sabato, ottobre 08, 2016

Blino'r Angylion


Pa un a erfynia dyn fwyaf, yma ar ddiwedd popeth? Bywyd di-boen ynteu farwolaeth ddi-ganlyniad; y ddau fawr anwireddadwy. Pan fo geiriau’n troi’n sŵn a mudandod yn glebran di-baid, a ffurfiau’n cydblethu gylch dy drem yn bopeth ac yn ddim byd. Nid oes yn y  dyddiau hynny law i afael ynddi a allai leddfu. Nid oes llaw. Nid oes cwmni eithr rhithiau; yn chwerthin ar dy dwpdra, yn mwynhau pob eiliad fall ac yn trwchu ar dy newyn. Ni ellir ond â fferu ac ymaros nes i bethau eto finiogi, nes i’r llwydni droi’n lliwiau, a meddwl ai’r tro nesaf y daw’r ildiad mawr.

Cylchfan bywyd a’th flinaist di. Yr un cylch mawr cythryblus, yr un anwybyddu’r allanfeydd, am na wyddost i le’r ânt. Daeth y daith yn syrffed llwyr. Sut aeth popeth o’i le? Pa ddiawl â’th hudaist lawr y lôn hon i dreisio dy enaid, a pham wyt yn ei ddilyn bob tro? Ai twp wyt ti, neu ai’r gwir yw dy fod yn mwynhau’r artaith? Sgrechiaist gangwaith i’r awyr am angel, ond nid arhosai ond am ennyd. Fe’i blinaist gan dy flinder wrth i bob bore’n araf droi’n ddiwedd newydd. Am mai ti ydi’r un all flino hyd yn oed angel. Am allu cas i’w roddi.

Anadlaf fwg fy chwerwder. Caraf ei losg ynof. A throi hynny’n awyr o nadroedd llwydion yn gwingo o’m blaen wedi hynny, fel petaent mewn dŵr berw gwyllt. Rhyfeddaf ar lonni eu poen a didrafferthrwydd eu diflannu.

Oherwydd dyna’r oll sydd rhwng yr eiliadau.

Cywilyddi ym mreuder dy feddwl, yng nghri dy eiriau. Ai fy llais i ydi hwn? Y ffaith iti anghofio’r nad arferai fod fel hyn; nid yw ond atgof chwerw o’r dyddiau llawen y ffarweliaist â nhw amser mor faith yn ôl. Cofio erfyn traethell cyn eto boddi ym môr dy dduwch a chasáu caru. 

Ond nid y tro hwn, meddaist ti. Nid y tro hwn. Ond nid wyt broffwyd ychwaith.

lunedì, ottobre 03, 2016

Eryrod Pasteiog V: Tomato o'r enw Afal



Ar awyren o’r Eidal, yn wan gan flinder a Propranolol, oddi fry Ewrob fawr, esgorwyd ar un o frenhinoedd gogoneddus y nen, y pumed o’i dras; y pumed eryr pasteiog.

*          *         *

Arferai yna fyw domato nid ond ychydig o fisoedd yn ôl; coch ei wedd a blew ar ei jest. Ei enw, fel y mae’n digwydd, oedd Afal. Sefyllfa ddisynnwyr yn wir. Yr oedd ei fam yn goeden a esgorai ar gannoedd o blant bob blwyddyn, canys mai hŵr bren ydoedd hithau a’i brigau annelwig ar eu lled o ganol dydd tan ganol nos. Ond Afal a dyfodd yn gryn domato, ac fel unrhyw domato o’r enw Afal mi drigai wrth gwrs mewn tŷ. Enw’r tŷ hwnnw oedd Y Llys, ac nid oedd ar y llys do na drysau ond ni hidiai Afal y tomato ddim am hynny. Ta waeth, yr oedd yntau Afal - sydd, chwychwi gofiwch, yn domato - am resymau rhy ddwfn a rhy niferus i roddi iddynt fy llawnaf sylw yma, yn uchel ei barch yn y gymuned leol. Nid oedd lai na chyfreithiwr, a pha syndod ac yntau’n byw mewn annedd ddi-do, ddi-fur o’r enw Y Llys? Wrth ei waith, fodd bynnag, gweithiai mewn perllan, a hynny am nad oes angen ar neb, hyd yn oed yn y dwthwn goleuedig hwn, domato o gyfreithiwr. Na, yn wir, maes i greaduriaid yw’r gyfraith, nid cnwd.

