venerdì, gennaio 07, 2011

Hiwmor y Cymro a hiwmor y Sais

Y mae hi’r adeg o’r flwyddyn i orgyffredinoli yn y ffordd fwyaf erchyll posibl. Na, dwi’m am sôn am y Sipswn, achos dwi’n sobor, ond yn hytrach y Cymry (gwrol, dewr, halen y ddaear) a’r Saeson (anfadrwydd pur).

Ryw synfyfyrio wnes am hyn, a dwn i ddim a ydw i’n iawn mewn gwirionedd ond dwi’n meddwl bod elfen o wirionedd i’r peth. A na, heblaw am Mam a’m Taid, dwi ddim yn nabod Sais mewn difrif. Yn wir, o bob un o’m ffrindiau Facebook prin, nad ydw i’n licio’u hanner nhw beth bynnag, un yn unig na fedr y Gymraeg – sef Sais sydd, am ryw reswm, o dan yr argraff mai Almaenwr ydyw. Rhaid i mi ddweud petawn Sais ac fy mod am ddewis cenedligrwydd arall (a phetawn Sais mi a wnawn), nid bod yn Almaenwr fyddai ar frig y rhestr.

Na, rhywbeth am hiwmor y Cymry a’r Saeson sydd i raddau helaeth yn wrthgyferbyniad llwyr rhyngom. Derbynnir yn helaeth, ac mae elfen o wirionedd iddi, fod y Cymry’n cael eithaf trafferth gwneud hwyl am ben eu gwlad a’u hiaith. Does fawr o wadu’r peth mewn difrif, cenedl bach touchy iawn ydan ni, sydd i raddau helaeth yn deillio o’n gwladgarwch brau a’n hansicrwydd cenedlaethol. Gwrthgyferbynnir hyn yn llwyr gan y Saeson – y mae’r Sais yn ddigon parod i wneud hwyl am bob agwedd ar Loegr, a dydyn nhw ddim yn meindio gormod pobl eraill yn ei wneud o ychwaith.

Yn gryno, ar lefel genedlaethol, gall y Sais chwerthin ar ei hun ond prin y gall y Cymro. Y gwahaniaeth ydym ni fel unigolion.

Heb amheuaeth, mae bod yn sarhaus chwaraeus, neu ‘cymryd y piss’ fel y d’wedwn yn Gymraeg, yn elfen bwysig o hiwmor Cymreig – ond nid dim ond ar bobl eraill, ond arnom ni’n hunain. Heb fod yn sentimenalaidd ond mae’n rhywbeth eithaf annwyl amdanom; ac mi wnaiff y Cymry gael y math hwn o hwyl gydag, ac ar, ei gilydd gyda phobl sy’n newydd iddynt.

Dwi ddim o’r farn bod hyn yr un mor wir am Saeson yn gyffredinol – ddim o gwbl a dweud y gwir, ac yn sicr nid i’r un graddau. Y mae’r Saeson yn fwy amddiffynnol o’r hunan a ddim yn licio beirniadaeth, boed honno’n ysgafn a chwaraeus ai peidio, ohonynt eu hunain. Gorgyffredinoli, efallai, ond mae gwirionedd i nodweddion cenedlaethol.

Dyna fy marn a’m hargraffiadau i, beth bynnag. Ond efallai ein bod yn eithaf tebyg wedi’r cwbl. I nifer o Gymry, mae ymosodiad ar Gymru a’i phethau yn ymosodiad personol, a ninnau yn wahanol i’m cymdogion wedi’n diffinio cymaint gan ein gwlad, mewn ffordd fwy cynhenid. Serch hynny, mae ein hanallu cyffredinol i chwerthin arnom ein hunain yn deillio o’n diffyg hyder ynom ni’n hunain. Ond rydym yn araf fagu hyder, ac mae ‘na newid ar droed dwi’n credu.

