mercoledì, novembre 20, 2019

Dechrau'r Darogan


Mae’r traddodiad (lled-ddiweddar ei hun) o ddarogan seddi Cymru yn ystod etholiad wedi eithaf diflannu’n ddiweddar, ond mi fues i wastad yn un a fwynhaodd wneud, a dwi ddim yn meddwl ei fod yn ymarfer cwbl ddibwynt chwaith. Felly wedi imi addo ar Twitter wneud, dyma fi wrthi’n ei wneud ac yn edifar yn llwyr y fath addewid dwp.

Dwi ddim am fynd i fanylder eithriadol, fel ag y gwnes bron degawd yn ôl yn 2010 ond yn hytrach am ddarogan fesul dipyn. Gan fod amser yn brin y tro hwn, dwi am ddarogan ar hap wyth sedd ymhob blogiad, felly bydd yna gyfanswm o bum set darogan ac yna mae’n siŵr Darogan Terfynol fymryn cyn yr etholiad.

Wna i ddim i fanylder yma am sut ydw i’n gweld yr etholiad yn mynd yn gyffredinol – fydd lle i wneud hynny yn nes ymlaen – ac ni fydd fy marn na’m dymuniadau yn rhan o’r darogan.

Ond dyma nodi felly y seddi gaiff eu darogan (diolch i ryw wefan neud pethau mewn trefn random de)

 

Blogiad 1

Canol Caerdydd, Gogledd Caerdydd, Maldwyn, Dwyfor Meirionnydd, Gorllewin Caerfyrddin a De Sir benfro, Wrecsam, Rhondda, Gorllewin Clwyd

 

Blogiad 2

Delyn, Preseli Penfro, Merthyr Tudful, Bro Morgannwg, Castell-nedd, Caerffili, Gorllewin Abertawe, Llanelli

 

Blogiad 3

Arfon, Ceredigion, Gorllewin Caerdydd, Pontypridd, Blaenau Gwent, Aberafan, Dwyrain Casnewydd, Torfaen

 

 Blogiad 4

Aberconwy, Alun a Glannau Dyfrdwy, Dwyrain Abertawe, Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Mynwy, De Clwyd, Ogwr, Brycheiniog a Maesyfed

 

Blogiad 5

De Caerdydd a Phenarth, Pen-y-bont ar Ogwr, Cwm Cynon, Gorllewin Casnewydd, Gŵyr, Dyffryn Clwyd,  Ynys Môn, Islwyn

 

Nessun commento: