mercoledì, gennaio 30, 2008

Tafarn, Cwmni Da a Phengwins

Yng Nghaerdydd mae’r haul yn codi ac mae hynny yn ei hun yn gwneud i mi wenu’n wirion. Na, hoffwn i mo’r tywydd poeth, ond mae’r tywydd braf yn mynd i ddyfnion noethaf y galon. Dw i’n gwybod mai mis Ionawr ydyw, ond yn fwy na fûm o’r blaen erioed dwi’n erfyn i’r tywydd hafaidd ddyfod.

Dyna’r broblem efo Cymru. Mae’r tywydd yn gyffredinol, wel, cachlyd. Cael gwyliau i fynd dramor yr adeg hon o’r flwyddyn y dylem; mae’n od bod pobl yn mynd yn yr haf pan mae’r haul yn penderfynu dod allan.

Soniem yn ddiweddar am fynd i Fflorida am wyliau yn yr haf. Ar ôl fy mrwdfrydedd cychwynnol dw i ‘di penderfynu nad ydw isio. Un rheswm ydi nad oes ‘na ddim yn Fflorida i mi. Mae’n boeth, dw i’n casáu torheulo, a dw i’n casáu nofio, sy’n rhywbeth y mae pawb yn ei wneud.

Y gwyliau yr hoffwn fwyaf byddai amsugno rhywfaint o’r hanes lleol, mynd i gastell neu edrych lawr ar gwm egsotig newydd ffres; bwyta bwyd newydd cyffrous ac yfed yn wirion bost yn y nos. Bob nos. Yn ddieithriad. Dydi partïon wrth y pwll ddim at fy nant, ac mae’n gas gen i draethau. Dw i byth wedi dallt pam ddiawl y byddai rhywun isio mynd i’r traeth am dro a chael tywod yn eu sgidiau. Gwell angau na hynny (celwydd).

Ond penderfynol ydwyf i fynd ar wyliau eleni, a chymryd wythnos gyfan i ffwrdd o’r gwaith. Ond i le a chyda phwy ni wn. Y broblem efo pawb ohonom ni ydi ein bod ni’n iawn i fynd ar sesh, neu sesiwn dramor deirnos, gyda’n gilydd, ond pe deuai at wyliau llawn y gwir ydi y byddai pawb isio gwneud pethau gwahanol a mynd i lefydd gwahanol.


Bodlon y byddwn ar Ynys Enlli am wythnos pe bai yno dafarn, cwmni da a phengwins.

martedì, gennaio 29, 2008

Yr Artaith Flynyddol

Mae’r diwrnod yn dyfod. Dw i’n cyffroi yn araf bach ond yn sicr iawn. Mae pob gronyn o amheuaeth a thywyllwch yn troi’n gobaith llachar a ffydd gadarn.

Ac wedyn mi fydd Lloegr yn ein curo ni ac mi fydda i’n cael noson flin.

Ond wir-yr, cyn i Gymru chwarae gêm o rygbi mae ‘na don o obaith anesboniadwy o gamarweiniol yn dyfod drosof, a’r rhan fwyaf o’r genedl. Ond serch hyn, mae gêm rygbi Cymru v Lloegr, ym mha le bynnag y bo, yn cymharu gyda’r Nadolig, dy ben-blwydd a pha ddigwyddiad bynnag arall sy’n mynd â dy fryd personol, fel un o’r diwrnodau hynny yn y flwyddyn rwyt ti’n ei ofni gan serchu amdano.

Dw i’n gwybod y drefn. Mi fyddaf fel cnonyn am weddill yr wythnos. Nos Wener a bore Sadwrn byddant maith. Bydd y nerfau yn effeithio ar y cyhyrau a’r meddwl ac mi ddaw unrhyw obaith i ben mor gyflym ac y daeth. Bydd y gêm ei hun yn artaith felys nas cilir nes y chwiban olaf. A dyn ag ŵyr beth fydd wedi digwydd erbyn hynny, ond gan ein bod ni’n mynd i Twickenham y tebygolrwydd ydi, waeth bynnag yr hyn y mae’r Western Mule yn ei adrodd, y byddaf yn cael fy siomi.


