mercoledì, marzo 10, 2010

Dirywiad parhaus S4C

Bydd rhai ohonoch yn ymwybodol o’r stori hon, ac eraill ddim, ond os nad ydych cymerwch bum munud i’w darllen. Dwi’n ei ffendio’n digon brawychus. Os ydi’r Llew neu Rhodri yn darllen, dim dyma’ch math chi o beth, felly waeth i chi stopio darllen rŵan a mynd i wefan y BBC neu rywbeth.

Yn gryno mae’n sôn am nifer y bobl sy’n gwylio S4C, ac mai dim ond 16% o raglenni’r sianel sy’n denu dros 10,000 o wylwyr a bod rhai o’r rhaglenni mwyaf aflwyddiannus o ran nifer y gwylwyr yn rhaglenni plant.

Dylai hyn fod o ddirfawr bwys i unrhyw un sy’n meddwl bod gan y sianel gyfraniad pwysig i’w wneud – ond mae’n anodd i’w chefnogwyr selocaf gyfiawnhau ei chyllid o £100m gan y llywodraeth o ystyried y ffigurau gwylio. Mae’n cryfhau unrhyw ddadl dros dorri ei chyllid, neu hyd yn oed ei diddymu, yn aruthrol. Dydi’r ffaith bod mwy o bethau nag erioed o’r blaen i’w gwneud, fel y rhyngrwyd neu’r lleng o sianeli eraill a gynigir, ddim yn eglurhad digonol, mae arna’ i ofn.

Mae’n gosod y ddadl i ni sydd o’i phlaid ar seiliau gwan iawn. Dyna’r realiti.

Mae hyn yn rhywbeth sydd wedi dod yn gynyddol amlwg dros y blynyddoedd, ond y gwir ydi bod mawrion S4C wedi bod yn ddigon hapus anwybyddu’r broblem – wedi’r cyfan, mae ganddyn nhw gyflogau anhaeddiannol o fras felly pam y dylen nhw boeni? Mae’r byd yn newid, ‘does gan S4C ddim gwylwyr sy’n gwylio’r sianel allan o ffyddlondeb. Bellach, rydyn ni isio rheswm i’w gwylio. Pam blydi lai?

A pham bod y ffigurau gwylio mor isel felly?

O ran Cyw, dwi’n meddwl ei fod yn wasanaeth da, ond faint o rieni Cymraeg sydd wedi hyd yn oed clywed amdani mewn difrif? Ddim digon. A oes ymdrech digonol yn cael ei wneud i hysbysebu’r gwasanaeth ymhlith rhieni di-Gymraeg sydd â phlant mewn ysgolion Cymraeg? Mae’n rhaid mai ‘na’ ydi’r ateb.

Teimlaf fod gormod o chwaraeon ar adegau. Mae hynny’n wrthun i nifer o’r gwylwyr selocaf. Wrth gwrs, mae gan Y Clwb Rygbi a Sgorio eu lle, ond ydi pethau fel Ralio a Golffio yn haeddu eu lle? A dywedais gyda Sgorio ambell bost nôl, mae gan y rhaglen honno ddigon o broblemau.

Y broblem fwyaf ydi bod S4C yng nghanol yr wythnos yn ddiflas, o mor ddiflas o undonog. Rhaid cael newyddion ond tybed a fyddai’n well cael y newyddion am 7 o’r gloch – dwi’n meddwl byddai pobl yn fwy tebygol o’i wylio bryd hynny. Wedi’r cyfan, bydd pobl sydd am wylio newyddion Cymru wedi gwylio Wales Today ac ITV Wales yn lle disgwyl hanner awr neu awr yn ychwanegol am y newyddion. Yn ei dro, dwi’n meddwl y byddai 7.30 yn slot gwell i Wedi 7.

Mae ffigurau Pobol y Cwm wedi dirywio ond ydi rhywun yn synnu? Neges i S4C: MAE POBOL Y CWM BUM GWAITH YR WYTHNOS YN LLAWER GORMOD. Byddai pedair, neu hyd yn oed dair rhaglen, yn hen ddigon. Yn ddelfrydol, dwi’n meddwl byddai tair am hanner awr yr un yn iawn yn lle pum rhaglen 25 munud o hyd. Mae’r gormodedd yn gwneud i bobl fel fi, a fyddai efallai yn dueddol o wylio nawr ac yn y man, fyth gwylio.

Wn i ddim beth fyddai pobl am ei weld am wyth yn lle PyC, rhaid gofyn iddyn nhw. Dydi S4C heb â chael cwis da ers talwm, beth amdani? Neu beth am rywbeth gwirion ar hyd llinellau rhaglen lwyddiannus ar y BBC fel Total Wipeout os ydi’r cyllid yno? Rhywbeth sydd am roi gwên ar wynebau pobl. Os nad ydi’r cyllid yno, gwnewch gyllid. O’r cyflogau uchaf, am un peth.

A’r diffyg mawr, mawr ar S4C ers blynyddoedd: comedi da. ‘Sdim angen rhoi rhybudd o ‘beth iaith gref’ ar ôl y Watershed, S4C, i’r diawl â’r lol ‘na. Wnes i ddim licio ‘Ar y Tracs’ – gas gen i bobl yn gwneud allan bod Cymry Cymraeg yn siarad Cymraeg yn waeth nag y maen nhw mewn difrif, a bod hynny’n grêt, mae’n fy nghorddi – ond mi wnaeth ddigon o bobl ei hoffi dwi’n siŵr. Rhaid bod ‘na dalent ysgrifennu comedi da yng Nghymru yn Gymraeg. Ewch amdani.

Mae Nain yn un o selogion y Sianel, ond mae hi’n dweud ei bod yn warthus erbyn hyn. Ymhen y pump i ddeng mlynedd nesaf bydd y selogion wedi diflannu’n llwyr drwy draul amser. Ydi mawrion S4C yn barod i gydnabod hynny, i fynd i’r afael yn yr her o ddifrif?

Yn anffodus, dwi’n amau mai ‘na’ pendant ydi’r ateb, ac y bydd y Sianel yn parhau i ddirywio.

martedì, marzo 09, 2010

Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr

Oni fo gennych filiynau yn y banc, byddwn i ddim yn awgrymu i chi roi bet ar Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr eleni. Mewn ambell fan, cewch odds o 1/200 ar Blaid Cymru yn ennill yma – sef i guro punt rhaid i chi osod £200 i lawr. Os ydych chi am ennill tenar bydd angen £2,000 yn sbâr arnoch.

Ond mae’n ddigon rhyfedd hynny, oherwydd dim ond ychydig dros ddegawd yn ôl roedd yr ardal hon yn dalcen caled iawn i Blaid Cymru. Er gwaethaf ymdrechion lu gan bobl fel Gwynfor a Hywel Teifi Edwards, arhosai’r sedd yn nwylo Llafur rhwng 1983 a 2001 (ar ffurf Caerfyrddin cyn 1997), gyda Phlaid Cymru ddim yn bygwth mewn gwirionedd. Gellid yn bennaf briodoli hyn i ardaloedd hynod Gymraeg Cwm Gwendraeth a Dyffryn Aman - ardaloedd ôl-ddiwydiannol Llafur, nid yn annhebyg o gwbl i ardaloedd fel Dyffryn Ogwen a Dyffryn Nantlle yn y Gogledd.

Ar ei ffurf bresennol, dydi’r Ceidwadwyr na’r Democratiaid Rhyddfrydol yn fath o rym – maent yn dueddol o ennill tua 20% o’r pleidleisiau rhyngddynt ar lefel San Steffan ac ar lefel y Cynulliad. Na, dydw i ddim am wastraffu geiriau yn eu trafod fan hyn, mae arnaf ofn, er fy mod mi gredaf yn gywir i ddweud bod pleidleisiau digon pendant i’r Ceidwadwyr yma.

