Y mae rhai pobl yn
ysgrifennu fel math o gatharsis. Dydw i ddim yn meddwl imi erioed â gwneud
hynny, heblaw pan fydda i’n flin, fel arfer ar Blaid Cymru neu’n ddiweddarach,
efallai i chi sylwi, ar Awstria-ffycffês-Hwngari.
Ac, am ba reswm bynnag, dwi’n rhywun sy’n cadw ei feddyliau a’i wendidau mor
gudd ag y gall rhag pawb eithr ei ddetholedigion. Mae’n gas gen i bobl yn ‘siarad
yn agored’ am bob blydi dim; mae angen i bobl ddallt bod hynny weithiau’n
wrthgynhyrchiol – heb sôn am droëdig. Swni’n dadlau bod dyfalbarhad yn well na
hunan-dosturi a chwyno wrth bawb am ba mor galed ydi popeth i chi.
Ac eto, mae’n
anodd gen i esbonio pam arall y byddwn i yma’n ysgrifennu hyn. Dydw i ddim yn siŵr
fy hun.
Digwyddasai gwraidd
y peth rai misoedd yn ôl pan ges i adwaith alergol difrifol un noson. Mae gen i
alergedd i bysgod cregyn – mae’n ddatblygiad go newydd dros y ddwy flynedd
ddiwethaf, os hynny, ac yn achosi cryn loes imi oherwydd fy mod i wir yn caru
pysgod cregyn. Roeddwn i wedi f’argyhoeddi fy hun y noson honno mai yn fy mhen
oedd y cyfan ac fy mod i yn fy meddwod y noson gynt wedi bwyta corgimwch ac fy
mod i’n iawn.
Ugain munud ar ôl
trio cimwch fy chwaer (mae hwnna’n swnio’n rong) roeddwn i ar gadair masáj yng
Nghanolfan Red Dragon, yn methu â symud na siarad ac yn crynu’n drybeilig. Ddaeth
neb i fy helpu, o bosib yn meddwl fy mod i’n crynu achos fy mod i ar gadair
masáj, a lwcus bod y chwaer yno a bod ganddi brofiad o ddelio â sefyllfaoedd tebyg.
Doeddwn i methu symud fy mreichiau a oedd y gwbl stiff wrth f’ochr – yn eironig
ddigon yn siâp cimwch. Hyd yn oed o ran anaphylactic
shock, roedd hwn yn un go ysblennydd. Ond goroesais hen brofiad cwbl
annifyr nad ydw i eisiau ei gael byth eto, er bod Alan Llwyd bellach yn gwybod
fy ngwendid ac mae’n siŵr ei fod rŵan yn benderfynol o ddial (tasai o’n fyw).
Nid ers y noson
honno y bûm yr un fath cweit. Mi sbardunodd ynof rywbeth. Mi ddatblygais yn ei
sgîl rywbeth dwi’n amharod i’w alw’n anhwylder, ond yn sicr mae’n chwinc, a
hynny o bryder. Dros y misoedd diwethaf dwi wedi cael pyliau lu ohono, yn para
weithiau ryw 20 munud i ddyddiau o anesmwythder llai ond cyson.
Nid rhywbeth yn y meddwl
ydi o’n gyfan gwbl, yn wahanol i’r gred, er pan mae o’n cael ei effaith
ddieflig mae’n chwarae efo hwnnw hefyd, yn bennaf yn f’argyhoeddi fod fy
nghorff i am fynd yn gwbl stiff ac, yn rhyfeddaf oll, fod fy safn am gloi. Bydd
rhywun yn teimlo’n llewyg, isio denig, yn cael trafferth ynganu ac yn anadlu’n wael;
bydda i hefyd yn teimlo fy mraich chwith yn mynd yn ddideimlad a rhannau o’m
corff, fy ngwddw, fy safn a’m cefn gan mwya yn sbazio (fedra i’m meddwl am air
callach i’w ddisgrifio). Weithiau fydda i jyst yn crynu’n wirion fel deilen
betrus olaf coeden, heb deimlo’n erchyll o wael ac yn gallu ymdopi.
Yn gryno, dwi’n
cau lawr yn systematig am gyfnod.
