giovedì, dicembre 10, 2009

Uchelgais

Mae’n dweud lot am fy mywyd i mai un o’m huchelgeisiau parhaus yw gweld y gig Meic Stevens nesa’, pan fydd yn perfformio yng Nghaerdydd, cyn iddo ef ei hun fynd i wlad y dall a’r byddar (sydd, yn ôl y sôn, rhywle i’r de o’r A55 ger Conwy). Hoffwn i hefyd flasu foie gras eto. Unwaith dwi wedi’i flasu, ac fe’m hargyhoeddwyd ar fy union mai cam-drin chwïaid ydi’r ffordd i fynd. Fel dywed y Catholigion (nad ydwyf o hyd – fawr o syndod o ystyried y pydew pechadurus sydd imi’n fywyd) rhaid i chi fod yn fodlon dioddef. Yn fy stâd lled-Gatholigaidd rhydd i mi felly newid y mantra i mae’n rhaid i chwïaid fod yn fodlon dioddef.

Lle o’n i? O ia, uchelgais. Dydi pobl uchelgeisiol ddim yn impressio fi, dydi o ddim yn rhywbeth dwi’n ei barchu. Dydi bod yn uchelgeisiol chwaith ddim yn rhywbeth dwi’n ei amharchu – pawb at y peth y bo – ond ‘does gen i fawr o fynadd efo’r holl beth. A dweud y gwir, mae gen i tua’r un faint o uchelgais ag sydd gen i o fynadd.

Dwi methu cweit dallt beth sy’n ddeniadol am uchelgais. Isio mwy o bres, isio’r tŷ mawr yn y wlad, isio sgrîn plasma a char fflash. Dwi o’r feddylfryd, ‘i be?'

Hyd yn oed ymhlith criw o ffrindiau mae ‘na clash digon amlwg rhwng y rhai sydd efo uchelgais, a’r rhai sydd heb, ac mae’n gallu cythryddu’r ddwy ochr, gydag un llwyth yn gweiddi “Dachi’n ddiog!” a’r llall “Dachi’n faterol!”

Dwi’n meddwl o blith rhai pobl dwi’n eu hadnabod, mae smygrwydd mawr o du ambell un di-uchelgais gan nad ydi’r rhai mwy uchelgeisiol wedi cyflawni fawr ddim er gwaethaf eu huchelgais. Tai’m i sôn am hynny neu mi ga’ i ffrae gan rywun. Mae’n llawer well gen i roi ffrae na chael un.

Y clash mawr ydi, wrth gwrs, eiddo a gweithgareddau. Dydi “dwi newydd brynu Ferrari” neu “dwi’n treulio ‘Dolig yn Affrica” (pwy ddiawl fydda isio gwneud hynny wn i ddim myn uffern) ddim am wneud argraff ar rywun fel y fi. Os dywedwch chi hynny, fe ddywedir nôl wrthych eich bod chi’n boring. Dwi byth wedi dallt beth sydd o’i le efo’r agwedd honno ar fod yn boring.

Wyddoch chi hyn yn barod os ydych chi’n darllen yn rheolaidd: car sy’n gyrru, tŷ sy’n ddigon glyd, swydd a chi - daflwn ni dêc-awê a gwin da i’r fargen hefyd – sy’n iawn i greadur fel fi. Y peth olaf y byddwn i isio o fywyd ydi bob amser chwilio am yr her neu’r dasg nesa’ – fyddwn i’n ffendio hynny’n uffernol o ddiflas. Yn wir, fydda i’n ddigon hapus mynd i weld y Creawdwr Mawr ar ddiwedd f’oes yn gwybod nad ydw i weld cyflawni uffar o ddim byd.

Ac, wrth gwrs, mae gweld y dirymyg yn llygaid ambell un uchelgeisiol wrth weiddi hynny’n groch bob amser yn gwneud i mi wenu fel giât!

mercoledì, dicembre 09, 2009

martedì, dicembre 08, 2009

Stori fawr y dydd (sori, Rhodri!)

Dwi’n meddwl ei bod hi’n ofnadwy ar ddiwrnod olaf Rhodri Morgan mai rhywbeth arall sy’n dwyn sylw byd y blogiau, a ddim ryw stori annwyl iawn, ychwaith. Ond, er mae’n siŵr na alla’ i gynnig safbwynt gwahanol, hoffwn o hyd ddweud fy nweud, gan geisio peidio ag ailadrodd unrhyw beth a ddywedyd mewn mannau eraill.