Yn ôl ym 1997, roedd yn bur anochel y byddai Llafur yn cadw sedd y daliai i bob pwrpas. Cafodd Llafur bron i 18,000 o bleidleisiau, gyda Phlaid Cymru dim ond tair mil a hanner y tu ôl. Er mai dyma oedd unig wir darged Plaid Cymru y flwyddyn honno, prin ei bod disgwyl buddugoliaeth yma.

Ond mae’n rhaid cofio mai 1997 ydi’r unig dro i Lafur ennill yma. Heb amheuaeth, y rhan hon o Gymru welodd y gweddnewidiad sylfaenol mwyaf yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Aeth o fod yn ardal Lafur, i fod yn ardal Plaid Cymru. Dyna ddechrau a diwedd arni.

Beryg mai etholiadau’r Cynulliad oedd y sbardun. Enillodd Plaid Cymru gyda 17,328 o bleidleisiau i 10,348 Llafur – mwyafrif parchus o 6,980. Pwy enillodd? Wel, nid y mab darogan, Adam Price wrth gwrs, ond Rhodri Glyn Thomas. Am ba reswm bynnag, dechreuodd y newid mawr cyn cyfnod Adam Price. Gyda 61% yn pleidleisio y flwyddyn honno, roedd yn fuddugoliaeth gyfforddus.

Yma cafodd y Blaid ei hunig wir lwyddiant yn 2001 – y tro hwn gydag Adam Price ei hun ar ogwydd o 7.5%. Disgynnodd y bleidlais Lafur bron i dair mil a hanner, er mai o lai na dwy fil gododd pleidlais Plaid Cymru. O edrych yn ôl, tueddaf i feddwl y gallai unrhyw un fod wedi ennill y sedd i’r Blaid y flwyddyn honno (o fewn rheswm), ond roedd yn bwysig efallai cael rhywun o Ddyffryn Aman. O gael cymeriad mor gryf ar ffurf Adam Price, bryd hynny o ddifrif drodd yr ardaloedd hynny o Lafur at y Blaid.

Serch hynny, ar lefel y Cynulliad, parhaodd Rhodri Glyn i greu argraff yn lleol, heb amheuaeth. Prin yr oedd cwymp erchyll Plaid Cymru yn 2003 i’w theimlo yn Ninefwr – dychwelwyd Rhodri Glyn yn hawdd.

Ac yn yr etholiad diwethaf ar lefel San Steffan, 2005, cynyddodd Adam Price ei fwyafrif i 6,700 (17.5%). Mae hynny’n golygu, ers 1997, fod y gefnogaeth i’r Blaid wedi cynyddu o 3,104 (+11.3%) o bleidleisiau, a Llafur wedi gostwng 7,064 (-14.6%). Mewn termau real, mae hynny’n cynrychioli cynnydd o dros ugain y cant i Blaid Cymru, ond gostyngiad anferthol o 39% ym mhleidlais y Blaid Lafur.

Yn 2007, cafodd Plaid Cymru ei chanlyniad gorau erioed yma. Er i’r Blaid lwyddo gael bron i hanner y bleidlais y tro diwethaf cafwyd gogwydd o bron i 6% yn erbyn y Blaid Lafur. Disgynnodd y bleidlais Lafur yn ei thro i lai na chwarter. Rhaid nodi, fodd bynnag, er bod canran Plaid Cymru yn uwch nag erioed, roedd y nifer o bleidleisiau a gafodd yn llai nag mewn ambell etholiad. Serch hynny, gyda mwyafrif o 8,469 o bleidleisiau, mae Rhodri Glyn Thomas bellach yn ddeiliad ail sedd fwyaf diogel Cymru ar lefel y Cynulliad.

Ac er gwybodaeth, cafodd y Blaid 38% o’r bleidlais yma yn 2009 i 15% Llafur – yn wir, daeth Llafur ddau gant o bleidleisiau y tu ôl i’r Ceidwadwyr.

Felly, er diddordeb, ac eithrio Etholiadau Ewrop 2004 oherwydd diffyg data, ar gyfartaledd dyma’r ganran y mae’r ddwy blaid wedi’i chael dros y tair blynedd ar ddeg diwethaf:

Plaid Cymru 46%
Llafur 29%

Ar lefel San Steffan, mae Plaid Cymru’n ennill y frwydr 41% i 36% (bwlch o 5%); ac ar lefel y Cynulliad o 52% i 29% (bwlch o 23%). Y gwir ydi, dydi Llafur heb ddod yn agos at gael lefel y gefnogaeth a gafodd ym 1997.

Y ffaith fawr, fel y gwyddoch, ydi bod Adam Price yn sefyll i lawr, ond oherwydd ei waith caled mae’n annhebygol y bydd ei ymadawiad yn cael effaith fawr ar y canlyniad. Yn gryno, ni fydd Llafur yn adennill Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr a hynny oherwydd pedwar ffactor. Yn gyntaf, mae’r darpar ymgeisydd Jonathan Edwards yn ymddangos fel rhywfaint o carbon copy o Adam Price ac wedi gweithio’n agos gydag o am flynyddoedd – maen nhw’n debyg o ran eu daliadau a hefyd eu cefndiroedd. Ymddengys yn ymgeisydd cryf ac addas.

Yr ail ffactor ydi mai Christine Gwyther sy’n sefyll ar ran Llafur. Roedd hi’n eithaf camp i Lafur ddewis un gyn-ddarpar ymgeisydd a oedd yn “casáu’r Cymry Cymraeg” cyn mynd ati i ddethol un nad yw’n siarad Cymraeg. Gyda 72% yn honni bod ganddynt sgiliau yn y Gymraeg yma, roedd hynny’n ddewis dwl o’r cychwyn cyntaf. Y trydydd ffactor ydi bod Llafur wedi bod ar drai enfawr yn y rhan hon o Gymru am y nesaf peth i ddegawd, a ‘does dim math o arwydd bod y broses honno am wrthdroi.

Yn allanol, mae Llafur yn honni bod yn hyderus yma ond fe ŵyr pawb call nad dyna’r achos. Heb Adam Price dylent wneud yn well, byddai dyn yn tybio, ond am y pedwerydd ffactor. Mae Rhodri Glyn wedi profi nad oes angen i rywun fod yn Adam Price i ennill y sedd hon (a dwi’n dweud hynny heb olygu unrhyw amharch at Rhodri Glyn!). Yn wir, mae mwyafrifau Rhodri Glyn wedi bod yn rheolaidd fwy na mwyafrifoedd Adam Price, er wrth gwrs mae’r ffaith ei fod yn wleidydd Cynulliad o fudd iddo o ran hynny. Eto, mae’n dyst i’r ffaith mai newid sylfaenol, nid cwlt personoliaeth nag atyniad unigolyn, ydi’r hyn sy’n sail i lwyddiant Plaid Cymru yma.

Credaf yn gryf eleni y bydd Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn troi o fod yn sedd Plaid Cymru i fod yn gadarnle Plaid Cymru.

Proffwydoliaeth: Plaid Cymru i ennill y sedd gyda thros hanner y bleidlais.

lunedì, marzo 08, 2010

Caerffili

Y flwyddyn nesaf, bydd Caerffili wirioneddol yn un o seddau’r Cymoedd y bydd dyn yn cadw llygad arni. Mae’n un o’r seddau hynny y mae Plaid Cymru wedi sefydlu ei hun fel prif wrthwynebydd y Blaid Lafur, ond er gwaethaf hen hanes isetholiad 1968 ac un tro gweddol agos yn y Cynulliad, dydi Plaid Cymru byth wedi llwyddo i ennill yr etholaeth ar unrhyw lefel.

