giovedì, settembre 09, 2010

Toshack a Gatland

Wrth i mi sgwennu hwn mae’n bur debyg y bydd John Toshack yn gadael ei swydd fel rheolwr y tîm pêl-droed cenedlaethol. Ffaith ryfedd a ddarllennais yn y Western Mail oedd bod canran y gemau enillodd Toshack fel rheolwr, hyd yn hyn o leiaf, yn weddol uchel, sef 41% - sy’n sylweddol uwch na rheolwyr eraill Cymru dros y blynyddoedd gan gynnwys Mark Hughes a Terry Yorath. Mae’r farn arno yn ddigon cymysg hefyd. Byddai rhai yn dadleu ei fod wedi camu i sgidiau rheolwr hynod boblogaidd gyda thîm yr oedd ei sêr yn heneiddio – ac i fod yn deg dydi bod yn rheolwr ar Gymru ddim yn beth hawdd ar yr adegau hawsaf.

Ond yn y garfan arall ydw i, mae arna’ i ofn. Ac eithrio ambell i ganlyniad derbyniol nodweddwyd ei gyfnod diweddaraf fel rheolwr gan bêl-droed a oedd ymysg y salaf i mi ei weld – roedd y golled 0-2 yn erbyn Y Ffindir yng Nghaerdydd yn sicr yn isafbwynt. Yn wir, dydi hi ddim yn syndod i’r torfeydd arferai heidio i weld Cymru’n chwarae yng nghyfnod Hughes ddirywio’n enbyd. Dadleua rhai fod ‘na rŵan chwaraewyr ifanc addawol yn dod i’r amlwg, ond does â wnelo hynny dim â Toshack mewn difrif. Nhw sydd wedi bod yn ddigon da i ddod drwy’r system, a Flynn sydd wedi’u eu “magu” nhw.

Yn bersonol, dwi’n meddwl bod Toshack wedi mynd â’r tîm cyn belled ag y gall ers blynyddoedd bellach. Gwynt teg ar ei ôl o.

Ar y llaw arall mae’n fwyfwy tebygol y gallai Warren Gatland aros yn ei swydd am bedair blynedd yn ychwanegol, a’i fod o bosibl ar fin arwyddo cytundeb i’r diben hwnnw, flwyddyn cyn i Gwpan y Byd ddechrau. Rŵan, gall neb amau dawn a gallu Gatland fel rheolwr. Mae Cymru yn bethwmbrath o dîm gwell ers iddo gymryd yr awennau, heb sôn am ei gyflawniadau gynt. Ac, ar y cyfan, mae rygbi Cymru mewn lle da.

Ond ai fi ydi’r unig un sy’n anesmwyth gyda chynnig cytundeb iddo flwyddyn cyn Cwpan y Byd? Er gwaetha’r ffaith bod perfformiadau Cymru dros yr ychydig flynyddoedd ers y Gamp Lawn wedi bod yn dderbyniol, mae’r canlyniadau eu hunain wedi dod yn gynyddol dadrithiol. Roedd Chwe Gwlad eleni, a’r gêm ddilynol yn erbyn De Affrica yn sicr, yn siom fawr. Mae Gatland yn iawn i ddweud nad yw Cymru yn rhy bell o fod yn dîm “da iawn” – gall rhywun weld hynny - ond mae o wedi dweud hynny ers cyhyd y mae’r rhywun yn gorfod meddwl pryd y daw’n dîm o’r safon honno, os o gwbl.

Dyma fy mhrif gonsyrn. Petai Cymru’n cael gemau siomedig yn yr hydref, Chwe Gwlad annigonol, a Chwpan y Byd wael – o ran canlyniadau, sef y peth pwysig – fe allai rhywun ddadlau o bosib bod cyfnod Gatland wrth y llyw wedi bod yn anfoddhaol ar y cyfan, er gwaethaf y Gamp Lawn gychwynnol yn 2008. Ond erbyn hynny gallai fod wedi arwyddo cytundeb newydd a gallai Cymru fod yn styc efo rheolwr sydd ddim wedi gwneud y job gystal ac y dylai gyda’r adnoddau sydd ganddo. Byddech chi ddim yn synnu petai URC yn gwneud smonach o bethau ar ôl hynny, ac unwaith eto yr un hen stori fydd hi i rygbi Cymru.

mercoledì, settembre 08, 2010

Caneuon Gyrru Cymraeg

Yn ddiweddar wnes i losgi cryno-ddisg, ‘Canueon Gyrru Cymraeg’ ydi’r sgrifen blêr ar y blaen. Mae’n nhw’n llifo mewn i’w gilydd yn dda ar y cyfan – blaw am rif 8 ydwi’n difaru ei rhoi arno fo rwan – a dwnim os ydi rhif 6 rili yn gân ‘yrru’ chwaith, fe’i llosgwyd yn fyrfyfyr! Dwi’m yn meddwl bod o’n hawdd iawn dod o hyd i ganeuon gyrru da yn Gymraeg, dim fatha Saesneg.

Yn bersonol, ac mae’n siŵr yn ddisgwyliedig, dwi’n meddwl mai Celt ydi’r band Cymraeg gorau i yrru iddo fo. Ond mi geisiais rhoi amrywiaeth ar y cryno-ddisg. Dwnim pam, fel’na ydwi.

Mae pobl yn dueddol o feddwl mai Don’t Stop Me Now gan Queen ydi’r gân yrru orau erioed, yn sicr yn Saesneg – be ydi’r gân yrru orau yn Gymraeg tybed? Mae’n fôt i yn mynd i Lawr y Lôn gan Sobin, ond beth ydach chi’n ei feddwl?

Fy nghryno-ddisg

1. Lawr ym Morocco (Meic Stevens)
2. Tocyn (Brân)
3. Dagrau Caled (Mim Twm Llai)
4. Space Invaders (Bando)
5. Abacus (Bryn Fôn)
6. Lleisiau (Epitaff)
7. Heyla (Frizbee)
8. Goleuadau Llundain (Daniel Lloyd a Mr Pinc)
9. Angen Ffrind (Diffiniad)
10. Ddim ar Gael (Celt)
11. Breuddwyd Roc a Rôl (Edward H)
12. Rhy Hwyr (Huw Chiswell)
13. Gwesty Cymru (Geraint Jarman)
14. Bodlon (Kentucky AFC)
15. Draenog Marw (Crysbas)
16. Dawns y Glaw (Anweledig)
17. Blithdraphlith (Sibrydion)
18. Lawr y Lôn (Sobin a’r Smaeliaid)
19. Cymru, Lloegr a Llanrwst (Y Cyrff)
20. Madrach (Derwyddon)

Be sy’n bygio fi ydi dwi’n gwbod bod ‘na UN, jyst UN, arall ond dwi’m yn ei chofio!

lunedì, settembre 06, 2010

Diléit

Un peth od sydd wedi digwydd yn bennaf ers i mi ddechrau cyfieithu ydi rhywbeth y mae’r rhan fwyaf o bobl yn ei gael y ffordd arall rownd. Yn bur aml fydda i efo gair Cymraeg yn fy mhen, ac nid gair amlwg ond yn aml yn un digon anarferol, a fydda i er fy myw methu cofio’r Saesneg. Y diweddaraf o’u plith oedd y gair ‘dirmygus’. I fod yn onest dwi ‘di methu â chofio be ydio yn Saesneg ers wythnosau ond bob amser wedi anghofio am y peth pan fo’r modd gennyf i ganfod y cyfieithiad.

Wrth gwrs, pan ofynnais i amryw bobl, Nain, Anti Nel, y chwaer, Dad a Mam (wn i ddim pam Mam achos Saesneg ydi Mam, ond mae hi newydd benderfynu dysgu Cymraeg. Mi ordrodd goffi yn gyfan gwbl Gymraeg ryw bryd yn ddiweddar, a oedd yn destun sioc i Dad, a hefyd brynu CD Bryn Fôn. Mae Mam yn licio Bryn Fôn. I like coffio dy wyneb, medd hi) beth ydi ‘dirmygus’ yn Saesneg ond ‘doedd ‘run ohonyn nhw’n gwbod beth oedd o’n Gymraeg beth bynnag.

Scornful neu contemptuous ydi ‘dirmygus’ mi wn erbyn hyn. Ac un arall diweddar oedd ‘esgeulus’. Mi allwn yn hawdd agor Cysgeir rŵan i ffeindio allan. Ond dwi’n dwat a dwi ddim am wneud. Oherwydd, er gwaethaf y teimlad rhwystredig hwnnw o methu â chyfieithu ar y pryd (fedra i ddim cyfieithu ar y pryd beth bynnag cofiwch, nid y math yna o gyfieithydd ydwi), mae ‘na ryw ddiléit dwi’n ei theimlo o wybod gair digon posh yn y Gymraeg a ddim gwbod be dio’n Saesneg, i’r fath raddau nad oes gen i glem.

Ond ew, un peth arall sy’n ddiléit i mi fod adra ydi dwi’n clwad fy hun fy acen ogleddol gomon yn llifo’n ôl. Mai’n braf gallu siarad yn digon bygythiol ac uchal heb i wneud ddweud dy fod yn bod yn ‘ymosodol’. Yn wir, dwi ‘di clywed acen Dyffryn Ogwen yn cael ei disgrifio fel ‘ymosodol’ ambell waith. Ac fel unrhyw un arall werth ei halen o Ddyffryn Ogwen, dwi’n cymryd hynny’n gompliment ar y diawl!

sabato, settembre 04, 2010

Y ddoe na ddaw yn ôl

Felly neithiwr mi gyrhaeddais Rachub fach drachefn. O fod yma ychydig ddyddiau’r flwyddyn mae’r ddelwedd berffaith sydd gennyf yn fy mhen ohoni yn dueddol o gael cnoc go hegar ond fydda i wedi hen anghofio unwaith y byddaf nôl yng Nghaerdydd. Weithiau dwi’n meddwl fy mod yng Nghaerdydd o hyd, am lawer hirach na thybiais, megis estrys â’i phen mewn bell dywod. Haws ydi hi, wedi’r cwbl.

Ond, na, er gwaethaf popeth fy Rachub i ydyw o hyd, ar ei newydd wedd ai peidio, a’m Arfon innau ‘fyd. Canai Nain o hyd

Show me the way to go home
Sir Gaernarfon neu Sir Fôn

A dwi wastad wedi uniaethu gan fod Môn, Mam Cymru (sy llawn blydi weirdos a dyna ddiwadd arni), wedi bod yn rhan lawn cymaint o’m mywyd ag Arfon gadarn. Doedd dim yn well gen i na phan fues yn nhŷ Nain ‘stalwm bob penwythnos yn clwad ei straeon o’i phlentyndod; ei bod hi’n ara’ deg yn gwisgo i’r ysgol, a’i bod yn cael ffrae gan ei thaid am fynd i’r twlc moch efo Anti Nel a neud tân yno i geisio coginio tatws. Ond, yn ddiweddar, a hithau’n heneiddio, mae rhywun yn clywed yn ei llais a rhwng llinellau ei brawddegau fod y byd yn rhy wahanol erbyn heddiw a bod y pethau bychain pwysig iddi’n araf ddadfeilio; fel na phetai cornel fach ym myd mawr heddiw i ffydd na iaith y ffordd o fyw y’i magodd.

Efallai rhyw ddydd fydda i’n cael dweud y fath bethau i bobol, wn i ddim. Dwi’n cofio Rachub fach pan oedd yn Rachub lai, cyn i Fron Bethel gael ei chodi nag ysgol y sgwâr droi’n fflatiau henoed. Dwi’n cofio ‘fyd ‘stalwm nad y ni oedd bia’r caeau sydd i’r de o’r tŷ – yr hen Huw oedd bia nhw. Cadwai ddefaid a dwy fuwch yno. Dim byd mawr, er bod buwch yn beth gweddol fawr, yn enwedig os ydach chi’n fach. A phorai’r ddwy wrth Ysgol Llanllechid weithiau a dyma fi’n dweud wrth fy ffrindiau “dwi’n nabod nhw”. Credai neb mohonof, cofiwch, ‘sneb yn credu dim y dyweda i achos mae pobol yn gallach na hynny.

Erbyn heddiw ni sy’n berchen ar y caeau. Nid oes na dafad na buwch yno mwyach – dwy ferlen wyllt yn unig (Wil a Guto!). Nid oes llif yn y ffrwd fach lle nofiai’r penbyliaid a’r gelenod oherwydd bod y caeau rŵan yn wyllt gan dyfiant. Ond gwell dwy ferlen wyllt a llystyfiant na dwsin o dai i Saeson.

Bydd fy Nain Eidalaidd wastad yn deud Arglwydd, I been in Rachub for 64 years, and I’ve enjoyed my life here.

Dwinnau ‘fyd, ac mae’n braf, doed â ddel, gofio fy mod i wedi. Pan fydd y ddinas wedi darfod â mi, dyma’r unig le yn y byd y gallwn fod. Diolch i Dduw mawr y cymylau mai hogyn o Rachub ydw i.

venerdì, settembre 03, 2010

Pwt Pethau Bychain

Dwi bron yn teimlo’n ddiog ar ddiwrnod Pethau Bychain yn blogio achos, i bob pwrpas, gwneud yr un peth â dwi wedi’i wneud ers saith mlynedd ydw i. Dwi’n siŵr, ac yn gobeithio, y bydd y we Gymraeg yn llawn gweithgarwch heddiw. Fyddai’n braf meddwl y bydd pawb yn blogio ac ambell flog newydd yn dod i’r amlwg. Ar y llaw arall fe wyddoch be dwi’n ei feddwl am drydar...

Gyda thaith i’r gogladd ar y gweill, a’r paratoadau meddyliol dwys sydd ynghlwm wrth hebrwng y Dwd yno, dyna’r oll ‘sgen i ddweud am heddiw. Yn fuan eto, gyfeillion....

mercoledì, settembre 01, 2010

Y teledu newydd

Cyn i mi fynd ymlaen efo’r crap arferol, diolch i bawb bleidleisiodd dros y blog hwn yng ngwobrau TotalPolitics eleni. Dim ond neithiwr sylwais (neu ailgofiais) i am y gwobrau ac ar ôl y saib yn arbennig do’n i’m yn disgwyl bod arno o gwbl, heb sôn am esgyn bymtheg safle i rif 21. Dwi’n cofio bod yn 21, roedd bywyd cymaint yn well ac roedd gen i wallt llawer mwy trwchus heb orfod droi at Pantene Pro-V.

Ond dwi’m am sôn am wleidyddiaeth heddiw, mae gwleidyddiaeth ar y funud yn ddiflas iawn, ac os ydach chi mor gul â mi prin edrychwch hi dros y ffin am eich dogn o wleidyddiaeth. Na, mae pethau pwysicach wedi digwydd ar Stryd Machen dros y penwythnos.

Dwi ‘di deud wrth fy hun ers misoedd maith fy mod isio teledu newydd. Doedd ‘na ddim yn bod efo’r un hen, cofiwch. Roedd y llun yn dda iawn ond hen oedd hi ‘fyd – hen dwmpath o beth hyll ar ochr yr ystafell (‘chydig fel o ni yn Dempseys nos Sul a dweud y gwir). Na, roedd hi’n amser uwchraddio i sgrîn wastad 32” Toshiba rwbath. Un da ydi hi. Mi falith, fel popeth, yn diwadd. Dyna sy’n digwydd yn Stryd Machen wedi’r cwbl. Does dim, na neb, yn para’n hir.

