giovedì, settembre 06, 2007

Pwy ga'i gasau fwyaf?

Fe fyddaf yn ceisio cymryd diddordeb yn y byd a’i manion bethau. Ges i sioc a siom fod Pavarotti wedi marw heddiw, ac wn i ddim pam achos dydw i ddim yn hoffi opera (neu ‘canu gwirion’ yn ôl Nain) ac mae fy mhrofiadau ag Eidalwyr yn gymysg â dweud y lleiaf.

Does gen i fawr o ddim i’w ‘sgwennu am heddiw, achos mae’r byd yn ddiflas. Dw i heb flogio’n wleidyddol ers rhywfaint o amser, ond mae’n rhaid i mi gyfaddef dw i’n hwran wleidyddol a dim ond pan mae’n amser etholiad y bydda i’n wir cyffroi am wleidyddiaeth. Dim ond dechrau dod i arfer â’r syniad o’r Blaid mewn llywodraeth ydw i, â bod yn onest (er, yn bur rhyfedd, mae fy nghasineb o’r Blaid Lafur wedi cyrraedd lefelau newydd - a’r Torïaid. Ond, fel y gwyddwn, nid pwysig mo Tori).

A dweud y gwir dw i’n amgyffred rhyw frwydr fawr (a chwerw) yn dyfod rhwng cenedlaetholdeb ac undebaeth yng Nghymru. Mae’r Blaid Lafur wedi gwneud y camgymeriad gwaethaf posib drwy barchuso’r Blaid a’i gadael i fod yn rhan o lywodraeth Cymru. Y broblem hefyd ydi eu bod nhw wedi ei gwneud yn hawdd iawn i’r Torïaid ail-ddyfod.

Y broblem i mi ydi pwy i gasáu fwyaf - Prydaingarwyr (Llafur) neu Gymry sy’n Saisgarwyr (Torïaid).


Efallai mai haws byddai pigo ar y Gwyrddion. Gas gen i ffycin hipis.

mercoledì, settembre 05, 2007

Paham, bryfaid cop, paham?

Ni chewch gelwydd gennyf i. Mae bywyd yn dda. Y broblem fwyaf yw fy mod yn chwarae rhan y gwestywr y penwythnos hwn i Almaenwr. Dydw i byth wedi hoffi bod yn westywr. Gas gen i deimlo’n gyfrifol am rywun arall, a dydi o ddim yn hawdd os nad yw’r unigolyn yn siarad Cymraeg.

Mi fyddaf i yn troi i Saesneg weithiau, pan fydd y person yn rhan o’r sgwrs ac ati, ond â bod yn onest nid yn unig ydi hyn yn anghyfforddus ac yn annaturiol, ond mae’n corddi rhyw gasineb ynoch, ac mae gen i ffrindiau na fedraf i siarad Saesneg gyda nhw byth, ffrindiau ysgol yn bennaf, waeth bynnag beth yw’r sefyllfa. Ond eto, ni ellir hepgor y person o’r sgwrs yn gyfangwbl, ac mae gennyf innau, hyd yn oed, ryw fymryn o gwrteisi.

Does ‘na ddim llawer o bethau doniol wedi digwydd i mi, yn anffodus. Mi safais ar slyg wythnos ddiwethaf, gyda fy slipar, ac mae’n rhaid i mi gyfaddef fy mod i’n flin iawn am hynny, wedi i mi sylwi’r hyn a wnaed a bod darnau o gorff gwlithen ar hyd llawr fy annwyl gegin yn slwj.

Sylwais hefyd bod cyfradd annaturiol o bryfaid cop yn fy nghartref ac yn yr ardd. Meddyliais am y peth, ond wyddwn i mo'r ateb, wchi.

lunedì, settembre 03, 2007

ffwaff

Argol dw i’n flinedig. Dw i ‘di cael homar o wicend, a diolch i Dduw am hynny. Dw i dal ‘di blino. Pam ydyw bod rhywun methu cysgu nos Sul? Dw i’m yn dallt.

Dw i ‘di brifo ‘nghoes drachefn, ond yn sobor y tro hwn. Doeddwn i methu cerdded i gwaith heddiw felly mi yrrais. Ar y funud dw i’n gwylio rwbath ar CBBC am blant yn cerdded ar hyd glo poeth poeth. Faint o naïf ydyn nhw’n meddwl dw i? Dio’m fel bod y BBC am risgio wneud i blant gerdded ar hyd glo berwedig nac ydyn? Ffycin hel.

Wel, dw i newydd golli trac meddwl fi yn hollol. Sori.

Gas gen i raglenni plant. Dw i’m yn gwybod pam dw i’n eu gwylio a dweud y gwir. Dydi rhywun ddim yn siŵr beth i wneud ar ôl dod adra weithiau. Neithiwr, mi wyliais The Queen, a wnes i ddim mwynhau. Rwan dw i’n ‘sgwennu blog a dw i ddim yn mwynhau.

giovedì, agosto 30, 2007

Dygyfor (ew, gair da)

Helo, gariadon annwyl. Nefoedd, dw i’n unigolyn bach annibynnol y dyddiau hyn. Mi es neithiwr yn syth ar ôl gwaith i siopa, gan floeddio Gwibdaith Hen Frân ar hyd a lled y byd (nhw sy’n mynd â’m bryd cerddorol ar hyn o bryd). Ond nid hapus mohonof yn fy ngorchwylion achos does gen i neb i gwyno am y ffaith nad yw’r gril acw yn gweithio. Siomedig iawn. Sylwais i ddim tan yr hwn fore.

Yno’r oeddwn, wedi deffro’n fuan am unwaith, a chael brecwast da, sef adu wy wedi’u potsian a thost. Dydi toster da i ddim canys mai bara go iawn rydwyf i’n ei brynu, nid bara sleis, ac felly dydi o’m yn ffitio i mewn i’r toster, felly beth roeddwn am ei wneud oedd ei roi o dan y gril i’w dostio. Ond ni wnaeth a bu bron i mi losgi hanner fy wyneb i ffwrdd yn ceisio gwneud (yr hanner deliaf).

Felly dw i am ddygyfor y llu a mynnu peint heno. Alla‘ i ddim coelio pa mor araf ydi’r wythnos waith hon, a hithau’n bedwar diwrnod yn unig.

mercoledì, agosto 29, 2007

Esgus i gynnwys y gair 'anwadal' mewn blog

Henffych! Mae’r Mochyn Du, fu unwaith i mi’n gyrchfan i gemau rygbi bellach wedi hen droi ei hun yn dafarn leol, sy’n biti achos mai’n ffycin ddrud. Ond lle digon dymunol ydyw. Mi es yno am beint efo Rhys neithiwr, ar ôl i bawb arall ein gwrthod am ddrinc, sef yr hogyn sinsir a’r Haydn Meudwy a’r genod anwadal. Ffwcia nhw, meddwn ni, fe awn ni. Felly fe wyliem ni gêm Lerpwl (sgym) a mynd drwy’r coflithoedd yn yr Echo, sef o bosibl papur newydd gwaetha’r byd, a gwrando ar griw o hen ferched yn siarad yn fudur.

Pan fyddwyf yn hŷn, os caf fyw at hynny oed, dw i am regi yn uchel a siarad am ryw a ballu hefyd, yn y gobaith o sarhau pawb o’m cwmpas. Dw i wedi dweud erioed mai gelyn mwynaf mwynhad ydyw parchusrwydd. Ond Duw, efallai mai’r Eidalwr ynof sy’n dweud y ffasiwn bethau. Mae teulu ochr fy nhad i gyd yn bobl gyffredin (h.y. comon) a theulu mam i gyd yn barchus, sy’n golygu fy mod i’n wych ar ffug-barchusrwydd ond hen beth gomon ydwyf innau hefyd yn y bôn.

Mae gen i ychydig o ddŵr poeth heddiw, felly bydd rhaid i mi stopio’r cymdeithasu. Yn wir, ers i mi symud i Grangetown dw i’n amcangyfrif fy mod wedi gwario o leiaf deirgwaith mwy ar alcohol na bwyd (a minnau’n hogyn cryf, maethlon). Nid yr amser gorau i dorri lawr ar lysh ydyw chwaith, minnau bron â marw isio sesh penwythnos ac wedyn Cymru a’r Almaen ac wedyn Cwpan y Byd (efallai y bydd alcohol yn cydbwyso’r siom anochel a ddaw gyda hwnnw).

Reit. Mynd. Ta ra.

lunedì, agosto 27, 2007

BORING

Fel hanner Sais, bûm yn ddigon ffodus i etifeddu’r rhan honno o’r Saeson y gellir ei alw’n “ochr dda”. Y broblem efo’r Sais ydi nad oes fawr o ochr dda ganddo.

Am ba reswm bynnag mae’n mynd yn erbyn y graen i mi ymwneud â’r Saeson, yn rhannol oherwydd nad ydw i’n cylchdroi yn yr un cylchoedd â hwy, ac yn rhannol o’m dewis i fy hun. Hiliol? Nac ydw, dw i ddim yn casáu Saeson. Cul? Wn i ddim. Fodd bynnag, dydyn ni ddim yn ymwneud.

Ac mi sylwais paham ddoe, wrth eistedd gyda dau ffrind o Sais i Nain (does gen i ddim ffrindiau sy’n Saeson - nid yw hynny o’m dewis i, gyda llaw, ond felly y mae) yn cael bwyd. Yr hyn a nodwyd gennyf oedd rhywbeth syfrdanol, ac nid y pethau ystrydebol. Nid wyf yn cyfeirio at y traha, y dirmyg ac ati, ond at y ffaith mai’r Saeson, heb os nac oni bai, ydyw’r hil fwyaf boring ar hanes y ddaear.

Does dim byd diddorol amdanynt. Rhyfeddaf na sylweddolais o’r blaen. Mae gen i ffrind yn Reading (sy’n Almaenwr) ac rwyf wedi aros yno droeon, a sylwi pa mor ddiddim ydyw’r Saeson. Mae eu sgwrs yn gyfyng a’u hiwmor yn wahanol.

Ac roedd hynny'n amlwg ddoe. Mae hacen yn boring. Eu sgwrs yn ddiflas. Eu rhyfeddod o bopeth Cymreig yn diwn gron a glywid droeon. Gwell dirmyg na'u rhyfeddod nawddoglyd unrhyw bryd. A sylwais fy mod wedi gweld hyn â bron bob Sais - dw i jyst methu, er fy myw, â'u cael yn ddiddorol.

Mae i’r Sais ei rinweddau, cofiwch, dydw innau, hyd yn oed, methu dadlau â hynny, ond o Dduw paham a roist y ffasiwn bobl anniddorol â’r Saeson yn gymdogion i ni? Paham na chawsom hwyl yr Eidalwr, traha’r Ffrancwyr neu rywioldeb amheus y Groegiaid drws nesaf, ond na, fe’n melltithiwyd â chenedl o liprynnod gor-boleit cyfforddus.

domenica, agosto 26, 2007

Portsgota

Ystyriaf fy hun yn ychydig o arbenigwr o ran gwin coch, ond profwyd fy namcaniaeth yn ffals neithiwr. Bydd yn draddodiad gennyf, a minnau ym Methesda, i agor potel o win coch ar nosweithiau Sadwrn naill ar pan fyddwyf i mewn neu ar ôl bod allan. I mewn oeddwn yr hwn Sadwrn. Stryffaglais o gwmpas ac agor potel.

