giovedì, marzo 18, 2010

Proffwydo 2010: Cymru Rachub

Felly dyna ddiwedd y gyfres Proffwydo 2010, gobeithio eich bod chi wedi mwynhau a’i ffendio’n ddiddorol – gallwch weld y cyfan drwy glicio’r ddolen ar y dde. Fydda i bellach yn cymryd saib haeddiannol tu hwnt o wleidydda. Ond gair bach i orffen, dyma Gymru fel dwi’n ei gweld ar Fai 7fed (fwy na thebyg) ...





LLAFUR: 21 (-8)

CEIDWADWYR: 9 (+6)

PLAID CYMRU: 6 (+3)

DEM RHYDD: 3 (-1)

ERAILL: 1 (-)

... ond mae pum sedd nad ydw i’n sicr ohonynt ac efallai y byddaf yn newid eu lliw ychydig ddyddiau cyn yr etholiad. Fel y nodir isod, does gen i ddim syniad mewn difrif ai Llafur neu Blaid Cymru fydd yn fuddugol ar YNYS MÔN. Mae cryfder cymharol Llafur dros y deufis diwethaf wedi peri mi boeni am ddarogan LLANELLI a DWYRAIN ABERTAWE, tra bod methiant y Ceidwadwyr i gynnal momentwm yn genedlaethol wedi gwneud i mi ailfeddwl BRYCHEINIOG A MAESYFED, ac ymgyrch drychinebus y Ceidwadwyr yn ABERCONWY yn rhoi honno’n y blwch ‘ansicr’.

Rŵan, yn ôl at gwyno a meddwi! Hwra!

4 commenti:

  1. Anonimo11:39 AM

    Campus Mr Rachub. Mae'r genedl wleidyddol yn ddyledus i ti!

    RispondiElimina
  2. cyfres hynod ddiddorol..fydd hwn genai noson yr etholiad er mwyn cael gweld pa mor agos ati fyddi di.
    sa ti'n mynd i'r bwci a rhoi bet ar rhain i gyd sa ti werth sofrin neu ddwy wedyn!

    RispondiElimina
  3. Fel dwi'n dweud dwi'n eithaf sicr mewn 35 o seddau - ond mi setla i am dros hanner!!!

    RispondiElimina