giovedì, ottobre 02, 2008

Yr Egg Heads

Da ydi’r hen Eggheads. Yna fyddan nhw am 6 yn siarp bob noson o’r wythnos yn dallt popeth, a minnau yna gyda nhw’n aml yn eithriadol o falch, bron yn wenfflam fy ngorfoledd fy mod bron bob tro yn cael y cwestiynau hanes yn gywir, a dwi’n eithaf sicr yn dal i ddisgwyl cael un ar y celfyddydau’n gywir.

Dwi ddim cweit yn siŵr pam fy mod yn hoffi’r rhaglen hon gymaint, nac yn siŵr pam fod cymaint o bobl eraill yn ei hoffi chwaith. Wrth gwrs, dwi’n un o’r bobl hynny sy’n licio dangos ei fod yn glyfar drwy ddweud llwythi o ffeithiau di-bwrpas a bod yn feddylgar a sylwgar, ond ar yr un pryd mae’n gas ganddo bobl ddeallusol, glyfar. Hynny ydi, pobl ddeallusol, glyfar go iawn, nid y math o berson sy’n darllen y Bumper Book of Useless Information cryn dipyn yn fwy nag y dylai.

Dwi wedi hen benderfynu pwy nad ydw i’n licio a phwy dwi wrth fy modd efo. Fel pawb a fydd yn darllen dwi’n meddwl mai CJ ydi’r gwaethaf. Efallai y bydd yn eich synnu o wybod bod y dyn yn gyn-fodel. I ba beth, ni wn. Fydda i’n casáu ei wyneb bach crintachlyd, smyg ar y sioe, ac un o bleserau bywyd yw ei weld yn colli, sy’n digwydd yn ddigon aml diolch byth.

‘Rhen Jiwdiff sy ddim fod yno. ‘Runig beth mae ‘rhen Jiwdiff yn gwybod ydi pethau am Ffrainc ac mae hi mond yno gan iddi ateb 15 cwestiwn yn iawn. Gas gen i’r ffaith bod y gont yn glyfrach na mi o beth ddiawl.

Dwi, yn bersonol, ddim yn ffan o Kevin. Mae ‘na rywbeth anghymdeithasol iawn am Kevin; di-bersonoliaeth ydyw. Does neb isho ateb cwestiynau yn erbyn Kevin achos mae Kevin yn glyfar glyfar, ac ella dyna pam ei fod yn brennaidd. Dwi ddim isio bod yn gas (wel, oes) ond dwi’n meddwl bo Kevin ychydig yn ‘ffyni’.

Rŵan, y wirdo ydi Chris, y boi efo sbecs a dim gwallt, gan iddo’i fwyta ni synnwn, achos mae Chris yn ffat boi. Ta waeth, pe bai’n rhaid i mi fynd am beint efo un o’r Eggheads, Chris a ddewiswn, oherwydd er ei fod o’n wirdo mae 'na haen o normalrwydd yn perthyn iddo. Fedrwch chi ddychmygu y medrai’r boi ‘ma eich diddori efo ffeithiau heb overload. Ond mae o dal yn dew a fydd hynny byth yn beth da.

Ond, o! Daffni annwyl. Pwy na fyddai am i hon fod yn hen fodryb yn drewi o berffiwm a Fishman’s Friends i chi? Fydda i’n licio Daffni, nid jyst achos ei bod hi’n annwyl ac yn amlwg ddim yn licio’r CJ, mae Daffni yn ddiawledig o beniog. Mae Dyfed Blewfran yn beniog ond pen mawr gwag sydd ganddo fo yn hytrach na phen clyfar. Peniog medrus ydi Daffni. Bob tro yn ddi-ffael Daffni neu Kevin fydd yr Egghead nas heriwyd yn y pen-i-bens, heblaw diwrnod o’r blaen ac mi ges ddiawl o syndod mai Jiwdiff nas heriwyd.

Collodd y tîm hwnnw a da ‘fyd. ‘Sneb yn cael meddwl bo Daffni’n fwy thic na Jiwdiff, uda i wrthoch chi rŵan.

mercoledì, ottobre 01, 2008

martedì, settembre 30, 2008

Mae Dydd Mawrth yn oren

Bron bob gair a glywaf, ac yng nghwmni rhai pobl mae hynny grynswth yn fwy na hoffwn, gwelaf liw yn fy mhen. Dwi’n darllen llyfr ‘O Ran’ Mererid Hopwood ar y funud, ac er i fod yn onest dwi’n cael eithaf trafferth ei ddarllen mi gyrhaeddais ddarn ddoe a oedd yn sôn am liwiau dyddiau’r wythnos. Mae rhai Mererid Hopwood yn wahanol i mi. Am ryw reswm:

Dydd Llun sy’n wyrdd
Dydd Mawrth sy’n orenfelyn
Dydd Mercher sy’n wyrdd fel pwll
Dydd Iau sy’n aur
Dydd Gwener sy’n ddu
Dydd Sadwrn sy’n goch
Dydd Sul sy’n felyn golau

Hoffwn wybod a oes rhywbeth seicolojical y tu ôl i feddwl y ffasiwn bethau. Rydyn ni gyd, o’r symlaf i’r cymhlethaf, yn hoff iawn, yn anad dim, o ddadansoddi ein hunain. Rŵan, os un o’r symlaf ydych, sef er enghraifft Kinch neu’n gynghorydd Llais Gwynedd, cyflawnid y dasg ar fyr o dro. I’r cymhlethaf gall fod yn ddiderfyn.

Byddaf i â’r Dwd yn aml yn treulio oriau yn dadansoddi eraill, dros banad neu yn y car ar daith faith, ac yn dod i gasgliadau tra dwfn. Yn wir, er yn gyfuniad afiach a phlentynnaidd sy’n destun casineb darlithwyr a phrinder amynedd gan gyfeillion, rydym hefyd yn gyfuniad sy’n amgyffred llawer ac yn dallt gwreiddiau pob anghydfod a theimlad sy’n hofran o’n cwmpas.

Ond beth sydd gan hynny i wneud â’r ffaith bod Mawrth yn orenfelyn yn fy mhen, wn i ddim, a doedd Wikipedia fawr o help, chwaith.

lunedì, settembre 29, 2008

Sbonc y glennydd

Gwyddoch yn iawn mae un o’m dileits ydi enwau anfeiliaid yn Gymraeg, a dyna ydi enw ar anifail: sbonc y glennydd. Wyddoch chi beth ydyw, pan fyddwch yn chwilota drwy wymon (dwi ddim yn ymgymryd â hyn yn aml, gyda llaw) y creaduriaid bach chweinllyd hynny sy’n llechu yno. Wel, sbonc y glennydd ydi honno. Hoffwn fod yn sbonc y glennydd yn anad dim, yn wymonllyd fodlon ar y byd.

Rhyfedd ydi gweld hefyd un neu ddau o amrywiaethau. Fel y gwyddoch morgi ydi siarc, ond catfish ydi morflaidd. A chath fôr ydi ray. Sut ddaru hynny ddigwydd ni wn, ond bydd pethau felly wastad yn fy niddori hyd fy ngwely angau.

venerdì, settembre 26, 2008

Te mefus - siomedigaeth arw

Fel arfer dwi ddim yn cynhyrfu am bethau fel hyn ond un o’m dileits pennaf yn Amsterdam oedd panad o de mefus bob bore. Roedd o’n hyfryd, ac mi ges sioc pa mor hyfryd ydoedd.

Dwi ‘di bod i Sainsburys, Morristons, ASDA a hyd yn oed Tesco i chwilio amdano, ac wedi rhoi cynnig ar ddau math gwahanol oedd yn ffiaidd. Fe ges syndod pa mor wirioneddol, o waelod calon siomedig yr oeddwn wrth i mi ddod o hyd i wefan y cwmni sy’n cynhyrchu’r te (doeddwn i ddim yn cofio’r enw) a gweld nad ydi o’n gwerthu’r cynnyrch ym Mhrydain.

A rŵan mi fyddai’n rili trist am weddil y penwythnos.

giovedì, settembre 25, 2008

Stêc dda

Does fawr o bethau dwi’n eu casáu yn fwy na Llafurwyr (sori Rhys a Gwenan a Dad, ond asu maesho ffycin gras efo chi ... ) ond un peth y bydda i’n ei hoffi’n fawr ydi stêc dda. A hithau’n ben-blwydd ar Mam ddoe, aethom i’r Bae am fwyd, a stêc dda a gefais. Pam lai, meddwn i wrth fy hun, a minnau heb gael un ers hydoedd.

Rŵan, mi fydda i’n hoffi fy stêc yn benodol iawn. Canolig. Ddim wedi’i choginio gymaint fel bod y blas yn diflannu, a tai’m i gael gwaed yn nofio o amgylch y plât achos nid hen beth sâl mohonof.

Ydi wir, mae’r teulu i lawr ar y funud, ac er y diffyg llonydd llwyr y dônt â hwy, mae’n braf cael y teulu lawr, ‘nenwedig rŵan fydd gen i gyfle i brynu stôf a rhewgell newydd. Onid oes yn rhaid i ni gyd fanteisio ar y sefyllfaoedd anoddaf?

Y mis diwethaf mi wariais lawer mwy na’m cyflog, rhwng Amsterdam, lle’r wyf isio mynd yn ôl iddo'r funud hon, bil enfawr y Dreth Gyngor, y morgais, y biliau eraill, er bod fy nhreth wedi mynd i lawr am ryw reswm a’r cwmni benthyciadau myfyrwyr wedi penderfynu peidio â’m conio. Y bastads twyllodrus iddynt.

A pham ffwc dwi wastad isio talu mwy o drethi pan dwi wedi meddwi?

lunedì, settembre 22, 2008

Yr Uffern Daith

Taswn wedi rhedeg y marathon deirgwaith ac wedyn ‘di gorfod cael sgwrs efo Lowri Llewelyn, ni fyddwn fwy blinedig nag wyf ar hyn o bryd. Fy mai ydi’r peth oherwydd fy mod yn ystyfnig. Gair Lowri Llewelyn amdanaf oedd ‘ystyfnig’, gyda llaw, y geiriau a ddefnyddiwyd gennyf i oedd ‘penderfynol’ neu ‘anturus’.

Gwraidd y blinder a’r anghydfod ydi’r daith a wnaed i Aberystwyth ar y penwythnos. Tai’m i mewn i siarad am y meddwi ac ati, ond wedi gweld bod Lord of the Rings ar y teledu yn Y Llew Du a slagio off myfyrwyr a Saeson a digio am fod yr Academi yn hen gapel a drowyd yn dafarn ond eto yn ddigon bodlon cael peint yno, mi drodd pethau’n eithaf llanast. Hidia befo am hynny.

Yn lle mynd i fyny’r A470, sy’n lôn erchyll, ddiflas ar y gorau adegau, penderfynais fel y gyrrwr fynd drwy Gaerfyrddin. Rŵan, mi aeth pethau rhagddynt yn ddigon di-hid a hapus ar y ffordd yno, a minnau’n cael gweld rhywfaint o Sir Gaerfyrddin ac, am y tro cyntaf, y Geredigion arfordirol y tu hwnt i fae Aber. Gwych.

Ond dydi gwneud bron unrhyw beth ddwywaith mewn cyfnod mor fyr ddim yn hawdd. Ar y ffordd nôl cymerwyd troad anghywir, yn rhyw le, rhyw bryd, ac mi ddechreuais betruso fymryn wrth ddod i mewn i Lanymddyfri, gan wybod yr iawn nad y ffordd honno ddeuthum. Ar ôl cyrraedd Pontsenni, lle bynnag uffern mae Pontsenni, daethpwyd o’r diwedd at Aberhonddu a llwyddwyd dilyn y A470 nôl i Gaerdydd. Ni welwyd mo Chaerfyrddin na’r M4, felly o leiaf yn y canol rhywle pan ofynnwyd a oeddem wedi ei heibio, gallwn ddweud yn onest ein bod.

Dwi byth yn mynd nôl o Aberystwyth “drwy Gaerfyrddin” eto.

mercoledì, settembre 17, 2008

Dirywiad safon yr iaith

Efallai fy mod i’n swnio’n rêl cyfieithydd bach trist, ond mae safon iaith yn bwysig i mi, ac mae bratiaith yn troi fy stumog. Wn i ddim p’un a wnaethoch wylio Taro 9 neithiwr, a drafododd ddirywiad y Gymraeg ymhlith plant ysgol, ond dydi hi fawr o syndod, er ei fod yn benbleth ac yn gwneud fawr o synnwyr.

Fy “nghenhedlaeth” i (nid dyma’r gair cywir ac mi egluraf pam nes ymlaen) ydi un o’r rhai olaf, mi gredaf, fydd â Chymraeg cref, naturiol. Yn 23 oed, mae gen i a llawer iawn o’m cyfeillion, yng Nghaerdydd o bob rhan o’r wlad neu’r rhai yn Nyffryn Ogwen, grap ar ymadroddion ac idiomau, ac rydym yn siarad Cymraeg gyda’n gilydd.

Dwi ddim yn honni o gwbl fod i ni Gymraeg perffaith di-wall, mae hynny’n gwbl anghywir. Ond eto mae hynny’n rhywbeth sy’n gyffredinol gan y cenedlaethau. Os ystyrir cenhedlaeth fy Nain (70+), maen nhw’n defnyddio llawer mwy o eiriau Saesneg unigol na ni, ‘eroplên’, ‘compiwtar’, ‘e-mail’ ac ati. Yn wir, bu i fy modryb sydd newydd gyrraedd ei 60, dwi’n credu, ddweud wrthyf fod gan fy nghenhedlaeth ‘Cymraeg posh’. Clod yn wir.