‘Does dwywaith amdani, mae grŵp y Blaid y llai, a grŵp y Ceidwadwyr yn fwy nag erioed. Mae hynny’n ergyd i Blaid Cymru, a taswn i’n Geidwadwr byddwn i’n bur fodlon ar fachu aelod o blaid elynol. Ond, taswn i’n Geidwadwr, Mohammed Ashgar fyddai’r un olaf o grŵp Plaid Cymru y byddwn i am ei ddwyn – ac fel cenedlaetholwr, er nad Pleidiwr pybyr, dwi’n falch mai Ashgar yn fwy nag unrhyw un arall sydd wedi croesi’r llawr.

Mae’r ateb pam yn ddigon syml – mae Mohammed Ashgar yn aelod da i ddim o’r Cynulliad. O ystyried ei berfformiad, mae’n anodd iawn gen i gredu y’i dewiswyd gan aelodau de-ddwyrain y Blaid oherwydd ei allu, wel, ei allu gwleidyddol – mae o wedi dangos ei hun i fod yn ddigon alluog ond nid mewn ffordd dda eithr ffordd ddigon slei ac annymunol. Ta waeth, mae’r dyn yn ofnadwy o flaen camera a dal yn treulio llawer o’i amser fel cyfrifydd.

Y mae ei fynd heddiw yn adrodd cyfrolau amdano ef a hefyd y blaid Geidwadol. Awn ni ddim i hynny – mae’n ddigon amlwg.

Awn ni ddim i sôn am a ddylai ymddiswyddo neu a ddylai trefn y Cynulliad newid. Bydd yr un yn digwydd a ‘sgen i ddim amynedd llunio dadl academaidd dros fy mhanad.

Mae gwers i Blaid Cymru, sef i ddewis aelodau ar allu yn unig – aiff hynny am orfodi merched ar ben y rhestrau hefyd (credaf i hynny ddod i ben rwan?). Gwn y dewisir ymgeiswyr y Blaid yn lleol ac nid yn ganolog, ond o ystyried pa mor ddi-lun ydi Ashgar fedra’ i ddim gweld pam arall y byddai aelodau cyffredin wedi ei ddewis ond am y demtasiwn o gael aelod ethnig cyntaf y Cynulliad dan y faner werdd. Chwarae’r gêm wleidyddol oedd y nod. Mae’r canlyniad yn fwy o own goal.

Os Ashgar oedd y mwyaf galluog, carismataidd, delfrydol o holl aelodau Plaid Cymru y rhan honno o Gymru, dwi’n gadach. Yn amlwg, petai wedi datgan ei farn fel ag y mae wedi heddiw ni fyddai erioed wedi bod yn agos at gael ei ddethol. Dwi’n amau bod rhywun wedi bod rhywfaint yn gelwyddog yn rhywle lawr y lein.

Byddai Ashgar ddim wedi cyrraedd Cynulliad 2011 yn ei sefyllfa gyfredol – dim ffiars. Annhebyg y deuai’n ail eto, heb sôn am gyntaf, ar y rhestr ar ôl ei berfformiad dros y trydydd Cynulliad. Gyda Phlaid Cymru’n targedu’n gwbl realistig Gaerffili ac Islwyn, byddai’n gwneud ei ethol yn llai tebygol fyth. A fyddai rhywun o lwyth mor uchelgeisiol yn fodlon ar hynny, tybed? Na. I lwyddo, roedd yn rhaid gadael. Oni fyddai fod ar restr y Ceidwadwyr yn ffordd dda o gadw swydd dda?

Beth am oblygiadau hynny? Mae’n rhoi cyfle i Blaid Cymru ddewis ymgeiswyr llawer cryfach yn y rhestr – er dwi’n meddwl bod y sïon am Adam Price yn sefyll yno yn hurt bost. Wrth gwrs na fyddai neb wedi dweud y byddai Plaid Cymru yn well heb Ashgar pan oedd yn AC Plaid Cymru, ond i fod yn gwbl onest, dwi’n meddwl ei fod yn gwbl wir.

