mercoledì, novembre 20, 2019

Darogan Etholiad 2019 - Yr wyth sedd gyntaf


CANOL CAERDYDD
Mwyafrif: 17,196 (42.6%)

Efallai ei bod yn teimlo’n fyw yn y cof, ond mae’r dyddiau pan edrychai Canol Caerdydd fel y petai’n troi’n barhaol felyn wedi hen fynd. Erbyn hyn mae’n ddegawd bron ers i’r Democratiaid Rhyddfrydol ennill yma mewn etholiad Prydeinig neu Gymreig, ac roedd mwyafrif Llafur yn San Steffan tro diwethaf yn wirioneddol enfawr, ac roedd hynny dros y Ceidwadwyr.

Gyda Phlaid Brexit yn sefyll yma, mae’n bur debyg y bydd y Ceidwadwyr yn colli o leiaf cyfran o’u pleidleiswyr y tro diwethaf yma. Efallai bod Llafur yn gwneud yn wael yn y polau cenedlaethol ond mae’r Democratiaid Rhyddfrydol i weld yn cael eu gwasgu hefyd, felly prin y bydd bygythiad o’u tu nhw.

Mwyafrif sylweddol arall i Lafur


GOGLEDD CAERDYDD
Mwyafrif: 4,174 (8.0%)

Yn fy marn i, mae Gogledd Caerdydd yn un o’r seddi anoddaf yng Nghymru i’w darogan. Mae hon yn sedd bleidleisiodd i aros, ac mae Anna McMorrin yn arhoswraig frwd; ac eto mae Llafur gryn ffordd y tu ôl i’r Ceidwadwyr yn y polau. Hefyd, er bod Plaid Brexit yn cael ei gwasgu gan y Ceidwadwyr yn y polau Prydeinig, mae’n bosib fod o leiaf ran o hyn yn deillio o’r ffaith nad ydi hi ond yn sefyll yn hanner seddi’r Deyrnas Unedig. Yn y seddi lle y mae’n sefyll, mae hi’n debygol o amharu ar gyfleoedd Ceidwadol.

Dwi am fentro dweud bod hon yn sedd lle bydd y bleidlais wrth-Dorïaidd yn cronni ddigon i’w hatal rhag ennill.

Llafur yn cadw


MALDWYN
Mwyafrif: 9,285 (26.6%)

Mae Maldwyn yn sedd sydd erbyn hyn ar bapur yn ddiogel Geidwadol, gyda’r Dems Rhydd yn nychu yma ers degawd erbyn hyn,  a dydi’r ffaith fod yr aelod lleol poblogaidd Glyn Davies yn ymddeol y tro hwn ddim imi’n ddigon o reswm i gredu y bydd hynny’n newid. Yn yr un modd, mae’n anodd iawn gen i gredu'n y bydd y ddwy fil a hanner bleidleisiodd naill ai dros Blaid Cymru neu’r Gwyrddion y tro diwethaf yn awtomatig fenthyg pleidlais i’r Dems Rhydd.

Pleidleisiodd Maldwyn i adael yr UE a dydi’r BP ddim yn sefyll yma.

Mwyafrif cadarn i’r Ceidwadwyr


DWYFOR MEIRIONNYDD
Mwyafrif: 4,850 (16.0%)

Roedd yna bryderon ar bwynt yn ystod yr ymgyrch etholiadol ddiwethaf ddwy flynedd yn ôl y gallai hon fod yn agos rhwng Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr, ond roedd hi’n fuddugoliaeth hawdd i Liz Savile-Roberts, arweinydd y Blaid yn San Steffan, yn y pen draw hithau’n llwyddo i gael y nifer fwyaf erioed o bleidleisiau yn y sedd gymharol newydd hon.

Gallai BP dynnu pleidleisiau oddi ar bawb yma, dwi’n meddwl, ond mae’n debyg y bydd hynny’n effeithio mwy ar y Ceidwadwyr nag ar Blaid Cymru, nid fod hynny i ddweud y gallai ambell un fenthyg pleidlais wrth-Dorïaidd i Liz Savile.

Plaid Cymru’n ennill yn hawdd


GORLLEWIN CAERFYRDDIN A DE SIR BENFRO
Mwyafrif: 3,110 (7.3%)

Fel arfer, ar ôl degawd o lywodraeth gan un blaid, byddai GCDSB yn un o’r seddi hynny y byddech chi’n tybio y byddai’n newid dwylo. Ond yn yr etholiad penodol hwn mae hynny’n edrych yn annhebygol iawn. Hyd yn oed petai’r polau’n agosach, nid dyma’r math o sedd fyddai’n rhy gyfeillgar at y blaid Lafur ar ei ffurf bresennol. Mae’n dweud cyfrolau am gyflwr y blaid honno fod sedd sydd ar bapur yn un darged ganddi bron yn sicr y tu hwnt i’w gafael yn 2019.