Fel mewn ambell le, y Ceidwadwyr ddaeth yn ail yma ym 1997, fymryn ar y blaen i’r Blaid. Arferai’r Ceidwadwyr yn mynych gael bron i ugain y cant o’r bleidlais yn y sedd, ond nid ers 1992. Cafodd Llafur bron i 70% o’r bleidlais ym 1997 gyda mwyafrif o 57%.

Collodd bron i 8,000 o bleidleisiau yn 2001 wrth i Blaid Cymru bron â dyblu ei phleidlais hi. Cafodd 21% o’r bleidlais y flwyddyn honno – gogwydd o 10%. Fyddai hynny byth yn hanner digon, wrth gwrs. Y gwir ydi, mae Caerffili yn ardal gadarn i Lafur.

Erbyn 2005, dechreuodd y Ceidwadwyr adennill cefnogaeth, gan sicrhau 5,711 o bleidleisiau, wrth i Blaid Cymru ddirywio o ychydig dros wyth mil i 6,831. Gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol ymhell y tu ôl, llwyddodd Llafur o hyd ennill dros 22,000 o bleidleisiau, dim ond mymryn bach yn llai na 2001. Cynyddodd ei mwyafrif i 39%.

Felly o edrych ar dair prif blaid Caerffili, dyma’r gwahaniaeth o ran pleidleisiau a’r ganran o’r bleidlais a gafwyd rhwng 1997 a 2005.

Llafur -8,100 (-11.2%)
Plaid Cymru +2,448 (+7.7%)
Ceidwadwyr +853 (+3.9%)

Felly rhwng 1997 a 2005, cafwyd gogwydd cryf at Blaid Cymru, yn hynny o beth nid oes dwywaith. I raddau yn unig y mae’r Ceidwadwyr wedi cynyddu eu pleidlais, ond mae Plaid Cymru yn sicr wedi atgyfnerthu – efallai nid yn ddigon sylweddol o ran nifer y pleidleisiau, ond o ran canran y bleidlais a gafwyd mae hi bellach yn ail blaid gadarn. Mae union bleidlais Llafur wedi gostwng tua chwarter.

Ar hyd yr un llinellau, dyma’r hanes ar lefel y Cynulliad rhwng 1999 a 2007.

Llafur -3,576 (-9.6%)
Plaid Cymru -3,002 (-8.4%)

‘Does ‘na ddim hyd yn oed pwynt i mi sôn am y Ceidwadwyr na’r Rhyddfrydwyr. Yn rhyfeddol, mae dirywiad y ddwy brif blaid yma wedi bod yn ddigon cyfartal. Yn wir, gwnaeth y Blaid yn waeth yma yn 2007 nag yn 2003 - sy’n dweud rhywbeth. Y rheswm, wrth gwrs, oedd i Ron Davies sefyll ar docyn annibynnol gan ennill bron i chwarter y bleidlais. Allwn ni ddim, mewn difrif, ddarogan beth fyddai wedi digwydd pe na bai wedi sefyll - mae’r honiadau lu mai Plaid Cymru fyddai wedi ennill yng Nghaerffili yn llwyr ddiystyru’r Llafurwyr a bleidleisiodd iddo. Yn fy marn i, byddai pethau wedi bod yn agosach, ond ddim cweit digon i’r Blaid ennill yma.

O gael y ffigurau o’r ffordd, gallwn ddadansoddi fymryn yn fwy. Yn 2008 enillodd Plaid Cymru yn hawdd yma yn etholiadau’r cyngor. Cafodd 10% yn fwy o bleidleisiau na Llafur, a mwyafrif o’r seddau. O wneud ambell sỳm, mae’n debyg mai tua 12,000 - 13,000 o bobl fwriodd bleidlais i Blaid Cymru, gydag ychydig dros ddeng mil yn gwneud yr un fath i Lafur. Gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol a’r Ceidwadwyr prin yn cystadlu, ac aelodau annibynnol ddim yn cael effaith fawr, llwyddodd y Blaid i gronni’r bleidlais wrth-Lafur.

Prin y gall gwleidyddiaeth leol ddweud gormod wrthym am ganlyniad eleni, ond o gael mwy o gynghorwyr gall unrhyw blaid gynnal ymgyrch yn haws. Heb amheuaeth, mae cael nifer o gynghorwyr mewn etholaeth yn sail gadarn i ddechrau targedu sedd seneddol. Mae gan Blaid Cymru fwy o’r rheini na Llafur yng Nghaerffili.

Yn olaf, Etholiadau Ewrop – pob plaid dros 10%:

Llafur 25%
Plaid Cymru 22%
Ceidwadwyr 14%
UKIP 12%

Ychydig gannoedd ddaeth Plaid Cymru y tu ôl i Lafur, ond byddai peidio â churo Llafur yma wedi bod yn siom enfawr iddi o ystyried ei chryfder lleol. Heb UKIP, gallai fod wedi bod yn ras deirffordd, bosib. Credaf y byddai Llafur wedi cael rhyddhad o ennill yma. O ystyried fy symiau o ran y cyngor lleol, roedd y bleidlais Lafur tua 6,000 yn is nag yn 2008, gyda’r bleidlais genedlaetholgar tua deng mil yn is.

Ond mae’n 2010 rŵan. Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol, unwaith eto, yn aflwyddiannus iawn yma – ‘does ‘na ddim bwlch iddyn nhw ei lenwi. O ran y Ceidwadwyr, mae’n anodd eu gweld yn llwyddo cipio’r ail safle wrth Blaid Cymru, ond mae cefnogaeth Geidwadol yma. Fel Pontypridd i raddau, mae Caerffili yn gynyddol droi’n ardal sy’n faestref i Gaerdydd, yn rhywle i gymudwyr fyw. Y Blaid Lafur sy’n dioddef yn sgîl hynny, ond mae dyn yn amgyffred mai’r Ceidwadwyr fyddai’n elwa fwyaf. Gall y Ceidwadwyr ragori ar berfformiad 2005 o ambell fil.

Bydd UKIP yn sefyll yma eleni, ond dwi ddim yn rhagweld yma y bydd yn effeithio gormod ar y Ceidwadwyr.

Mae gan Blaid Cymru dasg fawr o’i blaen – ni fydd cadw’r ail safle yn hawdd, ond o ystyried yr ychydig ganlyniadau diwethaf dylai wneud – petawn yn Blaid Cymru byddwn i’n gobeithio ennill tua 9,000 o bleidleisiau yma eleni. Dydw i ddim yn gwybod, mewn gwirionedd, i ba raddau y bydd cefnogaeth Ron Davies i Lyndsey Whittle yn effeithio ar bleidlais y Blaid, ond all hi ddim ond bod yn dda.

Os na fydd Plaid Cymru yn gwneud yn dda yng Nghaerffili, dylai cwestiynau dwys gael eu gofyn. Gellir dadlau bod ei seiliau yng Nghaerffili yn gryfach nag unrhyw ran arall o’r Cymoedd ac mae’n rhaid iddi ddechrau trosi hynny’n bleidleisiau mewn etholiadau Prydeinig a chenedlaethol.

Beth am Lafur? Yn onest, dydi’r mwyafrif o 15,000 ddim mewn perygl o ddiflannu - ni chaiff Plaid Cymru y gogwydd angenrheidiol o 20% ychwaith. Fel mewn cymaint o seddau Llafur diogel, mae’r cyfan yn dibynnu ar faint o bobl a fydd yn cyboli pleidleisio. 59% wnaeth y tro diwethaf.

