giovedì, novembre 28, 2019

Darogan 2019: Y drydedd set


ARFON

Mwyafrif: 92 (0.3%)

Mae’n deg dweud y cafodd Plaid Cymru gryn sioc yma y tro diwethaf, gan laesu dwylo wrth i’r bleidlais Lafur gynyddu gan dros 10% i ddod o fewn trwch blewyn i gipio’r sedd. Roedd yn ganlyniad na ragwelsai unrhyw un.

Go brin y bydd Plaid Cymru’r un mor ddi-hid y tro hwn. Y cwestiwn ydi faint yn fwy o bleidleisiau Llafur sydd yma mewn gwirionedd, a hefyd i bwy fydd y 648 bleidleisiodd i’r Democratiaid Rhyddfrydol yn mynd amdani (Llafur mi dybiaf).

Gallai presenoldeb plaid Brexit yma’r tro hwn effeithio ar y canlyniad yn fawr – mi fyddwn i’n reddfol meddwl y bydd yn denu mwy o Lafurwyr nag o Bleidwyr ond gallai dynnu pleidleisio oddi ar y ddwy.

Plaid Cymru’n cadw

 

CEREDIGION

Mwyafrif: 104 (0.3%)

Y syndod mwyaf i mi yn yr etholiad hwn ydi cyn lleied o sôn sydd wedi bod am Geredigion, a dwi’n tybio bod hynny’n deillio o ansicrwydd o bob tu ynghylch beth allai ddigwydd yma.

Bydd chwe phlaid yn sefyll: PC, DRh, Llaf, Ceid, BP a’r Gwyrddion. Yr unig sicrwydd ydi y bydd y blaid Brexit yn ennill pleidleisiau oddi ar y lleill. Mi fyddwn i’n dyfalu y daw mwy gan Lafur a’r Ceidwadwyr na gan y ddwy brif blaid yn yr etholaeth hon, ond y dygai fwy gan y DRh na Phlaid Cymru. Mae’n wir dweud hefyd fod y wasgfa i’r Democratiaid Rhyddfrydol bosib am effeithio ar eu cyfleoedd nhw i ail-gipio’r sedd. Serch hynny, dwi’n rhagweld cwymp mawr yn y bleidlais Lafur yma y tro hwn, a fydd yn dyngedfennol. Alla i ddim dweud â sicrwydd i ba gyfeiriad aiff y bleidlais honno.

Efallai’r ffactor mwyaf ydi’r ymgeiswyr, Ben Lake yr AS cyfredol yn erbyn y cyn-AS Mark Williams. Dydi pobl ddim yn or-hoff o wleidyddion sy’n ceisio gwneud come-back, yn enwedig mewn seddi yr arferent eu cynrychioli (mae digon o enghreifftiau o hyn i'w cael), ac efallai y gwelwn hynny yma.

Mae gen i deimlad y bydd hon yn agos. Efallai nad ydi’r wasgfa genedlaethol ar y DRh am gael gormod o effaith yma, ond mae’n annhebyg na chaiff effaith o gwbl - efallai jyst digon.

Plaid Cymru’n cadw

 

GORLLEWIN CAERDYDD

Mwyafrif: 12,551 (26.9%)

Yn wahanol i etholiadau Cynulliad a chyngor yn yr ardal, canlyniad parchus y bydd Plaid Cymru’n dyheu amdano yma. Mi fûm i’n yr etholaeth ond ddoe ac mae llu o ddeunydd Llafur i’w gweld yno. Hon oedd yr unig ran o Gaerdydd bleidleisiodd i adael yr UE yn 2016 ac felly mae’n dir ffrwythlon i’r BP, ond go brin yn ddigon i wirioneddol ddifrodi’r mwyafrif Llafur enfawr.