Mwyafrif Ceidwadol uwch


WRECSAM
Mwyafrif: 1,832 (5.2%)

Mae hon yn sedd y mae’r Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol ill dwy wedi gobeithio’i chipio dros y blynyddoedd diwethaf, a hefyd lle mae’r mwyafrif Llafur wedi bod yn cael ei naddu ers amser maith iawn. Ond dal ymlaen mae Llafur wedi’n ddi-dor mewn etholiadau cyffredinol ers 1935.

Gallai pethau fod yn ddifyr yma eleni. Yn reddfol mi fyddwn i’n ei rhoi i’r Ceidwadwyr, heblaw am y ffaith fod hon yn sedd lle mae’r BP yn sefyll. Gyda Wrecsam yn sedd adael, bydd plaid Farage bron yn sicr yn dwyn pleidleisiau oddi ar Lafur (a dydi ymadawiad Ian Lucas yn sicr ddim o gymorth), ond y farn sydd ohoni ydi y bydd BP yn effeithio ar y Ceidwadwyr yn fwy na Llafur. O daflu i’r cymysgedd y polau fel yr ydw i’n ysgrifennu hyn, mae Wrecsam yn sedd arall eto fyth a ddylai fod yn agos iawn.

Dwi’n meddwl o ystyried popeth mae hon yn sedd na chaiff ei chipio eleni gan y Ceidwadwyr onid ydyn ni’n gweld eu mantais sylweddol yn y polau’n cynyddu eto fyth; neu o leiaf yn cael data cadarn ar bleidlais y BP yn y seddi mae'n sefyll ynddynt yn hytrach na pholau cyffredinol.

Llafur yn cadw


RHONDDA
Mwyafrif: 13,746 (41.8%)

Ar lefel San Steffan, mae’r Rhondda wastad wedi bod yn lle y mae gan Blaid Cymru gryn obeithion, ond bod y gobeithion hynny’n ddi-ffael wedi bod yn ofer – roedd yna ryw deimlad y gallai fod mewn cyrraedd yn 2017 ond chwalwyd hynny’n llwyr wrth i Chris Bryant gael ei ddychwelyd â mwyafrif sylweddol fwy.

Mae’r Rhondda’n un o gyfres o seddi yng nghymoedd de Cymru lle mae Plaid Brexit yn gobeithio gwneud yn dda, ond does yna fawr o dystiolaeth yn dweud wrthym pa mor dda y gwnawn nhw; y bet diogelaf fyddai “go lew”, a’r cwestiwn yn y Rhondda fel sawl sedd gyfagos ydi nid a fydd hi’n cipio’r sedd neu’n gwyro’r canlyniad (mae'r ddau beth yn annhebyg iawn), ond p’un ai a ddaw hi’n ail. Mi fuaswn i’n disgwyl i Blaid Cymru dal i ddod yn ail yma, ac y bydd pethau’n agosach nag yn 2017. Mae’n debyg i Lafur gyrraedd rhywfaint o benllanw yn 2017, a go brin y caiff Bryant ddwy ran o dair o’r bleidlais eto'n sefyll i blaid ag arweinydd mor wirioneddol amhoblogaidd.

Mwyafrif llai i Lafur


GORLLEWIN CLWYD
Mwyafrif: 3,437 (8.5%)

Ers cyfnod go lew, mae Gorllewin Clwyd wedi bod yn sedd ddibynadwy Geidwadol. Roedd hi’n frwydr ddeuffordd y tro diwethaf ac nid oedd y mwyafrif Ceidwadol yn anesgoradwy, ond gyda’r AS presennol David Jones yn penderfynu sefyll eto a’r gagendor cenedlaethol rhwng y ddwy blaid fawr yn, wel, fawr, mae’n annhebygol gen i y gwelwn ni unrhyw beth ond am fwyafrif Ceidwadol cryf iawn yn y sedd adael hon. Ac, a dweud y gwir, oni fydd Llafur yn symud yn ôl at y canol, mae hon yn sedd fydd yn Geidwadol am amser maith.

Buddugoliaeth Geidwadol glir iawn


Nessun commento: