giovedì, gennaio 29, 2015

Pwt ar y Blaid a'r Gwyrddion

Ro’n i wedi bwriadu blogio ar y gynghrair wirioneddol od y mae Plaid Cymru wedi penderfynu ei ffurfio â’r blaid Werdd ers cryn tro. Y broblem ydi, ddoe cefais fy nghuro i hynny nid unwaith, eithr dwywaith.

Postiodd Ifan Morgan Jones erthygl ar Golwg360, a gwnaeth Syniadau flogiad ro’n i’n ei feddwl oedd yn hynod, hynod o ddiddorol. Ac allwch chi ddim trafod y Gwyrddion yng nghyd-destun Cymru heb gyfeirio at flogiadau arbennig Jac o’ the North amdanynt (Plaid Cymru and the Green Party of Englandandwales / More on the Green Party of Englandandwales). Dydw i heb gyfeirio at flog Jac o’ the North o’r blaen yma, sy’n biti achos er ei fod o’n flog diawledig o bigog ma’n adrodd gwirioneddau di-ri am wleidyddiaeth yng Nghymru, ac am y mudiad cenedlaethol gystal â neb arall.

Un peth sydd wedi dod i’r amlwg – o leiaf ar y we, sydd ddim o reidrwydd yn ffynhonnell gwbl ddibynadwy wrth gwrs – ydi fod yna feirniadaeth gynyddol o dacteg Plaid Cymru yn hyn o beth. Y peth sydd wedi cael ei amlygu fwyaf ydi nad oes neb i’w weld yn gwybod pa fudd yn union a gaiff Plaid Cymru o’r fath gytundeb.

Does gen i fawr o amheuaeth nad ydi Plaid Cymru yn gwybod beth mae hi’n ei wneud chwaith. Mae hi fel petai’n ffwndro.

Does neb yn amau y gallai Plaid Cymru wneud rhyw fath o ddêl gyffredinol â’r Gwyrddion ar ôl yr etholiad, ond mae galwadau’r Blaid, a wnaed yr wythnos hon gan Dafydd Wigley, i Gymry yn Lloegr bleidleisio dros y Gwyrddion yn dangos pa mor unochrog ydi’r berthynas ‘ma. Roedd Ifan Morgan Jones yn hollol iawn i ddweud yn ei erthygl Golwg360 does neb yn y blaid Werdd yn dangos mymryn o gefnogaeth i Blaid Cymru.

‘Rhy neis’ ydi Plaid Cymru yn ei ôl o. Gen i ddamcaniaeth wahanol; os ydach chi’n gallu cael eich chwarae gan y Gwyrddion mewn ffordd mor uffernol o amlwg heb sylweddoli ar y peth, mi ydach chi’n hollol ffycin dwp. Dwi wedi dweud ambell waith y blog hwn pa mor wirioneddol dwp dwi’n meddwl ydi arweinyddiaeth bresennol Plaid Cymru – alla i ond ag ailadrodd hynny. Er gwaetha’i gamgymeriad ddoe wrth grybwyll Auschwitz (er iddo wneud sylwadau teg sy ddim yn haeddu unrhyw feirniadaeth o gwbl) dydi Dafydd Wigley ddim yn dwp, a synnwn i pe na bai dan ryw fath o gyfarwyddyd gan uwch ynfytod y Blaid i roi sylw i’r Gwyrddion.

Gan fod eraill wedi mynd i fanylder, (byddwn i wir yn awgrymu i chi gael cip ar y dolenni uchod os oes gennych amser) gadewch i mi jyst gwneud ambell bwynt: 

1)     Y rheswm nad ydi’r Gwyrddion yn rhoi sylw o’r fath i Blaid Cymru achos nad oes ganddynt reswm i wneud hynny. Tasa ganddyn nhw obaith o ennill sedd yng Nghymru fysa nhw’m yn mynd yn agos at Blaid Cymru.

