martedì, novembre 18, 2008

Dyfyniadau Nain

"I forgot to tell you something, but I can't remember what it is now"
- Yn siarad gyda Mam

"O, hwn sydd arno heno. Dydw i ddim yn keen"
- O weld bod John Hardy yn cyflwyno rhifyn heno o Wedi 7

"Bydd pobl gall yn licio diod oer, ond dydw i ddim"
- Pan ddywedais fod gennyf Vimpto oer yn y ffrij

venerdì, novembre 14, 2008

Seicoleg y Tôn Ffôn

Hei, hei, hei Titw Tomos
Titw titw titw,
Titw Tomos Las,
Titw Tomos, Titw Tomos,
Titw Tomos Las.

Pan fydd fy ffôn yn canu (a allai fod yn llinell fodern i’r gân wreiddiol) dyma’r tôn sy’n atseinio o’i gwmpas. Yn wir, digon balch ydwyf o hyn, gan wybod mai fi yw’r unig un o blith y Cymry sydd â’r union dôn ar fy ffôn.

Ei gwneud fy hun a wnes. Os teipiwch ‘free online ringtone maker’ gallwch wneud unrhyw dôn a ddymunwch. Bydd yn gofyn i chi lwytho’r gân i fyny ac fe gewch ei thocio a’i newid fel y mynnwch nes creu’r perffaith dôn. Penderfynais ar Titw Tomos Las, sef yr unig beth erioed a gyflwynwyd i mi gan fy nghyfaill chwyslyd Dyfed y bu i mi achub arni gydag eiddgarwch llwyr.

Rhywbeth sydd yn ddiddorol ydi beth mae dewis tôn ffôn rhywun yn dweud amdano; yn y gorffennol dwi wedi amrywio o Streets of Bethesda i Roobarb and Custard i Yma o Hyd – wn i ddim beth y mae hynny’n dweud amdana i (dydi seicoleg y tôn ffôn Cymraeg ddim yn faes astudio poblogaidd mi dybiaf), ond roedd y rhestr hon yn ddiddorol, tybed a ydych chi’n ffitio i mewn i un o’r categorïau isod?

"Top 10 hit

Moves with times but could be a fashion victim who tries too hard to be cool

Classic Hit
A laid back thirty something attempting to make a statement with a personal favourite

Hollywood Blockbuster
A real movie buff, but perhaps watches one too many films!

Current TV show
Fun personality - but has too much time on their hands

Retro TV show
Creative individual with a love for pop culture - however can appear a little nerdy

Children's theme tune
Game for a laugh, up for having a good time - though has a tendency to annoy people

Sport theme tune
Armchair sportsperson who enjoys a laugh with the lads/girls also a tad unimaginative

Classical
Tasteful and educated, yet probably on the old side

Made for ringtone (crazy frog etc)
Totally unacceptable - most likely a Chav

Mobile setting (original ringtone)
Not trying to impress, probably got better things to do than constantly changing their ringtone

Ring Ring
Uber cool, no need to impress though some view as boring - shows a lack of confidence and creativity

Vibrate setting
An Introvert not wanting to be noticed or a businessman not wanting to be rude"

giovedì, novembre 13, 2008

Arbrawf


Jyst gweld dwi os dwi'n gallu blogio o'r ffön, well bo'r cont im yn costio

Y Cwsg Mawr

Pob rhyw ddeufis (sef tua phob dau fis, nid rhyw a geir yn ddeufisol) byddaf yn cael Cwsg Mawr. Y Cwsg Mawr ydi deg awr – fydda i yn fy ngwely am naw yn weddol siarp a ddim yn deffro tan y larwm saith y gloch drannoeth. Does gen i fawr o ddamcaniaeth am y rheswm dros yr ymddygiad rhyfedd hwn. Mi allwn synfyfyrio ei bod yn gysylltiedig â fy mywyd prysur, ond gwyddoch cystal â mi mai celwydd ofer byddai honni rhywbeth o’r fath.

Unigolyn blinedig ydwyf i. Erbyn hyn bydda i’n diolch i Dduw ac Allah a Ghandi mai methiant oedd fy nghyfnod o hyfforddiant athro. Anobeithiol byddai disgwyl i mi, diog fel yr wyf, i ddod adref a gwneud gwaith, neu godi’n fuan, ac wedyn bod efo mynadd i siarad â phlant. Mae Haydn yn ddigon o strach.