Fel yr wyf wedi dweud o’r blaen, dydi’r polau fawr o ddefnydd i ni mewn seddau fel hyn – Llafur cadarn, Plaid Cymru’n ail pell. Yn sicr, dylai’r Ceidwadwyr atgyfnerthu y tro hwn, ond alla i ddim smalio gwybod o ba gyfeiriad y daw eu pleidleisiau ychwanegol.

Yn y pedwar etholiad diwethaf (2005-2009) mae Plaid Cymru wedi cael, ar gyfartaledd, tua 29% o’r bleidlais a Llafur hithau tua 38%. Felly y duedd ydi bod y cenedlaetholwyr ar gynnydd a Llafur ar drai.

O gael 56% o’r bleidlais y tro diwethaf, dydi hi ddim y tu hwnt i’r dychymyg meddwl y gallai Llafur lithro is yr hanner cant. O ystyried yr etholiadau diwethaf, dydi hi ddim yn anochel chwaith dychmygu Plaid Cymru yn cyrraedd yr ugain y cant eto. Dydi Llafur ddim yn ymladd nôl ar lawr gwlad, cofiwch – yn fy marn i – dim ond yn y polau piniwn. Mae pobl bellach yn fodlon dweud eu bod yn pleidleisio i Lafur, ond mae o hyd yn ddirywiad o 2005, a bydd y dirywiad hwnnw mi gredaf yn waeth yng Nghymru na’r unman arall.

Beth petai gogwydd uniongyrchol o Lafur i Blaid Cymru ar yr un raddfa â 2001 – deg y cant yn union? Ddim yn amhosibl o gwbl o ystyried hanes etholiadol yr ardal dros y blynyddoedd diwethaf – ond i wneud pethau ychydig yn fwy realistig beth am gynyddu pleidlais y Blaid 9% a gostwng y bleidlais Lafur 11%. Ystyriwn hefyd y bydd yr un nifer o bobl yn pleidleisio. Dyma’r canlyniad damcaniaethol:

Llafur 18,000 (46%)
Plaid Cymru 10,200 (26%)
Mwyafrif: 7,800 (20%)

Dwi ddim wedi fy llwyr argyhoeddi gan yr uchod. Wedi’r cwbl, dydi’r Blaid heb heibio’r deng mil mewn etholiad cyffredinol (na chynulliad). Byddai’n rhaid gwybod gan ymgyrchwyr llawr gwlad i wybod a ydi hynny’n bosibilrwydd. Yn sicr, dydi hi ddim yn amhosibl y bydd Llafur is yr 20,000, ac os felly, Plaid Cymru ddylai elwa fwyaf.

Y gair pwysig, wrth gwrs, ydi ‘dylai’! Dwi ddim yn disgwyl i’r Blaid gyrraedd y nod 10,000 a dwi’n disgwyl y bydd y Ceidwadwyr yn rhesymol agos at gipio’r ail safle.

Proffwydoliaeth: Llafur i ennill gyda mwyafrif 8,000 – 10,000.

venerdì, marzo 05, 2010

Mynwy

Mae ‘na lond dwrn o seddau yng Nghymru y byddent yn Geidwadol doed â ddêl ond am y ffaith eu bod yng Nghymru. Un sedd yn unig sydd o ddifrif yn wahanol i’r duedd honno a’r sedd honno yw Mynwy. Mae’r sedd yn fwy llewyrchus na’r rhan fwyaf o Gymru, a byddai rhai yn dadlau mai dyma’r rhan leiaf ‘Cymreig’ o Gymru hefyd, o ran ei naws a hefyd yn ieithyddol. Mewn arolwg o blant ysgol a holodd am eu cenedligrwydd, etholaeth Mynwy oedd â’r ganran uchaf yr ystyriasant eu hunain yn Brydeinwyr - dros 55%.

Gan ystyried hynny, allwn ni ddim ond am ddiystyru Plaid Cymru. Yn draddodiadol, dyma ei sedd wannaf yng Nghymru. Dydi’r Blaid byth wedi cadw ei hernes, byth wedi dod yn uwch na’r pedwerydd safle yn y Cynulliad, ac yn isetholiad 1991 cafodd un o’i chanlyniadau gwaethaf erioed - daeth yn bumed gyda 277 o bleidleisiau, safle’n is na’r Monster Raving Looney Party.

Os ydi rhywun yn meddwl bod gan Blaid Cymru gyfle o ennill ym Mynwy eleni, fwy na thebyg eu bod eisoes yn aelodau’r MRLP!

Dydi’r Democratiaid Rhyddfrydol fawr o rym yma chwaith. Cânt tua 10% - 15% o’r bleidlais yn fynych yn y Cynulliad ac yn San Steffan a hefyd yn etholiadau Ewrop eleni.

Hwyl fawr i’r ddwy hynny felly. Er mai Ceidwadol ei naws ydi Mynwy, mae pocedi o gefnogaeth Lafuraidd yma – ardaloedd megis Croesyceiliog sy’n ffurfio rhan o Sir Torfaen yn hytrach na Sir Fynwy, ond sy’n rhan o’r sedd hon.

Yn gyffredinol, fodd bynnag, dydi’r blaid Lafur ddim yn llwyddo ym Mynwy oni fo pethau’n mynd o’i phlaid yn sylweddol. Enillodd yma ym 1966, pan lwyddodd ennill ei chanran uchaf erioed o’r bleidlais yng Nghymru, a phob un ond am bedair sedd, ac eto ym 1997 ym mlwyddyn waethaf erioed y Ceidwadwyr yng Nghymru a thu hwnt.

Y rhesymeg felly ydi er mwyn i Lafur ennill ym Mynwy, rhaid iddi lwyddo’n ysgubol ledled Cymru. Dwywaith mewn hanes lled-ddiweddar y mae Llafur wedi ennill dros 20,000 o bleidleisiau, pan gollodd yma ym 1992 a phan enillodd ym 1997. Ar y llaw arall, mae’r Ceidwadwyr yn mynych gael 20,000 o bleidleisiau yn y sedd, ac mae’n anodd eu gweld yn cael llai na hynny eleni.

Yn ddigon ffodus mae ‘na arolwg barn wedi’i gyhoeddi heddiw i YouGov ac ITV. Rŵan, mae gan ITV hanes aflwyddiannus iawn wrth gomisiynu polau piniwn yng Nghymru, ond gan nad ydi lliw y sedd yn destun dadl dwi ddim yn gweld dim yn bod â’i ddefnyddio.

Honnir bod Llafur yn dechrau adfywio yng Nghymru, ond gadewch i ni fod yn gwbl glir am hyn, gwneir yr honiad hwnnw ar sail y pôl diwethaf, nid canlyniad yr etholiad diwethaf. Dirywiad ydi hynny i mi, nid adfywiad.

Fodd bynnag, yn ôl y pôl petai etholiad byddai Llafur yn cael 37% o’r bleidlais Gymreig a’r Ceidwadwyr yn cael 29%. O drosi o’r etholiad diwethaf yng Nghymru, mae hynny’n ostyngiad o chwe phwynt canran i Lafur – ac yn fwy na hynny byddai hynny’r canlyniad gwaethaf i Lafur Cymru yn San Steffan ers cyn yr Ail Ryfel Byd – a byddai’r Ceidwadwyr i fyny saith pwynt canran – eu perfformiad gorau yma ers deunaw mlynedd.

Felly ymddengys bod gogwydd uniongyrchol rhwng y ddwy blaid i bob pwrpas. Sut y byddai gogwydd o’r fath yn amlygu ei hun mewn etholiad, gyda, dyweder, tri chwarter pobl Mynwy yn pleidleisio?