Ia wir, Cymraeg gwerinol sydd gennym ni. Mae gen i brofiad prin o’r Gymraeg yn ysgolion y cymoedd, ac er mor braf yw gweld twf yn nifer siaradwyr Cymraeg (h.y. y nifer sy’n medru Cymraeg - gwyddom oll yn iawn fod nifer y bobl sy’n defnyddio Cymraeg fel eu prif iaith ar drai ers cyn cof) de Cymru ni ellir disgwyl i blant ysgol yn y fan honno ddysgu Cymraeg naturiol - daw Cymraeg naturiol o siarad Cymraeg gyda’r teulu, gyda ffrindiau ac i raddau helaeth drwy fyw mewn cymdeithas Gymraeg. Gyda dirywiad enbyd y pethau hynny, dirywiad a welir yn y Gymraeg ei hun, hefyd.

Ond yn yr ardaloedd Cymraeg ac ymhlith teuluoedd Cymraeg digwyddodd rhywbeth i’r ‘genhedlaeth’ nesaf. Sôn wyf i am genhedlaeth fy chwaer. Dydyn nhw ddim yn genhedlaeth wahanol i ni - tair blynedd yn iau, ond o siarad â ffrindiau sydd â brodyr a chwiorydd o’r oedran hwnnw daw un peth yn drist o amlwg - mae safon eu Cymraeg yn is na ni, ac maent hefyd yn siarad llai o Gymraeg na ni.

Mi dorrodd rhywbeth yn rhywle, rhywsut. A hynny’n ddiweddar. Nid ydynt mor hoff o gerddoriaeth Gymraeg - galla i ddim dychmygu fy chwaer yn defnyddio Facebook Cymraeg neu’n ymuno â Maes E (yn wir, pan sefydlwyd Maes E roedd rhai o’r aelodau amlycaf yn ifanc - tua 16-17 oed - faint o bobl mor ifanc â hynny sydd bellach ar Faes E? Ddim cymaint). Dydi’r un cariad at iaith ddim yn amlwg yn eu plith.

Y peth trist ydi, dw i ddim yn meddwl fy mod yn gor-gyffredinoli.

Efallai bod y cymunedau Cymraeg wedi dirywio ychydig yn ormod, wn i ddim. Efallai bod oes datganoli wedi gwneud pobl yn rhy gyfforddus parthed yr iaith. Ond mae un ffaith yn sicr. Mae’r Gymraeg yn wannach ymhlith yr ifanc (sef i’r perwyl hwn pobl sy’n 20 oed ac yn iau) nag y bu erioed, ac yn deillio o hynny mae safon y Gymraeg yn dirywio. I nifer, dydi hi jyst ddim digon pwysig i boeni amdani. Geiriau yw iaith – dyna’r cyfan.

Wn i ddim, efallai bod rhywbeth felly’n dod ag aeddfedrwydd. Efallai mai’r lleiafrif a gynhaliodd safon erioed. Ond os yw iaith yn datgymalu, mae hi’n marw. Os mae hi’n colli ei chystrawen, yn cyfieithu yn slafaidd ac yn ymwared â’i hymadroddion, nid iaith mohoni mwyach.

Wn i ddim, ychwaith, ddyfodol y Gymraeg, neu p’un a oes dyfodol iddi mewn gwirionedd. Ond mi wn os bydd y duedd sydd ohoni’n parhau, bydd y dyfodol hwnnw ychydig yn llai goleuach nag y bu.

martedì, settembre 16, 2008

Yr Angau

Fedra i ddim dweud ag unrhyw hyder bod fawr o bwynt i mi ddeffro’r dyddiau hyn. Na, nid digalon mohnof, siriolach wyf na holl wenoliaid haf (neu wanwyn, wn i ddim pryd y daw’r gwenoliaid i Gymru fach i fod yn onest – ffycars bach swnllyd ydyn nhw), ond neithiwr oedd yr ail noson yn olynol y bu i mi freuddwydio fy mod wedi marw. Unwaith oedd mewn damwain car, lle gwrthododd fy nheulu fy ngweled a minnau’n ysbryd, a’r ail oedd neithiwr. Cofiaf farw, ac es i’r nefoedd a chael paned i’m hymlacio mewn Tesco llawn angylion ac un T-Rex, ac roedd Anti Blodwen (heddwch i’w llwch) yno, ond ddim yn rhy falch o’m gweld.

Rŵan, rhowch ddiffiniad i mi o hynny ac mi gewch wobr, ond mae’n debyg nad ydi fy nheulu yn hoff iawn ohonof p’un bynnag y diffiniad a roddir.

Gwn i ddim pa beth ydi’r Nefoedd, ond mi fetia i fy urddas (sydd, wrth gwrs, yn barhaol glwyfus ei ôl-feddwod ond yn parhau’n ffug uchel er gwaethaf pawb a phopeth) nad Tesco efo T-Rex mohono. Ond dydi’r thema o angau, gwrthod a bwyd rhad o ansawdd isel ddim yn un addawol, a dweud y lleiaf.

lunedì, settembre 15, 2008

Technoleg Fodern

Fyddech chi’n meddwl, a minnau’n ŵr ifanc, gwancus tair blynedd ar hugain oed, y byddwn yn cofleidio’r byd modern hwn, ond dydw i ddim. Ddim fy mod i’n tecnoffôb, ond dwi’m ffan fwyaf technoleg. Rŵan, mi fyddai’n hoffi’r hen feicrodon ac yn licio cyfrifiaduron ond mae ‘na ambell beth nad ydw i’n eu hoffi o gwbl.

Y SatNav ydi un o’r pethau hyn. I mi, mae’r SatNav yn un o’r dyfeisiadau dibwrpas hynny y mae pobl yn licio’u cael jyst er mwyn dangos eu bod nhw’n fodern. Wn i ddim amdanoch chi, ond mi fedra i ddarllen (mae’n siŵr os ydych chi’n darllen hwn y gallech ddarllen). Be sy’n bod efo cynllunio lle ti’n mynd yn y lle cyntaf, o fap neu drwy ddarllen arwyddion? Dwi ddim yn dallt, de. Ac oes gwaeth na rhywun yn dweud wrthot ti le i fynd beth bynnag?

Peth arall dwi’n cadw draw ohono ydi’r pethau iPhones ‘ma. Rhyngoch chi a fi, dw i ddim wirioneddol yn dallt beth ydi iPhone ond am y ffaith eich bod chi’n cyffwrdd y sgrîn. I BE? Peidiwch â’m camddeall, mae ffonau symudol yn declynnau uffernol o handi, ond be sy mor sbesial am un sy’n edrych fel bricsan, yn ddrud a’ch bod chi’n CYFFWRDD Y SGRÎN? Pam ffwc y byddwn i am wneud ffasiwn beth? Be, yn enw’r uffern ei hun, ydi’r atyniad? Goleuwch fi, wir Dduw.

domenica, settembre 14, 2008

Amsterdam

Disgynnais mewn cariad ag Amsterdam dros yr wythnos ddiwethaf, ond yn bur rhyfedd ni fu i mi hyd yn oed gweld llysieuyn yno drwy’r pum noson felly mi wnes ymdrech benodol i’w bwyta ddoe. P’un bynnag, wedi cyrraedd y gwesty a chwrdd â’r perchennog y bore wedyn, sef Saad Sleim, sy’n enw rhagorol mewn unrhyw iaith.

Rŵan, alla i ddim manylu popeth a wnaed mewn un blogiad. Roedd taith myfi a Ceren i Amsterdam yn un amrywiol tu hwnt, a oedd yn cynnwys meddwi yn slei, sbotio Cymry eraill o bell, mynd i’r wlad am ddiwrnod, gwylio gêm Cymru mewn tafarn Wyddelig, mynd i Amgueddfa Van Gough, mynd ar deithiau ar y camlesi ac o amgylch ardal y golau coch, a mân bethau eraill a wnaeth fy argyhoeddi fy mod i’n edrych fel Skeletor efo dannedd gwyrddion, ond gofynnwch i mi am hynny pan fe’ch gwelaf yn y croen.

Ac mi gawsom ffrae gan yr heddlu am ganu’r Brawd Houdini yn uchel tu hwnt.

Dinas fechan ydi Amsterdam, sy’n eithriadol o wahanol i Gymru fach. Un peth trist iawn am y lle ydi hynny o Saesneg glywch chi yno - dywedaf â llawn hyder y clywch lai o Saesneg ym Methesda nag Amsterdam, ond dyna ni, dyna’r byd sydd ohono. Ac nid aethom o amgylch yr ardaloedd twristaidd gormod, chwaith, ond o amgylch yr ardaloedd lleol, gan lwyddo i beidio â thalu mewn un lle (ro’n i hollol allan o arian erbyn y diwrnod olaf) a chanfod cwrw gwirioneddol wych o’r enw Juliper. Miam miam ydoedd.

Mae rhai o’r ystrydebau a glywch am Amsterdam yn gwbl gywir - mae’r lle yn llawn porn, pot a beiciau, ynghyd â llawer o Americanwyr am ryw reswm. P’un bynnag, dwi am fynd nôl i Amsterdam eto - y tro nesaf efo mwy o arian - ond ddim i fwyta pysgod, oherwydd mae pysgod Amsterdam yn ddrud.

giovedì, settembre 04, 2008

Dechrau'r Frwydr dros Ddatganoli Pellach

Wel, mae David Davies wedi gwirioneddol dechrau’r rhyfel dros fwy o ddatganoli i Gymru drwy ddweud y bydd yn ymgyrchu’n frwd yn erbyn rhagor o rym i’r Cynulliad Cenedlaethol. Byddai’n ffôl, dwi’n meddwl, i ddiystyru hyn. Dwi’n dueddol o deimlo bod gan Davies eithaf dylanwad ymhlith aelodau llawr gwlad y Torïaid yng Nghymru a’i fod yn cynrychioli eu barn yn llawer mwy na’u haelodau cynulliad, ac er gwaetha’r ffaith mai Tori ydi o, dydi’r dyn ddim yn dwp. Bydd bellach ar grwsâd i sicrhau pleidlais ‘Na’, ac mae pobl mor amlwg ar grwsâd o’r fath yn beryg bywyd, yn enwedig rhai â chryn ddylanwad. Dyma Dori amlycaf Cymru, wedi’r cwbl - mae ei ddiystyru yn beth gwirion, a thrahaus, i’w wneud.

Wn i ddim a fydd Llafurwyr amlwg a brwd yn fodlon ar ymuno gydag ef yn y fenter hon, fel y mae’n gobeithio, ond os maen nhw, sy’n gwbl bosibl, gall pethau fynd yn draed moch yn fuan iawn. Yn wir, o ystyried gwendidau lu’r Blaid Lafur ar hyn o bryd (nid dyma’r grym a dawelodd Kinnock ac a roddodd ei gefnogaeth i’r ymgyrch ‘Ie’ ddegawd yn ôl bellach) pwy sydd i ddweud na welwn glymblaid wrth-ddatganoli yn codi o’r lludw?

Mi ddefnyddiant bob tric a thwyll ag y gallant, cofiwch. Mae’n hysbys i bawb bod cefnogaeth i ddatganoli, yr egwyddor o leiaf, yn gyffredin erbyn hyn; ac mi fentraf ddweud bod hynny’n amlycach i wrthwynebwyr datganoli na neb arall. Mae cefnogwyr datganoli eisoes yn llusgo eu traed. Wele’r gwastraff amser ac arian a elwir yn Confensiwn Cymru Gyfan. Rŵan, wn i ddim amdanoch chi, ond dwi ddim yn gweld pwynt y Confensiwn yn y lleiaf, a thra ei fod yn llusgo’i draed yn canfod ateb hysbys (h.y. bod y gefnogaeth i ragor o ddatganoli yn eang) bydd yr ymgyrch ‘Na’ sydd yn yr arfaeth yn miniogi ei harfau ac yn paratoi.

Yr oll oedd angen oedd comisiynu cyfres o bolau piniwn i fonitro’r gefnogaeth i ddatganoli pellach dros gyfnod a ffurfio Ymgyrch Ie swyddogol ar y cyd â hynny. Erbyn hyn, dydyn ni ddim yn gwybod a fydd refferendwm cyn 2011, hyd yn oed, a’m mhryder i, ar wahân i’r ffaith honno, yw y bydd yr Ymgyrch Na yn cael uffar o head-start ar yr Ymgyrch Ie.

Wedi’r cyfan, fydd yr Ymgyrch Ie yn bolisi gan lywodraeth gynyddol ac eithriadol amhoblogaidd, i bob pwrpas - dydi pobl dal ddim cweit yn gwahaniaethu rhwng Llafur Llundain a Llafur Cymru, a hynny o bosibl oherwydd diffygion deddfwriaethol y Cynulliad - ac mae hynny’n arf beryglus tu hwnt. Ac, er gwaethaf rhaniadau Llafur a’r Torïaid, nid Plaid Cymru na’r Democratiaid Rhyddfrydol sydd am argyhoeddi’r cyhoedd o’r angen am refferendwm.

Gwyddom yn iawn y gall Kinnock a’i fath droi yn erbyn eu plaid eu hunain. Gwyddom hefyd nad yw’r Ceidwadwyr yn ganolog yn eithriadol frwd dros senedd i Gymru, a bod y gwrthwynebiad iddi yn gryf yn eu rhengoedd, sy’n golygu nad oes ganddynt hwy rym i dawelu Davies. Gwyddom fod Plaid Cymru’n rhan o glymblaid â phlaid amhoblogaidd tu hwnt. Gwyddom hefyd mai prin yw dylanwad y Dems Rhydd yng Nghymru.