2)     Bydd y Gwyrddion yn sefyll yng Nghymru. Mae dweud wrth bobl bleidleisio dros y Gwyrddion yn Lloegr ond nid yng Nghymru felly’n dwp. Os wyt ti isio bwrw pleidlais dros y Gwyrddion, ac yn byw yng Nghymru, gwna hynny – ‘sdim angen i chdi rhoi fôt i’r Blaid o gwbl. Fel y noda Syniadau yn y blogiad y cyfeiriais ato uchod, mewn llawer o lefydd yng Nghymru fysa ti’n well yn rhoi dy bleidlais i’r Gwyrddion na’r Blaid (os wyt mewn dau feddwl). Drwy annog pleidlais dros y Gwyrddion yn Lloegr, mae’r Blaid yn llwyddo tanseilio, er efallai’n anuniongyrchol, ei chefnogaeth yng Nghymru. Twp.

3)     Dydi pleidleiswyr Plaid Cymru ddim o reidrwydd yn mynd i feddwl bod unrhyw gytundeb efo’r Gwyrddion yn grêt eniwe; dydi bod yn genedlaetholwr, neu hyd yn oed yn rhywun sy’n digwydd pleidleisio dros Blaid Cymru am ba reswm bynnag, ddim yn dy wneud sy’n rhywun sy’n frwd dros amgylcheddiaeth. Cawsom awgrym o hyn ym mholau Ashcroft – byddai’n well gan ganran nid ansylweddol o Bleidwyr lywodraeth Geidwadol i un Llafur. Efallai bod arweinwyr y Blaid yn gweld cynghrair syniadaethol rhyngddyn nhw a’r Blaid Werdd. Dydi hynny ddim o reidrwydd yn treiddio i’w chefnogwyr.

4)     Dydi Plaid Cymru ddim angen y Gwyrddion – mae Ceredigion, rhywle sy’n cael ei grybwyll yn aml wrth drafod hyn, yn enghraifft dda o hyn. Do, enillwyd y sedd ym 1992 ar ‘docyn’ Plaid-Gwyrdd. Chwalodd y gynghrair honno cyn yr etholiad nesaf ac aeth Cynog Dafis ymlaen i ennill mwyafrif mawr ym 1997. Dydi hynny heb sôn am smonach isetholiad 1991 ym Mynwy, pan enillodd y ‘tocyn’ 0.6% o’r bleidlais, sy’n waeth nag y gallai hyd yn oed Plaid Cymru fod wedi disgwyl ei wneud hyd yn oed ym Mynwy mewn isetholiad. Y gwir ydi, mae cydweithio rhwng y ddwy blaid yn y gorffennol wedi bod yn bur aflwyddiannus.

5)     Mae gan y blaid Werdd yng Nghymru hen hanes o gynnwys aelodau gwrth-Gymraeg, sydd ar adegau yn gwneud i’r ffieiddiaf Lafurwyr edrych o blaid yr iaith; maen nhw’n gwneud i UKIP edrych yn Gymreigaidd (byddwn i’n fodlon gwneud bet hegar fod canran yr aelodau sy’n Gymry yng nghangen UKIP Cymru yn uwch o lawer nag ym mhlaid Werdd ‘Cymru’) ac, os ydi eu harweinyddes ryfedd i’w choelio, maen nhw’n llai brwd dros ddatganoli na’r Torïaid. Plaid o Saeson ffroenuchel ydi’r Gwyrddion yng Nghymru ac mae’n warth gwirioneddol fod y Blaid yn eu gweld fel eu ffrindiau. Gwarth.

Ta waeth, rhag i hyn fynd yn rant go iawn y mae yma un gwirionedd sy’n sefyll allan: does gan Blaid Cymru ddim i’w ennill o’r gynghrair/cytundeb/lyf bomio hyn. Wir-yr ddim byd yn y byd. Hyd yn oed ar ôl yr etholiad mae’n bur debyg fydd gan y Blaid o hyd fwy o aelodau na nhw, sy’n gwneud yr holl beth hyd yn oed yn fwy od.