Ceidwadwyr 25,700 (54%)
Llafur 14,700 (31%)
Mwyafrif: 11,000 (23%)

Mae’n werth nodi un peth am yr uchod, dydi’r Ceidwadwyr byth wedi taro 25,000 o bleidleisiau dros y deng mlynedd ar hugain diwethaf. Dydyn nhw byth wedi ennill gyda mwyafrif tebyg - heblaw, yn bur rhyfedd, ar lefel y Cynulliad. Mae Llafur wedi gwneud cyn waethed â hynny yn yr wythdegau, ond dwi’n amau a fydd yn cyrraedd y fath iselfannau eleni.

Beth am ddefnyddio arolwg gwahanol? YouGov eto, rhwng 2-3 Mawrth, gyda Llafur ar 32% a’r Ceidwadwyr ar 38%.

Ceidwadwyr 25,200 (53%)
Llafur 16,100 (34%)
Mwyafrif: 9,100 (19%)

I mi mae’r ail yn ymddangos fymryn yn debycach. Mae’r ddau arolwg yn awgrymu yn y sedd hon y caiff y Ceidwadwyr dros hanner y bleidlais ac y bydd y mwyafrif yn sylweddol. Efallai na ddylai hynny ein synnu, fodd bynnag. Yn y Cynulliad, mae Mynwy ymhlith seddau mwyaf diogel Cymru – cafodd David Davies bron 58% o’r bleidlais yn 2003, ac mae gan Nick Ramsey fwyafrif o wyth mil a hanner.

Trodd Mynwy yn lasach, os rhywbeth, yn Etholiadau Ewrop 2009. Enillodd y Ceidwadwyr bron i 9,000 o bleidleisiau (38%) a daeth Llafur yn drydydd y tu ôl i UKIP gyda 3,200 o bleidleisiau, neu 14%. Dyma’r math o etholaeth a fydd yn mwynhau rhoi cic i Lafur eleni.

Dydw i ddim yn rhagweld y caiff y Ceidwadwyr lai na ugain mil o bleidleisiau yma eleni. Fel arfer byddwn yn dweud mai’r unig ffordd i Lafur ennill pleidleisiau mewn difrif yw bod nifer sylweddol uwch o bobl yn pleidleisio. Pleidleisiodd 72% o etholwyr Mynwy y tro diwethaf, a phrin y bydd y ffigwr mor uchel y tro nesaf fel y bydd Llafur yn ennill pleidleisiau. Synnwn i’n fawr petai Llafur yn ennill 16,000 o bleidleisiau yma eleni.

Proffwydoliaeth: Y Ceidwadwyr amdani gyda thros hanner y bleidlais



Felly dyma hi hyd yn hyn gen i, gyda chwe sedd i fynd. Dylwn i ddweud fan hyn fy mod i'n ailfeddwl sawl sedd ar hyn o bryd, nid leiaf Llanelli, Aberconwy a Brycheiniog a Maesyfed - ond mi ddof i gasgliad terfynol ar ôl darogan pob sedd. 

giovedì, marzo 04, 2010

Cenhinen Lowri Llewelyn

Nid lle da ei fwyd mo Café Gilardino. Pe na bai am y Voucher Codes ni fyddem wedi mynd yno, ond mynd a wnaethom. Cefais innau banini, efo cryn dipyn o fflwff, sydd ddim yn rhan o'm deiet arferol ond mi a gollwn bwysau digon petai, a Rhodri a'r Lowri Llewelyn basta diflas. Teg dweud, blasodd fel yr edrychai.

Mae wrth gwrs dau fath o berson yn y byd; y rhai all goginio cennin, a'r rhai na allant. Yn ôl y Llewelyn symudodd yn ddiweddar o'r categori cyntaf i'r ail. Oni flasaf ei chennin ni chredaf mohoni, ond ta waeth, dyma ei honiad.

Ond sut? Roedd y cwestiwn ar flaen fy nhafod. Nid oedd yn rhaid gofyn. Merch ydyw, wedi'r cwbl, dywed beth y mynn, pryd y mynn.

Prynodd y genhinen ar ôl cael blys am genhinen. Mae blys am rywbeth yn ddigon cyffredin ymhlith y boblogaeth – bacwn oedd fy mlys personol i yr wythnos diwethaf – er wn i ddim a ychwanegwn gennin at y rhestr. Ni wyddai'r ddynes sut i goginio cenhinen felly mi deipiodd yn Gwgl «how to cook a leek». Un genhinen yw'r genhinen dan sylw. Nid swmp, dim ond un. Ond wedi'r cyfan, fel y sylwebasai, nid oedd am ei gwastraffu.

Digon teg, meddyliais yn anfodlon, gan geisio bod yn rhesymol, nes iddi ddweud mai'r peth nesaf iddi ei wneud oedd mynd i YouTube a chwilio am fideo o sut i lanhau cenhinen. Pa greadur uwchlwythodd y fath fideo, ni wn, ond mi wnaeth. Fel arfer, bydd pobl â gormod o amser ar eu dwylo'n gwneud croesair neu'n gosod camerâu mewn llefydd crîpi, nid gwneuthur â ffilmiau llysieuol.

Yin a Yang ydyw. Os bydd rhywun yn uwchlwytho fideo â'r fath gyfarwyddiadau, siŵr o fod y bydd rhyw ynfytyn yn ei wylio.

Mae gwers yn y stori uchod, ond nid ysgolhaig mohonof, felly dydw i ddim yn siŵr beth ydyw.

mercoledì, marzo 03, 2010

Sgorio (nid yw)

Dyma rant bach y mae’n rhaid i mi ei gael. Gwelwyd newyddion eto bod nifer y bobl sy’n gwylio Sgorio yn ofnadwy o isel. Yr hyn nad ydw i’n ei ddallt ydi pam bod hyn yn syndod.

Dwi’n cofio gwylio Sgorio yn rheolaidd pan yn fy arddegau. Roedd hi’n wych o raglen ac ro’n i wrth fy modd yn gweld y pêl-droed diweddaraf o’r Eidal yn bennaf, ond wrth gwrs hefyd Sbaen a’r Almaen. A dyna’r cyfan oedd hi, Amanda Protheroe-Thomas, a wedyn Morgan Jones, yn dweud pwt am beth oedd ar y rhaglen, ac yna’r prif sylw i’r prif gêm, a rownd-yp o’r gweddill. Taro’r sbot go iawn.

Rŵan, mi wn i bryd hynny mai Sgorio oedd yr unig raglen yn y DU i ddangos pêl-droed o Ewrop a bod ganddi ddilyniant mawr, a nid dyna’r sefyllfa mwyach.

Ond, yn fy marn i, mae Sgorio yn rybish rŵan, a dwi ddim am wylio rhaglenni rybish (heblaw am Judge Judy – sy ddim yn rybish actiwli eniwe). Pam fy mod i’n meddwl hynny?

Roedd y fformat blaenorol yn wych – arlwy go iawn o bêl-droed o dair o gynghreiriau gorau’r byd. Nid dyna sy’n digwydd bellach. Cawn weld ambell uchafbwynt o Sbaen a’r Eidal (er, y tro diwethaf i mi wylio ‘stalwm iawn, ‘doedd ‘na ddim gêm o’r Eidal), ac wedyn uchafbwyntiau o gynghrair neu gwpan Cymru.

Gonestrwydd: ‘sgen i ffwc ots am ganlyniad Caerfyrddin v Port Talbot. ‘Sgen i ddim awydd i wylio na hyd yn oed gwybod am y gêm. Gwell gen i weld uchafbwyntiau estynedig o AC Milan, Barca neu Bayern.