Ac eisoes mae’r Ymgyrch Na wedi cychwyn. Mae’n rhanedig ar y funud, ond ni ddaw refferendwm mae o law, mae dwy flynedd dda tan hynny. Bydd yn cynllunio ac yn paratoi, a darn wrth ddarn bydd yn ymosod ar ddatganoli ymhob ffordd y gall wneud hynny, ac yn raddol bydd yn chwalu ei hygrededd. Cewch weld.

Yn hyn sy’n angenrheidiol yw wir fynd ati i gyflwyno’r achos dros rymoedd deddfwriaethol i bobl Cymru p’un a yw gwaith y Confensiwn newydd ddechrau ai peidio. Yn fwy na hynny, cefnogwyr datganoli yn rhengoedd Llafur a’r Ceidwadwyr sydd angen gwneud hyn yn fwy na neb.

Dwi’n credu y gall fod yn frwydr hir a blinedig iawn, a chynyddol anodd hefyd – ond fu i neb ennill brwydr drwy ddechrau ymladd hanner ffordd drwyddi. Os nad eir ati yn fuan, gall senedd ddeddfwriaethol fod eto genhedlaeth i ffwrdd.

mercoledì, settembre 03, 2008

Y gwahaniaeth mwyaf rhwng y Cymry a'r Saeson

Un o enghreifftiau Geiriadur Prifysgol Cymru o’r defnydd o’r gair Sais:

Sais, Sais y gâch ei bais,
Y Cymro glân y gâch allan. (1660)


Wn i ddim amdanoch chi, ond credaf y ceir gwirionedd ym mhopeth.

sabato, agosto 30, 2008

Y Daith Bysgota Fwyaf Aflwyddiannus Fu

Nid blogiwr y Sadwrn mohonof fel rheol ond heddiw fe wnaf eithriad. Dwi newydd fod yn pysgota gyda fy arch-elyn y mae’n fy ngharu’n ddarnau sef Dyfed Flewfran.

Gwn eich meddwl. Wedi’r aflwyddiannau lu y’u cofnodwyd ar y flog hon: paham? Erbyn hyn, dydyn ni ein dau ddim yn siŵr chwaith.

Prynwyd yr abwyd ac ambell i declyn ac aethpwyd i Benmon, lle, yn ôl dyn y siop ym Miwmares, y mae mecryll. Y ffycar celwyddgar.

Taflem ein bachau i’r môr ar ôl dod o hyd i fan fach ddelfrydol. Ni ddaeth y bachau’n ôl. Y môr a’u hawliasant, a ninnau symudasem.

Rŵan, yn y fan newydd fe aeth pethau o ddrwg i waeth i mi. Fe lwyddodd Dyfed ei hun gael ambell i gynnig arni. Y tro cyntaf yno, mi aeth fy rîl i bobman a sbwyliwyd y tafliad hwnnw. Digwyddodd yr un peth yr eildro wrth i’r cont snagio.

Rhoddais drefn ar y rîl a’r wialen, yn gwbl hyderus o’u gallu i ddal fy nhe. Ffŵl ydw i. Erbyn hynny roedd dim digon o linyn ar ôl ar y rîl ac ychydig fetrau a lwyddais ei luchio. A dyna ddiwedd ar fy niwrnod i.

Ar ôl ambell snagiad arall dyna hanes Dyfed wrth iddo anfwriadol (gobeithiaf) fy socian gan Lucozade.

Dw i byth isio mynd i ‘sgota eto.

venerdì, agosto 29, 2008

Byw yn yr Ardd, er nad wyf

Am y tro cyntaf erioed neithiwr mi wyliais Byw yn yr Ardd ar S4C. Wn i ddim pam y gwnes wneud hyn. Credaf i Keeping Up Appearences ddod i ben ar UKTV Gold, sydd y math o raglen y bydd rhywun yn ei gwylio o bryd i’w gilydd, yn benodol ar b’nawn Sul efo pen mawr.

Dydw i ddim yn gwybod beth a wnaeth i mi ddechrau gwylio. Nid garddwr mohonof, ac yn wahanol i un cyfaill penodol nid wyf yn honni’r ffasiwn beth. Yn wir, mae cefn gardd Stryd Machen yn frith o chwyn a gwlithod a phryfaid, a phrin iawn y bydda i’n treulio amser yno yn y tywydd hwn. Pan oeddwn fachgen, roedd pethau’n wahanol ac roeddwn yn hoff o dyfu pethau yng ngardd Nain, ond diflannodd yr awydd wrth i mi dreulio’r penwythnosau yn crwydro stryd Pesda yn gwneud ffyc ôl.

Wn i ddim beth a ddisgwyliais – ro’n i’n disgwyl rhywbeth tebyg i ‘Gardener’s World’, y byddaf yn ei osgoi yn yr un modd â bydd Brandon Monk yn osgoi actio, ond ni chefais fy siomi.

Wn i ddim os mai Bethan Gwanas ydoedd, neu’r ffaith bod ‘na bethau wirioneddol diddorol ar y rhaglen, fel cadw gwenyn, tyfu llysiau rhyfedd fel blodfresych porffor, a hyd yn oed gwrach, ond fe’m tynnwyd i mewn yn llwyr a mwynhau’r rhaglen o ddifrif. Mae’n swnio’n wirion ond roedd ‘na rhywbeth gwirioneddol Cymreigaidd amdani a wnaeth i mi deimlo’n gynnes braf. Go on, rhowch gynnig arni wythnos nesa’.

Nid yn aml y bydda i’n dweud “Da iawn S4C”, ond, da iawn S4C. Os dachi’n gallu cael rhywun fel Y Fi i fwynhau rhaglen arddio, mae hynny’n rhywbeth eitha’ da.

giovedì, agosto 28, 2008

Y Freuddwyd Wleidyddol Rwsiaidd Fawr

Prin yw pobl y byd, hyd y gwn i, sy’n breuddwydio’n wleidyddol. Dwi, ar y llaw arall, yn unigolyn prin (dim ond un ohonof sydd, wedi’r cwbl). Neithiwr mi gefais freuddwyd i raddau gwleidyddol tu hwnt.

Wel, ddim ‘tu hwnt’. Roeddwn allan am sesiwn gyda Dmitry Medvedev a Vladimir Putin. Rŵan, roedd yr Arlywydd Medvedev isio dewis Prif Weinidog, sef naill ai fi fy hun neu Vladimir Putin. Yn anobeithiol roeddwn wedi hen benderfynu na fyddwn yn cael y swydd, felly mi feddwais yn wirion, a doedd yr Arlywydd ddim yn hapus iawn a dweud y lleiaf.

Daeth un o’m ffrindiau ataf i ymuno â’r hwyl, o bosibl Ellen er na allaf gadarnhau hyn, a ddywedodd wrthyf nad oedd yr Arlywydd yn hoffi Vladimir yn fawr iawn a fi oedd y ffefryn o bell ffordd i gael y swydd, ond yn dilyn fy ymddygiad nid oedd gobaith i mi ei chael. Eisteddais y tu allan i’r dafarn yn y glaw yn ysmygu ac yn droednoeth. Nid y fi fyddai Prif Weinidog Rwsia, wedi’r cwbl.

Sy’n profi fy mod yn seicig, achos fydda i byth yn Brif Weinidog ar Rwsia, pa beth arall y byddaf yn y bywyd hwn.

mercoledì, agosto 27, 2008

England's athletes...

Glywais hyn ar hap tua hanner awr wedi deg neithiwr ar BBC News 24, dweud y cyfan rili ...


"England's ... er .... Britain's atheletes have returned home to a hero's welcome..."

martedì, agosto 26, 2008

Pe bai'r cofnod yn llên feicro, llên feicro aflwyddiannus byddai

Mawr ddyfalaf na chaf fawr uniaethu gan ddweud hyn ond dwi wrth fy modd efo blas Ibruprofen. Mae hyn hefyd yn wir am Calpol biws, y bydd nifer ohonoch yn cytuno â mi, sydd gangwaith gwell na’r oren. Os mae o’n ddigon da i blant mi ddylai fod yn ddigon da i oedolion, dyna’r oll uda i.

Hefyd, ar drywydd cwbl wahanol, oes ‘na rhywun arall yn meddwl nad ydi “yn rhad ac am ddim” yn gwneud synnwyr? Nid ffasgydd ieithyddol ym mowld Ellen Angharad neu Ffrainc mohonof, ond mae ‘na rhywbeth anghywir iawn am yr ymadrodd hwn. Ni all rhywbeth fod yn rhad ac am ddim. Yr un neu’r llall ydi o. Dyna ddiwadd arni.


Gorffennaf ar nodyn trist. Cefais freuddwyd dros y penwythnos, mi gredaf, fod gennyf wallt hir unwaith eto drachefn, a’i fod eto’n tyfu’n drwchus fel y buodd cyn y ddamwain berocseid ar ddechrau 2005. Diwrnod trist i ni gyd ydoedd, yn wir.

venerdì, agosto 22, 2008

Y Daith Newydd

Wrth i’r cyfog gwag o orfod gweld Prydain yn gwneud yn dda yn y Gemau Olympaidd ddechrau’n araf bach dod i derfyn, â’r gobaith o weld Llundain yn gwneud uffar o smonach ohoni yn 2012 ddechrau cynnau, mae gen i reswm go iawn i ddathlu achos dwi’n mynd ar wyliau.

Profodd trefnu gwyliau i Lydaw yn ormod o drafferth yn y diwadd, a p’un bynnag roedd y fferi yn uffernol o ddrud. Felly dwi, â’r Ceren, ar ôl cael pwl o anobaith a meddwl na fydden ni’n mynd i’r unman wedi’r cyfan, yn mynd i gamfihafio yn Amsterdam.

Rŵan, wn i ddim llawer am Amsterdam o ddifrif, er y gwn yn iawn sut i gamfihafio. Mi wn bod yno hen buteniaid budur yno, a waci baci (hwrê!), a chamlesi a beiciau (ddim o’r diddordeb mwyaf i mi’n bersonol), ond dyna ni. A chaws, diolch byth, achos dwi’n hoffi caws. A dwi’n gobeithio ar y diawl bod y cwrw yn weddol rhad yno.

Ond cyn hynny, arbed arian y gwnaf, a mynd i’r Gogledd (sy’n gwastraffu arian petrol, ond dal os arhosaf yng Nghaerdydd ‘runig beth wna i ‘di ffycin meddwi a gwario £70 y nos).

Unrhyw dips ar Amsterdam, dywedwch gyfeillion. Ond peidiwch â bod yn rhy fudur.

mercoledì, agosto 20, 2008

Llydaw

Mae Llydaw yn rhywle dwi bob amser wedi bod isio mynd iddo. Wn i ddim pam, ond mae ardaloedd y Celtiaid, y Fro Gymraeg, y Gaeltacht, Ynysoedd y Gorllewin a Llydaw Lydewig, wastad wedi fy atynnu. Mae rhywbeth dwfn yn fy swyno am glywed iaith Geltaidd arall yn cael ei siarad yn naturiol mewn ardal arall. Yn wir, dwi’n cael fy swyno yn clywed cymunedau Cymraeg de Cymru, hyd yn oed, ar daith anaml i’r gorllewin.

Yn ôl fy nealltwriaeth i, fodd bynnag, mae’r cymunedau Llydaweg eu hiaith, i bob pwrpas, wedi diflannu erbyn heddiw. Fe’i ceir yng ngorllewin a de’r wlad, ond prin y’i clywir. Wn i ddim a fydd tafarn yno y gallwn fynd iddi a’i chlywed o’m cwmpas - os gallwn gerdded i lawr y stryd a’i chlywed ymhlith yr henoed a phlant (annhebyg iawn gyda phlant - tua 2% o siaradwyr Llydaweg sy’n iau na deunaw) - wn i ddim a oes iddi gadarnleoedd bellach. Os dyna ganfyddaf, mi fydda i’n drist, oblegid bod y ffawd honno’n un sy’n parhau’n gwmwl dros ddyfodol y Gymraeg, a phrin fod hwnnw’n gwmwl y’i trechir byth.

Ond i’r diawl â meddyliau felly, y pwynt ydi dwi a’m cyfaill selog, sy’n hoff o bizza ac yr arferai yfed chwerw, Ceren, yn mynd i Lydaw i wersylla rhywbryd fis nesaf ac am geisio rhoi trefn ar y daith honno heno. A dwi’n edrych ymlaen yn arw.

Dwi heb adael Cymru ers mis Hydref 2007, a hynny i’r lle sy’n codi’r casineb erchyllaf ynof, sef Llundain. Yn wir, dwi heb adael Ynysoedd Prydain ers dwy flynedd a hanner - a hynny i Brâg i yfed. Dwi’n gwybod fy mod yn ailadrodd nad oes ots gen i am hyn, ond byddai newid sîn wir yn ddelfrydol iawn. Mae’n iawn mynd adref i’r Gogledd nawr ac yn y man, dwi’n mynd mewn pythefnos am wythnos, ond dydi hi ddim yn frêc sy’n gwneud i rywun deimlo’n egnïol a bywiog, oherwydd mynd o gartref i gartref y mae rhywun, nid dychwelyd adref ar ôl absenoldeb.

P’un bynnag, os oes gan rywun unrhyw syniadau am Lydaw, am leoedd gwersylla gweddol rhad, am lefydd i fynd ac ati, bwriwch sarhad isod a chewch fy niolch tragwyddol (h.y. pythefnosol).

martedì, agosto 19, 2008

Cachu Deryn

Mwy na digon trahaus ydwyf i allu dweud y galla i wisgo fel y mynnaf ac edrych yn weddol gall. Iawn, mi gyfaddefaf, nid goth o’r radd flaenaf y byddwn, ond dwi’n iawn efo popeth arall, fwy neu lai. Yr un olwg na fedrai er fy myw edrych yn hanner call ynddo ydi’n ffurfio, crys a thei ac ati. Rŵan, nid y peth deliaf mohonof p’un bynnag ond efo crys a thei dwi ar fy ngwaethaf - sydd, gadewch i mi eich sicrhau, yn bur ffycin ofnadwy.

