lunedì, maggio 14, 2018

Gamwn


Y mae’n rhyfedd imi y dyddiau hyn deimlo bod angen imi fwrw bol dros rywbeth gwleidyddol ar ffurf blog. Dwi dal yn greadur annatod wleidyddol ei anian; ond yn un sydd wedi’i ddadrithio gan wleidyddiaeth pleidiau, gyda hynny wedi treiddio i raddau i’m holl sbectol wleidyddol ar y byd. Dwi heb fawr o otsh ddim mwy. Dydw i ddim yn hoffi byw mewn gwlad sydd wedi’i pholareiddio megis; ceidwadaeth ddiangen ddideimlad ac atgas, y dde bell yn hawlio rhyddid barn, a’r chwith yn bloeddio rhyddfrydaeth gan ei hanffurfio a’i gwyro i’w safbwyntiau eu hunain. Aros a Gadael. De a Gogledd. Anffyddwyr a’r ffyddiog. Label i bawb a phawb isio label. Pob leffti’n snowflake a phawb sy’n anghytuno â’r chwith yn ffasgydd. Yr unig bolareiddio sydd ei hangen ar ein gwlad – Cymreictod a Phrydeindod – yn fudan a minnau yng nghanol hyn oll yn meddwl bod pawb arall yn ffycwits.

A neb yn dysgu o’r cyfan. Dyna sydd efallai’n corddi fi. ‘Sneb yn dysgu o ddim. Dwi’n ddigon hapus i bobl dwi’n anghytuno â nhw beidio â dysgu gwersi, mae’n haws naddu arnynt wedyn, ond pan fo pobl dwi’n cytuno â nhw’n peidio â dysgu mae ‘na rwystredigaeth ddofn, anobeithiol yn dyfod drosof.

Paham mai gamwn a’m gwylltiodd heddiw? I’r rhan fwyaf o bobl mae honno’n frawddeg y gallen nhw ddweud na feddylient y byddent yn ei hysgrifennu fyth. I fi, roedd hi’n fater o amser.

Y term sarhaus gammon sy gen i dan sylw. Os dydych chi ddim yn gwybod beth mae’n ei olygu, dyma ddisgrifiad Urban Dictionary ohono, ond yn fras mae’n cyfeirio at ddynion hŷn (moel a thatŵiog yn aml) o fryd Brexit; rhagfarnllyd, ia, ond hefyd ddi-addysg a dosbarth gweithiol.

Dydw i ddim yn rhannu safbwyntiau’r bobl hyn, felly pam fod hynny’n fy ngwylltio? Mae amryw resymau, ond yr un sylfaenol dwi’n meddwl ydi gan bwy y daw’r term ac at bwy y mae’n ei gyfeirio. Term ydi o gan bobl ddinesig, dosbarth canol, siwdoryddfrydol (mae’r defnydd o siwdo yma’n flog ynddo’i hun, ond yn ddefnydd bwriadol), yn aml gyfforddus eu byd, efallai’n iau sy’n gryf o blaid aros yn yr UE – pobl dwi’n amlach na pheidio’n uniaethu’n â nhw ar lefel wleidyddol, ond yn llai ar lefel bersonol. Maen nhw’n defnyddio’r term i gyfeirio i bob pwrpas at y dosbarth gweithiol (neu, o leiaf, wrth ei ddefnyddio bob tro’n cyfeirio at bobl sy’n digwydd bod yn ddosbarth gweithiol): y dosbarth ŷm magwyd ynddo, yn rhannu llawer o’i agweddau ar fywyd ac yr ydw i’n uniaethu ag ef ar lefel bersonol mewn ffordd na alla i â’r dosbarth canol – a chyfeirio ato’n ddilornus. Dydi gammon ddim yn foi canol oed dosbarth canol sy’n rheolwr llinell i hanner dwsin o bobl ac yn dreifio Audi bum mlwydd oed. Y bobl ar y gwaelod ydi’r rhain, ond fy mhobol i ydyn nhw. Fy hunaniaeth, nid fy ngwleidyddiaeth i, sy’n llwythol; sydd ynddo’i hun yn un gwahaniaeth sylfaenol rhwng y dosbarth gweithiol a’r dosbarth canol.

