martedì, gennaio 06, 2015

Proffwydo 2015: Plaid Cymru

Y mae elfen o ben ac elfen o reddf wrth ddarogan. Y mae’r ddau yn dweud wrtha i y gallai hwn eto fod yn etholiad anodd i Blaid Cymru.

Mae’r Blaid wedi penderfynu ailafael yn strategaeth etholiad 2010, sef dweud gan fod senedd grog yn yr arfaeth y bydd ganddi o bosibl ran i’w chwarae wrth ddylanwadu ar liw’r llywodraeth nesaf. Rŵan, dydi hynny ddim yn anwir, er y gwir plaen ydi na weithiodd y dacteg o gwbl tro diwethaf – y mae’r Blaid yn draddodiadol yn gwneud yn dda pan mae pethau’n mynd o chwith i Lafur ond yn 2010 cafodd ei chanran isaf o’r bleidlais mewn etholiad cyffredinol ers 1997, ac enillodd hi fwy o seddi bryd hynny.

Rŵan, mae deinamig etholiad 2015 ychydig yn wahanol. Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol ar drai. Yn eu lle, mae UKIP yn gwneud yn dda iawn yn y polau Prydeinig, ac mae’n bosibl y caiff yr SNP ddegau o seddi. Lle mae hynny’n gadael y Blaid? Mae hwn yn gwestiwn dyrys iddi. I fod yn onest, dwi ddim yn siŵr beth ydi’r ateb.  

Rhaid bod yn realistig. Y mae chwe sedd y gallai Plaid Cymru, petai’n cael etholiad eithriadol o dda, eu hennill. Yn rhai o’r seddi hynny mae’r ymgeiswyr i’w gweld yn hynod o optimistaidd, ond dwi heb goelio’n ddi-gwestiwn optimistiaeth ymgeiswyr ers rhai blynyddoedd; maen nhw’n tueddu i fod yn anghywir.

Er hynny, roedd fy marn pan ddechreuais lunio’r blogiad hwn yn wahanol i’r hyn ydyw rŵan, hynny ydi, dwi'n fwy optimistaidd ar ei rhan hi. Mae ‘na bethau digon rhyfedd wedi digwydd ar y marchnadoedd betio ers hynny, ymddengys fod y Blaid yn gweld ei ods hi’n gwella mewn sawl sedd. Eto dydi hi ond yn ffefryn mewn tair, sef y tair sydd ganddi.  

Daw hyn â ni at y map.



Fedra i bron teimlo pleidwyr yn anghytuno â’r uchod. Ond dwi am roi ychydig sylwadau ar seddi unigol. Dwi ddim yn meddwl y byddai neb yn dadlau fod gan Blaid Cymru unrhyw obaith o gwbl y tu allan i’r chwe sedd y byddaf yn cynnig sylwadau arnynt.

Dwyfor Meirionnydd

Oce, wna i ddim rhoi sylwadau ar y sedd hon. Liz Saville fydd AS benywaidd cyntaf Plaid Cymru.

Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr

Doedd mwyafrif Jonathan Edwards ddim mor fawr ag yr oeddwn i wedi tybio y byddai yn ôl yn 2010 – a dweud y gwir roedd yn sylweddol lai. Ond dylai lwyddo i gadw’r sedd hon, ac yntau hefyd yn AS eithaf amlwg am 5 mlynedd erbyn hynny. 
 
Arfon

Dwi ddim yn meddwl bod rhai pobl yn gwerthfawrogi pa mor agos oedd Arfon y tro diwethaf. Mae’n ffaith mae ambell bleidiwr yn hoffi ei hanwybyddu. Mewn difri, dylai Plaid Cymru ei chadw, ond mae hynny’n bennaf am fod Llafur yn gwneud yn weddol wael ar lefel genedlaethol o’i gymharu â dwy flynedd yn ôl, heb sôn am y ffaith fod Llafur yn lleol yn siop siafins. Er hynny, dwi’n disgwyl, wrth nesáu at yr etholiad, y bydd cefnogaeth Llafur yn adfer o leiaf fymryn, ac felly byddwn i’n tybio nad ydi Arfon yn sedd sicr i’r Blaid. Mewn ffordd, Arfon ydi’r sedd bwysicaf i Blaid Cymru yn yr etholiad hwn. Byddai ei cholli yn ganlyniad cwbl drychinebus; ei chadw’n arwydd o wydnwch.
 