Ond ow, ond ow, ond ow, mi gachodd dderyn ar fy mhen ddoe. Yn bur ffodus, yn fy ymdrech parhaus, ond nad digalon o aflwyddiannus, i fod yn cŵl, roeddwn yn gwisgo sbectols haul, neu shêds fel y bydd pobl sy’n ymdrechu i fod yn cŵl yn ei ddweud, ar fy mhen. Yn bur ffodus tarodd y cachu hwnnw ac arbedwyd fy ngwallt yn gyffredinol. R’on i’n meddwl mai diferyn mawr o ddŵr o’r coed ydoedd, tan i mi sylwi nad brown a gafaeladwy mo dŵr. Cywir oedd fy namcaniaeth a bu’n rhaid i mi olchi fy ngwallt yn y gweithle.

lunedì, agosto 18, 2008

Meddwi'n Babyddol a Dragon's Den

Daeth sawl cyfnod ac eiliad i’m rhan pan ddywedais na fedrwn i droi yn unigolyn rhyfeddach, ond yn ddiweddar mae fy nhuedd i olrhain alcohol gydag obsesiwn mewn bod yn Babydd yn dro od, a dweud y lleiaf. Maent yn bethau rhyfedd i'w cyfuno, ond dwi'n llwyddo gwneud, rhywsut. Bob tro y byddaf yn feddw, dwisho bod yn Gatholig. Ydi hynny'n naturiol?

Dwi wedi hen gyrraedd y cam yn fy mywyd lle nad ydw i’n adnabod fy hun yn chwil. Y peth gwaethaf ydi’r ffaith nad ydi fy ffôn lôn yn cadw nodau bodyn a anfonwyd yn ei gof, felly nid yn anaml y bydda i’n cael negeseuon yn dweud “ffyc off” neu “hahaha” y bore wedyn, a heb fath o syniad pam.

Prin iawn y proffwydais y byddwn byth yn dweud hyn, ond mae’r tueddiad tuag at yr absẃrd ac od hyn yn fy chwildod yn peri i mi feddwl y dylwn yfed yn llawer callach. Gwn yn iawn, cystal â chwithau, nad ydi hyn am ddigwydd, ond byddaf yn dal i’w ystyried waeth bynnag.

Mae dydd Llun yn iawn ar y funud oherwydd bod Dragon’s Den ymlaen. Dwi ddim ‘wrth fy modd’ efo Dragon’s Den ond mi fydda i’n hoffi gweld pobl yn methu cymaint â neb arall. Mae’n gwneud i mi feddwl yn aml pe bawn yn cael syniad gwerth chweil y byddwn yn mynd â gofyn am eu pres (ond ddim i Deborah Meadon achos hen gotsan fu honno erioed).

Do, dw i wedi ystyried y peth yn fanwl. Mi allwn i weithio yn dda gyda James Khan a Duncan Bannatyne (yr oeddwn i’n meddwl am flynyddoedd, tan yn lled-ddiweddar, mai Duncan Valentine oedd ei enw). Mae Peter Jones yn ormod o isio bod yn enwog ac ymrwbio yn y mawrion (dwi’n casáu’r dywediad hwnnw ond yn mynnu ei ddefnyddio nawr ac yn y man), ac mae’r boi sbectol Paphitis yn troi arna i achos mae’n hefru ymlaen am ei blant. Fetia i rywbeth ‘u bod nhw’n fastads bach.

Wrth gwrs, ‘sgen i ddim craffter busnes - yn wir, y mae pysgod tun ar silffoedd Morristons sydd â gwell sgil na minnau o ran hynny, sy’n golygu na fyddai’n ŵr busnes byth. Ai cyfieithu yw fy ffawd dragwyddol?

Siŵr o fod.

venerdì, agosto 15, 2008

Cymry'r Gemau Olympaidd

Does gen i ddim math o ddiddordeb yn y Gemau Olympaidd. Am ryw reswm fydda i’n hoffi javelin ac mi fedraf wylio’r deifio (dwi mond yn dweud hynny oherwydd y bu i mi ei weld yn chwilio am newyddion a phenderfynu gwylio’r gweddill ohono), ond ar wahân i hynny dyma’r tro dwi’n teimlo sympathi dros y bobl hynny sy’n casáu pêl-droed ond sy’n cael cachlwyth ohono bob yn ail flwyddyn yn ystod yr haf.

Ond mae ‘na ddimensiwn gwbl wahanol i’r Gemau Olympaidd. Y peth ydi, dwi’n teimlo wedi fy eithrio yn gyfan gwbl, oherwydd ‘does 'na’r un tîm sy’n fy nghynrychioli i, na’r un tîm felly nid o reidrwydd i mi ei gefnogi, ond y gallaf ei gefnogi.

Ga’i roi enghraifft. Y ddynes beicio, Nicole Cook. Iawn, da iawn hi ac ati ond wyddoch chi, uffern o ots gen i os Cymraeg ydi hi neu ddim. O ran y Gemau Olympaidd, Prydeines ydi Nicole Cook. Prydain bia’r llwyddiant. Nid Cymru. Mae hi’n cynrychioli baner Prydain – baner nad yw’n ei chynrychioli, hyd yn oed.

Buddugoliaeth Brydeinig ydyw. Dyna ddiwedd arni. Pam fod cymaint o Gymry, hyd yn oed y rhai cenedlaetholgar, yn mynnu cefnogi hynny? Dwi jyst ddim yn dallt.

Cymraes ai peidio, sut ydw i, fel un sydd ddim hyd yn oed yn credu ym modolaeth Prydain y wladwriaeth, yn fod i hyd yn oed godi gwên? O waelod perfeddion fy myw, alla i ddim, oherwydd cynrychioli gwlad arall, sy’n amherthnasol i mi, y mae hi. Cynrychioli baner estron, yr wyf yn casáu’r hyn y mae hi’n sefyll drosto, y mae hi.

Dyna y mae hi, a phob ryw athletwr arall sy’n hanu o Gymru, yn ei gynrychioli ar hyn o bryd. Iawn, i’r rhai ohonoch sydd yn Brydeiniwr, digon i’r. I’r “cenedlaetholwyr” sy’n mynnu eu cefnogi, dydyn nhw ddim yn eich cynrychioli – felly pam eu cefnogi? Ffycin ddeffrowch, myn uffern i.

giovedì, agosto 14, 2008

Cyfuniadau

Ceir cyfuniadau sydd at fy nant, a rhaid nad ŷnt. Dwi’n cofio, a minnau’n llai (neu’n ifancach p’un bynnag) fe’m gwrthyrrwyd gan y ffaith bod fy ffrind, Rhys BH, yn hoffi brechdanau cig oen a sbred siocled. Hyd fy myw i’r funud hon ei hun ni allaf ddychmygu'r ffasiwn gyfuniad afiach a fwytäed, yn llawen heb orfodaeth, gan un o’r ddynol ryw.

Un arall sy’n troi arnaf ond sy’n boblogaeth ymhlith y boblogaeth gyffredinol ydi siocled a chreision. Mae’n gwneud i mi deimlo’n sâl. Bydd rhai yn hoffi panad a ffag, a rhai yn hoffi ryvita efo menyn, ond un o’r cyfuniadau od dwi’n hoffi ohonynt ydi brechdan pasta, yn fenyn difeiriog i gyd gyda brith saws tomato. A chyfuniad arall hyfryd, wrth gwrs, brechdan lobsgóws, er mai brechdan anodd ei pherffeithio ydyw.

Ac, heb ymhelaethu gormod, dydi naill ai bwyd môr neu nionod ar bizza ddim yn iawn. Yn foesol, grefyddol ac yn rhesymegol felly.

A beth am nytars sy’n mynnu rhoi caws mewn brechdan ffishffingars, neu ofnadwyon lu’r byd a fynnant gymysgu sôs coch a grefi ar blât – yn enwedig cinio Sul? Ewch ymaith, fudryddion!

Un cyfuniad ddi-frechdan sy’n afiach ydi Snakebite, wrth gwrs. Ac ydych chi erioed wedi clywed am Chinese? Hanner chwerw, hanner lagyr, yn ôl y sôn. Ac un cyfuniad sy’n gwneud i mi isio chwydu hyd eithaf gallu fy stumog ydi fodca a chôc – mae o wastad wedi troi arnaf – yr oglau yn fwy na dim, am ryw reswm.

A phan fyddaf yn cerdded i’r gwaith dwi’n mynd heibio bar coffi Harleys sy’n gwerthu pei twrci a ham, sy jyst ddim yn swnio’n iawn imi.

Ond wrff cwrs, fel y mae nobs yn ei ddweud (PAM ffwc y mae rhai pobl yn ddweud 'wrff cwrs'?), fy marn i ydi hyn oll. Siŵr Dduw bod rhai ohonoch, bobl sâl, allan yno’n hoff o nionyn ar eich pizza neu gôc yn eich fodca, wn i ddim.

Ond, ew, mae ‘na bobl afiach allan yno. Wyddoch chi pwy ydych chi. A dachi’n troi arna’ i.

martedì, agosto 12, 2008

Llawysgrifen

Dydw i ddim yn rhywun mor ddiflas â fy mod yn trafod hyn yn aml â neb ond un o’r pethau sydd gennyf i a’m ffrind dwyfol a rhyfedd Lowri Llewelyn yn gyffredin ydyw’r ffaith nad ydym yn hoff o Comic Sans. Dyma’r ffont i bobl drist sy’n meddwl eu bod yn crazy wrth ysgrifennu adroddiadau a thraethodau. Windings. Dyna ‘di ffwcin crazy; ceisiwch chi feiddio cyfieithu gan ei ddefnyddio, ond Comics Sans? Tai’m i glywed y lol ‘ma fwyach.

Microsoft Sans Serif ydi fy hoff ffont i, wedi’i ddilyn gan Arial, er wrth ysgrifennu â’m llaw mae fy g a’m a yn union ‘run fath â Times New Roman.

Sôn am ysgrifennu â llaw, ydach chi’n cofio yn ‘rysgol fach mai peth pwysicaf, yn ôl yr athrawon, y câi ei ddysgu i chi oedd sut i wneud llawysgrifen gysylltiedig? Fi ydi’r unig un dwi’n ei nabod, yn fater o ffaith, sy’n dal i ysgrifennu llythrennau cyswllt - mae pawb arall yn eu gwneud ar wahân erbyn hyn. Ond hen lawysgrifen flêr ferchetaidd sydd gennyf erbyn hyn sy’n edrych fel trywydd malwen feddw ar ei ffordd adref o’r dafarn. Fedra i ddim helpu gwneud y ffasiwn beth, wrth gwrs; felly ŷm addysgwyd, a dwi’m yn un am newid.

P’un bynnag, llai o’r malu cachu ‘ma, gen i bethau gwaeth i’w gwneud.

lunedì, agosto 11, 2008

Crynodeb byr iawniawn

Mae hi wedi bod yn wythnos ers i mi flogio, a’r rheswm am hynny ydi’r Eisteddfod, wrth gwrs. Mae arna i ofn na allaf ddweud popeth a wnes yn ei gyflawnder, a p’un bynnag mae’r rhan helaethaf ohono’n dra-gywilyddus. Heb sôn am fod yn berchen ar hici gywilyddus ers nos Fercher yn Maes B (sydd DAL yno), aeth dydd Iau yn wirion wrth siarad â Trebor Edwards gyda Ceren. Daeth rhyw ddyn arall atom a fanno fu am ychydig, ac mi ofynnodd Trebor wrthyf a oeddwn yn hoff o Rhys Meirion. Ew, ydw, medda fi, llais mawr tenor arno. Wel, ebe Treb, dyma fo wrth dy ymyl ers meitin. Ro’n i’n teimlo’n wirion.

Tai’m i ddweud mwy am f’anturiaethau Eisteddfodol. Nid fy mod yn cofio’u hanner. Cywilydd bu i mi feddwi ar faes yr Eisteddfod, ond wir-yr, os am roi bar yno a’m cael innau yno, beth arall fydd y canlyniad?

Ond dyna ni, yr oll sydd gen i bellach ydi poced wag. Fe’ch gwelaf yfory, gyfeillion, normal service a ballu eto bryd hynny.

mercoledì, agosto 06, 2008

.cym

Ai fi ydi'r unig un yng Nghymru gyfan sy'n meddwl bod .cym yn swnio'n erchyll ac y byddai rhywbeth fel .cmr yn fwy addas?

lunedì, agosto 04, 2008

I ♥ Daf Iw - a straeon eraill

Mae rhai pethau sydd mor ofnadwy o randym a gwych fel y byddai’n anghywir peidio â’u rhannu. Ddoe oedd, o bosib yn ei gyflawnder, y diwrnod mwyaf randym yn fy mywyd. Dechreuodd wrth i mi a Ceren fynd i Sain Ffagan, gyda’i chwaer sef Glesni yr wyf hefyd yn gweithio gyda hi (helo Glesni!), cael cinio yno, ni ein tri (gallwch chi ddim dallt pa mor randym ydi hwnnw heb fod yno) i yfed alcohol a gwrando ar farddoniaeth yn y man ymladd ceiliogod. Doeddwn i ddim cweit yn dallt sut i hyn ddigwydd ac mi bendronais am ateb na chefais.

Mi fethodd Ceren a fi’r bws yn ôl i ganol y dref, a bu’n rhaid i mi eistedd efo rhaw yng nghar Glesni, wrth i ni bigo i mewn i’r Halfway am beint. Yn y pen draw fi a Ceren oedd yno, wrth i bobl fynd a dod, a chan ganu Cân yr Orsedd mi wnaethom ein ffordd at y Mochyn Du, sydd efallai’n llai randym na gweddill y diwrnod.