I rywun sydd isio pleidleisio dros y Blaid – yn bennaf i atal Llafur – maen nhw’n ei gwneud yn blydi anodd drwy fod mor blydi stiwpid mor blydi gyson. 

martedì, gennaio 27, 2015

Proffwydo 2015: Llafur

O holl bleidiau Cymru, yr hawsaf a'r diflasaf i ddarogan ei chyfleoedd yn llwyddiannus ydi Llafur. Dwi am ddangos i chi fap yn syth o sut dwi’n gweld gobeithion Llafur yn 2015.



Fel y gwelwch, yn fy marn i, mae Llafur yn gwbl sicr o ennill 26 (65%) o seddi Cymru. O’r rhai dwi wedi eu nodi fel seddi ‘posibl’ i Lafur, dwi’n meddwl ei bod yn deg dweud bod Llanelli bron yn sicr o aros yn goch, ac mai Llafur sydd yn ffefrynnau ym Môn, a dybiwn i fod pethau’n rhy agos i’w galw ym Mro Morgannwg ac Aberconwy. Fel y dywedais wrth ddarogan gobeithion Plaid Cymru, dwi ddim yn meddwl bod Arfon yn ddiogel.

Dyma olwg sydyn ar berfformiad Llafur mewn etholiadau cyffredinol yng Nghymru ers 1997.

 
Etholiad
Pleidleisiau
Canran
Seddi Cymreig
1997
886 935
54.7
34
2001
666 956
48.6
34
2005
594 821
42.7
30
2010
531 601
36.2
26

 

Does dwywaith am y ffaith fod cefnogaeth y blaid Lafur yng Nghymru wedi chwalu ar y lefel hon dros y blynyddoedd. Collodd Llafur dros 350,000 o bleidleisiau rhwng 1997 a 2010, gyda’i chanran o’r bleidlais yn gostwng 18.5%. Er cymhariaeth, mae’r dirywiad hwnnw bedair gwaith yn waeth na Llafur yn yr Alban dros yr un cyfnod (46% ym 1997; 42% yn 2010).

Wrth gwrs, bydd pethau’n wahanol yn yr Alban eleni, ond mae un rheswm mawr am hynny. Cryfder anferthol Llafur yng Nghymru ydi bod ei gwrthwynebwyr yn gwbl ranedig, i’r fath raddau byddai’n rhaid i Lafur ddisgyn i tua 30-31% o’r bleidlais yng Nghymru cyn iddi wirioneddol ddechrau colli seddi ... ac a dweud y gwir, gallai fod angen iddi wneud yn waeth na hynny. Yn yr Alban, yr SNP ydi’r unig wrthwynebiad clir i Lafur. Mae’r sefyllfa yng Nghymru’n gwbl wahanol. Ers 1997, ni fu ond pedwar achlysur pan gafodd plaid ond am Lafur dros chwarter y bleidlais yng Nghymru – Plaid Cymru ddwywaith ym 1999, y Ceidwadwyr yn 2010, ac UKIP yn 2014.

Yn syml, mae Llafur yn teyrnasu yng Nghymru nid am ei bod yn sylfaenol gryf na gwydn, ond am fod ei gwrthwynebwyr yn bur lipa. Fesul plaid, dyma mewn difri yw pa mor hawdd yw’r her sy’n wynebu Llafur eleni o'u tu:

 

1)     Y Democratiaid Rhyddfrydol: petaen nhw heb glymbleidio bum mlynedd yn ôl debyg y byddai’r Dems Rhydd yn herio Llafur mewn ambell sedd eleni. Ond nid felly a fu. Bydd Llafur yn cipio Canol Caerdydd ganddyn nhw’n ddidrafferth ac yn ennill miloedd o bleidleiswyr a fenthyciodd bleidlais i’r Dems Rhydd nid yn unig yn 2010 ond dros y degawd diwethaf. Mae’r bygythiad byrhoedlog wedi diflannu’n llwyr.

2)     Ceidwadwyr: gallai Llafur gipio hyd at bedair sedd gan y Ceidwadwyr yn fy marn i, a dydyn nhw ddim yn bygwth Llafur yn unman. Y gwaethaf all ddigwydd i Lafur o ran her y Ceidwadwyr yw y bydd yn colli digon o bleidleisiau i UKIP i beidio ag ennill rhai seddi gan y Ceidwadwyr.