Felly mi dwi’n mynd i’r gogladd ddiwedd yr wythnos ac yn mynd â’r hen deledu efo fi. Mae’n rhy dda i’w luchio. Ond onid yw popeth yn Rachub draw ... mae tŷ Adra yn drysorfa o declynnod o ddegawdau fu, pethau sy’n “rhy dda i’w taflud” ac felly sy’n cael gwifrau a phob mathia gwahanol i’w huwchraddio yn hytrach na phrynu rhai newydd. Mae’r remôts ym mhob man a dwnim a oes un yn gweithio.

Felly dyma uwchraddio eto, hen deledu’r Hogyn, yr anrheg orau all roi i’w deulu bach tlawd. Oes, mae gen i galon o aur. Swni’n farw swni’n angel. Dwnim os fela mai’n gweithio chwaith ond well bod hi.

giovedì, agosto 26, 2010

Arolwg barn ITV YouGov

Fydd rhywun yn licio ei bolau piniwn, ac mae’r un diweddaraf sydd wedi dod i’r amlwg yn ddigon diddorol. Ces olwg fanwl arno yn hwyr neithiwr, wedi digwydd gweld bod Heledd Fychan yn ei drydar fel ‘gwych’ i Blaid Cymru. Yn ôl y pôl ITV-YouGov yn yr etholaethau câi Llafur 39% (+7% o etholiad 2007) o’r bleidlais, Plaid Cymru 23% (+1%), y Ceidwadwyr 22% (d/n) a’r Democratiaid Rhyddfrydol 10% (-5%).

Mae sawl goblygiad i hyn, y gallwch ddarllen amdanynt yn y Western Mail, papur gorau’r byd (haha, jôc, ma’n shait). Dwi ddim yn rhagweld Llafur yn adennill Gorllewin Clwyd, ond gallai Gorllewin Caerfyrddin/De Penfro bod yn bosibilrwydd – bid siŵr mai ras deirffordd fydd honno eto. Byddwn i fy hun yn dueddol o edrych at seddau Canol a Gogledd Caerdydd. Wn i fy mod wedi darogan Blaenau Gwent yn hollol anghywir eleni, ond yng ngyd-destun y Cynulliad a hefyd gan mai Trish Law sy’n sefyll, swni’n gyndyn o ddweud aiff yn bendant i ddwylo Llafur.

Serch hynny, mae’n anodd ar hyn o bryd weld llu newidiadau yn yr etholaethau. Dwi’n amau bod pob un o seddau’r Blaid yn ddiogel, hyd yn oed Môn, Ceredigion ac Aberconwy. Fydd Maldwyn yn ddiddorol iawn (mi grybwyllais y sedd honno fel sedd ddiddorol yn 2011 y llynedd – er eto cael slap yn fy wynab am 2010!), a bydd Ron Davies yn sicr yn gwneud Caerffili yn ddiddorol. Fentra i ddim mwy bron i flwyddyn cyn yr etholiad ei hun!

Yr hyn sy’n ddiddorol ydi’r ffigurau ar gyfer y rhestr. Mae Llafur ar 39% (+9%), Plaid Cymru 23% (+2%), y Ceidwadwyr ar 21% (d/n) a’r Dems Rhydd ar 9% (-3%). Oherwydd natur y system, yn ôl canlyniadau, gallai’r Dems Rhydd yn hawdd fod efo mwy na 6 sedd y tro nesaf, eu diystyru ni ddylid. Ac er y byddai’r Blaid ar ei fyny, colli seddau y byddai oherwydd perfformiad gwan yn y De-ddwyrain. Mae hyn yn dangos pwysigrwydd targedu seddau – rhywbeth yn hanesyddol y mae’r Dems Rhydd yn dda iawn arno.

Ym mêr fy esgyrn, dwi’n teimlo mai’r rhestrau fydd yn allweddol i lwyddiant y pedair plaid yn 2011. Pôl piniwn ‘gwych’ i Blaid Cymru, nid yw (ac mi fyddai’r 13 sedd arfaethedig yn berfformiad digon pitw). Ac mae o galondid i’r Dems Rhydd wybod y gallant golli pleidleisiau ac ennill seddau. Dwi am fod mor hy â dyfynnu fy hun o’r post hwn wnaed ddwy flynedd nôl ar ôl etholiadau Ewrop, pan ddaeth y Blaid yn drydydd a’r Ceidwadwyr yn gyntaf. Yn lle ailadrodd, dyma hi - dwi'n meddwl efallai  bod i mi ddweud y gwir am unwaith:

Tybed, tybed a fydd hynny yn ei hun yn ysgogiad i’r Llafurwyr nad aethent i bleidleisio i bleidleisio mewn etholiad cyffredinol mewn pleidlais wrth-Dorïaidd? Gyda Phlaid Cymru yn drydydd, er yn drydydd agos, dydy hi ddim wedi ymsefydlu fel opsiwn posibl amgen i Lafurwyr oherwydd hynny, sy’n awgrymu i mi na fydd pleidleiswyr Llafur yn troi ati naill ai i brotestio, neu o ran newid sylfaenol yng ngwleidyddiaeth Cymru, fel y gwelir yn yr Alban.

Petai Plaid Cymru wedi dod yn ail, yna’r canfyddiad fyddai mai brwydr fawr y dyfodol fyddai Plaid a’r Ceidwadwyr. Y canlyniad?

Gallai colli i’r Ceidwadwyr, yn y pen draw, fod yn hwb i Lafur, a thrwy hynny o bosibl arwain at gyfnod di-dwf i Blaid Cymru

mercoledì, agosto 25, 2010

Y lle gorau i gath


Ai fi ydi'r unig un sy'n meddwl bod y stori wirion hon wedi'i mynd yn rhy bell? Y ddynas yn cael bygythiadau i'w lladd, 18,000 o bobl wedi ymuno ar grŵp Facebook i'w chondemnio, straeon lu yn y papurau newydd. Seriws, 'runig beth nath hi oedd rhoi ffycin cath mewn ffycin bin.

Cês de.

Diweddariad:
Nodyn bodyn gan Ceren: Dwi'n falch ath y gath i'r bin

lunedì, agosto 23, 2010

Breuddwydion ieithyddol

Y penwythnos fu, roedd yn 17 wythnos ers i mi gael penwythnos di-alcohol. Digwydd edrych yn fy nyddiadur i weld beth oedd y sefyllfa a wnes, ac yna cyfrif am yn ôl a sylwi y cafwyd 16 wythnos yn olynol o yfed. Nid o reidrwydd sesh – efallai potel fach o win, howsparti (fi ydi’r person gwaethaf posibl i gael mewn howsparti, dwi’n absoliwt ffycin hunlla), peint slei – ond penwythnos dialcohol nis cafwyd ers sbel go dda.

Yn rhyfedd mi ges freuddwyd neithiwr ei bod eto’n nos Sadwrn ac fy mod wedi yfed gan felly adael fy hun i lawr. Uffernol yn de. Rhaid fy mod yn teimlo’n euog am yfed cymaint yn ddiweddar neu ni fyddwn yn cael breuddwyd mor rhyfedd. Ta waeth, mae hyn yn sicr wedi cyfrannu at daro’r boced yn galed yn ddiweddar. Dwi’n siomedig efo fy mherfformiad cyllidebol y mis hwn, er bod talu £60 i adael fy hun nôl mewn i’r tŷ ar ôl cloi fy hun allan yn sicr wedi cyfrannu.

Ta waeth, mae gen i ddehongliad digon syml i’r cyfryw freuddwyd yn does? Ond mae un freuddwyd a gaf sy’n ailadroddus a dwi’n ei chael yn weddol aml. Dwi’n nôl yn ‘rysgol, ac yn mynd i ddosbarth Ffrangeg, ond dydw i heb fod am fisoedd i ddosbarth Ffrangeg ac mae’r arholiadau’n dyfod a dwi’n gwybod dim. ‘Sgen i’m clem o ddim byd a dydi’r athrawesau yn poeni fawr ddim amdanaf.

Dwi’n meddwl mai gwraidd y freuddwyd honno ydi fy mod i’n eithaf digalon fy mod wedi anghofio cymaint o Ffrangeg ar ôl gadael ysgol – wedi’r cyfan, dyna sy’n digwydd i rywun pan fo’ch rheswm dros siarad iaith yn dod i ben, anghofio wnewch chi. Mae Ffrangeg yn iaith brydferth yn fy marn i. Ceir ambell iaith brydferth arall, megis Eidaleg a Rwsieg, dwi’n meddwl. A gall Cymraeg fod yn brydferth tu hwnt, ond mi all fod yn weddol uffernol hefyd ac, er fy mod yn anghytuno’n chwyrn, dwi’n dallt pam bydd rhai yn dweud “Welsh is an ugly language”.

Y peth da am y Gymraeg o ran hynny ydi bod y geiriau drwg, ar y cyfan, yn swnio’n hyll e.e. gwrach, mellten, afiach, hunllef, melltith, Rhagfyr ac ati; tra bod y geiriau am bethau da bywyd yn wirioneddol brydferth eu sain e.e. tylwyth teg, mêl, heulwen, bendith, torlan. Wn i ddim am unrhyw iaith arall y mae sŵn y gair yn cyfleu’r ystyr yn well na Chymraeg.

Credaf fod ambell iaith hyll, cofiwch, a dyma pam dwi’m yn mynd yn flin os bydd rhywun yn dweud hynny am y Gymraeg, achos byddwn i’n eithaf rhagrithiwr wedyn. Mae rhai o ieithoedd canoldir Asia, fel Uzbek, neu Fongoleg, yn erchyll i ‘nghlust i, a dwi ddim yn ffan o Arabeg. Dydi’r Saesneg ddim yn iaith hyll, hen iaith ddiflas ydi hi sy’n llawn haeddu’r teitl ‘yr iaith fain’.

Fedra’ i sgwennu’n weddol ddeallus pan fydda i ddim yn yfed, wchi, ac mi a ysgrifennwn am iaith drwy’r dydd pe cawn. Ond mae gen i bethau eraill i’w wneud! (sy’n ymwneud ag iaith, yn eironig)

venerdì, agosto 20, 2010

Plaid Cymru ac annibyniaeth

Un o fy mhrif broblemau â Phlaid Cymru ydi ei safbwynt ar annibyniaeth i Gymru. Rŵan, fe wyddoch bid siŵr fy mod i’n gefnogwr di-sigl mewn annibyniaeth. Gallem drafod rhinweddau a phroblemau posibl y nod hwnnw drwy’r dydd, yn economaidd, yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol. Un o wreiddiau fy nghred ynddi ydi os nad ydi cenedl y Cymry yn fodlon cymryd cyfrifoldeb arni ei hun yna ‘does hawl ganddi gyfeirio at ei hun fel cenedl o gwbl, ac waeth iddi ymuno ag eraill genhedloedd diflanedig y byd yn y llyfrau hanes a safio lot o ofid ac ymdrech i ni gyd.

Prin fydd y rhai sy’n cytuno â hynny mae’n siŵr. Wrth gwrs, un peth dwi’n rhannu’n gryf â’r Blaid (er nad ydi hi’n gred gref gan bob elfen yn y Blaid) ydi y dylai Cymru fod yn annibynnol. Y broblem sy gen i ydi’r agwedd ‘annibyniaeth yn yr hirdymor’ y mae’r Blaid yn ei dilyn. Sut y mae diffinio ‘hirdymor’? Mae Cymru eisoes wedi’i rheoli o’r tu allan i’w ffiniau ers dros 700 o flynyddoedd - dwi’n sicr ddim yn gallu disgwyl 700 mlynedd arall!

I’r graddau hynny, dwi’n credu y dylai Cymru fod yn annibynnol rŵan, y funud hon. Dydw i ddim yn rhannu gofidiau eraill am yr economi, chwaith. Pan gawn blaid o Gymru yn rheoli Cymru fydd hi fawr o amser ar y sefyllfa’n gwella, dwi’m yn amau hynny ronyn – dydi pethau heb wella mewn difrif ers oes datganoli oherwydd mai un o’r pleidiau sy’n wasaidd i Loegr sydd wastad wrth y llyw. Pa well ffordd o gadw hunanhyder y Cymry’n isel na’u cadw’n dlawd dragwyddol a thrwy hynny sicrhau eu teyrngarwch? Ysywaeth, nid rhydd mohoni. Rhaid i mi dderbyn hynny.

Mae sôn mawr yn ddiweddar am USP Plaid Cymru, ond fawr ddim am ei USP mwyaf sef ei chred mewn Cymru rydd. Y broblem ydi, drwy fythol ddatgan annibyniaeth fel nod hirdymor mi all y Blaid ddistewi ofnau’r rhai sydd yn erbyn annibyniaeth, gan dwyllo pleidleisiau ganddynt, tra hefyd dwyllo ei phleidlais graidd i feddwl ‘sticiwch gyda ni, fe gyrhaeddwn y nod yn y pen draw’ heb wneud hynny. Mae angen ar y Blaid, er mwyn bod yn gwbl agored ar y pwynt hwn, ‘fap’ i annibyniaeth. Nid o ran amser, fel y cyfryw, dwi’n cyfaddawdu ar hynny, ond yn sicr o ran y broses ddatganoli. Er enghraifft, gallwn ddweud bod sefydlu’r Cynulliad yn cyflawni Cam 1. Ennill y refferendwm - os cawn ni un, a dwi ddim yn siŵr y cawn - ydi Cam 2. Gallai datganoli Darlledu fod yn Gam 3, pwerau dros drethi ac ynni fod yn Gam 4, datganoli’r System Gyfiawnder a’r Heddlu yn Gam 5, Senedd lawn ar fodel yr Alban yn Gam 6, Senedd â phwerau tebyg i ranbarthau’r Almaen yn Gam 7 ac annibyniaeth lawn yn Gam 8.

Awgrym ydi’r uchod o’r drefn, wrth gwrs, ond dwi’n credu’n gryf bod angen hyn ar y Blaid, oherwydd os na chaiff hynny dwi’n rhagweld hyd yn oed mewn ugain mlynedd mai ‘annibyniaeth yn yr hirdymor’ fydd ei hamcan, ac na welwn mohoni fyth. Twyllo ydi hynny, nid mwy na llai.

Wrth gwrs, mae un peth wedi’i gyflawni ers datganoli eisoes. Ddeng mlynedd yn ôl roedd gan bobl Cymru ofn o annibyniaeth - roedd hi’n eithafol, yn afrealistig. Bellach mae’r lliaws yn anghytuno â’r syniad ond eto’n derbyn ei fod yn gred wleidyddol deilwng. Newid sylfaenol o fewn degawd. Wrth i ni raddol ennill pwerau mi fydd y farn yn parhau ar duedd ffafriol, ond rhaid i’r Blaid sicrhau bod y cyfansoddiad o hyd ar yr agenda - hi yn unig all wneud hynny. A rhaid iddi wthio’n galed ac yn ddi-baid dros ennill pwerau i Gymru.

