giovedì, novembre 13, 2008

Arbrawf


Jyst gweld dwi os dwi'n gallu blogio o'r ffön, well bo'r cont im yn costio

Y Cwsg Mawr

Pob rhyw ddeufis (sef tua phob dau fis, nid rhyw a geir yn ddeufisol) byddaf yn cael Cwsg Mawr. Y Cwsg Mawr ydi deg awr – fydda i yn fy ngwely am naw yn weddol siarp a ddim yn deffro tan y larwm saith y gloch drannoeth. Does gen i fawr o ddamcaniaeth am y rheswm dros yr ymddygiad rhyfedd hwn. Mi allwn synfyfyrio ei bod yn gysylltiedig â fy mywyd prysur, ond gwyddoch cystal â mi mai celwydd ofer byddai honni rhywbeth o’r fath.

Unigolyn blinedig ydwyf i. Erbyn hyn bydda i’n diolch i Dduw ac Allah a Ghandi mai methiant oedd fy nghyfnod o hyfforddiant athro. Anobeithiol byddai disgwyl i mi, diog fel yr wyf, i ddod adref a gwneud gwaith, neu godi’n fuan, ac wedyn bod efo mynadd i siarad â phlant. Mae Haydn yn ddigon o strach.

Er nad un actif mohonof, a fyddai’n egluro’r ymddygiad o beidio â gallu codi’n fore ac yn ddigon bodlon gwylio teledu drwy’r nos yn bur flinedig, nad yw’n aredig y tir nac yn rhedeg milltiroedd (ar y gallwn yn hawdd pe ceisiwn), dydi pobl ddim yn sylwi mai un o’r swyddi fwyaf blinedig ei chyflawni yw gwaith swyddfa. Gallwch ddadlau’n gryf i’r gwrthwyneb ond does ‘na fawr o ddim sy’n fwy blinedig nag eistedd o flaen cyfrifiadur am oriau maith.

Mae fy meddwl i’n eitha’ pys slwj o ganlyniad i hyn. Daw hynny’n amlwg os ‘runig beth y gallwch ei ysgrifennu ydi blog (weithiau, yn sôn am bethau fel methu cysgu). Yn bersonol fydda i’n licio darllen blogiau personol yn hytrach na rhai eraill (licio rhai gwleidyddol) yn sôn am hanesion a meddyliau pobl. Mae’n siom i mi nad oes llawer ohonynt yn y Gymraeg: dwi’n licio pobl ac yn eu ffendio’n ddiddorol.

martedì, novembre 11, 2008

Mae gwleidyddion isio stopio fi rhag cael hwyl a gwneud drygoni fel penwsos 'ma. Gawn nhw ddyrnu 'u hunain.

Gan i mi gysgu tair awr nos Sul, a oedd efallai bron yn ddigon i gotsan fel Thatcher ond dydi o ddim i mi, doeddwn i methu ysgrifennu blogiad ddoe. Ond pwy arall allai fod wedi?

Ges i un o’r penwythnosau gorau i mi ei gael ‘stalwm. Fe es gyda Ceren ar ôl gwaith nos Wener, a heb sylwi yn y lleiaf fe feddwodd y ddau ohonom gymaint y bu i’r ddau ohonom gyrraedd ein cartrefi perthnasol am tua 11, cafodd y ddau ohonom chwydfa ac ni fwytodd ‘run ohonom ddim byd i de. Yn bersonol fedra i ddim coginio wedi meddwi, ‘sgen i ddim mynadd, ac i fod yn onest pan fyddaf chwil prin fy mod isio bwyta beth bynnag.

Gan eiddgar ddisgwyl y rygbi roedden ni ein dau yn y Mochyn Du cyn i’r lle agor fore Sadwrn. Doeddwn i ddim efo pen mawr bryd hynny, ond mae’r ffaith y cymerodd bron ddwyawr yn union i ni orffen ein peint cyntaf yn adrodd rhywfaint o’r hanes. O! Bu meddwi! Bu balchder! Cafwyd siom y golled a’r syfrdan o weld bod Dai Sgaffalde yn smygu. Ac yntau’n un o fawrion y genedl ac yn fodel rôl i filoedd digyfrif o ieuenctid Cymru, ma fo jyst yn rong gneud ffasiwn beth de.

