giovedì, marzo 18, 2010

Proffwydo 2010: Cymru Rachub

Felly dyna ddiwedd y gyfres Proffwydo 2010, gobeithio eich bod chi wedi mwynhau a’i ffendio’n ddiddorol – gallwch weld y cyfan drwy glicio’r ddolen ar y dde. Fydda i bellach yn cymryd saib haeddiannol tu hwnt o wleidydda. Ond gair bach i orffen, dyma Gymru fel dwi’n ei gweld ar Fai 7fed (fwy na thebyg) ...





LLAFUR: 21 (-8)

CEIDWADWYR: 9 (+6)

PLAID CYMRU: 6 (+3)

DEM RHYDD: 3 (-1)

ERAILL: 1 (-)

... ond mae pum sedd nad ydw i’n sicr ohonynt ac efallai y byddaf yn newid eu lliw ychydig ddyddiau cyn yr etholiad. Fel y nodir isod, does gen i ddim syniad mewn difrif ai Llafur neu Blaid Cymru fydd yn fuddugol ar YNYS MÔN. Mae cryfder cymharol Llafur dros y deufis diwethaf wedi peri mi boeni am ddarogan LLANELLI a DWYRAIN ABERTAWE, tra bod methiant y Ceidwadwyr i gynnal momentwm yn genedlaethol wedi gwneud i mi ailfeddwl BRYCHEINIOG A MAESYFED, ac ymgyrch drychinebus y Ceidwadwyr yn ABERCONWY yn rhoi honno’n y blwch ‘ansicr’.

Rŵan, yn ôl at gwyno a meddwi! Hwra!

mercoledì, marzo 17, 2010

Ynys Môn

Feddyliais wrth i mi ddechrau’r dadansoddiadau hyn ym mis Medi y llynedd mai Ynys Môn fyddai’r sedd olaf i mi ei dadansoddi a’i darogan. Am dda reswm. Er i mi ddweud nad oeddwn yn siŵr am Geredigion, er enghraifft, dydi gwlad y Cardis yn cymharu dim â Gwlad y Medra. O holl seddau Cymru, hon ydi’r un dwi isio ei dadansoddi leiaf. Pam? Y gwir ydi dwi ddim yn gwybod pwy sydd am ennill yma. ‘Sgen i’m clem. A dwi’n adnabod Sir Fôn yn dda.

Erbyn heddiw mae ‘na dair carfan ar yr Ynys. Yn gyntaf, Caergybi, sy’n pleidleisio’n drwm dros Lafur. Yn ail mae Cymry Cymraeg yr ynys ei hun – carfan sydd, ysywaeth, yn gwywo ar Ynys Môn – ond sy’n byw yn bennaf yng nghanol yr Ynys. Mae’r rhain, yn gyffredinol, yn fwy tebygol o bleidleisio dros Blaid Cymru. Ac yn drydydd mae’r garfan gefnog, yn aml yn Saeson, mewn lleoedd fel Benllech a Biwmares, sy’n gogwyddo at y Ceidwadwyr.

Heb unrhyw amheuaeth, yn ystod y blynyddoedd i ddod, daw Ynys Môn yn ras deirffordd rhwng Llafur, Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr – ac oherwydd newidiadau demograffeg bydd y Blaid yn ei chael yn anoddach ennill yma, a’r Ceidwadwyr yn haws, ond ta waeth am hynny, arhoswn yn 2010 y tro hwn.

Soniwn ni ddim am y Dems Rhydd yma. Dydyn nhw byth wedi dod yn agos at ennill 10% ar Ynys Môn - maen nhw’n gwbl amherthnasol. Ond awn am bawb arall fesul plaid, oherwydd dyma’r peth hawsaf i wneud – a chredwch chi fi, mae Sir Fôn yn unrhyw beth ond am hawdd!

Llafur ydi’r deiliaid ac felly’n lle call i ddechrau. Ar ôl i Cledwyn Hughes ymddeol cafodd Llafur gyfnod du iawn yma. Erbyn 1983, cafodd lai na saith mil o bleidleisiau, ond erbyn 1997 roedd pethau wedi gwella’n syfrdanol wrth i Lafur ddod o fewn 2,500 o bleidleisiau i gipio’r sedd gan Blaid Cymru a sicrhau traean o’r bleidlais.

Roedd Ynys Môn yn un o’r unig seddau i Lafur ei chipio yn 2001, a hynny’n annisgwyl, er gwaethaf tueddiadau gwleidyddol rhyfedd y fam ynys. Er hynny, disgynnodd pleidlais Llafur bron i fil a hanner o bleidleisiau, er iddi sicrhau 35% o’r bleidlais. Ond yn 2005, cynyddodd Llafur ei phleidlais fymryn. Mae hynny’n dyst i boblogrwydd cymharol Albert Owen - a bydd ei angen o ddifrif ar Lafur os ydyw’n bwriadu cadw Ynys Môn. Fel y gwelwn yn nes ymlaen, debyg mai Albert Owen unwaith eto ydi’r ymgeisydd cryfaf o blith y rhai sy’n gobeithio cynrychioli Ynys Môn eleni.

Gallwn ni ddim edrych ar ganlyniadau cyngor Môn - mae pethau’n llawer rhy ddryslyd! Ond roedd canlyniad 2009 yn erchyll i Lafur. Trydydd pell - 2100 (13%) o bleidleisiau – bron i deirgwaith yn llai na’r Blaid.

Dydi Llafur byth wedi gwneud yn dda iawn yma ar lefel y Cynulliad – er i dros hanner pobl yr Ynys bleidleisio yn 2007, dim ond 4,681 bleidleisiodd i Lafur, sef dirywiad cyson a phendant ers 1999. Y peth amlycaf am hynny ydi nad oes gan gefnogwyr Albert Owen fawr o feddwl o’r Cynulliad. Ond pam y dylen nhw? Wedi’r cyfan, mae economi Ynys Môn mewn cyflwr ofnadwy. Ond wrth gwrs, mae llywodraeth ganolog hefyd yn gyfrifol am hyn, efallai’n bennaf gyfrifol, sy’n newyddion drwg iddo.

Y newyddion drwg arall i Albert Owen ydi, yn wahanol i bron bob sedd Llafur arall yng Nghymru, ni all ddibynnu ar bleidleisiau i atal y Ceidwadwyr. Dwi’n siŵr y daw selogion Llafur allan y tro hwn, ond mae ‘na uchafswm pendant i’r gefnogaeth honno. Alla i ddim gweld Llafur yn cael mwy na 35% o’r bleidlais – ond ar Fôn gall hynny fod yn ddigon.

Deuaf at y Ceidwadwyr nesaf, ond hefyd Peter Rogers. Fe wyddoch, mae’n siŵr, yr hanes fanno, a dwi ddim am ei ailadrodd. Mae Ceidwadwyr Môn, i bob pwrpas, wedi bod ar chwâl ers colli yma ym 1987. Ar eu huchafbwynt ym 1983 cafodd y blaid dros bymtheg mil o bleidleisiau, a thua hynny ym 1987 a hyd yn oed 1992. Ond o gyrraedd 8,500 ym 1997, aeth y bleidlais i lawr i lai nag wyth mil y tro nesaf.

Pam felly? Mae’n rhaid bod trefniadaeth yn rhan ohoni, ynghyd â dirywiad cyffredinol y Ceidwadwyr yn ystod y cyfnod. Ond hefyd yn ddiweddar mae’r Ceidwadwyr wedi dewis ymgeiswyr nad a wnelent ddim â’r Ynys, na Chymru. Mae hynny’n cyfyngu eu pleidlais yma’n sylweddol.