Stwff cryf, meddaf innau i fy hun. Mi oedd, mi losgodd fy ngheg rhywfaint, ond ni’m digalonnwyd. Cefais arall, ac arall. Yn araf deg, sylweddolais i (a Mam a Dad, a hwythau ddim yn hapus) fy mod yn troi’n wirion a ddim yn siarad yn dda iawn. Wedi hanner potel nid oeddwn yn y cywair gorau, ac mi roeddwn mewn stad, rhaid i mi gyfaddef.

Rhyfeddodd Mam a myfi ar hyn. Ni fyddaf yn meddwi ar hanner potel o win, ac mi aeth hithau i edrych ar gryfder y botel a yfwyd. Hogyn o Rachub, ebe hi yn ddig iawn, you’ve opened the port. Wel, wyddwn i ddim, dydw i byth wedi trio port erioed. Ond mae’n neud y job.

Daliwyd poloc gennyf a’r Dyfed ddoe (roedd ei hun o yn fwy na’m un i o grynswth ond myfi a’u bwytasant) ar ddiwrnod mwy llwyddiannus na’r arfer, er fel arfer aberthwyd mwy o abwyd i’r môr nac ildiodd o drysorau. Ni fodlonaf draha’r dyn drwy sôn am y dydd yn rhagor. Yr unig draha a fodlonir yma yw fy un i.

sabato, agosto 25, 2007

Newydd o lawenydd mawr

Dw i’n llawen iawn fy nghywair heddiw, a dydi hyd yn oed cwmni Dyfed Athro, y peth gwaethaf a ddigwyddodd i addysg Gymraeg ers brad y Llyfrau Gleision, ddim am fy rhwystro. Nid wyf bellach o dan hyfforddiant. Wyf gyfieithydd.

Derbyniaf eich cymeradwyaeth yn y modd trahaus arferol.

Er, hoffwn dal ddod o hyd i’m talent. Ymhle y’i canfyddaf? A byddai dawn o werth, hefyd. Mi fedraf blygu fy mawd yn ôl yn bell, ac mae fy nawn o wylltio a sarhau yn un hyfryd (efallai bod hynny’n amlwg fan hyn, ond yn y cnawd wyf ganwaith gwaeth – un o wir ryfeddodau’r byd modern yw sut y bod i mi gyfeillion, er mi fentraf mai fy swyn cyffredinol sydd wrth wraidd hyn).

Mae’n rhaid meithrin dawn, mi gredaf, i raddau. Felly, pa ddawn a hoffwn? Fe’i dywedwyd gennyf eisoes; ysgrifennu nofel (h.y. mwy na cholofn ofnadwy yn dIMLOL).

Mi rannaf gyfrinach: dw i wrthi yn ysgrifennu cyfres o straeon byrion. Ond eto, gor-ddweud ydyw hyn, mewn difrif, a minnau wedi sgwennu tua chwarter un wythnos diwethaf cyn terfynu. Ond mi ddyfalbarhaf – llechfaen sydd yn fy ngwaed, sy’n caledu’r ysbryd, er ei bod yn achosi lot o fflem.

giovedì, agosto 23, 2007

Motobeiciwrs. Ffyc off.

Gobeithiaf nad wyf innau, hyd yn oed yn fy ngwendidau achlysurol, yn rhoi’r argraff i chi fy mod i’n berson sympathetig. Wir yr. Roedd ‘na fotobeiciwr tu ôl i mi heddiw wrth i mi yrru i’r gwaith, a daniodd fflam fy nghasineb tuag atynt. Mi glywais y diwrnod o’r blaen pan gânt ddamwain y tebygolrwydd yw y daw eu pen i ffwrdd, o ganlyniad i bwysau’r helmed. Gwd.

Maen nhw’n sbydu. Maen nhw’n goddiweddyd ymhob man. Y bod yn onest motobeiciwrs ydi’r gyrwyr mwyaf cythryblus, peryglaf ar y ffyrdd. Dw i’n eu casáu. I ffwrdd â’u pennau oll!

Ac na, nid ymgais ar jôc wael mo’r uchod, chwaith.

Gofynnwyd i mi rhywbryd yn ddiweddar, a minnau’n clodfori’r Gogledd; ei mynyddoedd, ei cherrig, ei ffermydd, os ydwyf mor hoff ohoni pam drigaf yn y De? Minnau ymatebais yn onest, mai isio gwybod oeddwn i sut y buasai’r Iesu yn teimlo pe troediai strydoedd Soddom neu Gomorrah. A gwn mi wn yn awr. A dweud y gwir, hoffais y teimlad goruchel cymaint fel na fynnaf ymwared â hi eto. Myfi yw’r diemwnt ymysg y glo.

(dim byd i wneud efo swydd a thŷ, cofiwch, dim byd o gwbl)

mercoledì, agosto 22, 2007

Salwch - trechwyd!

Yr hen bysgod cregyn ‘na; trychfilod bychain yn mynd â’m cadw innau’n effro drwy’r nos.

Wel do, mi wnaethant. Dw i newydd weithio’r peth allan, dach chi’n gweld.

Ro’n i’n sâl iawn ddoe ac echdoe. A bod yn onest efo chi mi fues yn fy ngwely rhwng hanner awr wedi chwech neithiwr hyd at hanner awr wedi saith bora ‘ma. Roedd fy anadl yn fyr, roeddwn i’n mynd rhwng chwysu a chrynu, roedd fy nghefn a’m gwddw yn brifo ac roeddwn i isio torri gwynt a chwydu ond doeddwn i methu. Dw i’n well erbyn hyn, felly mi gaiff y byd Cristnogol anadl drachefn.

Pe gyrraf i’r gwaith, a dw i’n neud hynny’n fwy nac ydw i isio ar y funud, mi fyddaf yn heibio cardotyn yn Cathays. Mae ei ben yn ysgwyd ac mae’n gosod ei Big Issues ar hyd Ramones yn ceisio eu gwerthu a’r hwn fore mi wisgai clustiau Playboy am ei ben. Mi fydd, oni chroesaf y stryd i’w osgoi, yn dweud good morning i mi (mae cardotwyr yn eithaf cwrtais i mi - gweler esiamplau Lowri Dwd a Dyfed), ac weithiau mi fydd yn dweud good evening, ac ar bryd felly dydach chi ddim yn hollol siŵr os mai chi neu'r nhw sy’n colli eu cof .

Fe'm synnwyd, ond hapus wyf, fe'm pleidleiswyd o ymysg fy ffrindiau fel y trydydd corff gorau a'r un mwyaf outgoing. Mi gymraf y rheini a mynd ar f'union, er synnwn i ddim mai camgymeriad ydyw ac mai fi yw'r trydydd mwyaf outgoing ond gyda'r corff gorau.

Dw i hefyd o’r farn bellach fod fy Nghymraeg ysgrifenedig yn gain iawn.

sabato, agosto 18, 2007

Gwneud i chi feddwl 'iych'

Wel mai’n ddydd Sadwrn, bois, diwrnod gorau’r wythnos, a dyma fi’n Stryd Machan (Machen Street - gwaeth i mi ddod â’m brand unigryw o dafodiaith ogleddol yma) yn edrych ar Saturday Kitchen, sy’n rili crap, a chwerthin fy mhen i ffwrdd bod Haydn wedi ymuno â Facebook tua blwyddyn ar ôl pawb arall ac mae’n mynd rownd y lle yn ychwanegu ffrindiau. Serch hyn mi fydd ganddo fwy na mi ymhen dim.

Caiff rhywun deimlad cynnes pan gânt gymeradwyaeth am eu tŷ, dw i’n sylweddoli yn sydyn iawn. Daethai’r Llew a Ceren rownd neithiwr am dro, â neb o’r criw yng Nghaerdydd ond amdanom ni, a llawen fûm yn yfed ac ati.

Dim yn ddiddorol iawn, nadi?

Nadi. Mi eich gadawaf gyda’r meddylfryd ohonof yn cael pŵ a chanu ‘Yma o Hyd’, achos dyna dw i newydd wneud.

giovedì, agosto 16, 2007

GWENAF YN LLAWEN

Haha! Dw i MOR hapus! Dw i’n gwylio Wedi 7 a John ac Alun yn canu ‘Giatiau Graceland’ – dw i BYTH ‘di chwerthin mwy yn fy mywyd!

John ac Alun WE LUV U!!

mercoledì, agosto 15, 2007

Y Diwrnod Crap

Aha! Gwelaf eich bod yma drachefn i ymdrybaeddu yn haul fy ngodiwogrwydd!

Wel, dw i ‘di cael diwrnod crap.

Mae’r golau injan ymlaen yn y car, ac mae’n hercian megis ungoesyn o amgylch strydoedd Caerdydd, a minnau ei angen er fy mwyd a’m diod. A mynd i’r gwaith pan mae’n bwrw. Myfi a ddeffrois am saith er mwyn mynd ag ef i’r garej, a hwythau a droes eu cefnau gan ddywedyd, ‘Nid oes na le fin bore, fan hyn. Deuwch chwithau yn eich hôl y Llun, ac edrychwn ar eich cerbyd, a’i drwsio, a bydd tâl dialysis go ddrud, hefyd.’

Felly dyma fi adref yn mynd i wneud aren i fy nhe, yn ddig iawn, iawn ar ôl diwrnod siomedig ar ddaear Duw.

domenica, agosto 12, 2007

Y Brenin

Roedd Pesda yn gelain neithiwr. Doedd ‘na fawr o neb allan, ac mi ges i syndod yn hyn o beth; er yn ôl y sôn, roedd priodas, felly dyna hanner y pentref allan ohoni, mae’n debyg. Nid ar yr Eisteddfod mo’r bai, ychwaith, canys nad Eisteddfodwyr fel y cyfryw mo pobl Pesda (mae ambell un, ac mae gennym brifeirdd, ond nid yw diwylliant at ein dant).

Serch hynny mi wnes fy nhric arferol o ddyfod adra’n lled-feddw ac yfed potel o win. Byddaf yn gwneud hyn yn aml pan fyddwyf yn Rachub. Mae’n lladd fy mhen diwrnod wedyn, a rhwng Jaws 3 a The Talented Mr Ripley mi feddwais yn dra sydyn a heb ddallt plot yr un o’r ddwy ffilm. Hynny yw, mond mwncwn na fyddai’n dallt plot Jaws, pa un bynnag yn y gyfres ydyw, ond yn fy meddwod distaw ni wnes.