Os bydd Cymru yma mewn can mlynedd (a rhyngo chi a fi, dwi ddim yn hyderus am hynny – blogiad arall!), gobeithio y gall chwerthin ar ei hun – mae’n un wers werthfawr y gallwn ei dysgu gan y Saeson yn sicr.

mercoledì, gennaio 05, 2011

Blwyddyn Wleidyddol 2011 - yn fras iown

Dwi eisoes wedi rhoi fy marn ar y refferendwm sydd bellach lai na deufis lawr y lôn. Fwy neu lai gytuno â’r farn gyffredin ydw i i bob pwrpas – buddugoliaeth dda i’r ymgyrch o blaid, ond nifer isel yn pleidleisio. Mae hynny’n fy mhoeni rywfaint, oherwydd byddai mandad yn dda, ond eto allwch chi ddim ysbrydoli pobl i bleidleisio am newid sydd yn welliant i’r system yn hytrach na’n, wel, newid.

Mae wrth gwrs ddwy bleidlais arall eleni – un ohonynt yn gyffrous a’r llall, yn fy marn i, yn ddibwys. Y cyntaf yw etholiadau’r Cynulliad – a all yn wir fod yn gynulliad mwy pwerus o dipyn erbyn yr etholiad. Mi fydd digon am hynny yn y man, gen i a gweddill y blogsffer Cymraeg mi dybiaf, felly af i ddim i fanylder. Fodd bynnag ar hyn o bryd, ac o reddf yn hytrach nag edrych ar unrhyw ystadegau, dwi’n meddwl y bydd hi’n etholiad da i Lafur, yn un gweddol i’r Ceidwadwyr, yn siom i Blaid Cymru ac efallai’n wir yn drychineb i’r Democratiaid Rhyddfrydol. Fedra i’n hawdd weld y Ceidwadwyr yn ennill mwy o bleidleisiau na Phlaid Cymru y tro hwn, os nad seddau.

Ta waeth, mi edrychaf ar y pum rhanbarth maes o law, er nid yn yr un manylder â chyfres Proffwydo 2010 – byth eto y gwna i hynny!

Ac wedi hynny, ac y mae’n farn ddigon cyffredin erbyn hyn, Cymru’n Un Rhif 2 fydd hi. Yn bersonol, dwi’m yn frwd dros hynny o gwbl. Cawn weld.

Ar yr un diwrnod mae ‘na refferendwm arall, sef un DU gyfan am y Bleidlais Amgen. Yr unig reswm y bydda i’n pleidleisio yn y refferendwm ydi y bydda i yn yr orsaf bleidleisio ar y pryd. Dwi eisoes yn rhagweld pleidlais ‘Na’ yn y refferendwm hwnnw – a ‘na’ y bydda i’n pleidleisio – heb fawr frwdfrydedd – hefyd. Mae hi’n system flêr, gymhleth a drud i’w gweinyddu heb sôn am fod yn llai cyfrannol na’r system bresennol hyd yn oed. Ac fel ambell un ohonoch dwi’n siŵr, er fy mod i’n licio fy ngwleidyddiaeth, ac yn sicr ystadegau a ffigurau, fedra i ddim cweit cael fy mhen rownd y system ei hun, ac nid er ceisio. Hefyd dwi’n rhyw deimlo y gallai fod yn system a fydd yn cyfrif yn erbyn y Blaid – os nad o ran ‘pleidleisiau’, o ran seddau.

Mi fydd yn flwyddyn wleidyddol ddiddorol eleni. Wel, y pum mis cynta de, fydd hi’n eitha boring ar ôl hynny – dyna un broffwydoliaeth dwi’n eithaf hyderus amdani!

martedì, gennaio 04, 2011

giovedì, dicembre 30, 2010

Degawd newydd da

Ro'n i am ddymuno degawd newydd hapus i chi ond dim ond rwan dwi'n sylweddoli mai llynedd ddylwn i wedi wneud hynny.

Ffyc.

Sut bynnag, gyda nifer y darllenwyr eleni 50% yn uwch na llynedd o leiaf mi fydda i'n smyg iawn dros y flwyddyn newydd. Go on, ffeindiwch rywbeth i fod yn smyg amdano eich hun, mae'n werth chweil, yn enwedig i darfu ar wyll y mis gwaethaf sydd ar y gweill. Ionawr. Casáu Ionawr.

