welwch hyn o ddarllen yn unrhyw le, ydi nad ydan ni’n gwybod sut i ysgrifennu Cymraeg, er ein bod yn cofio sut i’w siarad. Rhag ofn i chi feddwl fy mod i’n snob yn dweud hynny, nid beirniadu ydw i, am unwaith, ond dweud yn blaen nad ydym yn ysgrifennu gystal ag y gwnaethom. Dirywiad y capeli sydd gwbl ynghlwm wrth hynny, wrth gwrs. Mae pobl ifanc yn ennyn llid y genhedlaeth hŷn o ran safon eu hiaith. Ond nid unffordd mohoni o gwbl. Mae Anti Rita’n dweud bod gan fy nghenhedlaeth i ‘Gymraeg posh’!

Wn i ddim am hynny. Rhowch i mi dafodiaith dros bopeth unrhyw ddydd. Ond mae ffliwciau Cymraeg modern yn gwneud i mi weithiau wenu, weithiau digalonni ac weithiau rhyfeddu sut ddiawl ein bod ni’n dyfeisio’r ffasiwn bethau! Cenedl ryfedd o fewn cenedl ryfedd ydi’r Cymry Cymraeg, yn wir.

lunedì, marzo 29, 2010

Safio y Gwe!

Marciau llawn i Flogmenai am roi sylw i'r erchylltra etholiadol diweddaraf i gael ei chwydu o fol plaid Brydeinig.

Mae'n un peth i'r Ceidwadwyr wneud hyn yn Arfon, sef etholaeth gwbl anobeithiol iddynt, ond mae'n anhygoel bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn mynd ati i sarhau Cymry Cymraeg gyda'r fath rwtsh mewn sedd lle mae ganddynt fwyafrif o ychydig dros ddau gant, a hynny mewn etholaeth sydd gan fwyaf yn Gymraeg ei hiaith!

Mentrais fil o fwyafrif i'r Blaid yma ymhen ychydig dros fis - ond os mae'r Dems Rhydd yn dyfeisio pethau fel hyn eto yng Ngheredigion dros y mis nesaf yna fentra i o leiaf fil yn fwy!

Rhyfela

Dyma 800fed post y blog newydd. Pa ffordd well o’i dathlu na malu cachu?

Breuddwydiais neithiwr fy mod mewn rhyfel. Dim ond rhan o’r freuddwyd oedd y darn hwnnw, roedd y gweddill yn cynnwys llygoden ddewr (yn y rhyfel) efo gwinedd hir, arth yn bwyta dau o blant a’u Mam, a minnau’n piso am ofnadwy o hir. Wna i ddim gwadu i mi deimlo eithaf rhyddhad o ddeffro mewn gwely sych. Wel, roedd hi’n sych erbyn i mi ddeffro, o leiaf.

Dwi’n meddwl bod pob un ohonom yn licio meddwl y bydden ni’n rhyfelwyr rhagorol pe deuai ati. P’un a tharem gleddyf neu fwyell neu saethu gelynion à la Arnold, mae ‘na rhywbeth digon deniadol am feddwl y gallech ddinistrio popeth a saif yn eich erbyn. Rydym ninnau’n dweud hynny fel cenhedlaeth na ŵyr erchyllterau rhyfel ein hunain, gan fwyaf, a phob amser ar ôl cyfnod o heddwch cymharol mae rhyfel yn llwyddo ailramanteiddio ei hun. Dyma pam bod ffilmiau rhyfel a gemau saethu mor boblogaidd, dwi’n meddwl. Rydyn ni’n cael gwefr o’r gyflafan heb frifo ein hunain.

Ta waeth am y rhesymau dwys ynghlwm wrth fy namcaniaeth, ac er yr hoffwn feddwl y byddwn yn farchog cryf mewn armwr sglein, dydi hynny ddim yn wir. Yn gyntaf, dwi’n wan fatha cath, allwn i’m cario bwyell ryfel heb sôn am yr holl armwr ‘na. Yn ail, fedra i ddim rhedeg yn ddigon gyflym – pan gyll y gall fe gyll ymhell, wedi’r cwbl. Wn i ddim ydw i’n ddigon call, ychwaith. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu ‘na’.

Byddai rhyfel modern fawr well i mi. Efallai y byddwn i’n sneipar digon bodlon – petawn ddistewach a ddim mor lletchwith. Wn i, saethu’r unigolyn rong y byddwn innau beth bynnag, neu efallai ryw gath randym sy’n crwydro’r gymdogaeth (fyddai’n grêt), ond a hit’s a hit fel y maen nhw’n ei ddweud (er, mae’n siŵr nad ydi sneipars proffesiynol yn cytuno â hyn – wyddoch, dydw i ddim yn y right frame of mind i fod yn sneipar, ar ôl y mymryn lleiaf o ystyried).