Peintiau yn ein dwylo o hyd mi gerddasom i’r Duke of Clarence pell. Wedi dyfeisio gêm ganu ac odli y gwnaethom ei chwarae’r holl ffordd yno, a chael ambell i olwg od wedi’u bwrw atom, cyrhaeddem. Rŵan, oedd yr enwogion out in force yno bryd hynny: Dafydd Iwan, Ffion Dafis, Leanne Wood. Am ryw reswm fe ges i sticer yn dweud “I ♥ Daf Iw” gan Elin Sbrowt (eto, sylwer, mae hyn yn eithaf randym), ac fe’i gwelodd, ac am ryw reswm neu’i gilydd mae bellach llun ohonof ar gamera Dafydd Iwan wrth iddo ofyn i mi fod yn y llun ‘ma.

Fe’i atgoffais, er nad oedd yn cofio, wrth reswm, o’r tro diwethaf i mi ei gyfarfod a’m ffôn lôn yn canu “Yma o Hyd” a fynta’n edrych yn wirion arna i, a dyma fi o’i flaen y tro hwn efo sticer “I ♥ Daf Iw” (ro’n i’n gweld hyn yn ddoniol iawn, ond dwi’n meddwl fy mod wedi rhoi rhywfaint o fraw i’r hen Dafydd – dwi’n siŵr y tynnwyd y llun iddo gofio cadw ffwrdd o’r stalker hwn os fe’i gwelai eto).

A dwi’n cofio dweud wrth Ffion Dafis: “Byddwch ddistaw chi, Ffion Dafis” – nid mewn ffordd gas, cofiwch, dwi’n llawer mwy cas yn fy sobrwydd na’m meddwod.

Nos Sadwrn mi siaradais efo Kelly Pobol y Cwm sy ‘di diflannu o Bobl y Cwm, a synnu bod hogiau wrth ein hymyl yn yfad côc a lagyr. Am ryw reswm roedd Iwcs yno y tu ôl i’r bar yn syrfio ac mi allaf ddweud y prynwyd peint i mi y mae Iwcs wedi’i syrfio. Sy’n ffwc o beth i allu’i ddweud.

Ew, mi fydd ‘rhen Hogyn yn cael hwyl efo’r sêr o bryd i’w gilydd, er, dwi’m yn argyhoeddedig eu bod nhw’n cael cystal hwyl efo fi.

venerdì, agosto 01, 2008

Tapas ac mae Sbaniard a Mecsicas 'run peth

Reit, wn i ddim pam yn union mai dyma fy ffawd ond mae’r trychfilod yn Stryd Machen mewn ffwl swing ar y funud. Heblaw am fosgito yn yr ystafell wely neithiwr, yn mynd biiiiiiiiiiiiiz a finnau’n ei daro ac mae’n o’n smwj ar hyd y wal erbyn hyn, fu’n rhaid ymwared â dau bry cop arall a thair gwlithen neithiwr. Dwi’n siŵr nad oes dim amdanaf sy’n atyniadol i slygs. Yn ddiau, mae tebygolrwyddau, ond fel unigolyn hallt byddech chi’n meddwl y byddant yn cadw draw ohonof.

Ta waeth am hynny, fedra i ddim treulio drwy’r dydd yn cwyno am drychfilod. Dwi’n mynd am tapas heno. Dwi wedi cael tapas unwaith o’r blaen: y tro hwnnw roeddwn yn chwil gach eisoes (wedi deffro am 1 a chael fy mheint cyntaf tua 2, a hithau’n tua 6) a bu i mi ond cael un peth, gan ddatgan yn chwerw bryd hynny “Mae’n fach braidd”. Do, cefais rybudd ynghylch disylwedd-dod tapas ond ni thybiais fyth na fyddai’n llenwi pryf – neu wlithen yn f’achos i. Felly mae’n rhaid i rywun fwyta cryn dipyn ohono.

Yn ogystal â hyn dwi’m yn gwybod os taw peth Sbaenaidd neu Fecsicanaidd ydi tapas; felly mi wneith hi Wikipedia wedyn. Does ‘na fawr o wahaniaeth rhwng Sbaenwyr a Mecsicaniaid, wrth gwrs, hwythau oll yn fwstashios mawr sombreros diog budur, ond mi fydda i yn hoff o baella neu fajita (yr wyf yn mynnu ei ynganu yn anghywir).

Un peth sydd wastad wedi fy rhyfeddu, fodd bynnag, yn enchiladas achos dwi byth wedi cael un, ond wastad wedi ffansi rhoi cynnig arnynt. Felly dyna mi wnaf heno, oni theimlaf yn slimiwr o fri a chael tapas.

Na, dwi’m yn meddwl chwaith.

giovedì, luglio 31, 2008

Afiachrwydd a'r Blewyn Dirgel

Mae haenau o afiach yn yr hwn fyd. Gall rhywun fod yn afiach oherwydd eu bod yn drewi, fel Haydn Blin. Gall rhywun feddu ar bersonoliaeth afiach, fel Dyfed Flewfran. Gall rhywun fod yn gwbl afiach eu naws, fel Lowri Dwd. Gallwch fod yn afiach o hiliol, sydd ryw haen yn uwch o hiliol nag wyf i, neu’n afiach o gas a thywyll eich gwedd. Gallwch fod yn afiach ddigon eich arferion, fel pan gafodd Ceren biso yn bin y golchdy yn Senghennydd. Na, nid wyf wedi anghofio.

Mae’r afiach a wyf innau yn wahanol, ond fe’i cyrhaeddais neithiwr. Ers rhyw dridiau dwi wedi bod yn tagu llawer (sef pesychu i rai pobl ond tagu y bydda i’n ddeud, fel rhywun o Rachub a’i dafodiaith gref, gyfoethog) a heb ddeall pam. Mi gefais ryw ffisig ar ei gyfer ond ni wnaeth wahaniaeth, ac ni chysgais yn ddigonol oherwydd y tagu hirfaith tan y bore bach.

Ond wedi bod yn tagu yn y gwely am dros awr, ac yn syrffedu braidd, mi ddyweda i hynny wrthoch, mi deimlais rywbeth yn dyfod o’m gwddw ac i mewn i’m ceg. Wrth estyn i mewn sylwais mai darn o wallt ydoedd, ac mi beidiais â thagu ar f’union (er bod y gwddw dal yn bur boenus). Do, yn wir, bu’r tagu yn deillio o wallt. Wn i ddim gwallt pwy ydoedd, mawr obeithiaf f’un i, ond nid wyf wedi bod yn cnoi fy ngwallt yn ddiweddar, na gwallt neb arall o ran hynny. A, na, ni piwb mohono chwaith (a naddo, dwi heb â gwneud yn ystod y tridiau felly dim sylwadau ‘ffraeth’).

A dyna fy haen o afiachrwydd ar y raddfa, gwalltbesychwr; sy’n eithaf uchel i fyny, mifawrdybiaf.

mercoledì, luglio 30, 2008

Dychweliad y Gwlithod

Dwi bron â cholli’n llais. Ers deffro bora ‘ma, drwy ryw fodd ar ôl y drydedd noson yn olynol o gael llai na phump awr o gwsg, mae’r llais yn grimp a’r gwddw’n cosi. Fel un sy’n hoff siarad (ac yn dueddol o beidio gwrando os gallaf), gan amlaf gyda fy hun ond nid yn anaml ag eraill chwaith, mae’n eithaf ergyd.

Mi gollais fy llais o’r blaen, tua dwy flynedd yn ôl erbyn hyn pan drigais yn Russell Street. Roedd hynny’n annifyr achos roedd pawb yn gwneud hwyl ar fy mhen a minnau heb fodd i’w hateb yn ôl.

Mae’r slygs yn ôl ‘fyd. Gyda’r tywydd milain mwll yn parhau, sy’n effeithio’n ddybryd arnaf ar ôl ychydig ddyddiau, maen nhw wrth eu boddau ac yn dechrau mynd i mewn i’r gegin yn Stryd Machen. Roedd un wrth y drws cefn echnos, a neithiwr yn crwydro o amgylch y cypyrddau. A fynta’n edrych fel tyrdun o’r radd eithaf mi deimlais ychydig yn sâl; yn salach fyth o gofio bryd hynny ei bod yn tua dau o’r gloch y bore, a minnau wedi bod yn y gwely am dair awr heb gysgu, a’m bod yno yn y bore bach yn lluchio slyg lawr y toiled.

Nid oedd modd i adael iddo fyw. Boddodd, megis dim llai na thri phry cop neithiwr ym Machen draw. Mae’r tŷ dan warchae gan drychfilod: sy’n golygu ei bod hi’n amser glanhau, sy’n ffwcin annifyr.

lunedì, luglio 28, 2008

Sbectols Haul Newydd

Mae ‘na rywbeth cywilyddus iawn am brynu sbectols haul ben dy hun. Yn Next yr oeddwn, yn mynd drwyddynt a minnau angen pâr newydd (sut ddiawl mae un sbectol haul yn bâr wn i ddim mewn difri), yn rhoi cynnig ar bob un yn y drych yn edrych yn eithriadol o anffasiynol. Mi ges ddau bâr yn y pen draw – roedd yn rhaid defnyddio’r olaf daleb £25.

Y broblem oedd fy mod wedi colli’r rhai gwreiddiol nos Sadwrn. Ydw, gwan dwi. Ddyliwn i ddim yfad oherwydd y ffisig ond doedd hynny ddim am ddigwydd mewn gwirionedd. Mae’n biti a minnau’n mor hoff o’r hen sbectols haul. Fetia’ i rwbath y ffendia i nhw’n tŷ heno ‘ma o dan ryw glustog, ac wedyn bydd i mi bedwar pâr o sbectols haul, sy’n ormodedd i unrhyw un call mewn difri calon.

venerdì, luglio 25, 2008

(Diffyg) Goblygiadau Glasgow

Bore da yn wir. Roeddwn i’n disgwyl i’r canlyniad yn Nwyrain Glasgow fod yn agos, ond mae’n rhaid i mi ddweud prin y disgwyliais i’r SNP guro, a sioc ar y diawl ges i o ddarllen Ceefax (neu Teletext, os dachi’n gomon) bore ‘ma a gweld. Mae’n gwneud i rywun feddwl pa mor ddiddorol y byddai isetholiad mewn rhywle fel Llanelli neu Gastell-nedd ar y funud, dydi?

Ond yn anffodus dydi hi ddim yn ddiwedd ar Gordon Brown, ac mi egluraf pam. Y gwir amdani ydi os aiff Gordon Brown, drwy orfodaeth (y sefyllfa fwyaf tebyg) neu’n wirfoddol (annhebygol iawn), bydd yn rhaid i Lafur ddewis arweinydd, a thrwy hynny, Prif Weinidog newydd.

Roedd hi’n ddadleuol i Brown gymryd yr awenau heb alw etholiad. Ond byddai cael trydydd arweinydd ar y wlad, a hynny eto heb etholiad, yn peri dicter mawr i lawer iawn o bobl. I bob pwrpas, byddai’n rhaid galw etholiad; etholiad y byddai Llafur yn ei golli yn aruthrol. Pwy o fewn y blaid Lafur sydd eisiau hynny?

Ydyn nhw am gadw Brown, neu golli etholiad?

Ond yn fwy diddorol ydi beth y mae’r Ceidwadwyr eisiau mewn difri. Gyda’r sefyllfa economaidd yn wan a yw’r Ceidwadwyr wir eisiau etholiad lle y byddant yn sicr o’u hennill gan etifeddu sefyllfa gynddrwg? Wedi’r cwbl, y realiti o hynny ydi y gallant ennill yr etholiad, wynebu’r un problemau â Brown a’r Blaid Lafur, gallai eu poblogrwydd ddisgyn (ac rydym ni wedi gweld yn ystod y flwyddyn ddiwethaf pa mor gyflym y mae’r polau’n newid) a bydd Cameron allan ar ei din ymhen 4-5 mlynedd.

Yn ychwanegol at hynny, diddorol yw gweld nad yw’r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw am etholiad – ond wedi’r cyfan maen nhw’n gwneud yn wael yn y polau piniwn ar y funud.

Felly, yn gryno, ni fydd Brown yn mynd, ac ni fydd etholiad, a hynny oherwydd nad oes neb wirioneddol am gael un.

mercoledì, luglio 23, 2008

'Steddfod yn nesáu

Smai? Ydw, iawn diolch yn fawr, ‘rhen fol yn chwarae fyny ond dyna ni. Chithau? Wela i. Ffyc off, felly.

Ta waeth. Mae’r ‘Steddfod, wyddoch chi, yma ymhen tuag wythnos. Rŵan, fel y dywedais y llynedd, nid steddfodwr mawr mohonof, ond pan fydd y ‘Steddfod yn agos, fel y bu i mi yng Nghasnewydd, Bangor ac eleni yng Nghaerdydd, mi fydda i’n galw heibio i ddweud helo a chwilio am ffrîbis yn stondin Cymdeithas yr Iaith a gwneud pethau felly. I fod yn onest efo chi, fedra i ddim disgwyl eleni, achos dwi’n benderfynol o weld y cadeirio, sydd yn rhywbeth dwi byth wedi’i weld o’r blaen, ac eistedd ar y maes efo peint a byrger. Na phoener, ‘rhen Selwyn, feddwa i ddim ar y maes. Nid bardd mohonof.