3)     Plaid Cymru: cipio Afon yn bosib, colli Môn yn bosib. Tu allan i’r ddwy sedd hynny ni fydd unrhyw fath o fygythiad o du’r Blaid i Lafur – ar ôl meddwl yn ddwfn am y peth, dwi’m yn meddwl y bydd cynnwys Leanne Wood yn y dadleuon teledu o reidrwydd yn newid hynny.

4)     UKIP: ennill pleidleisiau gan Lafur yn eu degau o filoedd ond ddim digon i ennill seddi. Y cyfan wnaiff UKIP ydi amharu ar Lafur, wnaiff hi mo’i bygwth. Ac mi fydd hi’n destun cysur i Lafur y bydd UKIP hefyd yn effeithio ar y Ceidwadwyr ac, i raddau llai, Plaid Cymru. Y cyfan mae UKIP yn ei wneud ydi gwneud y gwrthwynebiad i Lafur yn fwy rhanedig.

 
Petasai un gwrthwynebydd cryf i Lafur yng Nghymru, dybiwn i y cilia’r blaid hyd yn oed yn fwy dramatig na Llafur yr Alban. O ystyried y blaid ar ei phen ei hun, dydi Llafur yng Nghymru ddim mewn lle da; nid o ran aelodau, gwirfoddolwyr, trefniadaeth. Ac eto, yn bersonol, alla i ddim gweld o ba gyfeiriad y deuai’r fath her iddi mewn gwirionedd – yr unig blaid allai o bosib gynnal her ydi Plaid Cymru ac mae hi wedi ei phrofi’i hun yn gwbl analluog o wneud hynny dro ar ôl tro. Y gwir plaen ydi, mae lle o hyd i Lafur barhau i ddirywio a pharhau i dra-arglwyddiaethu yng ngwleidyddiaeth Cymru ar yr un pryd.
 
Daw hynny â ni at y polau. Dair blynedd yn ôl, ym mholau Cymreig 2012, ni chynhaliwyd ond 5 arolwg barn ond cafodd Llafur dros hanner y bleidlais ym mhedwar o’r rheiny. Ar gyfartaledd cafodd 50.4% o’r bleidlais – ni fu ond tair arolwg barn yn 2013 ond dangosai’r rheiny cgfnogaeth o 48% iddi ar gyfartaledd. Felly llai na dwy flynedd yn ôl, ymddengys nad oedd y gefnogaeth i Lafur yng Nghymru fawr lai nag ym 1997. Wedi hynny mae’r gefnogaeth iddi wedi bod yn gyson ac yn gyffyrddus dan 40%.
 
Hynny ydi, ymddengys fod Llafur ar drai yng Nghymru, ond dwi'n ailadrodd, does neb i fanteisio ar hynny. Hyd yn oed ar y raddfa hon, bydd hi'n rhai blynyddoedd nes i ddirywiad Llafur yng Nghymru arwain at newid y tirlun gwleidyddol.
 
Serch hynny, dybiwn i y gwelwn ni ailadrodd, i raddau o leiaf, yr hyn a ddigwyddodd yn 2010, pan adfywiodd cefnogaeth Llafur ar ddiwrnod yr etholiad ei hun. Hyd yn oed yn 2015, mae’r bwgi bo Ceidwadol yn ddigon i ddenu’r hen gefnogwyr allan i fwrw pleidlais eto fyth dros Lafur. Efallai'n llai nag o'r blaen, ond mae'n hen dacteg lwyddiannus sydd heb â methu byth.
 
Mae’n rhy fuan i feddwl pa effaith a gaiff y dadleuon teledu ar obeithion Llafur na’r un blaid arall. Ond mae un peth yn sicr – mi fydd Llafur eto’n ennill mwyafrif helaeth seddi Cymru. A thra bod ei gwrthwynebwyr yn parhau i fod mor boenus ddi-glem ynghyd â sut i’w disodli, parhau fydd y sefyllfa honno heb i Lafur orfod poeni dim. 

martedì, gennaio 06, 2015

Proffwydo 2015: Plaid Cymru

Y mae elfen o ben ac elfen o reddf wrth ddarogan. Y mae’r ddau yn dweud wrtha i y gallai hwn eto fod yn etholiad anodd i Blaid Cymru.