Ac felly bydd Caerdydd a’r gwaith yn galw yfory, dyna gylch bywyd. Namyn un peth, mi gefais flas yr hwn fore ar gaws picl a phenderfynais ag arwyddocâd y byddwyf yn hoff ohono mewn tostwys (sef gair yr ydwyf newydd ei fathu am ‘toastie’), a thostwys gyda chig moch o ran hynny.

Hoffwn fod yn Frenin yn yr hwn ystyr; bloeddiwn bob nos “Deuwch â chig a bara da i ni; deuwch ddawnswyr a chynganeddwyr a chywyddwyr; deuir gwin da i’r hwn lys a llanwch ei muriau â hwyl y wledd. A deuir tostwys im hefyd, gan gig moch a chaws picl”.

Ond ni ddaw’r amser y hynny fyth. Ond yn y nos, a’r gwyll yn cau amdanaf megis Yorkshire Pudding Wrap y Claude, byddaf yn meddwl weithiau am fod yn frenin, a theyrnasu hyd ddiwedd byd.

venerdì, agosto 10, 2007

Ni af

Efallai na fyddech chi’n ei feddwl, ond nid Steddfotwr mohonof ac ni fyddaf yn mynd ond pan fydd yn gyfleus i mi – fel Casnewydd a Bangor. Prin y byddaf yn gallu diddori fy hun am hyd yn oed diwrnod ar y Maes (ddim yn rhywun sy’n hoff iawn o mynd i’r pafiliwn chwaith), a waeth pa mor feddw fyddaf dydw i methu cysgu mewn pabell, felly dydi Maes B ddim i mi (roedd hyn yn hawdd ei oresgyn ym Mangor, wrth gwrs!).

Serch hyn mi fyddaf yn mynd i’r gogledd yfory – dw i newydd sylwi nad yw Dad wedi mynd â rhyw ddillad gwely i fyny efo fo ac wedi gadael rhyw sŵp yn y ffrij y dywedodd ei fod wedi cael gwared ohoni. Ac mae fy nhaid wedi bod yn torri brigau yn y cefn ac wedi gadael diawl o lanast.

Mae pobl eraill yn sdres.

lunedì, agosto 06, 2007

Dirgelwch!

Am gythraul o beth od. Mi ffoniodd Gorsaf Heddlu Caerdydd. Daethpwyd o hyd i’m cardiau i gyd yn bentwr taclus yn Yr Aes. Nid oedd yr waled ei hun i’w weld yn unman, ond roedd pob un cerdyn, o gerdyn aelodaeth Plaid Cymru i fy nhrwydded yrru yno. Dyna beth od. Roedd hyd yn oed fy nghardiau banc yno. I gyd mewn pentwr taclus ar Yr Aes yng nghanol ddinas Caerdydd.

Rwan, roeddwn i wedi meddwi’n ofnadwy. Mi ddywedodd Dad, sy’n aros i lawr efo fy nhaid a’r ddau ohonynt yn pwdu achos does ganddynt ddim i’w wneud yma rhagor, y dois i mewn am bedwar, a’r tro olaf i neb fy ngweld oedd tua hanner awr wedi un. Felly posib fy mod wedi mynd i’r Aes a’i golli, a phosib dim.

Dirgel beth yn wir.

domenica, agosto 05, 2007

Sydyn-newyddion

Mae pethau wedi bod yn hollol hectic yn ddiweddar, gyda fy nheulu wastad yn aros i lawr a does gen i mo'r rhyngrwyd eto chwaith, sy'n boenus am geek Bebo fel fi. Rhoddaf grynodeb fer o'm hanes dros y penwythnos - cwrddais a Rhodri Nwdls yn y City Arms am un peth, a chwalu pen yr hogyn druan. Dywedodd ei fod yn hoff o glywed hanesion Lowri Dwd; sy'n rhyfedd achos dydw i ddim.

Dw i hefyd wedi colli fy ffon a'm waled (dyma le da i gyhoeddi hyn actiwli, bydd pawb isio fy rhif ffon rwan, croeso i chi ei gael, ond gaddwch ffonio os gwnewch). Un munud roeddent yn fy mhoced a'r nesaf nid oeddent. Ffoniais y llinell Gymraeg i adrodd hyn, a ddaru'r boi yr ochr arall dechrau biso chwerthin (a minnau hefyd) pan ofynnodd i mi ddisgrifio'r waled, a dyma fi'n hollol onest yn dweud "un gwyrdd S4C efo logo Planed Plant".

Mi dorrodd rhyw ast i mewn i fy nghyfrif Facebook yn ddiweddar hefyd, a rhyfedd iawn oedd gweld Rhestr Ffrindiau chwyddedig sydd bellach yn cynnwys BB Aled a Heledd Cynwal (dw i'n siwr fy mod wedi trafod hyn o'r blaen, ond dw i'm am jecio). Dim ond disgwyl neges gan Tara Betethan dw i rwan, a ddywedodd, yn ol y son "Haia cariad, ddim 'di gweld chdi stalwm". Sy'n wir, o leiaf.

Felly dyna fy hanes yn fyr. Mi fyddaf yn ol ar-lein ymhen dim mi dybiaf, ac yn brolio am fedrau fy ffon swanc newydd.

mercoledì, agosto 01, 2007

Na, dw i heb farw, na hyd yn oed anafu fy hun. Problemau technegol (dim rhyngrwyd) sydd wrth wraidd fy nhawelwch.

Cadwch y ffydd!

sabato, luglio 21, 2007

Ffwcin lol chwil (ma pawb sy'm yn meddwi'n nobs)

Dio’m yn aml fy mod efo ots am be dw i’n ddeud am neb ond wedi ychydig o win a chwrw llai ots gennyf fyth. Braf yw gweld bod o leiaf UN o’r pobl a chwiliasant am fy mlog yn ddiweddar yn chwilio am fy mlog. Wyddwn i ddim pwy ydyw cemist bont. Dwi’n chwil ar y funud felly mi a’i alwaf yr hyn a fynnaf: mewn tafarn rhwng ffrindiau rhywbeth fel pido dyslecsig byddai’r sarhad. Gas gen i pawb sydd wastad yn mwy parchus ar y we na’r byd go iawn. Ffyc off.

Moel Faban. Ffwc o fynydd.

Enwau plant. Os ti ddigon sad i fod isio cael plant yn lle gwario arian ar dy hun; ffyc off. Dwisho tŷ neis a biliau call, ddim Dafydd a Siân.

Lowri a Ceren? Seriws. Os ydych yn eu hadnabod, fe wyddoch mai naill ai Ceren neu Lowri Llew sydd wedi ysgrifennu hyn ar Google yn y lle cyntaf.

Slipper Lobster. Fy ffrind. Pa well na ffrind meddal di-feddwl? Mm. Cacan. Dwi’m yn licio cacan.

Hw cêrs? Dwi’n chwil.

venerdì, luglio 20, 2007

Wedi Symud

Henffych gyfeillion (does gen i ddim cyfeillion)! Dyna ni. Dw i yn Grangetown. Wel, ddim y funud hon; yn Rachub dw i rŵan, sy’n lle eithaf unig achos mae Sion wedi symud i Lanberis efo’i feistres gringoch a dw i’m isio gweld Jarrod, wrth reswm.

Dydi cael hanner y teulu i lawr i wneud tŷ i fyny’n neis i gyd ddim yn beth da. Mae’n chwarae diawl efo’r nerfau, ac wrth reswm yr oll sydd wedi cael ei wneud ydi ffraeo a chreu drwgdeimlad cyffredinol. Mae’r wythnos i ffwrdd o'r gwaith wedi profi ei hun i fod yn wyliau cachlyd iawn.

Roeddwn i am fynd i Gaernarfon heddiw am dro cyn sylwi does gan Gaernarfon ddim i’w gynnig i mi na alla’ i gael ym Mangor, a beth bynnag dw i’m isio mynd i Gaernarfon. Mae Cofis yn edrych ar bawb sy’n dod ymhellach na Bethel fel estroniaid.

Ond dw i’n gyfarwydd iawn â phlwyfoldeb. Hyd yn oed yng Nghaerdydd allwn i ddim helpu fy hun ond am ffinio fy mharth o dir fy hun. Bydd siop jîps, Tsieinîs a thafarn a siop gorau’r ddinas o fewn ffiniau eithaf pendant i’m cartref. Dw i ddim yn gwybod am weddill Cymru, ond mae’r casineb rhyng-bentrefol sy’n bodoli yng ngogledd-orllewin Cymru yn beth eithaf unigryw am wn i, a wastad wedi bod yn destun o ddiddordeb i mi.

Ond dw i uwchben hynny i gyd. Pur amlwg ydyw mai Rachub ydi pentref gorau Cymru i unrhyw un â gronyn o synnwyr cyffredin.

domenica, luglio 15, 2007

Y Galon Gymraeg

Dw i yn Rachub ar y funud, ond nid fy Rachub i mohoni. Mae’r plant i gyd yn siarad Saesneg, a’r dyfodol sydd eiddynt hwy. Mae ‘na fwy o Saeson yma. Saesneg a glywaf gan amlaf wrth clywed pobl yn cerdded yn ôl ar nos Sadwrn. Yn wir, dw i’m yn meddwl fod y Rachub a garaf bellach yn bodoli. Mae’r galon Gymraeg wedi cael ei rhwygo allan, dydi’r hen anian ddim yno. Hwyrach na fy mai i ydyw - yng Nghaerdydd ydw i bellach, dydw i ddim yn cyfrannu dim. Gwnaf, mi ddof yn ôl, ond dylai bodolaeth y Gymraeg yma ddim dibynnu arnaf i a fy nhebyg ddod yn ôl. Dyma’i haelwyd, ei chynefin. Dyma eiddo Cymru.

Mae holl helynt y Cymry yn fy atgoffa o fy hoff lyfr, The Lord of the Rings; efallai dyma pam fy mod yn ei hoffi cymaint. Rydym ni fel yr Elfiaid, i fras-ddyfynnu: “fighting the long defeat ... seeing many defeats and many fruitless victories”. Efallai mai trechiad hirhoedlog yw ffawd y Cymry, wn i ddim. Mae’n teimlo felly weithiau. Cilio yw sail ein holl hanes, a bellach rym ni wedi ei hymwasgu rhwng y llif Eingl-Americanaidd a’r Môr. Mae’r buddugoliaethau i gyd wedi bod yn ddiffrwyth. Addysg Gymraeg? Ni chreodd yr un gymuned Gymraeg ei hiaith. Deddf Iaith? Ni achubodd yr un.

Mi fyddaf yn aml yn poeni’n arw am y Gymraeg: mae’n rhaid mor annatod ohonof fel na fedrwn beidio. Mi fyddaf yn teimlo yn ar wahân weithiau yn hyn o beth, hyd yn oed ymysg fy hil fy hun. Mae llai na hanner y Cymry Cymraeg sy’n bodoli yn poeni am yr iaith o ddifri. Mae llai na hanner y rheini yn codi llais. Mae llai na hanner y rheini yn gweithredu.

Ydw, dw i’n anobeithiol weithiau. Ond dim ond y rheini sy’n anobeithio a all weld gwir obaith, debyg.

venerdì, luglio 13, 2007

Ardaloedd Caerdydd

Meddwl oeddwn i rŵan am Gaerdydd fel pecyn. Mi rannaf fy meddyliau, os caniatewch i mi wneud. A minnau yma am bedair blynedd dw i’n adnabod y ddinas yn iawn erbyn hyn, ac mae gen i farn eithaf pendant arni. Mae bob rhanbarth yn wahanol; fel Dwyfor, Arfon a Meirion (gydag Arfon yn well o lawer na’r ddwy arall, fe’i cydnabyddir yn rhyngwladol, a hwythau ill dwy yn well na gweddill ardaloedd Cymru, canys mai Gwynedd ydynt, a Gwynedd sydd bur).

Mae Cathays yn troi arna’ i, i fod yn onest. Yma gormod ydw i - mae’n fy atgoffa o ddyddiau Senghennydd a thŷ rybish Wyeverne Road. Does ‘na ddim siopau, mae’r pybs yn eitha’ gwael ar y cyfan - mae’r holl le yn ffug. Gwelwch i’r Cathays iawn yn ystod yr haf, a dw i’m yn or-hoff o hwnnw chwaith.

Bydda i ddim yn gwybod am lefydd pell fel Llanisien a Threlái. Dw i ‘di pasio drwy Drelái unwaith ac mai’n afiach, ond prin fod unrhyw le yn waeth na Butetown. Hwn yw dymp gachu Caerdydd; yr union le i fod pe hoffech gael eich trywanu gyda’r nos. Dw i’n cadw i ffwrdd o Butetown, ond mae’r tlodi yno yn gwneud Bae Caerdydd yn fwy ymhongar fyth. Er, dw i’n hoff o’r Bae ar y cyfan: mae ‘na elfen Ewropeaidd yno, ac mae ‘na rhyw deimlad o falchder ei fod yn rhan o’r Gymru fodern ‘ma rydyn ni’n clywed cymaint amdani.

Nid af i Sblot yn aml, chwaith. Mae’n rhyw fersiwn lite o Butetown. Cyn symud i Gaerdydd roeddwn i’n arfer ystyried Sgubor Goch a Maesgeirchen yn ‘ryff’, ond cymharwch y pedwar ac mae cyfuniad Sblot a Bute yn edrych fel Sauron a Voldemort ddrws nesa’ i Jac-y-Jwc a Jini Mê.

Wyddwn i ddim llawer am Grangetown, fy man ddewis, ond mi wn fod Glan-yr-afon yn eitha’ sgeri i’w weld, a does gen i fyth rheswm i fynd i’r Mynydd Bychan, Rhiwbeina na’r Eglwys Newydd (dim bod hynny’n golled). Serch hyn, fy nghartref ysbrydol yng Nghaerdydd fydd wastad Y Rhath. Yma y treuliais ddyddiau difyr Russell Street a llawenydd y Tavistock; dw i’n meddwl mai dyma’r tro cyntaf i mi ddod i gysylltiad â’r Caerdydd go iawn, a rhywsut roeddwn i’n ei hoffi.

Mae’r Rhath mor amrywiol, mae gennych chi’r ochr gwerinol, Tavistock-aidd ond ewch fymryn i’r dwyrain a dewch o hyd i barciau bach delfrydol, annwyl wrth ymylon Cyncoed a llefydd eithaf dymunol. Ac mae’n gyfuniad o bob math, o bob hil a phob iaith (mi geir Cymraeg yn Y Rhath, wyddoch chi).

Ac wedyn mae Treganna. Af i ddim yno fyth, mae’n rhy ddrud, ond mae ‘na rhywbeth sydd wastad wedi apelio am y lle. Fydda i wastad yn y Mochyn Du adeg gêm, a chlywir Cymraeg yn Nhreganna yn fwy na’r unman arall. Mae’n rhyfedd sut bod hynny mor bwysig i ni Gymry Cymraeg.


Be dw i’n drio’i ddweud ydi; dw i’n licio Caerdydd, ond mae ‘na lefydd cachlyd ‘ma ‘fyd.

Mini-adventure...!

Heddiw, bydd yr antur (h.y. gwyriad) ym Mae Caerdydd yn dod i derfyn. Bydd yr hen fywyd ‘ma yn cymryd tro difyr wrth i mi anelu am Grangetown. Dydd Llun bydda i’n berchen ar dŷ. Am y Gogledd â mi heno, cyn dychwelyd ddydd Llun gydag wythnos haeddiannol i ffwrdd o’r gwaith, gyda Mam a Nain yn dyfod i Gaerdydd i’m helpu gyda gwneud y lle edrych yn iawn.

Dw i’m ‘di cael dim ond problemau yn y Bae, sy’n ychwanegu i’r ffaith fy mod i wirioneddol ddim yn gweddu’r lle. Dw i ‘di llwyddo troi y timer dŵr poeth i ffwrdd felly dw i’n gorfod gwneud hynny cyn fy mod isio cawod, ac mae’r popty’n gymhlethach na chroesair Japaneaidd. Dw i ‘di llwyddo toddi handlen y gril, a ddoe mi a’i defnyddiais ar gyfer coginio rhyw fân bryd o fwyd, cyn troi rownd pum munud wedyn a sylwi fod y popty wedi meddalu’r plastic oedd yn ei dal hefyd felly roedd rhaid i mi fynd am sglods yn lle.

Dydi sglods, neu têc-awês am hynny, o unrhyw safon ddim yn hawdd dod ar eu traws yng Nghaerdydd. Roedd un siop sglods da wrth ymyl Newport Road, a dw i ‘di dod o hyd i un yn Grangetown sydd efo naws Eidalaidd i’r lle. Hen le budur ydyw. Dw i’n licio siop sglods budur, mae’n arwydd, rhywsut, o sglodion da.

Dw i dal, dros gyfnod o bedair blynedd, heb ddod o hyd i Tsieinîs da, na Indian (têc-awê) o safon uchel iawn. Pe gwyddoch, rhowch wybod.

Megis y gwynt, mae têc-awê y Gogledd yn well na thêc-awê y De.

martedì, luglio 10, 2007

O'r diwedd!

Wel, mae hi ‘di bod yn un peth ar ôl y llall ers pythefnos. Dydd Llun mi fydda i yn Grangetown, yn bendant. O’r diwedd. Mae’r pwysau drosodd i mi; a chryn bwysau y bu hefyd. Dw i’n teimlo nad ydw i wedi gwneud dim ers pythefnos, ond dyna ni. Er hynny, ni fydd yn hawdd iawn denu pobl i ddod i’m gweld, yn enwedig os yn cystadlu efo rhywun fel Haydn; mi drechiff “Ti ffansi dod i’m fflat yn y Bae sy’n edrych dros y dŵr ac efo ensuite” “Ti ffansi dod i fy nhŷ yn Grangetown sydd efo catfflap” bob tro. Sy’n bechod, ond dw i’n edrych ymlaen yn aruthrol bellach.

Pedair blynedd yn ôl, pan ddechreuais flogio (efallai bod rhai ohonoch wedi dilyn fy mlog ers hynny ... dw i wedi) prin iawn y byddwn wedi dyfalu mai prynu tŷ yng Nghaerdydd fyddai fy hanes. Llwyr ddisgwyliais fod yn ôl yn y Gogledd – er nad ydw i’n amau mai dyna fy hanes hirdymor, os caf fyw am hynny amser. Disgwyliais fyth y byddwn yn cyfieithu. Athro oeddwn i am fod; ond fel sawl pheth arall yn fy mywyd profodd y ddelwedd feddyliol yn erchyll anghywir. Ond a yw rhywun yr hyn a ddisgwyliasant fyth?

Ia wir, tyfu pot ac yfed Skol. Dyna’r bywyd i mi. Dw i byth wedi trio Skol; dw i’m yn gofyn am lawer mewn bywyd a byth wedi bod isio aur y byd neu ryw ar gwch padlo. Rhyw mewn fflat yn y Bae yn edrych dros y dŵr, yn bendant, ond fe’m curwyd i’r nod hwnnw gan ffarmwr anhysbys blin o Sir Ddinbych. Bastad.

lunedì, luglio 09, 2007

Y Frechdan Deimladol

Mae sawl ymadrodd gwych ym meddiant yr iaith Gymraeg; mae mynd dros ben llestri, oes pys a gwneud môr a mynydd o rywbeth yn enghreifftiau o’r rhain, ac yn rhai dw i’n eu defnyddio yn naturiol iawn. ‘Sdim gwell nac ymadroddion naturiol, ond mae un gwell sydd rywfaint yn fwy aneglur, sef;

“Dw i’n teimlo fatha brechdan”

Rŵan, does neb dw i’n eu hadnabod yn dweud hyn, a phan dw i wedi eu dweud maen nhw’n edrych arna’ i’n wirion, sy’n gwneud i mi feddwl fy mod wedi bathu’r ymadrodd neu rywbeth (dw i’n SIŴR dw i heb). Ond pa beth yw teimlo fel brechdan?

Teimlad ôl-hangover, dw i’n meddwl. Fe wyddoch yn iawn, pan nad oes bellach na chur pen na phoen bol, ond teimlad diegni, dwl, sydd fel arfer yn para tan ddydd Llun yn y gwaith ac yn cael ei waredu gyda’r nos wrth i chi gael cwsg da.

Dw i’m yn siŵr beth ydi teimlo fel brechdan dim ond y bydda’ i’n teimlo felly ar ddydd Llun. Oes rhywun arall?

venerdì, luglio 06, 2007

Be DDIAWL..?!

Dyma ddirgelwch i chi. Dw i newydd cael galwad ffôn. Helo, dywedais innau. Hello, meddai hithau, this is the Westminster Agency.

Oeddwn i ar goll. You’ve left your bag here, your phonenumber is on this bag. Mi ofynnais iddi lle ddiawl mae’r Westminster Agency.

Well, if you don’t know it’s obviously not yours,” ebe’r ast, cyn rhoi’r ffôn i lawr arnaf.

Felly mae ‘na fag yn Llundain efo fy rhif ffôn arno – er mai fi di’r unig berson sydd erioed wedi bod yn berchen ar y ffôn ‘ma!
Be sy’n digwydd?!




Blewfranllyd

Bastad ddinas, bitch o ddynas


Dw i’n ffycin drempyn. Dw i’m yn cael symud i’r ffycin tŷ tan o leiaf wythnos i ddydd Llun, felly dw i’n mynd adra penwythnos ‘ma, adra penwythnos nesaf a chael dydd Llun i ffwrdd wedyn. Mae’r ddynas, yr hen ast iddi, wedi dweud na chaf i symud nes bod popeth mae hi eisiau allan – sef bwrdd, cadeiriau ac un gwely sengl – a hithau’n gwybod ers fis fy mod isio symud i mewn dechrau’r mis.

Dw i am y Gogledd am saib o’r hen ddinas ‘ma.

Lliwiau haf y Blewfran

giovedì, luglio 05, 2007

Hogyn o ... le?