Mynegais i cyn y refferendwm (sy’n gefndir i fy meddylfryd yma, y gallwch ei ddarllen yma os oes gennych chi awr sbâr) y credais yr oedd yr agwedd uchelael, sarhaus, ddiystyriol hon at bobl dosbarth gweithiol, sydd wedi bod yn datblygu’n araf ers ryw ugain mlynedd, am arwain at golli’r refferendwm. Trafodais agweddau at faterion cymdeithasol ac economaidd ond yn y bôn awgrymais taw’r agwedd uchod oedd un o’r prif resymau y gallai Brexit ddigwydd. Wna i ddim ailadrodd popeth yma, ond dwi’n mynd i awgrymu y’m cyfiawnhawyd gan ddemograffeg y canlyniad.

Oherwydd hynny, dwi ddim yn rhannu’r dicter a’r dirmyg sydd gan gynifer o bobl Aros at y bobl bleidleisiodd o blaid gadael. Dwi’n flin am lot o bethau – dwi’n flin am golli’r refferendwm, dwi’n flin does dim am ddod o’r ffaith i’r ymgyrch Gadael gelwydda a thwyllo’n ariannol, dwi’n flin am ragrith rhai o’r prif leisiau dros Adael, a’u hunan-fudd ynddo a’u hamharodrwydd i ddelio â sefyllfa y crëon nhw. Er, dwi hefyd yn flin am i’r ymgyrch Aros gynnal ymgyrch gwbl bathetig eu hunain, ac am i lawer o ladmeryddion cryfaf Aros fod yn gyfrifol at greu’r hinsawdd wleidyddol arweiniodd at hyn yn y lle cyntaf drwy eu hymdriniaeth dros flynyddoedd lawer o’r bobl bleidleisiodd dros Adael.

Eu ffroenucheldra maith nhw arweiniodd at sbeit y bleidlais i Adael; sylwer eironi un o ystyron y gair gammon yn y cyd-destun hwnnw.
 

Er, dydw i ddim yn flin â phobl bleidleisiodd i adael achos dwi ddim yn coelio bod eu rhesymau dros eisiau gadael yn ddi-sail nac yn ddi-werth – dydi hyd yn oed barn stiwpid ddim yn farn annilys. A chas gen i’r dôn gron bathetig gan bobl f’oedran i ac iau am ddwyn ein dyfodol gennym; nid am nad oes elfen o wirionedd i hynny ond mi wn i’n iawn pan y bydda i neu chi’n hŷn pleidleisio dros yr hyn dwi’n ei gredu a wnaf i, ddim pleidleisio i blesio pobl eraill waeth pwy ydyn nhw.

Ond yn ôl at y gamwn. Iawn, mae o’n derm dilornus a sarhaus – a fawr otsh gen i am hynny – ond mae’n hynny at grŵp o bobl (fel y dywedais, yn aml dosbarth gweithiol, cymdeithasol geidwadol a di-addysg) sydd wedi’u dilorni cyhyd gan grŵp arall (dosbarth canol, rhyddfrydol-chwith, addysgiedig) nes eu bod wedi’u suro’n llwyr. Y cyfan mae’r gammon yn ei wneud ydi:

1. Atgynferthu ffroenucheldra dosbarth canol at y dosbarth gweithiol a wnaeth gyfraniad helaeth at golli’r refferendwm yn y lle cyntaf

2. Caledu agweddau Brexit nifer yn y dosbarth hwnnw.

A’r peth rhwystredig ydi nad ydi pobl yn gweld hynny. Dim newid tacteg. Dim argyhoeddi ar lefel ddealladwy y gall pobl uniaethu â hi. Y mae’r traddodiad o ddilorni barn pobl isaf cymdeithas yn rhy sefydledig, i’r graddau y mae baw isa’r domen y llywodraeth Geidwadol hon yn gallu defnyddio’r dirmyg hwnnw i guddio’u dirmyg a’u drwgweithredu eu hunain atynt.