Mae hefyd wrth gwrs y Peter Rogers ffactor (ers 2005), sy’n haeddu sylw iddo’i hun. Gwnaeth y Ceidwadwyr yn uffernol ar Ynys Môn yn 2005, a hefyd yn 2007 (gan gael 11% a 13%), pan safodd. Mae’n anodd, i raddau, wybod pa mor dda y byddai’r Ceidwadwyr wedi’i wneud hebddo. Cafodd Peter Rogers 5,216 o bleidleisiau yn 2005 (15%) a 6,261 yn 2007 (23%). Mae’n debygol y byddai’r Ceidwadwyr wedi dod yn ail yn 2007, ond o hyd yn drydydd yn 2005.

Anodd felly ydi darogan sut y byddai’r Ceidwadwyr yn gwneud yma hebddo. Ond, ar ôl treigl amser, daw Ynys Môn yn fwy gobeithiol iddynt mi dybiaf. O ran Peter Rogers, synnwn i ddim o gwbl petai’n agosáu at sicrhau o leiaf chwe mil o bleidleisiau y tro hwn.

Gyda Peter Rogers yn sefyll eleni, mae’r Ceidwadwyr yn gwybod nad oes ganddynt obaith mul o ennill yma. Mae ei ymgeisyddiaeth yn hwb enfawr i Albert Owen hefyd – dydi pobl sy’n pleidleisio drosto fo ddim fel rheol am roi math o bleidlais i Rogers. Ond byddai Plaid Cymru wedi darllen ei fwriad i sefyll ag arswyd. Wedi’r cyfan, mae wedi datgan digon o weithiau, ei brif nod wrth sefyll ydi atal y cenedlaetholwyr.

Mae dirywiad Plaid Cymru ar Ynys Môn wedi bod yn amlwg. Mae hi wedi colli tua thraean o’i phleidlais rhwng 1997 a 2005. Gan ddweud hynny, pan etholwyd Ieuan Wyn Jones yn gyntaf enillodd bron i 19,000 o bleidleisiau, rhywbeth nad ydym wedi’i weld ar Fôn mewn cof, felly mae’r potensial yno i ennill, ac ennill yn dda. Cafodd Ieuan Wyn hefyd fwyafrif o ddeng mil ym 1999, ond anghywir byddai galw Ynys Môn yn gadarnle i Blaid Cymru – dydi hi ddim. Fuo hi fyth. Hyd yn oed yn y Cynulliad dydi’r sedd ddim yn gwbl ddiogel i Blaid Cymru.

Ta waeth, collodd y Blaid yma yn 2001, ond methodd yn llwyr ag ail-gipio’r sedd yn 2005. Collodd bleidleisiau gyda nifer uwch yn pleidleisio. Pam? Wel, fe wnaeth Rogers yn dda mewn rhai o’r pentrefi sy’n draddodiadol yn gryf i’r Blaid. Gan ddweud hynny, rhaid hefyd edrych ar realiti’r sefyllfa - byddai ddim yn syndod hyd yn oed heb Rogers petai’r Blaid wedi colli yma yn 2005 o edrych ar y ffigurau - byddwn i ddim yn meddwl bod mwy na 25% o’i bleidleisiau yn dod o du Pleidwyr. Os felly, gallai Plaid fod wedi colli yma beth bynnag. Os felly, rhaid gofyn pam.

Mae Plaid Cymru wedi gwneud yr un camgymeriad â’r Ceidwadwyr yma dros yr ychydig etholiadau diwethaf o ran dewis ymgeiswyr. Mae ymgeiswyr y Blaid wedi bod yn anaddas a gwan, ac yn anffodus dyma’r canfyddiad cyffredinol o ymgeisydd eleni, Dylan Rees. Dydi o ddim yn cymharu ag Albert na Peter Rogers. Yn y sedd hon, mae hynny’n broblem fawr. Ac mae’n arwydd o wendid ymhlith rhengoedd y Blaid ar Ynys Môn.

Mae’r ffaith bod yr economi yma’n ofnadwy ac mai Ieuan Wyn ydi’r Gweinidog dros yr Economi hefyd yn ergyd i Blaid Cymru cymaint ag ydyw i Lafur. Mae ymdeimlad ymysg llawer o bobl ar Ynys Môn bod y ddwy blaid wedi eu gadael i lawr – Plaid Cymru llawn gymaint â Llafur. Dydi dadrithio gwleidyddol ddim yn unigryw i ardaloedd fel Cymoedd y De – mae’n wenfflam ym Môn.

Vaughan Roderick, mi gredaf, ddywedodd ei bod yn haws o lawer dweud pam na fydd unrhyw blaid yn ennill Ynys Môn na dweud unrhyw beth o’u plaid! Rŵan, o gyrraedd y pwynt hwn, dim ond Llafur a Phlaid Cymru sydd ynddi. Heb Rogers, gallai’r Ceidwadwyr fod â chyfle, ond gan fod y ddau yn rhannu’r un sail gefnogaeth i bob pwrpas, fydd yr un yn fuddugoliaethus yma eleni.

Beth sydd o blaid Llafur? Wel, Albert Owen. Mae ganddo sail gref yng Nghaergybi sydd wedi aros yn driw iddo. Mae ganddo enw gweddol dda ar yr ynys, ac wedi cael 9 mlynedd i brofi ei hun. Mi lwyddodd, yn erbyn y disgwyl cyffredinol, i ennill yn 2001 ac yn 2005. Yn gryno, mae o’n ymgeisydd cryf. Mae Llafur, hefyd, i’w gweld yn gwneud fymryn yn well nag yr oedd nifer o sylwebyddion gwleidyddol yn ei ddisgwyl.

O blaid y Blaid? Isafswm cefnogaeth o tua 10,000 o leiaf mewn etholiad San Steffan. Buddugoliaeth gyfforddus gyda bron i 6,000 o bleidleisiau (34%) yn etholiadau Ewrop y llynedd. Ac mae ei huchafswm pleidleisiau ar Fôn, ymddengys, yn uwch na Llafur.

Yn eu herbyn?

Wel, mae Llafur yn dra amhoblogaidd, ac mi fydd yn anoddach, mi gredaf, i Albert Owen argyhoeddi ei gefnogwyr selog i bleidleisio y tro hwn – anoddach nag yn 2001 neu 2005. Mae’n anodd ei weld yn cael mwy o bleidleisiau nag yn 2005, sef ychydig dros 12,000. Hefyd, mae isafswm pleidleisiau Llafur, yn San Steffan o leiaf, fwy na thebyg tua wyth i n aw mil ar hyn o bryd yn fy marn i, sy’n sylweddol is na phleidlais isaf ei phrif wrthwynebwyr.

Ond mae’n siŵr bod cysur o fath yn y ffaith bod Llafurwyr Môn yn debycach o aros adref na bwrw pleidlais dros unrhyw un o wrthwynebwyr Albert Owen.

Mae problemau Plaid Cymru yn ddigon dwfn hefyd: ymgeisydd gwan, fe’i terfir gyda’r brwsh economaidd hefyd, a bydd Peter Rogers yn ennill ambell i gannoedd o bleidleisiau oddi wrthi o leiaf. Ar Ynys Môn, gall hyd yn oed UKIP, sy’n sefyll, ddwyn ambell bleidlais – mae pleidlais y Blaid ym Môn yn fwy Ceidwadol o lawer nag Arfon gyfagos.

Serch hynny, Plaid Cymru ydi’r ffefrynnau haeddiannol ar Ynys Môn eleni. Mi ddylai adennill y sedd. Ond mi ddylai wirioneddol fod wedi ennill yn 2001 a hefyd yn 2005. Yn wahanol i Geredigion, y dylai fod wedi ei chadw yn 2005, nid yw’r Blaid mor uchel ei chroch ym Môn. Ac eto, heblaw am duedd ryfedd yr Ynys o gadw’r deiliad, mae’n ddigon anodd cyflwyno dadl gref pam y dylai Albert Owen ennill. Y gwir ydi, mae’n fwy na phosibl y gwelwn y ddwy blaid yn colli pleidleisiau yma.

Mi allaf yn hawdd weld hefyd Albert yn cynyddu ei fwyafrif, neu Blaid Cymru yn ennill yn bur hawdd. Fel y dywedais, dwi jyst ddim yn gwybod. Mentraf ddweud nad oes NEB yn gwybod pwy fydd yn ennill y frwydr am Fôn yn 2010.

Proffwydoliaeth: Plaid Cymru ar sail tebygolrwydd! Ond sori, dwi ddim hyd yn oed am geisio dyfalu’r mwyafrif!

Wrecsam

Ar yr olwg gyntaf, ni ddylai Wrecsam fod yn rhy anodd ei darogan. Mewn difrif, ni fydd. Wedi’r cyfan, mae wedi bod yn sedd Llafur ers degawdau ar wahân i gyfnod bach rhwng ’81 ac ’83 lle y’i cynrychiolwyd gan yr SDP, ond drwy Tom Ellis yn newid plaid oedd hynny ac nid drwy etholiad.


Llafur, fodd bynnag, y’i daliodd drwy’r wythdegau, gan sicrhau rhwng 34.3% a 48.3% o’r bleidlais (rhwng 16,100 a 24,800 o bleidleisiau), gyda’r mwyafrif yn cynyddu o 0.9% dros y Ceidwadwyr ym 1983 i 13.1% ym 1992.

Dechreuwn ddadansoddi o 1997 ymlaen. Dyma oedd canlyniad y flwyddyn honno:

Llafur 20,450 (56%)
Ceidwadwyr 8,668 (24%)
Dems Rhydd 4,833 (13%)
Mwyafrif: 11,762 (32%)

Byddwch yn sylwi i mi adael y Blaid allan, ac mae hynny oherwydd nad ydi’r Blaid yn rym yn yr etholaeth hon ar unrhyw lefel, felly gwastraff geiriau byddai gwneud hynny. Beth ddaeth i’r amlwg ym 1997 felly? Yn gyntaf, gall Llafur ennill dros 20,000 o bleidleisiau yma. Yn ail, cafodd y Ceidwadwyr bleidlais barchus yma, er gwaethaf y ffaith mai 1997 ydoedd.

Rydyn ni am fynd heibio’r holl flynyddoedd a fu i 2005 – dyma’r newid yn nifer y pleidleisiau gafodd y tair plaid a’r newid yng nghanran y bleidlais gafwyd:

Llafur -6,457 (-10%)
Ceidwadwyr -2,589 (-4%)
Dems Rhydd +2,341 (+11%)

Bydd yr anoracs yn eich plith yn gwybod i’r Democratiaid Rhyddfrydol ddod yn ail yma y flwyddyn honno. Gyda’r Ceidwadwyr a Llafur yn dirywio’n gyson yma ers 1997, manteisiodd y Democratiaid Rhyddfrydol ar hynny gan adeiladu ar y cyngor lleol. Y Democratiaid Rhyddfrydol sy’n arwain y cyngor, a hi yw’r blaid fwyaf yn yr etholaeth.

Yn wir, yn etholiad cyngor 2008, llwyddodd y Democratiaid Rhyddfrydol ennill mwy o bleidleisiau na Llafur, er o drwch blewyn, yn Wrecsam. Cafodd y Ceidwadwyr ychydig dros draean o’r bleidlais gafodd y Dems Rhydd. Yn sicr, mae’r bleidlais Geidwadol yma wedi dirywio’n sylweddol ers yr wythdegau, ond eto mae’r sedd yn llai ac wedi colli ardaloedd mwy Ceidwadol ers yr adeg honno.

Yn ôl fy nealltwriaeth, mae nifer o wardiau yn nhref Wrecsam a arferai fod yn Geidwadol bellach yn eithaf cadarn o blaid y Democratiaid Rhyddfrydol. Ond, fel yr wyf wedi ei ddweud o’r blaen, mae dwy ochr i’r geiniog i wneud yn dda yn y cyngor, ei reoli neu ei arwain, a’r Dems Rhydd sy’n arwain Cyngor Wrecsam. Dwi’n amgyffred nad ydi Cyngor Wrecsam yn ofnadwy o amhoblogaidd, sy’n arwydd da i obeithion y Rhyddfrydwyr. Ond mae cael cynghorwyr ar lawr gwlad bob amser o fudd i blaid wleidyddol.

Ond pa obaith sydd gan y Rhyddfrydwyr yma mewn difrif? Efallai bod canlyniad Etholiadau Ewrop o fudd i ni yn hynny o beth:

Ceidwadwyr 3,199 (22%)
Llafur 2,712 (19%)
Dems Rhydd 2,078 (15%)

Roedd canlyniad Wrecsam yn un y gellid ei ddisgrifio fel un sy’n addas i holl seddau Cymru y llynedd: o graffu fymryn wnaeth neb yn dda iawn. Byddai’r Ceidwadwyr yn ddigon hapus o ennill yma – er mewn difrif calon dim ond 1,227 o bleidleisiau’n fwy a gawsant na Phlaid Cymru, sydd yn bathetig braidd yn Wrecsam – a Llafur yn poeni’n ddirfawr am wneud cynddrwg. Ond heb amheuaeth, dwi’n siŵr mai’r Dems Rhydd fyddai’r mwyaf siomedig â’r canlyniad, yn enwedig ar ôl gwneud yn dda yma yn 2008.


Fydd y Cynulliad fawr o fudd i ni yn Wrecsam. Cafodd John Marek 53% o’r bleidlais ym 1999 dan faner Llafur, gyda’r tair plaid arall bron yn gwbl gyfartal. Yn 2003, enillodd John Marek eto, ond y tro hwn fel aelod annibynnol. Collodd yntau tua mil o bleidleisiau yn 2007, yn bennaf i’r Ceidwadwyr a’r Dems Rhydd (gyda dim 104 o bleidleisiau i’w gwahanu hwythau), wrth i Lafur gipio’r sedd, er drwy ennill llai na chant o bleidleisiau yn fwy nag y gwnaeth yn 2003. Cafodd UKIP dros fil o bleidleisiau yma.

Awgryma hynny fod pleidleisiau i UKIP yma, ond mae’r BNP hefyd yn targedu Wrecsam yn galed, yn bennaf oherwydd y mewnlif mawr o Bwyliaid i’r ardal. Synnwn i’n fawr petai’r un blaid neu’r llall yn gwneud fawr gwell na 1,500 – 2,000 o bleidleisiau. Llafur fyddai dyn yn amgyffred fyddai’n cael y gwaethaf o’r ymosodiad deublyg hwn, ond bydd y Ceidwadwyr hefyd, ac i raddau ychydig yn llai, y Democratiaid Rhyddfrydol hwythau.