Llafur yn cadw

 

PONTYPRIDD

Mwyafrif: 11,448 (28.7%)

Y sedd mwyaf randym, o bosib, lle mae’r pact PC-Drh-G ar waith, mae ‘na gyfle y caiff y pact hwnnw (PC sy’n sefyll ar ei ran) ganlyniad parchus, ond mae’n bur debyg y bydd Pontypridd yn un o llond dwrn da o seddi yn ne Cymru lle daw’r BP yn ail. Mae hefyd dri ymgeisydd annibynnol yn sefyll y tro hwn a daeth y Ceidwadwyr yn ail cyfforddus tro diwethaf. Jobyn eithaf hawdd i olynydd Owen Smith.

Llafur yn cadw

 

BLAENAU GWENT

Mwyafrif: 11,907 (36.8%)

Er i Blaid Cymru bron ag ennill y sedd yn etholiad cynulliad 2016 a dod yn ail parchus iawn yn 2017 dwi’n darogan y bydd Blaenau Gwent yn un o nifer o seddi lle bydd pleidlais y Blaid yn gostwng yn sylweddol eleni wrth i’r polau gynyddol bolareiddio.

Bydd Llafur yn cadw Blaenau Gwent yn hawdd – ond mi wnaf i fentro darogan un peth – ym Mlaenau Gwent y caiff Plaid Brexit ei chyfran uchaf o’r bleidlais yng Nghymru.

Llafur yn cadw

 

ABERAFAN

Mwyafrif: 16,761 (50.4%)

Roedd mwyafrif Stephen Kinnock y tro diwethaf ymhlith y rhai mwyaf yng Nghymru a does yna lawer i’w ddweud am yr etholaeth ond am y bydd yn ei ddychwelyd i San Steffan. Ond fel ym Mlaenau Gwent uchod, cadwch lygad ar faint pleidlais y blaid Brexit yma, gallai fod yn sylweddol.

Llafur yn cadw

 

DWYRAIN CASNEWYDD

Mwyafrif: 8,003 (21.7%)

Ers creu’r sedd hon ym 1983 mae hi wedi bod yn sedd ddibynadwy i Lafur, hyd yn oed os ydi’r mwyafrifau weithiau wedi bod yn dynn. Nid felly yr oedd hi’r tro diwethaf ac mi fydd presenoldeb y BP yn sicrhau y bydd Llafur yn ei chadw, gan ddwyn pleidleisiau Ceidwadol yn ogystal â rhai Llafur.

Llafur yn cadw

 

TORFAEN

Mwyafrif: 10,240 (26.6%)

Dydi Torfaen ddim yn sedd sy’n cael llawer o sylw yn draddodiadol am ei bod yn pleidleisio’r drwm dros Lafur. Ond aeth hi dan y radar braidd yn 2017, wrth i’r Ceidwadwyr ennill 31.0% o’r bleidlais. Oni fyddai am bresenoldeb Plaid Brexit, byddwn i’n meddwl y gallai Torfaen fod yn sedd annisgwyl i gadw llygad arni.

Ond, er fy mod i’n ailadrodd hyn, bydd BP yn sicrhau na ddaw’r Ceidwadwyr yn agos ati y tro hwn. Disgwylier cwymp mawr yn eu cyfran nhw o’r bleidlais, yn ogystal â chyfran y blaid Lafur.

Llafur yn cadw

lunedì, novembre 25, 2019

Darogan 2019 - Yr ail set o seddi


DELYN

Mwyafrif: 4,250 (10.8%)

Mae Delyn yn y gogledd-ddwyrain yn etholaeth sydd wedi bod ar restr dargedau’r Ceidwadwyr ers sbel erbyn hyn, ond heb lwyddiant hyd yma. Wrth i mi ysgrifennu hwn, mae’r polau’n araf ond yn sicrh yn polareiddio, gyda Llafur yn dal i fyny â’r Ceidwadwyr fymryn, hyd yn oed os ydyn nhw ymhell y tu ôl i ganlyniad 2017.
Y mae’r Blaid Brexit hefyd yn cael eu gwasgu yn y polau, ond rhaid cofio dydyn nhw ddim yn sefyll ymhob sedd, ond maen nhw’n gwneud yn dda mewn polau seddau unigol. Dwi’n tybio y gallent, fel mewn nifer o seddi, wneud digon o ddifrod i’r Ceidwadwyr i’w hatal rhag cipio’r sedd.