Y peth gwaethaf ydi’r trafod – a llawer o hynny am Gynghrair Cymru. Plîs. Dyma fydd ar raglen dydd Llun nesaf:

Ymunwch â Nic Parry, Dai Davies a Malcolm Allen ar gyfer y diweddaraf o fyd y bêl gron yng Nghymru a thramor. Y prif gemau yn La Liga yr wythnos hon oedd Almeria v Barcelona a Real Madrid v Sevilla. Roedd hi'n benwythnos allweddol y Serie A wrth i Inter wynebu Genoa a Roma v Milan. Yn Uwch Gynghrair y Blue Square Ebbsfleet oedd gwrthwynebwyr Wrecsam ar y Cae Ras a prif gemau Uwch Gynghrair Cymru oedd Elements Derwyddon Cefn v Llanelli a Bala v Seintiau Newydd.

Yr ail a’r drydedd brawddeg, gwych. Y gweddill, dim diolch.

Yn gryno felly, roedd yr hen fformat yn dda, a’r gemau a ddangoswyd yn dda – ac os dwi’n cofio’n iawn tua 9.00-9.30 roedd hi’n dechrau, ddim am ddeg. I fod yn onest, ‘does ‘na ddim llawer o bobl am aros i fyny mor hwyr i wylio uchafbwyntiau Wrecsam ac Ebbsfleet a gwrando ar Nic, Dai a Malcolm yn trafod y gêm.

A dyna, yn fy marn i, pam nad oes neb isio gwylio Sgorio mwyach. Rhowch i ni’r wledd a fu o bêl-droed safon uchel, heb y dadansoddi, a daw’r gwylwyr yn eu hôl.

martedì, marzo 02, 2010

Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro

Ar lefel y Cynulliad Cenedlaethol, efallai nad oes sedd sydd yr un mor ddiddorol â’r sedd hir ei henw hon, Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Crëwyd y sedd o’r newydd ym 1997, gyda gogledd Sir Benfro yn ffurfio un sedd, a’r De yn ffurfio rhan arall gan gynnwys i’r dwyrain hyd at dref Caerfyrddin ei hun. Mae canran y Cymry Cymraeg yn uwch nag yn yr etholaeth ogleddol, ond yn Sir Gâr y mae’r mwyafrif o’r rheini. Ar lefel San Steffan, dydi hi ddim yr un mor ddiddorol mewn difrif, ond mae ambell beth i’w ystyried.

Beth felly oedd canlyniad y sedd y tro diwethaf i ni weld etholiad cyffredinol?

Llafur 13,953 (36.9%)
Ceidwadwyr 12,043 (31.8%)
Plaid Cymru 5,583 (14.7%)
Dems Rhydd 5,399 (14.3%)

Wrth i ogledd Sir Benfro droi’n las o drwch blewyn, arhosai’r de yn goch o drwch blewyn. ‘Does fawr o amheuaeth mai pleidleisiau o ardal Sir Gaerfyrddin oedd yn bennaf gyfrifol am hyn. Serch hynny, Nick Ainger oedd yr AS i Benfro eisoes wedi iddo ennill etholiad agos 1992. Ystyriwyd yr hen sedd Sir Benfro yn ddigon cadarn i’r Ceidwadwyr am y ddwy ddegawd flaenorol, ond mae’n werth nodi y bu’n sedd Lafur am yr ugain mlynedd cyn hynny. O ran dwyrain y sedd, fe’i cynrychiolwyd gan Lafur a’r Blaid am adegau gwahanol am flynyddoedd.

Ond gallwn ni ddim cymharu 2005 heb i ni edrych ar yr etholiad cyntaf a gynhaliwyd yn y sedd ym 1997. Dyma’r gwahaniaeth yn nifer y pleidleisiau a chanran y pleidleisiau a gafwyd gan y pleidiau yn ystod yr wyth mlynedd hynny.

Llafur -7,003 (-12.2%)
Ceidwadwyr +608 (+5.2%)
Plaid Cymru +180 (+2.0%)
Dems Rhydd +1,883 (+6.1%)

Ia wir, mae hynny’n ddirywiad o tua thraean i Lafur. Y peth anhygoel oedd bod Llafur wedi llwyddo cael bron i hanner y bleidlais ym 1997 – mae hynny’n eithaf trawiadol. Fodd bynnag, gyda nifer o hen bleidleisiau Llafur yn Sir Gâr yn troi at Blaid Cymru a’r gorllewin yn troi’n las, mae’n anodd gweld y duedd honno’n gwrthdroi.

Er mai’r Democratiaid Rhyddfrydol sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf yma dros y ddegawd ddiwethaf, dwi am fod mor hy â’u diystyru yn syth. Dydi’r gefnogaeth Ryddfrydol yma ddim yn naturiol, tra bod gan y tair plaid arall bocedi cryfion o gefnogaeth mewn rhannau gwahanol o’r etholaeth.

Ond mae ambell reswm pam nad ydw i’n am lwyr diystyru Plaid Cymru. Deirgwaith o’r bron yn y Cynulliad, mae Plaid Cymru wedi dod yn rhyfeddol o agos at gipio’r sedd, gan gael tua 8,000 o bleidleisiau bob tro.

Roedd y canlyniad yn y Cynulliad, wrth gwrs, yn rhyfeddol beth bynnag. Gyda 250 o bleidleisiau rhwng y safle cyntaf a’r trydydd, mae’n gwbl amhosibl rhagweld sut yr aiff hi flwyddyn nesaf. Ond y Ceidwadwyr a oedd yn fuddugol – ac mae’r naid yn eu cefnogaeth yn rhywbeth a allai’n hawdd gael ei adlewyrchu mewn etholiad San Steffan – cynyddodd eu pleidlais ddeg y cant yn 2005. Er disgwyl cipio’r Fro neu Aberconwy, ‘doedd y Ceidwadwyr ddim o ddifrif yn meddwl y bydden nhw’n ennill yma.

Ychydig mwy o ystadegau. Oherwydd diffyg data ar wefan Sir Benfro, alla’ i ddim dweud wrthych â sicrwydd nifer y cynghorwyr sydd gan bob plaid. Yn rhan Caerfyrddin y sedd, fodd bynnag, mae gan Blaid Cymru bump, ac aelodau annibynnol wyth. Dwi’n credu fy mod yn gywir i ddweud yn gyffredinol mai’r Blaid sydd â’r mwyaf o gynghorwyr yn yr etholaeth gyfan.

Yn gyflym, dyma ganlyniad Etholiad Ewrop 2009 (pob plaid dros 10%):

Ceidwadwyr 5,612 (29%)
Plaid Cymru 3,714 (19%)
Llafur 2,902 (15%)
UKIP 2,411 (13%)

Beth fyddai’r pleidiau wedi meddwl am hynny o ddifrif? Byddai’r Ceidwadwyr yn falch iawn o ennill yma mor hawdd flwyddyn cyn etholiad cyffredinol. Byddai Plaid Cymru ychydig yn siomedig o gael 19%, ond yn fodlon ar ddod yn ail. Byddai Llafur yn meddwl bod cael 15% a dod yn drydydd pell yn ganlyniad argoelus iawn. O ystyried pleidlais gref UKIP hefyd, gallai’r Ceidwadwyr fod yn ddigon hyderus o ennill llawer o’u pleidleisiau hwy fel arfer.

Beth am ddyfalu isafswm ac uchafswm pleidleisiau? Dyma le bydd yn rhaid i mi ddiystyru Plaid Cymru. Dydi’r Blaid byth wedi cael llai na 5,000 o bleidleisiau yma yn San Steffan, ac ni chaiff lai eleni. Ond dydi hi ddim chwaith wedi cyrraedd 8,500 mewn etholiadau Cynulliad, ac mae rhesymeg yn awgrymu na wnaiff eleni. Synnwn i ddim petai’r Blaid yn rhagori ar ganlyniad 2001 pan gafodd bron i saith mil, ond alla’ i ddim gweld y tu hwnt i hynny.