Yn sicr, nid oes angen mynd i fanylder peryglon bod ag enw fel Afal a gweithio mewn perllan pa un a ydych domato ai peidio. Do, mi drigodd wrth ei waith, ac ni chafwyd achos llys am nad oedd modd dod o hyd i gyfreithiwr addas i domato; Afal ei hun oedd yr unig un a allasai gyflawni’r fath orchwyl. Yr eironi cas! Yr oedd achos ei dranc mor amlwg, fodd bynnag, fel na wyddai unrhyw un beth ydoedd ac am na chanfuwyd ohono ddim eithr ambell hedyn a’r tynerwch a’i nodweddai, beryg na chlywo’r byd wir cas ei ddiwedd.

Y berfedd ar y borfa - cofiwn ef.


Dwi’n meddwl na llgodan fytodd o.

Neu afr.

venerdì, settembre 23, 2016

Munud â'm cythraul


Rhydd imi lonydd, mwmiais yn wan mewn gweddi wag un nos. Rhydd imi awr ddibryder, ddifeddwl. Ond dest i darfu arnaf drachefn; nid oes unman na elli fy nilyn. Dwyt ti ddim yn gyfrwys. Ti’n feiddgar. Ti ddim yn llechu yn y cysgodion yn aros i mi wneud tro anghywir, na'n fy nenu atynt fel cwningen goll; deui â nhw ataf. Ac ni roddi imi lonydd rŵan. Cefaist flas ar fy nhrechu; naddaist ddigon arnaf i deneuo f’amddiffynfa; ni dy dwyllwyd di gan ei muriau di-sylfaen na’i thyrrau gweigion.

Sawl gwaith ŷm mygaist dan domen byw? A sawl gwaith a dynnaist yn ôl y glustog ar y funud olaf, ar yr anadl derfynol? Ni fuost ddigon trugarog i orffen y gwaith. Mae dy ddiléit yn fy nghadw at dy ddifyrrwch; fi yw deryn cawell dy gasineb, a chdi â’m cadwo’n gaeth i’m hunllefau.

Erbyn hyn y mae’r crafangau’n rhy ddwfn. Hyd yn oed yn ystod y dyddiau hir a chynnes gelli hagru’r coed a throi ohonof olau’r haul a’m gorfodi i ymgilio’n gwrcwd i’m hogof; ogof sydd mor dywyll a dofn y mae hyd yn oed yr ystlumod yn ei hofni. Chdi sy’n troi unrhyw gysur a gaf yn eiriau chwerw ar bapur. Chdi sy’n gwneud i bopeth doddi o’m blaen, a dwi’n dy gasáu yn fwy na dim yn y byd. Dwi’n ddim pam fyddi gyda mi. A thithau’n ddim hebof. A rhai dyddiau ni wn ddim eithr ein cariad gwyrdroëdig atom ein gilydd.

Erfyniaf am ddarfodigaeth, yn f’argyhoeddi fy hun mai yn hynny fydd fy nechrau, ac ni elli fy hawlio mwyach. Mae gennyt ofn hynny. Pan af, ni chei ddilyn. Pan af, uwch lesni nenfwd y Ddaear, neu tan ei gwair i ddiosg ei phoenau ohonof, fydd fy nghwsg yn gaer dragwyddol.

Ond fy ofn mwyaf – a chdi â ŵyr hyn – yw fy mod gystal disgybl â dioddefwr. A gnoes dy chwilen i’m canol a gwneuthur ei waith yn rhy dda? Pan fydd y sêr yn diffodd am yr un tro olaf, gallaf fy ngweld fy hun yno. Gallaswn yn fy ngwendid gynnau’r tân a lynco'r byd. Gallaswn ar fy ngwaethaf chwerthin yn llon wrth dy lusgo ato, a’n cyd-ddioddef fyddai’n fy melysu; ein cnawd yn ymdoddi fel caws, a’r gwres yn dy frifo di gangwaith gwaeth na mi. Am imi ffendio yng nghesail dioddef gartref clyd, cyfarwydd. Am iti ddwyn fy mhwyll a throi fy meddwl yn lobsgóws ddisynnwyr a dwyn ohonof ffiniau bod. Am iti wneud hynny ormod.

Am iti fy nhrechu un tro’n ormod.   

Rhydd imi lonydd, mwmiais yn wan mewn gweddi wag un nos. Rhydd imi awr ddibryder, ddifeddwl. Ond dest i darfu arnaf drachefn.