Dros y misoedd
diwethaf dwi wedi gorfod gadael bwytai ynghanol pryd (boed am awyr iach, distawrwydd neu
jyst gadael yn llwyr) yn llwyr feddwl fy mod i wedi bwyta rhywbeth sydd am fy
lladd, gadael y dafarn neu eistedd yno efo fy hwd drosof, gofyn am lecyn distaw
mewn parti tŷ, wedi gadael y gwaith mewn blydi ambiwlans yn meddwl bod rhywbeth
mawr yn bod, cael cyfnodau byr i ffwrdd o'r gwaith, a’r gwaethaf o bosibl cael pyliau adref ben fy hun sydd wedi
arwain at yr ysbyty un neu ddau o weithiau hefyd (er ddim bob tro’n ddi-sail). Weithiau
maen nhw’n digwydd pan dwi’n hungover, yn aml pan dwi’n flinedig, weithiau pan
dwi’n ddigon sionc ac yn mwynhau bywyd.
Yn wir, roedd yna
adeg ddiwedd y llynedd lle’r o’n i wedi laru’n ofnadwy ar yr holl beth, ac yn
cerdded bobman yn ofalus ac amwni’n amheus, fel rhyw gath sy’n cael ei
hambygio. Ac er imi gael diagnosis o bethau gwahanol – hyperventilation ac, yn ddigon rhyfedd, bod yna grydcymalau yn fy
ngwddf i (dwi’n ffycin thyrti) leddfodd
yr un ddim ar y pyliau o bryder a phanig. Mae pyliau o bryder a phyliau o banig
yn eithaf tebyg i’w gilydd yn y bôn, ond yn wahanol i’m natur dwi’m yn
gwahaniaethu rhyngddynt ac wedi cael y ddau. Profiad bywyd de?
Ta waeth. Y mae
pryder yn beth annifyr tu hwnt, ac efallai’n gwbl amhosibl i gael rhywun nad sy’n
dioddef ohono i’w ddallt, ond yn aml nid yw’n fwy na chyfnod mewn bywyd, ac er
fy mod i’n cael pwl gwirion bob hyn a hyn – yr un gwaethaf diweddaraf yn Yr Hen
Lyfrgell lle bu’n rhaid i’m cydweithiwr fwy na heb fy nghario i allan – dwi’n well
nag yr oeddwn i rai misoedd yn ôl, lle o’n i’n meddwl ar adegau bod y byd ar
ben ac yn mynd ddyddiau’n gwbl anesmwyth ac yn argyhoeddedig mai fel ’na fyddwn
i am byth bythoedd. A ddim yn siŵr at bwy i droi ychwaith.
Hwnna oedd y peth
anoddaf – nid ddim gwybod at bwy i droi ond y newid dros nos deimlais i. O fynd
o fod yn hogyn (Hogyn o Rachub de
latsh?) hynod o fodlon, yn wir eithriadol o hapus efo bywyd a’i bethau ar y
cyfan a jyst yn mwynhau’n gyffredinol, i fod yn rhywun yr oedd mynd i’r pyb neu
am fwyd, am gyfnod o ddeufis eniwe, fel petai o’r peth anoddaf, mwyaf argoelus
yn y byd. Am wn i dwi’n ffodus fy mod i’n styfnig ar y diawl, achos ar y cyfan
mi orfodais fy hun i fynd a dal gwneud pethau a dwi’n meddwl, rywsut, fod hynny
wedi fy helpu i ddod dros y gwaethaf. Dwi’n eithaf ffodus hefyd fod gen i
synnwyr digrifwch (swreal) – mae adrodd wrth fy hun ac eraill fy mod i’n mynd yn mental neu’n boncyrs wedi ysgafnhau’r cyfan yn fawr; mae’n rhoi rhyw fath o
gydnabyddiaeth i’r cont peth heb roi iddo sylw gormodol, gan ei gadw ar yr
ymylon.
Wn i ddim a ydw i
cweit fy hun eto, neu a ydw i’n ymddangos i eraill yn cweit fy hun. Ond dwi ond
drwch blewyn o fod erbyn hyn.
Flynyddoedd yn ôl,
dywedodd fy ffrind Lowri Llew wrtha i tasa gen i enw Cymraeg mae’n siŵr na ‘Pryderi’
fyddai o. Ar ôl y misoedd diwethaf dwi’n eithaf hapus nad dyna fy enw, achos mi wn i
y byddai pawb yn galw Pryderi Pryderus arnaf, ac erbyn hyn byddwn i’n gaeth i’r
tŷ. Fel lwmp o gachu mewn toiled.
martedì, marzo 29, 2016
mercoledì, marzo 23, 2016
Mynd am dro
Mynd am dro. Fydda
i’n hoff o fynd am dro pan fydda i adref. Ddim yng Nghaerdydd – os y’ch magwyd chi
ar lethrau Moel Faban does gan unrhyw ddinas rywbeth call i’w gynnig wrth fynd
am dro. Waeth pa mor ddistaw y llecyn gwyddoch nad ydi o ond yn ynys fach dawel
ynghanol môr o brysurdeb. Gwell gen i’r llecynnau prysur yn ildio’u lle i’r
tawelwch mawr.
