giovedì, luglio 31, 2008

Afiachrwydd a'r Blewyn Dirgel

Mae haenau o afiach yn yr hwn fyd. Gall rhywun fod yn afiach oherwydd eu bod yn drewi, fel Haydn Blin. Gall rhywun feddu ar bersonoliaeth afiach, fel Dyfed Flewfran. Gall rhywun fod yn gwbl afiach eu naws, fel Lowri Dwd. Gallwch fod yn afiach o hiliol, sydd ryw haen yn uwch o hiliol nag wyf i, neu’n afiach o gas a thywyll eich gwedd. Gallwch fod yn afiach ddigon eich arferion, fel pan gafodd Ceren biso yn bin y golchdy yn Senghennydd. Na, nid wyf wedi anghofio.

Mae’r afiach a wyf innau yn wahanol, ond fe’i cyrhaeddais neithiwr. Ers rhyw dridiau dwi wedi bod yn tagu llawer (sef pesychu i rai pobl ond tagu y bydda i’n ddeud, fel rhywun o Rachub a’i dafodiaith gref, gyfoethog) a heb ddeall pam. Mi gefais ryw ffisig ar ei gyfer ond ni wnaeth wahaniaeth, ac ni chysgais yn ddigonol oherwydd y tagu hirfaith tan y bore bach.

Ond wedi bod yn tagu yn y gwely am dros awr, ac yn syrffedu braidd, mi ddyweda i hynny wrthoch, mi deimlais rywbeth yn dyfod o’m gwddw ac i mewn i’m ceg. Wrth estyn i mewn sylwais mai darn o wallt ydoedd, ac mi beidiais â thagu ar f’union (er bod y gwddw dal yn bur boenus). Do, yn wir, bu’r tagu yn deillio o wallt. Wn i ddim gwallt pwy ydoedd, mawr obeithiaf f’un i, ond nid wyf wedi bod yn cnoi fy ngwallt yn ddiweddar, na gwallt neb arall o ran hynny. A, na, ni piwb mohono chwaith (a naddo, dwi heb â gwneud yn ystod y tridiau felly dim sylwadau ‘ffraeth’).

A dyna fy haen o afiachrwydd ar y raddfa, gwalltbesychwr; sy’n eithaf uchel i fyny, mifawrdybiaf.

mercoledì, luglio 30, 2008

Dychweliad y Gwlithod

Dwi bron â cholli’n llais. Ers deffro bora ‘ma, drwy ryw fodd ar ôl y drydedd noson yn olynol o gael llai na phump awr o gwsg, mae’r llais yn grimp a’r gwddw’n cosi. Fel un sy’n hoff siarad (ac yn dueddol o beidio gwrando os gallaf), gan amlaf gyda fy hun ond nid yn anaml ag eraill chwaith, mae’n eithaf ergyd.

Mi gollais fy llais o’r blaen, tua dwy flynedd yn ôl erbyn hyn pan drigais yn Russell Street. Roedd hynny’n annifyr achos roedd pawb yn gwneud hwyl ar fy mhen a minnau heb fodd i’w hateb yn ôl.

Mae’r slygs yn ôl ‘fyd. Gyda’r tywydd milain mwll yn parhau, sy’n effeithio’n ddybryd arnaf ar ôl ychydig ddyddiau, maen nhw wrth eu boddau ac yn dechrau mynd i mewn i’r gegin yn Stryd Machen. Roedd un wrth y drws cefn echnos, a neithiwr yn crwydro o amgylch y cypyrddau. A fynta’n edrych fel tyrdun o’r radd eithaf mi deimlais ychydig yn sâl; yn salach fyth o gofio bryd hynny ei bod yn tua dau o’r gloch y bore, a minnau wedi bod yn y gwely am dair awr heb gysgu, a’m bod yno yn y bore bach yn lluchio slyg lawr y toiled.

Nid oedd modd i adael iddo fyw. Boddodd, megis dim llai na thri phry cop neithiwr ym Machen draw. Mae’r tŷ dan warchae gan drychfilod: sy’n golygu ei bod hi’n amser glanhau, sy’n ffwcin annifyr.

lunedì, luglio 28, 2008

Sbectols Haul Newydd

Mae ‘na rywbeth cywilyddus iawn am brynu sbectols haul ben dy hun. Yn Next yr oeddwn, yn mynd drwyddynt a minnau angen pâr newydd (sut ddiawl mae un sbectol haul yn bâr wn i ddim mewn difri), yn rhoi cynnig ar bob un yn y drych yn edrych yn eithriadol o anffasiynol. Mi ges ddau bâr yn y pen draw – roedd yn rhaid defnyddio’r olaf daleb £25.