Er nad un actif mohonof, a fyddai’n egluro’r ymddygiad o beidio â gallu codi’n fore ac yn ddigon bodlon gwylio teledu drwy’r nos yn bur flinedig, nad yw’n aredig y tir nac yn rhedeg milltiroedd (ar y gallwn yn hawdd pe ceisiwn), dydi pobl ddim yn sylwi mai un o’r swyddi fwyaf blinedig ei chyflawni yw gwaith swyddfa. Gallwch ddadlau’n gryf i’r gwrthwyneb ond does ‘na fawr o ddim sy’n fwy blinedig nag eistedd o flaen cyfrifiadur am oriau maith.

Mae fy meddwl i’n eitha’ pys slwj o ganlyniad i hyn. Daw hynny’n amlwg os ‘runig beth y gallwch ei ysgrifennu ydi blog (weithiau, yn sôn am bethau fel methu cysgu). Yn bersonol fydda i’n licio darllen blogiau personol yn hytrach na rhai eraill (licio rhai gwleidyddol) yn sôn am hanesion a meddyliau pobl. Mae’n siom i mi nad oes llawer ohonynt yn y Gymraeg: dwi’n licio pobl ac yn eu ffendio’n ddiddorol.

martedì, novembre 11, 2008

Mae gwleidyddion isio stopio fi rhag cael hwyl a gwneud drygoni fel penwsos 'ma. Gawn nhw ddyrnu 'u hunain.

Gan i mi gysgu tair awr nos Sul, a oedd efallai bron yn ddigon i gotsan fel Thatcher ond dydi o ddim i mi, doeddwn i methu ysgrifennu blogiad ddoe. Ond pwy arall allai fod wedi?

Ges i un o’r penwythnosau gorau i mi ei gael ‘stalwm. Fe es gyda Ceren ar ôl gwaith nos Wener, a heb sylwi yn y lleiaf fe feddwodd y ddau ohonom gymaint y bu i’r ddau ohonom gyrraedd ein cartrefi perthnasol am tua 11, cafodd y ddau ohonom chwydfa ac ni fwytodd ‘run ohonom ddim byd i de. Yn bersonol fedra i ddim coginio wedi meddwi, ‘sgen i ddim mynadd, ac i fod yn onest pan fyddaf chwil prin fy mod isio bwyta beth bynnag.

Gan eiddgar ddisgwyl y rygbi roedden ni ein dau yn y Mochyn Du cyn i’r lle agor fore Sadwrn. Doeddwn i ddim efo pen mawr bryd hynny, ond mae’r ffaith y cymerodd bron ddwyawr yn union i ni orffen ein peint cyntaf yn adrodd rhywfaint o’r hanes. O! Bu meddwi! Bu balchder! Cafwyd siom y golled a’r syfrdan o weld bod Dai Sgaffalde yn smygu. Ac yntau’n un o fawrion y genedl ac yn fodel rôl i filoedd digyfrif o ieuenctid Cymru, ma fo jyst yn rong gneud ffasiwn beth de.

Bu iddi fwrw’r nos. Mi wlychais innau, mi wlychodd y rhan fwyaf ohonom. Cawsom gân yn Pica Pica, cefais ffeit go iawn efo Lowri Dwd (a rhoi stid i’r gont) ac mi welais Rhys fy ffrind moel yn rhedeg sef rhywbeth nad ydw i wedi ei weld o’r blaen, neu mae’n bosib erbyn hynny ro’n i’n rhy chwil i ddallt dim.

Ro’n i adref yn weddol fuan cofiwch. Nid ataliodd hynny i mi yfed potel o win ar ôl cyrraedd adref (cachu rhad o Lidl, 14%, £3 - dyma yw byw am un o’r gloch y bore efo DVD Bottom yn gwmni) a chynhyrfu o weld y rhybuddion y byddai corwyntoedd yng Nghaerdydd yn dechrau gwireddu y tu allan.

Ond yn y pen draw, gyfeillion, mi gysgais; cysgu fel nad oedd yfory, fel pe bai’r corwynt yn fy chwythu i wlad breuddwydion ffiaidd, fel pe nas gwelwn drannoeth.

Mi wnes, wrth gwrs, ond i fod yn onest dwi dal ‘di ffwcin blino.

venerdì, novembre 07, 2008

Yr Ail Hoff Gyfnod

Fedra i ddim disgwyl. Ar ôl cyfnod y Chwe Gwlad, nad yw mor bell i ffwrdd â hynny erbyn hyn, cyfnod Gemau’r Hydref yw fy hoff adeg o’r flwyddyn. Does dim yn yr hwn fyd yn fy nghynhyrfu fel rygbi rhyngwladol, dim byd cweit yn rhoi’r un ddogn o nerfau ac eiddgar-ddisgwyl, y cyfnod gwyllt o ddarllen pob darn o wybodaeth am y gêm sydd ar y gweill, y cyfleoedd betio, y wybodaeth y bydda i’n yfed o 11 o’r gloch ymlaen tan oriau mân y bore, yn canu, yn gweiddi, o bosibl bod mewn tymer ffiaidd ryw ben, o bosibl yn fy elfen, a ddim yn gwbl annhebyg o chwydu mewn rhyw gornel yn slei.

Onid wyf y diffiniad o bopeth sy’n iawn a phopeth sy’n ddiffygiol mewn cymdeithas?

giovedì, novembre 06, 2008

Y Nadolig Hwyr a Thân Gwyllt Stalwm

Gwn y cwynais yn gynharach eleni (oedd hi fis yn ôl erbyn hyn, dŵad?) fy mod wedi alaru ar y Nadolig yn dod yn fuan flwyddyn ar ôl blwyddyn. Ond bryd hynny dim ond wedi gweld ambell i beth oeddwn i. I fod yn gwbl onest, dwi’n teimlo bod Dolig eleni wedi dod yn llawer hwyrach na’r arfer. Hynny yw, dwi’n siŵr roedd Cymru’n fwy Nadoligaidd yr adeg hon y llynedd nag ydi hi ar hyn o bryd. Dwi’n iawn?

Hidia befo am hynny, pan ddaw mi ddaw’n llanw (dwi actiwli yn siarad fel hynna ar lafar pan fo’r awydd yn codi, credwch ai peidio).

Ond neithiwr cafwyd noson tân gwyllt. Fel digon o bobl erbyn heddiw, dwi ddim yn meddwl bod methiant i ffrwydro’r senedd a brenin Lloegr yn destun dathlu, ond mi fydda i’n hoffi tân gwyllt. Gan ddweud hynny dwi heb fynd i weld tân gwyllt ar Dachwedd 5ed ers cyn cof, neu gyn coleg yn sicr.

Doedd noson tân gwyllt fawr o hwyl yn Rachub – roedd tua un roced, paced bach o dân gwyllt pitw a’r goelcerth wedi cael ei llosgi gan rywun ymhell cyn y dyddiad dathlu. Arferwn fynd i Fangor fel teulu, ac roedd hynny’n hwyl. Prin yw’r nosweithiau y dônt â’ch plentyndod nôl fel noson tân gwyllt: sŵn y sbarclers, yr olwyn catrin yn mynd yn wallgof, y rocedi mawrion, gwres y goelcerth, arogl bwyd a mwg.

Ychydig fel y Nadolig a phenblwyddi mae’n un o’r pethau hynny nad yw’n ennyn yr un cyffro mwyach, ac eto mor fyw ag erioed.

mercoledì, novembre 05, 2008

Y Collwr Gwael

Fel rhywun sy’n colli’n aml ond yn parhau i fod yn gollwr drwg, os nad milain o chwerw ym maes gwleidyddiaeth, waeth i mi gadw hyn yn fyr. Pob hwyl i Obama – dwi wir yn golygu hynny (er ddim yn siŵr y bydd yn darllen fy ngeiriau) – ond mi gaiff bawb sioc ar y diawl pan fyddant yn sylwi nad y Meseia disgwyledig mohono a ffyc ôl yn newid yn y bôn.

Os bydd Man Utd a Chymru’n colli dros y dyddiau nesaf fyddai’n rili mynd dros ben llestri.