Ond fel y mae, dw i’n frwd, dw i’n barod, dw i’n serchog ddisgwyl, a dw i methu disgwyl!

venerdì, gennaio 25, 2008

Hiraethu am y Wlad Drachefn

Diwedd yr wythnos. A ninnau’n dyheu amdano onid agosáu at ein tranc ydym?

Ffwcia hynny. Ond mae gwaith yn crap fel rheol. Ni fedraf ond teimlo yr hoffwn yn fy ngwaith weithio ar gae yn yr elfennau, gyda gwynt a môr a gwyrdd o’m cwmpas. Mae ‘na elfen yn nwfn fy enaid (ac oes, mae gen i un, er pan y’i pigwyd ar fy nghyfer roedd o’n fwy o Aldis job na Marks a Sparks) sy’n credu’n gryf nad o fewn muriau y dylai dyn fod, ond yn yr awyr agored.

Methu’r wlad ydw i ar y funud mae’n siŵr. Y broblem ydi, mae rhywle fel Pesda yn ofnadwy o hyll a digalon yn y glaw, ond phan ddaw’r haul a’r tes i’r amlwg ni cheir gwell o gwbl. Does yr unlle sy’n denu fy nghalon mwy na Dyffryn Ogwen yn yr haul. Ond wedi mynd mae’r dyddiau lle y cafwyd wythnosau i ffwrdd yn yr haf, i grwydro ac i yfed peint slei yn Ogwen Bank. Dw i’n hiraethu am y wlad yn yr haul.

Mae’r haul yn gwneud i mi gofio adref. Ac ar y funud mai’n heulog yng Nghaerdydd.

Y ddinas, ylwch chi, ydi’r ddinas. Mae’n grêt, fedra’ i ddim am eiliad guddio’r ffaith fy mod yn caru Caerdydd, ond i mi does fawr o wahaniaeth rhwng y ddinas haf a’r ddinas aeafol, er mae’n rhaid i mi gyfaddef yn bonslyd reit bod peint ym Mae Caerdydd yn yr haul yn ofnadwy o braf.

Ond dyna ni. Am rŵan, hiraeth fydd rhaid.

giovedì, gennaio 24, 2008

Y Dyn sy'n Bwyta Moch Daear

Prin iawn iawn dw i’n blogio am raglenni teledu ond fedra’ i ddim helpu fy hun y tro hwn. Gyda Torchwood wedi dod i ben roeddwn i’n hanner-ystyried mai gwely fyddai’r lle gorau i mi, a minnau wedi bod yn effro yn fuan. Ond wrth i mi ddechrau styrio o’r soffa dyma’r rhaglen nesaf yn dechrau, o’r enw The Man Who Eats Badgers. Ac na, nid cwmpasu arferion rhywiol Haydn Blin ydoedd.

Dilyn ambell i unigolyn o amgylch Gwaun Bodmin yng Nghernyw draw oedd y rhaglen ddogfen hon, a’u bywydau, wel, od. Roedd Clifford yn hoffi crwydro’r gweunydd yn chwilio am banther a oedd yn bwyta da byw ffermwyr yr ardal, ac wedi dewis ar fyw ar ei ben ei hun. Sydd ychydig fel y fi ond dw i’n ormod o gachwr i grwydro gweunydd min nos.

Ac yna’r ficer a oedd yn canu ‘Oh Happy Days’ ar ei feic cwad o amgylch y lonydd gefn efo llais erchyll. O, mi chwarddais ar y darn hwn, wrth i Dyfed fy ffonio a’r ddau ohonom yn wir pistyllu chwerthin am funud dda cyn gallu ynganu gair i’n gilydd.