Yr hyn ddylai wneud y Blaid yn anesmwyth yma ydi pleidlais y Democratiaid Rhyddfrydol – roedd o’n 14.1% yn 2010. Mae’n annhebygol y bydd digon o’r rhain yn troi at Lafur y tro hwn i gipio’r sedd, ond os bydd gogwydd cyffredinol atynt yma, dydi o ddim yn amhosibl.

Ynys Môn

Ynys Môn ydi best bet Plaid Cymru o gipio sedd (fel arfer, am wn i!). Ond mae pethau’n ffafriol y tro hwn mewn sawl ystyr. Mae Plaid Cymru wedi cael dwy flynedd dda yma, gan wneud yn dda yn etholiadau’r cyngor sir, cyn i Rhun ap Iorwerth fynd ymlaen i sicrhau buddugoliaeth wirioneddol enfawr yma y llynedd yn yr isetholiad Cynulliad.  Y ddau dro hynny, gwnaeth Llafur – sy’n dal y sedd wrth gwrs – yn rhyfeddol o wael.

Dydi hynny ynddo’i hun ddim am sicrhau’r sedd i’r Blaid wrth gwrs. Fydd yna ddim mo’r llu wirfoddolwyr yn dod i helpu fel yn 2013. Ac mae Albert Owen yn AS poblogaidd, ac wedi llwyddo i gipio a chadw’r sedd, yn amlach na pheidio yn erbyn y disgwyl, ers dros ddegawd. 

Gobaith mawr Plaid Cymru yma, yn syml, ydi UKIP. Yn ôl pob sôn a phob si mae disgwyl i UKIP wneud yn dda yn ardal Caergybi ac Amlwch (ac mae tystiolaeth – anecdotaidd gen i yn anffodus – eu bod wedi yn 2013 a 2014), sef cadarnleoedd Llafur Ynys Môn. Os ydyn nhw’n gwneud cystal yn yr ardaloedd hyn ag y mae rhai’n disgwyl iddynt ei wneud, mae’n bosibl y bydd Llafur yn colli digon o bleidleisiau i golli’r sedd. Ond peidiwch â meddwl bod hynny’n ddigon – mae’n rhaid i Blaid Cymru hefyd amddiffyn ei phleidlais, er i raddau llai. Efallai ei bod yn anghysurus i rai Pleidwyr ei glywed, ond mewn sedd fel Môn mae ‘na o leiaf rai cannoedd dybiwn i o gefnogwyr arferol y Blaid fyddai o leiaf yn ystyried pleidleisio dros UKIP. Greddf sy’n dweud hynny i mi yn fwy na dim, gyda llaw, ond dwi’n gwybod bod ‘na Bleidwyr sy’n cytuno â fi yn hyn o beth.

Byddwn i dal yn tybio mai Llafur sy’n ffefrynnau yma. Ond dydi Môn ddim y tu hwnt i Blaid Cymru o bell ffordd.

Llanelli

Mae ymgyrch y Blaid yn Llanelli yn cael rhywfaint o sylw – ymddengys yn un fywiog a gweithgar. Ar yr un olwg dydi mwyafrif Llafur yma ddim yn enfawr, ac mae’r Blaid ar y cyfan yn cryfhau yn yr ardal ers degawd a mwy erbyn hyn. Ac wrth gwrs, dros y mis diwethaf mae Ladbrooks wedi lleihau’r ods ar fuddugoliaeth i Blaid Cymru yma o 16/1 i 5/1, sy’n symud mawr.

Fel ym Môn, mae rhai yn gobeithio y bydd UKIP yn hudo digon o Lafurwyr i’w corlan i adael y Blaid i mewn “drwy’r canol”, ac mae llawer o sôn fod UKIP yn denu cefnogaeth eithaf cadarn yma. Dwi’n tueddu i feddwl fod ‘na elfen fawr o or-optimistiaeth yn hyn o beth. Geisia i egluro pam yn gryno iawn.

Mae’r Blaid wedi denu Llafurwyr ati dros y blynyddoedd diwethaf yma, ond y gwir ydi dyma’r union bobl mae UKIP hefyd yn eu denu (yn enwedig yn y dref ei hun). Hynny ydi, yma hefyd, mae elfen nid ansylweddol (er nad enfawr) o gefnogaeth Plaid Cymru yn agored i fygythiad UKIP, a gallai hynny fod yn fwy na digon i sicrhau buddugoliaeth i Lafur. Fel sy’n digwydd yn rhai o seddi’r Ceidwadwyr, gall y blaid sy’n dal y sedd yma golli miloedd o bleidleisiau, a’r cyfan sydd ei angen arnynt ydi i’r blaid sy’n ail golli rhai cannoedd i UKIP.  Synnwn i ddim o gwbl mai dyma fydd yn digwydd yn Llanelli.