Mae’r Bae yn lle iawn i fynd am ychydig o ddiwrnodau; yn wir, mae fflat Haydn yn un hynod braf, ac mae’n eithaf amlwg bod ei oriau maith (iawn) o flaen Grand Designs a Location, Location, Location wedi talu ar eu canfed o ran ei sgiliau cynllunio mewnol. Serch hyn, nid fanno mo’r lle i mi. Mae ‘na deimlad ‘allan ohoni’ draw yn y Bae; mae’n bell ac yn unig, a dim yn cysylltu gyda gweddill Caerdydd rhywsut. Wn i ddim beth i wneud ond gwylio’r teledu a bwyta creision. Nid fy mod i’n honni y bydd pethau’n well yn Grangetown ond Duw.

Felly ar y funud dw i’n ddi-wraidd ac yn teimlo ar goll i’r eithaf, ac mae hynny’n rhywbeth nad ydw i wedi ei brofi o’r blaen a dw i ddim yn ei hoffi o gwbl. Dw i’n meddwl bod yr ansicrwydd tŷ wedi cyfrannu’n helaeth at hynny a’r awch dwfn diweddar am fynd yn ôl i’r Gogledd. Dw i’n gwybod yn iawn nad ydw i’n barod i wneud hynny eto, ond mae hi dal yno, yng nghefn fy mhen yn crafu ac yn trosi. Wrth edrych allan ar y Bae neithiwr rhyfedd oedd i mi sylweddol nad oeddwn i cweit yn cofio sut bethau oedd sêr – rhywbeth na chewch chi yng Nghaerdydd.

Felly dw i wedi penderfynu mynd i’r Gogledd am benwythnos i fodloni’r awch blinderog a gwyllt, oni bai y caf i fynd i Grangetown erbyn hynny, er nad yw’n debygol yn y lleiaf. Dw i’n teimlo’r un mor hallt ac isel a’r Iwerydd ar y funud, er ddim cweit mor wlyb. Sy’n syndod â hithau’n bwrw cymaint.

mercoledì, luglio 04, 2007

Isafbwynt (arall fyth)

Mae’n ddrwg gen i, dw i ‘di bod yn eich anwybyddu yn ddiweddar. Mae fy mywyd wedi cymryd tro am y gwaethaf, ‘sgen i fawr o fynadd ei drafod a dydi o ddim o’ch busnes chi beth bynnag. Serch hyn, dw i’n byw yn y Bae am wythnos, rhywle na fyddwn i erioed wedi dychmygu y treuliwn i noson tan yn ddiweddar iawn.

Mae fy holl eiddo mewn un ystafell fechan iawn. Nid oes llenni, felly dw i’n effro hanner y nos oherwydd y golau o’r tu allan, ac ni fedraf weld llawr yr ystafell diolch i gyfuniad o ddillad, offer a mwy o ddillad (doeddwn i’m yn dallt fod gen i gymaint o ddillad. Rhai neis, ‘fyd; un swanc iawn ydwyf yr hyn ddyddiau). Wrth gwrs, dw i’n ddiolchgar iawn, iawn i Haydn Glyn am ei nawdd a’i barodrwydd i adael i mi aros am wythnos, er na ddywedwn i mo hynny wrtho, a chan na fydd yn darllen hwn ni fydd yn gwybod byth. Dw i’m yn licio dangos rhyw bethau felly. Byddai pawb sy’n f’adnabod yn cael sioc farwol o fy ngweld yn rhoi diolch twymgalon.

Felly dyna wir sail fy myw ar y funud. Ystafell fechan mewn fflat ffermwr. Pryd symudaf i Grangetown, tybed? Mi eith rhywbeth arall o’i le yn o fuan, fe gewch chi weld. Nid yw fy mywyd i a dedwyddwch byth wedi cyd-fynd yn dda iawn (yn eithaf tebyg i gyfran go dda o briodasau fy mherthnasau).

venerdì, giugno 29, 2007

Ffarwel i Newport Road

Mae’n rhaid i mi ysgrifennu pwt heddiw. Heno fydd y noson olaf yn 437 Newport Road. Heno daw blwyddyn o gweryla, sbigoglys a gwylio rhaglenni ditectif/llofruddiaeth i ben. Mi gyfaddefaf yn syth nad ydw i erioed wedi ffraeo cymaint mewn blwyddyn, er y bu i mi hoffi byw yno, a hynny er gwaetha’r ffaith nad oes neb wedi hwfro ers blwyddyn.

Rydym ni’n mynd allan heno, fel tŷ, i fowlio ac yfed. Ia, dim ond y tri ohonom, megis ménage â trois dig, ar Newport Road. Bydd hynny’n ddiddorol. Byddem yn eithaf aml yn diweddu i fyny gyda’n gilydd ar noson allan ond prin iawn y byddem ni’n mynd allan efo’n gilydd. Ond am Sainsburys. Mi fydda’ i’n methu mynd i Sainsburys ar ddydd Llun neu i brynu sothach. Mae’n ffordd hynod o ymwared ag unrhyw bwysau drwy weiddi ar bawb arall a gwneud sioe.

Ond dyna ni, ar ôl heno dw i’n gorfod aros yn y Bae am ychydig o ddiwrnodau cyn symud i mewn i’r tŷ. Fy nhŷ. Ystyriaf bryd hynny, a phryd hynny’n unig, bod myfyrdod yng Nghaerdydd wedi dod i ben. Finito. Kaput. Sy’n eithaf anaeddfed, a dweud y gwir.

mercoledì, giugno 27, 2007

Diodydd gwaethaf

Wel, rydym ni’n cael ein lluchio allan o’r tŷ'r penwythnos hwn, a dydw i heb gael fy nhŷ i eto. Golyga hyn y bydda i’n crashio gyda rhywun dros y penwythnos o leiaf, a chlustnodaf Haydn a thŷ’r genod at y diben hwn. Byddai byw yn agos i ganol dref neu ychydig o ddiwrnodau yn y Bae yn braf iawn. Dw i angen gwyliau; pa le gwell i fynd na’r Bae?

Gan ddweud hyn oll gwell byddai bod y busnes tŷ wedi ei drefnu erbyn hyn. Ond dw i’m yn poeni. Dw i’n licio meddwl bod fy mywyd yn rhywfaint o ‘mini adventure’, ys ddywedws yr hysbysebion; er byddai un Ribena efo’r aeronen yn cael ei gwasgu cyn cyrraedd Man yr Addewid yn addasach o gryn dipyn. Er, dw i’n eithaf gobeithio mai nad ffatri Ribena yw fy Man Addewid bersonol.

Felly mi fyddaf yn brysur iawn dros y dyddiau nesaf, sy’n ofnadwy achos mae’n gas gen i fod yn brysur. Bydda i wrth fy modd o dan bwysau, ond nid pwysau go iawn: pwysau coginio pryd call ac amseru popeth yn iawn, y pwysau o gyrraedd adref cyn Pobl y Cwm, math yna o beth. Dw i’m yn meddwl y byddwn i’n hoff o roi aren, er enghraifft (er dw i’n siŵr y byddant hwy yn hoff iawn o ddianc ohonof, a hwythau wedi hen flino ar Carling).

Dw i heb flino ar Carling, fel mae’n digwydd. Ar y funud Carling, Seidr Blac a Fosters ydw i’n yfed (Baileys a fodca hefyd, wrth gwrs, gwin coch os caf y cyfle hefyd - heb fynd ar y G&Ts ers ‘chydig ond mae’n hawdd yn un o fy hoff ddiodydd), a dw isio peint yn o handi.

Ond mae ‘na ddigon o ddiodydd alcoholic nad wyf yn hoff ohonynt. Rhestr? Ia, amser am restr, fy 10 diod alcoholic gwaethaf.

1. Archers
2. Absinth
3. Rym
4. Heineken
5. Chwerw o bob math
6. Grolsch
7. Bacardi
8. Sambwca
9. Gwin gwyn
10. Stella Artois (gwn y bydd hwnnw’n amhoblogaidd ond fy mlog i ydyw so ffyc off)

martedì, giugno 26, 2007

Problem bersonol

Newydd dderbyn hwn drwy'r e-bost; mi wnaeth i mi chwerthin, felly mi a'i rhannaf!


Enwau Plant

Mae ‘Mehefin’ yn air dw i’n hoff iawn ohono. Wn i ddim pam. Dyna’r enw orau ar fis yn sicr, a ‘Rhagfyr’ ydi’r gwaethaf. Gair hyll yw Rhagfyr. Mis hyll hefyd. Ond mae hi’n ddigon pell i ffwrdd.

Enwau plant ydi’r peth gwaethaf gewch chi. Fel un nad ydyw’n medru ymwneud â phlant ac sy’n cael ei gasáu ganddynt (roedd gas gen i’r tro cyntaf i mi ddal babi, a dw i byth wedi gwneud ers hynny) dw i’n ddigon parod i ddweud nad ydw i’n teimlo drostynt. Ia, fi sy’n chwerthin crochaf pan gaiff plentyn ei frifo ar You’ve Been Framed; ond mae rhai pethau nad ydynt yn eu haeddu.

Cael eu henwi gan Gwenan neu Llinos yw un o’r pethau hyn. Mae genod yn ofnadwy gyda babanod; hoffwn i gwrdd â’r ferch nas gellir ymwneud â hwy, mynd â nhw am ddêt, posib, i Sŵ Môr Sir Fôn neu Techniquest. Beth bynnag, hoffech chwi cael eich galw yn ‘Arianrhod Fflur’ neu, gwaeth fyth ‘Siwgr Mai’?

Dw i wastad wedi bod yn hoff o’r enw ‘Arianrhod’, ond ddim ar gyfer person, a byddai galw plentyn yn ‘Siwgr Mai’ yn greulondeb o’r math gwaethaf. Mae awgrymiad Lowri Dwd o ‘Macsen’ yn un eithaf gwirion hefyd, er mi fedr o gael ei alw’n Macs, sy’n eithaf cŵl, a dweud y gwir.

Myfi fy hun, petawn â mab rhyw ddydd, Rhodri Llywelyn hoffwn i ei alw. Ond byddai’r broblem o gyfuno’i enw cyntaf â’m syrnâm i yn un anodd iawn i’w oresgyn...

lunedì, giugno 25, 2007

Coctêl Ciwcymbr

Mi gewch grynodeb fer o’m penwythnos. Gwnes i ddim nos Wener oherwydd fy mod wedi penderfynu na fyddwn, ond trodd nos Sadwrn yn llanast pur erbyn y diwedd, ac mi es i gysgu tua 4.30 yng ngwely Kinch, sy’n anffodus a dweud y lleiaf. Roedd hynny ar ôl Clwb Ifor, lle nad ydw i’n cofio dim, mi fyddaf yn hollol onast, ond sarhau crys Hovis a mwynhau’n fwy na fu iddo ymateb. Roedd hynny ar ôl y Model Inn lle'r oedd caroci. Ni ddadleuaf yr hoffwn wedi cael tro arni, dydw i byth wedi gwneud carioci o’r blaen, ond gyda llais fel DI yn tagu ar onion ring, gwell i mi beidio.