Y broblem oedd fy mod wedi colli’r rhai gwreiddiol nos Sadwrn. Ydw, gwan dwi. Ddyliwn i ddim yfad oherwydd y ffisig ond doedd hynny ddim am ddigwydd mewn gwirionedd. Mae’n biti a minnau’n mor hoff o’r hen sbectols haul. Fetia’ i rwbath y ffendia i nhw’n tŷ heno ‘ma o dan ryw glustog, ac wedyn bydd i mi bedwar pâr o sbectols haul, sy’n ormodedd i unrhyw un call mewn difri calon.

venerdì, luglio 25, 2008

(Diffyg) Goblygiadau Glasgow

Bore da yn wir. Roeddwn i’n disgwyl i’r canlyniad yn Nwyrain Glasgow fod yn agos, ond mae’n rhaid i mi ddweud prin y disgwyliais i’r SNP guro, a sioc ar y diawl ges i o ddarllen Ceefax (neu Teletext, os dachi’n gomon) bore ‘ma a gweld. Mae’n gwneud i rywun feddwl pa mor ddiddorol y byddai isetholiad mewn rhywle fel Llanelli neu Gastell-nedd ar y funud, dydi?

Ond yn anffodus dydi hi ddim yn ddiwedd ar Gordon Brown, ac mi egluraf pam. Y gwir amdani ydi os aiff Gordon Brown, drwy orfodaeth (y sefyllfa fwyaf tebyg) neu’n wirfoddol (annhebygol iawn), bydd yn rhaid i Lafur ddewis arweinydd, a thrwy hynny, Prif Weinidog newydd.

Roedd hi’n ddadleuol i Brown gymryd yr awenau heb alw etholiad. Ond byddai cael trydydd arweinydd ar y wlad, a hynny eto heb etholiad, yn peri dicter mawr i lawer iawn o bobl. I bob pwrpas, byddai’n rhaid galw etholiad; etholiad y byddai Llafur yn ei golli yn aruthrol. Pwy o fewn y blaid Lafur sydd eisiau hynny?

Ydyn nhw am gadw Brown, neu golli etholiad?

Ond yn fwy diddorol ydi beth y mae’r Ceidwadwyr eisiau mewn difri. Gyda’r sefyllfa economaidd yn wan a yw’r Ceidwadwyr wir eisiau etholiad lle y byddant yn sicr o’u hennill gan etifeddu sefyllfa gynddrwg? Wedi’r cwbl, y realiti o hynny ydi y gallant ennill yr etholiad, wynebu’r un problemau â Brown a’r Blaid Lafur, gallai eu poblogrwydd ddisgyn (ac rydym ni wedi gweld yn ystod y flwyddyn ddiwethaf pa mor gyflym y mae’r polau’n newid) a bydd Cameron allan ar ei din ymhen 4-5 mlynedd.

Yn ychwanegol at hynny, diddorol yw gweld nad yw’r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw am etholiad – ond wedi’r cyfan maen nhw’n gwneud yn wael yn y polau piniwn ar y funud.

Felly, yn gryno, ni fydd Brown yn mynd, ac ni fydd etholiad, a hynny oherwydd nad oes neb wirioneddol am gael un.

mercoledì, luglio 23, 2008

'Steddfod yn nesáu

Smai? Ydw, iawn diolch yn fawr, ‘rhen fol yn chwarae fyny ond dyna ni. Chithau? Wela i. Ffyc off, felly.

Ta waeth. Mae’r ‘Steddfod, wyddoch chi, yma ymhen tuag wythnos. Rŵan, fel y dywedais y llynedd, nid steddfodwr mawr mohonof, ond pan fydd y ‘Steddfod yn agos, fel y bu i mi yng Nghasnewydd, Bangor ac eleni yng Nghaerdydd, mi fydda i’n galw heibio i ddweud helo a chwilio am ffrîbis yn stondin Cymdeithas yr Iaith a gwneud pethau felly. I fod yn onest efo chi, fedra i ddim disgwyl eleni, achos dwi’n benderfynol o weld y cadeirio, sydd yn rhywbeth dwi byth wedi’i weld o’r blaen, ac eistedd ar y maes efo peint a byrger. Na phoener, ‘rhen Selwyn, feddwa i ddim ar y maes. Nid bardd mohonof.

