mercoledì, febbraio 26, 2014

Symud S4C

Mae’n siŵr y gwyddoch fod S4C yn ystyried symud ei phencadlys, gyda Chaernarfon a Chaerfyrddin y prif leoliadau arfaethedig. Hefyd mae ei chadw yng Nghaerdydd yn opsiwn. Byddai hynny’n drueni; does ‘na ddim dwywaith y byddai cael S4C yn hwb economaidd ac ieithyddol (er y gellir dadlau gyda’r ddau faint o wahaniaeth a wna mewn difri) i ardal y Fenai neu fro Myrddin.

Dwi wedi clywed ambell ddadl na ddylid symud S4C i’r gorllewin o gwbl a’i gadael yng Nghaerdydd, yn bennaf rhag ofn iddi gael ei gweld fel rhywbeth “iddyn nhw fyny/draw fanno”. Tydw i ddim yn poeni fawr ddim os mai dyma fyddai’r canfyddiad ymhlith rhai pobl. Dwi bob amser wedi meddwl ein bod ni Gymry Cymraeg yn rhoi gormod o sylw i beth mae eraill yn ei feddwl ohonom, a’i fod yn hen bryd i ni fod yn hunanol a mynnu pethau drosom ein hunain yn llawer mwy nag ydyn ni. Os ydi rhai yn gweld y Gymraeg fel rhywbeth sy’n berthnasol i’r gorllewin yn unig, wel, stwffia nhw, ‘does fawr o ots gen i am eu barn, a does dim byd am newid eu barn chwaith.

I gyfaddawdu, mentraf ddweud fy mod innau'n bersonol yn gefnogol i ymgais y ddwy dref.

Ond fydd o ddim yn syndod i chi ychwaith mai ymgais Caernarfon dwi fwyaf cefnogol iddi. Ond mae fy rhesymeg dros hynny yn fwy ymarferol nag emosiynol – byddai well gen i weld S4C yng Nghaerfyrddin nag aros yng Nghaerdydd. Y prif reswm y mae hyn yn cael ei weld fel cyfle euraidd, a bod y ddwy dref am hudo’r sianel, ydi rhoi hwb i’r Gymraeg yn yr ardaloedd hynny (mi dybiaf i nifer o bobl fod unrhyw ddadl arall yn eilaidd yn y bôn). Mae rhai sydd o blaid Caerfyrddin wedi dweud nad oes angen help ar y Gymraeg yn y gogledd-orllewin a dyma pam y dylai fynd i Gaerfyrddin. Dydi’r bobl hyn yn aml ddim yn adnabod y gogledd-orllewin yn dda iawn. Er, mi fyddwn i’n derbyn bod angen mwy o help ar yr iaith yn Nyfed na Gwynedd.

Dwi wedi hyd yn oed darllen ensynio fod 'na lot gormod yn mynd i Gaernarfon, er mi fentrwn ddweud bod hyd yn oed y rhai sy'n arddel y ddadl honno'n gwybod mai un wirion ydi hi.

Ond os ydi’r symud posibl i fod yn fuddiol – yn economaidd ac yn ieithyddol – mae un elfen hanfodol iddo, sef nid symud S4C y sefydliad ond symud y bobl sy’n gweithio yn y pencadlys hefyd. Wn i ddim beth i wneud o hyn mewn ffordd, achos fydd o fawr o iws i bobl sydd eisiau aros yn naill ai Caernarfon na Chaerfyrddin os ydi pobl jyst yn symud yno efo swyddi da; debyg y dywedant, yn ddigon teg, pam nad oes mwy yn cael ei wneud i’w helpu nhw aros yn y gorllewin na helpu Cymry Cymraeg i symud yn ôl. Ond o safbwynt ieithyddol mae’n nod amlwg.

Debyg na fyddai pawb eisiau symud wrth gwrs, ac mae hynny’n ddigon teg. Ond byddai cael pobl mewn swyddi da mewn ardal Gymraeg yn sicr yn hwb yno, a byddai effaith dreigl i raddau hefyd.

Ond dyma ni'n dod ati, sef y broblem fawr efo Caerfyrddin – mae Caerfyrddin o fewn pellter teithio i’r gwaith o Gaerdydd a’r cyffiniau. Allwch chi gyrraedd Caerfyrddin mewn tua awr o Gaerdydd; a’r gwir ydi dyma fyddai llawer o bobl yn ei wneud yn hytrach na dadwreiddio o Gaerdydd. Tydi hynny o fawr ddim budd i’r iaith Gymraeg yn Sir Gâr, os o gwbl. Ni fyddai’r effaith ieithyddol yn cael ei theimlo mor gryf ag y gallai pe na fyddai dewis gan bobl ond symud. Adleoli swyddi fyddai symud i Gaerfyrddin, nid adleoli pobl - neu eu hannog i wneud hynny o leiaf!

Mae hynny hefyd yn wir am yr effaith economaidd. Tydi cymudwyr ddim mor werthfawr â thrigolion.

Does dim modd cymudo i Gaernarfon o Gaerdydd yn feunydd, mae’n fater o symud neu golli swydd. Petai S4C yn symud i Gaernarfon, byddai pobl â swyddi da yn symud yno gyda hi, a byddai’r swyddi a fyddai’n wag yn mynd i bobl sydd naill ai’n lleol neu bobl eraill a hoffai symud yno. Byddai’r effaith yn uniongyrchol, tra yng Nghaerfyrddin mi dybiaf mai anuniongyrchol iawn fyddai.