A beth am y Ceidwadwyr? Anodd gen i gredu y byddai wedi mynd atynt heb ryw fath o addewid o sedd. Nid anodd gor-ddweud pa mor wael y mae hynny’n adlewyrchu ar y Ceidwadwyr. Goblygiadau hynny? Mae’r Torïaid yn sownd gydag aelod aneffeithiol a phur annymunol sy’n rhan o’r gêm wleidyddol er ei fwyn ei hun.

I fod yn deg, o leiaf petai hynny’n wir byddai’n dangos mai Tori ydyw!

lunedì, dicembre 07, 2009

Cynghannedd ddirgel

Prin iawn gysgish i neithiwr. Wyddoch chi fel y mae hi, noson hwyr a chwil nos Sadwrn (yn dwyn leitars pobl eraill – roedd gen i dri ar un pwynt) a rhywun yn dioddef nos Sul.


Fel arfer fedra i ddim cysgu nos Sul eniwe, ond y gwir ydi mae gen i reswm rhesymegol y tro hwn. Gan gyrraedd adra’n hwyr, a gwario ffecin ffortiwn (‘sgynno chdi ddim syniad faint dwi ‘di gwario mis yma) mi o’n i ar ddeffro rhwng deg a hanner dydd cyn penderfynu nad o’n i cweit yn iawn ac y byddai nap bach o les. Erbyn i mi ddeffro drachefn roedd y bydd yn dywyll a phump o’r gloch ar y gorwel.

Es i ddim i gwely tan dri nac i gysgu am o leiaf awr wedyn. Hardcôr dwi; ond dyna f’eglurhad am pam fy mod yn flinedig, rhag ofn eich bod wedi’i ystyried.

Fydda i’n cael e-byst rhyfedd nawr ac yn y man - a dweud y gwir fe gyrhaeddant y mewnflwch yn drist o amlach na negeseuon ar fy nghyfer i yn bersonol. Flynyddoedd nôl cofiaf un gan ryw Albert Jones neu rywun yn rhoi cyfle i mi ennill gwerth 40 pwys o gimwch. Wnes i ddim cystadlu yn y diwedd, a minnau ddim yn gwbl siŵr y byddai 40 pwys o gimwch yn ymarferol ar y pryd.

Ond mi ges un rhyfeddach, os rhywbeth, pythefnos nôl gan rywun o’r enw Myron Evans, ac atodiad ynghlwm yn llawn cynganeddion. Fe’m boncyffwyd, i gyfieithu’n flêr.

Wn i ddim sut y cafodd fy nghyfeiriad na pham yr anfonodd lu gynganeddion i mi. Wedi’r cyfan, alla’ i ddim cynganeddu, felly dwi ddim yn gallu cywiro fawr ddim ohono, dim ond darllen a mynd “Ew”. Nid ymatebais.

Gan ddweud hynny, dwi yn licio pethau randym fel hynna bob nawr ac yn y man, maen nhw’n cadw bywyd yn ddiddorol!

venerdì, dicembre 04, 2009

Mae hi'n Nadolig arnom!

Dyma ryfedd. Bron yn ddi-eithriad, ers blynyddoedd maith, pan fo’r adeg hon o’r flwyddyn ar y gweill dwi’n cael rant am y Nadolig.


Eleni, dwi ddim am, achos ‘does gen i ddim byd i rantio amdano. Dwi’n edrych ymlaen at y Nadolig. Dwi wedi cael i mewn i hwyl yr ŵyl. Dwi’n mwynhau gweld y siopau’n addurniadau, y goleuadau’n ddisglair gyda’r nos a’r ias sydd ar awel y cyfnos. A hefyd y cynnwrf a welir mewn pobl wrth baratoi ar ei gyfer.

Rŵan, alla’ i ddim egluro pam bod hyn wedi digwydd eleni. Gallai fod am nad ydw i wedi bod adra ers dros dri mis ac fy mod yn edrych ymlaen ato. Gallai fod am nad ydw i’n poeni dros bresanta – hynny ydi, mi wn yn union beth dwi am ei gael i bawb, fwy na heb. Er, mi ydw i wedi archebu tocynnau i’m chwaer ar-lein a dwi ddim yn siŵr os ydi’r archeb wedi cael ei phrosesu’n iawn am nad ydw i wedi cael cadarnhad drwy e-bost. Mi jecia i fy natganiad banc heddiw i weld.