Ac am yr union resymau hynny, petai rywsut, rywfodd, ail refferendwm, byddai’r canlyniad bron yn union yr un peth. Blog yr Hogyn o Rachub 14 Mehefin 2018; fi ddywedodd gyntaf chwi gofiwch. Y drasiedi ydi, er bod pobl o’r ddwy ochr na fyddai byth yn newid pleidlais petai ail refferendwm, mae lliawns yn y canol a allai wneud hynny, ond sydd ddim am wneud oherwydd safon ein disgwrs a’n dadl wleidyddol.

Ond dydw i ddim yn siŵr beth a’m hysgogodd i ysgrifennu’r uchod. Yn y bôn, er fy mod i wedi hen ddysgu’n wleidyddol fod dy ddiffinio dy hun yn ddogmatig yn dwp, dwi’n ochri efo’r ochr ryddfrydol, econonomaidd-chwith i bethau, a dal yn gryf o blaid Aros. Ac efallai fy mod innau wedi suro am fy mod i’n disgwyl i bobl o fryd tebyg fod yn gallach eu disgwrs yn lle efelychu’r ochr draw, ac yn ofer ddisgwyl iddynt ddysgu gwersi am pam ein bod ni yn lle’r ydym ni’n awr.

lunedì, gennaio 15, 2018

Eryrod Pasteiog X: Y Dyrchafiad

Ha-ha-ha! Hi-hi-hi!
Portffolio twristiaeth rhowch i mi!

-Dafydd Elis-Thomas wrth Carwyn Jones, 03.11.2017

 


Negodwyd y cyfan yn gelfydd a chain, a chyrhaeddodd yr Arglwydd yn ôl i’w gwt chwain. Fflat foethus a sefid yn rhwysg uwch y Bae, ddi-wae ei gwedd a lledr ydoedd ar bob sedd. Diwrnod od a darniog fu. Aeth i’r gwaith am saith i’r Senedd at ei siort, a chyn i’r machlud mud wrido dros Walia, roedd weinidog dros sbort.

 “Carwyn, Carwyn a’th wallt yn wyn;
Mor falch fydd f’etholwyr ym Mhenllyn a Phen Llŷn," ebe ef.

Mawr fyddo’i glod o’r mynydd i’r nant, ac o’i fod y gŵyr y gwnâi weinidog diwylliant sefydlog. Doedd callach, addasach, ar gyfer yr orchwyl hon a Leanne dwp bendwmpiodd wrth iddo gyrraedd entrychion. Ond am ddêl i Ddafydd Êl – D’Êl a alwai'i hun yn awr dros win ar ei fin mewn bwyty yma’n ei gynefin ger morglawdd mawr Caerdydd. Mor flin fydd Adam Price a’i frechdan aflan ham ddi-arnais o Tesco bach (“O! Wna un dy hun Adam!” i ddyfynnu Rhun un tro) o’m gweld ar waith yng nghabinet ein Llywodraeth.

“I ddathlu caf faddon cyn diwedd y nos, ac yna archebaf i’m hun Ddominôsss,” hisiodd fel sarff, sef yr unig anifail sy’n debyg i sgarff.

HWBWL BWBWL
HUFEN DWBL
LLAID A CHWYS
A BERWI’R CWBL

Yr oedd coginio Eluned Morgan yn mynd o ddrwg i waeth.

Ond gwelsai un llai nag ef yn y twb cyn troi’r tap. Pry cop yn procio’i goesau gylch y bath. Ceisiai gyrraedd y brig a’i fethiant yn yr arfaeth, dim llai, ac nid oedd gwe a'i gynorthwyai â’r gwaith. Deigryn ar ruddiau D’Êl ddisgynnai, ac mewn argyfwng ymddarostyngodd. O’r sgwrs od, un frawddeg adroddir:

“Tydi a myfi -
Pr’un yw’r pry cop?”

Ymsythodd. I’r gegin i goginio macaroni caws ymlwybrodd. Ac yn llygad y bowlen rhoes y pry cop ac i’w hun fe’i hymborthodd â’r llwyaid cyntaf. Dafydd Êl, rwyt gnaf!

lunedì, agosto 28, 2017

Eryrod Pasteiog IX: Chwilio am Dudley



Ymddengys fod y straeon yn wir. Ga’i o ddifrif ymbil ar ddarllennwr y blog hwn – sef fi – i ddod o hyd i Dudley a’i helpu. 