Yn gryno, byddai’r effaith economaidd ac ieithyddol a gâi symud S4C yn gryfach o lawer yng Nghaernarfon na Chaerfyrddin a hynny oherwydd daearyddiaeth seml. Serch hynny, ym mêr fy esgyrn mi deimlaf mai penderfynu aros y gwnaiff S4C, a bydd hynny’n gyfle wedi’i golli i’r naill ardal neu’r llall.
 
Er, mae'n rhaid imi ddweud fy mod i'n synnu braidd na wnaeth Rachub gais.

domenica, gennaio 26, 2014

Ein Cyfaddawd Ni

Mae’n anodd bod yn Gymro Cymraeg â pheidio â chael llond bol ar bopeth. Ond mae o’n teimlo weithiau fel petai holl rymoedd y byd hwn yn uno yn ein herbyn. Dwi’n siŵr nad fi ydi’r unig un sydd wedi sylwi, dros y ddwy neu dair blynedd ddiwethaf yn benodol, fod straeon a sylwadau gwrth-Gymraeg yn dod yn bethau mwy cyffredin nag yr oedden nhw rai blynyddoedd ynghynt. Beryg y bu ffigurau’r cyfrifiad yn fêl ar fysedd y lleiafrif hyll hwnnw yng Nghymru, nad yw’n lleiafrif dibwys gwaetha’r modd, sy’n casáu’r Gymraeg ac yn ddirmygus o’r rhai ohonom sy’n ceisio’i siarad a’i harddel. I’r rhai sy’n ymosod arnom o’r tu hwnt i Glawdd Offa – pobl sy’n gwybod dim am Gymru, heb sôn am ystadegau cyfrifiadau, ond am yr hyn a arddelo’u rhagfarn – nid a wna’r un ganran na ffigur wahaniaeth i’w barn druenus. Byddai’n rhy ddiflas peidio â phigo ar leiafrif y mae’n dderbyniol ei sarhau, wedi'r cyfan.

Duw ag ŵyr.

Ond dwi’n siŵr o un peth. Y mae’r ymosodiadau ar y Gymraeg fel petaent yn amlhau – y cyfan yn ensynio pam ddylai’r di-Gymraeg orfod cyfaddawdu i’r lleiafrif gwirion sy’n mynnu dal ynghlwm wrth iaith a ddylai fod wedi hen farw wrth i weddill y byd esblygu? Y gair allweddol ydi ‘cyfaddawd’. Nefoedd, dwi wedi cael llond bol ar bobl yn dweud neu’n ensynio eu bod yn gorfod ‘cyfaddawdu’ i siaradwyr Cymraeg.

Beth ydi’r cyfaddawd erchyll hwn a wna’r di-Gymraeg yng Nghymru? Dysgu rhywfaint o’r iaith frodorol yn yr ysgol yn lle rhywbeth “call” fel Sbaeneg neu Fandarin; ffieiddio ar y ffaith fod rhai swyddi yn Gymraeg ‘hanfodol’ (os cofiaf yn iawn, 2% o swyddi yn y sector cyhoeddus sy’n ffitio’r disgrifiad hwn - un o bob 50); dioddef arwyddion mawr gyda dwy iaith arnynt ac, o ia, palu arian mewn i sianel na allan nhw mo’i deall. Erbyn 2016 bydd cyllid y Sianel yn £74.5m -llai na £25 y pen i bawb yng Nghymru, i’w roi ffordd arall. Bŵ-ffycin-hŵ.

Efallai y dylent ystyried a deall, hyd yn oed yn fras, ein cyfaddawd ni.

Gwasanaethau eilradd yn Gymraeg – ym mhob maes posibl. Gorfod cyfiawnhau ein bodolaeth yn dragywydd. Cael ein bychanu, ein gwawdio a’n dilorni’n gyson gan rai pobl yn ein gwlad ein hunain neu dros y ffin, a gyfiawnheir â rhyddid mynegiant, a hynny heb fyth gael y cyfle i ateb yn ôl. Ein gweld ein hunain yn troi’n lleiafrif hyd yn oed yn ein cadarnleoedd traddodiadol, bron yn ddiymadferth i wrthdroi’r sefyllfa.

Derbyn na allwn fyw ein bywydau - hyd yn oed weithiau gwneud y pethau mwyaf sylfaenol - drwy gyfrwng ein hiaith ein hunain, yn ein gwlad ein hunain, hyd yn oed yn yr ardaloedd hynny lle’r ydym yn niferus neu’n fwyafrif clir.

Pwy Saesneg ei iaith erioed a aeth i garchar, neu a fynychodd brotest, neu hyd yn oed a lofnododd ddeiseb, am yr hawl i fyw o leiaf rai elfennau o’i fywyd yn Saesneg yng Nghymru? Pwy yn wir.

Ydi, mae dwyieithrwydd yn gyfaddawd. Ond ein cyfaddawd ni ydi o – cyfaddawd unochrog a gorfodol a orchmynnwyd ar y Cymry Cymraeg. Cyfaddawd nad oes gennym ddewis yn ei gylch eithr ei dderbyn. Pan fyddo’r rhai sy’n ein casáu'n uchel eu croch, neu rywrai'n cwestiynu’r cyfaddawdau a wnân nhw erom ni, byddai’n syniad da iddynt gymryd ond munud i feddwl am wir natur dwyieithrwydd yng Nghymru.

Ein cyfaddawd ni ydi o.

lunedì, gennaio 06, 2014

Caerdydd vs. Hogyn o Rachub

Ni fûm erioed yn betrus o gyhoeddi blog o'r blaen ond mi ydw i rywfaint y tro hwn. Ond weithiau mae'n rhaid i rywun ei fynegi ei hun, ac mae hyn wedi bod yn dod ers sbel.