Roedd hynny ar ôl y dafarn Cymraeg newydd yng nghanol Caerdydd, gyda Chymraeg echrydus uwch y bar. Y Tair Pluen yw ei henw. Ni welir Saesneg yn un man yno, ac maen nhw’n honni eu bod yn hapus i siarad Cymraeg. Mi eithaf hoffais y lle, ‘blaw am ei bod yn ddrud ac roedd y noson yn hen hwyrhau erbyn bryd hynny.

Cyn hynny, fodd bynnag, aethon ni i Milgi ar City Road am ddiod. Lle od ydyw ar y lleiaf, lle mae athrawesau celf a hipis yn mynd, naill ai i mewn i’r adeilad neu’r wigwam ffug yn y cefn, lle ceir DJ yn bloeddio cerddoriaeth wirion. Os ydych chi’n hoff o dream-catchers ac eneidiau bleiddiau ewch yno ar bob cyfrif. Dw i ddim. Tai’m sarhau cred neb arall; ond os ydych chi’n ymddwyn fel Indiad Coch (heb fod yn un, wrth reswm) ac yn gwisgo dillad chwifllyd haeddwch chi ddim ond rhywun yn eich taro. Gyda char. Am 90 mya.

Fodd bynnag, tra yno penderfynais fod yn ymhongar a chael coctel, a’r un mwyaf od a chefais erioed. Syrup elderflower (dim syniad be ‘di hynny’n Gymraeg), fodca, shampên a CHIWCYMBR. Ac yn lle rhoi tafell o oren neu rywbeth ar ochr y gwydr dyma fi’n cael CIWCYMBR arno. Drwg oedd yr argraff a wnaed arnaf, ac ni af yno fyth eto, yn enwedig am goctel ciwcymbr. Ffyc sêcs.

venerdì, giugno 22, 2007

Ymadawiad y Ddynes Erchyll

Dw i am orffen yr wythnos gyda blog teyrnged. Prin iawn y byddaf yn ysgrifennu’r rhain (dw i’m yn credu fy mod i wedi gwneud un erioed, a dweud y gwir). Er, gor-ddweud yw’r gair ‘teyrnged’, mewn difrif. Mae Llinos, ‘y Sguthan Goch’ fel y’i hadwaenir o amgylch tafarndai Caerdydd, yn ein gadael ac yn mynd i Aberystwyth am swydd newydd (a chôc ffres). Felly gadewch i mi nodi yma’n dragwyddol ar y Rachub rhithiol ambell i atgof o’r ddynes erchyll hon:

Ei gwylltineb llwyr wrth i mi ddwyn ei goriad. Mi ddilynodd fi hyd a’i chael eto, yn llwyddo i’m dal er bod ganddi heels a minnau pymps.

Ei noson feddw ofnadwy yn Yates yn ystod yr all-you-can-drink. Nid yn fodlon ar geisio mynd gydag Eilian, mi lwyddodd syrthio o dan fwrdd nad oedd mwy nac ugain modfedd o uchder cyn cael ei thaflu allan gan y bownser. Chwydodd yn ei gwely a mynnai i ni ei deffro ‘cyn diwedd y pedwerydd bar ... 3/4 timing, eff sharp’.

Ein Caserol Wy cyntaf. Cafodd syndod ar y blas gwych a’m dawn coginio.

Ar noson feddw arall, mi aeth ar genhadaeth i geisio argyhoeddi pawb ei bod yn lesbian. Mi gredodd yn ddyfal y llwyddodd, ond profodd ddim ond ei hanallu llwyr i actio a dweud celwydd.

Myfi a Ceren yn ei gorfodi i gerdded o amgylch cegin Theiseger Street gyda melon am ei phen a’i recordio.

Ei barusrwydd a’i pharodrwydd i fwyta unrhyw beth - hyd yn oed os ydyw’n ddarn o bara wedi’i llwydo â bleach ynddo yn Llys Senghennydd.

Ei hamharodrwydd llwyr i gyfaddef ei bod yn gic.

Ei thraed drewllyd a’i ffaith nad ydyw’n gallu eu harogli.

Ei gweithred ffiaidd iawn o fachu trempyn ar stryd Caerdydd cyn mynd â fo adref gyda hi.

Ei ffolineb wrth fynd fyny at deliwr cyffuriau ryff iawn yng Nghaerdydd a chyflwyno ei hun fel Tinky-Winky from Tellytubby land.

Mae wrth gwrs llawer, llawer mwy am y Sinsir y gellir ei ddweud ond gwell fyddai peidio yn enw gweddusrwydd. Ond dyna ni; mi aeth y Dyfed, rŵan mae Llinos yn mynd. Onid ydym yn crebachu, a thybed pwy fydd y nesaf i fynd?

giovedì, giugno 21, 2007

Strôc Freuddwydiol Porthmadog

Mae fy meddwl yn y nos wedi dechrau gwallgofi’n llwyr. Mae’r breuddwydion sy’n dyfod ataf yn od, a dweud y lleiaf, ac un neithiwr yn rhyfeddach na’r arfer. Roeddwn yn nofio ym Mhorthmadog, yn gogyls i gyd, cyn dyfod allan o’r dŵr, cyfarfod Harold Bishop a bu i’r ddau ohonom gael strôc. Dw i’m yn siŵr sut y mae hynny’n teimlo, ond dw i’n cofio nad oedd yn deimlad bendigedig, a minnau yn methu â symud hanner fy nghorff, a hanner fy wyneb. Mewn fflat ben fy hun oeddwn wedyn wedi hi, yn dal yn dioddef, yn llwyddo i gyrraedd y gwaith drannoeth, er gwaethaf Dewi Tal yn fy rhybuddio yn ei erbyn.

Ro’n i’n teimlo’n eithaf unig neithiwr, mae’n rhaid i mi gyfaddef, gyda Haydn adref o hyd ac Ellen wedi mynd allan. Dw i ddim yn berson sy’n ymdopi yn dda iawn o fod ar fy mhen fy hun (ia, dw i’n gwybod fy mod yn ceisio prynu tŷ ar ben fy hun, ond dyna ni!) - yn wir, synnaf yn aml y'i goddefir gan eraill yn well na mi! Ond eto, nid goddefgar mohonof i yn y lleiaf.

Dw i’n un o’r bobl ‘na sy’n cael eu cythruddo, ac yn cwyno am ac yn sylwi ar y pethau lleiaf - a’r pethau drwg. Gwelais i erioed y pwynt o chwilio am y da mewn person; os mae person yn dda mae hynny’n eithaf amlwg i’w weld. Pobl ddrwg di’r broblem, wyddech chi fyth beth sy’n mynd ymlaen tu ôl i’w llygaid duon a’u cegau seimllyd a’u hewinedd hirion. Afraid dweud, pe byddant i gyd yn edrych felly, byddai bywyd yn haws, er na wn i sut na sylweddolodd neb bod Hitler yn ddrwg yn y lle cyntaf. Byddwn i wedi.


Ond rydwyf innau’n amgyffred ym mhopeth. Gwelais heddiw na fyddwn yn gwerthfawrogi tost i frecwast, felly mi es heb. A chywir oeddwn. Mi werthfawrogaf fy nghinio fwy hebddo.

mercoledì, giugno 20, 2007

Bebo a Facebook

Mae’r mochedd-bethau hyn wedi distrywio fy mywyd a’i feddiannu’n llwyr. Waeth pa le bynnag yr wyf, mi fynnaf wirio a oes neges newydd gennyf ar Bebo neu fod rhywun wedi fy ngwahodd i grŵp Facebook. Mae’n troi arnaf faint o hwyl y byddaf yn ei gael o edrych a rhithlusgo o amgylch proffiliau pobl eraill, gweld pwy sydd ar-lein a busnesu ar beth mae pawb yn dweud wrth ei gilydd.

Bebo yw fy hoff un. Y peth trist am hynny ydi er fy nhoreth (llond twlc) o ffrindiau arni, dim ond rhyw bedwar sy’n cyfathrebu â mi drwyddi sef Lowri Dwd, Dyfed, Ellen ac ambell i dro Gwenan, sy’n gyfuniad anffodus o bobl a dywedyd y lleiaf. Ar wahân iddynt hwy, does neb yn edrych ar fy mhroffil heb sôn am adael neges na thynnu llun na chwblhau fy ngwisys. Mae’r sefyllfa yn un trist iawn, ar y cyfan.

Os edrychwch i’r dde, gwelwch fy Facebook. Mae’n rhyfedd fod y cymeriad South Park arno mor debyg i mi, a’r naws yn amlwg. Facebook yw Bebo y bobl seriws. Arf cyfathrebu ydyw, nid lle i luniau na ‘skins’ anaeddfed. Mae fy Facebook i gryn dipyn yn fwy poblogaidd na’r Bebo, ond allwn i ddim cynhesu ato (Facebook = gwrywaidd, Bebo = benywaidd, iawn?). Dw i ‘di blino ar gael fy ngwahodd i ychwanegu ‘Top Friends’ a ‘Fortune Cookie’. Byddaf yn ychwanegu’r ategolion hyn cyn diflasu ar ôl pum munud a’u dileu.

Yn wir, mae rhywun yn gwybod eu bod ar gyfeilion pan maen nhw’n ymuno â grŵp o’r enw ‘I Secretly Want to Punch Slow Walking People in the Back of the Head’, neu os ydych chi’n aelod o Faes E, ac yn ymuno efo’r grŵp Facebook, ‘Maes E’.

Moes yr uchod yw bod Bebo yn well na Facebook, a'i bod yn drist mai’r unig bobl fydd yn cytuno â mi ydi Lowri Dwd, Dyfed, Ellen (ac weithiau Gwenan).

martedì, giugno 19, 2007

Optimistiaeth a Phesimistiaeth

Henffych, gyfeillion. Tai’m dweud celwydd wrthoch, dw i yn teimlo rhywfaint yn isel. Mae’n ddydd Mawrth, ail ddiwrnod gwaethaf yr wythnos ar ôl dydd Iau (waeth be mae pôl piniwn Maes E yn dangos ar y mater - dw i’n ystyried fy hun yn fwy o awdurdod ar gwyno na neb). Roeddwn i hefyd felly wythnos diwethaf - ar ôl cael dau ddiwrnod i ffwrdd y peth olaf y mae rhywun isio ydi mynd yn ôl i’r gwaith am weddill yr wythnos, ond dyna fu’n rhaid i mi wneud.

Pwysau ydi o, wchi. Mi fyddaf yn cael diwrnod i ffwrdd wythnos nesaf er mwyn arwyddo am y tŷ, ac os bydd yr arolwg yn iawn (sydd, gobeithiaf, yn cael ei gynnal yr wythnos hon) a dyna fydd hi. Misoedd o dlodi llwyr. Ond does pwynt i mi gwyno. Fy mai i yw hi wedi’r cwbl. Fi ddywedodd fy mod i isio gwneud hyn. Dw i’m yr un ffordd na’r llall ar y funud; yn hytrach dw i’n hofran yn ddi-gyfeiriad tuag at wneud, heb nac argoel na chyffro.