Beth mae’r polau yn ei awgrymu? Dydyn ni ddim yn gwbl siŵr gyda seddau lle mai’r Democratiaid Rhyddfrydol ydi’r prif wrthwynebwyr, ond o ddilyn yr arolwg barn diweddaraf (YouGov, 14-15 Mawrth) gyda, dywedwn ni 5% yn fwy yn pleidleisio (68%) dyma fyddai’r canlyniad:

Llafur 14,100 (43%)
Ceidwadwyr 8,200 (25%)
Dems Rhydd 7,500 (23%)
Mwyafrif: 5,900 (18%)

Beth am hefyd ddefnyddio pôl llai ffafriol i Lafur, sef un Opinium (12-15 Mawrth):

Llafur 12,800 (39%)
Ceidwadwyr 8,900 (27%)
Dems Rhydd 5,900 (18%)
Mwyafrif: 3,900 (12%)

Yr awgrym ydi, i bob pwrpas y bydd Llafur yn ennill doed a ddêl. Mae arolwg Opinium yn un sydd efallai’n gymwys iawn i Gymru - cwymp debygol a sylweddol ym mhleidlais Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol, a’r Ceidwadwyr ar gynnydd sylweddol. Mi all y Ceidwadwyr ennyn y fath gefnogaeth, dwi’n siŵr, yn Wrecsam, ond byddwn i’n awgrymu bod angen o leiaf 12,000 ar y Ceidwadwyr neu’r Democratiaid Rhyddfrydol i ddechrau meddwl am ennill yma, a fedra’ i ddim rhagweld hynny’n digwydd.

Dwi ar ddeall hefyd yn y wasg leol fod y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn canolbwyntio fwy ar ladd ar ei gilydd nag ar y blaid Lafur. Byddai cadarnhad o hynny’n grêt, ond os mae’n wir mae’n gosod Wrecsam yn gadarn yng nghorlan Llafur. Heblaw mewn eithriadau prin, allwch chi ddim ennill unrhyw sedd drwy ymosod ar y blaid sy’n ail neu’n drydydd – rhaid i chi ymosod ar ddeiliaid y sedd.

Ceir cryn gwaith dyfalu ar Wrecsam felly. Gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ail mae’n bosibl y gwelir Ceidwadwyr yn benthyg pleidleisiau gwrth-Lafur iddynt, er nad oes sicrwydd o hynny – mae gan y Ceidwadwyr wreiddiau yma sy’n gwneud hynny’n llai tebygol.

Deuwn at y broffwydoliaeth!

Proffwydoliaeth: Mwyafrif o ychydig filoedd i Lafur – y Ceidwadwyr i ddod yn ail.

martedì, marzo 16, 2010

"Gwastraff amser yw Cymru ddwyieithog"

Hwra, rhywun yn gwneud synnwyr!


Mae ‘nghalon i yn tristáu wrth fynd nôl i Rachub. Dwi ddim yn cofio y tro diwethaf, er enghraifft, i mi glywed naill ai rhieni’n siarad Cymraeg â’u plant nac, yn waeth fyth, plant yn siarad Cymraeg efo’i gilydd. Mae’n llythrennol yn flynyddoedd ers i mi glywed yr ail yn sicr, er efallai nad adref yn ddigon aml ydw i.

Mae gwarchod yr iaith yn ei chadarnleoedd gangwaith bwysicach na chreu Cymru 'ddwyieithog', rhywbeth dwi wedi'i ddweud o'r blaen sy'n wrthyn i mi beth bynnag, fel un sy'n credu mewn Cymru Gymraeg. Wn i ddim p’un ai diffyg ewyllys neu petrustra gwleidyddol, neu hyd yn oed rhyw fath o ffug barchusrwydd gwleidyddol, sy'n sail i'r ffaith na fu diogelu'r Fro fyth yn flaenoriaeth gan y Cynulliad. Un o’r pethau mwyaf damnïol y gellir ei ddweud am ein llywodraeth genedlaethol ydi bod yr ardaloedd Cymraeg wedi dirywio’n waeth nag erioed yn oes datganoli.

Dwi ddim am fanylu achos mai’n rhy fuan y bore, ond oni arallgyfeirir adnoddau’r iaith i’r Bröydd Cymraeg, fydd ‘na ddim gobaith am Gymru ddwyieithog beth bynnag, heb sôn am y Gymru Gymraeg y credaf i ynddi. A dydi’r un mesur iaith, na’r un alwad am hawliau ieithyddol, am newid hynny iot.

Ac eto, weithiau mae rhywun yn teimlo weithiau nad oes gan ddigon o bobl ots mewn difri beth bynnag.

sabato, marzo 13, 2010

Blaenau Gwent

Mae hen seddau Aneurin Bevan a Michael Foot yn teimlo’n bell i ffwrdd o Rachub, a chyn i mi feddwi pnawn ‘ma, fanno ydi’r targed nesaf. Dyma’r unig sedd yng Nghymru a ddelir gan aelodau annibynnol, sef Trish Law yn y Cynulliad a Dai Davies yn San Steffan. Llais y Bobl ydi enw’r mudiad, a sefydlwyd yn 2005, nad ydw i’n gwbl sicr a safodd Peter Law yn ei henw yn 2005. Un peth ddaeth i’r amlwg dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yw nad oes gan y blaid fawr o apêl y tu hwnt i Flaenau Gwent.


Ta waeth am hynny, rhaid bod yn onest o’r dechrau – ‘does dim pwynt trafod Plaid Cymru, y Ceidwadwyr na’r Democratiaid Rhyddfrydol. Felly dydw i ddim.

Am flynyddoedd cyn buddugoliaeth fawr 2005, fodd bynnag, roedd Blaenau Gwent yn gadarnle Llafur. Yn wir, mae ei disgrifio fel ‘cadarnle’ prin yn gwneud cyfiawnder â hi. Cododd canran Llafur o’r bleidlais o 70% ym 1983 i 79.5% ym 1997. Roedd y mwyafrif yn 71%. Wrth sôn am seddau Llafur diogel, mae Blaenau Gwent wastad wedi bod ymhlith seddau mwyaf diogel y Blaid Lafur ym Mhrydain gyfan. Yn wir, hyd yn oed yn 2001, llwyddodd Llafur ennill buddugoliaeth o dros 19,000 o bleidleisiau (61%) dros Blaid Cymru.

Nid oedd pethau’n wahanol yn y Cynulliad, ychwaith. Roedd mwyafrif 1999 y Blaid Lafur dros 40%, ac erbyn 2003 trodd y sedd yn fwy diogel byth a chafodd Peter Law fwyafrif o 59%, a oedd bron yn ddeuddeg mil o bleidleisiau. Gyda dim ond 38% yn pleidleisio, mae hynny’n anferthol.

Tynnodd Peter Law ei aelodaeth o’r blaid Lafur nôl yn dilyn y ffrae, enwog erbyn hyn, am restrau byr a oedd yn cynnwys merched yn unig, a phenderfynodd sefyll yn erbyn ei hen blaid yn etholiad cyffredinol 2005. Dwi ddim yn gwybod, mewn difrif, a oedd pobl Blaenau Gwent mor flin â hynny am restrau merched, ond yn hytrach dwi’n teimlo mai’r prif ysgogiad dros bleidleisio iddo oedd rhoi cic i Lafur heb roi budd i unrhyw blaid arall. Roedd hi’n fwy sylfaenol nag un mater.

Cic a gafwyd, beth bynnag. Roedd Blaenau Gwent cyn 2005 yn sedd ddiogelaf y blaid Lafur yng Nghymru. Dyn ag ŵyr, efallai bod y craffaf wedi darogan buddugoliaeth i Peter Law – ond mi fetia’ i rywbeth na ragwelsai neb fuddugoliaeth i’r fath raddau:

Peter Law 20,505 (58%)
Llafur 11,384 (32%)
Gogwydd oddi wrth Lafur: 49%

Credaf mai dyna’r gogwydd mwyaf erioed a gafwyd mewn etholaeth ar ôl yr Ail Ryfel Byd mewn etholiad cyffredinol. Roedd gweld Llafur ar y lefel honno o gefnogaeth ym Mlaenau Gwent yn syfrdanol. Pa wersi bynnag y gallasai Llafur fod wedi’u dysgu, yn amlwg ni wnaeth.

Bu farw Peter Law yn 2006, a sbardunodd isetholiad dwbl. Enillodd ei wraig, Trish Law, y sedd cynulliad yn weddol hawdd gyda thros hanner y bleidlais, gyda gogwydd oddi wrth Lafur nad oedd yn annhebyg i’r un yn 2005. Yng nghyd-destun gwleidyddiaeth y Cynulliad, efallai nad oedd hynny’n sioc fawr o edrych yn ôl.

Ar wahân i’r ffaith amlwg bod Blaenau Gwent yn sedd unigryw ac na fydd polau’n gymwys yma am y rheswm hwnnw, roedd darogan yr unig bôl piniwn a gynhaliwyd yma yn eithriadol anghywir. Rhoes 35% i Dai Davies a 47% i Lafur ar gyfer yr isetholiad. Dyma’r canlyniad:

Dai Davies 12,543 (47%)
Llafur 10,055 (37%)

Mwyafrif o bron i ddwy flin a hanner. Rŵan, er bod isetholiadau yn aml yn hudo llai o bobl i bleidleisio, roedd y gwahaniaeth yn y niferoedd a bleidleisiodd i’r ddau wrthwynebydd yn sylweddol. Tua mil yn llai bleidleisiodd i Lafur, ond tua saith mil a hanner yn llai gafodd Dai Davies na Peter Law. Efallai nad ydi hynny yn syndod mewn difrif, ond ennill oedd yn bwysig. Pe na bai Dai Davies wedi llwyddo yma, prin iawn y byddem yn disgwyl i Lais y Bobl ennill yma eleni.

Serch hynny, dwi ddim yn meddwl y bu i unrhyw un ddarogan y byddai Trish Law yn colli yma yn 2007. Roedd y gogwydd ati, oddi wrth ei gŵr i bob pwrpas, yn 47% - sy’n fwy na’r gogwyddau enfawr a sicrhaodd Plaid Cymru ym 1999. Roedd ei mwyafrif dros bum mil o bleidleisiau, neu 23%. Mae hynny’n her sylweddol i Lafur yn 2011.

Waeth beth fo’r sefyllfa leol mae’r ystadegau fel a ganlyn. Rhwng 1999 a 2007 collodd Llafur 54% o’i phleidlais. Yn San Steffan rhwng 1997 ac isetholiad 2006, disgynnodd ei phleidlais 68%. Prin y gwelid y fath gwymp erioed. Yr hyn ddaeth yn amlwg oedd bod Llafur mewn trafferth ym Mlaenau Gwent.

Roedd nifer y wardiau a enillodd y pleidiau yma yn 2008 yn ddiddorol:

Annibynnol 16
Llafur 14
Llais y Bobl 5
Dems Rhydd 2

Er i Lafur golli rheolaeth ar y cyngor, aelodau annibynnol, ac nid Llais y Bobl, fanteisiodd ar hynny. Dwi ddim yn siŵr a safodd llawer o ymgeiswyr Llais y Bobl, rhaid i mi gyfaddef, ond o dop fy mhen dwi ddim yn credu i lawer wneud. Ta waeth, collodd Llafur reolaeth ar y cyngor, ond mae’n awgrymu erbyn 2008 bod y brwdfrydedd dros Lais y Bobl yn dechrau diflannu. Mae Llais y Bobl yn rhan o’r glymblaid sy’n rheoli’r cyngor, a gwn fod y cyngor yn amhoblogaidd ar hyn o bryd. Bydd hynny’n cyflwyno her sylweddol i’r blaid eleni.

Heb fynd i fanylder am etholiadau Ewrop, enillodd Llafur yma gyda 35% o’r bleidlais - ond wrth gwrs nid oedd Llais y Bobl yn sefyll. Yr hyn sy’n ddiddorol ydi nid y ffaith honno, ond bod Llafur wedi ennill 4,996 o bleidleisiau - mae hynny 7,409 o bleidleisiau yn is nag yn 2004.

Mae pethau’n edrych ychydig yn ddu i Lafur. Ar wefan Blaenau Gwent yr UK Polling Report, mae un cyfrannwr yn dweud ei fod wedi cynhyrchu arolwg barn lleol yn 2009 i bapur lleol. Er mai ar hap y dewiswyd gofyn i bobl i bwy y byddant yn bwrw eu pleidlais, dywedodd 45% Dai Davies a dim ond 34% Llafur. Dwi ddim yn gwybod pa mor ddibynadwy ydi’r ffigurau na’r ffynhonnell.

Mae’r bwcis yn awgrymu mai Dai Davies ydi’r ffefryn i gadw’r sedd. Dwi bron yn sicr y bydd unrhyw un fyddai fel arfer yn pleidleisio i Blaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol neu’r Torïaid, heblaw am y selogion, yn bwrw pleidlais iddo, ond nid farchnad fawr mohoni yn yr etholaeth hon. Mae llawer yn dibynnu ar yr unigolion a’r ymgyrchoedd a gynhelir.

Pa ffordd bynnag yr aiff, dwi’n amau a gaiff y buddugwyr dros 15,000 o bleidleisiau eleni. Ar yr un llaw mae Llafur yn amhoblogaidd ac mae’r ymdeimlad annibynnol yn y Cymoedd yn sicr yn amlwg, ond ar y llaw arall chafodd Llais y Bobl fawr o lwyddiant yn 2008 ac mae’r momentwm cenedlaethol yn araf droi at y blaid Lafur – ac fel y dywedais, dydi’r cyngor ddim yn boblogaidd iawn. Gyda bygythiad llywodraeth Geidwadol, mae’n gwbl, gwbl bosibl y gall y rhai sydd wedi pleidleisio dros Dai Davies a Trish Law roi eu pleidlais yn ôl i Lafur. Ac eto, mae’n annhebygol iawn y byddai Dai Davies yn cydweithio â llywodraeth Geidwadol beth bynnag.

Greddf ydi’r arf gorau sydd gan unrhyw un yn y frwydr hon. Mi fydd Llafur yn adennill Blaenau Gwent rywbryd, o leiaf yn San Steffan, a phan wnaiff bydd eto’n ei chadw’n hawdd, er nid i’r un graddau yr arferai. Mae ‘na niwed di-ben-draw wedi’i wneud i Lafur yma, nad oes ganddi’r adnoddau i’w unioni.

Ym mêr fy esgyrn dwi’n teimlo y caiff Dai Davies a Llais y Bobl eu dychwelyd i Lundain eleni.

Proffwydoliaeth: Dylai fod yn agos, ond Llais y Bobl fydd yn cadw’r sedd.

giovedì, marzo 11, 2010

Cwm Cynon

Reit, dyma’r drefn. Dwi’n gobeithio dadansoddi Blaenau Gwent ddydd Gwener neu ddydd Sadwrn. Wythnos nesaf, ceir Wrecsam, ac yn olaf un Ynys Môn, oherwydd o holl seddau Cymru, Ynys Môn ydi’r canlyniad dwi leiaf sicr yn ei gylch.