Llafur yn cadw


PRESELI PENFRO

Mwyafrif: 314 (0.8%)

Sedd Stephen Crabb ydi hon, ac roedd ei fwyafrif y tro diwethaf yn eithriadol o fechan. Mae adeg arferol byddai hon yn un y byddai’n dychwelyd at y blaid Lafur (18 mlynedd ers iddi ei hennill ddiwethaf). Ond fel ag y mae pethau’n yr etholiad hwn, y bet gorau fyddai ar i Crabb gadw ei sedd gyda mwyafrif uwch.

Ceidwadwyr yn cadw


MERTHYR TUDFUL

Mwyafrif: 16,334 (48.7%)

Byddai’n cymryd mwy na daeargryn i’r blaid Lafur golli Merthyr, er roedd y Ceidwadwyr yn ennill bron un o bob pump o bleidleisiau yma tro diwethaf yn agos at fod yn un ynddo’i hun. Mae Merthyr wedi cael ei dynodi fel sedd sy’n dir ffrwythlon i BP, a dydy hi ddim yn annhebygol mai nhw ddaw’n ail y tro hwn. Ond chaiff hynny ddim effaith ar y canlyniad, a bydd hon yn aros yn gadarn goch.

Llafur yn cadw


BRO MORGANNWG

Mwyafrif: 2,190 (4.1%)

Gyda’r holl sylw y mae’r Fro’n ei gael y tro hwn, mae’n hawdd anghofio nad ydi hon yn ultra marginal – mae gan Alun Cairns fwyafrif o dros ddwy fil. Y gred ydi fod y pact PC-DRh-Gwyrddion yn hwb mawr i Lafur yma, ond mae’n hollol amhosibl gwirioneddol ddarogan sut y bydd pleidleisiau’n cyfnewid. Faint o genedlaetholwyr a rhyddfrydwyr fydd yn mynd am y Gwyrddion yn lle Llafur?
Y cwestiwn pwysicaf dwi’n meddwl ydi faint mwy o bleidleiswyr Llafur sydd yma. Fel y dywedais uchod mae’r polau’n agosáu ond rhaid cofio mae Llafur dal y tu ôl i lefelau 2017 – fy ngreddf i ydi y bydd hynny’n ddigon iddi gadw seddi ond ddim yn ddigon iddi herio am lawer mwy o seddi.
Mae’n hawdd byw mewn swigen. Ond y tu allan iddi, dydy pawb ddim yn casáu Alun Cairns, a dylai polio cyfredol y Ceidwadwyr fod yn ddigon iddo gadw ei le yn San Steffan.

Ceidwadwyr yn cadw – mwyafrif uwch


CASTELL-NEDD

Mwyafrif: 12,631 (33.0%)

Ar lefel leol a lefel etholiadau’r Cynulliad, mae Plaid Cymru wedi cynnig her i’r blaid Lafur yng Nghastell-nedd, ond ni welwyd erioed y fath her yn dod i’r fei ar gyfer etholiadau San Steffan. Byddwn i’n disgwyl rhywbeth tebyg y tro hwn – Llafur yn ei chadw’n hawdd gyda Phlaid Cymru a BP yn brwydro am yr ail safle.

Llafur yn cadw


CAERFFILLI

Mwyafrif: 12,078 (29.3%)

Fel Castell-nedd uchod, mae Caerffili’n sedd, ar lefel leol a Chynulliad, lle mae Plaid Cymru bob amser wedi herio, ac megis yr uchod, aflwyddo. Ond mae’r gêm yn un gryn wahanol yma i etholiadau San Steffan. Dydy Plaid Cymru heb ddod cystal ag ail yma ers 2005, gyda’r Ceidwadwyr ac UKIP yn ail yma ers hynny. Gallai fod yn dir ffrwythlon i BP, a gallai hynny ddifrodi cyfleoedd y Ceidwadwyr o gadw’r ail safle. Ac eto, y gwir plaen ydi, waeth beth fo manion cyfnewid pleidleisiau, mae Caerffili bron yn sicr o ddychwelyd aelod Llafur i San Steffan gyda mwyafrif cyfforddus.

Llafur yn cadw


GORLLEWIN ABERTAWE

Mwyafrif: 10,598 (28.5%)

Yn wahanol i ddwyrain y ddinas, pleidleisiodd trigolion Gorllewin Abertawe o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd, ac mae hynny ynddi ei hun yn awgrymu y caiff y Ceidwadwyr drafferth agosáu at Lafur yma, nac y bydd pleidleisiau BP yn dyngedfennol yma.
Anodd coelio o fewn cof fod hon yn sedd darged bwysig i’r Democratiaid Rhyddfrydol. Cawson nhw draean o’r bleidlais yma yn 2010, ond i gael 3.4% y tro diwethaf. Hyd yn oed yn 2019 mae llu o seddi yng Nghymru nad oes gobaith i Lafur eu colli, gyda hon yn eu plith.

Llafur yn cadw


LLANELLI

Mwyafrif: 12,024 (29.8%)

Sedd ag iddi ddwy stori. Yn y Cynulliad, mae Llanelli bob amser wedi bod yn frwydr agos, gystadleuol rhwng Llafur a Phlaid Cymru, ac roedd gan Blaid Cymru obeithion mawr i’r sedd flynyddoedd yn ôl, ond erbyn hyn mae ei gobeithion yma’n wantan a’i pherfformiad yn ddigon sigledig – daeth yn drydydd yma i’r Ceidwadwyr am y tro cyntaf ers 1992 yn 2017. Hyd yn oed yn y sefyllfa annhebygol tu hwnt y byddai pob Dem Rhydd yn benthyg pleidlais iddi y tro hwn (mae Llanelli’n rhan o’r Pact), byddai’r Blaid dal ymhell ar ei hôl hi.
Pleidleisiodd Llanelli i adael yr Undeb Ewropeaidd a dwi’n meddwl y bydd hi’n agos iawn rhyngddi hi, y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru am yr ail safle. Go brin fod gan Nia Griffith le i boeni.

Llafur yn cadw

mercoledì, novembre 20, 2019

Darogan Etholiad 2019 - Yr wyth sedd gyntaf


CANOL CAERDYDD
Mwyafrif: 17,196 (42.6%)

Efallai ei bod yn teimlo’n fyw yn y cof, ond mae’r dyddiau pan edrychai Canol Caerdydd fel y petai’n troi’n barhaol felyn wedi hen fynd. Erbyn hyn mae’n ddegawd bron ers i’r Democratiaid Rhyddfrydol ennill yma mewn etholiad Prydeinig neu Gymreig, ac roedd mwyafrif Llafur yn San Steffan tro diwethaf yn wirioneddol enfawr, ac roedd hynny dros y Ceidwadwyr.

Gyda Phlaid Brexit yn sefyll yma, mae’n bur debyg y bydd y Ceidwadwyr yn colli o leiaf cyfran o’u pleidleiswyr y tro diwethaf yma. Efallai bod Llafur yn gwneud yn wael yn y polau cenedlaethol ond mae’r Democratiaid Rhyddfrydol i weld yn cael eu gwasgu hefyd, felly prin y bydd bygythiad o’u tu nhw.