Weithiau, dwi’n meddwl mai’r rhai sydd fwyaf ofn annibyniaeth ydi Plaid Cymru ei hun. Di-sail ydi’r pryder hwnnw, dwi’n siŵr, ond credaf yn gryf bod yn rhaid ymrwymo i’r syniad, llunio camau tuag at annibyniaeth, a glynu atynt doed â ddêl. Nerys Evans ddywedodd yn ddiweddar bod yn rhaid gweddnewid Cymru, wel, dyma ffordd o roi’r gweddnewidiad hwnnw ar bapur, a thrawsnewid Cymru am y gorau. Os gall ond wneud hynny os ydi hi’n gwbl ymrwymedig i annibyniaeth, ac weithiau mae rhywun yn teimlo nad yw.

giovedì, agosto 19, 2010

Problem sŵp a'i berthnasedd â chlyfrwch a bod yn wybodus

Ydw, ydw, mi wn, dwi’n glyfrach o bethwmbrath na chi. Wel, mewn difrif, dydw i ddim yn glyfar, ond dwi yn wybodus iawn, wyddoch. Mae ‘na wahaniaeth enfawr, yn fy marn i, rhwng bod yn wybodus a bod yn glyfar – a’r cyntaf ydw i. Yn gryno, fe ŵyr rhywun gwybodus lot o bethau, boed hwythau’n ffeithiau, ystadegau, hanes ac ati. Does angen fawr o allu ar rywun i wneud hynny, a rhywun felly dwi, hynny yw dwi’n eitha handi i gael ar y tîm cwis.

Ond mae rhywun clyfar, welwch chi, yn dallt yr hyn mae o’n ei wybod. Er enghraifft, gall rhywun wybod sut mae cynganeddu - dwi’n dallt y gynghanedd mynd diân - ond nid pawb sy’n dallt cynganeddion hyd allu eu llunio. Un peth ydi gwybod be ‘di damcaniaeth, peth arall ei dallt hi.

Ond dyn nis esblyga ond am rai rhyfeddodau. Datguddiad ddaeth i’m rhan wythnos diwethaf - clyfrwch. Yn ddiweddar, mae ‘na ambell fwyd na hoffais mohonynt gynt ond sy’n apelio ataf erbyn hyn, a hynny’n digwydd yn ddirybudd. Y cyntaf oedd eog wedi’i fygu. Y diweddaraf, sŵp tomato. Arferais garu sŵp tomato, ond eshi off y peth am flynyddoedd lawer, tan lai na phythefnos nôl. Mi apeliodd ataf ac mi ges ‘chydig.

Ceir problem gyda sŵp a chawl weithiau. Gall bara fod yn eitha pathetig a disgyn i mewn i’r sŵp. Rŵan, efallai dydi hyn ddim yn broblem, i’r fath raddau dwi’m yn gwbod sut na pham ffwc dwi’n sgwennu blog am y peth (ond fe wyddoch erbyn hyn mai dyma’r mân bethau cachlyd y sonnir amdanynt yma’n bennaf), ond mae’n broblem i mi.

Felly pa ddull y mabwysiadwyd arno i ddatrys y broblem?

Tost. Defnyddio tost yn lle bara. 276 o eiriau’n ddiweddarach a dyna’r unig beth ro’n i isio’i ddeud rili. Bet bo chdi’n difaru darllen rŵan!

lunedì, agosto 16, 2010

Fflio mynd

Wrth fynd yn hŷn, sylweddola rhywun yn bur aml fod gwersi rhad rhieni yn bethau teilwng a defnyddiol. A gwir. Pam dwi’n dweud y ffasiwn beth? Wedi’r cyfan, o bawb sy’n casáu cyfaddef ei fod hyd yn oed unwaith wedi bod yn anghywir, fi ydi eu pennaeth styfnig, y teyrn twatllyd a.y.y.b.

Ond mae un peth a ddywed rhieni, a neiniau a theidiau, sy’n frawychus wir – “mae’r amser yn mynd yn gynt wrth i chdi fynd yn hŷn!”

Dim ond ar ôl gadael ysgol y mae hynny’n wir mewn difrif calon. Dwi wedi gadael ysgol ers saith mlynedd rŵan, â’m bywyd sy’n llawer llai llwyddiannus nag yr hoffai Mam iddo fo fod. Roedd hi isio i mi fod yn gyfreithiwr neu’n ddarlithydd neu’n rhywbeth efo statws (‘sneb yn licio cyfieithwyr wedi’r cyfan). Tai’m i boeni am hynny, glanhawraig ydi hi ffor ffyc sêcs. Ond mae’n wir bod yr amser yn fflio heibio.

Fedra i ddim credu ei bod hi’n Awst 2010. I’r fath raddau ei bod yn ymylu ar fod yn frawychus. A dyna’r oll dwisho ddeud.

venerdì, agosto 13, 2010

Croeswisgwragedd

Chewch chi ddim cyfaddefiad enfawr yma, dydi’r Hogyn o Rachub ddim yn groeswisgwr. Wrth gwrs, mae sgertiau yn gyfforddus iawn. Dewch ‘lawn, waeth i chi gyfaddef hynny o leiaf, hogia. Y tro diwethaf i mi wisgo sgert ro’n i’n 21 oed ac mi graciais fy mhen-glin – a heb fawr o awydd ailadrodd y noson drychinebus honno dwi ‘di cadw draw o’r pethau ers hynny. Ond nid peth i ddyn (sobor o leiaf) mo sgert a dyna ddiwadd arni.

Welish ddyn yn gwisgo sgert ddoe. Mi gesh fraw. Y mae’r hen groeswisgwyr yn bobl dwi’n eu ffendio’n ddigon rhyfedd a dweud y gwir, ac er gwaethaf gorwelion eang ryfeddol fy mywyd dwi methu cael fy mhen rownd trani (a dwi ddim yn golygu hynny mewn ffordd lythrennol) a dwi’n eu ffendio nhw’n bethau digon annaturiol a rhyfedd ar y cyfan, fel saws siocled efo cig carw (gwir o beth ydi hyn, mi welish i o ar Masterchef unwaith. W, braw.). Ond nid blogiad anoddefgar mo hwn, er i’r rhai mwy sensitif a phathetig yn eich plith mi fydd eisoes wedi croesi’r llinell, neu groeswisgo’r llinell, ho ho!

Hyn o feddwl sy gen i, a all dynas fod yn groeswisgwr? Oes, mae merched sy’n edrych fel dynion yn y byd ‘ma, onid yw pawb ohonom wedi gweld rhywun a ddim gallu gweithio allan pa ryw ydyw? O bell, fel arfer, ond weithiau dydi’r pellter fawr o help wrth helpu rhywun i wneud ei feddwl. Ond croeswisgwraig, wn i ddim a oes y ffasiwn beth i’w gael.

martedì, agosto 10, 2010

Arweinydd nesaf Plaid Cymru - fy marn i

Mae’n drist na fydd Adam Price yn y Cynulliad flwyddyn nesaf. Dwi’m yn meddwl mai fi fyddai’r unig un i ryw amau hynny ers ychydig. Ond mae’n broblem fawr o ran hynny ydi pwy fyddai arweinydd nesaf Plaid Cymru (fel y blogiodd Guto Dafydd amdano’n ddiweddar). Waeth beth ddywediff neb, mae’n annhebygol iawn y bydd Ieuan Wyn Jones dal yn arweinydd erbyn 2015 (neu’r tu hwnt) ac Adam Price oedd yr olynydd naturiol. Er i IWJ greu argraff dda arna i yn ystod ymgyrch 2007, ers hynny mae o wedi mynd nôl i’r mowld ‘cyfreithiwr cefn gwlad da’, chwedl Price, ac er bod i hynny rinweddau, nid un ohonynt yw fel gwladweinydd nac arweinydd plaid.

Nid fy mod innau’n 100% yn siŵr o bleidleisio dros y Blaid yn 2011 fy hun – ymhell ohoni i fod yn onast, os mai diben y bleidlais honno fyddai cadw Llafur mewn grym am bedair mlynedd arall. Ta waeth.

Felly, mae hi’n 2013 arnom ac Ieuan Wyn yn camu i’r ymylon. Yn bersonol wela i mohono’n gwneud ynghynt. Yn wahanol i rai, mae’n anodd gen i weld y Blaid yn colli seddau, er o bosibl dir, yn 2011 – yn wir, mae’r etholaethau, mi gredaf, i gyd yn ddigon ddiogel o ran nad oes pryderon mawr gen i, er bod ambell un yn gwneud i mi deimlo’n bur anesmwyth. Edrychwn ar yr etholaethau am arweinydd nesaf y Blaid – does un ar y rhestrau eto.

Ddaw’r arweinydd nesaf ddim o’r Gogledd. Mae Gareth Jones a, diolch i Dduw ac Allah a phawb arall, Dafydd Êl, yn rhy hen. Gadawa hynny Alun Ffred, gweinidog gweddol ond arweinydd plaid? Na. Os rhywbeth, byddai’n ffitio i’r mowld IWJ o arweinyddiaeth, ac mae’n annhebygol yn fy marn i y byddai am gael go ar y joban.

Rhaid felly mynd i Ddyfed i chwilio am arweinydd, ac efallai hen bryd hefyd. Yn gyntaf, Rhodri Glyn. Er i Guto Dafydd ei grybwyll, rhaid i mi ei ddiystyrru. Dwi’n hoff iawn o Rhodri Glyn ers iddo ymddeol fel gweinidog, ac mae o’n codi pwyntiau dilys a phwysig o hyd (yn sicr yn ddiweddar), ond ac yntau’n fethiant fel gweinidog prin y gallai fod yn arweinydd. Gadawa hynny ddau – neu ddwy: Helen Mary ac Elin Jones.

Arferai Helen Mary greu argraff hynod arna i. Bûm yn aelod o’r Blaid y ddau dro i Ieuan Wyn gael ei ethol, a dwywaith mi bleidleisiais dros Helen Mary Jones yn hytrach nag Ieuan. Erbyn hyn, dwi ddim mor siŵr. Mae HMJ wedi dod i gynrychioli agwedd ar y Blaid na alla i mo’i stumogi, sef ceisio ei chynghreirio o hyd â’r blaid Lafur, fel petai’r ddwy blaid yn gynghreiriaid naturiol; yr elfen honno o’r Blaid sy’n obsesiynu braidd â gwerthoedd sosialaidd a hynny’n aml ar draul cenedlaetholdeb traddodiadol. Dwi dal yn licio Helen Mary, ond allwn i fyth ei chefnogi fel arweinydd mwyach, a dwi’n meddwl y gallai o bosibl fod yn niweidiol ymhlith y bleidlais graidd.

Na, o dan y fath amgylchiadau un person yn unig y galla i ei gweld yn sefyll yn y bwlch, sef Elin Jones – yn fy marn i, heb amheuaeth, gwleidydd mwyaf rhagorol Plaid Cymru yn y Cynulliad. Mae hi’n weinidog gwych, yn sefyll ei thir, yn areithiwr da (os nad gwych), yn ymarferol yn hytrach na dogmataidd, yn berfformiwr cyson yn y Cynulliad a hefyd yn genedlaetholwr mawr sydd yn fwy i’r canol na’r chwith. Dwi’n meddwl bod hyn yn bwysig – dieithrio cenedlaetholwyr y dde ydi’r peth mwyaf dwl y gall y Blaid ei wneud, ac mae hi wedi graddol wneud hynny dros y blynyddoedd diwethaf.

Ac mae ‘na rywbeth arall – mae ganddi fwy o ‘deimlad’ gwladweinyddol na’r un arall o aelodau cynulliad cyfredol Plaid Cymru, y cydbwysedd iawn o sylwedd, ymarferoldeb, egwyddorion a charisma.

Y pryder ydi sedd Ceredigion ei hun. Dylai fod yn ddiogel, o ystyried y glymblaid Lundeinig, ei henw da a’i gwaith rhagorol fel gweinidog materion gwledig mewn etholaeth cefn gwlad. Ond roedd maint buddugoliaeth y Rhyddfrydwyr eleni yn gonsyrn – mae’r newidiadau ar droed yno’n rhewi’r gwaed i fod yn onest – a phan soniais yn y proffwydoliaethau am y bleidlais wrth-genedlaetholgar, seddau fel Ceredigion roedd gen i mewn golwg. Os ydych chi’n wrth-genedlaetholwr, mi bleidleisiwch yn dactegol i atal Plaid Cymru.

Gan ddweud hynny byddwn yn disgwyl iddo gael ei dychwelyd yn haeddiannol i Fae Caerdydd.

‘Does gen i ameheuaeth y gwnâi Elin Jones arweinydd penigamp ar Blaid Cymru, yng ngwir draddodiad y Blaid hefyd. Gydag Adam Price yn swnio’n ddigon llugoer am ei uchelgais i fod yn arweinydd (er nid yn rhan o wleidyddiaeth Cymru a’r Blaid, mawr obeithiaf), fedra i’n bersonol ddim gweld neb arall a allai camu i’r adwy lawn cystal ag Elin Jones.

Ond dwi'n crafu pen am un peth - pam bod y ddadl yma wedi dod i'r wyneb? A phan dwi'n dweud 'pam' dwi ddim yn golygu 'pam ddiawl' ond yn hytrach 'tybed'...

lunedì, agosto 09, 2010

Y Shit Ysmwddiwr

Gyda thri golch yn amryw gorneli’r tŷ acw, nid oedd modd rhoi’r stops ar y smwddio mwyach. Pan fydda i’n tyfu i fyny a chael gwraig fach ddel un o’r meini prawf bydd ei gallu i smwddio. Rŵan, peidiwch â’m camddallt gyfeillion, dydw i ddim yn secsist yn y lleiaf – mae merched yn un grŵp prin eithriadol o bobl nad oes gen i ddadl â fo, i’r fath raddau mae’r unig grŵp dwi’n ei hoffi’n fwy ydi Fi. Yn wir, y prif reswm nad Pabydd mohonof ydi’r agwedd y meddir arni gan yr eglwys honno at ordeinio merched. Felly pam bod angen i’r ddarpar wraig annhebyg smwddio?

Wel, nid mater o ddim yn licio smwddio ydi o. Mae meddwl am smwddio yn lot gwaeth na’r weithred ei hun – ychydig fel cael secs efo hangover. O gael i mewn i swing y peth (sef y smwddio, nid secsflog mo hwn) mae rhywun yn ddigon bodlon, gan wylio’r teledu ar yr un pryd, neu wrando ar gryno-ddisg neu’r radio, neu hyd yn oed hel meddyliau. Mae gen i ddigon o’r rheini ond tai’m i’ch dychryn ddechrau’r wythnos.

Y broblem fawr ydi fy mod i’n, sut y galla i ddweud yn gelfyddyd ... smwddiwr shit. Fi ydi Arch-smwddiwr Shit y cread crwn â’m prif ddiben yn ôl cynllun yr Arglwydd ydi anharddu dillad gan blygiadau annaturiol. Yn gyntaf mae’r smwddiwr yn ddieithriad yn gorlifo â dŵr neu nad oes digon o ddŵr yn y ffwc beth. Mae mwy o rychau i’m trowsus a’m dillad gwely na gwynab Saunders Lewis - yn wir, tasech chi’n edrych ar rai o’m crysau fe daerech fy mod i’n actiwli gwisgo Saunders Lewis.

‘Sgen i’m clem ar ddull smwddio hosan, rhaid cyfaddef. Yr unig beth alla’ i smwddio a hawlio buddugoliaeth smwddfaol ohono ydi crysau-t - ac ambell grys i fod yn onast. A dydi jîns fawr o drafferth chwaith. Mae’r jîns fflêr, sydd fel y gwyddoch yn ffetîsh llwyr gen i, yn fwy o her. Ond wedi i mi smwddio crys-t a’i blygu’n ddel ar fyr o dro ailgrychai’n llwyr.