Ac ar ôl Môn y Fam Ynys fydda i ddim yn cyffwrdd mewn gwleidyddiaeth nes bod yr etholiad wedi'i alw!

O’r rhai sydd ar ôl, teg dweud mai Cwm Cynon ydi’r hawsaf i’w darogan yn llwyddiannus, oni chawn sioc a hanner. Dim ond un blaid, erioed, sydd wedi cynrychioli’r union sedd hon sef y Blaid Lafur. Os darllenwch y we wleidyddol Gymraeg fe gewch ambell ddarn sy’n awgrymu bod Plaid Cymru yn hyderus yma flwyddyn nesaf. Prin fod neb ond am Lafur eleni. Pam felly?

Wel, dyma canran y bleidlais gafodd Llafur a’r pleidiau eraill ar gyfartaledd yn yr 80au, y 90au a’r 00au (dynodir gan liwiau):

1980au: 61%; 9%; 11%
1990au: 70%; 11%; 10%; 9%
2000au: 65%; 16%; 8%; 10%

Roedd y Democratiaid Cymdeithasol yn eithaf gryf yma yn yr wythdegau, a dyma pam bod pleidlais Llafur y degawd ddiwethaf yn uwch na phryd hynny. Mae Plaid Cymru wedi gweld cynnydd yma, gyda’r Ceidwadwyr i’r lawr a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi segura.

Ond beth am union faint mwyafrif Llafur – sydd wedi bod dros Blaid Cymru bob tro – ers 1997?

1997: 19,775 (59.1%)
2001: 12,998 (48.2%)
2005: 13,259 (49.8%)

Mae’r niferoedd sy’n pleidleisio wedi dirywio ddeg y cant ond dydi’r un o’r tair plaid arall, gan gynnwys Plaid Cymru, wedi gweld newid mawr yn eu pleidlais – dim ond Llafur. Disgynnodd ei phleidlais 6,233 o bleidleisiau rhwng 1997 a 2005, sef o chwarter. Dydi hynny ddim cynddrwg â llawer o seddau eraill.

Beth am bethau yn y Cynulliad? Dyma faint o bleidleisiau a gafwyd gan pob plaid yn y tri etholiad ar gyfartaledd:

Llafur 10,584
Plaid Cymru 6,347
Ceidwadwyr 1,351
Dems Rhydd 1,217

Mae ‘na hanes y tu ôl i’r ffigurau hynny, wrth gwrs. Daeth y Blaid o fewn 677 o bleidleisiau i gipio’r sedd ym 1999, ond er hynny cafodd fwy o bleidleisiau y flwyddyn honno na chafodd yn 2003 a 2007 gyda’i gilydd. Ar y llaw arall, cafodd Llafur fwy o bleidleisiau yn 2007 ar y lefel hon nag erioed o’r blaen. Yn wir, dwi’n credu efallai mai dyma’r unig etholaeth Cynulliad yng Nghymru lle mae Llafur wedi cynyddu ei phleidlais deirgwaith o’r bron.

O ystyried hynny, mae’n ddigon anodd dyfalu pam bod Plaid Cymru mor hyderus yma ar gyfer y flwyddyn nesaf – i fod yn onest, dydi’r ystadegau ddim yn sail i’r brolio. Yr unig ffordd, a dwi’n golygu yr unig ffordd, y gall gyfiawnhau’r hyder hwnnw ydi drwy sicrhau canlyniad da eleni – rydyn ni’n sôn am gael o leiaf bumed o’r bleidlais.

Er, gallwn ddweud yn hyderus y daw Plaid Cymru’n ail yma eleni, dwi’n credu, ac na fydd y Ceidwadwyr na’r Democratiaid Rhyddfrydol yn gwneud yn dda. Yr unig gwestiynau i’w hateb ydi pa mor dda a wnaiff y Blaid, ac a fydd y bleidlais Lafur yn disgyn yn sylweddol?

Dwi wedi dweud droeon erbyn hyn, ond o leiaf y gallaf ei ddweud am y tro olaf rwan(!), yn y fath sedd dydi’r cymhelliant i bleidleisio Llafur ddim yn uchel felly dylai’r bleidlais ddisgyn. 17,000 gafodd Llafur y tro diwethaf. Yn gyfrinachol, mi fydd Llafur yn fodlon ar unrhyw beth sy’n uwch 15,000, dwi’n tybio.

Dyma ganlyniad Ewrop – dim ond Llafur a Phlaid Cymru gafodd dros ddeg y cant o’r bleidlais yma:

Llafur 4145 (33%)
Plaid Cymru 3007 (24%)

Mae ‘na awgrym calonogol yma i Blaid Cymru. Dim ond tua 3,800 o bleidleisiau gafodd yn 2005, sy’n ofnadwy o isel i fod yn gwbl onest. Dim ond selogion sydd wirioneddol yn pleidleisio mewn etholiadau Ewrop, fodd bynnag, ac roedd y 3,007 a bleidleisiodd i’r Blaid ddim ymhell o faint bleidleisiodd drosti yn 2005. Dylai Plaid Cymru allu cadw’r rhain ac ennill mwy o bleidleisiau eleni. Faint? Wel, dyfalu fyddai rhywun mewn difrif. Ond o gael 3,000 o bleidleisiau yn Ewrop, mi fyddai Plaid Cymru yn disgwyl cynyddu hyn i o leiaf bedair mil eleni.

Yn 2001, wrth i’r Blaid sicrhau gogwyddau mawrion wrth Lafur, dim ond tua 5% o ogwydd gafwyd yma. Wrth gwrs, y flwyddyn honno oedd blwyddyn orau Plaid Cymru ar lefel San Steffan. Yn 2007, roedd y gogwydd dros 7%. Os cymerwn y bydd tua’r un faint yn pleidleisio eleni, dydi hi ddim yn afresymol meddwl y bydd y gogwydd rhywle rhwng y ddau (yn seiliedig ar y ffaith bod Plaid Cymru yn ddigon hyderus yma ond ei bod yn annhebygol o ailadrodd unrhyw ogwydd o 2007 mewn etholiad cyffredinol). Hefyd, i fod yn deg, byddai’r gogwydd hwnnw’n debygol nid o fod yn uniongyrchol, ond yn gwymp yn y bleidlais Lafur (7% at ddibenion damcaniaethu) a chynnydd bach i Blaid Cymru (tua 5%). Dyma’r canlyniad damcaniaethol:

Llafur 15,200 (57%)
Plaid Cymru 5,100 (19%)
Mwyafrif: 10,100 (38%)

Mae Llafur yn gadarn iawn yma, fodd bynnag. Mae Ann Clwyd yn aelod poblogaidd. Ddaru ‘na ddim llawer ddigwydd yma yn etholiadau’r cyngor, a dwi’n amau dim y caiff Llafur Cwm Cynon fudd enfawr o fod drws nesaf i’r peiriant gwleidyddol pwerus ofnadwy yn y Rhondda.

Yn gryno, dwi ddim yn argyhoeddedig o hyder y Blaid yma, a dwi’n meddwl y bydd Ann Clwyd yn gwybod y caiff ei dychwelyd i San Steffan gyda mwyafrif mawr unwaith eto eleni.