Y mae Comisiynydd Twitter Heddlu'r Gogledd wedi trydar yn rhyddhau gwybodaeth am y sefyllfa ac erfyniaf i chi ei ddilyn i gael y wybodaeth ddiweddaraf wrth i'r sefyllfa ddatblygu.


 
Os ydych eisiau helpu, cofiwch drydar â'r hashnod #dodohydidudley neu gwnewch un o'r canlynol:


  1. Ewch i chwilio yn eich cymunedau amdano
  2. Chwiliwch am olion wyog ar lwybrau'r fro, gallent arwain ato
  3. Rhowch wybod i'r Heddlu am unrhyw adroddiadau amdano. Y maen nhw hefyd yn derbyn amheuon, honiadau, sïon, sibrydion a chardiau rhodd.
  4. Os byddwch yn dod ar ei draws, peidiwch â'i gynhyrfu na chyfeirio at y ffaith fod ganddo omled ar dennyn, periff hyn iddo wylo.
  5. Arhoswch yn eich tŷ nes bod y sefyllfa wedi'i datrys a dilynwch unrhyw ganllawiau a ryddheir gan Lywodraeth Cymru.




martedì, agosto 08, 2017

Y Gau Elyn a'r Gwir Elyn


“the finest trick of the devil is to persuade you that he does not exist”

Charles Baudelaire

 

Dros y misoedd diwethaf mi fûm yn ystyried yn ddigon dwys ar adegau end game cenedlaetholdeb Cymreig,  ac a fyddwn fyth yn cyflawni rhai, os nad pob un, o’n nodau. Y mae’r nodau hynny inni’n hysbys. Oce, y dyddiau hyn y cymysgir â nhw ffeministiaeth, amgylcheddiaeth, cydraddoldeb o bob math, sosialaeth – bob un yn bethau teilwng i raddau tra wahanol – ond dau nod yn unig sydd i genedlaetholdeb Cymreig: parhad ein hiaith a rhyddid ein gwlad. Ategwch atynt yr hyn a fynnwch o’ch daliadau personol, ond o safbwynt gwrthrychol, y ddau nod hynny yw’r alffa a’r omega.

Ond dydi gwybod yr hyn rydych o’i blaid ddim yn ddigon, ac y mae’r sawl sy’n coelio hynny’n naïf. Gwlad naïf, ddiniwed ydyn ni gan amlaf, ac mae hynny wedi bod yn rhwystr enfawr i ni wrth gyrraedd y pen taith a hoffem. Ni wyddom ein gelyn, oherwydd fe’n twyllwyd i feddwl mai arall yw, gan wlad sydd, ysywaeth, yn llawer craffach a chyfrwys na ni.

Fe deallai Gwynfor Evans, dwi’n meddwl. Bydd llawer ohonoch yn gyfarwydd â’r dyfyniad adnabyddus canlynol ganddo:

 


Britishness...is a political synonym for Englishness which extends English culture over the Scots, the Welsh, and the Irish.


 

Ond efallai nad ymhelaethodd ddigon yn hyn o beth – neu efallai, nad amgyffredai lawnder yr hyn a ddywedodd. Y mae Prydeindod cyfoes yn hunaniaeth artiffisial a grëwyd â dibenion gwleidyddol yn sail iddi, ond mae’n dwyll ehangach ac yn dwyll y disgynnom i’w fagl yn llwyr. Roedd yn fwy na modd i gyflawni’n gymharol lwyddiannus ddiben Seisnigeiddio Ynysoedd Prydain. Fe hoeliodd yn llwyr ein sylw, ac rydym yn dal i weld Prydeindod fel y gelyn. Fe’n twyllwyd i gasáu a brwydro rhywbeth sydd, yn ei hanfod, ddim hyd yn oed yn bodoli.

Mae hynny’n glyfar. Ac yn glyfrach nag y meiddem feddwl. Achos mae cenedlaetholwyr yn tueddu i gasáu Prydeindod: yn brwydro'n ei erbyn tra bod gan drwch y Cymru gryn ymdeimlad o uniaethu â hwnnw. Ond Seisnigrwydd? Does gan y Cymry ddim ymberthyn iddo.