Fe sylwch fy mod i yn cael ambell i ddig ar Gaerdydd yn eithaf aml. Efallai ei fod yn bryd imi gyfiawnhau fy hun, achos tydi Caerdydd ddim rili yn haeddu hynny. Y mae hi’n ddinas wych, a dwi wedi bod yn ffodus treulio fy ieuenctid yno’n camfihafio. Na, tydw i ddim yn uniaethu efo’r lle. Tydw i ddim yn “caru’r” lle. Ond mae o’n lle gwych, ac mae’n haeddu cael ei gydnabod felly.

Does ‘na fawr o amheuaeth gen i, er fy mod wrth fy modd â’r ddinas, fod lwmp go dda o’m hagwedd at y ddinas yn deillio o’r ffaith fy mod i jyst isio symud oddi yno, a dychwelyd i’r Gogledd, a fy mod i raddau’n chwerw am fy mod i’n aflwyddiannus yn gwneud hyd yma.

Mae rhesymau go bendant gen i am symud i’r Gogledd – rywsut, mae o jyst yn teimlo fel y peth “iawn” i’w wneud. Debyg fod ‘na elfen o euogrwydd fy mod i yng Nghaerdydd yn mwynhau gormod yn hytrach na chyfrannu at yr ardal lle’m magwyd. A soniais o’r blaen am berthyn, plentyn hiraeth.

Ond yn y cyfamser, o weld f’ardal i’n dirywio, mewn nifer o ffyrdd ond yn benodol iawn yn ieithyddol, fedra i ddim ond â theimlo mai yma y dylwn fod. Tydw i ddim yn meddwl y byddwn i’n edifar dychwelyd chwaith (o ddewis y swydd/amser cywir). Wn i ddim neb sydd wedi gadael Caerdydd am eu hadref nhw ac edifar; y mae pob un ohonynt yn teimlo i’r carn iddynt wneud y peth iawn, ac yn dweud yn ddieithriad nad a symudent yn ôl i’r brifddinas fyth. A phan ydach chi’n treulio amser i ffwrdd o Gaerdydd allwch chi weld agwedd wahanol arni nag os ydych chi yn y swigen: y mae rhywbeth ffals amdani. Mae’n arwynebol: mae’n ddiawledig o anodd esbonio, ond dwi’n meddwl y bydd pawb sydd naill ai wedi symud o Gaerdydd, neu sy’n mynd yno’n aml am ba reswm bynnag, yn dallt yr hyn sy gen i wrth ddweud hynny.

Ta waeth, amlinellaf y ddau reswm mae Caerdydd – er gwaethaf popeth – yn mynd ar fy nerfau. Ac er mwyn ceisio bod yn gryno, mi hepgoraf CF1.

Y mae’r cyntaf yn un syml: pethau i’w gwneud. Dwi’n meddwl ei bod yn hilariws cynifer o bobl (nid dim ond y rhai sy’n byw yng Nghaerdydd, gyda llaw) yn dweud bod ‘na llwyth i’w wneud yng Nghaerdydd ond ‘sdim byd ‘adref’. Dyma i chwi’r bobl sy’n mynd i’r un llefydd bob wythnos, yn cwrdd â’r un bobl o hyd, ac yn gwneud yr un pethau o hyd, yn gylch mawr o undonedd.

Dyma’r bobl sy’n cymdeithasu efo pobl sydd jyst fel nhw, achos mewn dinas mi allwch ddod o hyd i bobl sy’n debyg i chi – yn wahanol i lefydd mwy cefn gwlad, lle mae’ch ffrindiau yn eithaf tebygol o fod yn wahanol iawn i’w gilydd jyst achos ‘na nhw sydd yno (sydd, os ca’i ddweud, ddim yn eu gwneud yn llai o ffrindiau). A dyma’r bobl sydd â’r haerllugrwydd i alw Cymry Cymraeg cefn gwlad yn ‘gul’. “Symudish i ffwrdd achos bod o’n gul, mae Caerdydd lot mwy agored”.

Reit ... ac wrth gwrs mi ddywedan nhw bethau fel hyn heb feddwl eu bod nhw efallai fymryn yn sarhaus i’r Cymry bach syml ‘na yn y gogledd a’r gorllewin.

Yr ail ydi’r Gymraeg; ac i raddau'r Cymry Cymraeg sydd yno. Nid pawb o bell ffordd - taswn i’n mynd ati rŵan i wneud ymosodiad eang ar holl Gymry Cymraeg y ddinas fydda gen i ddim ffrindiau, yn llythrennol - ond mae ‘na elfen gref (a mentraf ddweud dosbarth canol, sydd ddim yn gyhuddiad dwi’n mwynhau ei luchio o gwmpas) sydd mor, mor falch o Gymreictod newydd Caerdydd. “O,” medda nhw, “fyddwch chi’n clywed Cymraeg ymhobman yng Nghaerdydd y dyddiau hyn”. Peidiwch â chredu neb sy’n dweud hyn, maen nhw’n llawn shit. Mae’n wir y clywch Gymraeg mewn rhai ardaloedd penodol - os nad penodol iawn - o Gaerdydd. Ac mae’n wir fod ‘na rwydwaith Cymraeg cryf a bywiog yn y ddinas. Ond rhwydwaith ydi o, nid cymuned, ac mae hynny’n wahaniaeth pwysig. Cymuned Gymraeg nid oes i Gaerdydd.