Dydw i ddim yn gwybod faint o effaith gaiff y newyddion diweddar y bydd Siân Caiach yn sefyll yma eleni ar bleidlais unrhyw un o’r pleidiau, ond dybiwn i y bydd hynny o effaith a gaiff yn anfanteisio’r Blaid yn fwy na Llafur. Mae’n ergyd fechan.

Efallai fy mod i bach yn hallt yn lliwio Llanelli’n llwyd yn y map – dydi hi’m cweit yn sedd ‘dim gobaith’ i’r Blaid – ond y gwir ydi anodd mewn difrif ydi gweld Llafur yn ei cholli eleni.

Ceredigion

Dwi wedi dweud, wrth drafod y Democratiaid Rhyddfrydol, mai nhw fydd yn ennill yma yn 2015, ac y bydda i’n edrych ar Geredigion yn fanylach mewn post ar wahân. Does dim eto wedi fy argyhoeddi mai fel arall fydd hi, er nad oes yna unrhyw amheuaeth y bydd pethau’n agosach o lawer na’r tro diwethaf, pan gafodd y Blaid gweir yma.

*              *              *

Y tu allan i’r seddi hynny, dwi ddim yn gallu go wir gweld Plaid Cymru yn gwneud fawr ddim – a dwi’n amau mai dyna’r farn fewnol gyffredinol yn y Blaid. Mi dybiwn i mai ei phrif nod ydi cadw’r ail safle mewn nifer o seddi - a allai fod yn anoddach na’r disgwyl, hyd yn oed mewn llefydd fel y Cymoedd. Byddwn i’n synnu dim petai UKIP yn goddiweddyd y Blaid fel yr ail blaid yn nifer o’r seddi, hyd yn oed mewn ambell un lle mai’r Blaid sydd fel rheol yn ail rheolaidd.
 
Ydi, mae polau Ashcroft yng Ngorllewin Caerfyrddin a  De Penfro, Brycheiniog a Maesyfed, Canol Caerdydd a Gogledd Caerdydd oll wedi awgrymu y gwelwn gynnydd ym mhleidlais y Blaid ynddynt yn 2015. Tra bod hynny’n rheswm i fod yn obeithiol, yn y seddi hyn amrywiodd ei phleidlais rhwng 2.5% a 10.4% yn 2010 felly efallai nad ydyn nhw mor arwyddocaol â hynny iddi mewn difrif. Ac ni ellir anwybyddu'r ffaith, ym mholau'r Welsh Barometer, aros yn ei hunfan y mae'r Blaid wedi gwneud.

I grynhoi; yng nghyd-destun etholiadau cyffredinol dydi Plaid Cymru mewn fawr gwell stad nag yr oedd hi gryn amser yn ôl. Er ein bod yn sicr am weld seddi’n syrthio’n llu i’r SNP yn yr Alban, ac UKIP yn ennill pleidleisiau yn eu miliynau, mae’n anodd gweld unrhyw ogwydd enfawr at Blaid Cymru yng Nghymru y tro hwn. Gallai cadw ei thir fod yn ddigonol.

martedì, dicembre 30, 2014

Polau Ashcroft - rhai ystadegau difyr ar Blaid Cymru

Dwi mewn brys, ond mae ambell beth wedi fy nharo ym mholau’r Arglwydd Ashcroft o ran ffigurau Plaid Cymru. Dwi ddim yn gwneud pwynt gwleidyddol yn y post hwn, felly dyma eu cyflwyno ac nid eu dadansoddi.

Yn gyntaf, bwriad pleidleisio pobl 18-24. Mae’r cwestiwn penodol hwn yn ymwneud â meddwl am yr etholaeth y maen nhw’n byw ynddi.

Etholaeth
18 – 24 oed
Cyffredinol
Brycheiniog a Maesyfed
6%
6%
Canol Caerdydd
7%
8%
Gogledd Caerdydd
13%
6%
Gorll. C’fyrddin a De Penfro
27%
14%

Yr ail ydi pwy fyddai’n well gan bleidleiswyr Plaid Cymru i ffurfio’r llywodraeth nesaf – mae amryw ddewisiadau ond dyma’r rhai o ran llywodraeth Lafur (gan gynnwys clymblaid Llafur a Dem Rhydd) neu llywodraeth Geidwadol (gan gynnwys clymblaid Ceidwadwyr a Dem Rhydd). Ni ddadansoddwyd ymatebion y rhai oedd am bleidleisio i’r Blaid yng Nghanol Caerdydd ar y cwestiwn hwn.

