giovedì, dicembre 29, 2005

2005

Mae'r amser wedi dod imi edrych dros y flwyddyn a fu. Dw i'm yn cofio'i hanner hi achos oeddwn i'n chwil, felly does 'na ddim pwynt imi fynd ymlaen efo hynny. Ond mi gefais i freuddwyd rhyfedd neithiwr ein bod ni (dw i'm yn siwr pwy 'di 'ni', ond fydda fo'n gallu bod yn unrhywun amwni) wedi mynd i dafarn a thalu £2.50 i mynd i fewn ac roedd y peint gyntaf am un geiniog, a dyma fi'n trafod bod hynny, er ei bod hi'n edrych yn dda, yn con. Wedyn dyma fi'n tollti peint Guinness rhywun ar lawr a galw'r boi'n 'miserable old bugger' cyn iddo rhoi weji imi.

Eniwe, 2005. Blwyddyn gymysg. Dw i'm isho gadael coleg. Amser yma flwyddyn nesa' bydda i'n dysgu rhyw shits bach sut i gyfri i gant yng Nghymraeg, tra'n slei-sipian brandi sydd yn y desg, a conffisgetio ffags (a'u cadw). Os bydda i yma mewn blwyddyn - un peth dw i wedi dysgu flwyddyn yma ydi nad yw dim yn parhau am byth, da neu ddrwg (er bod Patrick Moore yn cael diawl o siot arni).

Na, mi fyddaf i yma. Mae 'na lot o feddyliau yn fy nghadw i fynd at hen oes. Dw i am fyw i weld y Gymru Rydd Gymraeg. Dwisho ymddeol. Mae gen i lot mwy o feddwi i'w wneud. Dw isho cyfieithu Lord of the Rings i'r heniaith. Dwisho dysgu Gwyddeleg, mynd i Batagonia a phrynu tafarn a'i alw'n 'Yr Eryr Wen'. Mae'n rhaid imi, er fy myw, losgi ty haf, ennill gradd, ennill cadair mewn eisteddfod leol, efallai. Dw i isho bod yn daid (er dw i'm isho bod yn dad - sy'n eitha problem - sodia plant, medda fi) ac yn hen ddyn afiach sy'n gornel y pyb yn smygu ac yfad ac yn canu iddo'i hun. Dw i angen colli pwysau 'fyd, ennill gwobr Blog Gorau'r Gymraeg 2030 a torri myn arferiad o flynyddoedd o siarad i mi'n hun, ac i bobl eraill sydd ddim yno ar y pryd. Oes 'na derm feddygol i hynny?

Ac os dw i'n llwyddo gwneud hynny oll yn 2006, dachi gyd angen peint imi.

lunedì, dicembre 26, 2005

Tydi Dolig Yn Boen?

Oeddwn i jyst yn darllen Menaiblog, pan fe'm tarwyd gan y syniad a grybwyllwyd yno dy fod yn derbyn anrhegion ar sail beth mae pobl eraill yn feddwl wyt ti. Diolch am wneud fi'n dipresd. Ymddiheuraf o flaen llaw am ddwyn y syniad o restr mewn modd mor ddi-egwyddor, ond fydda i'n licio gwneud rhestrau pan dw i'n dipresd. Dyma ambell i beth ges i:

  1. Llyfrau Barddoniaeth di-ri: "Cadwa at ddarllen barddoniaeth yn hytrach na'i 'sgwennu"
  2. Afftyrshef: "Ti'n drewi"
  3. Pelen aromataidd rhyfedd sy'n toddi'n y bath: "Ti dal i ddrewi"
  4. Sanau yn eu degau: "Ti angen sanau newydd ... mae dy rai di'n drewi"
  5. Hairdryer: "Dw i'n meddwl bod ein mab yn hoyw"
  6. Inflateable Referee: (does gen i wirioneddol ddim syniad beth ar wyneb y bydysawd be all fod yr ysgogiad y tu ôl i'r archeb hwn)
  7. CD Meinir Gwilym: "Dw i'n rhedeg allan o syniadau anrhegion" / "Ydi, bendant yn gê"
  8. Dim mo'r ffôn lôn sydd ei hangen arnaf yn despret: "Sod off nôl i Gaerdydd a phaid cysylltu eto, y bastad bach tew"

Dim fy mod i'n cwyno, wrth gwrs, doeddwn i ddim isho ddim byd 'Dolig, gwnes hynny'n glir ('blaw ffôn). Ond dw i'n falch bod 'Dolig drosodd, fedrwn i'm am fy myw rhoi mwy o bwysau ymlaen, a dydi'r holl ewyllys da 'ma jyst ddim yn fi, dachi'n dallt be dw i'n ei feddwl? Mae tymor o ewyllys da yn eitha gwirion pan fo 'nheulu yn y cwestiwn, beth bynnag. Nain yn contio Taid, Mam yn contio Dad, y chwaer yn contio fi, fi yn contio neb rhag ofn imi gael slap a'n hel ar f'union i'r Sowth eto. Ac yn tŷ ni 'sdim lysh i gadw rhywun yn eu meddwl iawn; iep, go iawn, does gen fy nghartref Rachubaidd ddim alcohol yno fyth. Dw i wedi cael dau lasiad o win coch yma, a dw i'n mynd o'm meddwl.