Mwyafrif sylweddol arall i Lafur


GOGLEDD CAERDYDD
Mwyafrif: 4,174 (8.0%)

Yn fy marn i, mae Gogledd Caerdydd yn un o’r seddi anoddaf yng Nghymru i’w darogan. Mae hon yn sedd bleidleisiodd i aros, ac mae Anna McMorrin yn arhoswraig frwd; ac eto mae Llafur gryn ffordd y tu ôl i’r Ceidwadwyr yn y polau. Hefyd, er bod Plaid Brexit yn cael ei gwasgu gan y Ceidwadwyr yn y polau Prydeinig, mae’n bosib fod o leiaf ran o hyn yn deillio o’r ffaith nad ydi hi ond yn sefyll yn hanner seddi’r Deyrnas Unedig. Yn y seddi lle y mae’n sefyll, mae hi’n debygol o amharu ar gyfleoedd Ceidwadol.

Dwi am fentro dweud bod hon yn sedd lle bydd y bleidlais wrth-Dorïaidd yn cronni ddigon i’w hatal rhag ennill.

Llafur yn cadw


MALDWYN
Mwyafrif: 9,285 (26.6%)

Mae Maldwyn yn sedd sydd erbyn hyn ar bapur yn ddiogel Geidwadol, gyda’r Dems Rhydd yn nychu yma ers degawd erbyn hyn,  a dydi’r ffaith fod yr aelod lleol poblogaidd Glyn Davies yn ymddeol y tro hwn ddim imi’n ddigon o reswm i gredu y bydd hynny’n newid. Yn yr un modd, mae’n anodd iawn gen i gredu'n y bydd y ddwy fil a hanner bleidleisiodd naill ai dros Blaid Cymru neu’r Gwyrddion y tro diwethaf yn awtomatig fenthyg pleidlais i’r Dems Rhydd.

Pleidleisiodd Maldwyn i adael yr UE a dydi’r BP ddim yn sefyll yma.

Mwyafrif cadarn i’r Ceidwadwyr


DWYFOR MEIRIONNYDD
Mwyafrif: 4,850 (16.0%)

Roedd yna bryderon ar bwynt yn ystod yr ymgyrch etholiadol ddiwethaf ddwy flynedd yn ôl y gallai hon fod yn agos rhwng Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr, ond roedd hi’n fuddugoliaeth hawdd i Liz Savile-Roberts, arweinydd y Blaid yn San Steffan, yn y pen draw hithau’n llwyddo i gael y nifer fwyaf erioed o bleidleisiau yn y sedd gymharol newydd hon.

Gallai BP dynnu pleidleisiau oddi ar bawb yma, dwi’n meddwl, ond mae’n debyg y bydd hynny’n effeithio mwy ar y Ceidwadwyr nag ar Blaid Cymru, nid fod hynny i ddweud y gallai ambell un fenthyg pleidlais wrth-Dorïaidd i Liz Savile.

Plaid Cymru’n ennill yn hawdd


GORLLEWIN CAERFYRDDIN A DE SIR BENFRO
Mwyafrif: 3,110 (7.3%)

Fel arfer, ar ôl degawd o lywodraeth gan un blaid, byddai GCDSB yn un o’r seddi hynny y byddech chi’n tybio y byddai’n newid dwylo. Ond yn yr etholiad penodol hwn mae hynny’n edrych yn annhebygol iawn. Hyd yn oed petai’r polau’n agosach, nid dyma’r math o sedd fyddai’n rhy gyfeillgar at y blaid Lafur ar ei ffurf bresennol. Mae’n dweud cyfrolau am gyflwr y blaid honno fod sedd sydd ar bapur yn un darged ganddi bron yn sicr y tu hwnt i’w gafael yn 2019.