Yn ddiweddarach beiom ni genedlaetholwyr Lundain – un ddinas – hefyd am holl drafferthion ein gwlad, ac yn ddiweddarach fyth Gaerdydd. Ydyn ni’n bwrpasol, yn fwriadol, camu’n dwp o amgylch y peth hwnnw sydd am ein troi’n genedl angof?

Achos, yn y bôn, nid Prydeindod ydi’r gelyn. Dyma’i dweud hi’n onest: Lloegr ydi’r gelyn.

Does pwynt imi fynd drwy dreigl y canrifoedd ac egluro nad Prydeindod laddodd Llywelyn, na Phrydeindod ychwaith fynnodd drwy Frad y Llyfrau Gleision ddadwreiddio Cymru o’i hiaith a’n Seisnigeiddio. Ond mae’r patrwm yn amlwg. Sylweddolodd y Sais ganrifoedd yn ôl y gallai goncro Cymru drwy arfau a thrais ond na allai lwyr roi ei phobl dan droed ond drwy gyfrwyster llywodraethu (er gwaetha’n twpdra cynhenid rydyn ni dal yn rhyfeddol o wydn – efallai bod yna gysylltiad rhwng y ddau. Wedi’r cyfan, dydi bocsars ddim yn adnabyddus am eu gallu deallusol).

Y broblem oedd sut oedd gwneud hynny. Yn hyn o beth mae Cymru fu a Cymru sydd yn dra thebyg: dderbyniwn ni fyth mo’n Seisnigeiddio ddigywilydd. Y mae hunaniaeth Seisnig yn wrthun i’n gwaed. Ond o’i throsi’n Brydeindod, gwnaed y gwaith yn haws.  

Y peth dwl ydi, hyd yn oed pan ddechreuom ni ddeall taw mwgwd oedd, parhawyd i dargedu’r mwgwd ac nid y gwisgwr.

Rhyfel i’r farwolaeth ydi perthynas Cymru a Lloegr. Nid ein nod ydi rhywsut dinistrio Lloegr – y mae hynny’n amhosib a dydi dinistrio cenedl arall ddim yn beth i’w ddeisyfu beth bynnag. Ond tydi marwolaeth Cymru wrth law Seisnigrwydd ddim yn amhosib; y mae’n fygythiad real ac yn rhywbeth sy’n digwydd ag amlygrwydd cynyddol. Brwydr fythol, ddiflas i barhau yw’r gorau y gallwn obeithio amdano. Ond mae hynny’n well na’r dewis arall.

Yn y bôn, yr hyn dwi’n ei ddweud yma ydi hyn: mae’n rhaid i ni bellach efallai cydnabod yn fwy agored (i ni’n hunain o leiaf) nad Prydeindod ydi’r gwir elyn, eithr Seisnigrwydd, a hynny y dylid ei frwydro.

Nid rhyw alwad ddifeddwl ydi hon ychwaith i rywsut feithrin casineb at y Saeson fel pobl nac unigolion; wedi’r cyfan, mae rhywun i fod i garu ei gymydog, hyd yn oed os ydyn nhw weithiau’n gwneud y peth yn ddiawledig o anodd. Byddwn i’n mentro dweud taw’r Saeson hynny sydd yng Nghymru sydd wedi cymryd at ein gwlad a’n hiaith, neu'r rhai ohonom â gwaed Seisnig ynom, sydd yn fwyaf poenus o ymwybodol o law Seisnigrwydd yn nirywiad parhaus Cymreictod ac agweddau cynifer o Saeson yng Nghymru at eu gwlad ddewis. Ysywaeth, mae rhywbeth hanfodol Seisnig am fynnu aros mewn gwlad rydych wedi dewis byw ynddi a’i chasáu a’i dirmygu’r un pryd.