Na, dwi’n meddwl mai’r unig beth allwn i obeithio bod mewn rhyfel, yn llwyddiannus, ydi heddychwr. Neu weinidog mewn tawel blwyf ymhell o bopeth. Ia, hynny wnaiff y tro i mi. Pan ddaw’r Trydydd Rhyfel Byd, fydda i’n cuddio dan y bwrdd efo brechdan a Beibl. Fel y byddai unrhyw un call.

venerdì, marzo 26, 2010

Tasa ni'n ennill y Loteri...

Ddylwn i ddim cwyno am arian. Nid cyfoethocaf o bobl y byd, na Rachub hyd yn oed, mohonof, ond dwi’n llwyddo goroesi yn gyfforddus ar hyn o bryd, er fel y nodais yn y post diwethaf dwi’n gwario mwy nag yr hoffwn. Fydd y mis nesaf, fodd bynnag, yn ddrud – sy’n cynnwys fy mhen-blwydd yn chwarter canrif, sydd wrth gwrs felly’n golygu y bydda i’n gwneud antics yng nghanol dinas Caerdydd ac yn prynu rhywbeth neis i mi’n hun, a nos Iau nesaf mynd i weld y dartiau yn y CIA.

Cadwch eich orielau a’ch theatr. Rhowch i mi gwrw a giamocs pob 19fed Ebrill a daw dim drwg i’ch canlyn. Fydd hi ‘di cachu arna’ i ond peidiwch â phoeni.

Ond fel dwi’n dweud tai’m i gwyno – mae mwynhau bywyd yn bwysicach na chyfrif banc. Bydda i, fel pawb, yn teimlo’n ddigon annifyr a hunandosturiol o bryd i’w gilydd, ond dwi wirioneddol o’r farn y dylid cofio bod pobl sydd heb ddim, a bod cwyno am yr hyn sydd gennym (sy’n rhywbeth, ysywaeth, dwi’n ei wneud o hyd!) ychydig yn bathetig.

Un o’r sgyrsiau, mi dybiaf, y bydd grwpiau o bobl yn ei chael yn aml ydi ‘be fyddan ni’n neud tasan ni’n ennill y Loteri/Euro Millions’. Dwi wedi hen syrffedu ar y drafodaeth hon, rhaid i mi gyfaddef. Bydd un person yn dweud ‘prynu car i bawb’ neu ‘clirio dyledion pawb’. Wfft i hynny: noda i fy marn yma unwaith ac am byth.

Yn gyntaf, byddwn i’m yn dweud wrth fy ffrindiau, na’r rhan helaethaf o’m teulu. Byddwn i’n cynnig cymorth ariannol i’r rhai ohonynt allai wneud gydag ychydig o help, ond ni châi neb sy’n gwneud yn iawn geiniog gen i. Heblaw am yr amlwg, sef rhoi llwyth o bres i Mam, digon i weld bod y chwaer yn iawn, a byddwn i’n dechrau cwmni bach yn Nyffryn Ogwen gan brynu llwyth o dai a’u gosod i bobl leol Gymraeg am rent rhesymol, fforddiadwy. Rhown wedyn y gweddill i lwyth o sefydliadau gwahanol, Cymorth Cristnogol, Shelter Cymru, Cymdeithas yr Iaith, yr Eglwys Babyddol, ac unrhyw fath o sefydliad sy’n edrych ar ôl cŵn achos, fel y gwyddoch, dwi’n licio cŵn.

Byddai Ymddiriedolaeth y Moch Daear yn cael ffyc ôl uda i hynny rŵan, mi dalwn i rywun rhoi slap i Brian May. Ond mi gadwn wedyn ambell filiwn i mi’n hun, i fod yn gyfforddus am oes. Wedi’r cyfan, dydi arian yn dda i ddim yn y banc, yn enwedig pan fo gennych bopeth sydd ei angen arnoch. Er gwaethaf popeth, alla’ i ddim meddwl am ddim gwaeth na meddu ar bopeth yr hoffwn ei gael.

giovedì, marzo 25, 2010

Halan a Finag

Yn anochel felly, ar ôl cyfnod y Chwe Gwlad, dwi’n dew ac yn dlawd. Eleni, dwi’n dewach ac yn dlotach nag erioed. Dwi wedi gwario £130 ddwywaith ar nosweithiau allan yn ddiweddar, sy’n afiach a dweud y lleiaf. ‘Does gen i fawr o hunanreolaeth yn fy meddwod.