Fedra i ddim esbonio ag unrhyw eiriau digonol y newid ynof pan fydda i’n llusgo ‘nhraed ar hyd lannau’r afonydd neu ar y llwybrau defaid, boed yn gwrando ar chwyrlïo cyson y dŵr neu weryru pell y merlod gwylltion gwydn ar y gorwel. Theimla i ddim rhyfeddod – dydi hynny ddim yn fy natur. Fi ydi’r unig berson y gwn amdano nad yw’n teimlo rhyfeddod; fydda i’n meddwl weithiau sut deimlad ydi o. Fedra i syllu ar y sêr am oriau – yn wir, nid oes yn y ddinas unrhyw beth sy’n fy nhristau mwy na’r diffyg sêr na all unrhyw olau stryd ei lenwi – a gwenu gyda nhw, ond mae rhyfeddod y tu hwnt imi. Efallai fi sy’n ddyn hurt. Dyna’r ateb symlaf, callaf.
Ond yng nghwmni’r eithin dwi’n ddyn gwahanol. Wn i ddim p’un ai ydi’r caerau bychain pigog hynny’n fy ngwaredu rhag fy nghythreuliaid a’m gofidion, neu a ydi sglein yr haul dros y môr mawr yn fy llonni mwy nag yr ydw i erioed wedi ei ddeall. Y mae mudandod y llwybrau tan y coed ac ar lethrau’r foel rywsut y tawelu pob llais ac yn tawelu fy meddwl; nid oes ynddynt edifarhau am unrhyw beth a wnaed nac arswydo am yr hyn a ddaw. Nid oes ynddynt ond yr hyn sydd ac mae'n llon ac yn hyfryd. Y mae’n fudandod cyfeillgar, anwesog ac yn un y bydda i’n ysu amdano, ac yn ei angen, i wella fy hun rhagof fy hun. I ymdoddi’n ddim gyda’r llechi sbâr a’r waliau cerrig i gefndir bywyd, lle mae plethwaith y dyffryn rywsut yn cynnig ateb heb iddo ymholiad.
Dwi am fynd am dro.

mercoledì, marzo 16, 2016
Yn ôl at Fenis
Mi soniais dros y Nadolig,
os gwelsoch chi’r blogiad, am y pum
ymerodraeth fwyaf shit erioed. Mae gen i serch hynny ymerodraethau dwi’n eu
hoffi’n fawr. Dwi’n eithaf ffan o Bysantiwm ac Ymerodraeth Awstria (goeliwch
chi fyth – gen i broblem fawr efo Hwngari mae’n rhaid), a dwi'n cael blas ar Assyria, ond mae fy sylw
diweddar wedi’i hoelio ar rywle go wahanol ac anamlwg.
Fenis ydi’r wladwriaeth honno. Mae fy edmygedd i at y Fenis a fu yn fawr. Ni fu o bosibl unrhyw genedl â feistrolai’r grefft o wladweinyddiaeth yn well, nac mewn ffordd fwy doeth a chyfrwys na Fenis, ac mi oroesodd am hirach na chynifer o’i gelynion a’i chystadleuwyr am dros fil o flynyddoedd gan hynny. Drwy hynny troesant forlyn anwadal ac anghroesawgar yn un o wledydd pwysicaf, godidociaf, cyfoethocaf a mwyaf sefydlog Ewrop. Chymerodd hi neb llai na Napoleon – efallai’r cadfridog disgleiriaf yn y Gorllewin ers yr henfyd - i’w trechu yn y pen draw.
Hyd heddiw, mae Fenis yn ddinas y mae’n rhaid i rywun fynd iddi. Mae ‘na rywbeth am y lle sy’n ennyn rhyw ramant a rhyfeddod fel bron unman arall. Fues i yno ddwy flynedd yn ôl fy hun ac mae'r lle'n swynol. Ond dan yr wyneb mae ‘na bethau eraill yn digwydd yno.
Ddwy flynedd yn ôl, mi flogiais am Fenis. Roedd hynny cyn refferendwm yr Alban, a daroganais bryd hynny mai Fenis o bosibl fydd gwladwriaeth annibynnol nesaf Ewrop, neu efallai’n fwy cywir, y genedl nesaf i ddeffro o’i thrwmgwsg. Gyda’r grymoedd o blaid annibyniaeth yn yr Alban wedi’u trechu dros dro, a fawr ddim symud yng Nghatalonia na Gwlad y Basg mewn difrif, heb sôn am Fflandrys, mae’n rhyfeddol imi nad ydi Fenis yn cael yr un sylw.