Ac mae’r pwyslais yma ar y dyfodol – mae ‘na ddyfodol i’r iaith yng Nghaerdydd – sy'n fy mlino ac yn fy nhristáu. O, am gryfder fyddai gennym yn yr hen gaerau pe gallasem fod wedi aros yn yr hen fröydd. Tydi’r economi ddim am ganiatáu i hynny ddigwydd am rŵan, ond mae cynifer ohonom o Gaerdydd o ardaloedd mwy gwledig, mwy Cymraeg, a allai wneud cymaint o wahaniaeth yn byw yn ein bröydd genedigol. Ac mae lot fawr, fawr isio gwneud hynny, ond heb fodd i wneud hynny, alla i sicrhau hynny i chi.

Ond dyma sy’n fy ngwylltio, y sôn am ‘gryfder’ yr iaith yn y ddinas.

11%.

Dyna gryfder y Gymraeg yng Nghaerdydd. Ydi pethau mor ddu arnom fel bod 11% yn rhywbeth i’w ddathlu? Ydi cynnydd bach o 4,000 o siaradwyr (1%!) ym mhrifddinas Cymru rhwng 2001-11 yn rhywbeth i’w groesawu, neu yn rhywbeth i’w gywilyddio ynddo? Faint o’r 36,000 sy’n honni siarad Cymraeg sy’n byw eu bywydau gan mwyaf yn yr iaith, neu'r â’r iaith yn brif iaith iddynt? Ddim nhw i gyd. Fyddai awgrymu hanner yn deg?

Dyma bobl sy'n dweud bod 'na fwy o Gymry Cymraeg yng Nghaerdydd nag sydd yng Ngheredigion bellach fel petai hynny'n beth da!

Ac felly mae’n gwawrio ar rywun yr hyn ydi’r Cymry Cymraeg yng Nghaerdydd. Mae cynifer yn licio meddwl eu bod nhw’n gyfran barchus o boblogaeth y brifddinas, ar gynnydd o ran maint a hyder. Ond ddim dyna ydyn nhw. Lleiafrif dibwys, amhwysig ydyn nhw – neu, mi ddylwn i ddweud, ydym ni. A dwi’n ymwybodol iawn o hynny – yng Nghaerdydd dwi’n rhan o leiafrif pitw. Oes ots os ydyw’n lleiafrif prysur, gweithgar? I raddau (bach). Ac mae'r hyder  hwnnw'n aml yn gallu cael ei gyfleu fel hunanbwysigrwydd. Ta waeth...

11%. Mae hynny’n llai na Sir y Fflint. Go figure.

Ac os dyna’r ‘dyfodol’ disglair y mae rhai’n ei addo, pan gyfeiriant at ‘ffyniant’ y Gymraeg yn y brifddinas - mai hwnnw ydi'r peth y dylem ymhyderu ynddo, yn obaith i Gymru gyfan - mi gânt ei gadw. Byddai’n well gen i farwolaeth yr iaith na’n bod yn gweld y sefyllfa druenus pan fydd y Cymry Cymraeg yn 11% yng Ngwynedd neu Fôn ... neu hyd yn oed yn Nyfed o ran hynny. A dwi’n meddwl, pan ddaw ati, dyna sy’n fy nghorddi fwyaf. Mae llawer o Gymry Cymraeg Caerdydd, boed yn frodorion y ddinas neu’n bobl sydd wedi symud yno, yn meddwl ei bod yn esiampl dda o ran y Gymraeg. Dwi’n meddwl bod Caerdydd, pan mae’n dod ati, jyst yn dangos pa mor erchyll o ymylol y gallasai'r Cymry Cymraeg fod yn eu gwlad eu hunain un diwrnod.

Ond waeth i mi orffen ar nodyn cadarnhaol ac ategu’r hyn a ddywedais i ddechrau. Mae Caerdydd yn ffantastig – dwi ddim yn beio neb am fod isio byw yno, yn enwedig pan fônt yn ifanc ac isio gwneud drygioni. Dwi wedi treulio blynyddoedd hapusaf fy mywyd yn yr hen ddinas ddrwg ‘na. Ond o godi ‘mhen o’r swigen, mi alla i weld yr ochr arall, lai dymunol, iddi, ac yn sicr byddwn i byth bythoedd isio i’r gogledd na’r gorllewin ei hefelychu, achos yn y bôn, mae un Caerdydd yn ddigon.
 

sabato, gennaio 04, 2014

Tawelwch

Byddwch yn dawel. Darn arbennig o gyngor os bu erioed.

Wn i ddim faint o bobl dwi’n eu nabod sy’n ofn tawelwch, ond dwi yn nabod lot ohonyn nhw. Ofn ydi’r gair priodol hefyd, nid jyst ‘ddim licio’ ydi o – ofn. Mae o fel bod tawelwch yn pefrio ochrau tywyllaf y meddwl, yn meddiannu popeth ac yn styrbio arnynt yn ddifrifol.

Dwi efo’r Pab ar hyn. Actiwli dwi efo’r Pab ar lot o bethau. Y mae Ffransis yn ffwc o Bab os ydach chi’n gofyn i fi. Mae o’n ei dallt hi, yn well na fi ac yn sicr yn well na chi. A dweud y gwir, mae gan Babau yn gyffredinol lot o bethau pefriol a chall i’w ddweud os ydych chi’n fodlon gwrando, hyd yn oed os ydych chi’n anghytuno: a dwinnau’n un o’r rhai sy’n gwrando. Ond mi ddywedodd yn ddiweddar mae un o broblemau’r byd modern ydi ei fod yn llawn sŵn a phrysurdeb – does dim lle i dawelwch a myfyrio. Lle mae’r tawelwch? Yn fy mhrofiad i, mae mwy o wirionedd mewn tawelwch na holl eiriau’r hen fyd swnllyd hwn.

