tag:blogger.com,1999:blog-19953569.post2768171998537863494..comments2024-01-10T12:05:57.758+00:00Comments on Blog yr Hogyn o Rachub: AberconwyHogyn o Rachubhttp://www.blogger.com/profile/14216661024544140205noreply@blogger.comBlogger8125tag:blogger.com,1999:blog-19953569.post-34784019963301443032010-08-14T03:01:24.317+01:002010-08-14T03:01:24.317+01:00A fabulous gift idea that any mom & grandma li...A fabulous gift idea that any mom & grandma links of london sale would be glad to accept is a mother's ring. There are countless styles to pick from london links charms and every one permits each of a mother's children's birthstone to be placed in the ring so mom & grandma can remember her children wherever she goes.Jewelry links london bracelet that is personalized or engraved makes great jewelry gifts for mom. You can have a particular word or meaningful expression engraved inside a ring, necklace or bracelet links of london earrings to demonstrate to your mother the depths of your feelings.Stylish watches are an additional idea for great jewelry gifts for mom. Your mother sweetie bracelet needs a stylish watch to go with her favorite outfit and perhaps even a few to go with her entire wardrobe.Another example of mom's & grandma's jewelry that makes a great gift is mother's earrings.Anonymousnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-19953569.post-55580096485711411452010-03-06T10:38:27.743+00:002010-03-06T10:38:27.743+00:00Wel, mae 'na ddwy ochr i'r geiniog. Gan fo...Wel, mae 'na ddwy ochr i'r geiniog. Gan fod y polau'n agosau mae'n bosib y bydd pobl sy'n ystyried pleidleisio i UKIP yn meddwl mynd am y Ceidwadwyr - ond eto mi fydd UKIP yn niweidio'r Ceidwadwyr, nid Plaid Cymru, ac mi fydd yn agosau pethau.

Mi fydda i'n ailadolygu popeth ar ol cwblhau'r proffwydoliaethau, felly cawn weld bryd hynny, ond dwi'n amgyffred bod pethau'n agosau yn Aberconwy, UKIP ai peidio.Hogyn o Rachubhttps://www.blogger.com/profile/14216661024544140205noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-19953569.post-22156178631000487062010-03-05T18:10:56.734+00:002010-03-05T18:10:56.734+00:00Hogyn,
A ydych chi'n debygol o addasu eich pro...Hogyn,
A ydych chi'n debygol o addasu eich proffwydoliaeth parthed Aberconwy, yn sgil y newyddio fod UKIP wedi dewis ymggeisydd i sefyll?ap Nebhttps://www.blogger.com/profile/05321658283028168430noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-19953569.post-72317727199197562922009-09-27T16:08:57.500+01:002009-09-27T16:08:57.500+01:00Efallai y bydd llawer o'r Cymry Cymraeg yn cof...Efallai y bydd llawer o'r Cymry Cymraeg yn cofio mai clymbleidio a Llafur yn y Cynulliad wnaeth Plaid Cymru. Pa ddiben felly bleidleisio drostyn nhw i gael gwared ar Lafur pan mae ymgeisydd Ceidwadol cryf sy'n medru'r Gymraeg yn sefyll?!Anonymousnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-19953569.post-10349873239656441982009-09-24T21:22:44.609+01:002009-09-24T21:22:44.609+01:00Dylan, smai stalwm?
Y peth am Aberconwy dwi'n...Dylan, smai stalwm?

Y peth am Aberconwy dwi'n meddwl ydi bod y bleidlais wrth-Geidwadol yn gryf iawn - her y Blaid ydi ei chronni. Dwi ddim o'r farn y bydd hi'n gallu gwneud hynny digon, ond mae'r posibilrwydd yno a dylai ddylai anelu at wneud.