Etholaeth
Llafur (+ clym. DRh)
Ceidwadol (+ clym. DRh)
Brycheiniog a Maesyfed
47%
41%
Gogledd Caerdydd
67%
29%
Gorll. C’fyrddin a De Penfro
48%
38%

Efallai bod y tabl uchod yn dweud rhywfaint am natur wahanol cefnogaeth y Blaid mewn ardaloedd gwahanol, rhywbeth nad ydi pawb yn y Blaid yn ei gydnabod.

Wrth gwrs, mae maint y samplau i'r ffigurau penodol hyn uchod yn fach iawn - efallai'n rhy fach i ddod i unrhyw gasgliad pendant yn eu cylch - ond maen nhw serch hynny'n ddifyr yn fy marn i.
 
Ffynonellau:
Arglwydd Ashcroft –Brycheiniog a Maesyfed
Arglwydd Ashcroft – Canol Caerdydd
Arglwydd Ashcroft – Gogledd Caerdydd
Arglwydd Ashcroft –Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro

sabato, dicembre 27, 2014

Proffwydo 2015: Y Ceidwadwyr

I mi’n bersonol, mae’r hyn a allai ddigwydd i’r Ceidwadwyr yng Nghymru y flwyddyn nesaf yn fwy difyr nag unrhyw un o’r pleidiau eraill. Y rheswm dros hyn yn syml ydi UKIP. Er bod cynnydd UKIP i’w weld yn effeithio’n fwyfwy ar Lafur, teg dweud mai’r farn academaidd gyffredin o hyd yw y bydd yn effeithio ar y Ceidwadwyr yn fwy. Ond yng Nghymru, dwi’n amau’n gryf y gallai’r gwrthwyneb fod yn wir – hynny yw, y bydd Llafur yn colli mwy o bleidleisiau i UKIP nag y bydd y Ceidwadwyr. Y broblem i’r Ceidwadwyr ydi nad ydi eu seddi hanner mor ddiogel â rhai Llafur. Gallai Llafur golli mwy o bleidleisiau i UKIP na’r Ceidwadwyr, ond llwyddo i gipio seddi oddi ar y Ceidwadwyr serch hynny. Rhyfedd o fyd.

Heb isio mynd yn ôl gormod mewn hanes – dyma sut mae’r Ceidwadwyr wedi gwneud ers trychineb 1997.

Etholiad
Pleidleisiau
Canran
Seddi
1997
317,145
19.6
0
2001
288,623
21.0
0
2005
297,830
21.4
3
2010
382,730
26.1
8

Dwi’n meddwl ei fod yn deg dweud, erbyn 2010, roedd y Ceidwadwyr yn agos at wneud cystal ag y gallen nhw ddisgwyl ei wneud yng Nghymru y dyddiau hyn. Ar yr un olwg mae ystadegau 2010 yn rhai calonogol iddynt ond byddai hynny braidd yn gamarweiniol. Rhaid cofio, hon yw’r blaid gafodd hanner miliwn o bleidleisiau yng Nghymru, bron ar ei ben, mewn pedwar etholiad o’r bron rhwng 1979 a 1992. Erbyn heddiw, mae’n anodd iawn gweld y Ceidwadwyr yn gwneud cystal yng Nghymru byth eto.

Er, tydi’r patrwm yn y tabl uchod ddim yn unigryw. Mae’r bleidlais Geidwadol wedi cryfhau’n gyson yn etholiadau’r Cynulliad hefyd, gan godi o lai na 16% ym 1999 i bron 23% yn 2011. Y mae’r craidd Torïaidd i’w weld eto’n un gweddol gadarn, er nid yn un enfawr.

Ond o ran heddiw, yn hytrach na ddoe, roedd 2010 yn ganlyniad da i’r Ceidwadwyr, er yn bosib hoffen nhw fod wedi gwneud fymryn yn well o ran seddi. Serch hynny, mae’r Ceidwadwyr mewn llywodraeth ers bron pum mlynedd erbyn heddiw. A dydi hon ddim yn glymblaid boblogaidd. Mae’r blaid leiaf ynddi’n cael ei waldio yn y polau. Felly byddai disgwyl i’r Ceidwadwyr fod ar drai dirfawr yn y polau.