Ond seren y sioe oedd y dyn ei hun a oedd yn bwyta moch daear; Arthur, dw i’n credu oded ei enw. A chwningod. A gwylanod - a dweud y gwir unrhyw beth a laddwyd ar y ffyrdd. Mi yrrodd o amgylch yn chwilio amdanynt, yn mynd â hwy adref a’u torri a’u coginio a’u bwyta. Dw i’n fentrus iawn fy mwyta ac yn rhoi cynnig ar bopeth, ond rhywsut roedd gweld yr hen wallgofddyn yn cnoi ar asgwrn a chymalau mochyn daear a ganfuwyd ar y ffordd yn wir wneud i mi deimlo’n ofnadwy o sâl.

Ni’m hargyhoeddwyd wrth iddo ddatgan fod y mochyn daear yn well na “chig mewn archfarchnadoedd nad ydych chi’n gwybod beth sydd ynddyn nhw mewn difri”. Er fe ddywedodd â balchder nad oedd wedi bwyta cath deircoes gelain ei wraig. Â phob parch, Arthur bach, nid rheswm dros ymfalchïo mo hyn.

martedì, gennaio 22, 2008

Ffrwythau, Castro, Toris a.y.y.b.

Ia wir, fi sydd yma - yr arwr fry o Rachub draw; y cyfieithydd caib a rhaw. Felly'r y’m hadwaenir, nad anghofiwch er eich budd eich hun.

Wn i ddim amdanoch chi, ond nid ffrwythau mo fy hoff bethau. Hynny yw, o ran fy hirfaith restr o hoff a chas bethau, maen nhw ar tua’r un lefel â chadeiriau plastig a’r Blaid Werdd. Ond mi brynais gryn dipyn neithiwr. Anghofiais fy mod yn hoffi eirin tan neithiwr, felly mi brynais rhai a dw i wedi penderfynu mi a’u bwytaent yn amlach.

Diflas ydyw afal neu fanana, ac mae oren yn strach stici, felly eirin a gellyg bydd y peth i mi ar yr ymgais barhaol i wella fy neiet a gwneud dim ymarfer corff. Sydd ond yn deg, does disgwyl i mi fwyta’n iach ac ymarfer corff, wedi’r cwbl.

Dw i’n meddwl bod y byd yn lle diflas iawn ar hyn o bryd. Does gen i ddim BBC3 felly fedra’ i ddim gwylio Cwpan Cenhedloedd Affrica, er fy mod i isio gwneud a ffendio ryw dîm i’w gefnogi (am ryw reswm yr Aifft sy’n mynd â fy mryd, mwy na thebyg oherwydd fy mod i’n licio galw plant drwg yn ‘Arabs’ ac roeddwn i wastad yn licio ffilm The Mummy). A does gen i ddim diddordeb yn Northern Rock, sef y stori diflasaf a amlygodd ei hun eleni.

Mae ‘na etholiadau yng Nghiwba yn dod i fyny ond rhaid i mi ddweud dw i’m yn gweld pwynt dyfalu pwy wnaiff ennill. Er, dw i’m yn meindio. Dw i’n caru Ciwba a dw i’n caru Castro, a phryd drengiff y dyn mi fyddaf y cyntaf i godi peint iddo. A pha beth bynnag, byddai’n well gen i fyw o dan Castro na David Cameron unrhyw bryd...


Dw i’n hoff o ailadrodd bod Toris yn troi arna’ i.

venerdì, gennaio 18, 2008

Y Werin Ddiwylliedig

Mae chwerthin yn groch a dweud “be uffar mae hwn yn ei wneud dudwch” yn uchel am bobl sy’n ffwndro o’m mlaen yn y ciw ym Morristons yn fy ngwaed. O Nain, gallwch efallai ddychmygu, y daw’r elfen hon ohonof. Mae Mam yn fwy parchus, yn hoff o’r dosbarth canol a henoed. Mae Dad yn ddosbarth gweithiol amlwg sy ddim yn licio pobl dosbarth canol ond sy’n eu goddef er mwyn Mam.