Blwyddyn newydd dda i chi gyd!

gol. ac ydw, dwi yn gwbod na'r 30ain, nid y 31ain ydi o, ond dwi ddim am flogio fory so ddêr

lunedì, dicembre 27, 2010

Goleuadau'r Nadolig

Sut Nadolig wnaeth hi felly? Iawn? Cymedrol? Gwych? Dydyn nhw byth yn wych yn y pen draw nac ydyn. Ac nid y gwychaf na’r gwaethaf a gafwyd unwaith eto eleni. Ond mi wnes fwynhau yn fy ffordd fach fy hun.

Fe’m codwyd tua 8.30 y bora gan y chwaer a Mam mewn het Siôn Corn, sy’n ddigon i ddychryn y dewraf a dweud y lleiaf. Er i mi yfad mwy na’r arfer yn Stryd Pesda ar Noswyl y Nadolig (traddodiad pwysig) ni’m trechwyd gan ben mawr drwy gydol y dydd. Buddugoliaeth ynddi’i hun ydoedd, oherwydd fel arfer mi fydda i’n teimlo’n sâl dros ginio ac yn mynd i’r gwely am y rhan fwyaf o’r pnawn gan fwy neu lai sbwylio Dolig pawb arall.

Mi es lawr grisha felly i weld pa erchyllterau a adawsai Siôn Corn i mi. Er gwaethaf ei bwriadau, mae gan Mam duedd i brynu anrhegion nad oes mo’u heisiau na’u hangen arnaf. Wn i fod hynny’n swnio’n anniolchgar ond dydi o ddim, ac mae’r hen dîar yn cadw’r derbynebion i gyd chwara teg. A hithau’n draddodiad teuluol agor un anrheg ar y Noswyl, nid oedd pethau’n argoeli’n dda pan ddatgelwyd bryd hynny fag plastig i ddal dillad i’w golchi.

Ar y cyfan, cyfuniad o bethau a ddychwelir i’r siop neu na welir mohonynt eto a gafwyd. Hunangofiannau Ned Thomas a Roger Roberts (mae gas gen i hunangofiannau, a nid dyma’r ddau i’m hargyhoeddi – ‘nenwedig Roger blydi Roberts), padell ffrio ar gyfer un wy, pâr hyll o jîns (a chanddo tua 12 pâr eisoes nid oes angen jîns ar yr Hogyn) a’r hwdi hyllaf ar y Cread crwn.

Am unwaith fe werthfawrogodd Dad ei bresant, sef the Pocket Book of Manchester United. Fe’i darlleno, a fydd ryfeddod achos dydi o byth wedi darllen llyfr yn ei fywyd – yn ei feddwl o mae darllen y Daily Star bob dydd yn gwneud iawn am hyn – ac arferol ddiolchgar oedd y Mam a’r chwaer.

Cafodd Nain ei gwahardd gan Mam rhag plygu’r papur lapio yn ddel “er mwyn ei ddefnyddio eto” achos bod digonedd ohono acw’n Sir Fôn ac yn ddigonedd nas defnyddir fyth. Lapith honno mo bresant i neb fyth, heb sôn am brynu un.

Dwi’n mynd i fwydro rŵan, felly cadwn ail hanner y dydd yn fyr. Roedd y cinio’n hyfryd, a’r twrci nid sych ond bwytadwy iawn, y’i bwytasid wrth glywed straeon doniol Nain am ‘stalwm ac Anti Blodwen yn rhoi cweir i ryw ferch arall am galw hen Nain yn ‘dew’. “Wel ‘rargian fawr, mi wyt ti’n dew,” oedd ymateb hen Daid meddai hi.

Ta waeth cafwyd pnawn diog ond mi welwyd y peth rhyfeddaf tua deg munud wedi pump. Yn digwydd bod, ro’n i’n ista ar y sedd yn wynebu tua Moel Faban, ac yn sydyn reit dyma ‘na olau oren yn dod o Gwm Llafar, y tu ôl i Foel Faban, er y taeraswn iddo ddechrau ar ochr orllewinol Foel ei hun, achos ro’n i’n meddwl mai tân ydoedd i ddechrau.

Ymhen dim, a’r golau cyntaf yn esgyn uwch Foel a ninnau wedi hen ddeall nad hofrennydd mohono (sef yr ail olau) esgynnodd un arall i’r awyr, y tro hwn yn bendant iawn o Gwm Llafar. Mi ddiflannodd yr ail yn syth bin – un funud roedd yn olau a’r eiliad nesa’ nid oedd, wrth i’r llall raddol ddiffodd megis fflam ddiwedd cannwyll. Roedd y ddwy funud hynny yn rhai rhyfedd ar y diawl.