Bu iddi fwrw’r nos. Mi wlychais innau, mi wlychodd y rhan fwyaf ohonom. Cawsom gân yn Pica Pica, cefais ffeit go iawn efo Lowri Dwd (a rhoi stid i’r gont) ac mi welais Rhys fy ffrind moel yn rhedeg sef rhywbeth nad ydw i wedi ei weld o’r blaen, neu mae’n bosib erbyn hynny ro’n i’n rhy chwil i ddallt dim.

Ro’n i adref yn weddol fuan cofiwch. Nid ataliodd hynny i mi yfed potel o win ar ôl cyrraedd adref (cachu rhad o Lidl, 14%, £3 - dyma yw byw am un o’r gloch y bore efo DVD Bottom yn gwmni) a chynhyrfu o weld y rhybuddion y byddai corwyntoedd yng Nghaerdydd yn dechrau gwireddu y tu allan.

Ond yn y pen draw, gyfeillion, mi gysgais; cysgu fel nad oedd yfory, fel pe bai’r corwynt yn fy chwythu i wlad breuddwydion ffiaidd, fel pe nas gwelwn drannoeth.

Mi wnes, wrth gwrs, ond i fod yn onest dwi dal ‘di ffwcin blino.

venerdì, novembre 07, 2008

Yr Ail Hoff Gyfnod

Fedra i ddim disgwyl. Ar ôl cyfnod y Chwe Gwlad, nad yw mor bell i ffwrdd â hynny erbyn hyn, cyfnod Gemau’r Hydref yw fy hoff adeg o’r flwyddyn. Does dim yn yr hwn fyd yn fy nghynhyrfu fel rygbi rhyngwladol, dim byd cweit yn rhoi’r un ddogn o nerfau ac eiddgar-ddisgwyl, y cyfnod gwyllt o ddarllen pob darn o wybodaeth am y gêm sydd ar y gweill, y cyfleoedd betio, y wybodaeth y bydda i’n yfed o 11 o’r gloch ymlaen tan oriau mân y bore, yn canu, yn gweiddi, o bosibl bod mewn tymer ffiaidd ryw ben, o bosibl yn fy elfen, a ddim yn gwbl annhebyg o chwydu mewn rhyw gornel yn slei.

Onid wyf y diffiniad o bopeth sy’n iawn a phopeth sy’n ddiffygiol mewn cymdeithas?

giovedì, novembre 06, 2008

Y Nadolig Hwyr a Thân Gwyllt Stalwm

Gwn y cwynais yn gynharach eleni (oedd hi fis yn ôl erbyn hyn, dŵad?) fy mod wedi alaru ar y Nadolig yn dod yn fuan flwyddyn ar ôl blwyddyn. Ond bryd hynny dim ond wedi gweld ambell i beth oeddwn i. I fod yn gwbl onest, dwi’n teimlo bod Dolig eleni wedi dod yn llawer hwyrach na’r arfer. Hynny yw, dwi’n siŵr roedd Cymru’n fwy Nadoligaidd yr adeg hon y llynedd nag ydi hi ar hyn o bryd. Dwi’n iawn?

Hidia befo am hynny, pan ddaw mi ddaw’n llanw (dwi actiwli yn siarad fel hynna ar lafar pan fo’r awydd yn codi, credwch ai peidio).

Ond neithiwr cafwyd noson tân gwyllt. Fel digon o bobl erbyn heddiw, dwi ddim yn meddwl bod methiant i ffrwydro’r senedd a brenin Lloegr yn destun dathlu, ond mi fydda i’n hoffi tân gwyllt. Gan ddweud hynny dwi heb fynd i weld tân gwyllt ar Dachwedd 5ed ers cyn cof, neu gyn coleg yn sicr.

Doedd noson tân gwyllt fawr o hwyl yn Rachub – roedd tua un roced, paced bach o dân gwyllt pitw a’r goelcerth wedi cael ei llosgi gan rywun ymhell cyn y dyddiad dathlu. Arferwn fynd i Fangor fel teulu, ac roedd hynny’n hwyl. Prin yw’r nosweithiau y dônt â’ch plentyndod nôl fel noson tân gwyllt: sŵn y sbarclers, yr olwyn catrin yn mynd yn wallgof, y rocedi mawrion, gwres y goelcerth, arogl bwyd a mwg.