A minnau’n 25 oed waeth i mi gyfaddef bod smwddio yn rhywbeth na feistrolaf fyth, er o ran doniau nid y mwyaf gwerthfawr ohonynt ydyw beth bynnag. Gan ddweud hynny ‘sgen i ddim dawn sy’n cymharu â smwddio. O, aflwyddiannus, sarrug fywyd ydyw.

mercoledì, agosto 04, 2010

Spartacus - bydda i'n licio nos Fawrth wchi

Mae gen i deimlad y bydda i’n siarad lot am deledu am ychydig, ond dwi am ymatal rhag dweud dim byd am S4C fel pawb arall. Yr oll alla’ i ddweud am yr holl lol ydi ‘sgen i ddim ffwc o ots bod Iona wedi mynd – roedd ei chyfnod hi’n fethiant ar y cyfan ac mae’r ffigurau gwylio’n profi hynny – a dwi’n gobeithio neith John Walter ei dilyn hi, ond neith o ddim. A ga’i ddweud hefyd wrth bawb ohonyn nhw stopio dweud wrth bawb rhoi cefnogaeth i’r sianel. Y ffordd o adennill cefnogaeth ydi rhoi rhaglenni da ymlaen. Go on, dyna her i chi, y ffycars hunanbwysig trahaus.

Ond erbyn hyn, a minnau’n chwarter canrif ac yn rhywun sydd angen ei gwsg, rhaid i mi gyfaddef pan fydd rhaglen arnodd sy’n peri i mi aros i fyny tan wedi unarddeg (deg munud wedi!) fydd yn rhaid iddi fod yn un dwisho ei gwylio o ddifrif. Wele Spartacus: Blood and Sand ar Bravo yn dod i’m hachub o wely cynnar felly. Mae’r rhaglen hon yn ffantastig: gwaed, secs, cwffio, twyll, cyffro, brâd, noethlymundod, cleddyfau (iawn dwi ‘di gorfod meddwl am lot o eiriau tebyg neu gysylltiedig achos roedd y ddau gynta ddim yn swnio’n ddigon i gyfleu pam dwi’n ei gwylio hi ond hidia befo). Os dachi’n licio gwaed, a dwi’n gwbod dwi’n deud dwi ddim ond dyna ni, fysa chi’n licio’r rhaglen hon. G’wan, Sky+ amdani. Gewch chi ei wylio fo yn lle Wedi 7.

Efo Shooting Stars ymlaen am 9.30 dwi’n fwy neu lai sorted am nos Fawrth ar y telibocs. Ond fydda i ddim yn licio Mitchell and Webb am naw o’r gloch. Nid sioe ddoniol mo honno.

Ond ta waeth, y broblem am nos Fawrth felly ydi nad ydw i’n cael noson iawn o gwsg. Wyddoch, dwi’n cael trafferth aros i fyny’n rhy hwyr yn ystod yr wythnos. Mae angen wyth awr o gwsg arna i, fwy na thebyg achos dwi’n dewach na dwi fod ac yn gyffredinol afiachus – dylia chi di ‘ngweld i ddoe ro’n i’n edrych yn echrydus er fy mod i ‘di golchi ‘ngwallt nos Lun, a fedra i ddim gwneud hyd yn oed 10 press up. Sit up i fi ydi ista fyny’n sdrêt yn y gadair wrth wylio Pobol y Cwm.

Wps, anghofiais, dwi’m yn gwylio Pobol y Cwm. Achos mae o’n shit.

martedì, agosto 03, 2010

Nid fel y bu y bu

Flwyddyn ar ôl blwyddyn mi fydda i’n dweud “dwi’m yn mynd i’r Steddfod ‘leni achos dwi fawr o Steddfotwr” a dyna dwi am ddweud eto ‘leni. Dwi byth yn mynd i Steddfod a dweud y gwir, a phrin fy mod i’n teimlo colled o wneud hynny. Hidia befo, dai’m i fwydro am y ffasiwn beth. ‘Sneb yn darllen achos maen nhw’n y Steddfod.

Mae’n torri calon rhywun bron â bod sylwi bod rhywbeth roeddech chi’n meddwl ei fod yn uffarn o beth da yn, wel, crap. Fe deimlais y profiad siomedig hwn ychydig nôl – nos Sul, dwi’n credu. Ydw, dwi’n dal i wylio fy rhaglenni ysbrydions a dirgelwch yng nghanol y paranoias ôl-alcohol ac felly y bu eto, ond mae gwylio comedi ar ôl y fath raglenni yn lleddfu eu heffaith. Yn rhannol a thros dro, os dwi dal yn effro tua thri yn bora dyna ddiwedd ar obeithio am ddydd Llun llawn llawenydd. Unig gyflawniad ddoe oedd llwyddo aros yn effro tan Dragon’s Den.

Pa raglen aeth â’m bryd felly? Red Dwarf, fel mae’n digwydd. Do’n i heb wirioneddol â gweld Red Dwarf ers blynyddoedd, felly dyma fi’n hapus braf yn ista i lawr o flaen y teli, heb hidio’r un cythraul na drychiolaeth, â’i wylio. Wel, dyna siom.

Pan o’n i’n ifancach, tenau fy ngên a gwiw fy nhraed, arferwn wylio Red Dwarf o hyd a meddwl bod o’n ffantastig. Ond hyd yn oed ar ôl ceisio fedrwn i fawr godi gwên heb sôn am chwarddiad o’i wylio. A dyma fi’n dod i’r casgliad ei fod o jyst ddim gystal ag o’n i’n ei gofio. Siom. Siom arw.

Ar nodyn hollol wahanol dani’n (wel, fi ac Aaron cariad y Dwd – a pha bwy bynnag arall amwni, dewch chwithau os hoffech) mynd ghost hunting yn fuan gobeithio. Os dwi gormod o bwff i wylio’r fath raglenni ar Sky Anytime yn ganol dydd mae rhywun yn meddwl mai’r prif offer fydd ei angen arnaf pan ddaw’r digwyddiad fydd o leiaf dri phâr o drôns. Argoel, mae ofn ysbrydions arna’ i.

venerdì, luglio 30, 2010

Crynodeb byr o'r hyn a fu

Felly, a hithau’n ddechreuad newydd, efo gwedd newydd ac nid eithriadol ddeniadol i’r blog, fe fyddech yn disgwyl newid yn y cynnwys bid siŵr? Haha, na, rydych chi’n f’adnabod yn rhy dda erbyn hyn. Sut fues i’n diddori fy hun dros anialaf ddeufis y blogsffêr Cymraeg?

Cwpan y Byd oedd y prif beth, fel y gallwch ddisgwyl. Roedd cael Ffrainc a Pharagwai yn swîp y gwaith yn ddigon poenus ond beth oedd waeth oedd perfformiad yr Eidal. Hen bencampwriaeth ddigon ddiflas fuodd hi yn y diwadd dwi’n meddwl, wnes i ddim mwynhau’r pêl-droed fawr ddim – ond roedd gweld y boen ar wyneb ambell Sais yn yr Old Orleans yng Nghaerdydd, a ninnau’r Cymry ar ben ein digon, ar ôl gem yr Almaen yn lafoerus lawen.

Beth arall? Wel, mi ges ddyrchafiad, credwch ai peidio, ac wedi magu blas am Jagerbombs, yr wyf yn mynnu eu hynganu yn gwbl angywir (fel ‘jalapenos’ a ‘ffajitas’ – dwi’n mynd i ddweud y pethau ‘ma fel y mynnaf a’r un ffordd arall). Mi wnes ganu carioci am y trydedd gwaith yn fy mywyd, ac ro’n i’n dda. Mi fedra’ i ganu wyddoch. Ystod leisiol wael sydd gen i, ysywaeth, a chanwr enwog ni fyddaf fyth.

Dwi hefyd yn meddwl fy mod ychydig yn dalach, gwefr os bu un erioed.

Yn wir, ymwelais â Lloegr, gelyn wlad y Cymry lle mae popeth yn ddi-eithriad yn waeth, ddwywaith o fewn wythnos. Unwaith i Fryste, pan gymerwyd awr i’w chyrraedd o Gaerdydd ac awr a hanner i ddod o hyd i’r gwesty (dinas ddryslyd os bu un erioed), ac unwaith eto wedyn i fynd i Gaerdydd o’r Gogs i osgoi’r ŵyl llosgach a wancars genedlaethol yn Llanfair-ym-Muallt. Afraid dweud, dwi dal ddim yn licio Lloegr. Roedd yr ymweliadau y cyntaf i’r wlad ers tua dwy flynedd, ac ni âf yn ôl eto ar frys. Mae unrhyw wlad sydd â phentrefi Ham a Cheddar o fewn chwinciad chwannen i’w gilydd i’w hosgoi.

Dyna grynodeb byr o’r hyn a fu, a dyma fi felly’n ailddechrau go iawn ar y blogio wythnos cyn y Steddfod. Fel un sy’n brofiadol parthed yr hyn bethau, gallwn i ddim fod wedi ailddechrau ar adeg waeth oherwydd bod y nifoeredd sy’n darllen y blog wastad ar ei isaf wythnos y Nadolig ac wythnos y Steddfod Genedlaethol. Wn i ddim a ydw i’n mentro i Flaenau Gwent ai peidio, ond, os bydda i, mi fedrwch chi fetio y bydda i’n blogio amdano!

giovedì, luglio 29, 2010

Aha!

Ddeufis nôl, y tu allan i O’Neills bach yng Nghaerdydd oedd hi, diwrnod gêm Caerdydd a Blackpool. Ro’n i wedi dal lliw haul ofnadwy ac mewn parti rhywun nad oeddwn yn ei nabod, a gwelais Hedd Gwynfor. Beth ddywedais, meddech chwi? Wel, brêc oedd ei angen arnaf o flogio, nid peth parhaol mo’r ymadawiad fyth.

Hah, doeddech chi ddim wirioneddol na fyddwn byth nôl, yr hen bethau bach diniwed? Dwi wedi cael y saib yr oedd ei hangen arnaf, a dwi’n nôl i sefyll yn y bwlch drachefn!

giovedì, maggio 20, 2010

Hwyl fawr bawb!

Dyma ni felly. Roedd hi saith mlynedd yn ôl namyn pythefnos ers i mi ddechrau blogio. Mae’n rhyfedd i mi gofio mai prif bwynt y blogiad hwnnw ar blogcity oedd dweud fy mod wedi llwyddo rhoi fy nhrowsus arnodd y ffordd anghywir. Dwi’m yn meddwl fy mod wedi gwneud hynny ers gwers y diwrnod hwnnw. Dysgish rywbeth, mae’n rhaid!

Ta waeth, yn ddiweddar mae’r awydd i flogio wedi dirwyn i ben. Felly, dyma ni’n sywddogol (er mwyn gwneud iddo swnio’n bwysig) flogiad olaf Blog yr Hogyn o Rachub; mae saith mlynedd yn hen ddigon, ac mae’n amser rhoi Wil i’w wely. Fydda i ddim yn ei ddileu achos mae’n gofnod personol o’m mywyd i dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, a gwaetha’r modd alla i ddim gaddo na fyddaf yn fy ôl ryw bryd os cwyd yr awydd!

Diolch am ddarllen dros y blynyddoedd, ond am y tro o leiaf, hwyl a fflag!

lunedì, maggio 17, 2010

Gwe-gamera

Po fwyaf dwi’n stwnshio efo’r gliniadur newydd y mwyaf dwi’n ei licio. Fel, mi gredaf, bawb yn y byd, prin y bydda i’n dysgu dim o ddarllen y llawlyfr atodedig eithr drwy wneud pethau fy hun. Gall hyn fod yn beth digon peryg. Dyn ag ŵyr faint o niwed dwi wedi’i wneud i ambell gyfrifiadur drwy wneud hyn gan osod hwn a dileu’r llall. Ta waeth, dwi fymryn yn gallach erbyn hyn, diolch byth.

Dydw i ddim yn gîc technoleg (i fod yn onast dwi’m yn licio gîcs ffwl stop – cefais drafodaeth ddiddorol efo Lowri Dwd am hyn a mynnais i y byddai’n well gen i gael fy ngalw yn sad na’n gîc, a ‘does neb erioed wedi cytuno â mi am hynny ond mi waeddwn yn groch amdano yn ôl y gofyn). Fel y dywedais o’r blaen, dydi technoleg ddim yn rhywbeth sy’n creu fawr o argraff arnaf, ac yn wahanol i bawb arall gyda’u iPhones a lol felly mae’n gas gen i’r ffaith fy mod i’n teimlo’n noeth heb ffôn lôn.

Ond ar y cyfrifiadur newydd swanc mae gwe-gamera. Na phoener, dydw i ddim yn ei ddefnyddio at ddibenion ffiaidd, a hyd yn oed petawn ni dyma’r lle i gyfaddef hynny – statws hysbysiadol ar Facebook fyddai jyst y job. A dweud y gwir, dim ond ddoe a ddeallais sut i’w ddefnyddio o gwbl. Mae’n eithaf cŵl achos mi allwch chi wneud lot o bethau efo fo, pethau babïaidd sy’n gwneud i bobl fel fi wenu megis mympwyo’r wyneb a gwneud i sêr droi o amgylch eich pen. Mae angen ei weld i’w werthfawrogi’n iawn. Welish i erioed y ffasiwn beth o’r blaen ac, afraid dweud, y bu iddo fy niddori am y peth nesaf i dri chwarter awr.

Ymunais â Skype hefyd. Yr unig berson arall dwi’n nabod sydd ar Skype ydi Jarrod, felly fy unig ‘ffrind’ Skype (sydd, yn gwbl gywilyddus, heb eto fy nghadarnhau fel ffrind) ydi Jarrod. Trasig. Pryd ddaw gweddill y byd i weld fy wyneb serchog ar sgriniau’r byd, tybed? Neu ydw i jyst yn rhy ddel i Skype?

Ydw. Dyma’r unig eglurhad synhwyrol.

venerdì, maggio 14, 2010

Chwarae yr ukulele

Mi ges freuddwyd neithiwr fy mod i’n gallu chwarae’r ukulele yn berffaith ac yn fyrfyfyr. Dyma’r peth mwya diddordeb sy wedi digwydd wythnos yma!

(Wel, i fi)

mercoledì, maggio 12, 2010

Llyfrau a'r Beano

Rhwng popeth, dwi heb wneud ryw lawer dros yr wythnosau diwethaf a hynny oherwydd anallu. Ond, yn sydyn reit, dwi’n ffendio fy hun mewn sefyllfa lle nad ydw i isio gwneud dim byd. Arferwn ar fy awr ginio grwydro Caerdydd yn ddigon bodlon fy myd, boed hynny mewn siop ddillad yn cwyno bod crysau-t yn rhy ddrud o lawer y dyddiau hyn, i siop lyfrau yn gyndyn iawn i ymestyn fy waled.

