lunedì, dicembre 31, 2012

Spar-iwch ni gyd!

Ac eithrio'r Hen Rech, mae pawb wedi beirniadu sioe Robyn Lewis yn Spar Pwllheli wythnos diwethaf, er mai'r peth callaf imi ddarllen ydi cyfraniad Blogmenai sy'n dweud yn ddigon call fod y ddwy ochr wedi bod braidd yn styfnig. Tueddu i gytuno efo hynny ydw i - hyd y gwela i creu helbul dros fawr o ddim wnaeth o, mewn ffordd sydd o gryn embaras i nifer ohonom sy'n gefnogol o'r Gymraeg, a dw i'n dweud hynny fel tipyn o ffasgydd iaith fy hun, er yn un ciwt ar y diawl. Doedd o ddim yn 'safiad' dros yr iaith, waeth beth ydoedd.

Ar y llaw arall mi ellir dadlau i raddau mai'r cwsmer sydd bob amser yn gywir, a waeth pa mor bitw oedd y cyn Archdderwydd, debyg y gallasai'r hogan fod wedi ymateb yn Gymraeg pe dymunai, neu geisio gwneud. Dwn i'm wir. Ond dydi cywiro Cymraeg pobl ddim yn helpu o gwbl. Bydd rhai ohonoch chi'n cofio Siop Pendref, Bangor - dydw i ddim yn cofio enw'r ddynas oedd yn berchen ar y lle, ond dw i'n nabod nifer fawr iawn o bobl, fi yn eu plith, oedd yn gwrthod mynd yno wedi ambell i ymweliad gan eu bod nhw wedi laru ar y perchennog yn cywiro'u Cymraeg nhw. Ro'n i'n hapus ddigon gweld diwedd ar y siop honno ac agor Palas Print ym Mangor yn ei lle.

Ta waeth, ar ôl dweud hynny i gyd dw i am fod yn rhagrithiol - achos wedi trafod y mater uchod y rheswm nesi lunio'r blog hwn oedd er mwyn gofyn; ydan ni wir yn genedl mor ddiflas bod yn rhaid inni ddiddannu ein hunain efo straeon fel hyn? Dani wedi bod yn uffernol yn 2012.

Nid dyma'r tro cyntaf inni wneud môr a mynydd o rywbeth digon di-ddim eleni. Roedd y ffys a wnaed am hanes y Ffermwyr Ifanc y tu hwnt i bob rhesymeg ac yn enghraifft berffaith o allu tragwyddol y Cymry Cymraeg nid yn unig i ymgecru ymysg ei gilydd, ond ymgecru am bethau sydd, o ystyried problemau llu ein gwlad, yn ddibwys. Ni welwyd erioed cymaint o sylwadau ar Golwg360 nag ar y mater hwnnw. Yn bersonol, welish i'r ddwy ochr i'r ddadl y tro hwnnw, ond mae unrhyw un sy'n meddwl yr haeddodd y stori y fath sylw off eu pen. Yn llwyr. Wirioneddol yn llwyr. Ac mae'n gwneud i ni fel Cymry Cymraeg edrych yn bitw.

Dywedodd Dewi Sant 'gwnewch y pethau bychain', nid 'ewch dros ben llestri am y pethau bychain'. Ddylen ni Gymry Cymraeg stopio bod mor bitw yn 2013, stopio rhoi sylw i straeon dibwys, ac efallai canolbwyntio ar drafod pethau sy'n werth eu trafod.

martedì, dicembre 18, 2012

Sgiliau yn y Gymraeg

Un set o ffigurau sydd heb gael llawer o sylw, ond a gafodd gryn sylw ddegawd yn ôl, ydi'r canrannau sy'n honni o leiaf un sgil yn y Gymraeg. Y ffigwr y tro hwn oedd 26.2%, sydd yn llai o ryw ddau y cant na'r tro diwethaf. Isod dwi wedi llunio tabl a map gyda'r nifer sy'n honni bod ganddynt ryw fath o sgiliau yn y Gymraeg a'r newid rhwng 2011 a 2001.


Sir
Sgiliau yn y Gymraeg yn 2011
Newid o 2001
Gwynedd
72.9
-3.2
Ynys Môn
68.6
-1.8
Sir Gâr
58.2
-5.4
Ceredigion
57.1
-5.1
Conwy
38.7
-1.0
Sir Ddinbych
34.7
-1.3
Powys
27.5
-2.6
Sir Benfro
26.9
-2.5
Castell Nedd PT
24.2
-4.6
Wrecsam
20.6
-2.3
Sir y Fflint
20.0
-1.4
RCT
19.2
-1.9
Abertawe
18.9
-3.6
Pen-y-bont
16.9
-3.0
Bro Morgannwg
15.9
+2.6
Caerdydd
15.7
-0.6
Caerffili
15.7
-1.0
Merthyr Tudful
14.7
-3.0
Sir Fynwy
13.7
+0.8
Torfaen
13.1
-1.4
Casnewydd
12.7
-0.7
Blaenau Gwent
11.2
-5.7



 
Un o ddamcaniaethau ffigurau uchel y cyfrifiad diwethaf oedd pobl yn honni bod ganddyn nhw, neu eu plant, fwy o allu yn y Gymraeg nag oedd ganddyn nhw mewn gwirionedd, ac efallai bod yr uchod yn ffordd dda o ddehongli hynny - yn wir, i raddau efallai ei fod yn well na'r ystadegau pennawd.
 