Oes, mae ‘na rywbeth braf iawn am weld y Nadolig am y tro cyntaf ers wn i ddim faint heb fy sbectols sinigaidd arferol. Ew, braf fyddai gweld eira am unwaith yn y Nadolig.
Un peth a wnaeth fy nigalonni oedd meddwl am eira a’r Nadolig. Rŵan, dwi’n 24 oed erbyn hyn, â phrif ddyddiau fy ngogoniant y tu ôl i mi, ond dwi’n cofio Nadoligau gwyn pan oeddwn yn fach.
Dydi hyd yn oed nifer fawr o bobl sydd mewn prifysgolion ddim yn cofio hynny bellach – roedden nhw’n rhy ifanc. Mae’n biti bod y Nadolig gwyn yn araf ddiflannu ac yn troi’n fytholeg yn hytrach na’n ffaith, dydi?

Ymhen cenhedlaeth fydd y delweddau sydd yn y cyfryngau o Nadolig gwyn yn raddol ddiflannu hefyd, wrth geisio cyfleu delwedd real i do iau sy’n gwbl ddiarth i’r syniad. Ew, trist ydi hynny hefyd.

Ond tai’m i fod yn sinigaidd am y peth. Na wnaf wir. Wedi’r cyfan, mai’n Nadolig arnom!

giovedì, dicembre 03, 2009

Newidiadau

Helo 'na bawb. Fel y gwelwch mae 'na newidiadau yn mynd i fod yma - dim byd rhy drastig, bydd y cynnwys yn sicr yn parhau o'r un safon isel, ond gan fy mod wedi defnyddio'r un templed ers bron i bedair blynedd, bydd y blog yn mynd drwy ei drydydd gweddnewidiad (mewn saith blynedd a hanner), sydd, o ystyried fy niffyg llwyr o ran sgiliau cyfrifiadurol, o bosibl am gymryd cryn dipyn o amser.

Ta waeth, peidiwch â heglu ffwrdd jyst eto!

mercoledì, dicembre 02, 2009

Faint o'r arweinwyr cyfredol fydd yn y pedwerydd Cynulliad?

Dwi ddim am roi fy marn ar oblygiadau posibl ethol Carwyn Jones ddoe, na chwaith sôn am y dasg enfawr sy’n ei wynebu i adfer Llafur yng Nghymru. Yr oll a fynegwn yw yn fy marn i na fydd yn llwyddo yn y pen draw – er na fyddai un o’r ddau arall wedi ychwaith. Mae cymaint o broblemau gan y blaid mae’n anodd dychmygu Barack Obama a llond basged o blwtoniwm yn llwyddo ei hadfywio.

Ond daeth un meddwl i’m rhan. O’r pedwar arweinydd plaid yn y Cynulliad, dim ond un y gallech chi ei ddweud yn gwbl sicr y caiff ei ethol yn 2011, sef Kirsty Williams. Dydi o ddim y tu hwnt i’r dychymyg y gallai’r tri arall golli eu seddau.

Yn etholiad arweinydd Llafur, dim ond Huw Lewis y gellir dweud â sicrwydd a gaiff ei ethol – fydd neb yn disodli Llafur ym Merthyr yn o handi. Mae mwyafrif Edwina yn llai na 1200 a mwyafrif Carwyn tua 2500, gyda’r Ceidwadwyr yn bygwth yn y ddau. Yn wir, petai Llafur drwy ryw wyrth yn ennill etholiad y flwyddyn nesaf, drwy glymbleidio fwy na thebyg, yna byddwn i’n fwy na pharod i roi bet y bydd y ddau yn colli eu seddau yn 2011. Buddugoliaeth Geidwadol fydd, o bosibl, yn eu cadw rhag y dôl.

Serch hynny, gyda Llafur wedi bod mewn grym yng Nghymru am 12 mlynedd sdrêt yn 2011, dydi hi ddim yn amhosibl y gallai cyfuniad o ymgeisydd cryf a ymgyrch gref gan Geidwadwyr Pen-y-bont lwyddo i ddisodli Carwyn. Mae’n annhebygol, i fod yn onest, ond ymhell o deyrnas amhosibilrwydd.