Arferwn fod wrth fy mod yn darllen. Y gosb waethaf y gallai Mam ei dyfarnu a minnau’n llai oedd bod yn rhaid i mi fynd i’m gwely ac na chawn ddarllen yno. Roeddwn yn cael y Beano bob wythnos, ac mae’n un rhan o’m plentyndod sydd wedi mynd yn angof gen i gan fwyaf ond, ew, o feddwl amdano daw’r mwynhad yn ei ôl. Wn i ddim a ydi’r Beano dal yn llwyddiannus heddiw, ond fe’r oedd ar ddechrau’r 90au pan ddarllennais i. Bob blwyddyn byddai Anti Blodwen yn prynu llyfr blynyddol y Beano a’r Dandy i mi, y caent eu darllen drwy’r flwyddyn, neu am flynyddoedd. Do’n i ddim mor hoff o’r Dandy, ond mi chwarddais i mi’n ychydig wythnosau nôl wrth feddwl pe bai gan Jamie Roberts fwstash byddai’n sbit o Desperate Dan. Ddywedon nhw fyth pam bod y boi’n desperate, chwaith.

Erbyn hyn, prin iawn y byddaf yn darllen. Ambell adnod o’m Beibl bach pan fyddaf mewn trallod, neu sgim sydyn drwy’r Bumper Book of Useless Information. Y nofel olaf i mi ei ddarllen yn llawn fwy na thebyg oedd Martha, Jac a Sianco. Dwi jyst ddim yn gwbod beth i ddarllen ddim mwy, nac yn gwybod pa fath o bethau yr hoffwn eu darllen. Efallai, a minnau’n dlawd iawn ar ôl helyntion y mis hwn a thros bythefnos o gael y cyflog nesaf, y darllennaf rywbeth y penwythnos hwn. Fedrai’m treulio fy holl amser yn gwylio recordiadau o Gimme Gimme Gimme!

martedì, maggio 11, 2010

Hela bwystfilod

Mae parciau yn llefydd diddorol. Dywedir bod ‘na bethau go amheus yn digwydd yno gyda’r nos, ond wn i ddim a ydi hynny’n wir mewn difrif, a dwi’n sicr ddim isho ffendio allan. Cânt hwytha a fynn gadw eu cyfrinachau rhwng y blodau a’r coed.

Ia, blodau a choed. Wyddwn i ddim ryw lawer amdanynt, a phrin ydyn nhw yng Nghaerdydd mewn difrif. Da ydi gwyrdd, ond mae gen i fy nghyfyngiadau. Dwi ddim yn hollol siŵr a ydw i’n ffan o goedwigoedd, mae ‘na rywbeth am goedwigoedd sy’n fy mheri i deimlo’n ofnadwy o anghysurus. Bai fi ydi hyn, debyg, am wylio pethau na ddylwn ar nosweithiau Sul yn paranoid.

Un o’m hoff raglenni ar y funud ydi The Monster Hunter, welwch chwi, sydd ar sianel Livingit (112 ar Sky) bob nos Sul am wyth. Yn ddigon ddwl, fydda i’n recordio hwnnw ac yn ei wylio ar ôl Come Dine With Me, a oedd yn erchyll yr wythnos hon pe gwyliech chi – sôn am bobl ddiflas, heblaw am y ddynes ddu dew annoying. Felly, ar ôl yfad ddydd Sadwrn ac yn ddigon paranoid y Sul, yn aml y peth olaf y gwela i ar ddydd Sul ydi The Monster Hunter.

Mae cryptozoology (cuddsŵoleg efallai ydi’r gair Cymraeg, dwi’m yn siŵr a oes gair) yn faes sydd o ddiddordeb eithriadol i mi. Buaswn wrth fy modd yn y maes go iawn pe na bawn gachgi o’r radd flaenaf. Fel arfer, dydi’r union cuddgreaduriaid (cryptoids ... ?) ddim yn fy nychryn o gwbl, ond mae pethau mwy ysbrydol fel rhifyn yr wythnos hon yn dueddol o’m rhoi ar bigau drain (neu brigau’r brain fel y bydd lot yn ei ddweud heb reswm call – dyma fydda i’n ei ddweud ar ôl ystyried).

Roedd y rhifyn am goedwigoedd ar ymylau Mynydd Fuji yn Siapan lle mae nifer annaturiol o uchel o bobl yn mynd i gyflawni hunanladdiad. Swni ddim yn awgrymu ei wylio os ydach chi’n rêl pwff fel fi, ond mae o wedi fy ngwneud i’n llai hoff fyth o goedwigoedd. Ych, dwi’n cael ias annifyr wrth feddwl am y peth. Dwi’m yn dweud, pan oeddwn fachgen ro’n i ofn awyrennau yn hedfan dros Rachub. Erbyn hyn dwi ofn ysbrydion. Rhyfedd o fyd.

venerdì, maggio 07, 2010

Dim syniad ar flog Syniadau?

Dwi’n hoff iawn o flog Syniadau ar y cyfan, ond dwi’n siomedig iawn, hyd dicter bron â bod, fod yr awdur wedi bod yn dileu sylwadau yn y pwnc hwn, ac wedi mynd mor isel â chyhuddo’r rhai a wnaeth y sylwadau cwbl ddilys yn hilgwn.

Gallwch ddarllen y post gwreiddiol, a rhai o’r sylwadau, yma.

Gwraidd y drafodaeth ydi bod gwahaniaeth yn y ffordd y mae Cymry Cymraeg a Saeson yn pleidleisio yn yr ardaloedd Cymraeg (neu Gymraeg honedig ysywaeth). Mynegwyd yn un o’r ymatebion a ddilëwyd, a oedd yn hirfaith, synhwyrol a deallus, bryder y gallai Ceredigion ac Ynys Môn fod wedi’u colli’n barhaus rŵan ar lefel San Steffan oherwydd eu bod erbyn hyn yn ildio mor gyflym i’r llanw Seisnig. Mynegais innau fy mhryder am hyn yn rhai o’r proffwydoliaethau a wnes – gan grybwyll Preseli Penfro, Aberconwy, Ceredigion a Môn fel rhai o’r rhai lle’r mae’r bleidlais genedlaetholgar yn dioddef oherwydd mewnfudo. Gellir ychwanegu hyd yn oed Ddwyfor Meirionnydd at hyn.

I bob pwrpas, dywedwyd bod bellach bleidlais wrth-genedlaethgar, ac i raddau gwrth-Gymraeg, dactegol mewn rhai o seddau Cymru. Mae’n syndod i mi y gall unrhyw un synnu ar hynny!

Mynegwyd yn y post hefyd fod nifer o bobl yng Ngheredigion, y bobl Gymraeg gynhenid, yn teimlo fel pe bai’r Saeson sydd wedi symud yno bellach yn teyrnasu yn wleidyddol hefyd. Fedra i ddallt hynny, fedra i gytuno â hynny. Dwi’n petruso, sedd wrth sedd, mai dyma fydd y duedd yn y Fro a hynny’n uniongyrchol oherwydd y mewnlifiad.

Mae llawer iawn o bobl yn y Fro, hynny sydd ohoni, o farn debyg. Gall Syniadau eu galw’n hilgwn a pheidio â gadael iddynt fynegi eu barn – sy’n annheg ac yn annifyr ar y ddau gownt – rhydd iddo wneud hynny ar ei flog. Ond dealla hyn – y bobl sy’n credu hyn yw rhai o gefnogwyr selocaf Plaid Cymru, cenedlaetholwyr o argyhoeddiad â Chymru wrth wraidd eu bod, a heb eu pleidlais hwy bydden ni’n eistedd yma heddiw yng Nghymru di-Blaid Cymru. Rhybuddiwyd eisoes am y sefyllfa hon, ers degawdau, ac ni wrandawodd neb. Erbyn hyn, mae'r sefyllfa'n dechrau gwireddu.

Rho dy ben yn y tywod a gwaedda ‘hiliaeth’ nerth dy ben, os mynni. Ond rwyt ti’n anghywir, gyfaill, ac mae cyhuddo pobl o fod yn hiliol o fynegi hynny, o fynegi’r sefyllfa fel ag y mae, yn isel iawn.

Post Mortem

Felly dyna ni. Dwi’n sobrach ond yn glwyfedig ar y diawl. Nid y fi fydd yr unig un.

Petawn i’n Llafurwr fe fyddwn yn fodlon fy myd heddiw yng Nghymru fach. Collodd Llafur bedair sedd ledled Cymru, ar flwyddyn ei chwâl mawr. Roedd y canlyniad o Flaenau Gwent yn anhygoel, a Gogledd Caerdydd hefyd yn drawiadol. Y wers? Roeddem o’r farn fod y dyddiau hynny lle cefnogai Cymru Lafur pan fo’i chefn at y wal ar ben ac y byddai pobl yn dweud ‘rydych chi ‘di gael un cyfle yn ormod’ ar ben – roedden ni’n anghywir. Megis anifail clwyfedig, brwydrodd Llafur yn ôl. Dydi Cymru heddiw fawr wahanol i Gymru ddoe o ran y ffaith bod goruchafiaeth Llafur yn parhau.

Seddau, nid pleidleisiau, sy’n bwysig. Roedd tacteg Peter Hain yn sbot on.

Fydd y Ceidwadwyr wrth eu boddau ar Faldwyn ond ar wahân i hynny dylen nhw fod yn siomedig i bob pwrpas. Mae peidio â tharo’r ffigurau dwbl yn wael – ac yn fy marn i roedd peidio ag ennill Dyffryn Clwyd yn canlyniad gwael. Yn wir, pylu wnaeth ymdrech y Ceidwadwyr yn rhai o’r seddau yr oedd yn rhaid iddynt eu cipio ac ar ôl y post mortem, bydd y blaid las ychydig yn siomedig â’r canlyniad.

Bydd y Dems Rhydd yn siomedig iawn, ond roedd y gogwyddau atynt mewn rhai llefydd yn dda. Gallwn ddweud heddiw, er enghraifft, nad yw Merthyr Tudful yn sedd Lafur ddiogel, oherwydd y Rhyddfrydwyr. Roedd colli Maldwyn yn ergyd drom, ond roedd y fuddugoliaeth yng Ngheredigion yn swmpus.

A Phlaid Cymru? Siom enfawr, a does modd ei sbinio. Roedd Arfon yn agosach na’r disgwyl. Byddai rhywun wedi disgwyl i’r Blaid wneud yn well yn Nwyfor Meirionnydd hefyd. Ond roedd gwaeth o lawer. Roedd colli pleidleisiau ar Fôn ar adeg y mae’r blaid Lafur yn hynod amhoblogaidd yn echrydus. Ond yr hyn a frifodd oedd y ffaith syml hon: yn ystadegol, dydi Ceredigion ddim hyn yn oed yn sedd darged i Blaid Cymru ar gyfer etholiad nesaf San Steffan. Darllenwch hynny eto os hoffech, fydd o ddim llai poenus! Dwi’n meddwl bod pleidlais mewnfudwyr yn sicr wedi cael dylanwad – watch out am ystadegau’r cyfrifiad nesaf yng Ngheredigion, fydd y boen o'i cholli i'r Rhyddfrydwyr yn ddim o'i gymharu â'i cholli i'r iaith.

Felly dyna ni am ychydig. Mae’r Torïaid yn dyfod, gyda chymorth y Rhyddfrydwyr dwi’n amau’n gryf. Bydd y toriadau yn llym a’r amser i ddod yn galetach nag y gallasai wedi bod. Ac er gwaethaf pob dadl a thrafodaeth, y gwir plaen yw nad ydi pobl Cymru wedi pleidleisio i amddiffyn eu hunain rhag hynny.

Cymru fach, you’ve asked for it. A dwi’m yn teimlo sori drosot fymryn.