Mae'r cwymp a welwyd yng Ngheredigion a Sir Gaerfyrddin yn debyg i'r cwymp a welwyd yn nifer y bobl a ddywedodd y medrant Gymraeg - mae hyn hefyd yn wir am Wynedd a Môn - sydd mewn ffordd yn gadarnhad anghysurus o ddirywiad yr iaith yn ei chadarnleoedd. Adlewyrchir hynny yn Abertawe a CNPT hefyd, sy'n ddangosydd trist arall o sefyllfa'r iaith yn y de-orllewin. Annhebygol fod goradrodd yn 2001 yn yr ardaloedd hyn. Mae rhai yn awgrymu tanadrodd a bod y Gymraeg mewn cyflwr gwell na'r hyn a awgrymir gan yr ystadegau swyddogol; yn bersonol, wn i ddim a ydi hynny'n wir i raddau a fyddai, neu a ddylai, ein cysuro.
 
Serch hynny, yn y Gogledd a'r Gorllewin yn benodol mae'n bosib fod y gwir nifer sy'n siarad Cymraeg yn rhywle rhwng y ffigurau pennawd a'r ffigurau o ran sgiliau yn yr iaith. Mae'r gwahaniaeth yn 14.3% yn Sir Gaerfyrddin ac yn 9.8% yng Ngheredigion. Dydw i ddim yn arddel gobaith ffug ond mae'r gwahaniaethau hynny'n enfawr. Efallai yng Ngheredigion mai mewnfudwyr sydd â chrap ar yr iaith ydi rhai o'r 9.8% ychwanegol, ac yn Sir Gaerfyrddin efallai bod llawer o'r 14.3% yn bobl sydd â diffyg hyder yn disgrifio'u hunain fel siaradwyr Cymraeg ond sydd serch hynny'n gwybod bod ganddynt sgiliau yn y Gymraeg - pobl a all i bob pwrpas siarad Cymraeg.
 
Wrth gwrs, damcaniaethu ydw i am yr uchod - ond dylen ni ystyred pam bod y ffasiwn wahaniaeth yn bodoli.
 
Hefyd, mae dirywiad yn y ganran a honnodd sgiliau yn y Gymraeg ledled y Cymoedd ac yn arbennig ym Mlaenau Gwent. Yn yr ardaloedd hyn, awgryma oradrodd mawr yn 2001, felly teg dweud bod cyfrifiad y llynedd yn rhoi darlun tecach, er tywyllach, o sefyllfa'r iaith. Serch hynny, mae gweld dirywiad yn rhywle fel Caerdydd, lle gwelwyd mewnfudo mawr o'r ardaloedd Cymraeg, yn rhywsut dawelu'r ddamcaniaeth fod y Gymraeg ar wir gynnydd yno hefyd, ac nad ydi mudo oddi mewn i Gymru, yn benodol i Gaerdydd, o fudd enfawr i gryfder y Gymraeg ar lefel Cymru gyfan,.


martedì, dicembre 11, 2012

Amser ffonio'r ambiwlans?


Efallai y gwyddoch fy mod i’n hoff iawn o ystadegau. Heddiw, dydw i’m yn eu licio nhw lot.

Os ydych chi’n darllen hwn, mae’n bur debyg eich bod, fel fi, yn teimlo’n weddol ddigalon. Gwelwyd gostyngiad yn nifer y Cymry Cymraeg. Os mae’n unrhyw gysur, doedd yr ystadegau ddim yn chwalfa lwyr ar lefel Cymru gyfan, ond i raddau helaeth dyna’r unig gysur sydd, briwsionyn go iawn.

 

Pryderai nifer ohonom yn 2001 am ddirywiad y Fro Gymraeg, ond gan lwyddo cysuro ein hunain am y twf yn Ne Cymru. Y tro hwn, ni chafwyd twf o’r fath i orbwyso colledion y gorllewin; yn wir, ategu’r dirywiad a wnaeth ystadegau’r de. Ar wahân i ambell i eithriad prin iawn, dirywiad a gafwyd yng Nghymru benbaladr. Yr unig le a gafwyd wir dwf oedd yng Nghaerdydd, ond roedd y cynnydd o 4,000 o siaradwyr eithr diferyn mewn sir sydd â thros 320,000 o drigolion. Profwyd un peth – dydi cynnydd yn ne’r wlad methu â gwneud yn iawn am ddirywiad cymunedau Cymraeg. Does ‘na ddim lot ohonyn nhw i’w cael mwyach.

 

Mae ‘na wydnwch i’r Gymraeg ym Morgannwg, fentrwn i ddim â phechu a dweud fel arall, ond mae’r gwydnwch hwnnw ers degawdau wedi’i ategu gan Gymry Cymraeg y gogledd a’r gorllewin, a byddai’n annheg peidio â chydnabod hynny. Nid oes mwyach y cadernid yn yr ardaloedd hynny i ategu twf y de-ddwyrain ac ar yr un pryd cynnal y cymunedau Cymraeg, fodd bynnag.