Fues i fyth yn optimist drwy natur. Dw i’n cofio’n iawn fod mewn dosbarth Saesneg ym mlwyddyn 7 Ysgol Dyffryn Ogwen; dosbarth Elaine Jones, a roddodd ofn y diawl ynof. Dyma hi’n gofyn i bawb a oeddent yn optimist neu’n besimist. Fi oedd yr unig un o ddosbarth o ddeg ar hugain a rhoes ei law i fyny am besimist. ‘There’s always one,’ dywedodd hithau.

Ond dyna ni, oes mae eich gwallt yn mynd yn denau, eich pen glin a’ch ysgwydd yn giami ac rydych chi ar fin prynu tŷ fydd yn eich cyfyngu hyd hanner peint yr wythnos, dydi optimistiaeth ddim yn ddewis dymunol iawn.

domenica, giugno 17, 2007

Y Freuddwyd

Cefais freuddwyd neithiwr, fy mod mewn tafarn gydag Ieuan Wyn Jones yn yfed caniau o Vimto.

Mae'n rhagolwg diddorol.

giovedì, giugno 14, 2007

Yr un hen stori

Dw i’n siŵr fy mod i’n drewi o nwy. Mae’n tŷ ni’n oglau ohono felly dw i’n amau mai dyna ydyw. Byddai’n egluro pam fod ein biliau nwy mor uchel o hyd, a phaham fy mod yn drewi o nwy (fel yr eglurais). A byddai’n egluro pam fy mod i wastad yn flinedig ar y funud? Yn wir, alla’ i ddim coginio dim byd pan dw i’n cyrraedd adref, er bod tymer coginio rhywbeth gwahanol arnaf yn ddiweddar.

Ond pythefnos sydd ar ôl yn y tŷ. Fi di’r unig berson heb sicrwydd o le ar y funud. Gobeithio cael yr arolwg o’r tŷ erbyn diwedd yr wythnos. Os ddim mi fyddaf yn y lwmp mwyaf o gachu ers cynhadledd ddiwethaf y Blaid Lafur, a hoffwn i ddim mo hynny (er ei bod, heb amheuaeth, fymryn yn well na chynhadledd y Blaid Lafur).

Serch hyn dw i’n cadw fy hun yn brysur drwy wylio Big Brother a ffraeo efo Ellen a synfyfyrio y dylwn i fynd i Sainsburys i brynu bwyd i mi’n hun am y penwythnos ond y gwn yn iawn nad af oherwydd fy mod i’n ddiog a dwi’m isio mynd ben fy hun a beth bynnag choginiwn i ddim dros y penwythnos achos dydw i byth yn er bod y cyfle yno.


Mae’n ofnadwy cyrraedd penwythnos a meddwl na hoffech chi wneud rhywbeth. Ar ôl prifysgol dyna feddyliais i a meddyliaf yn eithaf aml. Serch hyn mae dal gwin coch (eitha’ minging) yn y tŷ, a gwell ei gwmni yntau gen i na dim na neb arall yr hon benwythnos. Yr un hen stori; dim pres, dim mynadd.


Er, mi fynegaf fy niléit o glywed y cafodd Lowri Dwd ffrae am wneud dim gwaith yn gwaith. Mi ddylai pawb fod yn falch nad aeth i nyrsio, wedi'r cwbl.

mercoledì, giugno 13, 2007

Tarfu ar y tawelwch

Mi sylweddolech, petaech yn darllen, fy mod wedi bod yn ddistaw ers cryn dipyn. Nid peth newydd mo hyn, dw i’n aml iawn yn brysur, ond ychydig mwy felly dros y dyddiau diwethaf, rhwng nos Sadwrn a dydd Llun. Mi es ar y Crôl Cnau, un o veterans y bedwaredd flwyddyn (mae hyn yn gelwydd, dydw i ddim yn y bedwaredd flwyddyn dw i’n ffycin gweithio) prin. Roeddwn i’n teimlo’n rhy hen i fod o gwmpas y lle, tan i mi feddwi a ffraeo efo Haydn oedd yn cysgu ar stepen Clwb Ifor, a mynd mor flin fel y bu i mi gryshio un o grempogau Llinos. Ac mi enillais singoff Esgair Llyn yn erbyn Owain Ne, sydd o gryn bleser i mi.

Ddoe, mi es i fflat Haydn i roi help llaw efo’i ymdrech parhaus i addurno rhywfaint ar y lle. Mewn sefyllfa felly, cefnogaeth foesol ac ysgogol y byddwn i’n ei gynnig yn hytrach na dim ymarferol. Hynny yw, gwell oedd i mi eistedd ar y soffa efo Irn Bru a chyfeirio’r gweithredoedd, ac edrych allan o’r ffenest ar y dŵr, yn dychmygu pa mor ddoniol y byddai ton llanw ar Benarth ar yr union adeg.


Mae Lowri Llewelyn a Ceren wedi mynd i Japan am bythefnos (hwythau sy’n honni hyn, gwelais i mo’r tocynnau ‘rioed), dw i angen prynu past dannedd newydd i Ellen wedi rhoi Fairy Liquid yn y llall (nid hapus mohoni) ac mae’n rhaid i mi ddechrau stopio coginio omlets o hyd achos nid yn unig nad ydyn nhw’n dda iawn i mi, ond dw i’m yn dda iawn ar goginio wyau eniwe.

giovedì, giugno 07, 2007

Tasa'r tŷ ma'n gallu siarad...

Mi wnaeth Llinos bei pysgod i mi neithiwr. Mi wnes innau dysan melys iddi hi. Mae pysgod a thatws melys yn gyfuniad rhyfeddol o dda, yn enwedig os mai pei pysgodyn mam Llinos sydd wrth y llyw (ar y plât, yn hytrach, bosib). A dyna, gyfeillion, bydd diwedd y ddadl honno.

Roedd ddoe yn cynnwys hynny a phrynu papur toiled. Dydw i nac Ellen (ninnau ar ben ein hunain yn y tŷ ers wythnos bellach) yn gwybod lle y mae hi i gyd wedi mynd. Heb bryd hefyd yn glanhau’r tŷ ffiaidd hwnnw. Does dim hwfar gennym ni, ‘dach chi’n gweld (wel, oes, ond megis putain wael, nid yw’n sugno) felly dros y misoedd diwethaf mae’r llwch wedi bod yn ymgasglu i bob congl o’r tŷ. Mae ‘na fôr ohono ar hyd llawr pren Haydn, a dw i’n ofni symud fy ngwely i, tra bo dillad Ellen sydd wastad ar y llawr yn gorchuddio unrhyw fudred oddi tanodd.

Mae’r coridor a’r grisiau hefyd yn llychlyd. Mae’r gegin yn weddol lân, a’r toiled yn drewi o chŵyd o hyd achos dydi’r tyweli sydd llawn o’m gwin coch a chyri heb gael eu lluchio hyd yn hyn.


Rhaid dweud mai ffiaidd o dŷ ydyw. Dw i ‘di blino ar Newport Road. Dw i am fynd i Grangetown. Mwy na thebyg.

mercoledì, giugno 06, 2007

Y Jôc

Jôc a glywais gan Lowri Llewelyn neithiwr, sy'n hollol rybish ond ddaru fo neud i mi chwerthin cymaint fel y bu imi ei decstio i mam Lowri Dwd:

Pam oedd Sion a Siân yn chwarae efo torth?

Er mwyn gwneud i'r gêm bara!


Haha, diolch, diolch yn fawr.

martedì, giugno 05, 2007

Slipper Lobster, King Prons a'r hanes rybish yn ei chyfanrwydd

Hoffwn i air sydyn efo chi, a minnau’n teimlo fy mod i wedi eich hanwybyddu yn ddiweddar. Mi ges i hynod o benwythnos da, er na’i dechreuwyd felly wrth i mi aros i mewn ac yn cael Kinch a Haydn yn torri i mewn i f’ystafell am dri o’r gloch y bore (d’on i meeethu cysgu dim … ar ôl hynny) a rhoi fy radio ymlaen a mynd ar fy nerfau yn gyffredinol.

Mi es i weld y gêm efo Rhys a’i frawd a mawr syndod a gefais o weld Dafydd Wigley yn Pica Pica, ei lais dwfn, cyfoethog yn rholio oddi ar y waliau’n orgasmig fwyn. Ambell i beint yng Ngwesty’r Angel oedd pia hi wedyn, cyn i bopeth fynd ar chwâl yn Dempseys (lle y bu mi waredu Rhys a’i frawd a Sioned - anegwyddorol ydwyf yn fy meddwod), ac ar chwâl mwy fyth yn y Gatekeeper, lle nad ydw i wedi bod ers amser maith, a bu imi gofio pam achos mae’n rhy fawr i rywun bach fel fi, efo’i teirllawr a’i sŵn. Ac yna i’r Model Inn, gyfeillion, canys fy mod isio clywed carioci, a lle nad ydw i’n cofio llawer unwaith eto. O ia, a Chlwb Ifor, lle’r mwyaf dw i’n cofio ydi troi neud tyrbo shandi wrth y bar llawr uchaf ond i’w gweld yn ffizio allan o’r peint ar hyd a lled y lle, a chael lwc eitha’ gas gan ŵr y bar.

Argol, mi fytish i’n dda ar y Sul. Mi ges gynnig gan Kinch i fynd am dro i weld ei fam a Dennis (y Menace, yn ôl Kinch) a dau arall o’r Ynys yn y nos. Wedi cael cinio dydd Sul yn y Claude ac It’s Pizza Time! (hanfodol ydyw’r ebychnod fan hyn - mae o hyd yn oed ar fy ffôn) mi wnaethon ni’n ffordd i Champers. Dw i heb gael noson o chwerthin caletach ers sbel, felly byddwn i’n apelio i bawb gofio mai dim ond pobl fel y ni ydi pobl Ynys Môn wedi’r cyfan, ac arwynebol yw eu hisraddoldeb, mewn difri.

Pigwn ni ar Sir Ddinbych yn y dyfodol.

Sut bynnag, mi drïais i King Prawn (mae Brenin Prôn yn wirion o beth i ddweud felly gwnaf i ddim - wyddoch chi fod ‘na ffasiwn anifail â Slipper Lobster? Hah! Gwirion.) ac mi oedd yn odidog yn wir, ond yn cymryd tuag awr i’w phlicio a dw i’n dal i ddrewi o berfeddion y môr. Ond ‘sdim ots gen i.