Pobl ryfedd ydi beirdd. Dydyn nhw ddim mor clîci â phobl y sîn roc Gymraeg (yr amgens yn benodol) nac yn meddwl eu bod nhw’n well na neb (yr amgens eto - sori, ond mae’n wir - fe ddylen nhw ‘di dallt bod cerddoriaeth amgen yn amgen am reswm...), ond maen nhw’n cael eu dal mewn dyledus barch. Ac mi ddylent hefyd. Hoffwn i wybod yn union beth sy’n mynd drwy feddwl bardd - dwi’n dychmygu lliwiau a siapiau amhenodol. Wn i ddim beth sy’n mynd drwy feddwl blogwyr - dychmygaf fyd unig di-liw, ond dwi’n gwyro oddi ar y pwynt honedig.

Ia wir, y Steddfod. Ro’n i’n edrych ar y gigiau i feddwl beth sy’n dwyn fy ffansi, a’r gwir ydi does ‘na ddim byd sy’n gwneud i mi wlychu’n hun. Beryg fydd yn rhaid i mi ddewis rhywbeth, fodd bynnag - Meic Stevens nos Sadwrn Clwb Ifor sy’n apelio fwyaf, ond mae’n siŵr na chai docyn a p’un bynnag mae ‘na rhywbeth od iawn efo fo’n chwarae gyda Lleuwen Steffan a hwythau’n gwpwl (sydd yn mynd ag ias lawr y cefn).

Dyna ni, ddigon o sarhau am heddiw, mi gredaf. Ddim isio ypsetio’r pwysigion gormod.

lunedì, luglio 21, 2008

Grippy, fu farw

Mae hon yn stori, os nad ystyrir y ffordd y’i dywedir ac os na’i hystyrir yn ddigon ddwys, na fyddwch yn ei hoffi, ond parodd i mi chwerthin fel jî binc pan y’i clywais.

Byddwch o bosib wedi clywed cyfeiriadau at Lowri Llewelyn o’r blaen; dynes ryfedd ac anghyfarwydd ydyw sy’n gallu bwyta sleisen dew o gacen mewn llai na dwy funud ac efo hiwmor na fyddai camel sâl yn eiddigus ohono. Cymeriad trist, er hoffus, ydyw, sy’n treulio’i hamser yn gwneud mân bethau fel pigo llwch o soffas MFI a chwarae gemau syllu gydag afalau. Ond, rwy’n crwydro.

Neithiwr, dychwelais i Gaerdydd ar ôl penwythnos sobor yn y Gogledd, yn bwydo melon ddŵr i dair merlen ymhlith pethau eraill, ac fe drafodwyd gennym anifeiliaid anwes. Pysgod a chwïaid ydi’r unig rai a gefais erioed, a dwisho ci achos mae cŵn yn cŵl. Ond, rwy’n crwydro.

Dywedodd hithau na chafodd anifail anwes, â phrudd-der llond ei llygaid dyfrllyd. Heblaw am un. Gwrandawais yn astud, yn disgwyl clywed am yr eithriad hwn. Grippy fu ei enw. Ar drip i Ffrainc y bu’r Llewelyns ac yn y car canfuwyd gan Lowri bryfyn ar ddarn o hanes bapur. Ceisiwyd ei wthio, ond daliodd ymlaen megis y fi at fy wythfed beint, a gwrthod symud.

Yn llon a llawn difyrrwch gofynnwyd i’w gadw, a rhoddwyd yr enw Grippy arno, sy’n enw addas a bachog, ‘sdim dadl. Gan nad oedd yn chwarae’r gêm ac yn parhau i afael nerth ei beglau ar yr hances bapur fe’i lapiwyd i fyny ynddo tan y diwrnod wedyn.

Ond siom a gafwyd. Y bore wedyn, bu farw Grippy. Wn i ddim p’un ai drwy fygu, neu ddiffyg bwyd, neu ei sgwashio – y wybodaeth hon ni feddais arni gan Lowri – ond bu farw. Y teulu a aeth yn ôl i Gymru. Aeth bywyd yn ei flaen. Ond wrth i’r gaeafau heibio fe’i cofiwyd, nes un noson o haf yng Nghaerdydd adroddwyd y stori i’r Hogyn.