Ond ‘does gan rywun fawr o hunanreolaeth yn ei sobrwydd y dyddiau hyn. Anaml erbyn hyn y byddaf yn yfed ganol wythnos yn tŷ, hyd yn oed ambell i gan neu fotel slei o win, i ymlacio. Ond dwi’n cael pwl erchyll o fod isio bwyta creision. Fel y gallwch ddychmygu dydi creision ddim yn gwneud lles i mi na’m cyfrif banc.

Fwytish ddeg baced neithiwr. Fydda i byth yn deneuach o wneud ffasiwn beth a dwi’n teimlo’n sâl o fwyta cymaint ohonynt, gyda ‘ngheg yn sychach na thwll din Ffaro. Ro’n i wedi argyhoeddi fy hun bod angen ambell beth arnaf o ASDA – a oedd yn dwyll o’r ran flaenaf ar fy rhan. Menyn go iawn, pwdr golchi a thun bach o sbageti mewn sôs oedd yr oll a brynais y tu hwnt i’r creision a’r Babybells traddodiadol sy’n eu hategu.

Mae’n rhyfedd ar y diawl pethau sy’n troi ar rywun o ran bwyd. Yn o’r pethau rhyfeddaf o’m rhan ydi na alla’ i ddioddef sbageti hŵps, ond dwi wrth fy modd â sbageti mewn sôs. Brecwast da bora Sadwrn ydi o. Fedra’ i ddim ychwaith dioddef arogl nionod a chyw iâr yn cael eu ffrïo.

Yn gyffredinol, dydi creision ddim yn blasu dim tebyg i’r hyn a honnir ar y paced. Fy nghas greision ydi Caws a Nionyn. Rhaid i mi ddweud fan hyn dwi wrth fy modd â chaws a nionyn yn y byd digreision, ond allai’m diodda’r crips.

Y math o greision sydd fwy na thebyg yn blasu lleiaf tebyg i’w henw ydi Prôn Coctêl. Mae’n nhw’n iawn ond yn ddigon unigryw. Fydda i hefyd yn meddwl bod Bîff a Nionyn ychydig o gon o ran hyn hefyd. Ond ta waeth am hynny, gan fy mod yn hoff o restrau ond heb wneud un ers talwm, dyma restr o’m hoff greision:

1. Halen a Finag Walkers
2. Cyw iâr a theim Sensations
3. Cyw iâr Walkers
4. Stêc McCoys
5. Halen a Fineg Real Crisps

martedì, marzo 23, 2010

Yn enw'r Pab a'r Barf

Wel mae rhywun yn teimlo’n well heddiw all rhywun ddim gwadu hynny ond ewadd dwi’n teimlo’n siomedig nad ydi’r Pab yn dod i Gymru. Hoffwn i ‘di gweld y Pab – anaml iawn fy mod i’n gweld enwogion, a dydyn nhw ddim yn dod yn enwocach, nac yn fwy dylanwadol, na’r Pab, hyd yn oed ar y blogsffêr Cymraeg.


Wedi hir feddwl, a phan dwi’n dweud hir dwi’n sôn am o leiaf ddwy flynedd, dwi wedi penderfynu peidio â throi at Babyddiaeth yn y diwedd, sy’n eithaf trist. Y prif reswm dros hyn ydi’r ffaith nad ydi’r Eglwys Babyddol, fel y gwyddoch, yn caniatáu i ferched fod yn offeiriaid (ro’n i bron â drysu’n llwyr a rhoi ‘offrwm’ yn fanno!), a galla i ddim cytuno efo hynny o gwbl. Mae genethod yn well ar lot mwy o bethau na ni hogiau, a ‘swn i’n synnu dim tasen nhw’n offeriaid gwell. I’r Eglwys yng Nghymru ŷm bedyddwyd, ond dydi’r Eglwys yng Nghymru ddim yn caniatáu hynny chwaith nac ydyn?

Na, ‘does dim llety addas i’r Hogyn.

Ta waeth, dwi dal yn meddwl bod Pabyddiaeth yn dda ar y cyfan, a pharhau i’m hatynnu a wnaiff yn fwy na’r un grefydd neu gred arall. Ond dydi crefydd ddim fel plaid wleidyddol, allwch chi ddim rili ymuno ac wedyn dweud “ond dwi ddim yn licio hwnna...” – mae’n ddewis bywyd digon seriws i’w wneud.