giovedì, maggio 06, 2010

BLOG BYW: Etholiad 2010

02:31
Rhy boenus bellach. Abort. Gobeithio eich bod wedi mwynhau'r blog byw o leiaf! Dwi am eistedd yma a gorffen fy ngwin. A phwdu mwy. Nos da - a chadwn y ffydd, myn diân!
************************
02:27
Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr. Neith unrhyw beth rwan! Da iawn Johnathan Edwards.
************************
02:23
Ta ta Lembit. Dwi'n teimlo gymaint dros Heledd Fychan 'fyd, ymgeisydd gwych, gei dy gyfle eto!
************************
02:20
Ceidwadwyr wedi cipio Bro Morgannwg.
************************
02:19
Dwi'm hyd yn oes isho clwad Ceredigion ond ... dyma fo, cweir go iawn i Blaid Cymru. Bron fel etholiad y Cynulliad in reverse. Mae hwnnw'n brifo mwy na 2005. 
************************
02:13
Ras rhwng y Ceidwadwyr a Phlaid yn Aberconwy? Ddim peryg!
************************
02:03
Jessica Morden wedi dal ei gafael ar ei sedd yn Nwyrain Casnewydd. Mae'r gwin yn mynd i lawr yn dda rwan, felly sori am unrhyw gamsillafu o hyn ymlaen ... dwi'm yn gweld y pwynt mwyach!
************************
02:00
Roedd y gogwydd i Lafur ym Mlaenau Gwent tua 28%. Faint o bleidiau mewn llywodraeth sy wedi cyflawni hynny, tybed?
Dyna ddiwedd ar Lais y Bobl dybiwn i - Llafur eto wedi llwyddo chwalu'r gwrthwynebiad iddi yng Nghymru.
************************
01:56
O edrych ymlaen fymryn, os bydd Llafur yn gwneud mor dda yng Nghymru ond yn wrthblaid yn San Steffan gall yn wir sicrhau ei goruchafiaeth yng Nghymru am ychydig fwy o flynyddoedd o leiaf. Yr un hen stori.
************************
01:51
Buddugoliaeth i Lafur ym Mlaenau Gwent, ddywedoch chi? Naci, cweir i Lais y Bobl. Mae fy mhroffwydo i wedi bod yn ofnadwy eleni!
************************
01:50
Mam bach, sïon y bydd Llafur yn cadw Gogledd Caerdydd - sgersli bilîf?
************************
01:44
Canlyniad Islwyn yn ddiddorol. Mae Llafur yn cael llai na hanner y bleidlais yno yn arwyddocaol, ond mae gweld pleidlais y Rhyddfrydwyr yn disgyn yno yn rhywbeth na fyddwn wedi'i ddisgwyl.
************************
01:42
Mwyafrif Gordon Brown wedi cynyddu dwi newydd sywli. Mam bach.
************************
01:37
Ddim am flogio am ganlyniad Llanelli? Ddim ffiars! Mwyafrif Llafur wedi parhau'n gadarn iawn. Llafur yn cadw De Clwyd - ni ragwelais hynny chwaith. Dwi'm yn licio heno!
************************
01:34
Llanelli ar fin cyhoeddi - fydda i'm isho blogio am hwn! Sibrydion na fydd mwyafrif y Blaid yn Ninefwr yn wych yn llu.
************************
01:30
Llanelli yn mynd i Lafur. Gwers i ni heno; peidiwch â chodi'ch gobeithion byth efo Plaid Cymru!!
************************
01:27
Do'n i ddim yn disgwyl i Ddyffryn Clwyd aros gyda'r blaid Lafur o gwbl. Dwi wedi dweud o'r blaen bod Llafur yng Nghymru beryclaf pan mae eu cefnau yn erbyn y wal, ond mae'n nhw'n dangos hynny o ddifrif heno.
************************
01:20
Gwers i Blaid Cymru - DEWISWCH YMGEISYDD CRYF AR YNYS MÔN AM UNWAITH! Gan ddweud hynny, mae hwnnw'n ganlyniad ofnadwy i Peter Rogers hefyd!
Ond o ddifrif, mae canlyniad Ynys Môn yn ddim llai nag uffernol
************************
01:16
Si fach i'w dathlu, gallai'r blaid Lafur wneud cyn waethed â 3ydd yn Ninefwr. Ynys Môn yn datgan - dwi'm am sgwennu am hwnnw hyd yn oed!
************************
01:12
Mae'n ymddangos i mi bod y gogwydd yn Lloegr o Lafur i'r Ceidwadwyr yn gryf ond nad oes fawr o ogwydd rhwng y Torïaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol
************************
01:09
Y sôn ydi bod Plaid Cymru wedi cael noson wael (syrpreis syrpreis!) yn y Cymoedd heno, yn bennaf oherwydd yr ymchwydd yng nghefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol
************************
01:05
Dwi'n drysu neu 'di Paul Flynn newydd alw David Cameron yn 'Dewi Cameron'????
************************
01:00
Plaid Cymru wedi ennill yn Arfon - ond roedd hwnnw'n llawer agosach na'r disgwyl
************************
00:52
Mae'n debyg bod mwyafrif y Rhyddfrydwyr yng Ngheredigion wedi cynyddu o rai miloedd
************************
00:49
Newyddion mawr o Ogledd Iwerddon, yr Alliance Party wedi cipio sedd wrth y DUP - dydyn nhw byth wedi ennill etholaeth yn San Steffan o'r blaen
************************
00:46
Maldwyn yn agos. Yn bersonol, doeddwn i ddim yn disgwyl hyn. Tybed?
************************
00:40
Arfon yn eitha diogel yn ôl BlogMenai
************************
00:34
Dwi'n ffendio cysur yn y ffaith fod y 50,000ish o eiriau o broffwydoliaethau sgwennish i yn hollol void erbyn hyn - blydi typical yn de! Rheswm arall i fi ddigio ar y Democratiaid Rhyddfrydol!
************************
00:30
Mae Arfon ychydig yn fwy diogel yn ôl yr hyn dwi'n ei ddallt, ond mae'n bosibl bod y Blaid yn 4ydd yn Aberconwy
************************
00:25
"Democratiaid Rhyddfrydol i gynyddu eu mwyafrif yn sylweddol yng Ngheredigion"
************************
00:23
Newydd cael y llymaid cynta o'r gwin. MAE O'N FFYCIN AFIACH.
************************
00:21
Ieuan Wyn Jones yn siarad yn ddiplomataidd iawn ar S4C - i fi mae hynny'n awgrymu diffyg hyder. Mae'n edrych fel dyn wedi'i drechu.
************************
00:20
Do'n i wir ddim yn disgwyl i fod yma yn poeni am Arfon rhaid i mi ddweud! Mae Môn a Cheredigion wedi mynd bron yn sicr rwan. Llafur yn hyderus iawn ym Mlaenau Gwent.
************************
00:13
Gwin am gael ei agor rwan. Dwi wirioneddol yn poeni'n arw erbyn hyn.
************************
00:08
Arfon yn agos yn ôl Golwg. Byddai hynny'n drychineb.
************************
00:02
Wel, mai'n 'fory rwan! Fydd y gwin allan mewn munud, felly efo'r holl wybodaeth sy'n dod i'r amlwg fyddai methu dal i fyny efo popeth, heb sôn am y ffaith bod yr holl sibrydion sydd o gwmpas yn gwrthddweud ei gilydd bron yn ddieithriad .. dewch 'laen bobl, mae'r etholiad drosodd, rhowch wybod inni'n iawn!
************************
23:53
O ddrwg i waeth i'r Blaid. Tair sedd yn edrych yn hynod debygol, a dydi hi ddim yn hanner nos eto!
************************
23:49
John Dixon yn dweud ar S4C rwan bod pleidlais y Blaid yn cael ei gwasgu yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Penfro. Wrth gwrs, 'sdim isho meddwl am 2011 eto, a hwnnw'n gyd-destun gwbl wahanol, ond yn y fath etholaethau mae'n bwysig i Blaid Cymru wneud yn dda er mwyn cael sail gref, felly mae hynny'n fy mhryderu rhywfaint.
************************
23:45
Ceredigion ac Ynys Môn yn edrych yn gynyddol anobeithiol i Blaid Cymru. Pan ddaw'r cadarnhad o hynny, fe fydd yn fy mrifo i yn fawr iawn, ynghyd â llawer iawn eraill ohonoch dwi'n siwr *gwynab trist*
BLAENAU GWENT: Llafut yn "hynod o hyderus".
************************
23:42
Wel, mae Sunderland yn cadw'n driw iawn i Lafur o leiaf! Gogwyddau amrywiol i'r Ceidwadwyr.  
************************
23:40
Os ydach chi isio sibrydion ac ymrannu yn y dathlu a'r dagrau, dyma ffrwd trydar Gymraeg etholiad10
************************
23:33
Nia Griffith: agos yn Llanelli, a dydi hi ddim yn edrych yn hynod hapus, ond ymchwydd i'r Democratiaid Rhyddfrydol
************************
23:27
Fydd y gwin allan mewn ychydig - mae popeth dwi'n ei glywed a darllen yn awgrymu mai mater o drowing sorrows fydd hi heno!
************************
23:26
Ail ganlyniad a hynny o Sunderland. Hawdd iawn i Lafur eto, ond dydi hynny ddim yn syndod!
************************
23:22
Mae 'na awgrym bod gogwydd tuag at Lafur yng Nghymru a hefyd yn yr Alban - Dyffryn Clwyd fydd y canlyniad cyntaf yng Nghymru yn ôl y sôn, cawn weld yn gliriach y sefyllfa bryd hynny
************************
23:17
Sibrydion o Arfon ar Flogmenai
Ddim yn swnio'n dda ar Ynys Môn - Llafur yn hyderus yno
************************
23:10
Y niferoedd yn pleidleisio yn Llanelli yn uchel - newyddion drwg i Blaid Cymru dwi'n amau.
************************
23:02
Plaid yn hyderus yn Llanelli, ond Ceredigion ddim yn edrych yn addawol yn ôl sibrydion
************************
22:58
Sylw ar y blog: "Maldwyn yn edrych yn ddiddorol IAWN"
Watch this space!
************************
22:53
Y canlyniad cyntaf i mewn! Sedd Lafur ddiogel beth bynnag felly fydd hi ddim yn dweud llawer wrthym mi dybiaf. Mae'r Llafurwyr yn mynd yn wyllt ar ôl clywed y canlyniad! Buddugoliaeth ddiogel ar y cyfan, ond gostyngiad o 10% yn y bleidlais, gogwydd o tua 7.5% i'r Ceidwadwyr - gall y 7.5% 'na fod yn sylweddol yn genedlaethol.
CYWIRIAD: 8.4% o ogwydd. Ddim yn ganlyniad da i Lafur p'un bynnag.
************************
22:48
Canrannau'r exit poll: 37.5% Ceidwadwyr, 28% Llafur, Dems Rhydd 23%
Dwi'm yn synnu cymaint â rhai pobl, ond dwi'm yn rhagweld dim eto!
Y canlyniad cyntaf yn Sunderland i ddod yn fuan

************************
22:45
Er gwybodaeth, os ydach chi am adael sylw, ysgrifennwch o a'i gopïo a rhowch ail gynnig arni wedyn - dwi'n cael trafferth blogio hefyd. O bob noson yn y ffycin flwyddyn...
************************
22:40
Blogger yn chwarae i fyny heno am ryw reswm - ddim byd i wneud efo fi. Gallwch nawr adael sylwadau heb y word verification, cawn weld os bydd hynny'n helpu.
************************
22:30
Paddy Ashdown 'di cael stranc am yr exit poll - na, dwi'm yn eu credu nhw chwaith ond 'sdim isho gwylltio'r ffwc
************************
22:25
Blog byw WalesHome yn awgrymu yn barod bod Dyffryn Clwyd am fynd yn las
************************
22:18
Awgrymiadau lu bod y niferoedd sy'n pleidleisio mewn ardaloedd Ceidwadol yn uchel, dim syndod fanno! Tybed a ydi'r ddamcaniaeth bod nifer o bobl a ddywedodd eu bod am bleidleisio i'r Rhyddfrydwyr heb â gwneud neu wedi newid eu meddwl ar y funud olaf yn wir wedi'r cwbl?
************************
22:11
Awgrym nad ydi Aberconwy yn rhy addawol i'r Blaid ar S4C. Ddim yn syndod enfawr ysywaeth!
Dydi'r panad 'ma ddim am wneud ei hun....
************************
22:06
Panad amdani. Daw'r gwin nes ymlaen.
************************
22:00
Y pôl olaf: senedd grog amdani. Y peth mawr ydi y rhagwelir y bydd y Democratiaid Rhyddfrydol i lawr 3 sedd! Wow, ddim yn disgwyl hwnnw. Os bydd y canlyniad arfaethedig yn dod i fodolaeth fydd hi'n newyddion gwych i Blaid Cymru a'r SNP
************************
21:50
Dros 1.7 miliwn o bobl wedi nodi ar Facebook eu bod nhw wedi pleidleisio hyd yn hyn ... ddim yn etholiad rhyngweithiol, eh?
************************
21:41
Cofiwch fod 'na ambell flog byw ar y we heno sy'n canolbwyntio'n bennaf ar Gymru, megis ar wefan wych WalesHome, blog Vaughan Roderick, ac mae Guto Dafydd wrthi'n trydar (dwi ddim yn dallt atyniad trydar o gwbl ond mi fyddai'n sicr yn dilyn heno!) dwi'n credu. A siwr o fod mae mwy - rhowch wybod i mi os oes, bydda i'n dilyn pawb yn selog!

Rhifyn etholiadol o Come Dine With Me ar Channel 4 ar y funud. Dwi'n siwr bod Edwina Currie wedi bod arni o'r blaen. Do'n i'm yn licio'i y tro hwnnw ac mae'n siwr na fyddai'n ei licio hi eto heno 'ma.
************************
21:29
Newydd sylwi, record o blog hwn o ran nifer uchaf yr ymwelwyr mewn diwrnod oedd 193 (sy ddim lot, dwi lot mwy poblogaidd erbyn hyn, diolch fwy neu lai am fod ar blogroll Blogmenai!), sef 4 Mai 2007 yn ystod etholiadau'r Cynulliad. 118 o ymwelwyr yn barod heddiw ... go on, newch fy niwrnod, heidiwch yma'n llu!
************************
21:15
Helo 'na bawb! Llai nag awr i fynd bellach nes bydd y blychau pleidleisio'n cau yn derfynol. Dwi, fel y rhan fwyaf ohonoch, jyst ddim yn gwybod beth fydd yn digwydd yn ystod yr oriau nesaf. Bydd Llafurwyr yn ofni cweir, bydd Ceidwadwyr yn ofni siom, a nyni genedlaetholwyr yn pryderu'n arw iawn, iawn. Ni sydd waethaf am bryderu dwi'n meddwl! Mi dybiaf mai'r unig bobl fydd yn ddigon bodlon eu byd ar hyn o bryd ydi'r Rhyddfrydwyr - hyd yn oed pe na bai'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gwireddu'r heip, y gred gyffredin ydi y byddan nhw'n cryfhau eu sefyllfa.

Fel pob etholiad, dwi'n ofni'r gwaethaf erbyn hyn, ac wedi hen ymbaratoi i ymateb yn herfeiddiol os nad aiff popeth fy ffordd, ond hefyd orfoleddu os gwireddir yr annisgwyl. Yn nwfn fy mod, adennill Ceredigion ydi'r peth pwysicaf heno (er dial cymaint â dim, dwi'n cofio'n iawn y boen yn Theiseger Street bum mlynedd nôl); nod, ysywaeth, nad ydw i o'r farn y'i cyflawnir, ac o'i fethu fe fydd yn brifo'n arw drachefn.

Cofiwch gyfrannu at y blog yn ystod y nos, fydd angen mwy na the a gwin arnaf i gadw'n effro yn oriau mân y bore.

I'r gad!

Y Broffwydoliaeth Derfynol

Dyma hi:


Ar ôl ystyried yn ddwys dyma sut dwi'n ei gweld hi erbyn yr adeg hon bora 'fory. Mae wedi bod yn anodd iawn newid lliw ambell sedd, credwch chi fi! Ta waeth, welwn i chi yn nes ymlaen am y blog byw, gobeithio, a chofiwch os oes gennych chi straeon i'w rhannu mae croeso i chi adael sylw - rhaid i mi gael rhywbeth i'w wneud cyn 10!

Ar wahân i'r uchod, dwi am barhau â'r hyn a grybwyllais yn gyntaf chwe mis yn ôl mai senedd grog fydd hi. Yn y pen draw dwi'n amau mai clymblaid Ceidwadol-Rhyddfrydol a gawn, ac na fydd diwygio'r system bleidleisio yn rhan o'r cytundeb hwnnw, ond cawn weld. Yn ddelfrydol hoffwn i Lafur ennill digon o seddau i gydweithio â Phlaid Cymru a'r SNP, ond mi wn nad dyna fydd hi, ac mai perfformiad cryf gan y Ceidwadwyr yw gobaith gorau'r cenedlaetholwyr.

Dwi hefyd am fentro dweud y caiff Llafur fwy o bleidleisiau na'r Democratiaid Rhyddfrydol ledled Prydain o hyd, ac yng Nghymru y bydd pleidlais y Blaid a'r Dems Rhydd yn ddigon tebyg i'r hyn yr oedd y tro diwethaf (sef +/- 3%).

Awê ... dwi'm yn cofio teimlo mor argoelus ynghylch etholiad erioed.

mercoledì, maggio 05, 2010

Swancflogio'r etholiad

Mae’r blogio wedi bod yn ddistaw ers ychydig ddyddiau. Yn rhannol, mae hyn yn ymwneud á’r ffaith fy mod wedi cael gliniadur newydd swanc. Swanc ydi’r gair priodol, hefyd, mi wariais gannoedd arno – feddyliais wrth fy hun ‘os ydw i am gael llapllop newydd mi gaf un da’. Dydi hynny ddim yn ffordd arferol gen i o feddwl o gwbl, fel arfer mae’n well gen i’r fersiwn rhad o rywbeth er mwyn arbed arian e.e. teiars fy nghar – a gellid dadlau’n llwyddiannus y byddai’n well gwario ar deiars da na gliniadur campus, yn enwedig gan fy mod yn gyrru nôl lawr i Gaerdydd heddiw!


Yr ail reswm dros y diffyg blogio ydi, teg dweud, y bydda i’n all blogged out erbyn bora ddydd Gwener. Alla i ddim aros tan yr etholiad erbyn hyn. Byddwch chwi anoracs ac amryw gefnogwyr, ac ambell un arall hefyd, yn teimlo’r un fath bid siŵr.

Yr etholiad cyntaf i mi ei gofio’n iawn oedd 1999 – a dyna gyflwyniad i wleidyddiaeth! Yn ystod y dydd, os dwi’n cofio’n iawn, a minnau’n llanc 14 oed dymunol, gyhoeddwyd y canlyniadau i etholiadau cyntaf y Cynulliad. Erbyn hynny roeddwn eisoes yn genedlaetholwr rhonc ac roedd gwrando ar rai o’r canlyniadau ar y ffordd i dŷ Nain wedi gwneud i mi feddwl fy mod wedi dewis yr ochr gywir! Roedd siom 2003, felly, yn erchyll. Arhosais i fyny drwy’r nos i wylio’r canlyniadau a hefyd llwyddo cyrraedd y wers Ffrangeg drannoeth. Ni throdd yr athrawes i fyny – merch Gareth Jones â’m dysgodd a dwi ddim yn meddwl bod ganddi fawr eisiau fy ngweld ar ôl y noson gynt!