Ychydig fel y Nadolig a phenblwyddi mae’n un o’r pethau hynny nad yw’n ennyn yr un cyffro mwyach, ac eto mor fyw ag erioed.

mercoledì, novembre 05, 2008

Y Collwr Gwael

Fel rhywun sy’n colli’n aml ond yn parhau i fod yn gollwr drwg, os nad milain o chwerw ym maes gwleidyddiaeth, waeth i mi gadw hyn yn fyr. Pob hwyl i Obama – dwi wir yn golygu hynny (er ddim yn siŵr y bydd yn darllen fy ngeiriau) – ond mi gaiff bawb sioc ar y diawl pan fyddant yn sylwi nad y Meseia disgwyledig mohono a ffyc ôl yn newid yn y bôn.

Os bydd Man Utd a Chymru’n colli dros y dyddiau nesaf fyddai’n rili mynd dros ben llestri.

martedì, novembre 04, 2008

Obama, dos o 'ma

Fel pawb yn y byd i gyd dwi wedi bod yn cadw un llygad ar etholiad yr UDA yn ddiweddar. Dwi wedi awgrymu o’r blaen, ond dwi wedi penderfynu erbyn hyn dwi am i John McCain fynd â hi, er cymaint o wirdo ydi Sarah Palin (gair Ceren amdani yw ‘wirdo’ gyda llaw ond dwi’n cyd-fynd), achos dwi ddim yn licio Barack Obama. Dwi ‘di nodi fy rhesymau – er arddull selebriti, ei slicrwydd – peth nad ydw i’n eu hoffi mewn gwleidyddion. Wedi’r cyfan, dyma ddyn sydd wedi dweud y byddai’n parhau ag ymosodiadau Americanaidd ym Mhacistan; asiant newid yn wir.

A dwi ddim yn ei ymddiried yn y lleiaf. Dwi yn ymddiried yn John McCain, hyd yn oed os ydw i’n anghytuno efo fo ar lawer o bethau. Ond dydw i ddim yn selio fy nhuedd o fod isio gweld McCain yn ennill ar bolisiau, i fod yn onest.

Wrth gwrs, dwi ddim yn hoffi’r Democratiaid na’r Gweriniaethwyr ar y cyfan, a dyma fy mhrif broblem gyda’r holl sylw sy’n cael ei roi i’r etholiad. Mae Barack Obama yn cael ei bortreadu fel rhywun sydd am newid y byd, am chwydroi popeth. Ond rydyn ni’n anghofio un peth mawr.

Mae’r gwahaniaethau rhwng y Democratiaid a’r Gweriniaethwyr yn simsan. Mae’r ddwy yn bleidiau asgell dde, y Democratiaid yn gymharol â Thorïaid y wlad hon a’r Gweriniaethwyr ychydig ymhellach i’r dde gyda dylanwad crefyddol arno. Pe bawn yn Americanwr fyddwn i ddim yn pleidleisio i’r un o’r ddwy. Mae’r Unol Daleithiau yn wlad sydd yn ei hanfod o’r dde i’r canol o ran ei gwleidyddiaeth. I rywun ar y chwith dylai hynny fod yn ddigon wrthyrrol ynddo’i hun, ond dydi hi ddim mae’n rhaid. Achos bod y wasg Americanaidd yn cyfeirio fel Obama a’r Democratiaid fel ‘y chwith’ mae digon o bobl fan hyn yn anghofio bod cryn wahaniaeth rhwng Chwith yr UDA a Chwith Ewrop,

Efallai mai rhyw gamddelwedd sydd gan y byd o’r Democratiaid ar ôl wyth mlynedd rhyfelgar o dan Bush. Er mai prin yw’r Democratiaid a fu’n y Tŷ Gwyn ers ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, roedden nhw’n fodlon ymladd yn Fietnam, ac roedd hyd yn oed Clinton yn barod gyda’r bomiau, fel ar Bacistan.