Efallai bod hyn yn deillio o fyw ben fy hun. Roeddwn i’n arfer bod yn gymeriad nad oedd yn or-hoff o’i gwmni ei hun, sy’n ddealladwy mewn difrif gan y gallaf gyfrif bod yn ddigydymdeimlad, yn feirniadol ac yn ddiamynedd ymhlith fy ngwendidau niferus (dwi’m yn falch o’r rheiny wrth gwrs, ond gan fod fy rhinweddau basically yn cynnwys dealltwriaeth dda o ramadeg a gallu gwneud ffwc o basta sôs, wel, mae nhw actiwli yn fwy deniadol na’r rhinweddau tydyn?). Dwi’n licio tawelwch. I mi, mae tawelwch yn arwain at dawelwch meddwl. Jyst weithiau, mae’n rhaid i mi ddiffodd y teledu, a rhoi i’r naill ochr unrhyw ddeunydd darllen, ac ista yno fel lwmp o ham, yn myfyrio (mae’r ‘lwmp o ham’ yn cyfeirio ar yr eistedd yn hytrach na’r myfyrio, i ni gael dallt ein gilydd).

A dweud y gwir, dwi ddim bob amser hyd yn oed yn myfyrio. Ond mae’r ychydig funudau – weithiau munudau lawer – o dawelwch hynny’n angenrheidiol ac yn adfywiol. Achos jyst weithiau fydda i’n meddwl dwi’n ei dallt hi fy hun. Weithiau mae prysurdeb y byd jyst yn rhy blydi swnllyd ac arwynebol. Tydan ni ddim yn cael amser i feddwl.

Dwi’n dallt yr ofn sydd gan bobl o dawelwch, fodd bynnag, er fy mod i ddim yn ei rannu. Mae gan bawb ei groes i’w chario a tydi pobl ddim yn licio hel meddyliau am y pethau drwg yn eu bywydau, a phan ydan ni dani’n licio meddwl mai arnom ni y mae hi waethaf (er y gwyddom ym mêr ein hesgyrn nad dyma’r achos go iawn). Ond o gymryd yr amser hwnnw i feddwl, neu i fod yn fanylach, adael i’r meddyliau ddod atoch chi, dwi’n meddwl ein bod yn y pen draw yn dod i’r casgliad bod pethau’n eithaf da, neu’n weddol, wedi’r cyfan. Y mae cyfri ein bendithion yn beth rydyn ni’n llawer rhy gyndyn, ac yn aml hunandosturiol, i’w wneud.

Does fawr o dawelwch yn y tŷ yn Rachub, fodd bynnag. Gyda Dad â rheolaeth lwyr ar y remôt, fydd y foliwm byth yn is na ffwl blast, a fedra i ei glywed yn gwylio Splash ar ITV yr holl ffordd yma’n fy llofft. Dwi’n siŵr na wnâi Ffransis yn fath beth petai o yma.

venerdì, gennaio 03, 2014

Llygod

I Gymro, toes ‘na ddim cywilydd mewn cael llygod yn tŷ. Gwyddom ni fod llygod yn bethau digon bach, digon diniwed. Iawn, mae’n dangos nad ydych chi’n gwybod sut mae glanhau tŷ yn iawn ac mae ‘na rywbeth bach yn od amdanoch os ydych chi ddim yn meindio rhannu tŷ efo nhw yn hytrach na’u difa – efallai eich bod yn ddigon anffodus i edrych ‘tha ll’godan ac yn uniaethu â nhw, neu’n aelod o’r Blaid Werdd.

Mae llygod wedi’u canfod yn ein tŷ ni yn Rachub, yn yr atig, sef uwch fy llofft i. Y mae dal anifail yn peri emosiynau gwahanol hyd y gwn i. Pan ddalio rhywun lygoden, mae ‘na elfen o ‘geshi chdi’r basdad bach’ yn fwy na thristwch, ‘gei di’m cachu yn fy nghartref i mwyach’. Ond dim o weld un yn farw a feddyliai rhywun hynny, dwi’n meddwl. Os gwela i lygoden yn fyw, fydda i’n fwy tueddol o’i chyfarch na’i gwasgu dan droed.

Yna mae pysgod. Gan fod pysgod yn rhywbeth na allwn ni uniaethu â nhw, tydyn ni ddim yn teimlo fawr ddim tuag atynt, a phan ddalio rhywun bysgodyn (sydd, yn fy achos i, yn uffernol o ddigwyddiad prin) mi fydd rhywun jyst yn meddwl am beth i’w gael gyda fo i de. Achos allwch chi ddim fod yn ffrindia efo pysgodyn. Oce, mi fedrwch, os ydych chi’n feddyliol sâl, neu’n mynd ati rŵan i wneuthur hynny jyst er mwyn fy mhrofi i’n anghywir (ymwadiad: chi sy’n edrych yn wirion os ydych chi’n llwyddo gwneud hyn, nid fi ... a pheidiwch â g’neud ryw sylw clyfar am Aquaman achos dwim’ yn licio comics achos dwi’n 2ffycin8 oed). Ond fentra’ i ddweud na all neb uniaethu efo ‘sgodyn a dyna pam nad oes fawr o ots gan rywun ladd un.

Y mae’r llwynog yn un rhyfedd. Ar yr un ochr, mae llwynogod yn greaduriaid gosgeiddig, del – all neb na gwadu na gwrthddweud hynny. Ond mae llwynogod yn fasdads bach sydd angen eu rheoli’n gaeth. Dylai anifail mor ddel ddim ymddwyn mor hyll; felly mae pobol yn meddwl.