Mwyafrif Ceidwadol uwch


WRECSAM
Mwyafrif: 1,832 (5.2%)

Mae hon yn sedd y mae’r Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol ill dwy wedi gobeithio’i chipio dros y blynyddoedd diwethaf, a hefyd lle mae’r mwyafrif Llafur wedi bod yn cael ei naddu ers amser maith iawn. Ond dal ymlaen mae Llafur wedi’n ddi-dor mewn etholiadau cyffredinol ers 1935.

Gallai pethau fod yn ddifyr yma eleni. Yn reddfol mi fyddwn i’n ei rhoi i’r Ceidwadwyr, heblaw am y ffaith fod hon yn sedd lle mae’r BP yn sefyll. Gyda Wrecsam yn sedd adael, bydd plaid Farage bron yn sicr yn dwyn pleidleisiau oddi ar Lafur (a dydi ymadawiad Ian Lucas yn sicr ddim o gymorth), ond y farn sydd ohoni ydi y bydd BP yn effeithio ar y Ceidwadwyr yn fwy na Llafur. O daflu i’r cymysgedd y polau fel yr ydw i’n ysgrifennu hyn, mae Wrecsam yn sedd arall eto fyth a ddylai fod yn agos iawn.

Dwi’n meddwl o ystyried popeth mae hon yn sedd na chaiff ei chipio eleni gan y Ceidwadwyr onid ydyn ni’n gweld eu mantais sylweddol yn y polau’n cynyddu eto fyth; neu o leiaf yn cael data cadarn ar bleidlais y BP yn y seddi mae'n sefyll ynddynt yn hytrach na pholau cyffredinol.

Llafur yn cadw


RHONDDA
Mwyafrif: 13,746 (41.8%)

Ar lefel San Steffan, mae’r Rhondda wastad wedi bod yn lle y mae gan Blaid Cymru gryn obeithion, ond bod y gobeithion hynny’n ddi-ffael wedi bod yn ofer – roedd yna ryw deimlad y gallai fod mewn cyrraedd yn 2017 ond chwalwyd hynny’n llwyr wrth i Chris Bryant gael ei ddychwelyd â mwyafrif sylweddol fwy.

Mae’r Rhondda’n un o gyfres o seddi yng nghymoedd de Cymru lle mae Plaid Brexit yn gobeithio gwneud yn dda, ond does yna fawr o dystiolaeth yn dweud wrthym pa mor dda y gwnawn nhw; y bet diogelaf fyddai “go lew”, a’r cwestiwn yn y Rhondda fel sawl sedd gyfagos ydi nid a fydd hi’n cipio’r sedd neu’n gwyro’r canlyniad (mae'r ddau beth yn annhebyg iawn), ond p’un ai a ddaw hi’n ail. Mi fuaswn i’n disgwyl i Blaid Cymru dal i ddod yn ail yma, ac y bydd pethau’n agosach nag yn 2017. Mae’n debyg i Lafur gyrraedd rhywfaint o benllanw yn 2017, a go brin y caiff Bryant ddwy ran o dair o’r bleidlais eto'n sefyll i blaid ag arweinydd mor wirioneddol amhoblogaidd.

Mwyafrif llai i Lafur


GORLLEWIN CLWYD
Mwyafrif: 3,437 (8.5%)

Ers cyfnod go lew, mae Gorllewin Clwyd wedi bod yn sedd ddibynadwy Geidwadol. Roedd hi’n frwydr ddeuffordd y tro diwethaf ac nid oedd y mwyafrif Ceidwadol yn anesgoradwy, ond gyda’r AS presennol David Jones yn penderfynu sefyll eto a’r gagendor cenedlaethol rhwng y ddwy blaid fawr yn, wel, fawr, mae’n annhebygol gen i y gwelwn ni unrhyw beth ond am fwyafrif Ceidwadol cryf iawn yn y sedd adael hon. Ac, a dweud y gwir, oni fydd Llafur yn symud yn ôl at y canol, mae hon yn sedd fydd yn Geidwadol am amser maith.

Buddugoliaeth Geidwadol glir iawn