Pobl ryfedd ydi beirdd. Dydyn nhw ddim mor clîci â phobl y sîn roc Gymraeg (yr amgens yn benodol) nac yn meddwl eu bod nhw’n well na neb (yr amgens eto - sori, ond mae’n wir - fe ddylen nhw ‘di dallt bod cerddoriaeth amgen yn amgen am reswm...), ond maen nhw’n cael eu dal mewn dyledus barch. Ac mi ddylent hefyd. Hoffwn i wybod yn union beth sy’n mynd drwy feddwl bardd - dwi’n dychmygu lliwiau a siapiau amhenodol. Wn i ddim beth sy’n mynd drwy feddwl blogwyr - dychmygaf fyd unig di-liw, ond dwi’n gwyro oddi ar y pwynt honedig.

Ia wir, y Steddfod. Ro’n i’n edrych ar y gigiau i feddwl beth sy’n dwyn fy ffansi, a’r gwir ydi does ‘na ddim byd sy’n gwneud i mi wlychu’n hun. Beryg fydd yn rhaid i mi ddewis rhywbeth, fodd bynnag - Meic Stevens nos Sadwrn Clwb Ifor sy’n apelio fwyaf, ond mae’n siŵr na chai docyn a p’un bynnag mae ‘na rhywbeth od iawn efo fo’n chwarae gyda Lleuwen Steffan a hwythau’n gwpwl (sydd yn mynd ag ias lawr y cefn).

Dyna ni, ddigon o sarhau am heddiw, mi gredaf. Ddim isio ypsetio’r pwysigion gormod.

lunedì, luglio 21, 2008

Grippy, fu farw

Mae hon yn stori, os nad ystyrir y ffordd y’i dywedir ac os na’i hystyrir yn ddigon ddwys, na fyddwch yn ei hoffi, ond parodd i mi chwerthin fel jî binc pan y’i clywais.

Byddwch o bosib wedi clywed cyfeiriadau at Lowri Llewelyn o’r blaen; dynes ryfedd ac anghyfarwydd ydyw sy’n gallu bwyta sleisen dew o gacen mewn llai na dwy funud ac efo hiwmor na fyddai camel sâl yn eiddigus ohono. Cymeriad trist, er hoffus, ydyw, sy’n treulio’i hamser yn gwneud mân bethau fel pigo llwch o soffas MFI a chwarae gemau syllu gydag afalau. Ond, rwy’n crwydro.

Neithiwr, dychwelais i Gaerdydd ar ôl penwythnos sobor yn y Gogledd, yn bwydo melon ddŵr i dair merlen ymhlith pethau eraill, ac fe drafodwyd gennym anifeiliaid anwes. Pysgod a chwïaid ydi’r unig rai a gefais erioed, a dwisho ci achos mae cŵn yn cŵl. Ond, rwy’n crwydro.

Dywedodd hithau na chafodd anifail anwes, â phrudd-der llond ei llygaid dyfrllyd. Heblaw am un. Gwrandawais yn astud, yn disgwyl clywed am yr eithriad hwn. Grippy fu ei enw. Ar drip i Ffrainc y bu’r Llewelyns ac yn y car canfuwyd gan Lowri bryfyn ar ddarn o hanes bapur. Ceisiwyd ei wthio, ond daliodd ymlaen megis y fi at fy wythfed beint, a gwrthod symud.

Yn llon a llawn difyrrwch gofynnwyd i’w gadw, a rhoddwyd yr enw Grippy arno, sy’n enw addas a bachog, ‘sdim dadl. Gan nad oedd yn chwarae’r gêm ac yn parhau i afael nerth ei beglau ar yr hances bapur fe’i lapiwyd i fyny ynddo tan y diwrnod wedyn.

Ond siom a gafwyd. Y bore wedyn, bu farw Grippy. Wn i ddim p’un ai drwy fygu, neu ddiffyg bwyd, neu ei sgwashio – y wybodaeth hon ni feddais arni gan Lowri – ond bu farw. Y teulu a aeth yn ôl i Gymru. Aeth bywyd yn ei flaen. Ond wrth i’r gaeafau heibio fe’i cofiwyd, nes un noson o haf yng Nghaerdydd adroddwyd y stori i’r Hogyn.

A dyna hanes anifeiliaid anwes Lowri Llewelyn.

venerdì, luglio 18, 2008

Diwedd y Byd

Mam bach dydw i ddim yn unigolyn iach. Wel. Dydi hynny ddim yn wir; yn gorfforol felly mae ‘nghorff i’n iwsles a phob math o bethau’n troi ac yn dadleoli, ond pan ddaw at heintiau a chlefydau a phethau felly dwi’n wydn iawn yn gyffredinol. Felly pan fydda i’n sâl go iawn mae’r byd ar ben.

Mae’r capsiwlau sy’n rhaid i mi eu cymryd i reoli fy stumog yn rhoi cythraul o gur pen i mi ar y funud. Dim ond y trydydd diwrnod ydyw ers y feddygfa (ofnadwy o braf yn Penham Green, os ca’i ddweud) ac mae gen i gur pen parhaol. Ar ôl mân ymchwil mae 7% o bobl sy’n cymryd y feddyginiaeth dwi arni yn dioddef o gur pen, felly dwi wedi penderfynu fy mod i yn y 7% hwnnw, yn ogystal â bod ymhlith y chwarter o bobl sy’n golchi o’u fyny i lawr yn y gawod.

Beth bynnag, dwi bellach yn cymryd Ibruprofen neu Barasetamol neu unrhyw beth sy’n digwydd bod yn agos i reoli’r cur pen, sydd yn ei dro yn dueddol o droi fy mol. O! Cylch cas ydyw bywyd!

Gallwch ddychmygu felly nad ydi gyrru i fyny i’r gogledd heno yn wirioneddol apelio, hyd yn oed â phres petrol Lowri Dwd (yn drwyn i gyd ar hyd y car) a Gwenan (“daniynaetodanidynaetolleydannilleydanni”). Fydda i’n teimlo’n well, fodd bynnag dwi’n siŵr, yn cael mwythau adref. Waeth bynnag lle’r ydym, ac er ei bod yn swnio’n ystrydebol, mae’n wir nad oes gwelliant gwell nag adref.

mercoledì, luglio 16, 2008

Salwch Enwog Wyf

Ro’n i’n teimlo’n enwog iawn heddiw. Ro’n i’n siarad ar raglen Siân Thomas ar Radio Cymru heddiw ‘ma am yr hwn gampwaith a elwir yn Blog yr Hogyn o Rachub, a hefyd dyddiaduron. Wyddoch chi fy mod yn cadw dyddiadur hefyd? Rhaid bod gen i obsesiwn â chofnodi fy mywyd, sy’n rhyfedd o ystyried cyn lleied sy’n digwydd. P’un bynnag, mi fetia i unrhyw beth y bydda i’n sôn am hyn am fisoedd. Y rhan fwyaf o’r amser dwi’n eithriadol o nerfus am wneud pethau felly, ond heddiw ro’n i’n teimlo’n eithaf hyderus, a minnau efo syniad da o be o’n i’n ei ddweud.

Ond ta waeth, rhwng gwneud hynny â bod yn gyffredinol dan bwysau roedd yn rhaid i mi fynd i weld y meddyg heddiw. Am dridiau dwi wedi bod yn sâl efo poenau yn fy mron a’m mol, felly bu’n rhaid cymryd rhywfaint o amser i ffwrdd heddiw.

Dwi ddim yn or-hoff o feddygfeydd, yn benodol oherwydd bod wastad babanod yno’n sgrechian. Ar ôl i’m tro ddod, mi ddywedodd Dr Smith wrthyf bod asid fy stumog yn chwarae hafoc (nid ei union eiriau o gwbl, cofiwch, ond ymdrech gan awdur y blog i orliwio) felly dwi ar dabledi am bythefnos.

Sy’n golygu dim yfed. Dim alcohol am 14 noson. Ac os dwi’m yn teimlo’n well, dim ‘Steddfod chwaith. Mae rhywbeth drwg BOB TRO yn digwydd yr adeg hon o’r flwyddyn. Ond dyna ni, dwi’n siŵr y goroesaf. Wedi’r cyfan, mae angen i rywun lenwi eich oriau swyddfa diflas.

martedì, luglio 15, 2008

Fy nghas gân

O bosibl, fy nghas gân i ydi ‘Imagine’ gan John Lennon. Heblaw am fod yn diwn ddiflas a hyll, dwi ddim isio byw yn y byd crap mae o’n fwydro amdano, a bob tro dwi’n glywed y gân dwi’n mynd yn flin.

Un o’r pethau mwyaf digalon posibl ydi dychmygu nad oes math o nefoedd. Neu uffern. Dwi’n meddwl pe baem ni gyd yn 100% siŵr nad oedd y ffasiwn bethau byddai’r hen fyd ma’n troi’n llanast llwyr. Prin fod cwymp crefydd a materoldeb pathetig y Gorllwein a’r symud tuag at adfail o gymdeithas yn gyd-ddigwyddiad. ‘Sdim rhaid i rywun fod yn grefyddol i allu gweld hynny.

Wedyn mae’r llipryn sbectols yn sôn am fyd heb wledydd. Rŵan, tra nad ellir dadlau na fyddai neb yn colli Liechtenstein yn ormodol, fedra’ i ddim meddwl am fyd heb wledydd. Prin ydi’r bobl nad ydynt yn ymfalchïo yn eu gwlad a phrin hefyd y rhai sy’n ymfalchio mewn rhywbeth yn fwy na’u gwlad. Wn i ddim sut beth yw hunaniaeth anghenedlaethol, ond yn bersonol fydda fo’n rybish.

Dwi’n genedlaetholwr ac hefyd yn grefyddol i raddau helaeth, felly yn amlwg mae byd John Lennon yn swnio’n uffernol i mi.

Ond byddai hynny’n iawn pe baem ni gyd heb math o eiddo. Dwi’m yn credu y dylai popeth fod yn eiddo, ond DIM BYD? Rhyfedd clywed hynny’n dod gan filiwnydd, hefyd.

Prin iawn fod caneuon yn ennyn fy llid, ond caiff y gân hon losgi. Asu, dydw i jyst ddim yn licio hipi-dwdl-aiês, de.

giovedì, luglio 10, 2008

Pynciau'r Ysgol

Tua’r adeg hon ddeng mlynedd yn ôl roeddwn yn gorffen fy ail flwyddyn yn Ysgol Dyffryn Ogwen. Roedd yn weddol amlwg i mi hyd yn oed bryd hynny nad oedd dawn gen i, ond am ysgrifennu, a’r ddawn honno nid mawreddog ydyw. Ta waeth, roedd hefyd yn amlwg erbyn hynny pa bynciau yr oeddwn yn dda arnynt a’r rhaid nad oeddwn cystal.

Mae’n mynd heb ddweud mai fy nghas bwnc oedd chwaraeon. Dydi bod yn hogyn a chasáu gwneud chwaraeon yn yr ysgol achos eich bod chi mor ddiawledig o wael ar bob camp a chwaraeir ddim yn gyfuniad delfrydol a dweud y lleiaf. Pob gwers mi deimlais yn ofnadwy a gwneud unrhyw beth y gallwn i gael allan ohoni, ond yn amlach na pheidio gwneud cywilydd o’m hun efo pêl-droed neu griced fu’r hanes. Yn pwyso llai na naw stôn bryd hynny, gallwn ddychmygu nad oedd rygbi, ychwaith, yn rhinwedd.

Un peth na fues yn dda ynddo chwaith oedd Technoleg. Y cyrhaeddiad mwyaf i’m rhan fu gwneud peg cotiau allan o acrylic y bu iddo dorri ar ôl rhoi côt arno. Wn i ddim amdanoch chi, ond yn bersonol ni ystyriais hyn yn llwyddiant o faint sylweddol iawn, ac mi barodd fy anallu i dorri darn o bren yn syth i mi ddiystyru gyrfa ym maes saernïaeth.

Ar y cyfan roeddwn i’n weddol ofnadwy mewn mathemateg a gwyddoniaeth – dwi byth wedi dallt cemeg na ffiseg, er y bu i mi fwynhau’r gwersi oherwydd na wnes i ddim byd ynddynt. Un o wyrthiau bach y byd yw’r ffaith i mi barhau’n Set 1 drwy fy nghyfnod o’u hastudio.

Hanes a daearyddiaeth mi hoffais, a byddwn i wedi mwynhau celf heblaw i’r athrawes fy nghasáu yn llwyr, a’m symud i ochr arall y dosbarth ben fy hun am siarad gormod.

Iaith, wastad, oedd yn ennyn fy niddordeb. Yn ddiweddar dwi wedi cael cyfres ryfedd o freuddwydion ynghylch cael gwersi Ffrangeg yn yr ysgol drachefn, ond roeddwn i wrth fy modd yn siarad Ffrangeg ac mae’n gywilydd gen i na ddaliais i’w siarad, ond yn hytrach mae’n adfeilio’n araf bach gen i. Yn yr ysgol uwchradd y bu i mi fagu fy nghariad at y Gymraeg a phopeth yn ei chylch, a choeliwch ai peidio, er y bu imi roi’r gorau iddi bythefnos i mewn i’m Lefel A, roeddwn hefyd yn hoff o Saesneg, a’r elfen greadigol ohoni.

Sydd, actiwli, yn fy ngwneud i’n bach o bons.

mercoledì, luglio 09, 2008

Y Byd Mawr Crwn

Wel helo ffrindiau. Heddiw, cawn dair wythnos werth o law mewn diwrnod, yn ôl y sôn. Am ryw reswm, nid yw hyn at fy nant. Wedi’r cyfan, mae’n fis Gorffennaf, ac mi ddylai fod heulwen. Dwi’n draddodiadwr rhonc a ddim yn hoffi pan nad ydi pethau fel y dylent fod.