Plaid Cymru, mae’n debyg, fyddai achubiaeth Nick Bourne, wrth iddi geisio cipio Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, sydd wedi bod yn dalcen caled iddi ers ’99. Gydag Angela Burns yn aelod pur anweladwy a Llafur, mae’n debyg, o hyd ar drai bryd hynny, caiff Plaid Cymru gyfle euraidd arall o gipio’r sedd.

Ond os na wnaiff, beth wedyn? Bydd Preseli Penfro yn aros yn las yn ’11, ‘sgen i fawr o amheuaeth am hynny, ond dydi hi ddim yn amhosibl y bydd y Ceidwadwyr yn cipio Maldwyn wrth y Rhyddfrydwyr. Yn wir, eto, gydag ymgeisydd cryf, ymgyrch dda ac ymddeoliad Mick Bates, byddwn i’n fodlon rhoi bet ar Faldwyn las yn 2011. Cawn weld beth ddigwyddiff y flwyddyn nesaf yn yr etholiad cyffredinol i gael awgrym o’r posibiliadau. Wedi’r cyfan, mae’r mwyafrif Rhyddfrydol yn y sedd Cynulliad yn bell o fod yn un gadarn.

Ta waeth, tasa hynny’n dod i ddigwydd, byddai sefyllfa Nick Bourne ar y rhestr yn fregus iawn. Gyda Jonathan Morgan yn ddarpar frenin Ceidwadwyr Cymru, yn yr hirdymor byddai o fudd iddynt ymwared â Bourne mewn etholiad yn hytrach na coup difrodol mewnol. Ef, bosib, yw’r lleiaf diogel o’r tri.

A beth am Ieuan Wyn ar Ynys Môn? Er gwnaethaf tueddiadau od Môn, y gwir amdani ydi, ac eithrio yn etholiad ’99, dydi Ynys Môn byth wedi bod yn gadarnle i Blaid Cymru. Os na lwyddiff Wylfa 2, a chyda chau Alwminwm Môn, gallai Ieuan Wyn fod mewn perygl – yn yr un modd ag y mae Albert Owen – ond yn arbennig felly os na fydd Peter Rogers yn sefyll.

Mae Ceidwadwyr Môn wedi bod ar chwâl ers blynyddoedd, ond mae hynny’n bennaf oherwydd Peter Rogers. Heb yntau’n rhwystr, a Môn yn Seisnigeiddio yn aruthrol o sydyn (credwch chi fi), mater o amser o bosibl yw hi i Fôn ddychwelyd aelod Ceidwadol ar ryw lefel eto. Gallai 2011 fod yn gyfle gwych – efallai bod gan Ieuan Wyn barch ar yr Ynys, ond mae’r parch hwnnw ymhell iawn o ymestyn at bawb.

Yn wir, pe na bai Adam Price yn y Cynulliad yn 2011 (dwi ddim o’r farn y bydd, yn anffodus), gallai’r cwestiwn o arweinyddiaeth y blaid yn y Cynulliad fod yn faich enfawr ar Blaid Cymru am sawl blynedd. Ni fyddai Ieuan Wyn yn goroesi etholiad gwael yn 2011, chwaith, a heb Adam Price yno ‘does ‘na fawr o neb arall i gymryd yr awennau.

Mewn sefyllfa o’r fath, dwi’n gwybod yn union pa un o aelodau cyfredol y Cynulliad hoffwn innau weld wrth y llyw.

Ta waeth, jyst rhyw feddwl oeddwn i am Gymru wleidyddol 2011 braidd yn fuan. Efallai bod y sefyllfaoedd uwch yn annhebyg, ond amhosib? Ddim yn y lleiaf!

martedì, dicembre 01, 2009

Seddau Casnewydd

Reit, dwi wedi grwpio seddau Casnewydd at ei gilydd, a’r rheswm onest am hyn ydi nad ydw i’n gyfarwydd â dinas Casnewydd, ac mae unrhyw ddadansoddiad y gallaf ei gynnig ar y ddwy sedd yn gyfyngedig iawn. Yr unig dro i mi fod yn y ddinas ei hun oedd adeg ‘Steddfod, ac anwir fyddai dweud i mi gofio fawr ohoni. Yn wir, rhowch wybod i mi os oes unrhyw beth yn y dadansoddiad bach hwn sy’n anghywir neu os anghytunwch – prin iawn y byddwch yn llai hyddysg na mi am yr ardal hon.