Mae i Gymru ddau elyn: y gau elyn a’r gwir elyn. Rhown i’r naill ochr y cyntaf. Fe'n cyflyrwyd fel cŵn gan ein meistri i fod ofn hyd yn oed cydnabod yr ail. Ond does amser i'w wastraffu mwyach. Ei gydnabod sydd raid.

mercoledì, giugno 14, 2017

Mae'n bryd i Leanne Wood fynd



Fydd o fawr o syndod i unrhyw un o ddarllenwyr cyson y blog anghyson hwn yr hyn dwi’n ei ddweud yma. Serch hynny dwi am ei ddweud yn gwbl blaen: os oes gan Blaid Cymru ronyn o synnwyr, mae’n hen bryd i Leanne Wood fynd. Does gen i ddim ffydd y bydd hyn yn digwydd, ac y bydd Plaid Cymru’n dal i fynd ar ei thaith araf i amherthnasedd llwyr. Gwnaf fy mhwyntiau yn fras, yn sôn am yr etholiad hwn yn bennaf ond hefyd yn ystyried ei pherfformiad hanesyddol fel arweinydd. Mae hi’n arwain y Blaid ers pum mlynedd bellach ac mae hynny’n ddigon o amser i arweinydd naill ai wneud cynnydd a gwneud argraff, neu gamu i’r neilltu. Dywedaf isod pam fy mod i o’r farn fod yn rhaid iddi fynd.

Yr etholiad hwn

Erbyn diwedd yr ymgyrch, daeth hi’n amlwg fod Plaid Cymru, fel nifer o bleidiau eraill yn wynebu anawsterau’n sgîl yr ymchwydd Llafur a gafwyd, er iddynt lwyddo ag ennill Ceredigion, er mae dadl deg i’w gwneud ynghylch y ffaith fod yr ymchwydd Llafur hwnnw wedi gwneud mwy o ennill Ceredigion na Leanne Wood. Roedd nifer o ganlyniadau eraill yn drybeilig o wael, a diwedd y gân ydi fod yn rhaid iddi gymryd rhywfaint o’r cyfrifoldeb am hyn.

Y broblem efo’r etholiad hwn oedd, yn syml (fel y dywed Mike Parker yma), mae’r un sedd a gipiwyd yn galluogi Plaid Cymru unwaith eto i anwybyddu ei dirywiad drwy hawlio llwyddiant.

A byddwn yn onest hefyd; bob tro mae Plaid Cymru’n cael etholiad gwael, sef bron pob tro, maen nhw’n defnyddio’r esgus “roedd hwn yn etholiad anodd i ni”. Dydi o ddim yn gwbl anwir y tro hwn, ond mae’n esgus cynyddol flinedig i’w glywed.

Etholiadau a fu

Dim ond aelodau mwyaf cibddall Plaid Cymru allai wadu hyn: yn etholiadol, mae cyfnod Leanne Wood wedi bod yn aflwyddiant. Segura llwyr. Heblaw am ennill y Rhondda yn 2016, dydi ei harweinyddiaeth heb gyflawni unrhyw gynnydd etholiadol.

Byddai sôn am etholiadau cyngor eleni’n gam gwag: cael a chael oedd hi a hynny cyn ymchwydd Llafur yr etholiad. A chafwyd yr etholiad hwnnw, a 2016, ar gyfnod pan oedd Llafur ar drai trybeilig. Ni fanteisiwyd ar hynny o gwbl. O gwbl. Un sedd a enillwyd yn ychwanegol yn 2016, sef y Rhondda ei hun – does yna ddim ffordd o sbinio hynny fel llwyddiant, er y ceisiwyd gwneud hynny sawl gwaith. Roedd y Blaid yn ffodus ennill ASE yn 2014.

Yn fras, mae record etholiadol Leanne Wood ar yr un lefel ag un Ieuan Wyn Jones.

Etholaethau a fu a’r Cymoedd

Dyma ddod at, efallai, aflwyddiant mwyaf arweinyddiaeth Leanne Wood. Fe’i hetholwyd gan yr aelodaeth yn benodol i wneud cynnydd yn y Cymoedd.