Ar brydiau felly caf ryw fân awydd i ddenig i rywle pell, ond prin y bydd hynny’n parhau. Dydw i ddim yn un am deithio na gwyliau. ‘Does yr un man yn y byd dwi isio mynd, dim dwisho gweld, a ‘does uffar o ddim y gall y byd mawr gynnig i mi na fedraf ei gael yng Nghymru. Heblaw am haf yn ystod yr haf.

Wel, celwydd braidd ydi’r uchod. Mae’n wir nad ydw i’n licio teithio a ‘does fawr o ddim dwisho’i weld ond mae ambell i beth. Dwi wastad wedi bod isio gweld y Sffincs yn yr Aifft. Y broblem ydi dwi’n casáu tywod ac ar ôl ei weld byddwn i ddim am dreulio wythnos arall yn yr Aifft, achos mae’r gweddill ohono’n edrych yn weddol shit i fod yn gwbl onest, yn enwedig gyda’r teimladau negyddol am dywod sydd gennyf.

A p’un bynnag, mae’r Aifft yn rhy boeth a chas gen i dywydd poeth, ac o’r herwydd dwi wedi hen ddallt nad welaf fyth mo’r Sffincs.

Hoffwn, efallai, fynd i’r Tŵr Eiffel. Ond ddaw neb efo fi achos does neb yn licio Ffrancwyr ac mae pawb arall ‘di bod eniwe. Wn i ddim pam ddiawl mae pawb yn mynd ymlaen am yr UDA i fod yn onest, chwaith, na ffycin Awstralia, sydd eto llawn tywod a thŷ opera hyll a dwi’m yn licio ffycin opera.

Efallai yr hoffwn weld Wal Fawr Tsieina, ond byddwn i isio’i gweld hi i gyd, a ‘sgen i’m pres na mynadd gwneud ffasiwn beth. Mae’r un peth a rhywle fel Machu Pichu – byddwn wrth fy modd ond dwi’m yn fodlon gwario ar fynd yno a byddwn i ddim isio cerdded – a ‘does bws i fynd â chi yno am wn i.


Y broblem ydi dwi’n diflasu’n syth bin. Fe wn yn iawn y byddwn wrth fy modd yn mynd ar wyliau sgïo – am tua dwyawr cyn penderfynu fy mod i dda i ddim a meddwl ‘ffwcia hyn, dwi’n mynd nôl i Gymru’. Ond uffar ots gen i. Bodlon dwi yma’n gulfeddwl i gyd; dwi’m isio gweld na gwneud dim o bwys, felly pam gwneud, yn de?

lunedì, luglio 07, 2008

Adroddiad Cymdeithas Cledwyn: ennill pleidleisiau'r Cymry Cymraeg

Roeddwn wedi bwriadu ysgrifennu am hyn, ond dim cyn i mi ddarllen y ddogfen yn ei chyfanrwydd. Rŵan, dwi ddim isio ysgrifennu’n hirfaith am y ddogfen hon; o’i darllen prin y mae’n ei haeddu, ond mae rhai pwyntiau yr hoffwn eu nodi o ystyried y ”Y Fro: Ennill pleidleisiau yn y Gymru Gymraeg”. Yn hytrach, hoffwn gynnig ambell i sylw ar ambell i ran o’r ddogfen.

Yn bur ryfedd, cyn mynd ymlaen at y Gymraeg ei hun, mae’r ddogfen yn ystyried syniadau megis tai ecogyfeillgar. Wn i ddim pwy feddyliodd am gynnwys y syniad (canmoladwy, wrth gwrs) hwn yn y ddogfen, ond does â wnelo dim ag ennill pleidleisiau’r Fro – dydi o ddim yn berthnasol yn y ddogfen, ac yn y cyd-destun hwn mae’n od i’w gynnwys, a dweud y lleiaf.


Rhaid i’r blaid Lafur arddel a phwysleisio’r cyfan y mae hi wedi’i gyflawni dros yr iaith

Dyma un dyfyniad a’m tarodd ar unwaith. Yn bersonol, byddwn wrth fy modd yn clywed faint yn union y mae Llafur wedi gwneud dros y Gymraeg. Dewch, dywedwch wrthyf!

Er bod gwaith dadansoddi’n profi nad iaith y ‘crachach’ mo’r Gymraeg, mae’r canfyddiad mai felly y mae hi i’w gael o hyd.”

Pa waith dadansoddi a gynhaliwyd i ganfod y ffaith hon? Os taw ennill pleidleisiau’r Fro yw pwynt y ddogfen, siŵr o fod y dylai’r awduron wybod hyn eisoes? A p’un bynnag, yn yr ardaloedd Cymraeg, nid yw hyn yn ganfyddiad.

Dylid hybu defnyddio Cymraeg syml a llai ffurfiol, ar lafar ac ar bapur, yn enwedig yn y sector cyhoeddus.”

Mae gen i deimlad nad yw’r awduron yn defnyddio’r gwasanaethau Cymraeg os mai dyma’u barn. Oes, ceir canfyddiad bod gwasanaethau Cymraeg yn defnyddio iaith ‘anodd’, ond dydi hyn ddim yn wir. Un o’r peth y mae cyfieithwyr, o bob math, yn ei wneud yw ymdrechu i wneud iaith yn syml a hygyrch ond eto’n gywir. Yn hytrach na hybu’r myth, beth am fynd i’r afael ag ef?


Dylen ni symud oddi wrth gynhyrchu cyfieithiadau symbolaidd a drud o ddogfennau cymhleth.”

Sydd, wrth gwrs, am ennill pleidleisiau Cymry Cymraeg. Jyst oherwydd y mae Dafydd Êl yn ei ddweud, dydi o’m yn golygu ei fod yn iawn...


Dylai darparu rhaglenni Cymraeg mwy hygyrch a llai ffurfiol fod yn amod cynyddu’r cyllid i S4C.”

Anodd, a dweud y lleiaf, yw cynnig sylw ar frawddeg mor anwybodus a hurt. Os gellir dweud rhywbeth o blaid S4C, mae’n gryfder gan y sianel bod yr iaith a ddefnyddir mewn rhaglenni fel rheol yn gweddu’r rhaglen. Eto, mae’n un o’r sylwadau lu yn y ddogfen sy’n awgrymu nad yw’r awduron gyda syniad am beth y maent yn ei drafod, â’u bod hwythau’n dibynnu ar ragfarn eu hunain yn hytrach na ffeithiau neu waith ymchwil.

Gellir dehongli’r sefyllfa yn un lle mae Llanelli-Caerfyrddin yn fwy o ‘hen Lafur’ ac wedi ymateb yn wael i Kinnock a Blair, tra bo’r A55 yn fwy o diriogaeth Llafur Newydd.”

Ers pryd fu lleoedd fel Dyffryn Ogwen a Chaernarfon a Llangefni a Chaergybi yn diriogaeth fwy naturiol i Lafur Newydd? Un o’r ffactorau ym methiant y Blaid Lafur yn ddiweddar mewn ardaloedd tebyg yw Llafur Newydd a’r symudiad tuag at y dde.

Yn etholiadau 2007 i’r Cynulliad, fe lwyddodd y gwrthbleidiau i osod agenda gwleidyddol y rhan fwyaf o’r ymgyrch etholiadol, a gwneud hynny’n arbennig drwy ymosod yn anonest ar bolisïau iechyd. Fe elwodd Plaid Cymru hefyd, yn sicr, o’r sylw a gafodd yr SNP yn y cyfryngau Prydeinig.”

Mae’r brawddegau hyn, i mi, yn dangos gwir werth y ddogfen: y cyntaf sy’n beio pawb arall ond am y Blaid Lafur ei hun, yr ail yn rhagfarn, neu’n syniad rhyfedd. Yn wir, pwy all gymryd dogfen felly o ddifri gyda sylwadau fel hyn?

“....[gwrthbleidiau yn] awgrymu nad yw ymgeiswyr Llafur mewn rhyw ffordd yn Gymry go-iawn neu nad ydyn nhw’n ddigon o Gymry.”

Un enghraifft, plîs?

yn y Gogledd-Orllewin, daeth cenedlaetholdeb diwylliannol i fwrw sefydliad Llafur simsan o’r neilltu yn y 70au ac ymsefydlu’n ewyllys sefydlog y dosbarthiadau canol parchus.”

Unwaith eto, anghywir. Ni chollodd Lafur leoedd fel Caernarfon a Meirionnydd Nant Conwy oherwydd y ‘dosbarthiadau canol parchus’ ond collwyd cefnogwyr Llafur traddodiadol i Blaid Cymru. Mor syml â hynny. Wn i ddim ai gwrthod cyfaddef hyn y mae’r ddogfen hon, neu’n gwbl anymwybodol ohono?


Rhaid i ni hefyd gydnabod bod problem go-iawn yn bod ymhlith y rhai sy’n byw yn yr ardaloedd gwledig y mae llawer o fewnfudo iddyn nhw.”

Mae’n siŵr nad yw Eluned na gweddill yr awduron yn cofio yr ymateb a roddodd y Blaid Lafur i Seimon Glyn ychydig flynyddoedd yn ôl ar ôl iddo leisio pryderon pobl leol Llŷn. Rhesymau felly y mae’r Blaid Lafur wedi colli cefnogaeth – dydyn nhw ddim yn gwybod beth ydi pryderon pobl leol mewn ardaloedd fel Gwynedd na Cheredigion – yn wir, mae tai gwaith iaith yn eithaf dweud y cyfan.


Rhaid i’r blaid Lafur hybu defnyddio beunyddiol ar yr iaith drwy berswâd ac nid drwy rym. Gallai grym ac elitiaeth wneud drwg di-ben-draw. Nid cyflwyno mesurau neu ddeddfau newydd yw’r ateb i bob problem.”

Felly dim ddeddf iaith, dwi’n cymryd? Ffordd wych arall o ennill cefnogaeth y Cymry Cymraeg....


Os yw Llafur yn bwriadu trechu’r canfyddiad ei bod hi’n wrth-Gymraeg, ac os yw hi i ennyn cefnogaeth ei holl aelodau i fesurau o blaid gweithredu’n gadarnhaol dros yr iaith, dylai Llafur ddechrau drwy argyhoeddi ei haelodau ei hun o’r angen i fabwysiadu ei pholisi iaith bendant ei hun.”

Beth sy’n ddiddorol yma ydi’r defnydd o’r gair ‘canfyddiad’. Ai canfyddiad ydyw bod pobl fel George Thomas, Neil Kinnock, Leo Abse, Huw Lewis, Llew Smith ac ati yn wrth-Gymraeg? Yn wir, dyma’r broblem enfawr sy’n wynebu Llafur – y gwrthod llwyr i gyfaddef bod iddi aelodau sy’n casáu’r Gymraeg. Nid y canfyddiad sy’n anghywir, mae arna i ofn, ac os nad eir i’r afael â’r aelodau gwrth-Gymraeg, ni fydd Llafur yn ennill ardaloedd Cymraeg. Syml iawn.

Ychydig o sylwadau roeddwn eisiau eu cynnig, fel y dywedais. Ond braf, a dweud y lleiaf, o edrych ar y ddogfen, yw sylwi na fydd newid yn y Blaid Lafur ac nad yw’n cynnig newidiadau. Y broblem fwyaf i Gymdeithas Cledwyn, heblaw am gynhyrchu dogfen wael uffern sydd yn amlwg heb fawr o ddealltwriaeth o'r sefyllfa na gwaith ymchwil iddi, fydd ceisio argyhoeddi gweddill Llafur o’u hawgrymiadau ac argymhellion: efallai bryd hynny cânt weld pa groeso sydd i syniadau o blaid y Gymraeg yn y Blaid Lafur....!

giovedì, luglio 03, 2008

Y Zombies

Pur hysbys ydyw nad un am ffilmiau arswyd mohonof. Hynny yw, dwi’n golygu gwaedlyd i olygu arswyd. Dwi’n eithaf hoff o ryw ysbrydion a ballu, a phethau mwy seicolegol, ond os ceir haid o zombies yn llusgo’u hunain yn cnoi cnawd o amgylch y lle neu arteithio, dwi’n teimlo’n sâl. Sâl yr oeddwn yn Saw III. Aeth fy mhen yn wan yn Hostel. Yn wir, bu gweld trailer ●REC yn ddigon i’m dychryn am y rhan orau o bythefnos.

Afraid dweud, dw i heb alw ar y dewrder i weld y ffilm gyfan. Y dewraf y galla i fod o ran artaith yw mynd o amgylch Virgin amser cinio ac edrych ar yr adran arswyd, oherwydd er troi fy stumog mae gen i dal obsesiwn braidd efo’r pethau gwaedlyd ‘ma, a bob tro yn gwneud y camgymeriad o fynd i’w gweld yn y sinema.

Yn yr un ystyr byddwn i fy hun yn rybish taswn i’n cael fy arteithio. Go iawn rŵan. Nid mawr mo fy nhrothwy poen o gwbl, a phan fo gennyt hen ben glin croc, ysgwydd wael a theimlad ffyni dan dy dafod ers wythnos, nid da mo’r cyfuniad.

O ia, a be ‘di zombie yn Gymraeg?

martedì, luglio 01, 2008

Megis Sosij Rôl

Poni welwch-chwi hynt y gwynt a’r glaw?
Poni welwch-chwi’r deri’n ymdaraw?

Os ydych chi yng Nghaerdydd y funud, yr ateb ydi na. Ewadd, gyfeillion, mai’n braf yn yr haf ar yr hen Machen Street. Cymaint fel nad ydw i wedi gadael y tŷ heb sbectol haul ers tua phythefnos, ac wedi troi’n cŵl a dechrau eu galw’n shêds.

Beth bynnag, dwi isio trafod fy mhenwythnos i chi. Doeddwn i methu gwneud y ffasiwn beth ddoe na’r Sul. Ddoe, roeddwn i’n flinedig a dig. Y Sul, roedd fy mhen yn teimlo fel cwmwl a’m corff megis sosij rôl. Sâl, yn doeddwn, a minnau wedi cael noson fawr ar y Sadwrn am y tro cyntaf ‘stalwm.