O ran Llafur, mi all, yn ddamcaniaethol, gael bron 21,000 o bleidleisiau yma – uchafswm anorchfygol. Chaiff hi mo hynny eleni, ond byddwn i ddim yn synnu petai ambell un a bleidleisiodd i’r Rhyddfrydwyr, os nad ambell Bleidiwr, yn rhoi pleidlais i Lafur i atal y Ceidwadwyr, felly dwi’n fodlon pennu uchafswm o 15,500.

O ran y Ceidwadwyr, mae’r uchafswm yn anhysbys. O edrych ar ddirywiad y blaid rhwng ’92 a ’97, ac o ystyried y polau cyfredol, byddwn i’n rhoi uchafswm o 15,000 iddynt – fel Llafur, fodd bynnag, gall ambell i Bleidiwr neu Ryddfrydwr fenthyg pleidlais iddynt. Yr isafsymiau sy’n ddiddorol. Chaiff y Ceidwadwyr ddim llai na 2005, felly isafswm o 12,000 – ond dwi’n meddwl y gallai isafswm Llafur fod tua’r 10,000.

Yr awgrym o hynny ydi mai’r Ceidwadwyr ydi’r ffefrynnau. Ond peidiwch â’m credu i, credwch y bwcis...

Ceidwadwyr 1/5
Llafur 10/3 (Ladbrokes)

Yn ôl arolwg barn diweddaraf YouGov, roedd gan Lafur yr un lefel o gefnogaeth ag yn 2005, gyda’r Ceidwadwyr bum pwynt canran yn uwch. Yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, ni fyddai hynny’n ddigon i ennill y sedd – er o drwch adain gwybedyn.

Ond fel y dywedais yn nadansoddiad Gŵyr, mae’r Blaid Lafur ar chwâl yng Nghymru. Os bydd ei phleidlais yn dal i fyny yn gyffredinol ym Mhrydain, mae’n anodd gweld ei phleidlais yn gwneud hynny yng Nghymru – wedi’r cyfan, o gael 55% ym 1997 cafodd 20% yn 2009. Waeth beth fo’r cyd-destun etholiadol, mae’r dirywiad hwnnw’n ddi-gynsail.

Soniais mewn ambell ddadansoddiad gynt am y Shy Tory Syndrome Llafuraidd, ond mae’r effaith honno, mi gredaf, yn dirywio. Wrth i Lafur fod yn fwyfwy hyderus, mae’r rhai nad ydynt wedi bod yn datgan y byddent yn pleidleisio dros Lafur yn fwy parod i ddweud hynny mewn polau erbyn hyn. Mae’r polau bellach yn adlewyrchu’r hyn dwi wedi mentro dweud ers tro: bydd hi’n etholiad agos, a bydd senedd grog. Gan fy mod mor hy â dweud hynny rŵan mae’n ddigon posibl mai llwyddiant ysgubol fydd hi i’r naill blaid neu’r llall!

Ond o ddifrif, beth ydi goblygiadau hynny yn y sedd hon? A fydd Llafurwyr dadrithiedig yn pleidleisio i gadw’r Ceidwadwyr allan? A fydd y Ceidwadwyr yn llwyddo denu digon o’r rheini? Os bydd gwasgfa ar y Democratiaid Rhyddfrydol, neu hyd yn oed Blaid Cymru, pwy fydd yn elwa ohoni? Cofier, yn y Gymru wledig, mae’r ymdeimlad wrth-Lafuraidd yn llawer cryfach na’r ymdeimlad wrth-Geidwadol, yn enwedig ar ôl 13 mlynedd o lywodraeth Lafur.

Problem fawr Llafur ydi ei bod wedi’i gyrru o Orllewin Cymru mewn dau etholiad o’r bron, ac mae hynny’n wybodaeth gyffredin iawn. Dwi’n dyfalu mai tri o’r bron fydd hi eleni. Pan soniais ynghynt am y “Chwe Sedd” y mae’r Ceidwadwyr yn gwbl, gwbl sicr o’u hennill, roedd hon yn un ohonynt. Er nad ydw i mor sicr rŵan, prin iawn fy mod yn gweld Llafur yn fuddugoliaethus yma eleni.

Proffwydoliaeth: Buddugoliaeth Geidwadol gyda mwyafrif o tua 2,000 – 3,000

lunedì, marzo 01, 2010

Gŵyr

Awn heddiw draw i etholaeth Gŵyr, a rhaid i mi gyfaddef ar unwaith nad yw hon yn rhan o’r byd yr wyf yn gyfarwydd iawn â hi. Yn etholiadol, dydi’r etholaeth ddim yn eithriadol o ddiddorol – er bod arwyddion y gall fod rhywfaint yn fwy eleni – felly rydym am ddechrau ein taith yn ôl ym 1997. Dechreuwn drwy edrych ar ganlyniad 1997.

Llafur 23,313 (53.8%)
Ceidwadwyr 10,306 (23.8%)
Dems Rhydd 5,624 (13.0%)
Plaid Cymru 2,226 (5.1%)

Enillodd Llafur dros hanner y bleidlais yng Nghymru bryd hynny, a hefyd felly yng Ngŵyr, wrth i’r Democratiaid Rhyddfrydol, a Phlaid Cymru yn arbennig, beidio â bod yn rhan o’r ras. Dydi’r Ceidwadwyr byth wedi dal y sedd, yn wir mae’n sedd Lafur ers can mlynedd yn union eleni, ond ym 1987 a 1992 cafodd y Ceidwadwyr dros 16,000 o bleidleisiau yn y sedd.

Fel y gwyddom eisoes mae gwleidyddiaeth Cymru yn newid erbyn hyn. Awn heibio’r blynyddoedd i ganlyniad 2005 a oedd fel a ganlyn:

Llafur 16,786 (42.5%)
Ceidwadwyr 10,083 (25.5%)
Dems Rhydd 7,291 (18.4%)
Plaid Cymru 3,089 (7.8%)

Beth allwn ni ddysgu o gymharu’r ddau ganlyniad felly? Aeth pleidlais Llafur i lawr 28%, sef dros 6,000 o bleidleisiau a thros ddeg pwynt canran o’r pleidleisiau. Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi gweld cynnydd sylweddol yn eu pleidlais hwy o 5.4%. Peidiwn â llwyr diystyru’r Democratiaid Rhyddfrydol, mae’r blaid wedi gweld cynnydd sylweddol yn ei phleidlais Gymreig ers 1997 yn San Steffan, ac mae cael deunaw y cant yng Ngŵyr yn ddigon parchus.

Mae’r Blaid hefyd wedi gweld cynnydd, ond cynnydd bach welwyd. Mae’n anodd erbyn hyn dychmygu Plaid Cymru yn cael llai na 10% yn genedlaethol mewn unrhyw etholiad, ond mewn sedd fel Gŵyr rhaid iddi geisio ymddangos fel ei bod yn berthnasol, sydd ddim yn dasg hawdd. Dylai’r Ceidwadwyr, fodd bynnag, fod yn siomedig am ganlyniad 2005. Tua’r deng mil gafodd y Ceidwadwyr ym mhob etholiad San Steffan ers 1997 – segura yw eu hanes, fel mewn sawl rhan o Gymru mewn difrif.