A dyna hanes anifeiliaid anwes Lowri Llewelyn.

venerdì, luglio 18, 2008

Diwedd y Byd

Mam bach dydw i ddim yn unigolyn iach. Wel. Dydi hynny ddim yn wir; yn gorfforol felly mae ‘nghorff i’n iwsles a phob math o bethau’n troi ac yn dadleoli, ond pan ddaw at heintiau a chlefydau a phethau felly dwi’n wydn iawn yn gyffredinol. Felly pan fydda i’n sâl go iawn mae’r byd ar ben.

Mae’r capsiwlau sy’n rhaid i mi eu cymryd i reoli fy stumog yn rhoi cythraul o gur pen i mi ar y funud. Dim ond y trydydd diwrnod ydyw ers y feddygfa (ofnadwy o braf yn Penham Green, os ca’i ddweud) ac mae gen i gur pen parhaol. Ar ôl mân ymchwil mae 7% o bobl sy’n cymryd y feddyginiaeth dwi arni yn dioddef o gur pen, felly dwi wedi penderfynu fy mod i yn y 7% hwnnw, yn ogystal â bod ymhlith y chwarter o bobl sy’n golchi o’u fyny i lawr yn y gawod.

Beth bynnag, dwi bellach yn cymryd Ibruprofen neu Barasetamol neu unrhyw beth sy’n digwydd bod yn agos i reoli’r cur pen, sydd yn ei dro yn dueddol o droi fy mol. O! Cylch cas ydyw bywyd!

Gallwch ddychmygu felly nad ydi gyrru i fyny i’r gogledd heno yn wirioneddol apelio, hyd yn oed â phres petrol Lowri Dwd (yn drwyn i gyd ar hyd y car) a Gwenan (“daniynaetodanidynaetolleydannilleydanni”). Fydda i’n teimlo’n well, fodd bynnag dwi’n siŵr, yn cael mwythau adref. Waeth bynnag lle’r ydym, ac er ei bod yn swnio’n ystrydebol, mae’n wir nad oes gwelliant gwell nag adref.

mercoledì, luglio 16, 2008

Salwch Enwog Wyf

Ro’n i’n teimlo’n enwog iawn heddiw. Ro’n i’n siarad ar raglen Siân Thomas ar Radio Cymru heddiw ‘ma am yr hwn gampwaith a elwir yn Blog yr Hogyn o Rachub, a hefyd dyddiaduron. Wyddoch chi fy mod yn cadw dyddiadur hefyd? Rhaid bod gen i obsesiwn â chofnodi fy mywyd, sy’n rhyfedd o ystyried cyn lleied sy’n digwydd. P’un bynnag, mi fetia i unrhyw beth y bydda i’n sôn am hyn am fisoedd. Y rhan fwyaf o’r amser dwi’n eithriadol o nerfus am wneud pethau felly, ond heddiw ro’n i’n teimlo’n eithaf hyderus, a minnau efo syniad da o be o’n i’n ei ddweud.

Ond ta waeth, rhwng gwneud hynny â bod yn gyffredinol dan bwysau roedd yn rhaid i mi fynd i weld y meddyg heddiw. Am dridiau dwi wedi bod yn sâl efo poenau yn fy mron a’m mol, felly bu’n rhaid cymryd rhywfaint o amser i ffwrdd heddiw.

Dwi ddim yn or-hoff o feddygfeydd, yn benodol oherwydd bod wastad babanod yno’n sgrechian. Ar ôl i’m tro ddod, mi ddywedodd Dr Smith wrthyf bod asid fy stumog yn chwarae hafoc (nid ei union eiriau o gwbl, cofiwch, ond ymdrech gan awdur y blog i orliwio) felly dwi ar dabledi am bythefnos.

Sy’n golygu dim yfed. Dim alcohol am 14 noson. Ac os dwi’m yn teimlo’n well, dim ‘Steddfod chwaith. Mae rhywbeth drwg BOB TRO yn digwydd yr adeg hon o’r flwyddyn. Ond dyna ni, dwi’n siŵr y goroesaf. Wedi’r cyfan, mae angen i rywun lenwi eich oriau swyddfa diflas.