Gwglimij o Slipper Lobster:

(Iawn, dw i'n fodlon cyfaddef mai 'lobster slippers' nes i roi yn Gwglimij, ond mae'n rhaid i'r Sock Mynci gael ffrind, yn does?)

venerdì, giugno 01, 2007

Memme

Mae Wierdo (sy’n ddynas od, wedi’r cyfan) wedi fy nhagio efo ryw Memme neu rhywbeth, sef bod rhywun yn eich tagio i ddweud wyth peth newydd amdanoch chi eich hun. Nid yn un i wastraffu cyfle o’r math, dyma wyth ffaith amdanaf na wyddoch chi ynghynt, neu anghofioch chi, neu fe fydd yn eich atgoffa o’r hyn sy’n hysbys eisoes i chi. Neu rwbath. Beth bynnag, dyma nhw, a gwir yw pob un:

1. Fy hoff gantor ydi Dafydd Iwan. Mentrwn i ddweud fy mod i’n gwybod y geiriau i o leiaf hanner cant o’i ganeuon (mae o’n gwybod nhw i gyd, dw i’n cymryd). Fy hoff fand, wrth gwrs, yw Celt.

2. Dw i’n haeddu mwy o barch.
3. Yn anad dim, dyheaf fod yn ddewin yn byw mewn tŵr uchel, oeraidd.
4. Gas gen i blant â’r malais uchaf a chwerwaf posibl. Gwarchod yw fy syniad i o uffern.
5. Yn gyffredinol, fy nghas bobl yw genethod ‘girly’ twp sy’n caru pinc, siarad yn fain ac yn arwynebol (yn amlwg bydda i’n casau Big Brother flwyddyn yma). Dydyn nhw ddim hyd yn oed yn ddoniol. Maen nhw’n troi fy stumog.
6. Fy hoff air yw ‘amgyffred’
7. Yn fwy na dim hoffwn i ysgrifennu llyfr; ond dw i’m yn gwybod beth fyddwn i’n ysgrifennu amdano nac yn credu y byddai neb yn ei gyhoeddi (h.y. llyfr crap fyddai)
8. Mae llawer o bobl yn fy ystyried yn goeglyd; ond dw i’n ystyried fy hun yn onest.


Ac mi dagia i PAWB sy’n darllen y blog i wneud hwn. HA! Hawdd.

giovedì, maggio 31, 2007

Hwyliau da

Henffych gyfeillion (a darllenwyr amhenodol)! Dw i mewn hwyl dda heddiw, a minnau wedi ennill 3 botel o win coch diolch i gystadleuaeth darogan canlyniadau’r etholiad Maes E. Mae rhagolygon fy mhenwythnos yn wych felly! Hwyrach yr agoraf i un heno. Unig y byddaf; mae Haydn yn mynd adref ac Ellen tua Chaerfyrddin, a does gwell cysur na gwin ar gyfer achlysuron megis unigedd, digalondid, meddwi’n racs a bwyta caws a grawnwin. Hoffwn i fod yn rhywun sy’n yfed gwydraid o win coch bob diwrnod, gyda chaws. Ond byddaf i methu fforddio hynny, a hyd yn oed petawn i, byddwn i’m yn mynd i Lidl bob nos jyst er mwyn eu prynu.

Mi fydda’ i’n eithaf hoff o sôn amdanaf i fy hun (pam lai?), a phan fyddaf yn bôrd mi fydda i’n lyrcio o amgylch Facebook a Bebo yn chwilio am rhai o’r pethau ‘na i lenwi i mewn; chi’n gwybod, y math o bethau y mae genod bach 14 oed yn licio’u hateb fel have you ever kissed a member of the same sex, have you ever been abroad, have you ever been scared by an inanimate object, have you ever been so drunk you don’t remember anything ac fel rheol mi fyddaf yn ateb ‘Do’ (yn Gymraeg) i bob un, heb na chywilydd nac ots. Ond mae’n iawn, achos does neb byth yn eu darllen nac yn gweld fy enaid ar agor i’r byd a’r Betws-y-Coed.

Bydda i hefyd yn licio lyrcio o’u hamgylch yn edrych ar beth mae pawb yn dweud wrth bawb. Dw i’n meddwl bod pawb sy’n hoff o’r rhyngweithiadau ‘ma yn gwneud hynny, mewn gobaith ofer bod rhywun, yn rhywle, yn siarad amdanynt. Hah! Dim peryg. Un peth sydd gan bobl Facebook a Bebo a phob ryw aelod gwefan felly yn gyffredin yw mai hwythau (h.y. ninnau), yn anad dim, yw pobl leiaf diddorol y byd, ac nid eu (ein) haeddiant mo cael neb yn siarad amdanynt (amdanom).

Ffeithiau diddorol amdanaf:-
Dw i’n gwybod nifer sylweddol o enwau coed yn Gymraeg

Dwi’n meddwl bod peiriannau ffacs bellach yn ddibwynt

martedì, maggio 29, 2007

Pethau y gwelwyd gennyf ar y ffordd i'r gwaith

Dw i’n licio rhestrau, ac mae pobl sydd ddim yn elynion i mi. Dyma restr o bethau y gwelais ar y ffordd i’r gwaith heddiw;

Dynes Somali yn poeri
Dynes wen wedi gwisgo fel dynes Somali
T.H. Parry-Williams
Dyn gyda locsyn am ei ên ond na thrawswch na seidbyrns

Pa un yw’r celwydd? Sws i’r enillydd, mawr ddirmyg i bawb nas atebant.

Mi es i’r Gogledd wedi’r cyfan, fel y gwyddoch, a’r oll a ddaethpwyd yn ôl gyda mi oedd botel o win coch, stamp coch gan Dyfed a ffan, a sylweddolais eiliad yn ôl mai cyfuniad eithaf od ydyw. Beth bynnag, wedi llwyddo gyrru i lawr mewn tair awr a thri chwarter (record newydd i mi, yr heileit oedd rhedeg drosodd cwningen oedd yn gelain eisoes, a chlywed BYMP, jyst er mwyn gwneud yn siŵr) mi ddychwelais i dŷ gwag, unig ac oer. Mi es felly i dŷ’r genod.

Roedd Llinos yn cwyno bod ei thraed yn drewi ac yn rhwbio’i dwylo ar eu hyd cyn rhoi eu dwylo wrth ei thrwyn a chyhoeddi nad oeddent wedi’r cwbl (fe’r oeddent), wrth i Lowri Dwd drafod ei llwyddiant diweddaraf wrth chwalu perthynas. A Lowri Llew yn cyhoeddi “dw i’n darllen dy flog bob dydd ... ond dim ond achos dw i’n bôrd”.


Mae’n siŵr bod chithau hefyd erbyn hyn. Ta ra.

YPDÊT:
Anghofiais ddweud ond mi ges freuddwyd neithiwr fy mod i mewn hofrennydd efo rhywun yn mynd o Ddinas Dinlle i Fanceinion, cyn mynd i’r ystafell newid a mynd i ymladd brwydyr Lord of the Rings-aidd mewn byd digidol. Myfi a redais i’r ochr a myfi oedd y cyntaf i farw (sy’n siomedig, a finnau’n ystyried fy hun yn ymladdwr benigamp, yn erbyn pobl sy’n llai na phum troedfedd a chenhinau pedr, wrth gwrs). Braf oedd ymladd ochr yn ochr â Saruman, fy arwr ffilmyddol a ffrind meddyliol.

Hefyd, a nid celwydd mo hyn, gwelais enfys ddoe uwchben Caerdydd – un pedwar lliw o goch a glas a melyn a gwyrdd. Erbyn i’r daith dod i ben roedd yr enfys wedi ymffurfio'n ddau liw, sef coch a melyn.

Rhagrybudd, bosib?

domenica, maggio 27, 2007

Glaw a gweirydd gwyrddion

Dw i’n ôl yn y Gogledd tan bora ‘fory. Roeddwn i am fynd allan i Fethesda heno ond o ystyried pa mor ffiaidd ydyw’r tywydd dw i’m yn credu y byddaf isio. Felly mi es i weld Nain.

Doedd gan Nain ddim byd o werth i’w ddweud, oni bai am bwyntio allan fod fy ngwallt yn teneuo, cyn mynd o gwmpas fy ffrindiau gan eu sarhau, megis dweud bod Ellen yn ‘hogan hen ffash’ a Haydn ‘ddim mor ddel â’i daid’ a hynny oll cyn adrodd stori am ‘boi yn bron â marw oherwydd gwenwyn yn ei ddant yn mynd i’w galon’.

A chlywed fy nhaid yn dweud “Farmers aren’t tight – they’re like a duck’s arse – watertight”. Sy’n wir ond doeddwn i ddim isio’i chlywed.

Ond dw i’n falch fy mod i wedi dod adref - dw i’n meddwl bod fy mryd i wedi bod ar wneud, felly er y bu imi fynd allan nos Wener (ac edifar rhywfaint - gas gen i stryd Tiger Tiger; hen le ymhongar ydyw, a da i ddim os mae dwy o’r parti yn cael cic owt - un am gysgu a’r llall am chwydu ar draed y bownsar).

Felly dyma fi adref, o flaen y cyfrifiadur gyda phanad a hithau’n bwrw glaw tu allan. Dim pobl Metro. Dim aer trwm, trwchus. Dim ceir cyson. Dim ond glaw a gweirydd gwyrddion.

Oes rhywun eraill wedi sylweddoli mai cynnig Cysill am ‘cyflogai’ yw ‘cachasid’?

venerdì, maggio 25, 2007

Pesda neu Gaerdydd?

Hawdd a gwaeth byddai bywyd heb benderfyniadau. Prin y byddwn ni’n gwneud unrhyw beth. Mae penderfyniad arall eto fyth o’m mlaen unwaith eto drachefn. Wn i ddim os i dreulio fy mhenwythnos ym Methesda neu yng Nghaerdydd.

Chaf i ddim pysgota os af i fyny, a dw isio pysgota, wrth gwrs. Mae Dyfed efo fy ngwialen bysgota a phopeth sy’n mynd efo hi. Fe fydd yn bedair awr dda i fynd fyny, ond mi gaf noson allan ym Methesda ar y nos Sul.

Bydd Caerdydd yn gadael i mi aros a meddwl am dai, a gobeithio cael diawl o sesh, heb orfod symud. Mi ges ambell i fotel neithiwr, a minnau mewn tymer yfed cwrw, ond mae’r amser wedi dyfod imi unwaith eto feddwi a gwneud ffŵl o fy hun o flaen pawb. Duw, fyddai’n ei wneud o hyd; Rhodri Morgan y byd meddw ydwyf, wedi’r cwbl.

Ond efallai na eith neb allan. Fyddwn i’n flin wedyn. Wast o amser go iawn.

Mi dreuliaf weddill y diwrnod yn pendroi am y peth, yn hidio am ddim arall oni bai am beth sydd i ginio a pa le ga’i fyw (ydw, dal i gwyno am hynny, a chwyno y gwnaf. Os dachi’m yn licio clywed hynny, gwnewch rywbeth arall, fel darllen blog Rhys Llwyd).

Mi welish ddyn hyll a’i wallt yn hir a rhywbeth yn ei farf bora ‘ma. Edrychodd fel dynes o’r cefn, a Lowri Dwd o’r blaen.