Proffwydoliaeth: Buddugoliaeth fawr i Lafur gyda thros hanner y bleidlais.

mercoledì, marzo 10, 2010

Dirywiad parhaus S4C

Bydd rhai ohonoch yn ymwybodol o’r stori hon, ac eraill ddim, ond os nad ydych cymerwch bum munud i’w darllen. Dwi’n ei ffendio’n digon brawychus. Os ydi’r Llew neu Rhodri yn darllen, dim dyma’ch math chi o beth, felly waeth i chi stopio darllen rŵan a mynd i wefan y BBC neu rywbeth.

Yn gryno mae’n sôn am nifer y bobl sy’n gwylio S4C, ac mai dim ond 16% o raglenni’r sianel sy’n denu dros 10,000 o wylwyr a bod rhai o’r rhaglenni mwyaf aflwyddiannus o ran nifer y gwylwyr yn rhaglenni plant.

Dylai hyn fod o ddirfawr bwys i unrhyw un sy’n meddwl bod gan y sianel gyfraniad pwysig i’w wneud – ond mae’n anodd i’w chefnogwyr selocaf gyfiawnhau ei chyllid o £100m gan y llywodraeth o ystyried y ffigurau gwylio. Mae’n cryfhau unrhyw ddadl dros dorri ei chyllid, neu hyd yn oed ei diddymu, yn aruthrol. Dydi’r ffaith bod mwy o bethau nag erioed o’r blaen i’w gwneud, fel y rhyngrwyd neu’r lleng o sianeli eraill a gynigir, ddim yn eglurhad digonol, mae arna’ i ofn.

Mae’n gosod y ddadl i ni sydd o’i phlaid ar seiliau gwan iawn. Dyna’r realiti.

Mae hyn yn rhywbeth sydd wedi dod yn gynyddol amlwg dros y blynyddoedd, ond y gwir ydi bod mawrion S4C wedi bod yn ddigon hapus anwybyddu’r broblem – wedi’r cyfan, mae ganddyn nhw gyflogau anhaeddiannol o fras felly pam y dylen nhw boeni? Mae’r byd yn newid, ‘does gan S4C ddim gwylwyr sy’n gwylio’r sianel allan o ffyddlondeb. Bellach, rydyn ni isio rheswm i’w gwylio. Pam blydi lai?

A pham bod y ffigurau gwylio mor isel felly?

O ran Cyw, dwi’n meddwl ei fod yn wasanaeth da, ond faint o rieni Cymraeg sydd wedi hyd yn oed clywed amdani mewn difrif? Ddim digon. A oes ymdrech digonol yn cael ei wneud i hysbysebu’r gwasanaeth ymhlith rhieni di-Gymraeg sydd â phlant mewn ysgolion Cymraeg? Mae’n rhaid mai ‘na’ ydi’r ateb.

Teimlaf fod gormod o chwaraeon ar adegau. Mae hynny’n wrthun i nifer o’r gwylwyr selocaf. Wrth gwrs, mae gan Y Clwb Rygbi a Sgorio eu lle, ond ydi pethau fel Ralio a Golffio yn haeddu eu lle? A dywedais gyda Sgorio ambell bost nôl, mae gan y rhaglen honno ddigon o broblemau.

Y broblem fwyaf ydi bod S4C yng nghanol yr wythnos yn ddiflas, o mor ddiflas o undonog. Rhaid cael newyddion ond tybed a fyddai’n well cael y newyddion am 7 o’r gloch – dwi’n meddwl byddai pobl yn fwy tebygol o’i wylio bryd hynny. Wedi’r cyfan, bydd pobl sydd am wylio newyddion Cymru wedi gwylio Wales Today ac ITV Wales yn lle disgwyl hanner awr neu awr yn ychwanegol am y newyddion. Yn ei dro, dwi’n meddwl y byddai 7.30 yn slot gwell i Wedi 7.

Mae ffigurau Pobol y Cwm wedi dirywio ond ydi rhywun yn synnu? Neges i S4C: MAE POBOL Y CWM BUM GWAITH YR WYTHNOS YN LLAWER GORMOD. Byddai pedair, neu hyd yn oed dair rhaglen, yn hen ddigon. Yn ddelfrydol, dwi’n meddwl byddai tair am hanner awr yr un yn iawn yn lle pum rhaglen 25 munud o hyd. Mae’r gormodedd yn gwneud i bobl fel fi, a fyddai efallai yn dueddol o wylio nawr ac yn y man, fyth gwylio.

Wn i ddim beth fyddai pobl am ei weld am wyth yn lle PyC, rhaid gofyn iddyn nhw. Dydi S4C heb â chael cwis da ers talwm, beth amdani? Neu beth am rywbeth gwirion ar hyd llinellau rhaglen lwyddiannus ar y BBC fel Total Wipeout os ydi’r cyllid yno? Rhywbeth sydd am roi gwên ar wynebau pobl. Os nad ydi’r cyllid yno, gwnewch gyllid. O’r cyflogau uchaf, am un peth.

A’r diffyg mawr, mawr ar S4C ers blynyddoedd: comedi da. ‘Sdim angen rhoi rhybudd o ‘beth iaith gref’ ar ôl y Watershed, S4C, i’r diawl â’r lol ‘na. Wnes i ddim licio ‘Ar y Tracs’ – gas gen i bobl yn gwneud allan bod Cymry Cymraeg yn siarad Cymraeg yn waeth nag y maen nhw mewn difrif, a bod hynny’n grêt, mae’n fy nghorddi – ond mi wnaeth ddigon o bobl ei hoffi dwi’n siŵr. Rhaid bod ‘na dalent ysgrifennu comedi da yng Nghymru yn Gymraeg. Ewch amdani.

Mae Nain yn un o selogion y Sianel, ond mae hi’n dweud ei bod yn warthus erbyn hyn. Ymhen y pump i ddeng mlynedd nesaf bydd y selogion wedi diflannu’n llwyr drwy draul amser. Ydi mawrion S4C yn barod i gydnabod hynny, i fynd i’r afael yn yr her o ddifrif?

Yn anffodus, dwi’n amau mai ‘na’ pendant ydi’r ateb, ac y bydd y Sianel yn parhau i ddirywio.

martedì, marzo 09, 2010

Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr

Oni fo gennych filiynau yn y banc, byddwn i ddim yn awgrymu i chi roi bet ar Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr eleni. Mewn ambell fan, cewch odds o 1/200 ar Blaid Cymru yn ennill yma – sef i guro punt rhaid i chi osod £200 i lawr. Os ydych chi am ennill tenar bydd angen £2,000 yn sbâr arnoch.

Ond mae’n ddigon rhyfedd hynny, oherwydd dim ond ychydig dros ddegawd yn ôl roedd yr ardal hon yn dalcen caled iawn i Blaid Cymru. Er gwaethaf ymdrechion lu gan bobl fel Gwynfor a Hywel Teifi Edwards, arhosai’r sedd yn nwylo Llafur rhwng 1983 a 2001 (ar ffurf Caerfyrddin cyn 1997), gyda Phlaid Cymru ddim yn bygwth mewn gwirionedd. Gellid yn bennaf briodoli hyn i ardaloedd hynod Gymraeg Cwm Gwendraeth a Dyffryn Aman - ardaloedd ôl-ddiwydiannol Llafur, nid yn annhebyg o gwbl i ardaloedd fel Dyffryn Ogwen a Dyffryn Nantlle yn y Gogledd.

