domenica, settembre 21, 2014

Cyflwr cenedlaetholdeb yng Nghymru

Dydw i ddim am ddadansoddi refferendwm yr Alban. Fyddai o’n cymryd yn rhy hir, a dwi, fel nifer ohonoch, yn gwbl ddigalon ynghylch y peth. Ond o leiaf o ran yr Alban dwi’m yn gwbl anobeithiol. Daw eto refferendwm i’r Alban, ac os dim arall bydd y newidiadau demograffig yn ei gwneud yr un hwnnw’n haws ei ennill. Er, mae rhywun yn amgyffred y bydd y sefydliad Prydeinig yn fwy parod at hwnnw ac efallai’n llai amaturaidd y tro nesaf o’r cychwyn cyntaf.

Ta waeth, Cymru, nid yr Alban, sy’n bwysig i mi. Dwi’n rhyw deimlo fod yn rhaid i’r Alban ennill annibyniaeth i Gymru ei dilyn, ac eto dydw i ddim yn gwbl sicr y gwnaiff am lu o resymau, o’n demograffeg i’n diffyg hunanhyder. Ond yn fwy na hynny, y broblem ydi’r arweinyddiaeth wleidyddol ymhlith cenedlaetholwyr Cymru.

Dwi’n un o’r bobl ddiflas ‘na sy’n hoffi trafod gwleidyddiaeth a dwi’n ddigon ffodus i nabod pobl eraill sy’n licio gwneud hynny hefyd. Felly poetsh o feddyliau’n deillio o sgyrsiau lu dros fisoedd maith ydi’r blogiad hwn mewn difrif. Cyffrowyd nifer ohonom gan yr hyn sy wedi bod yn digwydd yn yr Alban dros y flwyddyn ddiwethaf, a pham lai? Achos y gwir ydi ein bod wedi gorfod troi at yr Alban i gael rhywbeth i wenu amdano. Yr ymdeimlad amlycaf ymhlith cenedlaetholwyr yng Nghymru ydi digalondid llwyr, yn ymylu ar anobaith.

Mae ‘na lu resymau dros hyn, ond nid o’n cymharu ein hunain â’r Alban ond edrych ar Gymru ei hun. Mae’n sgwrs y dylid bod wedi’i chael ers talwm. Efallai dyma’r amser i wneud hynny. Y mae dwy agwedd arni. Hon yn fras ydi’r gyntaf.

Y broblem fwyaf ydi bod y blaid Lafur wedi llwyddo i ddominyddu bywyd cyhoeddus yng Nghymru. Bron yn gyfan gwbl. Mae Llafurwyr lond y lle yn uchaf swyddi cyhoeddus ein gwlad boed yn y wasg, yn y cyfryngau, yn y gwasanaeth sifil, yn yr Undeb Rygbi – mae hyd yn oed ein Comisiynydd Iaith aneffeithlon yn Llafurwraig ronc. Does ‘na ddim craffu ar lywodraeth o’r herwydd.
 
Daw’r diffyg craffu mwyaf o du’r BBC, y mae llawer ohonom yn gwybod nad yw’n fwy nag ymerodraeth Lafuraidd waeth bynnag. A phan mae straeon sy’n peri embaras i’r Llywodraeth yn torri maen nhw’n gwybod sut i ddelio â’r peth - maen nhw’n cyflogi’r rhai sy’ngyfrifol amdanynt (cofnod 2.5).
 
Yn gryno, mae’r sefydliad Cymreig – yn wahanol i fod yn grachach cenedlaetholgar (chwedl Llafur) – ddim mwy nag yn hierarchaeth Lafur gwbl, gwbl lwgr a hynod bwerus. Mae ‘na genedlaetholwyr neu Geidwadwyr yno hefyd, ond fel rheol maen nhw’n cael eu cadw i’r cyfryngau Cymraeg ac ymhell wrth y swyddi mawr eraill. Mae’n sefyllfa afiach sy’n llawn haeddu ei chymharu â gwladwriaeth Sofietaidd.
 
Ond mewn gwlad sy’n cael ei sathru a chael tlodi economaidd, diwylliannol a deallusol wedi’i orfodi arni, pa syndod nad oes neb yn sylwi, ac nad oes ots ganddyn nhw chwaith.  Y mae gorthrwm yn glyfar, a thydi ffydd, cariad a gobaith ddim hanner digon i’w drechu.

*             *             *

O du un lle yn unig, y tu allan i’r cyfryngau annibynnol Cymraeg eu hiaith bychain, y daw craffu, sef ymhlith gwrthbleidiau’r Cynulliad. O, mam bach. ‘Motsh gen i am y Ceidwadwyr na’r Democratiaid Rhyddfrydol – a dwi’m yn nabod fawr neb sy’n eu cefnogi – ond mae’r anobaith llwyr ymhlith cynifer o genedlaetholwyr pan ddaw hi at Blaid Cymru yn rhywbeth dwi wedi’i glwad dro ar ôl tro ar ôl tro ers misoedd. Tystiolaeth anecdotaidd ydi hynny, dwi’n deall, ond maen nhw’n mynd o’r Siôr i’r Cornwall a thydi o’m yn gwyno er mwyn cwyno chwaith. 
 
Dywed nifer fod grŵp Cynulliad Plaid Cymru yn fwy galluog, mewn rhai ffyrdd, na’r un Llafur.  Mae’r llywodraeth Lafur bresennol yn rhyfeddol o wael. Dylai unrhyw un ag unrhyw allu gallu manteisio ar sefyllfa o’r fath. Y broblem ydi dydi Plaid Cymru jyst ddim efo’r gallu hwnnw. 
 