Dydi hynny heb ddigwydd y tu allan i’r Rhondda. Ddim hyd yn oed ar lefel y Cyngor, ac eithrio i raddau yng Nghastell-nedd. Byddai pwyntio at Flaenau Gwent yn gam gwag achos, heb Nigel Copner, prin y byddai Plaid Cymru wedi gwneud cystal yno, ac ni all unrhyw un ddod i unrhyw gasgliad am hynny ond am y ffaith nad oes â wnelo’r cynnydd yno ddim â Leanne Wood. Yn wir, mewn sawl rhan o’r Cymoedd mae Plaid Cymru’n wannach yn etholiadol heddiw na phan enillodd yr arweinyddiaeth.

Does fawr ddim yn dangos hynny mwy na’r canlyniad yn y Rhondda eleni. Roedd y gostyngiad yno’n un o ganlyniadau gwaethaf Plaid Cymru drwy Gymru gyfan.

Yn ategu hynny, ddegawd yn ôl roedd seddi lle’r oedd Plaid Cymru’n gystadleuol neu’n eu dal (yn y Cynulliad): Aberconwy, Llanelli, Gorllewin Clwyd, Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro. Ers i Leanne ddod yn arweinydd mae Llanelli dal heb gael ei hadennill, gyda’r perfformiadau’n amrywio rhwng siomedig a gwael ofnadwy, a dydi’r tair sedd arall ddim ar y radar mwyach.

Felly gellir dadlau, dwi’n credu, yn etholiadol, fod Plaid Cymru wedi mynd yn ôl dan arweinyddiaeth Leanne Wood, ac nid Ymlaen!

Perfformiad yn y cyfryngau

Fydd hwn yn bwynt amhoblogaidd. Ond gwir. Roedd perfformiad Leanne Wood yn y dadleuon eleni’n wael iawn (a ddim cystal yn 2015 ag y byddai rhai’n licio meddwl). Dwi’n gwybod, roedd pawb ar Twitter wrth eu bodd â hi, ond mae hynny’n dweud mwy ei chefnogwyr nag unrhyw un arall. Roedd sylwedd yr hyn oedd hi’n ei ddweud wastad yn arwynebol, ei hatebion yn chwithig. Ni suddodd yn llwyr diolch i’w gallu sicr i wneud one-liners cofiadwy iawn, ond roedd hi’n eu cadw nhw at UKIP, ac o ystyried y chwalfa nid yn unig a gawsant ond a ragwelwyd iddynt, roedd mynd ar eu hôl nhw’n gwbl ddiangen.

Mae’n ffaith eithaf hysbys hefyd fod nifer yn y Blaid wedi’u syfrdanu a’u gwylltio gan ei chyhoeddiad od ei bod yn ystyried sefyll yn y Rhondda rai wythnosau ynghynt. Mi ddygodd y sylw rhag yr etholiad ei hun, ac roedd hi’n edrych yn wirion ar ôl penderfynu peidio. Roedd o’n PR disaster.

Dydi hi ddim ychwaith yn arbennig o dda yn y cyfryngau cymdeithasol.



Roedd y twît uchod yn un o’r pethau twpaf glywais i erioed. Nid yn unig ei fod yn anesmwytho unrhyw genedlaetholwr sydd ddim yn Corbynista, ond perai’r cwestiwn syml: os am weithredu polisïau Corbyn pam ddiawl ddim pleidleisio dros Lafur? Roedd hi’n gofyn i bobl bleidleisio dros Blaid Cymru er mwyn gweithredu polisïau arweinydd plaid arall.

Yn y diwedd, penderfynodd pobl Cymru taw’r ffordd hawsaf o weithredu polisïau Corbyn oedd pleidleisio Llafur. Ac i fod yn onest, dyna oedd yr unig gasgliad call. Y mae Leanne Wood yn llwyr wedi disgyn i’r fagl Y Chwith Brydeinig (fel yr arferai Simon Brooks ddadlau amdani – yn anffodus, mae Simon fel petai wedi disgyn i’r un fagl y dadleuai’n ei herbyn).

‘Mae pawb yn hoffi Leanne’

Dwi’n hoffi chwïaid. Yn fawr iawn, iawn. Ond baswn i byth yn pleidleisio dros un, heb sôn am fod isio un i arwain gwlad.