Mae’r Blaid wedi penderfynu ailafael yn strategaeth etholiad 2010, sef dweud gan fod senedd grog yn yr arfaeth y bydd ganddi o bosibl ran i’w chwarae wrth ddylanwadu ar liw’r llywodraeth nesaf. Rŵan, dydi hynny ddim yn anwir, er y gwir plaen ydi na weithiodd y dacteg o gwbl tro diwethaf – y mae’r Blaid yn draddodiadol yn gwneud yn dda pan mae pethau’n mynd o chwith i Lafur ond yn 2010 cafodd ei chanran isaf o’r bleidlais mewn etholiad cyffredinol ers 1997, ac enillodd hi fwy o seddi bryd hynny.

Rŵan, mae deinamig etholiad 2015 ychydig yn wahanol. Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol ar drai. Yn eu lle, mae UKIP yn gwneud yn dda iawn yn y polau Prydeinig, ac mae’n bosibl y caiff yr SNP ddegau o seddi. Lle mae hynny’n gadael y Blaid? Mae hwn yn gwestiwn dyrys iddi. I fod yn onest, dwi ddim yn siŵr beth ydi’r ateb.  

Rhaid bod yn realistig. Y mae chwe sedd y gallai Plaid Cymru, petai’n cael etholiad eithriadol o dda, eu hennill. Yn rhai o’r seddi hynny mae’r ymgeiswyr i’w gweld yn hynod o optimistaidd, ond dwi heb goelio’n ddi-gwestiwn optimistiaeth ymgeiswyr ers rhai blynyddoedd; maen nhw’n tueddu i fod yn anghywir.

Er hynny, roedd fy marn pan ddechreuais lunio’r blogiad hwn yn wahanol i’r hyn ydyw rŵan, hynny ydi, dwi'n fwy optimistaidd ar ei rhan hi. Mae ‘na bethau digon rhyfedd wedi digwydd ar y marchnadoedd betio ers hynny, ymddengys fod y Blaid yn gweld ei ods hi’n gwella mewn sawl sedd. Eto dydi hi ond yn ffefryn mewn tair, sef y tair sydd ganddi.  

Daw hyn â ni at y map.



Fedra i bron teimlo pleidwyr yn anghytuno â’r uchod. Ond dwi am roi ychydig sylwadau ar seddi unigol. Dwi ddim yn meddwl y byddai neb yn dadlau fod gan Blaid Cymru unrhyw obaith o gwbl y tu allan i’r chwe sedd y byddaf yn cynnig sylwadau arnynt.

Dwyfor Meirionnydd

Oce, wna i ddim rhoi sylwadau ar y sedd hon. Liz Saville fydd AS benywaidd cyntaf Plaid Cymru.

Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr

Doedd mwyafrif Jonathan Edwards ddim mor fawr ag yr oeddwn i wedi tybio y byddai yn ôl yn 2010 – a dweud y gwir roedd yn sylweddol lai. Ond dylai lwyddo i gadw’r sedd hon, ac yntau hefyd yn AS eithaf amlwg am 5 mlynedd erbyn hynny. 
 
Arfon

Dwi ddim yn meddwl bod rhai pobl yn gwerthfawrogi pa mor agos oedd Arfon y tro diwethaf. Mae’n ffaith mae ambell bleidiwr yn hoffi ei hanwybyddu. Mewn difri, dylai Plaid Cymru ei chadw, ond mae hynny’n bennaf am fod Llafur yn gwneud yn weddol wael ar lefel genedlaethol o’i gymharu â dwy flynedd yn ôl, heb sôn am y ffaith fod Llafur yn lleol yn siop siafins. Er hynny, dwi’n disgwyl, wrth nesáu at yr etholiad, y bydd cefnogaeth Llafur yn adfer o leiaf fymryn, ac felly byddwn i’n tybio nad ydi Arfon yn sedd sicr i’r Blaid. Mewn ffordd, Arfon ydi’r sedd bwysicaf i Blaid Cymru yn yr etholiad hwn. Byddai ei cholli yn ganlyniad cwbl drychinebus; ei chadw’n arwydd o wydnwch.
 