Yn anffodus, dwi ddim yn meddwl bod UKIP yn sefyll yma, ond dwi dal yn meddwl y bydd yn gymharol agos.Hogyn o Rachubhttps://www.blogger.com/profile/14216661024544140205noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-19953569.post-55592029415932321322009-09-24T18:03:21.496+01:002009-09-24T18:03:21.496+01:00O ran di-enw, er bod Guto Bebb yn ymgeisydd cryf s...O ran di-enw, er bod Guto Bebb yn ymgeisydd cryf sy'n addas iawn i sedd fel hon, dydw i ddim yn meddwl y bydd yn denu tyrrau o bleidleisiau o Blaid Cymru am ei fod yn siaradwr Cymraeg - hyd yn oed yn yr etholaeth hon dybiwn i y byddai siaradwyr Cymraeg a'r ardaloedd Cymraeg eu hiaith o hyd yn debycach o lawer pleidleisio dros y Blaid na'r Ceidwadwyr.

Er 'sdim dowt mai'r Ceidwadwyr sydd รข'r fantais.Hogyn o Rachubhttps://www.blogger.com/profile/14216661024544140205noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-19953569.post-42885168219332662522009-09-24T16:46:59.297+01:002009-09-24T16:46:59.297+01:00dadansoddiad rhagorol. Dw i'n cytuno'n llw...dadansoddiad rhagorol. Dw i'n cytuno'n llwyr mai Aberoconwy fydd etholaeth difyraf Cymru yn yr etholiad cyffredinol nesaf

ti'n gwybod lot mwy na fi am yr ardal, ond mae gen i bryderon ychwanegol eto (fel cefnogwr PC), sef bod yr etholiad am fod yn un Prydeinig ac felly mae gogwydd sylweddol Prydeinig am fod tua'r Ceidwadwyr. Yn fwy na hynny, gan mai Llafur ydi'r deilwyr presennol (er eu bod allan ohoni'n llwyr yn y ras mewn gwirionedd), tybed ar lefel Brydeinig a ydi hynny'n cyfateb i "er mwyn cael gwared ar Lafur, pleidleisiwch yn Geidwadol".

Mae Iwcip yn holl bwysig fan hyn dw i'n tybio, fel rwyt yn awgrymu. Dw i'n mawr obeithio y byddent yn cael ymgyrch lwyddiannus yma. Ti'n llygad dy le y byddai cyfanswm "Ceidwadwyr + UKIP" yn trechu Plaid Cymru yn weddol gyfforddus yma, felly waeth bod yn onest ac erfyn ar fathemateg i sichrau bod Iwcip yn cynnal momentwm yr etholiad Ewropeaidd a'n tynnu digon o bleidleisiau oddi ar Bebb. Pryd ddiawl gafodd unrnyw un fwyafrif uniongyrchol yn yr etholaeth yma wedi'r cyfan?

Er hynny, dw i'n rhagweld canlyniad digon tebyg i'r hyn rwyt ti'n ei ddarogan. Mae gan Phil Edwards lot o barch yn lleol ac mae'n foi digon hoffus, ond mae sylw'r wasg Brydeinig yn ddidrugaredd. Pob lwc iddo.Dylan Llyrnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-19953569.post-26524888385878366452009-09-24T15:46:17.992+01:002009-09-24T15:46:17.992+01:00Dw i'n cytuno mai i'r Ceidwadwyr mae'r...Dw i'n cytuno mai i'r Ceidwadwyr mae'r sedd yma'n debygol iawn o fynd. Pleidleisio ar sail enw a daliadau'r blaid fydd y rhan fwyaf o Geidwadwyr yn fy marn i, felly ni ddylai'r ffaith bod Guto'n gyn-genedlaetholwr fod yn broblem iddo. I'r gwrthwyneb, fe ddylai fod yn gryfder. Dw i'n siwr y bydd yn denu canran sylweddol o siaradwyr Cymraeg i'w gefnogi yn yr etholaeth hon a phwy a wyr - fe allai'r mwyafrif Ceidwadol fod yn bum mil neu'n uwch fyth.Anonymousnoreply@blogger.com