Yn 2005 gwyliais y canlyniadau yn nhŷ’r merched yn Theiseger Street, a oedd y siom chwerwaf i mi ei theimlo mewn gwleidyddiaeth. Ar ôl helynt 2003 roedd yn teimlo braidd bod y byd ar ben. Gall Pleidwyr bob amser ddweud eu bod yn casáu’r Rhyddfrydwyr, fel y gwnânt, oherwydd eu bod yn blaid dim byd ond gwyddom oll mai asgwrn y gynnen ydi colli Ceredigion y flwyddyn honno.

Arhosais i fyny drwy’r nos yn 2007 a minnau’n gorfod gweithio’r diwrnod wedyn. Wna i mo’r ffasiwn gamgymeriad eto, dwi ar wyliau ddydd Gwener ac yn bwriadu aros i fyny tan yr oriau mân fel y gweddill ohonoch.

Yfory ceisiaf ddod i gasgliad gyda phroffwydoliaeth derfynol – wedi’r cyfan dwi wedi cael mis o ddarllen a sibrydion a gwrando i geisio ffurfio barn ar y cyfan, sy’n fy ngwneud y ffŵl meddai rhai! Dwi’n edrych ymlaen at fory, dwi’n nerfus ac yn herfeiddiol fy mryd – i’r gad!

domenica, maggio 02, 2010

Y gân dristaf

Helo - dwi'n mynd i feddwi'n shitws yn Pesda toc. O'n i jyst yn meddwl y gân dristaf yn hanas y byd ydi 'Rhen Shep ac am i rywun wbod be ro'n i'n ei feddwl.

venerdì, aprile 30, 2010

Argraffiadau o drafodaeth neithiwr

O weld bod y blog wedi unwaith eto llwyddo denu ei nifer uchaf o ymwelwyr erioed y mis hwn, mae gen i hawl i fod yn smyg a hynny wnaf. Anodd felly dychmygu pa mor smyg y byddwn petawn yn ennill dadl wleidyddol.

Wn i ddim a wnaethoch wylio neithiwr, na’r ddwy drafodaeth flaenorol. Er fy mod i’n gîc gwleidyddol, wnes i ddim ffendio’r un yn ddiddorol na meddwl bod yr un yn berthnasol i Gymru. Fel cenedlaetholwr, ni fyddwn beth bynnag, ond dwi’n meddwl y byddai llawer o bobl wedi sylwi ar y ffordd yr anwybyddid Cymru dros y tair dadl. Mae gan unrhyw un sy’n deall gronyn o wleidyddiaeth Cymru ddiddordeb yn y materion sy’n bwysig ac yn unigryw i Gymru, wedi’r cyfan.

Gadewch i mi gynnig ambell sylw ar neithiwr. Mi ddechreua’ i efo Brown. Rŵan, i mi, o ran sylwedd, fe enillodd Brown neithiwr. O wrando yn hytrach na gwylio, ei neges ef oedd orau gen i – ond lleiafrif ydw i. Mae pobl wedi syrffedu ar Brown a dydyn nhw ddim yn ei hoffi. Mae’n biti bod gwleidyddiaeth bersonoliaeth yn rhan annatod o wleidydda modern, ond ysywaeth dyna’r sefyllfa. Fel unrhyw un, dwi’n hoffi gwleidyddion tanllyd, lliwgar, ond sylwedd sy’n bwysig i mi – nid a bleidleisiwn i neb ar sail personoliaeth.

Er hynny, mi wanychodd Brown yn sylweddol yn ystod yr hanner awr olaf – trodd yn or-negyddol, yn ailadroddus, ac roedd ei araith olaf yn wan (heb sôn am y wên echrydus ar y diwedd!).

Beth am Cameron? Fo, yn ôl y polau annibynadwy, enillodd. Fyddai Cameron byth wedi ennill gen i yn bersonol; yn bersonol, mae fy naliadau gwleidyddol ar yr economi yn agosach at y blaid Gomiwnyddol na neb arall. Ond neithiwr roedd ei berfformiad cryfaf oherwydd fe wnaeth yr hyn y dylai ef, a Brown, fod wedi’i wneud pan ddechreuai ddod yn amlwg yn y ddadl gyntaf fod gan Clegg fomentwm: ymosod ar y Democratiaid Rhyddfrydol. Mi lwyddodd, mi gredaf – a gwnaeth Brown gamgymeriad tactegol drwy ganolbwyntio gormod ar y Ceidwadwyr.

P’un bynnag, does dwywaith amdani rŵan, mae gan David Cameron y momentwm. Fydd hi ddim yn ddigon iddo ennill mwyafrif, yn fy marn i, ond ar y cam hwn o’r ymgyrch mae momentwm yn hollbwysig.

I mi, o ran sylwedd, Clegg oedd wannaf neithiwr. Petai wedi bod dan y fath graffu yn y ddwy drafodaeth gynt fyddai’r syrj honedig heb fodoli. Ond nid polisi oedd gwendid mawr Clegg – fe weithiodd, yn frawychus o effeithiol, yr act ‘boi iawn’ yn y ddadl gyntaf, a hefyd yr ail, ond erbyn neithiwr roedd yn hynod hen, ac i mi’n bersonol yn gythruddgar. Efallai neithiwr y torrodd y swigen, i fenthyg ymadrodd yn hyll; ddaru Clegg mo fy argyhoeddi o gwbl. Gwell gen i roi pleidlais i rywun sy’n dallt y dalltings na rhywun yr hoffwn beint efo fo.

Er eglurder, ni hoffwn beint gyda Nick Clegg.

Felly dyna fy marn bersonol am neithiwr – wn i ddim pwy sy’n cytuno neu’n anghytuno. Ond dwi’n meddwl yr hyn a gadarnhawyd neithiwr oedd mai’r Ceidwadwyr fydd y blaid fwyaf wythnos i heddiw. Dwi’m yn meddwl bod y mwyafrif o fewn eu cyrraedd, cofiwch, mae ‘na wythnos i bawb waethygu pethau eto!

martedì, aprile 27, 2010

Y darnau yn disgyn i'w lle ... efallai!

Mae’r darnau yn disgyn i’w lle yn araf bach. Nid yn unig ydw i wedi dechrau meddu ar y gallu i anwybyddu’r polau piniwn, dwi’n cael y car nôl heddiw (mi gostiff), mae’r cefn yn gwella’n dow dow diolch i ambell beth a dwi fy hun yn teimlo’n well. Does ‘na ddim llawer o bethau yn digalonni rhywun na bod mewn poen 24/7, dydi o jyst ddim yn hwyl, dyna’r gwir amdani.

Braf fyddai peint heno ‘ma yn yr haul poeth, ond gan gael y car nôl rhaid siopa bwyd er mwyn i mi bara ychydig ddiwrnodau’n ychwanegol cyn ehedeg i’r Gogledd. Bydda i yn y gogledd y rhan fwyaf o wythnos nesa’, gan ddiogi’n bennaf, ond hefyd ceisio cael argraffiadau o sut y mae pethau’n mynd yn y ras etholiadol.

Rhaid i mi gyfaddef, o ddarllen Proffwydo 2010, na wn sut y mae ambell sedd am fynd, a bod llawer o’r dadansoddiadau yn ddigon redundant erbyn hyn (mae bron yn teimlo fel wast o 50,000 a mwy o eiriau!). Y straeon yw bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn eithaf hyderus yng Ngorllewin Abertawe, bod Plaid Cymru am symud adnoddau o Aberconwy i Geredigion, y gallai Arfon fod yn agos iawn os ydi Bangor yn penderfynu pleidleisio, ac y gallai Lembit gael sioc ar y diawl. Mae rhai yn darogan trydydd iddo fo – wn i ddim awn i mor bell â hynny!

Ac mae’r syrj yn cyflwyno heriau enfawr i Lafur – ym Mhen-y-bont, y ddwy sedd yng Nghaerdydd sydd ganddi a seddau Clwyd. Yr wythnos hon, wrth ystyried y posibiliadau’n llawn, be di’r gair dŵad, dwi’n stumped. Hollol, hollol stumped.

Un peth a ddywedaf ydi hyn: dwi’n meddwl y bydd lot o bobl sy’n dweud eu bod am fwrw pleidlais i’r Lib Dems naill ai a) ddim yn boddran pleidleisio, neu b) yn newid eu meddwl yn y blwch pleidleisio. Faint o effaith gaiff hynny, wn i ddim.

Pe gofynnid i mi rŵan beth fydd yn digwydd, swni’n rhoi 5 i Blaid Cymru, 4 i’r Democratiaid Rhyddfrydol, 11 i’r Ceidwadwyr, 17 i Lafur, ac 1 i Lais y Bobl sy’n gadael dau. Fedra i ddim ar hyn o bryd alw Ceredigion: chi ar lawr gwlad yno ŵyr yn llawer gwell na fi. Y llall ydi Maldwyn, mae ‘na straeon od iawn yn dod o’r fan honno!

Ta waeth, erbyn dydd Iau nesaf mi fydda i yn galw pob un – gobeithio bydd y blogsffêr Cymraeg hefyd yn barod i wneud erbyn hynny!

lunedì, aprile 26, 2010

Lloriwyd

Cysur bach iawn yw na chaiff yr Iddewon fwyta’n nerf clunol, neu sciatic, mewn difrif calon. Dydi o ddim yn rhywbeth y disgwyliwn i neb o ba grefydd bynnag ei wneud. Dyma pam bod y blogio wedi bod yn weddol ysgafn yn ddiweddar, wrth i’r etholiad hwn gymryd sedd gefn gen innau’n bersonol ar hyn o bryd. Mae’r nerf clunol yn chwarae hafoc efo fy mywyd ers wythnos bellach, a dydi o ddim yn hwyl. Dydi o ddim yn hwyl o gwbl. A dweud y gwir yn onast ma’n ffwcin brifo.

Rhag ofn na wyddoch, mae fy nhrothwy i ar gyfer poen yn ddigon isel. Mae’r cyfuniad o fod yn, mi gredaf, un o brif gwynwyr Cymru yn ategu hyn yn y ffordd waethaf bosibl. Dywedir bod trothwy poen dynion yn gyffredinol isel ond dwi’n eithaf pathetig er gwaethaf hynny. Serch hynny, dwi wedi profi digon o boen gorfforol yn ystod fy mywyd. Mae’r blog hwn yn dyst i’r pen-glin a graciodd bron i bedair mlynedd nôl (wele gyfraniadau Haf 2006 yn ieuenctid y blog newydd – dyddiau da – heblaw i mi gracio ‘mhen glin, sbwyliodd hynny haf cyfan rhaid i rywun ddweud, er i mi eithaf fwynhau canu’n shitws ar ben y seddau yn Nhŷ Isa’ efo crytshus).

Cyn hynny, llwyddais drwy ryfedd wyrth ddatgysylltu fy ysgwydd drwy chwarae tenis. Yn anffodus mae’r hanes mor bathetig ag yr awgrymir felly wna’i mo’i ailadrodd. Datgysylltu am ei mewn, nid am ei hallan, wnaeth.

Flynyddoedd cyn hynny cefais y fraint o gael rhywbeth na wn beth ydyw yn Gymraeg ac nad ydw i am ei gyfieithu, sef twisted testicle. Bydd unrhyw ddyn neu hogyn sy’n dal i ddarllen erbyn hyn yn siŵr o wrido a do, hogia, mi frifodd hwnnw gyn waethed ag ydych chi wrthi’n dychmygu iddo frifo. Erbyn hyn dwi jyst yn ddiolchgar bod y boi bach dal yno!

A minnau’n meddwl bod yr ysgwydd, y pen-glin a’r aill yn Goron Driphlyg Poen i fechgyn, mae’n debyg gyda’r nerf clunol fy mod i’n agosáu at y gamp lawn! Gallwn wneud jôc wael amdano’n mynd ar fy nerfau ond gwn na châi ei gwerthfawrogi, felly waeth i mi orffen yn y ffordd arferol drwy ddweud er fy mod i’n cerdded fel bo gen i gorcyn fyny fy mhen ôl dwi dal yn grêt a thwll din pawb arall!

venerdì, aprile 23, 2010

Mae bywyd yn horybl

Yn gynta aeth y cefn.

Yna aeth y llapllop.

Yna, ar fin mynd i weld yr osteopath, torrod clutch y car.

Dwi’n casáu bod yn 25!

giovedì, aprile 22, 2010

Y Syrj Rhyddfrydol - cyfle i Blaid Cymru?

Fel y fi, mae’n siŵr eich bod wedi cael cryn sioc efo cynnydd y Dems Rhydd, y syrj honedig, ers y ddadl ddiwethaf. Er nad ydi polau Cymreig yn ddibynadwy ac na wn innau’n bersonol fanylion yr arolwg diwethaf, mae’n ddiddorol ystyried sut y gall effeithio ar rai o seddau Cymru, yn benodol i ni genedlaetholwyr rai o dargedau’r Blaid.

Dwi ddim am wneud unrhyw broffwydoliaethau terfynol nes yr etholiad – dwi’n mwy a llai sicr fy marn am sawl sedd. Gobeithio y caf llapllop newydd i fedru blogio’n fyw ar y noson! Ond dyma ambell feddwl cyflym am ambell sedd.

Yn gyntaf, dylai’r syrj (gair hyll mi wn!), er gwaethaf ei effaith honedig ar bleidlais Plaid Cymru, fod o fudd i Blaid Cymru mewn ambell sedd. Tra y gall y Rhyddfrydwyr fanteisio ar y gwymp arfaethedig mewn llefydd fel Caerdydd ac Abertawe, ac yn wir y Cymoedd, gan gyfyngu Plaid Cymru i golli eu hernes mewn ambell le, mae’n llai tebygol o effeithio ar dargedau’r Blaid. Heb unrhyw amheuaeth, bydd cynnydd ym mhleidlais y Democratiaid Rhyddfrydol o fudd i Blaid Cymru yn Nwyfor Meirionnydd a Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr o ran sicrhau mwyafrif iach yr olwg. Byddai hefyd yn sicrhau Arfon (ac yn ôl y sôn mae gan y Blaid bryderon am effaith pleidlais Bangor yno) ac o bosib hefyd yn gwneud Môn, lle gall ambell gannoedd wneud gwahaniaeth enfawr, yn darged mwy cyrraeddadwy.

Dwi’n tueddu i feddwl hefyd, os y parha’r syrj, y gall fod o fudd i Blaid Cymru yn Aberconwy, gan mai’r Ceidwadwyr yr ymddengys fyddai’n dioddef ohono fwyaf. Yn ogystal â hyn, gall hefyd droi Llanelli’n werdd, os ydi ambell Lafurwr yn penderfynu rhoi fôt i’r Rhyddfrydwyr (hyd yn oed petaent am roi i’r Blaid cyn y dadleuon) – yn y sedd honno, alla’ i ddim gweld y syrj yn effeithio ar Blaid Cymru yn fwy na Llafur. Hebddo ai peidio, dwi’n eithaf hyderus bellach y bydd Plaid Cymru yn cipio Llanelli eleni, ond byddai gwybodaeth leol gan rywun yn wych – rhowch wybod!