Yr hyn ddylai wneud y Blaid yn anesmwyth yma ydi pleidlais y Democratiaid Rhyddfrydol – roedd o’n 14.1% yn 2010. Mae’n annhebygol y bydd digon o’r rhain yn troi at Lafur y tro hwn i gipio’r sedd, ond os bydd gogwydd cyffredinol atynt yma, dydi o ddim yn amhosibl.

Ynys Môn

Ynys Môn ydi best bet Plaid Cymru o gipio sedd (fel arfer, am wn i!). Ond mae pethau’n ffafriol y tro hwn mewn sawl ystyr. Mae Plaid Cymru wedi cael dwy flynedd dda yma, gan wneud yn dda yn etholiadau’r cyngor sir, cyn i Rhun ap Iorwerth fynd ymlaen i sicrhau buddugoliaeth wirioneddol enfawr yma y llynedd yn yr isetholiad Cynulliad.  Y ddau dro hynny, gwnaeth Llafur – sy’n dal y sedd wrth gwrs – yn rhyfeddol o wael.

Dydi hynny ynddo’i hun ddim am sicrhau’r sedd i’r Blaid wrth gwrs. Fydd yna ddim mo’r llu wirfoddolwyr yn dod i helpu fel yn 2013. Ac mae Albert Owen yn AS poblogaidd, ac wedi llwyddo i gipio a chadw’r sedd, yn amlach na pheidio yn erbyn y disgwyl, ers dros ddegawd. 

Gobaith mawr Plaid Cymru yma, yn syml, ydi UKIP. Yn ôl pob sôn a phob si mae disgwyl i UKIP wneud yn dda yn ardal Caergybi ac Amlwch (ac mae tystiolaeth – anecdotaidd gen i yn anffodus – eu bod wedi yn 2013 a 2014), sef cadarnleoedd Llafur Ynys Môn. Os ydyn nhw’n gwneud cystal yn yr ardaloedd hyn ag y mae rhai’n disgwyl iddynt ei wneud, mae’n bosibl y bydd Llafur yn colli digon o bleidleisiau i golli’r sedd. Ond peidiwch â meddwl bod hynny’n ddigon – mae’n rhaid i Blaid Cymru hefyd amddiffyn ei phleidlais, er i raddau llai. Efallai ei bod yn anghysurus i rai Pleidwyr ei glywed, ond mewn sedd fel Môn mae ‘na o leiaf rai cannoedd dybiwn i o gefnogwyr arferol y Blaid fyddai o leiaf yn ystyried pleidleisio dros UKIP. Greddf sy’n dweud hynny i mi yn fwy na dim, gyda llaw, ond dwi’n gwybod bod ‘na Bleidwyr sy’n cytuno â fi yn hyn o beth.

Byddwn i dal yn tybio mai Llafur sy’n ffefrynnau yma. Ond dydi Môn ddim y tu hwnt i Blaid Cymru o bell ffordd.

Llanelli

Mae ymgyrch y Blaid yn Llanelli yn cael rhywfaint o sylw – ymddengys yn un fywiog a gweithgar. Ar yr un olwg dydi mwyafrif Llafur yma ddim yn enfawr, ac mae’r Blaid ar y cyfan yn cryfhau yn yr ardal ers degawd a mwy erbyn hyn. Ac wrth gwrs, dros y mis diwethaf mae Ladbrooks wedi lleihau’r ods ar fuddugoliaeth i Blaid Cymru yma o 16/1 i 5/1, sy’n symud mawr.

Fel ym Môn, mae rhai yn gobeithio y bydd UKIP yn hudo digon o Lafurwyr i’w corlan i adael y Blaid i mewn “drwy’r canol”, ac mae llawer o sôn fod UKIP yn denu cefnogaeth eithaf cadarn yma. Dwi’n tueddu i feddwl fod ‘na elfen fawr o or-optimistiaeth yn hyn o beth. Geisia i egluro pam yn gryno iawn.