A minnau ddim yn credu mewn UFOs a pobol fach o blanedau eraill, nid am unrhyw reswm ond am f’ystyfnigrwydd fy hun, fedra’ i ddim meddwl am eglurhad. Ond fela mai a fela fydd, Dolig arall a oroeswyd!

lunedì, dicembre 20, 2010

Dolig Llawen ac ati

Mai'n rhy oer i flogio. Mae Caerdydd yn wyn a dwi'n rhynnu ac yn poeni na fydda i hyd yn oed yn y Gogs y Dolig hwn. Ta waeth, dyma fi'n dweud 'Dolig Llawen cynnar ac mi a'ch gwelaf faes o law!

giovedì, dicembre 16, 2010

S4C i ddangos rhaglenni Saesneg?

Egwyddorion ac ymarferoldeb. Dwi wedi sôn am hynny o’r blaen. Dyma erthygl arferol o fer ar Golwg360 lle mae Arwel Ellis Owen yn dweud ei bod yn ‘anochel’ y bydd S4C yn ailddechrau dangos rhaglenni Saesneg.

Yn egwyddorol, mae hynny’n gwbl, gwbl anghywir. Sianel Gymraeg ydi S4C a dyna ddiwedd arni. Mae hi’n sianel Gymraeg cyn ei bod yn sianel i Gymru hyd yn oed. Ei bwriad ydi hyrwyddo’r Gymraeg a sicrhau ei bod yn rhan o’r byd modern. Pa gyfraniad a wna dangos rhaglenni Saesneg at hynny? Dim. Rhaid dweud yn gwbl glir: ni ddylai fod unrhyw le i raglenni Saesneg ar S4C atalnod llawn ffwl stop – does ‘na ddim dadl am y peth.

Ond y gwir ydi mae’r peth yn wirion o anymarferol hefyd, i’r graddau ei bod yn stiwpid – a dwi’n defnyddio’r gair ‘stiwpid’ achos fedra i ddim meddwl am ffordd gryfach na gwell o’i gyfleu. Pa raglenni Saesneg, dwad? Rhaglenni gan y BBC? Rhaglenni gan Channel 4?

Rydyn ni’n yr oes ddigidol, neno’r tad. Ers dyfod teledu digidol, os mae rhywun isio gwylio raglen sydd ar Channel 4, fe wnânt hynny. Hyd yn oed os mae o ar yr un pryd ar S4C, Channel 4 fydd pobl yn ei gwylio i weld y rhaglen. ‘Sneb yn troi at S4C gyda’r bwriad o wneud unrhyw beth ond am wylio rhaglen Gymraeg.

Ailddarllediadau o raglenni ar sianeli eraill? Eto, mae hynny’n stiwpid. Gall pobl recordio rhaglenni yn hollol ddidrafferth, fynd i wefannau sianeli neu yn achos Channel 4 gwylio Channel 4 +1. Erbyn hyn, mae’r gynulleidfa i raglenni Saesneg ar S4C, i bob pwrpas, yn llai nag i’r rhaglenni Cymraeg. Hyd yn oed ar ôl y toriadau erchyll sy’n dyfod, ‘does ‘na ddim sens yn y peth.

Ychydig eiliadau dwi wedi’u cymryd i feddwl bod hwn yn syniad hurt ac esbonio pam. Tasa S4C yn blentyn swni’n gafal arno, yn rhoi sgytwad iawn iddo a deutha fo ffwcin callio.

mercoledì, dicembre 15, 2010

Refferendwm 2011 - myfyrio bras

Y mae pob pôl a wnaed hyd yn hyn yn awgrymu buddugoliaeth ddidrafferth i’r Ymgyrch ‘Ie’ yn refferendwm mis Mawrth, a hynny’n sicr ymhlith y rhai sy’n bwriadu pleidleisio. Hynny ohonynt a fydd yn pleidleisio, wrth gwrs. Ym mêr fy esgyrn dwi’n rhyw deimlo y bydd llai na hanner pobl Cymru yn bwrw pleidlais ar Fawrth 3ydd, ac er fy mod yn disgwyl buddugoliaeth, fydd hynny yn ei hun yn rhywbeth negyddol iawn i’n democratiaeth ifanc – hynny ydi, trosglwyddir pwerau i’r Cynulliad heb fandad gwirioneddol.