Dydi arlywydd newydd o blaid ‘newydd’ ddim am newid degawdau o’r UDA yn ymddwyn fel bwli imperialaidd – y mwyaf a ddaw arlywyddiaeth Obama i’r UDA yw cadarnhad bod ei gorffennol hiliol yn diflannu, sydd yn well o leiaf. Ond dydi o ddim am ddechrau cyfnod newydd o gydweithio rhyngwladol ac America’n pwyllo cyn gweithredu, America sy’n gwrando ar eraill cyn bwrw ‘mlaen. Ac mae arna i ofn y caiff y rhai sy’n gobeithio y daw Barack Obama wawr ar hyn siom enfawr ymhen ychydig fisoedd neu flynyddoedd.

Fe gawn weld, ond dwi’n ddigon bodlon proffwydo dim newid, p’un bynnag o’r ddau sydd wrth y llyw.

Neithiwr roeddwn yn dylluan

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae ambell i freuddwyd wedi dyfod ataf am fod nôl yn Ysgol Dyffryn Ogwen. Wn i ddim taw ryw hiraeth isymwybodol ydyw, ac isymwybodol y byddai gan na fu i mi fwynhau fy nghyfnod yn yr ysgol fawr lawer, neu dim ond yn freuddwydion gwirion yn y mowld arferol.

Daliwch efo fi, mae ‘na dro od yn yr hwn o hanes.

Roeddwn yn geidwad ar yr ysgol neithiwr, yn gorfod atal pobl rhag ysmygu ac yfed ar y safle – gwnaed y dasg hon yn anoddach o ystyried fy mod yn dylluan. Hynny yw, dw i’n eitha siŵr na thylluan oeddwn i, ond p’un bynnag o’n i’n meddwl y byddai’n ddiddorol gweld sut y gellid dehongli’r fath freuddwyd. Dwi ddim yn credu bod breuddwydion yn golygu fawr o ddim, ond os maent...


"The owl is a symbol of wisdom, seriousness and thoughtfulness. Dreaming of an owl in the dream means that your judgement of a personal situation or a person was correct. It also could mean that some vague matter became much clearer. Seeing an owl in the dream may also mean that you should take good advice from others"

Dwi ddim yn nabod neb ar wahân i mi sy’n rhoi cyngor da. Go iawn rŵan, bydda i bob tro yn ymddiried yn fy nghyngor fy hun cyn eraill, a dwi ddim yn cofio gweld Daniel Ffati yn yfad wrth gwt y chweched i fod yn onest, a hyd yn oed pe bawn ni fyddwn gallach o freuddwydio am y digwyddiad.

"Catching an owl or seeing an owl in the cage means that you should be careful of weird people and bad company"

Wnes i ddim, ond rhaid i mi gyfaddef bod hwn yn ddehongliad hynod ryfedd, er y byddai’n addas i mi freuddwydio am hyn. You know who you are.

"The owl is the archetype of wisdom in many cultures' parables. The owl is often a sign of longevity, as well as knowledge. This knowledge pertains especially to the future and the mysteries of the night. You may be seeking such knowledge or be receiving an oracle hinting that you may be in possession of such knowledge"

Mae’n rhyfedd fod pobl yn ystyried y dylluan yn aderyn doeth. Mae’n ffaith bod y dylluan ymhlith yr adar mwyaf dwl, a p’un bynnag ‘sgen i ddim cyfle byw am hir, ac os gwna i fyddai’n un o’r bobl hynny sy’n byw ymhell ar ôl pawb arall ac yn pissed off am y peth. Dwi ddim yn chwilio am wybodaeth nac am ei rhannu â neb. Mae’r diffiniad hwn, er yn ddiddorol, yn shait.

"May symbolize insights to the dark unconscious aspects of your personality"

Beth, fel yfed a hedfan? Wel, yfed, dwi methu hedfan waeth i mi gadarnhau. Dwi’n licio disgrifiad hwn o’r freuddwyd, ond wedi dod i’r casgliad er nad oedd unrhyw ragrybudd na phroffwydiad, neu amgyffred, i’r freuddwyd, byddwn i’n ffwc o dylluan.