 

Ond ai ni sydd wedi’n twyllo’n hunain i feddwl y byddai’r canlyniadau fel arall?

 

Roedd y twf a welwyd yn 2001 yn y de o ganlyniad i addysg Gymraeg a pharodrwydd, neu awydd, rhieni i nodi bod eu plant yn siarad Cymraeg. Dw i’n meddwl mai’r hyn a welwn y tro hwn ydi darlun mwy realistig o sefyllfa’r Gymraeg yn ne Cymru na’r hyn a welwyd ddegawd yn ôl. Y mae’r rhai sy’n dysgu Cymraeg yn yr ysgol, dim ond i’w colli iddi ar ôl gadael, yn bryder difrifol. Mae o hyd her fawr yn wynebu’r iaith yn ne Cymru ac ni allwn gymryd yn ganiataol dwf yn yr ardaloedd hyn – yn amlwg, wnaethon ni gamgymeriad mawr drwy wneud hynny dros y ddegawd ddiwethaf.

 

Ond os mai her sy’n ei hwynebu yn y de, mae pethau’n dduach o lawer yn yr ardaloedd Cymraeg. Roedd canlyniad Sir Gaerfyrddin yn drychinebus. Bosib mai ardal Llanelli oedd yn gyfrifol am lawer o’r dirywiad hwnnw ond mae’n anodd gweld unrhyw ran o’r sir yn dal ei thir pan gawn yr ystadegau ward. Yng Ngheredigion gwelwyd hefyd ddirywiad – er efallai yno ei bod yn rhyddhad mai dim ond 5% oedd y gostyngiad. Mae’n siŵr mai digalon fydd y ffigurau ward i’r ardaloedd cyfagos, fel Gogledd Sir Benfro, hefyd.

 

Ro’n i’n meddwl y buasai’n waeth ym Môn – lawr i 57% - ond ni ddaliodd gadernid Gwynedd. Roedd Gwynedd yn siomedig tu hwnt mewn difri; a hithau’n gadarnle’r Gymraeg dydi 65% ddim yn ystadegyn cadarn iawn. Diddorol ydi nodi mai dim ond 66% o bobl y sir a aned yng Nghymru, ac er na ellir gwneud cymhariaeth uniongyrchol, prin fod amheuaeth bod yn y Pedair Sir Gymraeg (neu’r ddwy sir erbyn heddiw) y mewnlifiad o Saeson yn newid holl gymeriad y cymunedau hyn. A all Plaid Cymru barhau i anwybyddu hyn, os am achub ei chroen ei hun os dim arall?

 

Bydd y canlyniadau ward yn ddiddorol yn y ddwy sir, ac yng Nghonwy wledig hefyd. Fydd ‘na fawr ohonom yn gwenu am y rheiny.

 

Hoffwn i orffen ar nodyn cadarnhaol, ond yn anffodus roedd heddiw’n ddiwrnod digysur – dydi’r ystadegau ddim yn anobeithiol, ond rhaid inni fod yn onest – does ‘na ddim byd da amdanyn nhw chwaith. O gwbl. Y peth tristaf ydi na fydd y Llywodraeth yng Nghymru yn gwneud dim amdani – mae’r ffigurau hyn yn newyddion gwych i’r blaid Lafur. Efallai y gwnaethom ni gryn gamgymeriad yn trosglwyddo grym o San Steffan i Lafur Cymru yn y lle cyntaf...

 

Dydi’r Gymraeg ddim ar ei gwely angau heddiw ond mae’n bryd ffonio’r ambiwlans. Yn y de, mae angen sicrhau bod plant ysgolion Cymraeg yn dal ati efo’r iaith ar ôl gadael ysgol, ymddengys mai dyna’r prif broblem yno. Yn y gorllewin, does ‘na fawr o amheuaeth mai’r mewnlifiad ydi’r prif broblem, a bod angen ymgyrchu yn erbyn y mewnlifiad hwnnw – ymgyrch chwerw iawn, dybiwn i, ond un gwbl angenrheidiol. Mae gan yr iaith fwy o hawl i fyw nag sydd gan Saeson i gael tŷ neis.

 

A rhaid rhoi i’r naill ochr ein hobsesiwn gyda statws yr iaith, ac i raddau llai, addysg Gymraeg. Dywedais ar y blog hwn o’r blaen – nid achubodd statws yr un gymuned Gymraeg, nac addysg adfer yr un. Rhaid i’r pwyslais newid, ac efallai ein dulliau hefyd. Fydd gan Seimon Glyn berffaith hawl heddiw i ysgwyd ei ben a dweud enw’r boi Japanîs sy’n gwybod bob dim.

 

Ond o ddifrif, diwrnod du – diwrnod a allai fod wedi bod yn waeth, ond diwrnod du serch hynny sy’n arf go sylweddol i’r lleisiau cynyddol sydd eisiau gweld diwedd i’r iaith.