Wele dabl, wele ddifyrwch.

 
Ceidwadwyr
UKIP
Llafur
Etholiad 2010
26.1%
2.4%
36.2%
Polau Cymreig 2012-2013
22.9%
8.3%*
49.9%
Polau Cymreig 2014
23.4%
13.0%
40.9%
* 2013 yn unig

Mae’r gefnogaeth i’r Ceidwadwyr, fel sydd wedi cael ei ddweud mewn blogiau eraill o’r blaen, wedi bod yn rhyfeddol tu hwnt o sefydlog. Cefnogaeth Llafur sydd i’w gweld yn chwalu, gydag UKIP ar gynnydd. Roedd cefnogaeth UKIP ym mhôl olaf eleni 8% yn uwch na’r un adeg y llynedd, gyda Llafur 10% yn is, a’r Ceidwadwyr 2% yn uwch. A dyna’r duedd a fu yn mholau Cymreig eleni o ddechrau’r flwyddyn hyd ei therfyn; UKIP ar gynnydd, Llafur ar drai, y Ceidwadwyr yn dal eu tir. Y mae’r rhyng-gysylltiad, fel petai, rhwng sgorau pôl y tair plaid hyn yng Nghymru yn rhyfeddol o ddifyr. Pan ddywedodd Nigel Farage, “There’s something happing in Walesthat I don’t fully understand”, dwi’n unfarn â fo.
 
Yr awgrym cryf ydi bod gogwydd mawr o Lafur i UKIP yn digwydd yng Nghymru, a bod y gogwydd oddi wrth y Ceidwadwyr yn llai, efallai’n wir yn sylweddol lai. Ond wrth gwrs, fel y crybwyllais uchod, problem y Ceidwadwyr ydi bod eu seddi nhw’n llawer, llawer mwy tebygol o gael eu colli, yn syml am fod y mwyafrifau’n llai, a bod demograffeg rhai o’r seddi a gadwant yn eithaf ffafriol i UKIP amharu ar eu gobeithion o’u cadw.
 
Sedd
Mwyafrif
Ail blaid yn 2010
Mynwy
10,425
22.4%
Llafur
Gorllewin Clwyd
6,419
16.8%
Llafur
Preseli Penfro
4,605
11.6%
Llafur
Bro Morgannwg
4,307
8.8%
Llafur
Aberconwy
3,398
11.3%
Llafur
Gorll. C’fyrddin a De Penfro
3,423
8.5%
Llafur
Trefaldwyn
1,184
3.5%
Democratiaid Rhyddfrydol
Gogledd Caerdydd
194
0.4%
Llafur

O edrych yn fras ar yr uchod, mae’n anodd dadlau, dwi’n meddwl, mai’r Ceidwadwyr ydi’r ffefrynnau clir iawn mewn pedair – Mynwy, Gorllewin Clwyd, Preseli Penfro a Threfaldwyn (a hynny am resymau penodol yn ymwneud â’r etholaeth honno). Mae’r mwyafrif ym Mynwy yn rhy fawr i Lafur ei oresgyn fel y saif pethau, a thybia rhywun y bydd David Jones, Stephen Crabb a Glyn Davies oll yn ddiogel diolch yn bennaf i bwy ydyn nhw. Dwi’n hapus y funud hon i alw pob un o’r seddi hynny i’r Ceidwadwyr.
 
 
 
Ar yr un pryd, does ‘na ddim wir amheuaeth y bydd y Ceidwadwyr yn colli Gogledd Caerdydd – roedd pôl etholaeth yr Arglwydd Ashcroft ym mis Mai yn awgrymu bod y Ceidwadwyr ar ei hôl hi 40 i 33 pwynt canran i Lafur. Teimla rhywun, er bod Llafur o hyd yn gwanychu yn y polau Cymreig, nad oes ffordd yn ôl yma.
 
Mae Ashcroft yn eithaf handi pan ddaw i edrych ar etholaethau unigol – rhyddhawyd pôl arall (sydd â manylion hynod ddifyr ynddo os ewch chi drwy’r ffigurau) fis yma, ond hynny am Orllewin Caerfyrddin a De Penfro. Awgryma gwymp sylweddol ym mhleidlais y Ceidwadwyr, a chynnydd sylweddol i UKIP, ond gyda’r gefnogaeth i Lafur yn segur (yn wir, fymryn yn is nag yn 2010) yno, maen nhw’n edrych fel cadw’r sedd. Fodd bynnag, ym mis Rhagfyr rydyn ni hefyd wedi gweld Llafur yn ymestyn y bwlch dros y Ceidwadwyr yn y polau Prydeinig. Sedd arall ydi hon sy’n gwbl, gwbl ddibynnol ar oddi ar bwy mae UKIP yn denu eu cefnogaeth.
 