Rhydd i Dduw ei locsyn ond bydd rhai pethau’n mynd yn rhy bell. Ai fi ydi’r unig un sy wedi sylwi bod ‘na lot o ddynion sy’n gweithio mewn siopau ffonau symudol sy jyst ddim yn eillio’n gywir? Ni’m hargyhoeddir i, frenin amgyffred, gan grys rhad a throwsus. Dirnad wnaf eu bywydau budur gan ddifyg shêf iawn.

Ro’n nhw’n boleit iawn, wrth gwrs, yn y Carphone Warehouse ddoe, ond na, os ydych chi’n gweini’r cyhoedd ymddangoswch lân. Wn i’r teip. Gemau cyfrifiadur nos Sadwrn a gwisgo crysau-t du, efo’u Varsity Card yn eu waledi. Fyddai yma’n hirach na chi, cewch chi weld.

lunedì, marzo 22, 2010

Damwain car yn chwilio am rywle i ddigwydd

Deufis un diwrnod ar ddeg. Dyna, gyfeillion, ydi faint barodd fy ffôn newydd. Y cynllun ydi prynu un newydd, eidentical, gobeithio y gallant drosglwyddo’r rhif, achos mi ddyweda i’n hollol onest, mae meddwl am ddweud wrth Mam yn dychryn y cach ohona’ i.


“Ti yn liability i BAWB. yn enwedig dy hun.”
--Lowri Llewelyn

venerdì, marzo 19, 2010

Y Twat o Rachub

Mae cwrteisi yn bwysig i mi. Heb amheuaeth, mae elfen gref o ragrith yn perthyn i’r datganiad hwnnw, oherwydd ni’m hystyrir y cwrteisiaf o blith creaduriaid Duw. Yn aml, fe’m gelwir yn sarhaus neu’n goeglyd. Gwn i mi ddweud yn y gorffennol mai fy nisgrifiad i o hynny ydi ‘sylwgar’ a ‘gonest’ ac mi gadwaf at hynny. Gall dyn all droi’r fath honiadau ar eu pen yn hawdd fod yn bolitishan.

Nid gwleidydd y byddwyf i, dim ond oherwydd y llu bethau ofnadwy dwi wedi eu dweud ar y blog hwn. Caiff pob hil a chred a ffati fy nirmyg ysgrifenedig ar y diwrnod gorau. Pan oeddwn fachgen, chwim a chwareus, roedd y byd yn felys a minnau am fod yn beilot. Fel pob hogyn normal, am wn i. Nid peth ‘normal’ oedd f’anallu i chwarae pêl-droed na chwarae gêm ‘pobl dlawd sy’n byw ar y stryd ac efo bywyd shit' (aka Gêm y Bala) gyda’r chwaer dan glustogau a llieini yn y lownj, mae’n siŵr, ond roedd bod yn beilot yn beth normal.

Ni welsai rhywun ei hun fel ydyw yn awr, ond pa un ohonom wnaeth?

Cawsom nyni griw cyfeillion sgwrs am beth yr hoffem fod. Rydym oll erbyn hyn yn rhy hen i drafod y fath bethau, minnau’n enwedig, dwi’n siŵr i mi gael fy mid leiff creisys flynyddoedd nôl. Dydw i ddim yn cofio’r hyn a ddywedasant hwy, ond gwn, yn ôl arfer a phersonoliaeth, mae prin yr ymddiddorais yn yr atebion, gan well syllu i’m peint yn ffug ofidus. Digwydd i mi grybwyll ‘seiciatrydd’ – ia, gwrando ar broblemau pawb arall – i mi’n hun.

“Taw’r mong,” atebasant hwy, “does gen ti ddim mynadd gwrando ar bobl eraill, a bydda chdi ddim yn cadw’n ddistaw a gwrando fydda chdi’n dweud wrthyn nhw stopio cwyno a ffyc off”.

“Wel ia,” meddwn i’n fy ôl, gan geisio llunio dadl gref ar fyrfyfyr, “mae’n gwneud byd o les i rywun felly gael rhywun i ddweud ffasiwn beth,” ac afraid dweud ni chytunasom ar ddim byd arall am weddill y noson os cofiaf yn iawn.

Na, does fawr o le ar y fam ddaear i bobl anghwrtais ddifynadd megis y fi. O holl ‘rinweddau’ Nain Sir Fôn roedd yn rhaid i mi etifeddu’r gwaethaf, er, o leiaf mae gen i fy nannedd o hyd. O leiaf felly fy mod yn ddoeth wrth ddewis pwy y dylwn fod yn dwat wrthynt!