Ond a ydym ni am ennill y flwyddyn nesaf a beth fydd maint y fuddugoliaeth honno? O ran y cwestiwn cyntaf dwi fy hun yn hyderus iawn o ganlyniad y refferendwm, ac y caiff y Senedd bwerau deddfu llawn yn y meysydd datganoledig i gyd ar unwaith, gan ddisodli’r system drwsgl sydd ohoni. Ond mae maint y fuddugoliaeth yn ddadl arall, ddiddorol, a fydd yn dweud llawer i ni am y Gymru gyfoes.

Dwi’n hyderus y bydd pob sir a bleidleisiodd o blaid sefydlu cynulliad yn gwneud hynny unwaith eto yn 2011, ac eithrio Ynys Môn – yn wir, fe alla’ i’n hawdd weld Môn yn dweud ‘na’. Mae dros y degawd diwethaf elfen o elyniaeth wedi dod i’r amlwg yn y Gogledd tuag at y Cynulliad, a’r hen llinell a ddywedwyd gangwaith ac nid yn ddi-sail “mae popeth yn mynd i Gaerdydd”. Mae’r teimlad hwnnw’n gryf – ac mae Seisnigeiddio’r Ynys (ynghyd â’r Gogledd cyfan) yn bwrw amheuaeth dros y canlyniad yno.

Mae’n hawdd gen i hefyd weld gynnydd yn y bleidlais ‘ie’ yng ngweddill siroedd y Gogledd (ac eithrio o bosibl Wynedd) ond nid i’r graddau y bydd yr un ohonynt yn pleidleisio o blaid. Gallwn o bosibl weld buddugoliaethau bach yng Nghonwy a Sir Ddinbych, neu’n fwy tebygol Wrecsam, ond bydd Sir y Fflint eto’n gymharol gadarn yn erbyn mi dybiaf. Felly mae’n bosibl yn y Gogledd o leiaf y bydd y bleidlais o blaid yn cynyddu ond mai Gwynedd fydd yr unig sir o blaid. Gogwydd, ond nid pleidlais o hyder, a geir o’r Gogledd.

Gallai newidiadau cymdeithasol yng Ngheredigion, Powys, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro arwain at gynnydd yn y niferoedd sy’n dweud ‘na’ yn fy marn i. Fel Môn, gallai canlyniad Ceredigion fod yn sioc, er nad ydw i’n gweld hynny’n digwydd. Yn sicr, alla i ddim gweld Powys yn pleidleisio o blaid. Fawr o newid ydi ‘nheimlad i yn y bôn.

A beth am y De? Wn i ddim a fydd newidiadau enfawr yn y De, ond un peth dwi’n sicr yn ei ddisgwyl ydi y bydd Caerdydd yn pleidleisio o blaid. Mae’r agwedd at ddatganoli yn y ddinas wedi gweddnewid dros ddegawd, ac yn wir gall y fuddugoliaeth yno fod yn un gadarn. Dwi’n meddwl y bydd ‘na ddifaterwch mawr yn rhai o’r Cymoedd, sy’n fwy tebygol o ffafrio’r ymgyrch ‘ie’. Synnwn i ddim a fydd siroedd Torfaen a Bro Morgannwg yn pleidleisio o blaid y tro hwn. Beth bynnag fydd yn digwydd, anodd gen i weld gogwydd at ‘Na’ yn Ne Cymru.

Dadansoddiad bras iawn ydi’r uchod wrth gwrs. Ydw, dwi’n rhagweld buddugoliaeth, ond buddugoliaeth all fod fymryn yn wag oherwydd nifer isel yn pleidleisio. Ac mewn rhai ardaloedd, gall y canlyniad fod yn arwydd o’r newidiadau llawr gwlad sy’n mynd rhagddynt, ac achosi dirfawr bryder am ganlyniad arall, sef rhai’r Cyfrifiad a gynhelir hefyd yn 2011.