Y mae moch daear, ar y llaw arall, yn ffycin ofnadwy ym mhob ffordd.

Ac yn wir mae ambell anifail, fel llygod mawr (‘big maws’) a chocrotshans, y byddai lot ohonom actiwli’n cymryd eithaf diléit yn eu tranc, gan beintio sloganau YMLAEN Y DDYNOLIAETH a POBOL 1 FERMIN 0 dros Bont Borth i ddathlu’r peth. A pham lai – llygod mawr a chocrotshans ydi’n gelynion ni fel dynoliaeth. Allwch chi ddim cydfyw’n heddychlon â chocrotshan. A na, Radio Cymru, tydi hwnnw ddim yn syniad ar gyfer comedi radio. Peidiwch â meiddio.

Er nad ydw i isio meddwl am Gaerdydd, mae fy nhŷ i yn y ddinas fawr-ish led-ddrwg yn cael ymwelwyr digroeso. I fod yn onast efo chi, mae pob ymwelydd â ‘nhŷ i’n ddigroeso – tydw i ddim yn rili mwynhau cael pobl draw achos maen nhw’n gwneud llanast yno efo’u ‘sgidia. Tydw i ddim yn feudwy o bell ffordd ond fy nhŷ yw fy hafan a gwae unrhyw un a feiddio â’i hanharddu hyd yn oed fymryn. Ond heblaw am bobol, moch coed sydd lond y lle. Hap a damwain ydi eu ffawd nhw – bydd yr un cyntaf yn cael getawê drwy gael fflîch allan o’r drws cefn, ond os daw mwy nag un i’r amlwg dros y diwrnod maen nhw’n fwyfwy tebygol o gael fflîch lawr y pan. Achos, yn y pen draw, blydi mochyn coed dio, ac mae ‘nhŷ i’n bwysicach na moch coed.

Ta waeth, credaf i lygodan arall gael ei maglu gennym. Heddwch i’w llwch ac i’r bin â hi.

sabato, dicembre 28, 2013

Priflythrennau Cymry Cymraeg Caerdydd

Dwi wedi denig. O ba le meddech chwi? Caerdydd de. Dwi’n y Gogs am rai wythnosau. Ydw, dwi yn licio Caerdydd ond maen nhw’n lot rhy libral i mi yno ac yn licio mynd i’r theatr a ‘SGWENNU LLYTHYRAU MEWN PRIFLYTHRENNAU ACHOS MAE CYMRY CYMRAEG CAERDYDD MOR BWYSIG. Wel, maen nhw’n meddwl eu bod nhw eniwe. Chwi a allwch ddyfalu fy marn ar hynny. Efallai yr ymhelaethaf ryw ddydd, os galla i feddwl am ffordd o fynegi fy hun na fydd yn arwain at gael stîd.

Sut ‘Ddolig fuodd? Mi ges un da ‘leni. Ddim yn dda iawn o ran anrhegion ond pa ddyn dros ei bump ar hugain a gaiff anrhegion da fel y cyfryw? Bydda i’n cael dillad fel mater o arfer. Dillad ffasiynol – lot rhy ffasiynol i mi. Y chwaer fydd yn eu dewis ac ma hi’n ffasiynol chwarae teg, well gennai’r ‘Jim Parc Nest ar ôl 10 peint a noson mewn ffos’ motîff fy hun de. Hefyd, mi ges fy anrheg flynyddol o galendr Llais Ogwan. Anrheg dda ydi hon, ond ro’n i’n meddwl bod ei lapio’n beth digon dibwynt gwneud. Pwy fyddai’n lapio calendr wir? Wel, Mam de. Ond cofiwch, hon ydi’r ddynas a brynodd cyw iâr inni eleni yn lle twrci drwy gamgymeriad.

Fydda i fy hun yn drist o weld cefn ar 2013 achos mi wnes i ei mwynhau’n ofnadwy ar y cyfan, yn bennaf achos dyma’r tro cyntaf imi fwynhau fy haf. Glywsoch chi hynny’n gywir – fydda i’m yn licio’r haf, yn bennaf achos mae’r byd a’i gi yn gwneud pethau ac yn mynd i wyliau cerddorol, sef un o’m casbethau. Os ydach chi isio dechrau sgwrs efo fi, peidiwch â dechrau drwy ddweud pa mor ‘ôsym’ oedd un. Wna i ddeutha chi be sy’n ‘ôsym’ – pizza, a phizza’n unig. Pizza a fodca.

Ac wrth gwrs brandi coffi. Dim ond yn ddiweddar y darganfûm rinweddau’n ddiod ryfeddol hon. Os nad ydych chi wedi cael brandi coffi mae’n dlawd iawn arnoch i’r graddau waeth i chi stopio.

Jyst, stopio.

Ta waeth, rhaid imi fynd i newid dillad sy ddim yn ffitio. Cadwch mewn cysylltiad ia.

lunedì, novembre 04, 2013

Mistar Piso

Dyfalwch lle dwi. Oni ddywedoch chi 'yn Rachub yn yfad coffi yn gwely' roeddech chi'n anghywir. Os y cawsoch yr ateb cywir, debyg y bydd yn rhaid imi gau'r llenni neu rywbeth, achos sa hynny'n ffriclyd ffwcedig. Yn blogio ar iPad - dyfais ddibwynt ac anodd ysgrifennu blog arni. iPad Mam ydi hwn, ac mae gan Nain un hefyd. Teulu modern ar y diawl yr ydym.