Dyna hanes diweddar y sedd yn fras. Er diddordeb, yn hytrach na dim arall, yn etholiadau’r Cynulliad dyma’r ganran o’r bleidlais y mae pob plaid wedi’i chael ar gyfartaledd yn y tri etholiad a gynhaliwyd hyd yn hyn:

Llafur 37.7%
Ceidwadwyr 21.2%
Plaid Cymru 19.1%
Dems Rhydd 10.2%

Y cenedlaetholwyr ddaeth yn ail ym 1999 ond ers hynny mae’r Ceidwadwyr wedi cynyddu’n sylweddol, i’r fath raddau bod etholiad 2007 yr agosaf welwyd yn yr etholaeth ers y nesaf peth i ugain mlynedd. Cafodd Edwina Hart 34% o’r bleidlais a’r Ceidwadwyr 30% - mwyafrif o 1,192. Tra ei bod yn anodd gweld Edwina Hart yn colli ei sedd y flwyddyn nesaf mewn difrif, dylai’n sicr fod yn un o dargedau’r Ceidwadwyr.

Mae natur a demograffeg yn etholaeth yn tueddu fwyfwy at y Ceidwadwyr, ond nid sedd Geidwadol mohoni. Llafur sy’n dominyddu ar y cyngor hefyd, gyda naw o’r tri chynghorydd ar hugain. Grŵp a elwir yn Independents@Swansea sy’n ail ar bump, gyda’r Ceidwadwyr ar dri yn unig. Mae hon hefyd yn etholaeth wan i’r Democratiaid Rhyddfrydol sydd â dim ond un cynghorydd yn yr etholaeth, sef yr un faint â Phlaid Cymru.

Cafwyd eithaf sioc yma llynedd. Dyma ganlyniad etholiad Ewrop:

Ceidwadwyr 24%
Llafur 20%
Plaid Cymru 15%
UKIP 12%
Dems Rhydd 11%

Do, mi drodd Gŵyr yn las y llynedd, a hynny am y tro cyntaf erioed. Y geiriau pwysig wrth gwrs ydi “am y tro cyntaf erioed”. Dydyn ni ddim yn gwybod beth fyddai wedi digwydd heb UKIP – atgyfnerthu’r fuddugoliaeth Geidwadol ydi’r ateb tebycaf. Ond beth am fynd ati i ddadansoddi posibiliadau eleni?

Eleni, mae’n anodd gen i weld Plaid Cymru yn cael llai o bleidleisiau mewn unrhyw sedd na chafodd y llynedd. Mae hynny’n golygu fy mod yn credu y caiff o leiaf dair mil eleni. Problem y Blaid ydi diffyg cynrychiolaeth ar lefel leol, ond gwn yn iawn fod gan yr ymgeisydd enw da yn yr ardal. Targed realistig i Blaid Cymru fyddai ceisio anelu am o leiaf bedair mil o bleidleisiau, ac o wneud hynny bydd wedi llwyddo yma. Byddai cael llai na 10%, waeth faint o bleidleisiau fydd hynny, yn siomedig.

Mae tacteg Llafur, sydd hyd yn hyn yn profi’n weddol lwyddiannus, o wneud hwn yn etholiad rhwng y Ceidwadwyr a hi, yn ymddangos fel petai’n rhoi gwasgfa am y Democratiaid Rhyddfrydol. Dyma’r ardal o Abertawe y mae’r blaid wannaf ynddi. Mae popeth yn awgrymu na fydd yr etholiad sy’n dyfod yn un llwyddiannus i’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru - a dwi heb weld gronyn o dystiolaeth i anghytuno â hynny. Mae’r Ceidwadwyr yn fygythiad damcaniaethol yng Ngŵyr - a gallai hynny wneud i Ddemocratiaid Rhyddfrydol yn y fath sedd fenthyg pleidlais i Lafur, o egwyddor yn hytrach na chael eu hargyhoeddi gan Peter Hain!

Daw hynny â ni at Lafur a’r Ceidwadwyr. Rydym wedi gweld mewn chwinciad fod y momentwm wedi newid yn llwyr. Rŵan, bu i mi ddarogan bron i dri mis yn ôl yn nadansoddiad Pen-y-bont bod y senedd grog yn debygol cymaint ag ydyw’n bosibl. Ymddengys mai dyma’r achos. Dwi ddim yn rhagweld y bydd Llafur yn neidio o flaen y Torïaid o gwbl, ond dwi am ddal ati i ddarogan senedd grog. Un o nodweddion hynny ydi bod y Ceidwadwyr ddim yn gwneud cystal â’r disgwyl. Gall hynny fod o hwb i’r Blaid a’r Rhyddfrydwyr yn Aberconwy a Brycheiniog a Maesyfed, ond dinistrio eu cyfleoedd yn Llanelli neu Ddwyrain Abertawe – mae’n sefyllfa ddiddorol yn sicr, a dydi’r goblygiadau i wleidyddiaeth Cymru ddim yn eglur. Gêm ddyfalu ydi hi.

Mewn cyfres o bum pôl rhwng 21-26 Chwefror, cafodd Llafur ar gyfartaledd 33% o’r bleidlais a’r Ceidwadwyr 38%. Awgryma hynny gwymp o 2% i Lafur a’r Ceidwadwyr yn esgyn 3%.

Y duedd erioed oedd y bu i Lafur wneud yn well yng Nghymru na gweddill y DU. Dyma o hyd y duedd, hyd yn oed yn 2009, ond er hynny mae dirywiad Llafur yng Nghymru wedi bod yn gyson. Achubiaeth a phroblem Llafur yw bod y gwrthwynebiad wedi’i rannu yng Nghymru – yn wahanol i’r Alban. Mae’n galluogi’r blaid i ddal seddau yn y byrdymor wrth i’r gwrthwynebiad ymrannu, ond yn yr hirdymor mae’n golygu bod Llafurwyr traddodiadol yn fwy dadrithiedig ac yn fwy tebygol o aros adref.

Ond mae’r dirywiad yn y bleidlais Lafur wedi bod yn waeth yng Nghymru na’r unman arall – aeth i lawr ddeuddeg y cant rhwng ’97 a ’05 o gymharu ag 8% ledled Prydain. Felly gellid o bosibl ddyfalu dirywiad gwaeth yng Nghymru eleni na’r hyn a awgrymir gan y polau diweddar – traean yn waeth yn y sefyllfa waethaf.

Dychmygwn hynny felly. O wneud y symiau, os caiff Llafur 33% ledled Prydain caiff tua 40% yng Nghymru. Caiff y Ceidwadwyr rywbeth tebyg i 27%. Troswn hynny’n uniongyrchol i Ŵyr, y tro hwn gyda saith o bob deg yn pleidleisio. Dyma’r canlyniad i’r ddwy blaid uchaf:

Llafur 16,600 (39%)
Ceidwadwyr 13,600 (32%)
Mwyafrif: 3,000 (7%)

Mae gan y Ceidwadwyr broblem gyda’r ffaith bod UKIP yn sefyll yma, ond ymddengys bod effaith y pleidiau llai, gan gynnwys y Democratiaid Rhyddfrydol ac, ysywaeth, Plaid Cymru hithau, yn lleihau. Gan ddweud hynny, fel yr wyf wedi ei adrodd droeon, anodd gen i weld Llafur yn cadw ei phleidlais ar yr un lefel.

Y gwir ydi mae pob darn o wybodaeth neu dystiolaeth neu ddamcaniaeth a gawn ar hyn o bryd yn drysu’r sefyllfa’n fwy! Ond y tro hwn dwi am gadw at fy symiau yn hytrach na’m greddf. Mae ‘na gynsail i’r Ceidwadwyr wneud yn dda yng Ngŵyr, ond gyda phethau’n tynhau, ‘sdim peryg yma i Lafur eleni.

Proffwydoliaeth: Buddugoliaeth o tua thair mil i Lafur.