Glywais i echnos y berl mai “problem Plaid Cymru ydi ei gwleidyddiaeth a’i gwleidyddion” - gallai neb fod wedi taro’r hoelen ar ei phen yn well. Gallwn fynd i drafod ei gwleidyddiaeth am oes pys, ond wna i ddim. Jyst mynegi anobaith fod y rhai yn uwch swyddi allweddol Plaid Cymru i gyd yn ffeministiaid blin, asgell chwith diddim sy’n dilyn gwleidyddiaeth blentynnaidd a heb ronyn o allu deallusol na greddf wleidyddol. A dyna fi wedi ei dweud hi.
 
Ond o ran ei gwleidyddion – mae hon yn broblem wirioneddol gan Blaid Cymru ar hyn o bryd. Allan o’r 11 aelod cynulliad sydd gan y Blaid, a dwi ddim am enwi neb, ond pedwar fyddwn i’n dweud sy’n haeddu bod yno. O’r pedwar sy’n deilwng, un yn unig sydd efo’r gallu i arwain y Blaid (a thydi’r person hwnnw ddim yn ei harwain, gyda llaw). Byddai o leiaf dri AC Plaid Cymru yn ffodus bod yn gynghorwyr sir petaent yn aelodau o’r SNP. A ffyc mi, fyddwn i’m yn meiddio adrodd rhai o’r straeon (o ffynonellau dibynadwy) dwi’n eu clywed am rai o’u ACau nhw, ond mae rhai ohonynt nid llai na’n ffycin disgrês.
 
Gyda llaw, mae hynny’n mynd am y pleidiau eraill hefyd. Mae ‘na ddigon o ACau y mae’n rhyfeddol eu bod yn gallu sefyll heb sôn am sefyll etholiad, ac mae pob un ohonynt yn warthus. Ond y broblem i Blaid Cymru ydi nad ydi hi’n gallu eu disodli achos dydi hi fawr gwell ei hun. Lwcus ‘mod i ddim yn ddigon thic i enwi neb, de?
 
Wir-yr. Tra bod yr SNP yn llunio dadleuon economaidd cadarn a manwl, yn creu gweledigaeth, mae Plaid Cymru’n dweud wrthon ni y gallwn ni gael ein hysbrydoli gan Dîm Cymru Gemau’r Gymanwlad ac yn trafod “economic levers” amhenodol. Synnwn i ddim fod yr SNP wedi ochneidio’n ddwfn o weld bod rhai o genedlaetholwyr Cymru’n dod fyny i’w helpu yn y refferendwm. Mae’r peth yn embaras. 
 
*             *             *

Deilliodd y blogiad hwn nid am fy mod i’n chwerw am ganlyniad yr Alban, er dwi’n siŵr ei fod yn swnio felly. Daw o siarad eithaf dwfn efo cymaint o gyd-genedlaetholwyr, y rhan fwyaf â syniadau a syniadaeth wahanol i mi, dros fisoedd maith. 
 
Fydd rhai ohonoch sy wedi cyrraedd y pwynt yma yn y blogiad hwn yn rhannu’r gofidion hynny. Ond mae’n cymryd deryn glân i ganu, a bydd eraill yn meddwl yn ddig “be ffwc wyt ti’n neud ond am gwyno dros y we, yn ddiffiniad perffaith o keyboard warrior?”. Ac mi fyddech chi’n iawn i ofyn hynny.
 
Ond dyma’r broblem sy gen i. Dwi ddim yn gwybod beth allwn i wneud – ond yn fwy na hynny dwi’m yn gwybod beth y gellid ei wneud. ‘Sgen i ddim syniad. Dwi’n nabod pobl llawer, llawer clyfrach a llawer mwy deallusol na fi a bron yn ddieithriad maen nhw hefyd wedi cyfleu’r un peth. ‘Sneb yn gwybod beth i’w wneud, er ein bod ni’n gwybod beth ydi’r broblem. Mae ‘na bob math o atebion i’w cael: mae rhai wedi dweud cael mewn i’r swyddi allweddol cyhoeddus hynny drwy ryw fodd, eraill yn crybwyll fod angen ysgubo Plaid Cymru ymaith gan blaid genedlaetholgar arall, eraill yn dweud nad gwleidydda ydi’r ateb, rhai yn dweud bod angen mudiad llawr gwlad anwleidyddol. Digonedd yn gweld dim gobaith o gwbl.
 
Fel y dywedais, o’m rhan i, ‘sgen i ddim clem pa un sydd gywir, os unrhyw un.
 
Dwi dal er popeth, dwi’n meddwl, yn meddwl mai Plaid Cymru ydi’r ateb gorau. Ond mae angen arni strategaeth eang - mae angen cyflafan go iawn oddi mewn i’r Blaid ei hun i waredu’r sbwriel sydd wedi’i gasglu dros gyfnod o ddegawd a mwy, mae angen iddi ffeindio ffrindiau yn y sefydliadau Saesneg Llafur hynny i ddylanwadu, mae angen iddi lunio glasbrint manwl iawn o Gymru fel y mae ac fel y gallai fod, mae angen iddi wirioneddol, wirioneddol ail-argyhoeddi ei chefnogwyr traddodiadol ei bod yn dal yn driw iddynt (efallai cyn hyd yn oed dechrau meddwl am ehangu i’r ardaloedd Seisnig h.y. back to step one), mae wir angen arni wleidyddion gwell (a mentrwn i ddweud gweithwyr mewnol gwell) ac yn olaf ac yn bwysicaf rhaid iddi fod yn gwbl, gwbl ddigyfaddawd a didostur wrth ymosod ar Lafur yng Nghymru.
 
A Duw ag ŵyr, jyst ella wedyn fydd ‘na lygedyn o obaith.