Y mae’r dudalen Wikipedia ar refferendwm annibyniaeth Fenis yn un ddifyr i’w darllen, er y soniais am hynny yn y blogiad yn 2014. Ers hynny, mae’n ymddangos nad ydi’r awydd dros annibyniaeth yno wedi dirywio fawr ddim, os o gwbl. Y mae polau ers hynny wedi dangos yn gyson bod mwyafrif pobl Fenis yn ffafrio annibyniaeth – yn y pôl diweddaraf y gwn i amdano ym mis Mawrth 2015, roedd y ffigur yn 57%. Fedra i ddim meddwl am unrhyw le yn Ewrop benbaladr lle mae'r awydd dros dorri'r rhydd o'r wladwriaeth ganolog yn gryfach.
Ond mae’r sefyllfa yn un ddigon rhyfedd. Mae o bosibl fwy o bleidiau o blaid annibyniaeth yn Fenis nag yn unrhyw ‘ranbarth’ tebyg yn Ewrop gyfan – mae o leiaf bump. Yn wir, yn y Cyngor Rhanbarthol (eu cynulliad nhw) mae pleidiau cenedlaetholgar, i raddau gwahanol i’w gilydd, yn dal 32 o’r 51 sedd, gydag arlywyddion o naws genedlaetholgar yn dal arlywyddiaeth y rhanbarth yn nhri o’r pedwar etholiad diweddaraf, gyda Luca Zaia, yr arlywydd cyfredol, yn datgan ei gefnogaeth i annibyniaeth ar sawl achlysur. Mae hynny’n sefyllfa gryfach na chenedlaetholwyr Catalwnia neu Wlad y Basg.
Mae yno hyd yn oed hanes o bobl yn defnyddio dulliau terfysgol i ddod ag annibyniaeth gam yn nes – carcharwyd y rhai diweddaraf a gyhuddwyd o hyn yn 2014.

Dydi Llywodraeth
yr Eidal ddim yn ddall i’r hyn sy’n digwydd yno, ac wedi datgan bod cynnal
refferendwm swyddogol ar annibyniaeth yn mynd yn groes i gyfansoddiad yr Eidal.
Ond eto, all rhywun ddim gweld llywodraeth flêr yr Eidal wir yn mynd i’r afael
â’r peth yn yr un modd â Sbaen neu hyd yn oed y Deyrnas Unedig petai’r ymgyrch, neu ymdeimlad efallai sy'n air mwy priodol, dros annibyniaeth yn cryfhau
ymhellach. Dydi’r syniad o genedl Eidalaidd byth wedi ymsefydlu’n gryf iawn ar y pentir esgidiog; hawdd byddai ei datgymalu.
Problem Fenis, hyd
y gwelaf i, ydi un o’r nodweddion hynny sy’n diffinio holl drigolion yr Eidal, er na fu hi erioed yn nodwedd gan Fenis yn hanesyddol –
er eu bod nhw’n coelio mewn rhywbeth, maen nhw’n eithaf diymdrech wrth geisio cyflawni
unrhyw beth. A does erioed wedi bod un ymgyrch benodol, unedig dros annibyniaeth, am ba reswm bynnag. Yn wahanol i genedlaetholdeb yn yr Alban neu Gatalwnia, sydd wedi
ffrwydro dros y blynyddoedd diwethaf, ffrwtian y mae cenedlaetholdeb Fenetaidd ers iddi golli ei hannibyniaeth ddwy ganrif yn ôl. Ond bosib bod hynny’n rhoi
iddi seiliau mwy gwydn yn yr hirdymor. Mater o amser ydi hi, mae’n siŵr, nes i’r
grymoedd uno a bod cenedlaetholdeb yn Fenis yn cael sylw dyledus.
Ddywedais i ddwy
flynedd yn ôl mai Fenis fydd gwladwriaeth annibynnol nesaf Ewrop. Ddyweda i
fawr fwy na hynny oherwydd dwi ddim isio ailadrodd. Ond os ydi’r Fenetiaid yn
cael eu shit at ei gilydd – yn adalw
rywsut ronyn o gyfrwyster a chrebwyll anhygoel eu cyndeidiau – Fenis fydd o
hyd gwladwriaeth nesaf Ewrop, ac mae hynny’n ddiamheuaeth.
Iscriviti a:
Post (Atom)