Mae’r Blaid wedi denu Llafurwyr ati dros y blynyddoedd diwethaf yma, ond y gwir ydi dyma’r union bobl mae UKIP hefyd yn eu denu (yn enwedig yn y dref ei hun). Hynny ydi, yma hefyd, mae elfen nid ansylweddol (er nad enfawr) o gefnogaeth Plaid Cymru yn agored i fygythiad UKIP, a gallai hynny fod yn fwy na digon i sicrhau buddugoliaeth i Lafur. Fel sy’n digwydd yn rhai o seddi’r Ceidwadwyr, gall y blaid sy’n dal y sedd yma golli miloedd o bleidleisiau, a’r cyfan sydd ei angen arnynt ydi i’r blaid sy’n ail golli rhai cannoedd i UKIP.  Synnwn i ddim o gwbl mai dyma fydd yn digwydd yn Llanelli.

Dydw i ddim yn gwybod faint o effaith gaiff y newyddion diweddar y bydd Siân Caiach yn sefyll yma eleni ar bleidlais unrhyw un o’r pleidiau, ond dybiwn i y bydd hynny o effaith a gaiff yn anfanteisio’r Blaid yn fwy na Llafur. Mae’n ergyd fechan.

Efallai fy mod i bach yn hallt yn lliwio Llanelli’n llwyd yn y map – dydi hi’m cweit yn sedd ‘dim gobaith’ i’r Blaid – ond y gwir ydi anodd mewn difrif ydi gweld Llafur yn ei cholli eleni.

Ceredigion

Dwi wedi dweud, wrth drafod y Democratiaid Rhyddfrydol, mai nhw fydd yn ennill yma yn 2015, ac y bydda i’n edrych ar Geredigion yn fanylach mewn post ar wahân. Does dim eto wedi fy argyhoeddi mai fel arall fydd hi, er nad oes yna unrhyw amheuaeth y bydd pethau’n agosach o lawer na’r tro diwethaf, pan gafodd y Blaid gweir yma.

*              *              *

Y tu allan i’r seddi hynny, dwi ddim yn gallu go wir gweld Plaid Cymru yn gwneud fawr ddim – a dwi’n amau mai dyna’r farn fewnol gyffredinol yn y Blaid. Mi dybiwn i mai ei phrif nod ydi cadw’r ail safle mewn nifer o seddi - a allai fod yn anoddach na’r disgwyl, hyd yn oed mewn llefydd fel y Cymoedd. Byddwn i’n synnu dim petai UKIP yn goddiweddyd y Blaid fel yr ail blaid yn nifer o’r seddi, hyd yn oed mewn ambell un lle mai’r Blaid sydd fel rheol yn ail rheolaidd.
 
Ydi, mae polau Ashcroft yng Ngorllewin Caerfyrddin a  De Penfro, Brycheiniog a Maesyfed, Canol Caerdydd a Gogledd Caerdydd oll wedi awgrymu y gwelwn gynnydd ym mhleidlais y Blaid ynddynt yn 2015. Tra bod hynny’n rheswm i fod yn obeithiol, yn y seddi hyn amrywiodd ei phleidlais rhwng 2.5% a 10.4% yn 2010 felly efallai nad ydyn nhw mor arwyddocaol â hynny iddi mewn difrif. Ac ni ellir anwybyddu'r ffaith, ym mholau'r Welsh Barometer, aros yn ei hunfan y mae'r Blaid wedi gwneud.

I grynhoi; yng nghyd-destun etholiadau cyffredinol dydi Plaid Cymru mewn fawr gwell stad nag yr oedd hi gryn amser yn ôl. Er ein bod yn sicr am weld seddi’n syrthio’n llu i’r SNP yn yr Alban, ac UKIP yn ennill pleidleisiau yn eu miliynau, mae’n anodd gweld unrhyw ogwydd enfawr at Blaid Cymru yng Nghymru y tro hwn. Gallai cadw ei thir fod yn ddigonol.