Ar ei ffurf bresennol, dydi’r Ceidwadwyr na’r Democratiaid Rhyddfrydol yn fath o rym – maent yn dueddol o ennill tua 20% o’r pleidleisiau rhyngddynt ar lefel San Steffan ac ar lefel y Cynulliad. Na, dydw i ddim am wastraffu geiriau yn eu trafod fan hyn, mae arnaf ofn, er fy mod mi gredaf yn gywir i ddweud bod pleidleisiau digon pendant i’r Ceidwadwyr yma.

Yn ôl ym 1997, roedd yn bur anochel y byddai Llafur yn cadw sedd y daliai i bob pwrpas. Cafodd Llafur bron i 18,000 o bleidleisiau, gyda Phlaid Cymru dim ond tair mil a hanner y tu ôl. Er mai dyma oedd unig wir darged Plaid Cymru y flwyddyn honno, prin ei bod disgwyl buddugoliaeth yma.

Ond mae’n rhaid cofio mai 1997 ydi’r unig dro i Lafur ennill yma. Heb amheuaeth, y rhan hon o Gymru welodd y gweddnewidiad sylfaenol mwyaf yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Aeth o fod yn ardal Lafur, i fod yn ardal Plaid Cymru. Dyna ddechrau a diwedd arni.

Beryg mai etholiadau’r Cynulliad oedd y sbardun. Enillodd Plaid Cymru gyda 17,328 o bleidleisiau i 10,348 Llafur – mwyafrif parchus o 6,980. Pwy enillodd? Wel, nid y mab darogan, Adam Price wrth gwrs, ond Rhodri Glyn Thomas. Am ba reswm bynnag, dechreuodd y newid mawr cyn cyfnod Adam Price. Gyda 61% yn pleidleisio y flwyddyn honno, roedd yn fuddugoliaeth gyfforddus.

Yma cafodd y Blaid ei hunig wir lwyddiant yn 2001 – y tro hwn gydag Adam Price ei hun ar ogwydd o 7.5%. Disgynnodd y bleidlais Lafur bron i dair mil a hanner, er mai o lai na dwy fil gododd pleidlais Plaid Cymru. O edrych yn ôl, tueddaf i feddwl y gallai unrhyw un fod wedi ennill y sedd i’r Blaid y flwyddyn honno (o fewn rheswm), ond roedd yn bwysig efallai cael rhywun o Ddyffryn Aman. O gael cymeriad mor gryf ar ffurf Adam Price, bryd hynny o ddifrif drodd yr ardaloedd hynny o Lafur at y Blaid.

Serch hynny, ar lefel y Cynulliad, parhaodd Rhodri Glyn i greu argraff yn lleol, heb amheuaeth. Prin yr oedd cwymp erchyll Plaid Cymru yn 2003 i’w theimlo yn Ninefwr – dychwelwyd Rhodri Glyn yn hawdd.

Ac yn yr etholiad diwethaf ar lefel San Steffan, 2005, cynyddodd Adam Price ei fwyafrif i 6,700 (17.5%). Mae hynny’n golygu, ers 1997, fod y gefnogaeth i’r Blaid wedi cynyddu o 3,104 (+11.3%) o bleidleisiau, a Llafur wedi gostwng 7,064 (-14.6%). Mewn termau real, mae hynny’n cynrychioli cynnydd o dros ugain y cant i Blaid Cymru, ond gostyngiad anferthol o 39% ym mhleidlais y Blaid Lafur.

Yn 2007, cafodd Plaid Cymru ei chanlyniad gorau erioed yma. Er i’r Blaid lwyddo gael bron i hanner y bleidlais y tro diwethaf cafwyd gogwydd o bron i 6% yn erbyn y Blaid Lafur. Disgynnodd y bleidlais Lafur yn ei thro i lai na chwarter. Rhaid nodi, fodd bynnag, er bod canran Plaid Cymru yn uwch nag erioed, roedd y nifer o bleidleisiau a gafodd yn llai nag mewn ambell etholiad. Serch hynny, gyda mwyafrif o 8,469 o bleidleisiau, mae Rhodri Glyn Thomas bellach yn ddeiliad ail sedd fwyaf diogel Cymru ar lefel y Cynulliad.

Ac er gwybodaeth, cafodd y Blaid 38% o’r bleidlais yma yn 2009 i 15% Llafur – yn wir, daeth Llafur ddau gant o bleidleisiau y tu ôl i’r Ceidwadwyr.

Felly, er diddordeb, ac eithrio Etholiadau Ewrop 2004 oherwydd diffyg data, ar gyfartaledd dyma’r ganran y mae’r ddwy blaid wedi’i chael dros y tair blynedd ar ddeg diwethaf:

Plaid Cymru 46%
Llafur 29%

Ar lefel San Steffan, mae Plaid Cymru’n ennill y frwydr 41% i 36% (bwlch o 5%); ac ar lefel y Cynulliad o 52% i 29% (bwlch o 23%). Y gwir ydi, dydi Llafur heb ddod yn agos at gael lefel y gefnogaeth a gafodd ym 1997.

Y ffaith fawr, fel y gwyddoch, ydi bod Adam Price yn sefyll i lawr, ond oherwydd ei waith caled mae’n annhebygol y bydd ei ymadawiad yn cael effaith fawr ar y canlyniad. Yn gryno, ni fydd Llafur yn adennill Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr a hynny oherwydd pedwar ffactor. Yn gyntaf, mae’r darpar ymgeisydd Jonathan Edwards yn ymddangos fel rhywfaint o carbon copy o Adam Price ac wedi gweithio’n agos gydag o am flynyddoedd – maen nhw’n debyg o ran eu daliadau a hefyd eu cefndiroedd. Ymddengys yn ymgeisydd cryf ac addas.

Yr ail ffactor ydi mai Christine Gwyther sy’n sefyll ar ran Llafur. Roedd hi’n eithaf camp i Lafur ddewis un gyn-ddarpar ymgeisydd a oedd yn “casáu’r Cymry Cymraeg” cyn mynd ati i ddethol un nad yw’n siarad Cymraeg. Gyda 72% yn honni bod ganddynt sgiliau yn y Gymraeg yma, roedd hynny’n ddewis dwl o’r cychwyn cyntaf. Y trydydd ffactor ydi bod Llafur wedi bod ar drai enfawr yn y rhan hon o Gymru am y nesaf peth i ddegawd, a ‘does dim math o arwydd bod y broses honno am wrthdroi.

Yn allanol, mae Llafur yn honni bod yn hyderus yma ond fe ŵyr pawb call nad dyna’r achos. Heb Adam Price dylent wneud yn well, byddai dyn yn tybio, ond am y pedwerydd ffactor. Mae Rhodri Glyn wedi profi nad oes angen i rywun fod yn Adam Price i ennill y sedd hon (a dwi’n dweud hynny heb olygu unrhyw amharch at Rhodri Glyn!). Yn wir, mae mwyafrifau Rhodri Glyn wedi bod yn rheolaidd fwy na mwyafrifoedd Adam Price, er wrth gwrs mae’r ffaith ei fod yn wleidydd Cynulliad o fudd iddo o ran hynny. Eto, mae’n dyst i’r ffaith mai newid sylfaenol, nid cwlt personoliaeth nag atyniad unigolyn, ydi’r hyn sy’n sail i lwyddiant Plaid Cymru yma.

Credaf yn gryf eleni y bydd Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn troi o fod yn sedd Plaid Cymru i fod yn gadarnle Plaid Cymru.

Proffwydoliaeth: Plaid Cymru i ennill y sedd gyda thros hanner y bleidlais.