Serch hynny, mi geisiaf roi proffwydoliaeth, ond cyn dweud hynny rhaid i mi nodi hyn unwaith eto:

Dwi ddim yn meddwl y bydd y Ceidwadwyr yn gwneud cystal â’r disgwyl yn gyffredinol, a dwi yn ystyried y ffactor hwnnw ym mhob dadansoddiad. Dwi hefyd yn meddwl y bydd Llafur yn gwneud fymryn yn well na’r disgwyl – mae’r polau fel ag y maent ar hyn o bryd yn agosach at yr hyn a gredaf sydd wrthlaw.

Mae hynny’n mynd â ni’n ddigon del at Orllewin Casnewydd, sedd Paul Flynn. Dyma un sedd y mae’r Ceidwadwyr yn obeithiol amdani o leiaf, er ei bod yn anodd gweld pam - wedi’r cyfan, enillasant yma ddiwethaf yn ’83, gyda mwyafrif tila. Yn wir, ers ’92 dydyn nhw heb â bygwth cael traean o’r bleidlais mewn difrif. Os edrychwch ar ganlyniadau’r sedd dros y degawd diwethaf, mae’r gwymp yn y niferoedd sy’n pleidleisio wrth gwrs wedi effeithio ar Lafur, ond mae’r bleidlais Geidwadol hefyd wedi cyrraedd rhyw fath o ‘plateau’ – ffordd posh o ddweud segura.

Mae Paul Flynn hefyd yn aelod digon poblogaidd sy’n gweddu’r fath sedd, a dwi’n meddwl y gallai ei lais ystyfnig o annibynnol mewn llywodraeth amhoblogaidd fod o fudd iddo. Na, ‘does ganddo syniad o faterion cefn gwlad, ac mae ‘na ambell un yn y blogsffer Cymraeg ddim yn or-hoff ohono, ond cofiwn yr ardal y mae’n ei chynrychioli.

Yn ogystal â hynny, y duedd ddiweddar yn yr arolygon barn yw bod Llafur yn crafu’n ôl fymryn. Peth dros dro fydd hynny, mi gredaf, yn hytrach na thuedd at yr etholiad cyffredinol, ond mae’n profi bod llygedyn o obaith gan Lafur os bydd yn mabwysiadu tacteg amddiffynnol yn yr etholiad, am senedd grog, o leiaf. Er, mae’n dweud llawer mai dyma’r math o sedd y dylent bellach ei hamddiffyn.

Ni ddylai Llafur ddiogi, wrth gwrs. Etholiad diwethaf yr etholaeth oedd ’07 i’r Cynulliad, ac roedd yr 8,181 o bleidleisiau a gafodd y Ceidwadwyr y flwyddyn honno yn ganlyniad hynod o dda iddynt. Os cymerwn hynny’n isafswm pleidleisiau digon tebygol yn 2010, mae gan Lafur broblem. Ddyliwn ni ddim ychwaith anghofio i’r Ceidwadwyr gael etholiadau cyngor llwyddiannus yn y sir yn 2008, ac yn wir ennillwyd y sedd ganddynt yn Etholiadau Ewrop eleni. Ond dwi dal heb fy argyhoeddi.

Yr hyn sydd yn sicr ydi os bydd y Ceidwadwyr yn ennill yma, fel gydag ambell sedd, mi fyddan nhw’n cael etholiad llwyddiannus yng Nghymru – mae’n un o’r llond dwrn o seddau fyddai’n dangos p’un a ydynt wedi ail-gyrraedd uchafoedd 1983. Y peryg mawr i Lafur, fel bron bobman yng Nghymru, ydi bod y niferoedd sy’n pleidleisio yn gostwng yn is – bryd hynny gallai fil neu ddwy o bleidleisiau yn ychwanegol i’r Ceidwadwyr wneud hon yn ras agos iawn.

Er gwaethaf popeth, dwi ddim yn meddwl y bydd gan y Ceidwadwyr y ‘filltir ychwanegol’ honno ynddynt i ennill y sedd y tro hwn – er dwi’n siŵr y gallai 2011 fod yn un ddiddorol.