Ni es allan ben fy hun, wrth gwrs. Efo fy nghyn-cyd-lletywr Ellen Angharad, cantores fendigedig sy’n oerach na gwynt y gogledd, yn y gaeaf, efo bits o rew ynddo, ac o bosib chicken fajita fu’n y ffrij ers y noson gynt, o amgylch canol y ddinas. Yn draddodiadol, bu’n yfwr o fri, ond yn ddiweddar mae ei dawn yfed yn llai nac y bu, a threuliodd hanner awr yn chwydu yn y City Arms ac yfed dŵr yn Shorepebbles. Do’n i fawr gwell. Dwi’m yn cofio mynd adref.

Cyn i mi fynd, ga’i ddatgan fy mod i’n meddwl bod y gair afal yn bendant siwtio fod yn fenywaidd.

venerdì, giugno 27, 2008

Ffyc off Wimblingdon

Ha ha ha. Dwi newydd cael chwarddiad bach plentynaidd i mi’n hun o ddarllen rhai o’r amrywiol ffyrdd y daw pobl at y flog drwy peiriannau chwilio. Wele’r canlynol a deipiwyd i mewn i Gwgl yn bennaf:

fampir sex
any mackrel at Moelfre
Helen Sbeit
enwau babi
Dai Llanilar caneuon
La mamma di smalio
bryn fôn carchar
king prons

P’un bynnag, a hithau’n ddiwrnod erchyll o ddiflas yng Nghaerdydd, mi obeithiaf yn llawn bod yr un peth yn digwydd yn Wimbledon draw wrth i’r gachwanciaeth llygru’r sianeli teledu. Mae’n gwbl iawn a chyfiawn i Ewro 2008 wneud hyn, wrth gwrs, gan fod pêl-droed cymaint gwell na thenis.

Yn y gorffennol niwrol, pell, roeddwn i’n wych ar tenis. Dyna’r unig gamp, erioed, a oedd gennyf unrhyw ddawn ynddi. Er, cefais gerdyn cymeradwyaeth mewn rygbi unwaith. Am “wneud ymdrech”. ‘Sdim gwaeth na chael cydnabyddiaeth gadarnhaol am rywbeth dachi’n crap am wneud, mynnaf.

giovedì, giugno 26, 2008

Clwyfedig Fraich Ddirgel

Wn i yn ddiweddar dwi bron â bod yn mynd allan o’m ffordd i sarhau pawb mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, o lysieuwyr i Doris i bobl ddigartref i bobl sy’n ailgylchu. Dyma neges i chi (ond am y bobl ddigartref, nad oes mynediad i’r rhyngrwyd ganddynt, mi dybiaf):

Ymlawenhewch. Dw i mewn poen.

Am ryw reswm sy’n gwbl anhysbys i mi dw i ‘di tynnu rhywbeth yn fy mraich chwith ac mae’n wirioneddol, wirioneddol brifo heddiw. Dwi’n ei grymu ac yn rhoi mwythau iddo ond yn dal i gerdded o gwmpas megis fersiwn hynod ddel o Jeremy Beadle.

Rŵan, wn i ddim sut ddaru hyn ddigwydd. Neithiwr, mi es gyda’m ffrind diserch, Ellen Angharad, i chwarae sboncen, ond defnyddio fy mraich dde ydw i wrth chwarae sboncen, neu chwarae unrhyw beth a dweud y gwir (moch). Hitia befo. Mi ddaeth i’r amlwg wedi i mi ddeffro, felly dyn ag ŵyr beth y buom yn gwneud yn nheyrnas breuddwydion neithiwr, ond pa beth bynnag yr oedd dwi’m yn rhy hapus iawn am y peth ar hyn o bryd.

Felly dyma fi’n glwyfedig resynus, ond dal yn goeth a gwych fy mynegiant. Ond i fyd technoleg, ac mae’r hen deledu acw’n mynd o od i odiach. Fel yr wyf wedi nodi ‘stalwm, er mai analog sydd gen i, mi fedraf wylio Animal Planet a BBC News 24. Mi gymrodd pethau tro am y rhyfeddach wrth i mi brynu chwaraewr fideo/DVD dros y penwythnos am grocbris yn ASDA. O’i ddefnyddio, mi fedraf hefyd wylio E4, CNN ac UKTV Gold.

Mae hyn i gyd, wrth gwrs, yn ychwanegu at y ffaith pan brynais Freeview, nid oedd yn pigo fyny uffarn o ddim. Mae rhywbeth od yn y gwynt yn Grangetown. Er enghraifft, pan fydd yn glawio yn Grangetown mae o i’w weld yn eithaf braf yn Nhreganna wrth i mi fynd yn y car. Hefyd, mae un o’r planhigion yn yr ardd/slabiau concrid yng nghefn yr eiddo wedi disgyn drosodd heb eglurhad.


Mae ‘na anfadrwydd ar waith, hogia.

mercoledì, giugno 25, 2008

Llysieuwyr ar sail egwyddor

Dwi'm yn meindio pobl nad ydynt yn bwyta cig oherwydd nad ydynt yn hoffi'r blas o gwbl. Ond mae llysieuwyr ar sail egwyddor yn od iawn. A dyna ddiwadd arni.

martedì, giugno 24, 2008

Dim pêl-droed, gormod o Big Brother

Y llynedd ni wyliais Big Brother rhyw lawer. Yn wir, cyfres y llynedd oedd y cyntaf i mi beidio â’i gwylio. Mi wyliais y dechrau a cholli diddordeb yn raddol wrth i bethau fynd rhagddynt. Eleni, mae pethau fwy neu lai’r un peth. Dwi wedi gwylio ambell i raglen ond heb fawr o ddiddordeb, er mi a’i gwyliaf pan nad oes dim byd arall ar y teledu, a fu’n wir neithiwr a minnau’n cael withdrawl symptoms oherwydd y diffyg pêl-droed.

Yn wir, dw i ddim yn or-hoff o’r un o’r timau yn y pedwar olaf. Cefnogwn i ddim mo’r Almaen, yn enwedig oherwydd bod dau o’m ffrindiau gorau yn gwneud, ond pwy ddiawl sy’n cefnogi’r Almaen eniwe wn i ddim. Dwi byth, byth wedi licio Twrci, a hynny fwy na thebyg achos dw i’m yn dallt pam eu bod nhw’n chwarae ym Mhencampwriaeth Ewrop tra bod 97% o’r wlad yn Asia.

Os dilynoch y flog yn ddiweddar bydd erbyn hyn yn hysbys i chi pam na fyddaf yn cefnogi Sbaen. Sy’n gadael Rwsia - ac ar ôl y gemau ail-gyfle ‘stalwm, gawn nhw fynd i ffwcio. Felly pwy bynnag sy’n ennill eleni mi fyddaf yn ddiawledig o chwerw.

Ond sôn am Big Brother yr oeddwn. Rwan, i’r rhai sy’n f’adnabod yn bersonol, gwyddoch yn iawn fod gen i bob math o ragfarnau yn erbyn bob math o bobl megis bod Mwslemiaid byth yn chwifio llaw i ddweud diolch pan fyddwch yn eu gadael mynd o’ch blaen yn y car a bod Sgowsars i gyd yn lladron neu’n griminals o’r fath waethaf; felly wn i ddim sut y byddwn i’n ymdopi â dyn dall sy’n neud jôcs gwael ac albino du.

Ond y peth a ddaeth i’m rhan oedd pa mor erchyll o anodd y byddai anghytuno neu ffraeo â rhywun dall o dan y fath amgylchiadau heb edrych fel bwli. Bydda’r boi yn gallu cael getawê gyda rhywbeth ac aros yno tan y diwedd. Dwi’n meddwl y peth gwaethaf ar y cyfan ydi bod ei jôcs o’n ofnadwy a dydi’r boi ddim yn ddoniol ond mae pawb yn ffug-chwerthin eniwe. Beth pe na fyddech yn dod ymlaen efo’r boi? A fyddech chi’n edrych fel twat o flaen miliynau o bobl heb reswm?

Mae’n bur rhyfedd meddwl am y ffasiwn beth. Mae’r Gymraes sydd yna efo pawb yn siarad tu ôl i’w chefn achos ei bod hi’n “rhy neis”. Amheuaf yn fawr mai dyma’r achos o’m rhan i.

venerdì, giugno 20, 2008

Hollol ddibwynt flogiad. Mae'n pathetig o ddibwynt a dweud y gwir. Dwi wedi cael sioc pa mor rybish ydi o. Mae hyd yn oed y teitl hwn yn well.

Mae hyn am ddod fel syndod i chi ond un o fy mhrif gasinebau ydi pobl sy’n cwyno. Mae’n gas gen i wrando ar yr un diwn gron yn cylchdroi (does a wnelo hyn ddim â phost cynharach yr wythnos hon) ganddyn nhw, yn cwyno am bopeth fel Haydn yn cwyno am drethi a Lowri Dwd yn cwyno am fod yn amgylcheddol (“dwi mor flin efo chdi am beidio ailgylchu” mae hi’n dweud ohydacohyd ers y dydd o’r blaen, gan yrru negeseuon testun ac e-byst i fynegi ei dicter. Hogan gas fu erioed).

Ond un o’r pethau sy’n peri gofid gwirioneddol i mi ar y funud yw’r diffyg collnod ar fy ffôn symudol. Wn i ddim amdanoch chi, ond dydw i ddim yn licio “sgwrsio testun”. Wyddoch chi’r math o beth, “V am fnd 8nos nsf i weld t” neu “I h8 dks” (p’un a ydi’r ddau yna wedi cael eu defnyddio o’r blaen wn i ddim). Dwi’n licio darllen fy negeseuon yn iawn, ond fedraf i ddim rhoi collnodau wrth i mi ysgrifennu nodau bodyn, ac am ryw reswm seicolegol anwastad mae hyn yn fy ngwylltio a gwneud i mi isio gweiddi. Mae “a’r” yn troi’n “ar” er enghraifft. Erchyll. Cwbl, cwbl erchyll.

Dydd Gwener. Gas gen i ddydd ffycin Gwener. Yma mai, ar fin y penwythnos (gol. o waelod calon y bwriad oedd ysgrifennu ‘a’r penwythnos ar fin dod’ fanno, ond dydi hynny ddim yn swnio fawr well efo ‘mbach o ddychymyg ffiaidd - gen i ddigon o hynny) ond mae’r diwrnod ei hun yn llusgo fel (na, ‘sdim math o gymhariaeth gall yn dod ataf) y diawl (os nad ellir dychmygu, troer ar dafodiaith) (mae ‘na ormod o fracedi yn y frawddeg yma i’w gorffen erbyn hyn, mae ‘di eithaf sbwylio popeth, a dywedyd y gwir yn onest).

giovedì, giugno 19, 2008

Y Cardotyn Nas Ymddiriedaf

Dydi pobl Big Issue ddim yn “working not begging” fel y mae’n dweud ar eu cotiau. Bob tro y bydda’ i’n cerdded o’r gwaith mi fydd o leiaf un yn ohonynt yn erfyn arnaf i brynu'r un olaf. Go iawn wan. Y peth mwyaf od wrth i mi gerdded adref ydi rhywun sy’n eistedd ar ochr y stryd efo’i gap o’i flaen ac ambell i geiniog ynddo. Dydi hynny ddim yn od ond mae’n ddiawledig o od fod ganddo ddigon o bres i liwio’i wallt yn felyn bob tro dwi’n ei weld. Ydw i’n rhy sinigaidd neu a ydi hynny’n od?

Iawn, fi sy’n sinig, ond dydi hynny ddim yn beth anodd bod pan fo pawb yn ceisio cael fy mhres, a hynny sy’n ddigon prin fel y mae. Wn i ddim p’un ac ydyw drwy’r prisiau’n codi ond am y tro cyntaf dw i ‘di gwario fy nghyflog cyn i mi gael y nesaf. Ydi, mae’n brifo. Y mis hwn bai’r ffycin trwydded deledu ydoedd. Mae’n gas gen i dalu trwydded deledu. Taswn i’n byw yng nghanol unlle, fel Llanystumdwy neu efallai Carno, byddwn i ddim yn boddran. Wir-yr. Dydi £140 y flwyddyn i wylio tua phum rhaglen dwi’n wirioneddol eu mwynhau ddim gwerth o a dweud y gwir. Talu mi wnes fodd bynnag.

Y Pum Rhaglen Dwi’n Eu Mwynhau Fwyaf Ar y Funud

Come Dine With Me
The Supersizers Go...
Tipyn o Stad
Doctor Who
Ewro 2008 – y gemau, dim y sylwebwyr crap, yn enwedig ITV. Mae ITV yn ofnadwy eniwe ond mae ITV a chwaraeon yn gyfuniad erchyll.

mercoledì, giugno 18, 2008

Ailgylchu

Fi ydi fi ydi fi. Un o’m hoff ddileits hunanol ydi peidio ailgylchu. Rwan, dydi ailgylchu ddim yn beth hwyl ond mae’n beth pwysig i’w wneud. Fydda i ddim yn ailgylchu mae arna’ i ofn. Mae hyn oherwydd dau reswm: y cyntaf yw nad oes lle am ddau fin (h.y. bin nid min) yn tŷ acw; yr ail ydi dwi’n licio cythryddu hipis plaid werdd trî-hygars organig angen ‘u sgwrio’n iawn â sebon ecowariars feji-figans ffrî Tibet libral nytars mediteshyn byth-yn-lladd-pryfaid potheds caru windchimes math o bobl.

Ac Y Fi ‘di ffycin diffiniad goddefgar.