Ceredigion ydi’r un ddiddorol. Yn arwynebol, ymddengys y byddai parhau â’r syrj yn sicrhau dychwelyd Mark Williams. Ond mae llygedyn o obaith i Blaid Cymru. Y tro diwethaf, roedd y cynnydd yn y bleidlais ryddfrydol yn unol â chwymp debyg yn y bleidlais Dorïaidd. Gyda’r Dems Rhydd ar gynnydd, ar draul y blaid las, mae’n bosibl y bydd y Ceidwadwyr hynny yn troi’n ôl i geisio rhoi hwb i’w plaid naturiol.

Y tro diwethaf, hefyd, Plaid Cymru oedd y gelyn. Mae’r ffaith bod Ceredigion bellach yn diriogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn gadael iddyn nhw gyflawni’r rôl honno, ond gyda’r cynnydd honedig yn y bleidlais ryddfrydol gall eu gelyniaethu’n fwy fyth. Hynny yw, y Democratiaid Rhyddfrydol y byddai’r Ceidwadwyr a Llafurwyr isio’u hatal. Gall hynny, yn ddamcaniaethol ac yng Ngheredigion, olygu bod Ceidwadwyr a Llafurwyr yn fwy parod o fenthyg pleidlais i Blaid Cymru, ac yn sicr olygu na fyddant mor fodlon ar fenthyg pleidlais i’r Dems Rhydd fel yn 2005. Mae’n rhywbeth nas gwelwyd ac nas ystyriwyd hyd yn hyn yn unman, ond oherwydd y polau gall gael ei wireddu: pleidlais wrth-Ryddfrydol.

Tybed faint o Lafurwyr neu Dorïaid fyddai’n fodlon ar gynghreirio, i bob pwrpas, i atal y drefn wleidyddol gyfredol rhag newid ar eu traul?

Mae wrth gwrs bythefnos yn weddill cyn i ni fwrw’n pleidleisiau. Gall unrhyw beth ddigwydd. Ond ni ddylai Plaid Cymru ddigalonni gormod ar sail polau. Gall y sefyllfa fod yn debyg i 1987, pan gynyddodd y Blaid ei chynrychiolaeth ond y tu allan i’r targedau cafodd etholiad siomedig tu hwnt. Os bydd y syrj yn parhau, dydi hi ddim yn amhosibl y gallai ddisgyn i drydydd neu bedwerydd mewn sawl man y dylai fod wedi dod yn ail, ond gan gynyddu ei chynrychiolaeth i bedwar, pump, chwech neu hyd yn oed y saith hudol.

Ymgyrchwyr llawr gwlad sy’n gwybod orau, wrth gwrs, ond dyma fy namcaniaeth bersonol. Croeso i chi ei chadarnhau neu ei gwrthod – byddai gen i ddiddordeb mawr mewn clywed y naill ffordd!

mercoledì, aprile 21, 2010

Y dadleuon diweddar

Ychydig o eiriau byr i chi heddiw. Rhwng ei liniadur yn torri (kaput go iawn ‘lly) a’r apwyntiad yfory gyda’r osteopath, dydi’r Hogyn ddim yn cael cyflwyniad hwyl i fod yn 25 oed. Yn wir, edrycha popeth yn dduach ar hyn o bryd. Mae meddwl bod y Democratiaid Rhyddfrydol ar frig y polau ar ddiwrnod fy mhenblwydd yn gwneud i mi fod isio crio.

Am gynnig ambell sylw ar y dadleuon gwleidyddol diweddar a gawsom ydw i. Gadewch i mi sôn yn gyflym am un nos Lun, a welais ddoe, gyda’r ymgeiswyr ym Maldwyn. Os gwelsoch y ddadl honno byddech chi wedi dod i gasgliad amlwg, sef yn gyntaf bod y Llafurwr yn warthus. Byddai’n warth iddo beidio â dod yn bedwerydd gwael. Roedd Heledd Fychan yn dda iawn, a dwi’n credu i’r gynulleidfa gynhesu ati’n fwy na’r lleill, ond mi lwyddodd Lembit ddal ei dir ar y cyfan. Roedd Glyn Davies yn arferol ffwndrus. Dwi wastad wedi synnu ei fod yn cael ei ystyried yn unrhyw beth arall, a dweud y gwir yn onast – yn fy marn i, dydi o ddim yn cyfleu ei hun fel cymwys na chall. Petai bywyd yn deg, byddai Maldwyn yn frwydr rhwng y Blaid a’r Rhyddfrydwyr ar dystiolaeth neithiwr.

Ond beth am y dadlau rhwng yr arweinwyr? Daeth yn amlwg mai Ieuan Wyn Jones ddaeth allan ohoni orau fore Sul, i chwi ychydig brin a wyliodd. Ond beth am neithiwr?

Waeth be ddywedwch, mae Ieuan Wyn yn cyfleu ei hun fel dyn sy’n dallt be mae’n sôn amdano. Yn gyffredinol, byddai dyn yn ymddiried ynddo. Byddwn i ddim yn gosod fy hun yn y ffanclyb, ond o bawb neithiwr efe gyflëodd ei hun unwaith yn rhagor fel yr un a ddeallai orau y sefyllfa wleidyddol a’r hyn y safai ei blaid drosto, gan ddeall i’r dim ei pholisïau ac amcanion. Roedd ei araith agoriadol ychydig yn wan, ond fel dadl bore Sul, fe gryfhaodd Ieuan Wyn Jones yn sylweddol wrth i’r ddadl fynd rhagddi.

Dydi Ieuan Wyn Jones ddim ychwaith yn mynd am soundbites ar y cyfan. I fi, mae hynny’n apelio, ond mae pobl yn gyffredinol yn hoff ohonynt, ac maen nhw’n rhan o’r gêm wleidyddol. Does gen i ddim amheuaeth chwaith, o weld y ddwy ddadl gafwyd hyd yn hyn, y gallai Ieuan Wyn Jones sefyll ar ei draed yn erbyn arweinwyr y tair prif blaid ar lefel Brydeinig a dal ei dir yn ddidrafferth.

Beth am Kirsty? Ceisiodd, dwi’n meddwl, efelychu ei harweinydd yn ystod y ddadl Brydeinig yn ei hagwedd a’r ffordd y siaradai. Weithiau cafodd y gorau ohoni, ond er enghraifft yn y ddadl am ofal i filwyr daeth ohoni waethaf yn erbyn Ieuan Wyn Jones, a lwyddodd ei diystyrru’n effeithiol. Y broblem fawr i mi ydi bod Kirsty Williams yn dod drosodd yn or-ymosodol: i fod yn onast, fel ‘chydig o ast. A dwi ddim yn licio’i dull o areithio – mae’n ffug. Mae ganddi ei chryfderau, a neithiwr hi gafodd y ganmoliaeth fwyaf gan y gynulleidfa gydag ambell linell a ddewiswyd yn ofalus. Da iawn hi am wn i, ond dwi’m yn ei licio, waeth beth fo ‘marn ar ei phlaid, a synnwn i petai fawr neb wedi cynhesu ati, er iddynt gytuno llawer â hi.

Y ddau ddaeth allan ohoni’n ofnadwy oedd Peter Hain a Cheryl Gillan. Roedd tactegau Peter Hain yn boenus o anghywir – mynd ar ôl y Ceidwadwyr yn ddi-baid. Ni ddysgiff mai dyna’r dacteg anghywir nes bod Mai 7fed arnom, mi dybiaf. Y gŵr oren (llawer mwy oren na bore Sul) oedd yn hawdd y gwaethaf. Pan ofynnwyd iddo beth yr oedd Llafur wedi’i gyflawni dros y tair mlynedd ar ddeg diwethaf, llwyddodd enwi tri pheth. Wel, dydi un peth da bob 4.33 o flynyddoedd ddim yn ddrwg yn ôl safonau San Steffan!

O ran Cheryl Gillan, roedd ganddi fwy i’w brofi na neb ar ôl ei ffwndro ar fore Sul. Iawn wnaeth hi ar y cyfan, ond fe’i llusgwyd i mewn i gecru â Peter Hain a manteisiodd Ieuan Wyn a Kirsty ar hynny’n llawn. Ni chafodd gyfle i ymosod ar y Blaid na’r Rhyddfrydwyr, sy’n rhaid i’r Ceidwadwyr ei wneud yng Nghymru.

Mae’n hynod drist na chaiff y dadleuon hynny fawr o effaith oherwydd prin, mi dybiaf, oedd y rhai a’u gwyliodd. Yn seiliedig ar y ddwy drafodaeth gafwyd hyd yn hyn, rhaid dweud mai Ieuan Wyn Jones a Kirsty Williams sydd ar y blaen, gan gadael y ddau arall yn drydydd a phedwerydd gwael. Nid dyna fydd yr achos yng Nghymru pan ddaw ati, dwi’m yn credu, a phiti garw am hynny.

lunedì, aprile 19, 2010

Typical #2

Felly ar ddiwrnod ei benblwydd yn bump ar hugain mi ffoniodd Nain i roi cyfarchion:

"Mae bywyd yn gorffan wedi twenti wan sti - 'sgen ti'm byd i edrych ymlaen ato rwan"

Gall Nain fod yn ffycar bach pan mae hi isio, de.

Typical

O minnau bellach yn chwarter canrif mae 'nghefn yn teimlo'n waeth nag y gwnaeth erioed ac mae Dems Rhydd ar y brig yn y polau Prydeinig. Am erchyll ddiwrnod yn wir.

venerdì, aprile 16, 2010

Puro cyn y penwythnos

Os ydych chi’n anorac gwleidyddol fel fi ac yn meddu ar ddaliadau gwleidyddol cryf sy’n rhan annatod ohonoch, mae lot o bethau yn eich gwylltio hyd corddi ryw gasineb oddi mewn ynoch sy’n frawychus chwerw. Gan fy mod i’n benderfynol o gael penwythnos gwerth chweil a llawn hwyl dwi am chwydu fy mustl gwleidyddol heddiw.

Dyma, mi gredaf, y pum peth sy’n gwneud i mi wylltio yn fwy na dim byd arall pan fydda i’n clywed pobl yn eu dweud, hyd nes y bydda i’n troi yn erbyn rhywun ar amrant:

1) Fyddai Cymru’n methu â bod yn wlad annibynnol
2) Dwi’n pleidleisio dros y Democratiaid Rhyddfrydol
3) Dydi crefydd ddim yn berthnasol mewn cymdeithas fodern
4) Ni ddylid codi trethi ar y cyfoethog yn fwy na neb arall
5) Mae’r cysyniad o ‘Gymru i’r Cymry’ yn gysyniad anghywir

A dyna ni; ga’i fwynhau’r penwythnos rŵan, gobeithio!

martedì, aprile 13, 2010

Pleidlais bersonol

Mae treulio eich amser rhwng dwy etholaeth (a dwi ddim yn golygu cysgu mewn un a meddwi yn y llall) yn beth handi oherwydd, i bob pwrpas, gallwch ddewis ym mha un bynnag rydych chi am bleidleisio. Dyn ag ŵyr, efallai y caiff fy nghais i bleidleisio yn Arfon ei wrthod, caf weld, dwi ddim yn dallt sut y mae’r pethau hyn yn gweithio ac yn cael eu penderfynu i bob pwrpas.

Mae Grangetown, a oedd yn hollt deirffordd rhwng Plaid Cymru, Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn etholiadau’r Cynulliad yn 2007 a hefyd yn yr etholiadau cyngor yn 2008, er i’r Democratiaid Rhyddfrydol ennill bob sedd y flwyddyn honno, yn etholaeth De Caerdydd a Phenarth. Felly oni phleidleisiwn yn Arfon, mi a bleidleisiwn yn Ne Caerdydd a Phenarth.

Problem fyddai hynny o’m safbwynt i. Fel y gwyddoch, mae gen i ‘dueddiadau’ Plaid Cymru, ond dydi hynny ddim yn fy ngwneud i’n Bleidiwr – dwi jyst yn disgrifio’n hun fel cenedlaetholwr sy’n benthyg fôt i’r Blaid pan mae hi’n ei haeddu. Ond fel cenedlaetholwr heb deyrngarwch penodol at unrhyw blaid mae gen i fy rhagofynion fy hun wrth ddewis ymgeisydd i fwrw pleidlais drosto – un o’r prif ragofynion ydi bod yr ymgeisydd yn medru Cymraeg.

Fel Cymro Cymraeg, dwi isio i’m cynrychiolwyr fedru siarad Cymraeg. Ac mae hynny’n bwysig iawn i mi.

Y broblem ydi nad ydi ymgeisydd Plaid Cymru, y blaid y byddwn fel rheol yn ei dewis, hyd y gwn, yn siarad Cymraeg – a dwi wedi mynegi eisoes fy amheuon ynghylch cenedlaetholdeb honedig y Blaid yng Nghaerdydd – hynny ydi, dydi hi ddim yn genedlaetholgar iawn. Felly mae gen i wrthdaro rhwng fy egwyddorion sylfaenol a’m dewis pleidiol. Y gwir ydi, ac eithrio’r etholiadau cyngor (y mae eu pwysigrwydd yn pylu o’u cymharu ag etholiadau Prydeinig), fod gen i gur pen mawr wrth ddewis pwy i bleidleisio drosto.

Gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol a’r Gwyrddion ill dwy’n bleidiau uffernol o Seisnigaidd, a’r cyntaf yn sefyll dros ddim byd, maen nhw allan o’r cwestiwn. Ac fel plaid sy’n gwrthwynebu Cynulliad Cymru, does modd i UKIP gael fy mhleidlais chwaith. Dydi’r un ohonyn nhw’n siarad Cymraeg chwaith.

Yr AS lleol ydi Alun Michael, a ‘sdim peryg i mi roi fôt i’r ffwc gwirion. Câi Llafur mo ‘mhleidlais i fyth.

Dydi’r Ceidwadwr ddim yn siarad Cymraeg, ond nid dyna’r prif reswm na fyddwn yn pleidleisio drostynt. O ran daliadau cymdeithasol, dwi’n tueddu i raddau helaeth at y dde, er mai’n siŵr yn y canol y byddwn yn gyffredinol, ond yn economaidd dwi’n bell iawn, iawn i’r chwith. Dydi’r Ceidwadwyr ddim yn rhy addas i rywun felly, mi dybiaf!

Sy’n gadael un blaid ar ôl – sef y Blaid Gomiwnyddol. Mae’r ymgeisydd, ac arweinydd y blaid, yn Gymro Cymraeg. Yn wir, mi roddais bleidlais iddo yn etholiadau cyngor 2008 yn hytrach na Phlaid Cymru, er y daeth yn olaf ac eleni mae gan y blaid dim ond 6 ymgeisydd ledled Prydain. Mynegais bryd hynny, ro’n i’n licio’r hyn yr oedd y Comiwnyddion yn ei ddweud a dwi dal yn.

Felly, pe bawn yn pleidleisio yn Ne Caerdydd a Phenarth fe fyddai rhwng Plaid Cymru a’r Comiwnyddion. ‘Does ‘run am ennill, wrth gwrs, ac yn Arfon dwi’n bwriadu bwrw ‘mhleidlais. Os os mai yng Nghaerdydd y bydd, byddwn i ddim yn gwybod beth i’w wneud.

Mae etholiadau’n boen yn y pen ôl i fod yn onest.