Casgliad

Dwi wedi ceisio bod yn fras uchod, er bod y mater dan sylw’n haeddu traethawd llawn. Ond o unrhyw safbwynt gwrthrychol ni ellir dadlau nad ydi arweinyddiaeth Leanne Wood wedi bod yn fethiant. Dydi’r Leanne Effect heb gydio y tu allan i’r Rhondda yn y Cymoedd, ac mae Plaid Cymru mewn sefyllfa ddifrifol o wan mewn rhannau eraill o Gymru erbyn hyn.

Doedd pob aflwyddiant neu siom yn etholiad eleni ddim yn fai uniongyrchol ar Leanne Wood, mwy nag yr oedd hynny o lwyddiannau a gafwyd yn uniongyrchol o’i herwydd hi. Ond mae’n rhaid iddi gymryd cyfrifoldeb am ganlyniadau’r etholiad, sy’n rhywbeth dydi hi erioed wedi gwneud dros y blynyddoedd diwethaf ‘ma.

Y cyfan mae hi wedi’i wneud ydi llusgo’r blaid i’r chwith, a denu aelodau newydd sydd â’u bryd ar faterion lleiafrifol, amgylcheddol, ffeministaidd, asgell chwith go bell. Yn y cyd-destun gwleidyddol hwn, does yna ddim lle i blaid o’r fath eithr y blaid Lafur.

Hyd yn oed ar fater annibyniaeth, nod mawr y Blaid, dwi’n teimlo bod Leanne Wood wedi bod yn niweidiol. Yn lle dadlau’r achos, fel yr addawodd ei wneud, mae hi wedi sefydlu naratif cryf o “We’re not strong enough to be independent yet” sydd jyst yn ategu amheuon pobl ynghylch annibyniaeth. Dydi pobl ddim am bleidleisio dros blaid sy’n credu mewn annibyniaeth ond sy’n dweud allan ni ddim bod yn annibynnol.

Felly be nesa?

Ia wir. Be nesa?

Anodd gen i weld Leanne Wood yn camu i’r neilltu, er gwaethaf arweinyddiaeth gwbl aflwyddiannus. A dydw i ddim yn meddwl bod gan unrhyw un y bôls i’w disodli. Does ots y gallai fod etholiad arall ar y gweill, achos mae’n bosib iawn na fydd un. Dydi o ddim ots pwy ydi’r arweinydd yn yr etholiad hwnnw achos, yn syml, y cyfan wnaiff y Blaid ydi lluchio popeth at Arfon a Cheredigion ac anwybyddu pobman arall, sef y dacteg gywir. Does gen i ddim amheuaeth fod y Leanne Effect, sydd heb ei gweld yn y Cymoedd, ddim i’w gweld yn y seddi hynny ychwaith.

I mi, mae pedwar allai arwain y Blaid: Jonathan Edwards, Liz Savile-Roberts, Adam Price a Rhun ap Iorwerth. Yn anffodus ni all y ddau gyntaf achos eu bod nhw’n San Steffan ond maen nhw ill dau’n ymgeiswyr mor gryf byddwn i hyd yn oed yn awgrymu ail-edrych ar y cyfansoddiad i'w galluogi i sefyll.

Sy’n gadael Rhun ac Adam. Wyddoch chi be swni’n awgrymu? Arweinydd a chreu Dirprwy Arweinydd. Mor syml â hynny, a dwi ddim yn meddwl ei fod fawr o ots pa ffordd rownd y byddan nhw, ond nhw ydi ACau gorau’r Blaid, a byddai’r ddau efo’i gilydd yn dîm arbennig o dda, pe gallen nhw gytuno i hynny.

Ac os ydi’r aelodau hynny sy’n caru Leanne Wood yn mynd yn pissed off a gadael? Dwi’m yn meddwl fod ots. Achos tasg y Blaid yn awr ydi ei thrawsnewid ei hun. Mae dirfawr angen ar y Blaid drïo gweithredu mewn ffordd wahanol. Y peth gwaethaf allai ddigwydd ydi parhau ar hyn y trywydd hwn – dirywio a segura bob yn ail – sydd wedi digwydd ers ymadawiad Wigley.

Mae pobl well na Leanne Wood i arwain y Blaid. Go for it.