Ydach chi fel fi? Pan fydd angen pisiad arna i, mae'r angen i'w gael ar ei waethaf jyst cyn cyrraedd y pisfan a fwriadwyd. Mae rhai o eiliadau mwyaf poenus fy mywyd wedi'u treulio ar Stryd Machen yn ffwndro efo'r goriad a'm coesau'n croesi ei gilydd yn udo.

Dylai pethau fod wedi bod yn hawdd. Gadewais y gwaith am ddau. Dylai Caerdydd fod yn ddistaw tua hynny, meddwn i, ac mi gaf rediad da i'r Gogs. Jyst cyn y car mi es am bî-pî, dwi'n gall fel'na, a dyma fi ar fy ffordd.

Nid jyst bod yn gall oeddwn i'n cael pisiad cyn cychwyn. Roedd rhai o'm ffrindiau gorau wedi fy nghoroni â'r ffugenw MP yn ysgol fach. Roedd iddo ystyr dwbl. Ymwnâi'r cyntaf â'm diddordeb, hyd yn oed bryd hynny, mewn gwleidyddiaeth. Tra bod pawb arall yn cael pecynnau gyrfa am y fyddin, bod yn beilot neu enjinîar, geshi un am yr Hows o Comons. 

Yr ail reswm oedd, wel, nid Member of Parliament oedd ystyr MP eithr Mistar Piso. Roedd hyn achos fod gen i bledran gwan ac achubais ar bob cyfle posibl i'w wagio. Sylwodd ambell un ar hyn ac am rai misoedd Mistar Piso oeddwn i. Tydw i ddim yn meddwl y bydd y misoedd duon, pislyd hynny byth yn fy ngadael llonydd.

Ta waeth, ugain mlynedd yn ddiweddarach tydwi dal ddim yn wleidydd ond tydi fy mhledran heb dyfu fawr ddim. Felly pan gymrodd ddeugain munud i adael Caerdydd, dyfalwch chwi yr hyn yr oedd ei angen arnaf. Ni fyddai lleddfu oni wegid, a Thecso Pontypridd oedd y nod, ddeg munud o Gaerdydd. Arswydais ar weld maint y traffig a oedd ar adael y lle, byddai'n cymryd sbel i adael y lle hwn ac ail-ymuno â'r briffordd. Yr oedd Yr Ods eisoes wedi'u diffodd imi gael canolbwyntio ar beidio â'm gwlychu fy hun; doedd na ddim peryg fy mod i am aros fel hyn am byth.

Arswydo wnes i eto ar ôl parcio a chyrraedd y lle chwech. Mi oeddan nhw'n ei lanhau a doedd 'na ddim symud ar ba bwy bynnag oedd wedi hawlio'r toiled i bobl anabl. Mi arhosais, ond doedd 'ba ddim aros yndda i. Mi adewais ac ail-ymuno â'r briffordd, yn ddagreuol braidd o gofio maint y ciw.

Y mae'r ugain munud nesa yn flêr. KFC Merthyr oedd y nod a dwi'n cofio dim am y lôn, dim ond poen rhwng fy nghoesau. Doeddwn i ddim am fod eithr yr ail berson i biso yn fy nghar. Ia, ail, ddaru Lowri Dwd wneud nid nepell o Ganllwyd unwaith. Afraid dweud na fu imi cweit mor ddeniadol ar ôl hynny.

Gyrhaeddish i KFC yn wadlan i mewn fel chwadan yn syth am y lle chwech. Ew, mi wnes i fwynhau yno. Dwi'n siwr imi wenu i'm hun wrth yr iwreinal, ond braidd yn amheus fod yr adeilad cyfan yn ogla 'tha caws ar dost. Ond be' wnewch chi am hynny?

Hoffwn feddwl y byddai gweddill y daith wedi bod yn well, ond penderfynwyd cau hanner Sir Drefaldwyn - sy'n bell o fod yn fwyn pan fo'n gwneud taith ddiawledig yn waeth fyth - a bu'n rhaid imi ddilyn dargyfeiriad ffiaidd rownd bob mathia o lefydd. Penderfynodd y car na chaniatâi imi wrando ar ddim eithr Classic FM, a threuliais y cyfan o'r dargyfeiriad yn rhegi'n uchel ar y radio a phob ffwc gar arall a'm goddiweddodd. Chwech awr a gymerodd i gyrraedd Rachub. 

Dyna ni felly. Dwi mond yn ddiolchgar na mond pisiad onisho, deud y gwir.



Hefyd, aeth Mam â chath Anti Nel am dro, achos yn anffodus tydi 'nheulu i ddim llawn llathan

sabato, settembre 07, 2013

Problem sylfaenol addysgu Cymraeg ail iaith?

Cafwyd cryn sôn yn ddiweddar am addysgu ail iaith yn ein hysgolion ni. Galla i ddim cynnig llawer o sylwadau call ar hyn ond mi allaf gynnig ambell un.

Dydi o ddim yn gyfrinach bod addysgu Cymraeg ail iaith wedi bod yn fethiant yn ein hysgolion - bron yn gyfan gwbl felly. Ddylai hyn ddim fod o syndod i ni. Does ‘na fawr o ddisgyblion yn gadael ysgolion Saesneg sy'n dod allan y pen draw yn rhugl mewn ail iaith, y mae'r un mor wir am Ffrangeg ag am y Gymraeg, mae’r holl beth bach o smonach a dweud y gwir. Gallai fod sawl peth ynghlwm wrth y methiant, gan gynnwys dulliau dysgu ail iaith mewn ysgolion, ond mae safon athrawon yn y maes hefyd yn rhywbeth i’w ystyried.