Er gwaethaf bod yn gyfieithydd o Gymro Cymraeg yng Nghaerdydd dw i unlle’n agos i fod yn ddosbarth canol. Mae’n fy ngwylltio hyd eithaf fy enaid bod Cymry Cymraeg Caerdydd i gyd yn cael eu portreadu felly, gan bawb o bob cwr.

Er, does dadl bod y Cymry Cymraeg hyd heddiw yn werin ddiwylliedig. Pa Sais dinesig gweithiol all dyfynnu Wordsworth neu Shakespeare â sicrwydd? Gŵyr y rhan fwyaf o Gymry Cymraeg eu hemynau a’u cerddi a’u caneuon gwerin. Nid ydym fel y bûm, ond o holl werinoedd y byd dangoswch i mi un sydd mor hanfodol ddiwylliannol â’r Cymry Cymraeg.

Dw i’n mynd i Aberystwyth yr hwn benwythnos. Dw i heb fod am sesiwn i Aber ‘stalwm. Chwydodd rhywun dros fy nghrys Gym Gym Hobbit Bisexual tro diwethaf. Ac ni fydd pethau’n well y tro hwn.

Mae gen i got fach swanc del a gefais ychydig fisoedd yn ôl. Un smart ydyw i fynd allan ynddo, a does gen i ddim byd smart arall, ond bob tro y bydda’ i’n ei gwisgo i fynd allan dw i’n cael anlwc ofnadwy, o grwydro Treganna yn y glaw am bump o’r gloch yn y bore i chwydu mewn parti gwaith i fachiadau erchyll.

Ella af â chot arall ac edrych yn gomon fyddai orau; fel un o’r werin ddiwylliedig.

martedì, gennaio 15, 2008

Mae Nain yn dweud...

[plys Anti Blod] Ar lesbians:
“Roeddan ni’n clywed am wrywgydiwrs, ond ddim y lesbians ‘ma. Maen nhw’n bob man rŵan.”

Ar y tywydd yn Sir Fôn:
“Os mai’n ddrwg yn Llangefni, mai’n ddrwg ym mhob man”

Ar dorri pysgod:
“Ti angen cyllall dda i dorri ffish, ‘motsh pwy wyt ti.”

Ar Gaerdydd:
“Maen siŵr bod ‘na lot o darcis yn byw ffor’ma does?”
“Pryd ti’n dod nôl i Gymru o Gaer acw?”

Ar Dad:

“Dydi dy dad da i ddim”

lunedì, gennaio 14, 2008

Arallgyfeirio

Mae ‘arallgyfeirio’ yn air y mae ffermwrs yn ei ddefnyddio pan maen nhw’n smalio ehangu eu busnes. Dw i hefyd am arallgyfeirio fy mlog. Dw i ‘di penderfynu mai peth da byddai bod rhywfaint yn fwy eang fy mwydro ac i ddweud mwy am y pethau dw i yn eu mwynhau, fel gwleidyddiaeth, a chwaraeon, yn ogystal â synfyfyrio am eiriau Cymraeg am fwyd a rantiau diderfyn. A straeon anniddorol am fy mywyd fel cael nôl petrol i’r car a mynd i Morristons.

A rhegi mwy. Does ‘na ddim digon o regi mewn blogiau Cymraeg a chynlluniaf lenwi’r bwlch.

Wrth gwrs, ffordd gyfrwys yw hon i orfodi fy hun i flogio heibio’r marc 5 mlynedd - buan iawn y gwnes sylwi heb flog byddai’n rhaid i mi ddod o hyd i le arall i fynegi fy hun, a mwy na thebyg fe fyddwn i’n gwneud rhywbeth fel ysgrifennu llyfr a mwy na thebyg byddai’r Lolfa neu rywun yn ei wrthod. Ac ni fyddai hynny o fudd i neb (ond am flogio Cymraeg ar-lein a llenyddiaeth Gymraeg gyffredinol).

Reit, cawod amdani a gwneud fy ngwallt yn fflwffi neis i’m gwneud yn weledol dderbyniol ar gyfer garej Ford Llangefni.