Blwyddyn nesa' dw i'n mynd i Irac neu rhywle distaw felly i ddianc. Os mae rhywun yn gwybod am rhywle efo llwythi o alcohol a dim 'Dolig, rhowch wybod imi cyn flwyddyn nesa', ia?

venerdì, dicembre 23, 2005

Nadolig Llawen a rhyw lol felly

Dw i'm yn licio blydi 'Dolig. Go wir, rwan, mai 'di mynd yn boring pan dachi tua fy oed i. Dw i wedi hen gyrraedd yr oed pan sana a bocsars ydi'r petha gorau cawn i fel anrhegion (er ella ga'i ffôn lôn 'Dolig 'ma, ond dw i angen hwnnw. Gas gennai ffoniau lôn. Mae un fi 'di malu ers wythnosau. Mae bob dim yn fy mywyd i'n malu; ffoniau, cyfrifiaduron, fy sffer. Mae hyd yn oed Solitaire wedi pacio fyny ar y cyfrifiadur yma!). Mae'r 'Dolig yn rybish am amryw reswm:

  1. Twrci. Pam dani mond yn ei fyta fo 'Dolig? Be, heblaw am ei sychder a'i IQ israddol, sy'n ei wneud o mor arbennig i dim ond ei gael unwaith y flwyddyn?
  2. Anrhegion. Unwaith ti dros 18 mae nhw'n warthus, ond mae Mam dal yn mynnu prynu rhai uffernol o drud i pobl eraill, rhan fwyaf o'r amser dy gefndryd.
  3. Ferrero Rocher. Siocled y mae pobl tlawd fel ni'n eu prynu, er mwyn inni smalio ein bod ni'n posh fel yr Ambassador. Mae'r Ambassador yn wancar.
  4. Last Christmas I Gave You My Heart
  5. Teledu Nadolig. Fedra i ddim stumogi mwy ohono erbyn hyn. Unai rhifyn arbennig siomedig o 'Only Fools and Horses' neu rhyw gonsyrt Nadoligaidd ydi o bob tro, a'r un rhaglenni ers 30 mlynedd.
  6. Dw i'n gorfod neud blogiad i ddymuno Nadolig Llawen.

Yr un olaf 'di'r gwaethaf, achos dw i'm yn siwr pwy yn union dw i'n dymuno Nadolig Llawen i, achos dw i'm yn gwybod pwy sy'n darllen y blog, nadw? Felly gwaeth imi ddweud

NADOLIG LLAWEN IAWN I BAWB

gan obeithio nad ydi Rhodri Morgan, y Sam Tân newydd na'r boi chwydodd drostai'n y Ddawns Rhyng-gol yn darllan!

mercoledì, dicembre 21, 2005

Dicter

O ho ho does gynnoch chi DDIM syniad faint o flin ydi Mr Hogyn o Rachub heddiw! Do, mi a soniais yn y blogiad diwethaf faint o araf ydi'r cyfrifiadur yma adra ond mai 'di cymryd ugain munud imi ddod at y man 'sgwennu blog yma heddiw! Yn gynharach mi beidiodd a dangos imi e-bost UN KILOBEIT ar hotmail. So mi sgrechiais arno, a'i ddiffodd, a mynd am dro yn y car i Wan Stop (sef gorsaf betrol hannar ffordd rhwng Bangor a Pesda), cyn troi rownd a dod adra.

Mi benderfynais ychydig cyn dianc yn y car efallai y gallwn i rhoi y rhyngrwyd ar y llapllop. Nis lwyddais, felly mi geshi afal er mwyn f'ymlacio (dydi afal ddim yn eich ymlacio, ond mae banana, ond doedd dim banana ffres gennym. Mae gennai broblam efo bananas brown neu'r rhai 'na efo gormodedd o sbots du arnyn nhw, trio bod yn jiraff a ballu) ond ni wnaeth.

Ffoniai Sion wedyn inni fynd i'r Sior am beint. 'Rargian dw i'n flin heddiw. Gobeithio fod pawb arall 'fyd.

lunedì, dicembre 19, 2005

Cerys a'r compiwtar slo

Yn Rachub yr wyf yn awr, ac yn hapus iawn o fod 'ma, a gweled defaid a mynyddoedd a ser. Byddwn i wedi rhoi to bach uwchben 'ser' ond 'sgen i ddim mynadd efo'r bastad cyfrifiadur 'ma adra. Dim band llydan, wrth gwrs, dim ond cyfrifiadur o Oes yr Ia sy'n horybl o araf.

Byddwn wedi bod wrth fy modd yn rhoi lluniau o gig Pesda Roc neithiwr i fyny, ond fel y clywoch uchod bydd hynny'n cymryd oes pys (dyna be 'di dywediad). Roedd Cerys Matthews yn dda iawn, rhaid dweud, gyda enwogion eraill o fri yn heidio i Pesda i'w gweld; Bryn Fon, Gruff Rhys, Dai Ddymuniad. Di-ddiwedd ydyw'r rhestr (dyna ddiwedd y rhestr, 'blaw am yr athrawes lesbian o 'Amdani').

Hoffwn ysgrifennu tomen fwy, a chlodfori lagyr Labatt a Jarrod am gadw'n cotiau tu-ol i'r bar inni (ac am dyfu trawsnwch echrydus), hoffwn bori Maes E a newid y lliw y blog 'ma ond gan ei bod wedi cymryd hanner awr yn barod imi wneud hyn a fy mod yn ysu am fath (dw i'n ffycin drewi) gwell imi beidio!

sabato, dicembre 17, 2005

Yn Y (ail)Ddechreuad

Felly dyma fi, wedi cyrraedd blogspot tua blwyddyn wedi'r alltudiaeth fawr yma. Mae'n eithaf neis, dw i'n setlo mewn yn iawn, ac wedi llwyddo ei Gymreigio rhywfaint (a mawr ddiolch i Chwadan am ei hyfrydhelp yn hynny o beth). Dw i'n siwr y byddech chi cyn falched a phawb arall a'm gweld yma a phawb arall. Ymlaen â'r antur!