Rŵan, wn i fod hyn yn dir peryglus - o blith holl broffesiynau’r byd, does fawr o rai mwy touchy nag athrawon. Allwch chi ddim cynnig y feirniadaeth leiaf i athrawon heb iddyn nhw wylltio a phwdu. Fedra i ddim dychmygu bod hynny’n beth iach - er y galla i fel aelod o'r ail broffesiwn mwyaf touchy yng Nghymru, cyfieithu, ei ddeall i raddau! Ond fel rhywun sy’n adnabod ambell athro sy’n dysgu Cymraeg ail iaith, fedra i ddweud wrthoch eu bod nhw o’r farn nad ydi safon athrawon Cymraeg ail iaith, ar y cyfan, yn uchel o gwbl. Mae hynny’n deillio i raddau o’r bobl sy’n cael eu derbyn ar gyrsiau ymarfer dysgu.

Gad i mi rannu hanesyn â chi. Pan fûm innau’n dilyn cwrs ymarfer dysgu (yn aflwyddiannus) roedd tua 12 ohonom yn y dosbarth. Roedd ‘na raniad clir iawn – roedd pedwar ohonom yn Gymry iaith gyntaf, ac yn siarad Cymraeg â’n gilydd, a’r saith arall yn Gymry Cymraeg ail iaith, pob un yn siarad Saesneg ymhlith ei gilydd. Nid dyna oedd y broblem. Doedd ambell un yn yr ail garfan ddim hyd yn oed yn rhugl yn y Gymraeg, ac felly dybiwn i ddim ffit i addysgu Cymraeg ail iaith. Beth dwi'n ei olygu wrth 'rhugl' yn yr ystyr hwn? Wel...
 
Roedd ‘na un yn ein dosbarth, yr oeddem ni’n pedwar yn ei galw’n Sglodion, oherwydd yr unig air Cymraeg y clywsom iddi ei ddweud erioed oedd ‘sglodion’. Doedd Sglodion ddim yn gallu cynnal sgwrs syml yn Gymraeg – roedd yn berffaith amlwg pan siaradai’r tiwtor â ni na ddeallasai bron dim y dywedodd. Dwi’n cofio’n iawn un tro yn y dosbarth i ni’r pedwar edrych ar ein gilydd â chryn syndod pan na allasai gofio’r Gymraeg am Friday, gan ar ôl oedi ddweud ‘dydd Mercher’.

Tydi honno ddim yn stori unigryw. Mae un o’m ffrindiau, sy’n athro Cymraeg ail iaith llwyddiannus, yn cofio pan ddilynodd yntau’r cwrs hwnnw flwyddyn cyn imi wneud, yn ei flwyddyn yntau fod y tiwtor wedi gofyn i un o’i gyd-fyfyrwyr droi’r golau ymlaen yn yr ystafell, a bod yn rhaid i rywun o’r dosbarth sibrwd wrtho beth oedd y tiwtor yn gofyn iddo ei wneud. am nad oedd y deall y cyfarwyddyd.

Jyst ystyriwch hynny am eiliad fach. Wn i ddim os bu newid ers imi geisio bod yn athro dan hyfforddiant saith mlynedd yn ôl, ond bryd hynny roedd pobl na allent gynnal sgwrs yn y Gymraeg yn cael eu derbyn i’r cwrs TAR i fod yn athrawon Cymraeg. Felly rhaid gofyn o ran ail iaith, ai’r holl system o addysgu ydi’r bai mewn gwirionedd, ynteu’r athrawon eu hunain*?

 

*             *             *

 

Un peth, fodd bynnag, a ddylai fod o fwy o bryder inni mewn difrif, ydi’r ysgolion Cymraeg eu hunain. Tydi o ddim yn rhywbeth a gydnabyddir yn eang, ond mae ‘na lawer o ddisgyblion mewn addysg Cymraeg sy’n gadael y system ar ôl 12 mlynedd a mwy o addysg drochi nad ydynt yn rhugl. Rydyn ni’n gywir wedi nodi bod diffyg cyfleoedd i ymarfer Cymraeg y tu allan i’r ysgol yn broblem yn hyn o beth, ond rhaid gofyn er gwaethaf hynny sut ddiawl fod hyn yn digwydd? Mae 12 mlynedd mewn addysg Gymraeg (h.y. 4-16 oed – y cyfnod ‘lleiaf’ o addysg Gymraeg mewn ffordd) ac yna’n methu â siarad yr iaith yn rhugl yn rhyfeddol.

Dwi’n ddigon call i wybod bod y gair ‘rhugl’ ynddo’i hun yn un anodd ei ddiffinio gan fod rhuglder yn raddfa yn hytrach nag yn safon benodol, ond dwi’n ei ddefnyddio fel term ymbarél llac. Efallai mai’r diffiniad gorau fyddai gallu cynnal sgwrs yn y Gymraeg nad yw'n arwynebol yn yr ystyr hwn - ac mae disgyblion yn yr ysgolion Cymraeg na allant wneud hynny.

Yn fy marn i, nid safon yr addysgu yn yr ysgolion Cymraeg ydi’r broblem yn hyn o beth (yn wahanol i ail iaith i raddau helaeth) ond y ffaith syml fod cymdeithas yn nwyrain Cymru bron yn uniaith Saesneg. Serch hynny, pan fo disgyblion yn gadael addysg drochi a ddim yn rhugl yn yr iaith, efallai bod yn rhaid inni ailystyried popeth rydyn ni’n ei wneud yn y maes.
 
*Un ymwadiad cyflym ar y pwynt hwn - tydw i ddim yn dweud bod pob athro sy'n dysgu ail iaith yn gwneud hynny'n wael, jyst bod 'na lot yn.