Proffwydoliaeth: Buddugoliaeth o 1,000 – 2,000 i Paul Flynn a’r Blaid Lafur.

Beth am Ddwyrain Casnewydd? Mae’r rhan hon o’r ddinas fymryn yn fwy diddorol yn fy marn i. Ar ôl ei chreu ym 1983 fu hi fyth allan o reolaeth Llafur. Ar lefel San Steffan, unwaith y mae Llafur wedi cael llai na 40%, sef 39.6% ym 1983 ei hun, pan oedd y Democratiaid Cymdeithasol ar eu hanterth. Fodd bynnag, nid y Ceidwadwyr ydi’r prif elynion yma, eithr y Democratiaid Rhyddfrydol – yn ystadegol bur, o leiaf.

Ar lefel y cyngor, dydi cynnydd y Rhyddfrydwyr heb ag efelychu llwyddiannau mewn dinasoedd eraill fel Wrecsam, Abertawe ac wrth gwrs Caerdydd. Fodd bynnag, daeth y blaid o fewn ychydig gannoedd i gipio’r sedd yn etholiadau’r Cynulliad, a thua 200 o bleidleisiau i’w hennill yn etholiadau Ewrop. Maen nhw’n sicr ar gynnydd yma.

Fodd bynnag, yn 2005 roedd mwyafrif y blaid Lafur a phleidlais y Rhyddfrydwyr yn ddigon tebyg. Hynny yw, yn San Steffan, mae gan y Rhyddfrydwyr fynydd i’w ddringo. Megis sedd y gorllewin, petae’r Rhyddfrydwyr yn ennill dwy neu dair mil yn ychwanegol o bleidleisiau ac ambell Lafurwr yn peidio â phleidleisio, gallai fod yn agos.

Ond prif elynion Llafur yn yr etholiad ydi’r Ceidwadwyr, ac mae rhywun yn gallu llawn ddychmygu i’r Ceidwadwyr ddenu pleidleisiau wrth y Rhyddfrydwyr y flwyddyn nesaf – wedi’r cwbl, ‘doedd ‘na ddim 100 o bleidleisiau rhwng y ddwy blaid yn 2005. Mewn etholiad y mae disgwyl i’r Ceidwadwyr ei ennill, mae’n annhebygol hefyd y gwelwn lu o bleidleisiau gwrth-Lafur gan bleidleiswyr Ceidwadol – hynny yw, dydyn nhw ddim yn rhy debygol o daro pleidlais dros rywun arall i ymwared â Llafur, aiff eu pleidlais i’r Ceidwadwyr. Wedi’r cyfan, maen nhw’n gwybod bod llygedyn o obaith gan eu plaid hwy yma, os nad i ennill i ddod yn ail da.

Mewn sedd lle mae’r bleidlais Ryddfrydol a’r bleidlais Geidwadol mor debyg, gallai brwydr frwd rhwng y ddwy blaid i gipio’r etholaeth fod o fantais i Lafur.

Yma, fe fydd yn anodd i unrhyw un ymwared â Llafur. Mae’r Rhyddfrydwyr yn llawn gallu sicrhau gogwydd o dros 10% mewn isetholiadau yn draddodiadol (er bod eu record ddiweddar yn ddigon pathetig), ond mewn etholiadau seneddol dydi’r fath ogwydd ddim yn digwydd yn aml; mae’n anodd gen i weld Dwyrain Casnewydd yn torri’r mowld. Yn wir, dwi’n dueddol o feddwl yn y cyd-destun gwleidyddol sy’n bodoli mai’r Ceidwadwyr fyddai fwya’ tebygol o allu gwneud hynny yma.

A welwyd anterth Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn 2005? Wn i ddim; peth ffôl yw cymryd hynny’n ganiataol. A fydd y Ceidwadwyr yn llwyddo fel y gwnaethant yn ’83? Annhebygol, ond nid amhosibl. A ydi’r un ohonynt yn gallu denu digon o bleidleisiau wrth y llall a hefyd y blaid Lafur i ennill yma?

Na.

Proffwydoliaeth: Mwyafrif o tua 4,000 i Lafur.