Gadewa hynny ddwy sedd arall, sef Bro Morgannwg ac Aberconwy, dwy sedd lle byddwn i’n tybio bod UKIP am ddenu mwy o bleidleiswyr Ceidwadol na Llafur. Yn ôl yn 2007, safodd UKIP ym Mro Morgannwg gan ennill dros 2,000 o bleidleisiau, a thybiodd lawer bryd hynny, heb eu hymyrraeth nhw, mai’r Ceidwadwyr fyddai wedi mynd â hi (os cofiwch chi, Llafur enillodd o 83 pleidlais).
 
Mae hefyd bleidleisiau i UKIP yn Aberconwy – mae demograffeg y sedd yn awgrymu hynny’n ddiamheuaeth. Dybiwn i fod gobeithion y Ceidwadwyr o gadw’r ddwy sedd hyn yn cymharu rhywfaint â Gorllewin Caerfyrddin – maen nhw am golli miloedd o bleidleisiau i UKIP, ond os gall UKIP hudo hyd yn oed rai cannoedd gan Lafur, gallai fod yn ddigon.
 
Dybiwn i fod Aberconwy’n fwy diogel na Bro Morgannwg ar y funud. Mae pleidleisiau i’w hennill a’u colli i bob cyfeiriad yn Aberconwy, ond ras rhwng dau ydi Bro Morgannwg, fydd efallai’n gwasgu ar bleidleisiau fymryn yn fwy. Cawn weld.
 
Mae UKIP, fodd bynnag, yn broblem fawr i’r Ceidwadwyr yng Nghymru. Os bydd UKIP yn denu digon o bleidleisiau ganddynt yng Ngorllewin Caerfyrddin, Bro Morgannwg, Aberconwy a hyd yn oed, ar ddiwrnod da iddynt, Gorllewin Clwyd, gallai’r seddi hyn gael eu colli. Dydi’r gwrthwyneb ddim yn wir o ran Llafur – bydd Llafur yn colli degau o filoedd o bleidleisiau i UKIP hefyd, ond ni welaf unrhyw sedd yng Nghymru lle mai’r Ceidwadwyr sydd debycaf o fanteisio ar hynny.  
 
Petaem ni’n byw mewn hinsawdd wleidyddol gyffredinol, mae ‘na ambell sedd arall y tu allan i’r wyth sydd ganddynt lle gallai’r Ceidwadwyr fod yn gystadleuol. Ond fel ag y mae hi, hyd yn oed petaent yn cadw pob un o’r seddi uchod, dim ond un sedd y gallen nhw gobeithio ei chipio eleni, sef (fel y trafodais wrth drafod y Democratiaid Rhyddfrydol) Brycheiniog a Maesyfed. Awgryma Ashcroft nad ydi hynny am ddigwydd. Dwi’n tueddu i feddwl, yn y sedd benodol honno yn yr etholiad penodol hwn sydd ar y gorwel, mai job y Ceidwadwyr ydi cynnal eu pleidlais graidd. Job syml, anodd fydd hynny, ond gallai fod yn ddigon a throi Powys gyfan yn las.
 
Serch hynny, fel hyn dwi’n ei gweld ar y Ceidwadwyr y tro hwn. O’u hwyth sedd bresennol, ond eu hanner sy’n ddiogel, maen nhw’n debygol o ennill mewn dwy (Aberconwy a Gorll. C’fyrddin), yn debygol o golli un (Bro Morgannwg) ac yn sicr o golli un (Gog. C’dydd). Os ydyn nhw’n dal eu tir yn y polau Cymreig – efallai’n ennill rhyw ganran neu fwy yn genedlaethol nag sy’n cael ei awgrymu yn y polau – gallai hynny fod yn ddigon i gadw 7 o’u seddi a chipio un.
 
Pa beth bynnag eu ffawd yn 2015, mae dyddiau duon ’97 a ’01 yn hen, hen hanes erbyn hyn. Y mae’r blaid Geidwadol yma i aros am sbel.
 
Yn y flwyddyn newydd byddaf yn dadansoddi gobeithion Plaid Cymru.